Adroddiad Blynyddol Ymddiriedolwyr Elusen ar gyfer Neuadd Goffa Ysbyty Ifan
| 1.1 | Enw | Enw | Institute and War Memorial Neuadd Goffa Ysbyty Ifan (Enw Gwaith) |
Institute and War Memorial Neuadd Goffa Ysbyty Ifan (Enw Gwaith) |
Institute and War Memorial Neuadd Goffa Ysbyty Ifan (Enw Gwaith) |
|---|---|---|---|---|---|
| 1.2 | Rhif Cofrestru | 702845 | |||
| 1.3 | Cyfeiriad | Llafar y Lli, 7 Rhes Fawr, Ysbyty Ifan, Betws y Coed Conwy. LL24 0NP |
|||
| 1.4 | Enwau Ymddiriedolwyr | ||||
| 1 | Alun Ednyfed Davies | 10 | Greta Glyn Jones | ||
| 2 | Awel Jones | 11 | Hafwen Thomas | ||
| 3 | Beca Glyn Jones | 12 | Nerys Ellis | ||
| 4 | Bethan Trenchard | 13 | Rhodri Owen | ||
| 5 | Catrin Jones | 14 | Shân Ellis | ||
| 6 | Dafydd Jones | 15 | Sioned Williams | ||
| 7 | Eirian Evans | 16 | Ffion Ellis | ||
| 8 | Eleri Jones | 17 | Yvonne Davies | ||
| 9 | Eleri Roberts |
2.1 Strwythur Pwyllgor Neuadd Goffa Ysbyty Ifan
1 o 4
30.01.2026
F4
2.2 Manylion ynghylch sut mae’r elusen yn cael ei rheoli, gan gynnwys sut y mae’n recriwtio ymddiriedolwyr
Caiff yr elusen ei rheoli gan y swyddogion a enwebir ac a etholir yn ystod y Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol. Ar ôl hynny, caiff pob penderfyniad gweithredol ei drafod a’i gymeradwyo mewn cyfarfodydd misol o’r Pwyllgor.
Mae un a’r ddeg sefydliad neu glwb a enwir yn y Cyfansoddiad ac sy’n defnyddio’r Neuadd yn rheolaidd yn penodi cynrychiolydd i eistedd ar y Pwyllgor. Yn ogystal, mae unigolion o’r gymuned yn cael eu hethol yn y Cyfarfod Blynyddol i fod yn Aelodau o’r Pwyllgor. Os bydd llefydd gwag ar y Pwyllgor gall y Pwyllgor gyfethol hyd at ddau berson i weithredu fel ymddiriedolwyr yr elusen. Mae’r trefniant hwn yn sicrhau bod y Pwyllgor yn cynnwys trawstoriad cynrychioliadol o’r gymuned leol, ac mae hynny’n cyfrannu at reolaeth deg, agored ac effeithiol o’r elusen.
3. Gweithgareddau ac amcanion yn ystod y flwyddyn
3.1 Defnydd y Neuadd
-
a) Croesawyd ystod eang o grwpiau a sefydliadau lleol yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys clybiau ieuenctid, grwpiau ffitrwydd, dosbarthiadau addysgol, clwb henoed a gweithgareddau cymdeithasol.
-
b) Cynhaliwyd digwyddiadau cymunedol rheolaidd megis ffeiriau, brecwast, noson dramâu, te prynhawn, cyngherddau, sesiynau coffi a digwyddiadau codi arian.
3.3 Gwirfoddoli a Chyfranogiad
-
a) Cefnogir y Neuadd gan dîm gweithgar o wirfoddolwyr sy’n cynorthwyo gyda chynnal a chadw, glanhau, trefnu digwyddiadau a chodi arian.
-
b) Sicrheir cyfranogiad eang drwy gael cynrychiolwyr o un a’r ddeg clwb a sefydliad sy’n defnyddio’r Neuadd i eistedd ar y Pwyllgor.
3.4 Cynnal a Chadw a Gwelliannau
-
a) Cyflawnwyd gwaith cynnal a chadw hanfodol i sicrhau bod y Neuadd yn ddiogel ac yn addas i’w defnyddio.
