OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2022-03-31-accounts

ANTUR WAUNFAWR (Cwmni yn gyfyngedig trwy warant)

ADRODDIAD a DATGANIADAU ARIANNOL BLWYDDYN HYD AT: 31 MAWRTH 2022

Rhif Elusen: 515445 Rhif Cwmni: 01832813

Antur Waunfawr

Antur Waunfawr
Cynnwys Tudalen
Gwybodaeth cyfreithiol a gweinyddol 2
Adroddiad yr ymddiriedolwyr 3-14
Adroddiad yr archwiliwr 15-18
Datganiad o weithredoedd ariannol 19
Mantolen 20
Datganiad ynghylch llif arian 21
Datganiad o newidiadau mewn cyllid a ddefnyddwyd i dderbyn asedau sefydlog 22
Nodiadau yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol 23-32

1

ANTUR WAUNFAWR

GWYBODAETH GYFREITHIOL A GWEINYDDOL:

Rhif Cofrestru’r Elusen: 515445
Rhif Cofrestru’r Cwmni: 1832813
Ymddiriedolwyr

Aelodau’r Bwrdd:

Aelodau’r Bwrdd:
Mr. Rhys Evans Cadeirydd
Mr. Huw Ynyr Is-gadeirydd
Mr. Kevin Hughes Trysorydd
Dr. John Prys Morgan Jones
Mr. Daron Harris
Mrs. Sara Mair Tomos
Mrs. Anna Ll. Williams
Mrs. Lowri Huws Jones
Miss. Gwen Tomos
Dr. Catrin Ellis Williams
Mr. Terry Parry
Mr Norman Williams ` Ymddiswyddo 27.09.21
Mr Geraint Stello Ymddiswyddo 27.09.21
Mr John Jones Ymddiswyddo 27.09.21
Mr. Gwyn Llŷn Parry (Cymeradwywyd gan y Bwrdd ym Mis Mawrth 2022)
Ms. Menna Jones Ysgrifenyddes -Ymddiswyddo 26.07.22
Y Tîm Rheoli:
Menna Jones Prif WeithredwraigYmddiswyddo 26.07.22
Stephen Goodwin Uwch Reolwr Gwasanaethau Dydd a Phreswyl
Ellen Thirsk Uwch Reolwraig Adnoddau Dynol
Haydn Jones Uwch Reolwr Tri Busnes Gwyrdd
Sioned Hughes Rheolwraig Cyllid
Gwenlli Mai Wynne Rheolwraig Datblygu Busnes
Elain Hughes Rheolwraig Datblygu Busnes

Swyddfa Gofrestredig a Gweinyddol:

Bryn Pistyll Waunfawr Caernarfon Gwynedd LL55 4BJ

Cyfreithwyr: Iestyn T. Harris, Carter Vincent LLP, The Port House, Porth Penrhyn, Bangor, Gwynedd, LL57 4HN

Bancwyr:

Banc Barclays, Grŵp Canghennau Gwynedd, Bangor, Gwynedd

Archwilwyr: W.J. Matthews a’i Fab, 11-15 Y Bont Bridd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AB

2

ADRODDIAD BWRDD YMDDIRIEDOLWYR ANTUR WAUNFAWR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

RHAGAIR

Cofnod o waith Antur Waunfawr yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022 yw’r adroddiad hwn. Mae sylw yma i waith a phrosiectau’r Antur a hefyd ein hymdrechion parhaus i warchod ein hunigolion a’n staff o ran y pandemig Cofid-19. Mae’n parhau i fod yn gyfnod anodd ond gallwn hefyd nodi’r llwyddiannau a’r holl a gyflawnwyd er gwaethaf yr heriau a’n wynebwyd.

Mae’r ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn gyfarwyddwyr yr elusen at bwrpas Deddf Cwmnïau, yn cyflwyno'r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol archwiliedig am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2022, sydd hefyd wedi eu paratoi er mwyn cwrdd â’r angen am adroddiad cyfarwyddwyr a chyfrifon at bwrpas Deddf Cwmnϊau. Mae’r datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Elusennau 2011, Deddf Cwmnïau 2006, Erthyglau a Memorandwm y cwmni, a Chyfrifo ac Adrodd gan Elusennau, Datganiad o Weithredoedd Ariannol sydd yn berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).

Cwmni Cyfyngedig drwy Warant yw Antur Waunfawr a wnaed yn Gwmni Corfforedig ar 13eg Gorffennaf 1984 ac a gofrestrwyd yn Elusen ar 6ed Awst 1984. Sefydlwyd y Cwmni o dan Femorandwm y Cwmni sy’n sefydlu amcanion ac awdurdod y cwmni elusennol hwn ac yn cael ei reoli gan Erthyglau’r Cwmni.

NOD AC AMCANION

Mae Memorandwm Antur Waunfawr yn cyhoeddi ein nod fel a ganlyn;

“I hyrwyddo a chymryd rhan yng nghymorth a gofal bobl ag anawsterau dysgu ac unigolion ag anableddau corfforol a gyfeirir atom gan asiantaethau statudol, yn Sir Gwynedd a’r cylch:- drwy ddarparu, a rhoi cymorth yn y ddarpariaeth o gynnig cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth, heb eithrio hil, oed neu ryw na thybiaethau gwleidyddol, crefyddol neu dybiaethau eraill.”

Mae’r Bwrdd yn trafod nod yr elusen yn rheolaidd ac yn ei gadw mewn cof wrth gynllunio a datblygu ei strategaeth ar gyfer y Cwmni.

Rydym yn cyflawni’r nod drwy:

SUT MAE EIN GWEITHGAREDDAU YN CREU BUDD CYHOEDDUS

Drwy weithredu’r amcanion uchod, rydym yn ateb anghenion ein hunigolion gydag anableddau dysgu a’r gymdeithas ehangach.

