Adroddiad Blynyddol Neuadd Bentref Caerwedros (Caerweros Village Hall) 2025
Rhif elusen: 523863
Neuadd Goffa Caerwedros Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr 2025
Nod yr elusen
Darparu cyfleusterau at y diben o ddarparu cyfleoedd addysgiadol a hamdden i drigolion Caerwedros a’r Cylch.
Sefydlu’r elusen
Sefydlwyd yr elusen drwy rodd o dir a gweithred ymddiriedaeth dyddiedig 18 May 1949 a chodwyd y Neuadd wreiddiol yn 1951. Llywodraethir yr elusen dan amodau’r ddogfen honno.
Ymddiriedolwyr
Ymddiriedolwyr yr elusen yn y flwyddyn 2025 oedd:
Wayne Lewis, Cadeirydd Aled Dafis, Is-gadeirydd Gareth Ioan, Ysgrifennydd Ruth Rees, Trysorydd
Gareth Evans Ian Evans Elliw Grug Davies Sian Ioan Mair Heulyn Rees Carwen Evans Morys Ioan Trystan Jones D Alun Evans
Mae’r Ymddiriedolwyr yn ystyried canllawiau budd cyhoeddus y Comisiwn wrth wneud unrhyw benderfyniad y mae’n berthnasol iddo.
Cyfeiriad yr elusen:
Croesheddig Newydd Pentre'r Bryn LLANDYSUL Ceredigion SA44 6NB
Ffôn: 01545 560255 E-bost: neuaddcaerwedros@gmail.com Gwefan: http://www.neuaddgoffacaerwedros.org
Gweithgareddau
Bu 2025 yn gyfnod prysur i Neuadd Caerwedros gyda nifer o weithgareddau a defnyddwyr yn cael mantais o’r cyfleusterau.
Defnyddwyr arferol
Paned a Chlonc (Llun yn fisol). Pilates (Llun) C.Ff.I. (Llun + achlysurol) Clwb Bowlio (Mawrth – gaeaf) CC Llandysiliogogo (Mawrth – haf) Clwb Crefft (bore Mercher + arddangosfa haf yn Awst) Grŵp Dawnsio (pnawn Mercher) Tai Chi (nos Fercher, bore Gwener + Suliau achlysurol) Gwers Gymraeg – wythnosol (Iau) Merched y Wawr (Iau yn fisol) CC Llanllwchaearn (Iau yn fisol) Gemau bowls (Iau – gaeaf) Sioe Caerwedros (3 Awst) Gwasanaeth Carolau Cymunedol (12 Rhagfyr)
efnyddwyr achlysurol
Partïon a digwyddiadau preifat (6) 4 Llan – cyfarfodydd cyhoeddus, pwyllgorau a gweithdai. Pwyllgor apêl lleol Eisteddfod y Garreg Las – cyfarfodydd + Bingo Bwtsh. Pwyllgor Sioe Caerwedros Plaid Cymru Gweithdai clocsio Gweithdai creu torchau Nadolig Gweithdy siwmperi Alaw – grŵp gwerin
Trefniadol
O ran trefniadaeth a gweinyddiaeth y Neuadd gallwn nodi’r pwyntiau canlynol:
-
Ymddiriedolwyr y ddaliadaeth – cofrestriad wedi ei gyflwyno i’r Gofrestrfa Tir.
-
Polisi yswiriant wedi ei adolygu, gan benderfynu peidio croesawu cestyll gwynt.
-
Nodwyd bod y Loteri Fawr yn bwriadu codi ei afael ar y Neuadd.
-
Polisi diogelu plant a phobl fregus wedi ei llunio.
-
Rydym yn parhau i aros i’r Grid Cenedlaethol i gyflenwi trydan i’r offer gwefru ceir trydan.
Yr Adeilad
Buddsoddwyd yn yr adeilad fel a ganlyn:
-
Sefydlwyd grŵp cynnal a chadw – sy’n gweithio’n effeithiol.
-
Mae’r drysau wedi derbyn gwasanaeth gan Veloscene.
-
Gwaith i ddiweddaru’r system drydanol wedi ei gwblhau – LEDs a goleuadau argyfwng + tystysgrif EICR dilys.
-
Tystysgrif EPC gradd A wedi ei dderbyn.
-
4 Llan wedi plannu blodau o amgylch y Neuadd.
-
I’r dyfodol – syniad i greu ‘llyfr porffor’ ar gyfer trefniadau’r adeilad.
Ariannol
Yn ogystal â’r cyfrifon ariannol gallwn gofnodi’r canlynol:
-
Diolch am gyfraniadau ariannol gan CC Llanllwchaearn a CC Llandysiliogogo.
-
Cyflwynwyd cais gerbron CC Llanllwchaearn i gael ein hariannu dan Adran 133 o’r ddeddf Llywodraeth Leol.
-
Cyfrannwyd £305 i HAHAV o gasgliad gwasanaeth carolau a gweddill Paned a Chlonc.
Diolchiadau
-
Diolch i Ruth Rees am ofalu am y Drysorfa.
-
Diolch i Tina Davies am ei gwaith fel glanhawraig/gofalwraig.
-
Diolch i’r holl ymddiriedolwyr am eu cefnogaeth amrywiol.
Gareth Ioan Ysgrifennydd Chwefror 2026
Derbyniwyd gan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Neuadd ar 19 Chwefror 2026.
anwd 31112r2025 Cynfv4u C>nur•J Cb 2r Hufio 24.OD 4486 85. 491195 10CW 00 180 00 9151 43 Pctrt&1e L¢tsy CSCEREDIGION. Hakn y Vvay 20r2Q8 Cth 2CQ 350.00 970 83 3(67 54 173250 132956 98* 76 199 87 6214 74 8514 68 Tryil•n 32071.40 917 1<141201
'Iigigiii 8888