-
b) Yn ogystal, bu paratoi a chynllunio ar gyfer prosiectau gwelliant mwy, megis gwaith ar y llawr, ffenestri, to, inswleiddio ac adnewyddu’r tu allan.
3.5 Codi Arian a cheisio am Grantiau
-
a) Trefnwyd digwyddiadau codi arian lleol i gefnogi costau rhedeg a chynnal y Neuadd.
-
b) Paratowyd a chyflwynwyd ceisiadau grant i gefnogi prosiectau cyfalaf a datblygiadol.
3.6 Effaith ar y Gymuned
-
a) Darperir lleoliad canolog sy’n galluogi pobl i gwrdd, dysgu, cadw’n heini, cymdeithasu, a lleihau unigrwydd.
-
b) Cryfheir cysylltiadau cymunedol drwy greu lle sy’n cael ei redeg gan y gymuned, er budd y gymuned.
3.7 Amcanion yr Elusen
- 3.8 Amcanion cyffredinol y Neuadd Goffa ydi:
2 o 4
30.01.2026
F4
-
a) Cefnogi a datblygu’r Neuadd Gymunedol fel canolfan weithgarwch i’r gymuned leol.
-
b) Darparu lle diogel, hygyrch ac o ansawdd i grwpiau cymdeithasol, addysgol a diwylliannol.
-
c) Hyrwyddo cydlyniad cymunedol drwy annog cyfranogiad eang gan bobl o bob oed a chefndir.
-
d) Sicrhau bod y Neuadd yn cael ei chynnal a’i gwella er budd presennol ac at y dyfodol.
-
3.9 Yr amcanion penodol ar gyfer y flwyddyn oedd:
-
a) Cwblhau gwelliannau i’r toiledau, toeau gwastad, y gegin a’r cyntedd trwy grant o Gronfa Allweddol Adfywio Cymunedol Conwy UKSPF a ariannwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y Deyrnas Unedig.
-
b) Ystyried ceisiadau grant i alluogi gwelliannau pellach
-
c) Cynnal ystod eang o weithgareddau, cyfarfodydd a digwyddiadau yn y Neuadd.
4. Cyflawniadau a perfformiad, gan gynnwys budd cyhoeddus
4.1 Cyflawniadau a perfformiad
Yn ystod y flwyddyn, mae’r elusen wedi parhau i gyflawni ei hamcanion drwy ddarparu lle diogel, hygyrch a chynhwysol i’r gymuned leol. Mae’r Neuadd wedi bod yn ganolbwynt gweithgarwch cymdeithasol, addysgol a diwylliannol, gan gynnal ystod eang o weithgareddau sy’n ategu anghenion ac uchelgeisiau trigolion yr ardal.
4.2 Defnydd a Gweithgarwch y Neuadd.
Cynhaliwyd nifer sylweddol o ddosbarthiadau, cyfarfodydd, gweithdai a digwyddiadau cymunedol drwy gydol y flwyddyn. Mae’r Neuadd wedi darparu cartref i glybiau a sefydliadau lleol, gan gynnwys grwpiau ieuenctid, clybiau ffitrwydd, grwpiau cymdeithasol ac ymarferion diwylliannol. Mae’r defnydd cyson hwn yn dangos bod y Neuadd yn parhau i fod yn adnodd gwerthfawr ac yn asgwrn cefn i fywyd cymunedol.
4.3 Cryfhau Cydlyniant Cymunedol
Trwy gynnal digwyddiadau agored a gweithgareddau hygyrch, mae’r elusen wedi helpu i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd, yn enwedig ymhlith pobl hŷn a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae’r Pwyllgor, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o un ar ddeg clwb a sefydliad sy’n defnyddio’r Neuadd, wedi sicrhau bod penderfyniadau’n adlewyrchu anghenion gwirioneddol y gymuned, ac mae’r trefniant hwn wedi cryfhau ymdeimlad o berchnogaeth leol ac wedi annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwirfoddoli a llywodraethu.