Daw'r mwyafrif o unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth o Ogledd Gwynedd ond cyfeirir rhai atom gan gynghorau eraill cyfagos. Mae ein gallu i gynnig lleoliadau gwaith neu gartrefi i bobl yn dibynnu ar allu’r asiantaethau statudol i gynnig cytundebau gwasanaeth gofal a llesiant ar eu cyfer. Byddwn yn cyd-weithio gyda’r asiantaethau hyn ar bob achlysur, ac yn ymdrechu yn rhagweithiol i sicrhau cyfleoedd addas i bob person sy’n cael ei gyfeirio atom, ac i

3

sicrhau adnoddau teg i roi’r gwasanaeth gorau posib i’n defnyddwyr. Mae mwy o deuluoedd yn hunan gyfeirio erbyn hyn ac mae Antur Waunfawr yn eu cynghori i ymgysylltu a chyd-drafod gwasanaeth posib efo’r gwasanaethau cymdeithasol perthnasol.

CYFLAWNIAD A PHERFFORMIAD

Mae Antur Waunfawr wedi ymrwymo i gyfarch ysbryd ac amcanion Deddfau Llywodraeth Cymru, yn bennaf;

Sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd, a llesiant unigolion sy’n derbyn gwasanaethau gan Antur Waunfawr. Mae’n bwysig ein bod yn cydymffurfio â gofynion y Deddfau, ac yn sicrhau fod y cynnwys yn treiddio trwy weithgareddau, prosiectau a gofalaeth Antur Waunfawr. Byddwn yn gweithredu’n unol ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn parhau i weithredu a chynllunio’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ac yn unol â nod ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ Llywodraeth Cymru, yn rhagweithiol o ran defnyddio a hybu’r Gymraeg. Mae’r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn berthnasol i’n prosiect llesiant a datblygiad newydd Porth yr Aur.

Wrth lunio ein hamcanion ar gyfer y flwyddyn a chynllunio ein gweithgareddau, mae’r ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus, gan gynnwys y canllaw ‘Budd cyhoeddus: rhedeg elusen (PB2)’.

Mabwysiadodd yr Antur Ddatganiad Llesiant yn 2016, ac mae’r datganiad yma yn sail i’n darpariaethau llesiant wrth ddatblygu ein gweithgareddau a phrosiectau iechyd a lles i’r dyfodol.

Datganiad Llesiant Antur Waunfawr:

“Hyrwyddo llesiant, iechyd da a hapusrwydd, a galluogi unigolion fydd conglfeini gwasanaethau Antur Waunfawr i’r dyfodol.

Darperir gofal, cefnogaeth weithgar, hyfforddiant a gwaith ystyrlon mewn modd effeithlon a chymesur i ateb gofynion pobl ag anableddau dysgu a phobl ddifreintiedig yn lleol.

Fel menter gymdeithasol bydd Antur Waunfawr yn cyfarch anghenion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol y gymuned leol– a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu ddewis iaith yr unigolyn, ac mewn partneriaeth.

Ein nod yw creu cymdeithas arloesol, gyfartal, gynhyrchiol a charbon isel trwy feithrin teulu o fusnesau cynaliadwy yn lleol - cychwyn wrth ein traed a gweithredu’n uchelgeisiol i sicrhau llesiant a chymunedau gwydn.”

Mae gan Antur Waunfawr sawl adran lwyddiannus sy’n cynnig cyfleoedd gwaith, hyfforddiant, cyfleoedd llesiant a gwasanaethau amrywiol i unigolion ag anableddau dysgu, a phobl ddifreintiedig.

Yn sgil y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 adolygwyd swydd ddisgrifiad y Brif Weithredwraig i gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau. Mae’r Ddeddf yn cefnogi nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n diogelu hawliau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth mewn cyfraith.

CROESAWU AELODAU NEWYDD I’R BWRDD RHEOLI

Recriwtio a Phenodi’r Pwyllgor Rheoli

Mae Cyfarwyddwyr y Cwmni hefyd yn ymddiriedolwyr elusennol yn ôl gofynion y gyfraith elusennol. Fe’u hadwaenir yn ôl Memorandwm ac Erthyglau’r Cwmni fel ‘Cyfarwyddwyr’ neu fel ‘Aelodau’r Bwrdd’. Hefyd, mae’r Erthyglau’n gosod amod mai am flwyddyn ar y tro y byddant yn gwasanaethu a bod rhaid ethol neu ail-ethol dim mwy na 15 Cyfarwyddwr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Rydym yn ffodus fod gennym amrediad da o arbenigedd a phrofiad ar y Bwrdd, sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor i’r tîm rheoli yn y meysydd sy’n berthnasol i waith y cwmni e.e. cyllid, cyfreithiol, yswiriant, iechyd, gofal cwsmer, ail-

4

gylchu, addysg a hyfforddiant, busnes a hylendid bwyd. Fe wnaeth y Bwrdd barhau i gyfarfod dros y pandemig, a hynny’n rhithiol.

Ymddiriedolwr Newydd

Mae Mr. Gwyn Llŷn Parry yn bennaeth Cyllid Gisda, Caernarfon a chanddo gyfrifoldebau strategol dros gyllideb yr elusen – sy’n cynnwys rheoli asedau a chefnogi’r Bwrdd drwy ddadansoddi cyllidebau, adrodd arnynt a’u cynghori yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd yr Is-bwyllgor Cyllid. Yn ogystal, mae ganddo brofiad helaeth o gynnal archwiliadau mewnol Cwmni Gisda.

YMDDISWYDDIAD AELODAU’R CWMNI

Diolchwyd i’r ymddiriedolwyr canlynol am eu hymrwymiad a’u gwaith dros y blynyddoedd; Cyn-Gadeirydd y Bwrdd – Mr. John Gwynedd Jones, Mr. Geraint Strello a Mr. Norman Williams. Ffarweliwyd â’r tri ym mis Medi 2021 pan ymddiswyddwyd y tri’n swyddogol fel ymddiriedolwyr.

Anwythiad a Hyfforddiant Ymddiriedolwyr

Gan fod Antur Waunfawr wedi ei sefydlu dros 30 mlynedd yn ôl, gyda phroffil uchel o fewn y gymdeithas, mae gan bob darpar gyfarwyddwr wybodaeth dda o’n gwaith. Caiff pob aelod o’r Bwrdd ffeil gyda manylion y strwythur rheolaethol a’r polisïau ynddi. Mae’r Brif Weithredwraig yn treulio amser gyda chyfarwyddwyr newydd, yn eu hanwytho drwy drefnu ymweliadau â'r safleoedd ac ateb cwestiynau.

