## **Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr 24/25** 

_Cymdeithas y Cymod yng Nghymru_ 

## Crynodeb o’r Flwyddyn 

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae ein helusen wedi parhau â’i hymrwymiad i hyrwyddo heddwch, cymod, empathi a chydweithrediad cymdeithasol. 

Mae ein gwaith wedi cael effaith gadarnhaol ar gymunedau lledled Cymru ac wedi cyfrannu at gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch gwerth heddwch, datrys gwrthdaro, a chydweithredu rhyngwladol. 

## Amcanion a Gweithgareddau 

Pwrpas craidd yr elusen yw datblygu ac annog diwylliant o heddwch drwy addysg, digwyddiadau  a chefnogaeth i unigolion ac sefydliadau sy’n gweithio dros heddwch. Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd gweithdai, darlithoedd, a rhaglenni addysgol arlein ac mewn canolfannau cymunedol. Mae’r ymddiriedolwyr wedi sicrhau bod yr holl weithgareddau’n cydymffurfio â’r amcanion elusennol a’r ddeddfwriaeth berthnasol. 

## Cyflawniadau Allweddol 

1. Hyrwyddo gweithgaredd prosiect - Heddwch ar Waith a gychwynodd yn 2023 gyda grant sylweddol gan y Joseph Rowntree Charitable Trust 

2.     Cefnogi gwylnosau cymunedol 

3.     Codi ymwybyddiaeth am faterion byd-eang 

4.     Cydlynu gweithgareddau y Babell Heddwch yn yr Eisteddfod Genedlaethol. 

6.     Cofio Epynt 

7.     Cydlynu a chyfrannu at Gynhadledd Canghennau Ewropeaidd Cymdeithas y Cymod yng Nghaerdydd. 

8.     Manteisio ar gyfleoedd i fynegi safbwynt y Gymdeithas ar y teledu a’r radio. 

9.     Cyhoeddi erthyglau perthnasol. 

10.   Ymateb i adroddiad “Cymru fel Cenedl Heddwch” yr Academi Heddwch. 

11.   Datblygu gwefan newydd. 

12.   Cefnogi ymgyrch y Pabi Gwyn yng Nghymru 

## Adroddiad Ariannol 

Mae’r elusen wedi rheoli ei chyllid yn ofalus, gan sicrhau bod gwariant yn cael ei gyfeirio’n uniongyrchol at weithgareddau craidd. Cafwyd incwm o roddion, grantiau, a gweithgarwch  codi arian cymunedol, gyda’r holl wariant yn cael ei reoli gan y trysorydd a’i fonitro’n rheolaidd gan yr 



ymddiriedolwyr. Mae’r elusen wedi cadw at ei pholisi ariannol ac nid oes unrhyw risg ariannol sylweddol wedi’i nodi. 

## Craffu allanol y cyfrifon 

Caiff ein cyfrifon eu harchwilio a'u gwirio'n flynyddol gan Mr Dewi Morgan, CPFA. Mae Mr Morgan yn allanol i'n sefydliad ac ddim yn aelod. 

## Llywodraethu a Rheolaeth 

Mae’r ymddiriedolwyr wedi cwrdd yn rheolaidd ar y cyd gyda Phwyllgor Gwaith y Gymdeithas i adolygu perfformiad yr elusen, monitro risgiau, a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae trefniadau cadarn ar waith ar gyfer llywodraethu. 

Cafodd y cyfrifon ac adroddiadau blynyddol y swyddogion eu cyflwyno I aelodau  y Gymdeithas yng 

nghyfarfod y Cyngor, ein Cyfarfod Blynyddol arlein ar 19 Mehefin 2025. 

## Blaenoriaethau ar gyfer y Flwyddyn Nesaf 

- Parhau gyda’r gwaith o godi ymwybyddiaeth o heddwch a chymod. 

- Codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o heddwch a chymod. 

- Adnabod a manteisio ar pob cyfle I hyrwyddo heddwch a chymod yn y wasg 

- Cynnal digwyddiadau byw ac ar-lein 

- Cefnogi mudiadau heddwch eraill 

- Parhau i gefnogi a chydweithio gyda phrosiect Heddwch ar Waith 

## Diolch a Chydnabyddiaeth 

Diolchwn yn ddiffuant i’n cefnogwyr, gwirfoddolwyr am eu cyfraniadau gwerthfawr. Heb eu hymroddiad, ni fyddai’r elusen yn gallu cyflawni ei hamcanion. Edrychwn ymlaen at flwyddyn lwyddiannus arall o hyrwyddo heddwch. 



Ar ran yr ymddiriedolwyr, Llofnodwyd: Robat Idris Cadeirydd Cymdeithas y Cymod yng Nghymru Dyddiad: 28/01/2026 

