OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2025-03-31-accounts

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr 24/25

Cymdeithas y Cymod yng Nghymru

Crynodeb o’r Flwyddyn

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae ein helusen wedi parhau â’i hymrwymiad i hyrwyddo heddwch, cymod, empathi a chydweithrediad cymdeithasol.

Mae ein gwaith wedi cael effaith gadarnhaol ar gymunedau lledled Cymru ac wedi cyfrannu at gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch gwerth heddwch, datrys gwrthdaro, a chydweithredu rhyngwladol.

Amcanion a Gweithgareddau

Pwrpas craidd yr elusen yw datblygu ac annog diwylliant o heddwch drwy addysg, digwyddiadau a chefnogaeth i unigolion ac sefydliadau sy’n gweithio dros heddwch. Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd gweithdai, darlithoedd, a rhaglenni addysgol arlein ac mewn canolfannau cymunedol. Mae’r ymddiriedolwyr wedi sicrhau bod yr holl weithgareddau’n cydymffurfio â’r amcanion elusennol a’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Cyflawniadau Allweddol

  1. Hyrwyddo gweithgaredd prosiect - Heddwch ar Waith a gychwynodd yn 2023 gyda grant sylweddol gan y Joseph Rowntree Charitable Trust

  2. Cefnogi gwylnosau cymunedol

  3. Codi ymwybyddiaeth am faterion byd-eang

  4. Cydlynu gweithgareddau y Babell Heddwch yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

  5. Cofio Epynt

  6. Cydlynu a chyfrannu at Gynhadledd Canghennau Ewropeaidd Cymdeithas y Cymod yng Nghaerdydd.

  7. Manteisio ar gyfleoedd i fynegi safbwynt y Gymdeithas ar y teledu a’r radio.

  8. Cyhoeddi erthyglau perthnasol.

  9. Ymateb i adroddiad “Cymru fel Cenedl Heddwch” yr Academi Heddwch.

  10. Datblygu gwefan newydd.

  11. Cefnogi ymgyrch y Pabi Gwyn yng Nghymru

Adroddiad Ariannol

Mae’r elusen wedi rheoli ei chyllid yn ofalus, gan sicrhau bod gwariant yn cael ei gyfeirio’n uniongyrchol at weithgareddau craidd. Cafwyd incwm o roddion, grantiau, a gweithgarwch codi arian cymunedol, gyda’r holl wariant yn cael ei reoli gan y trysorydd a’i fonitro’n rheolaidd gan yr

ymddiriedolwyr. Mae’r elusen wedi cadw at ei pholisi ariannol ac nid oes unrhyw risg ariannol sylweddol wedi’i nodi.

Craffu allanol y cyfrifon

Caiff ein cyfrifon eu harchwilio a'u gwirio'n flynyddol gan Mr Dewi Morgan, CPFA. Mae Mr Morgan yn allanol i'n sefydliad ac ddim yn aelod.

Llywodraethu a Rheolaeth

Mae’r ymddiriedolwyr wedi cwrdd yn rheolaidd ar y cyd gyda Phwyllgor Gwaith y Gymdeithas i adolygu perfformiad yr elusen, monitro risgiau, a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae trefniadau cadarn ar waith ar gyfer llywodraethu.

Cafodd y cyfrifon ac adroddiadau blynyddol y swyddogion eu cyflwyno I aelodau y Gymdeithas yng

nghyfarfod y Cyngor, ein Cyfarfod Blynyddol arlein ar 19 Mehefin 2025.

Blaenoriaethau ar gyfer y Flwyddyn Nesaf

Diolch a Chydnabyddiaeth

Diolchwn yn ddiffuant i’n cefnogwyr, gwirfoddolwyr am eu cyfraniadau gwerthfawr. Heb eu hymroddiad, ni fyddai’r elusen yn gallu cyflawni ei hamcanion. Edrychwn ymlaen at flwyddyn lwyddiannus arall o hyrwyddo heddwch.

Ar ran yr ymddiriedolwyr, Llofnodwyd: Robat Idris Cadeirydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru Dyddiad: 28/01/2026