STRWYTHUR Y TÎM RHEOLI

Rheolwyr Gweithredol

Cynhelir cyfarfodydd Uwch Dîm Rheoli a Thîm Rheoli yn rheolaidd. Bydd cynrychiolydd pob adran hefyd yn cynnal cyfarfodydd gyda’u timau yn ogystal â Gweithgor Iechyd a Diogelwch, Gweithgor Meddiannau a’r Gweithgor TGCh. Mae Is-bwyllgorau hefyd wedi’u sefydlu er mwyn gweithredu ar benderfyniadau neu adolygiadau – megis yr Isbwyllgor Personél a’r Is-bwyllgor Polisïau. Yn ystod y flwyddyn mae'r rhain i gyd yn bwydo adroddiadau i’r Tîm Rheolaethol.

Menna Jones, Prif Weithredwraig

Mae Menna yn gwasanaethu ar fyrddau rheoli Menter a Busnes, Canolfan Cydweithredol Cymru ac yn Is-gadeirydd Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn. Mae wedi gweithio mewn mentrau cymdeithasol a chymunedol ers 31 mlynedd ac yn ystod y flwyddyn mi gymerodd gyfrifoldeb ‘Person Cyfrifol’ Antur Waunfawr. Mae wedi ei hyfforddi gan Social Enterprise Academy (Scotland) ar y cyd â Chreu Menter, Conwy i ddatblygu arweinwyr Academi Mentrau Cymdeithasol Cymru.

Stephen Goodwin, Uwch Reolwr Gwasanaethau Dydd a Phreswyl

Mae Stephen yn aelod o Grŵp Trawsffurfio Gwasanaeth, Cyngor Gwynedd. Mae gan Stephen dros 24 mlynedd o brofiad yn y maes gofal. Mae wedi cymhwyso fel Rheolwr Cofrestredig lefel 4. Mae Stephen hefyd wedi cwblhau cyrsiau mewn arweinyddiaeth a rheoli staff.

Ellen Thirsk, Uwch Reolwraig Adnoddau Dynol

Mae Ellen yn Gyfarwyddwr i Galeri, Menter Gymdeithasol a Chreadigol yng Nghaernarfon ac yn Gadeirydd i gorff Llywodraethwyr Ysgol Pendalar. Mae hi wedi gwirfoddoli i’r Samariaid am gyfnod o 15 mlynedd yn y gorffennol ac wedi cael trawstoriad o brofiadau rheoli mewn Iechyd, Tai a Gofal Cymdeithasol dros gyfnod o 31 mlynedd. Mae Ellen yn aelod siartredig o’r corff CIPD ac wedi cymhwyso ar lefel uwch mewn Cyfraith Cyflogaeth ac Iechyd a Diogelwch (NEBOSH).

Haydn Jones, Uwch Reolwr Busnesau Gwyrdd

Mae gan Haydn brofiad helaeth o annog unigolion yng Nghymru a dramor tra roedd yn gweithio yn yr America drwy ei waith ‘coaching’ gyda thrawstoriad o unigolion (abl ac anabl)

Mae ganddo brofiad eang o reoli ac mae’n gyfrifol am reoli a rhedeg gwasanaethau ailddefnyddio ac ailgylchu o fewn yr Antur.

Mae wedi cymhwyso i lefel graddedig (MA) mewn Addysg ac mae wedi mynychu trawstoriad o gyrsiau rheoli, ac yn ddiweddar wedi cwblhau NVQ Lefel 3 mewn Ailgylchu.

Sioned Hughes, Rheolwraig Cyllid

5

Mae gan Sioned arbenigaeth a phrofiad eang o’r maes cyllid a gweinyddiaeth, rheoli busnes a datblygu a sefydlu sustemau a gweithdrefnau. Mae wedi ei chymhwyso i Lefel 4 yn ‘Association of Accounting Technicians’ Mae ganddi sgiliau rheoli da ac wedi mynychu trawstoriad o gyrsiau cyllid a rheolaeth, yn ogystal â phrofiad helaeth o ddelio gyda sefydliadau allanol, e.e., cyfrifydd, prif bartneriaid ariannol, ayb.

Elain Hughes, Rheolwraig Datblygu Busnes

Graddiodd Elain o Brifysgol Aberystwyth yn 2015 efo gradd BA Cymraeg Proffesiynol ac mae wedi gweithio i’r Antur ers 2016. Mae ganddi wybodaeth eang o Antur Waunfawr gan ei bod wedi bod yn gynorthwyydd personol i Menna ac wedi gweithio’n agos gyda phob adran; y tîm Rheoli, Uwch Reoli a’r Bwrdd dros y pum mlynedd diwethaf. Prif ganolbwynt ei gwaith yn ddiweddar yw rheoli a datblygu prosiectau cyfalaf Porth yr Aur a’r Sied Werdd. Mae Elain yn bwynt cyswllt i bartneriaethau newydd ac yn presenoli mewn digwyddiadau, cyfarfodydd a grwpiau ffocws allanol.

Gwenlli Wynne, Rheolwraig Datblygu Busnes

Mae gan Gwenlli ddealltwriaeth a phrofiad gyda phob adran yn Antur Waunfawr gan ei bod wedi bod yn gynorthwyydd personol i Menna a Huw Davies (cyn-Ddirprwy Brif Weithredwr) cyn symud ymlaen i’w swydd bresennol. Mae ganddi BSc Gofal Iechyd a Chymdeithasol. Mae Gwenlli wedi mynychu cwrs arwain gyda ‘Learn to Inspire’, ac mae ganddi brofiad helaeth o ddelio gyda sefydliadau allanol megis mentrau cymdeithasol eraill, Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynghorwyr lleol ayb.