4.4 Codi Arian a Chynaliadwyedd
Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau codi arian llwyddiannus, gan gynnwys ffeiriau, nosweithiau cymdeithasol a gweithgareddau tymhorol, ac mae’r incwm a godwyd wedi cyfrannu’n uniongyrchol at gostau rhedeg y Neuadd a gwaith cynnal a chadw hanfodol. Paratowyd ceisiadau grant llwyddiannus i gefnogi prosiectau gwelliant, gan gynnwys gwaith ar y to, toiledau, cegin a mynedfa y Neuadd, sydd wedi gwella edrychiad gweledol ac effeithlonrwydd ynni y Neuadd.
3 o 4
30.01.2026
F4
4.5 Gwelliannau i’r Cyfleusterau Cyflawnwyd gwaith cynnal a chadw rheolaidd i sicrhau bod y Neuadd yn ddiogel ac yn addas i’w defnyddio gan bob grŵp, a bu’r Pwyllgor yn dechrau cynllunio ar gyfer prosiectau cyfalaf mwy, gyda’r nod o wella cynaliadwyedd tymor hir a lleihau costau ynni.
4.6 Budd Cyhoeddus
Mae’r elusen wedi dangos budd cyhoeddus clir drwy:
-
a) Ddarparu lle hygyrch i bobl o bob oed a chefndir.
-
b) Hyrwyddo iechyd, lles a chydlyniad cymunedol.
-
c) Cefnogi gweithgareddau sy’n gwella sgiliau, hyder a chyfleoedd cymdeithasol.
-
d) Sicrhau bod y Neuadd yn cael ei rhedeg er budd y gymuned gyfan, nid er elw.
Mae’r gwaith hwn yn dangos yn glir sut mae’r elusen wedi cyflawni ei hamcanion elusennol a gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywyd cymunedol yn ystod y flwyddyn.
5. Adolygiad ariannol gan gynnwys unrhyw ddyledion a manylion polisi wrth gefn
5.1 Trosolwg o Incwm a Gwariant
Yn ystod y flwyddyn, mae’r elusen wedi cynnal sefyllfa ariannol sefydlog drwy gyfuniad o incwm o logi’r Neuadd, digwyddiadau codi arian a grantiau. Mae’r incwm hwn wedi galluogi’r Pwyllgor i dalu costau rhedeg y Neuadd, cynnal a chadw hanfodol, ac i gynllunio ar gyfer prosiectau gwelliant yn y dyfodol.
5.2 Prif ffynonellau incwm:
-
a) Llogi’r Neuadd i glybiau, sefydliadau a digwyddiadau preifat
-
b) Digwyddiadau codi arian lleol
-
c) Rhoddion gan aelodau’r gymuned
-
d) Grantiau a cheisiadau cyllid penodol
5.3 Prif wariant:
-
a) Costau rhedeg megis gwres, trydan, dŵr ac yswiriant
-
b) Gwaith cynnal a chadw a thrwsio
-
c) Pryniant offer ar gyfer y gwelliannau, megis offer cegin
-
d) Gwariant grantiau i adnewyddu y to, toiledau, cegin a mynedfa.
5.4 Dyledion
Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, nid oedd gan yr elusen unrhyw ddyledion sylweddol nac ymrwymiadau ariannol hirdymor. Roedd unrhyw gostau rhedeg arferol (megis biliau cyfleustodau neu waith cynnal a chadw bach) wedi’u talu’n brydlon ac nid oedd unrhyw falansau heb eu setlo. Mae’r Pwyllgor yn parhau i fonitro sefyllfa ariannol y Neuadd yn ofalus i sicrhau nad yw’r elusen yn cymryd risgiau diangen.
6. Manylion am unrhyw gronfeydd sy’n cael eu dal fel ymddiriedolwr gwarchod
Amherthnasol.
30.01.2026
F4
4 o 4
nou Incnzn4nnrnnrnrnn ? J c pfi ph rh J fvj Jc>o rp rh PV• rn W pty vi LA O) fvj O 888888888888 88%88 pty m fvJ c ryJ sy m ¢0 W IJI co ts) fvJ c¢ J O LU
nDDn33Lnncnzo4no_ s111{Y{&iii!IftZl¥¥- rn (n fvJ w 888888888888= 00 88&88
n-1<4>xn- rnozn pn rv) O Q) (Yl C¢) ¢ o fvj b 8808