**Adroddiad Blynyddol Neuadd Bentref Caerwedros (Caerweros Village Hall) 2025** 

**Rhif elusen: 523863** 



## **Neuadd Goffa Caerwedros Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr 2025** 

## **Nod yr elusen** 

Darparu cyfleusterau at y diben o ddarparu cyfleoedd addysgiadol a hamdden i drigolion Caerwedros a’r Cylch. 

## **Sefydlu’r elusen** 

Sefydlwyd yr elusen drwy rodd o dir a gweithred ymddiriedaeth dyddiedig 18 May 1949 a chodwyd y Neuadd wreiddiol yn 1951. Llywodraethir yr elusen dan amodau’r ddogfen honno. 

## **Ymddiriedolwyr** 

Ymddiriedolwyr yr elusen yn y flwyddyn 2025 oedd: 

Wayne Lewis, Cadeirydd Aled Dafis, Is-gadeirydd Gareth Ioan, Ysgrifennydd Ruth Rees, Trysorydd 

Gareth Evans Ian Evans Elliw Grug Davies Sian Ioan Mair Heulyn Rees Carwen Evans Morys Ioan Trystan Jones D Alun Evans 

Mae’r Ymddiriedolwyr yn ystyried canllawiau budd cyhoeddus y Comisiwn wrth wneud unrhyw benderfyniad y mae’n berthnasol iddo. 

## **Cyfeiriad yr elusen:** 

Croesheddig Newydd Pentre'r Bryn LLANDYSUL Ceredigion SA44 6NB 

**Ffôn:** 01545 560255 **E-bost:** neuaddcaerwedros@gmail.com **Gwefan:** http://www.neuaddgoffacaerwedros.org 



## **Gweithgareddau** 

Bu 2025 yn gyfnod prysur i Neuadd Caerwedros gyda nifer o weithgareddau a defnyddwyr yn cael mantais o’r cyfleusterau. 

## Defnyddwyr arferol 

Paned a Chlonc (Llun yn fisol). Pilates (Llun) C.Ff.I. (Llun + achlysurol) Clwb Bowlio (Mawrth – gaeaf) CC Llandysiliogogo (Mawrth – haf) Clwb Crefft (bore Mercher + arddangosfa haf yn Awst) Grŵp Dawnsio (pnawn Mercher) Tai Chi (nos Fercher, bore Gwener + Suliau achlysurol) Gwers Gymraeg – wythnosol (Iau) Merched y Wawr (Iau yn fisol) CC Llanllwchaearn (Iau yn fisol) Gemau bowls (Iau – gaeaf) Sioe Caerwedros (3 Awst) Gwasanaeth Carolau Cymunedol (12 Rhagfyr) 

## efnyddwyr achlysurol 

Partïon a digwyddiadau preifat (6) 4 Llan – cyfarfodydd cyhoeddus, pwyllgorau a gweithdai. Pwyllgor apêl lleol Eisteddfod y Garreg Las – cyfarfodydd + Bingo Bwtsh. Pwyllgor Sioe Caerwedros Plaid Cymru Gweithdai clocsio Gweithdai creu torchau Nadolig Gweithdy siwmperi Alaw – grŵp gwerin 

## **Trefniadol** 

O ran trefniadaeth a gweinyddiaeth y Neuadd gallwn nodi’r pwyntiau canlynol: 

- Ymddiriedolwyr y ddaliadaeth – cofrestriad wedi ei gyflwyno i’r Gofrestrfa Tir. 

- Polisi yswiriant wedi ei adolygu, gan benderfynu peidio croesawu cestyll gwynt. 

- Nodwyd bod y Loteri Fawr yn bwriadu codi ei afael ar y Neuadd. 

- Polisi diogelu plant a phobl fregus wedi ei llunio. 

- Rydym yn parhau i aros i’r Grid Cenedlaethol i gyflenwi trydan i’r offer gwefru ceir trydan. 



## **Yr Adeilad** 

Buddsoddwyd yn yr adeilad fel a ganlyn: 

- Sefydlwyd grŵp cynnal a chadw – sy’n gweithio’n effeithiol. 

- Mae’r drysau wedi derbyn gwasanaeth gan Veloscene. 

- Gwaith i ddiweddaru’r system drydanol wedi ei gwblhau – LEDs a goleuadau argyfwng + tystysgrif EICR dilys. 

- Tystysgrif EPC gradd A wedi ei dderbyn. 

- 4 Llan wedi plannu blodau o amgylch y Neuadd. 

- I’r dyfodol – syniad i greu ‘llyfr porffor’ ar gyfer trefniadau’r adeilad. 

## **Ariannol** 

Yn ogystal â’r cyfrifon ariannol gallwn gofnodi’r canlynol: 

- Diolch am gyfraniadau ariannol gan CC Llanllwchaearn a CC Llandysiliogogo. 

- Cyflwynwyd cais gerbron CC Llanllwchaearn i gael ein hariannu dan Adran 133 o’r ddeddf Llywodraeth Leol. 

- Cyfrannwyd £305 i HAHAV o gasgliad gwasanaeth carolau a gweddill Paned a Chlonc. 

## **Diolchiadau** 

- Diolch i Ruth Rees am ofalu am y Drysorfa. 

- Diolch i Tina Davies am ei gwaith fel glanhawraig/gofalwraig. 

- Diolch i’r holl ymddiriedolwyr am eu cefnogaeth amrywiol. 

**Gareth Ioan Ysgrifennydd Chwefror 2026** 

**Derbyniwyd gan Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Neuadd ar 19 Chwefror 2026.** 



anwd
31112r2025
Cynfv4u C>*nur•J
C**b 2r
Hufio
24.OD
4486 85.
491195
10CW 00
180 00
9151 43
Pc*trt&1e L¢tsy
CSCEREDIGION. Hakn y Vvay
20r2Q8
Cth 2CQ
350.00
970 83
3(67 54
173250
132956
98* 76
199 87
6214 74
8514 68
Tryil•n
32071.40
917
1<141201

'Iigigiii
8888