GWELEDIGAETH ANTUR WAUNFAWR

Gweledigaeth Antur Waunfawr yw galluogi pobl ag anableddau dysgu i integreiddio i’r gymuned leol a chyflawni gwaith ‘go iawn’ gyda phwrpas: Rydym yn Fenter Gymdeithasol flaenllaw sydd yn cynnig cyfleoedd iechyd a llesiant, hyfforddiant a gwaith amrywiol iawn yn ei natur i unigolion ag anableddau dysgu. Yn treiddio trwy hyn oll mae’r thema cynaladwyedd sy’n greiddiol i’n gwaith. Yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwaith i’n hunigolion, mae gan yr Antur nifer o fusnesau llewyrchus, a chaiff yr holl elw ei ail fuddsoddi yn y gwasanaeth i unigolion efo anableddau dysgu ac ein cymuned leol.

Mae ein nod o integreiddio pobl ag anableddau dysgu i’r gymuned ym mhob agwedd bosib - boed yn waith neu weithgareddau cymdeithasol, yn rhinwedd sydd yr un mor bwysig heddiw ag yr oedd pan sefydlwyd yr Antur.

YMATEB I ARGYFWNG COFID-19:

Prif flaenoriaeth yr Antur ydi iechyd, diogelwch a llesiant yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi. Ar ddechrau’r pandemig, yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, addaswyd ein strwythurau a strategaethau er mwyn sicrhau cynnal gwasanaethau i unigolion efo anableddau dysgu. Adnabyddwyd flaenoriaethau a chynlluniwyd gyda’n comisiynwyr i ddarparu gwasanaeth i'r unigolion mwyaf bregus ac i gyrraedd ein cwsmeriaid a phartneriaid, gan ddarparu amgylchedd diogel i unigolion a staff, ac i sicrhau parhad busnes Antur Waunfawr.

DIOGELU

Parhawyd i ddarparu gwasanaeth i unigolion preswyl, i unigolion gofal dwys yn unol â gofynion teuluol a chomisiynwyr, tra bod rhai unigolion yn cysgodi adref gyda theuluoedd a gwarchodwyr. Roedd rheolaeth lem ar fonitro symptomau, hunan ynysu, profi, olrhain achosion, darpariaeth ddigonol o PPE a chynllun ail agor.

IECHYD MEDDWL

Mae iechyd a llesiant meddyliol llawn mor bwysig ag iechyd a llesiant corfforol. Roedd yn anorfod bod y cyfyngiadau a newidiadau sylweddol i fywydau yn mynd i effeithio iechyd a lles meddyliol unigolion, teuluoedd, gwarchodwyr a staff yn ddiwahân. Roedd staff penodedig yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd gydag unigolion, teuluoedd, gwarchodwyr a staff oedd adref yn cysgodi, ac roedd yn gyfle hefyd i gynnal digwyddiadau megis bore coffi, bingo a chwis ar-lein.

Ein nod oedd darparu a chynnal y gwasanaethau gofal ac iechyd a llesiant i’r safon gorau posib o dan amgylchiadau heriol, drwy gynllunio ar gyfer anghenion yr unigolion, cynnal trafodaethau parhaus gyda’n comisiynwyr gwasanaeth a gofalwyr drwy gydol y cyfnod cysgodi ac wrth gynllunio i unigolion ddychwelyd yn ôl i'r gwasanaeth. Roedd angen sicrhau’r cydbwysedd rhwng lles iechyd corfforol a lles meddyliol, a thrwy hynny sicrhau dyfodol Antur Waunfawr fel Menter Gymdeithasol.

Cymerwyd camau bychan i groesawu ein hunigolion yn ôl yn ddiogel ac yn raddol i’r gweithle, gan addasu a pharatoi gofodau i gynnal a chefnogi’r gwasanaethau dydd.

6

Cafwyd pum sesiwn gan Dr. Ioan Rees Seicolegydd ar gyfer Uwch Reolwyr a Rheolwyr ar gyfer ymdopi ac adlewyrchu ar y cyfnod heriol a wynebwyd gyda Covid a syniadau a thactegau ar gyfer symud ymlaen.

GWARCHOD EIN STAFF A’R CYHOEDD

Ar ôl cyfnod heriol o ddelio gyda cofid roeddem yn falch iawn, fel llawer un o gael ychydig o normalrwydd nôl yn ein gwasanaethau. Parhawyd i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth a’n cynllun cofid - dogfen fewnol Antur Waunfawr i ddiogelu iechyd yr unigolion a’n staff.

Drwy barhau i ddilyn rheolau ag asesiadau risg roedd posib ail gychwyn gweithgareddau iechyd a llesiant i unigolion Antur Waunfawr ag ail gychwyn gyda’n rhaglen llesiant.

Fe warchodwyd a chefnogwyd holl rhanddeiliaid yr Antur, ond yn ogystal, fe roddwyd pwyslais ar iechyd a lles meddyliol yn ystod y cyfnod yma. Fe ymrwymwyd cynlluniau llesiant, iechyd meddwl, iechyd corfforol, ac ymwybyddiaeth ofalgar i’r strategaeth led-led y Cwmni. Yn ogystal, llwyddwyd i weddnewid a thrawsnewid, gan gynnig gwasanaethau gwahanol ar gyfer y dyfodol er mwyn cynnig amrywiaeth a phrofiadau gwaith i unigolion ag anableddau dysgu.

TRI BUSNES GWYRDD

WARWS WERDD

Canolfan a siop sy’n ailgylchu ac ailddefnyddio dodrefn a dillad ydi’r Warws Werdd. Rydym yn ailddefnyddio ac ailgylchu 277 tunnell o ddillad a dodrefn y flwyddyn fel rheol.

Fe ail-agorwyd y Warws i'r cyhoedd ym mis Mawrth 2022 ar ôl cyfnod o fod ar gau yn ystod y pandemig er mwyn creu gofod diogel i'r unigolion weithio.

Dillad

Yn ystod 2021/22, fe ganolbwyntiwyd ar gasglu, didoli a phrosesu dillad er mwyn cynnal y gwasanaeth a’r incwm. Yn ystod y flwyddyn gwelwyd cyfle i ddatblygu’r cynllun dillad ymhellach, a datblygwyd ein partneriaeth gyda’r masnachwyr dillad - Roberts Recycling Ltd. O fis Gorffennaf ymlaen, yn ogystal â gwasanaethu ein biniau ein hunain rydym hefyd wedi bod yn casglu a phrosesu gan y Gwasanaeth Tân, Seren a Tyddyn Môn. Golygai hyn gynnydd o oddeutu 400% yn y tunelledd ydym yn ei brosesu, gan gynyddu ein tunelledd wythnosol o 2 dunnell i 10 tunnell yr wythnos. Dros y flwyddyn, gwnaethom brosesu 382 tunnell o ddillad drwy’r Warws.

Dodrefn

Oherwydd cyfyngiadau’r pandemig, roedd y siop ar gau i'r cyhoedd am fwyafrif y flwyddyn ac nid oedd modd i ni gasglu o dai. Yn hytrach, roedd y cyhoedd yn danfon dodrefn i'w ailddefnyddio i ganolfannau ailgylchu’r Cyngor a ninnau yn eu derbyn, ac roedd y dodrefn hyn ynghŷd â gwastraff masnachol yn cael eu gwerthu am brisiau fforddiadwy i Adra, Digartrefedd Môn, Gisda, Grŵp Cynefin ac adran digartrefedd y Cyngor. Yn ystod y flwyddyn, proseswyd 4 tunnell o ddodrefn.

Gwastraff Swmpus

Yn ystod y pandemig, gofynnodd Cyngor Gwynedd i ni eu cynorthwyo i ddal i fyny gyda chasgliadau Gwastraff Swmpus.

Gofod Trwsio a Chreu Ffiws Antur Waunfawr

Rydym wedi derbyn nifer o offer ar gyfer gofod trwsio a chreu o dan frand ‘Ffiws’, sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Economi Gylchol drwy law Cyngor Gwynedd. Mae’r offer yn cynnwys argraffwr 3D, torrwr laser, torrwr finyl, a pheiriannau gwnio a brodwaith. Mae’r gofod wedi ei leoli dros dro yn y Warws, a bydd yn symud i adeilad newydd y Sied Werdd pan fydd yn barod.

Dros y flwyddyn gyfan, mae’r staff ar draws adrannau Antur Waunfawr wedi mynychu sawl hyfforddiant i ymwneud â phrosiect Ffiws Antur Waunfawr. Pwrpas Ffiws Antur Waunfawr yw rhoi cyfle i bawb gael mynediad at offer uwchdechnoleg ac annog ac ysbrydoli creadigrwydd. Yn syml, gofod gwneud yw Ffiws lle mae unigolion Antur Waunfawr yn gallu gwneud pethau gyda chymorth a chefnogaeth staff yr Antur.

SIED WERDD

Yn dilyn derbyn grant o £300,000 yn 2018 gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Sied Werdd mewn partneriaeth efo Cyngor Gwynedd er mwyn gwella isadeiledd a chynyddu tunelledd ailgylchu ac ailddefnyddio’r sir, derbyniwyd grant ychwanegol o £202,347.97 o Gronfa Economi Gylchog, Llywodraeth Cymru.

7

Penodwyd Ymgynghoriaeth Gwynedd ar gyfer y gwaith dylunio a rheoli prosiect, ac mae’r gwaith datblygu wedi bod yn dod yn ei flaen dros y flwyddyn ddiwethaf. Cynyddodd prisiau adeiladu yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ac roedd y prisiau tendr yn llawer rhy uchel, felly bu’n rhaid ail ddylunio’r adeilad a gwneud gwaith value engineering er mwyn sicrhau prosiect hyfyw. Bydd y sied 170m[2] , gydag ail lawr yr un maint, yn cael ei hadeiladu ar dir sydd yn eiddo i’r Antur, tu ôl i’r Warws Werdd yng Nghibyn. Bydd yr adeilad yn hygyrch, gyda lifft a chyfleusterau cymorth, ac wedi ei dylunio gan ystyried amrywiaeth eang o anghenion mewn golwg.

Bydd y llawr gwaelod yn cynnwys gweithdy, gyda meinciau addasedig sydd yn codi i fyny ac i lawr ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, a pheiriannau ysgafn ar gyfer unigolion gyda gwendid yn eu cyhyrau. Bydd y llawr cyntaf wedi ei rannu i 3 uned, gyda gofodau hyblyg ar gyfer prosiectau ailgylchu ac ailddefnyddio a fydd yn cyfrannu at nod y prosiect. Gall hwn hefyd fod yn ofod addysgiadol ar gyfer grwpiau cymunedol ac ysgolion. Bydd hyn yn rhyddhau gofod yn y Warws Werdd ar gyfer llawr siop.

CAERGYLCHU

Canolfan ailgylchu ar Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, a sefydlwyd mewn partneriaeth â’r cyngor yn 2005 ac sy’n esiampl flaenllaw o gydweithio rhwng y ddau sector. Denwyd £1.7m o grant i Gaergylchu yn 2007. Mewn blwyddyn arferol, rydym yn trin 970 tunnell o blastig y flwyddyn, ac yn ystod y flwyddyn 21/22 danfonwyd 316 tunnell o bapur i'w ailgylchu.

LLARPIO ANTUR

Gwasanaeth llarpio papur cyfrinachol, sydd wedi’i leoli yng Nghaergylchu, ac yn gwasanaethu ar hyd Gogledd Cymru i fusnesau a chartrefi, gyda dros 1200 o gwsmeriaid. Rydym yn gweithredu yn unol â gofynion rheolau GDPR. Dros gyfnod Cofid-19 gwelwyd y nifer o gwsmeriaid actif yn disgyn oherwydd bod swyddfeydd ar gau ayb, ond dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r gwasanaeth yn dychwelyd yn ôl i lefelau cyn Cofid-19.

Dros y misoedd diwethaf mae’r niferoedd wedi cynyddu yn rheolaidd ac wedi sefydlogi, gyda 1,100 sach yn cael ei chasglu mis Mawrth, 2022.

BEICS ANTUR

Cwblhawyd y gwaith ar safle Porth yr Aur ym Mai 2021, a symud mewn i weithredu’n fasnachol ym Mehefin 2021. Mae’r adeilad newydd yn ddau lawr, yn gwbl hygyrch gan gynnwys lifft a chawod ac mae Beics Antur wedi ei leoli ar y llawr gwaelod - gwasanaeth hurio, trwsio a gwasanaethu beics, beics addasedig, beics trydan a throsi beics i fod yn rhai trydan. Ar y llawr cyntaf mae Llofft Llesiant, gofod stiwdio 100m[2] ar gyfer pob math o weithgareddau iechyd a llesiant megis dawns, ioga a ffitrwydd, sydd hefyd ar gael i'w llogi ar gyfer cyfarfodydd a hyfforddiant. Yn ychwanegol, mae Ystafell Synhwyraidd ar y llawr cyntaf ar gyfer unigolion ag anghenion dwys neu nam ar y synhwyrau.

Ers 2017, mae Antur Waunfawr wedi buddsoddi dros £500,000 o gronfeydd wrth gefn yn y prosiect hwn, ac wedi sicrhau dros £500,000 o grantiau. Mae’r rhain yn cynnwys:

SAFLE BRYN PISTYLL

Eleni, ar ôl inni orfod cau safle Bryn Pistyll i'r cyhoedd dros gyfnod Pandemig Covid-19 i warchod ein hunigolion a’n staff, penderfynwyd trawsnewid ein defnydd o’r adeiladau a’r gofod a gwneud newidiadau i'r dyfodol. Wrth gyflwyno’r unigolion yn ôl mae pwyslais wedi ei roi ar iechyd a lles yr unigolion wedi cyfnod hir yn ynysu. Ac felly er mwyn gwella’r ddarpariaeth roedd yn rhaid edrych ar sut oedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar y safle. Enghreifftiau o rai o weithgareddau a drefnwyd yn ystod y cyfnod yw; sesiynau celf, cerdded, dawnsio, ioga, pilates, crefftau, teithiau dirgel a pharatoi cinio cartref.

Felly o ganlyniad;

CAFFI BLAS Y WAUN

Mae’r caffi yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd, ond penderfynwyd ein bod yn parhau i baratoi prydau bwyd i'r trigolion bregus yn y gymuned oedd wedi cael budd o’r gwasanaeth yn ystod y cyfnod clo. Mae hyn yn caniatáu i ni barhau i

8

gydweithio gyda’r gymuned leol (megis ysgolion a grwpiau cymunedol) gan gynnig bwffe, prydau ar glyd a the prynhawn ac mae hyn yn bwysig o safbwynt gwaith sydd yn cael ei gyflawni gan yr unigolion yn ogystal ag elfen o incwm y caffi.

Ein bwriad yn y dyfodol bydd rhoi ffocws ar fod yn ganolfan bwyd – gan barhau i gynhyrchu bara brith, jam, fflap jacs a siytni ayb er mwyn gwerthu i'r cyhoedd. Byddwn hefyd yn edrych ar ddarparu ein nwyddau mewn sawl lleoliad ac wrth gwrs yn cydweithio mewn partneriaeth hefo siop leol y Pentref – sef Siop Pant y Waun- sydd yn awyddus i werthu cynnyrch yr Antur.

SIOP GREFFTAU

Penderfynwyd cau’r siop grefftau yn barhaol, er mwyn darparu gofod i'r unigolion dderbyn gwasanaeth ar y safle, ac felly ein bwriad fydd symud elfen yma o’r busnes yn ddigidol; byddwn yn agor siop ar-lein Etsy fydd yn rhoi platfform ehangach i ni werthu cynnyrch ac i greu cyfleoedd digidol i'n hunigolion sydd â diddordeb mewn gwaith cyfrifiadurol.

PARC NATUR A GERDDI

Ar safle Bryn Pistyll mae 7 erw o erddi a pharc natur, yn ogystal â maes chwarae cynhwysol. Eleni, fe wasanaethwyd y siglen a’i newid i ddefnydd oedolion gyda gallu gwahanol. Yn ystod y cyfnod, fe arwyddwyd ein cytundebau rhandiroedd i gyd, ac un syniad cyffrous i'r dyfodol yw datblygu’r ochr yma o’r busnes, gan gynnig mwy o randiroedd, yn cynnwys pobl hefo anableddau a darparu sesiynau dysgu sgiliau ayb.

BRAGDY ANTUR WAUNFAWR

Yn dilyn llwyddiant y bragdy ar y safle ble mae cynnyrch lleol yn cael ei droi’n sudd afal a seidr Perllan y Fro, rydym yn awyddus i gynyddu potensial cynhyrchu’r bragdy: Eleni, enillwyd wobr un seren ar ôl ymgeisio ein seidr Riwbob ac afal yng nghystadleuaeth Blas Cymru 2021.

Cynhyrchwyd gwerth £875 o seidr i'r cyhoedd, ond gellir cynhyrchu 880 o boteli (420 litr) y mis. Mae pob unigolyn sy’n gweithio ar Safle Waunfawr, os dymunir, yn cael y cyfle i greu seidr yn eu tro. O ganlyniad, mae’r penderfyniad wedi ei wneud i ehangu’r gwaith yma.

BYNGALO GWYLIAU

Dros y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn buddsoddiad o gronfeydd Antur Waunfawr a grant Cyfenter, rydym wedi bod yn datblygu Byngalo gwyliau hygyrch, sy’n addas i unigolion gydag anableddau, a all hefyd gael ei ddefnyddio ar gyfer llety ysbaid. Cwblhawyd y prosiect yn ystod Gwanwyn 2020. Ers mis Tachwedd mae cytundeb wedi ei sefydlu gyda’r cyngor i flaenoriaethu’r gofod i roi gofal ysbaid i ofalwyr ac unigolion sydd yn gwneud cais trwy’r cyngor.

CYNLLUN CARTREFI AC AML OFYNION

Rydym yn darparu gwasanaeth Cymorth Cartref o dan reoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer 11 unigolyn lle darparwn gefnogaeth gofal a gofal personol sydd wedi ei deilwra ar gyfer yr unigolion yn unol â’u hanghenion.

Rydym yn cynnal gwasanaeth aml-ofynion ble mae unigolion gydag anableddau dwys yn derbyn cefnogaeth un i un, a chyfleoedd iechyd a llesiant. Cafodd y gwasanaeth ei gynnal i'r rhai mwyaf bregus drwy gydol y pandemig. Yn yr haf gyda lefelau covid yn isel cawsom gyfle i ail gydio mewn sesiynau nofio a marchogaeth. Cawsom y fraint o gael Ann a Bill Hopcyn draw i gynnal sesiynau cerdd awyr agored yn wythnosol. Croesawyd unigolyn newydd yn Hydref 2021 ar ôl iddo adael Ysgol Pendalar heb leoliad oherwydd y pandemig. Llwyddom i ail gychwyn y gwasanaeth hamdden sydd yn rhoi boddhad i'r unigolion yr ydym yn eu cefnogi ac ysbaid ar y penwythnos i'r rhieni.

RHWYDWEITHIAU STRATEGOL

PARTNERIAETHAU NEWYDD A CHYDWEITHIO YN YSTOD Y FLWYDDYN:

PERTHYNAS AG ASIANTAETHAU ALLANOL

Mae Antur Waunfawr yn cynnig gwasanaeth i oedolion ag anableddau dysgu mewn partneriaeth, yn bennaf, ag adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Gwynedd, yn ogystal â Chynghorau Conwy ac Ynys Môn hefyd. Rhagwelwn yn ystod y blynyddoedd nesaf y bydd mwy o bwyslais ar dendro ffurfiol am wasanaethau newydd a gwasanaethau presennol. Mae’r cynghorau yn comisiynu’r gwasanaeth yn unol â’u hasesiad o angen ac rydym yn cytundebu gyda’r cynghorau i ddarparu gwahanol fathau o wasanaeth yn unol â’r asesiad. Ein nod wedyn fel menter gymdeithasol yw hyrwyddo potensial yr unigolion o ran eu gwaith ond hefyd eu datblygiad personol a’u sgiliau.

Er mewn ffordd wahanol eto eleni, parhawyd i gydweithio gyda swyddogion y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgol Pendalar, Ysgol Hafod Lon, Coleg Menai, Coleg Meirion Dwyfor, a Glynllifon, yn ystod y flwyddyn, er mwyn cynllunio darpariaethau ar gyfer adnoddau gwell i dderbyn unigolion gydag anghenion mwy dwys.

9

ADRA:

Yn sgil y newid yn y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, golygai nad oeddem mwyach yn gallu parhau i fod yn landlordiaid yn ogystal â darparu gofal personol i’n tenantiaid. Yr opsiwn gorau er lles ein tenantiaid oedd creu partneriaeth gyda chymdeithas tai Adra, sydd yn golygu mai Adra sydd bellach yn landlordiaid ar ein tai.

Yn ychwanegol, adolygwyd swydd ddisgrifiad y Brif Weithredwraig i gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau – Menna Jones yw’r Person Cyfrifol nawr ar gyfer y cwmni. Mae’r Ddeddf yn cefnogi nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n diogelu hawliau unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth mewn cyfraith.

GRŴP LLANDRILLO MENAI A GYRFA CYMRU:

Gyda digwyddiadau ‘byw’ wedi’u canslo oherwydd y firws, mi roedd y galw i bresenoli drwy ffurf fideo wedi cynyddu’n sylweddol dros y cyfnod. Fe gynhyrchwyd sawl fideo ar gyfer ddigwyddiadau, yn cynnwys fideo ‘Gweithio i’r Antur’ i fyfyrwyr Iechyd a Gofal Grŵp Llandrillo Menai a Gyrfa Cymru.

Rydym wedi cydweithio yn gyson gydag RCS Wales ar gyfer cyfeirio staff am gefnogaeth cwnsela a physiotherapi gan sicrhau eu bod yn gallu parhau yn y lle gwaith. Mae gennym ddwy aelod o’r tîm Adnoddau Dynol sydd wedi’u hyfforddi fel pencampwyr llesiant drwyddynt hefyd. Mae’r adnodd wedi bod yn werthfawr yn arbennig oherwydd y cyfnod heriol yma. Maent hefyd yn darparu gweminarau llesiant cyson sydd o fudd i allu cefnogi staff.

RHEOLI RISG

Mae’r Cwmni wedi creu, dilyn a diweddaru Cynllun Clo cynhwysfawr yn ystod cyfnod y Pandemig gan sicrhau diogelwch a gweithdrefnau gwaith unigolion a staff. Bu i’r Tîm Uwch Reoli gyfarfod yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn i sicrhau cydymffurfio â’r gweithdrefnau oedd yn eu lle ar yr adeg.

HAPWIRIAD AROLYGIAETH GOFAL CYMRU

Cawsom archwiliad mis Gorffennaf, ac fe gyflwynwyd yr Adroddiad Arolygu i Fwrdd y Cwmni mis Medi; roedd yr adroddiad yn galonogol.

ARCHWILIAD ISO 14001 ac ISO 9001

Llwyddwyd i gynnal yr Achrediad ISO 14001 a’r Achrediad ISO 9001 unwaith eto yn dilyn proses fanwl a thrylwyr rhannol-rhithiol a gwaith gwirio mewnol. Mae’r gweithredu ar y broses a’r systemau cysylltiedig yn fuddiol i ni wrth ymgeisio am gytundebau a thendrau i’r dyfodol.

Mi roedd cydweithio rhagorol wedi bod rhwng y Rheolwyr, a’r adran Adnoddau Dynol - a’r canlyniad oedd cydymffurfiaeth lawn, ac adroddiad teilwng dros ben.

BS EN 15713 GWASANAETH LLARPIO

Roedd y gwasanaeth llarpio yn llwyddiannus yn cael yr achrediad BS EN 15713 fis Mawrth 2021 a bydd yn cryfhau ein systemau gweithio yn ogystal ȃ gallu ymgeisio am gytundebau a thendrau newydd. Ychydig iawn o waith ychwanegol oedd ei angen ar gyfer yr achrediad yma gan fod y gwasanaeth llarpio eisoes yn gweithio i’r safon.

DENU A DATBLYGU POBL

Mae’r Uwch-reolwraig Adnoddau Dynol yn aelod siartredig o’r corff CIPD ac wedi cymhwyso ar lefel uwch mewn Cyfraith Cyflogaeth i roi cyngor ac arweiniad ar faterion adnoddau dynol ar draws y corff, mae hi hefyd wedi cwblhau cwrs Adnabod a Delio gyda Gwahaniaethu yn y Gweithle. Rydym yn defnyddio cyfreithiwr lleol i ddarparu cefnogaeth pan mae angen.

Wrth gymryd i ystyriaeth yr hinsawdd economaidd anodd mae cyflogwyr yn eu hwynebu, mae’r Uwch Reolwraig Adnoddau Dynol yn falch o adrodd ein bod eto eleni wedi llwyddo i gynnal yr adnoddau staff angenrheidiol ac wedi cydymffurfio efo holl ofynion gyfraith cyflogaeth. Drwy reoli ein hadnoddau rydym wedi llwyddo i gynnal safon ein gwasanaethau a chynllunio ar gyfer unigolion newydd yn ein gwasanaethau dydd a chefnogaeth cartref.

Er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y cwmni yn ystod y pandemig, roedd yn rhaid sicrhau effeithiolrwydd strwythurau staffio. Penderfynwyd gwobrwyo ymroddiad ein staff a chefnogi’r staff sydd yn arbenigo mewn darparu gofal ar sawl lefel i’n hunigolion ag anableddau dysgu yn y maes gofal. Rhoddwyd blaenoriaeth ar ddatblygu cryfderau a gyrfaoedd, rhoi cyfrifoldebau newydd i staff, rhoi clod i gyrhaeddiad ein staff a chynllunio’n strategol, gan roi pwyslais ar fentora, magu, a chadw staff.

10

Mae’r strwythur newydd yn creu llwybr gyrfa i’n gweithwyr cefnogol, a chodiad cyflog i’r rhai a lwyddodd i ateb gofynion y meini prawf uwch.

Bwriad y strwythur newydd yw magu hyder, datblygu sgiliau a chymwysterau ac annog ein staff i ymgeisio am swyddi uwch. Eleni wnaeth 6 aelod staff lwyddo i gyrraedd y meini prawf uwch ac o ganlyniad maent wedi cymryd lefel uwch o gyfrifoldebau sydd wedi galluogi Is-reolwyr i ganolbwyntio ar faterion strategol yn ystod cyfnod heriol.

Mae staff yr Antur yn ystod y cyfnod Cofid-19 wedi dangos ymroddiad cryf i waith yr Antur ac mae’r Bwrdd Rheoli a’r Uwch Dim yn ddiolchgar iawn o hyn – fe wnaeth sicrhau rhediad ein gwasanaeth.

STAFF NEWYDD

Rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021 fe benodwyd 10 aelod newydd o staff ar draws y cwmni.

HYFFORDDIANT

Mae gan yr Antur raglen Hyfforddiant a Datblygiad cynhwysfawr sydd yn ateb gofynion ein gwasanaethau ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, gan sicrhau ein bod yn cadw i safonau megis Arolygiaeth Gofal Cymru a Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Gwynedd, Ynys Môn a Conwy. Rydym yn sicrhau bod gofynion hyfforddiant yn gyfredol ac yn cofrestru ein gweithwyr cefnogol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac maent yn cwblhau gwerthoedd ac egwyddorion o fewn ei 6 mis cyntaf o gychwyn eu cyflogaeth.

Rydym wedi cofrestru 6 aelod staff yn ystod y cyfnod yma. Byddwn yn parhau i gofrestru staff yn unol â’r gofynion

Oherwydd Cofid-19 bu’r cyfnod yn heriol iawn o ran gallu hyfforddi staff a chadw ar ben diweddaru hyfforddiant. Llwyddwyd i symud i ddysgu ar lein er mwyn diweddaru hyfforddiant mandadol staff fel datrysiad dros dro.

PROFIADAU GWAITH

Ni fu unrhyw brofiadau gwaith yn ystod y cyfnod hwn oherwydd y sefyllfa Cofid-19. Oherwydd natur y gwasanaeth roedd yn bwysig canolbwyntio ar gadw ein hunigolion yn saff. Rydym yn adolygu profiadau gwaith yn rheolaidd yn ein Gweithgor Iechyd a Diogelwch a gobeithir gallu ailgychwyn profiadau gwaith i fyfyrwyr a disgyblion dros y misoedd nesaf.

CYDNABYDDIAETH

Yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth mis Mai 2021 i roi swm o £735 i holl staff rheng flaen, fe wnaeth y Cwmni benderfynu rhoi cydnabyddiaeth o’r un swm i staff nad oedd yn disgyn mewn i gategorïau'r Llywodraeth gan eu bod hwythau wedi bod yn flaenllaw i redeg gwasanaeth gofal yn ystod y pandemig.

UNIGOLION ANTUR WAUNFAWR

Daw'r mwyafrif o unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth o Ogledd Gwynedd ond cyfeirir rhai atom gan gynghorau eraill cyfagos. Mae ein gallu i gynnig cytundebau gwasanaeth neu gartrefi i bobl yn dibynnu ar allu’r asiantaethau statudol i gynnig cytundebau gwasanaeth gofal a llesiant ar eu cyfer. Byddwn yn cyd-weithio gyda’r asiantaethau hyn ar bob achlysur, ac yn ymdrechu yn rhagweithiol i sicrhau cyfleoedd addas i bob person sy’n cael ei gyfeirio atom, ac i sicrhau adnoddau teg i roi’r gwasanaeth gorau posib i’n defnyddwyr. Mae mwy o deuluoedd yn hunan gyfeirio erbyn hyn ac mae Antur Waunfawr yn eu cynghori i ymgysylltu a chyd-drafod gwasanaeth posib efo’r gwasanaethau cymdeithasol perthnasol.

ANNOG IECHYD A LLESIANT

Eleni, cynhaliwyd taith i ddathlu Gŵyl Dewi gyda 27 o unigolion a staff yn cerdded o safle Waunfawr i lawr i sgwâr Caernarfon ac ymunodd dros 20 o’r Warws Werdd, Caergylchu a Beics Antur. Cafwyd croeso a chydnabyddiaeth o bresenoldeb criw’r Antur ar y diwrnod, tra bod y cerddwyr a’r mynychwyr wedi mwynhau yn fawr.

Yn dilyn llwyddiant y diwrnod allan, fe sefydlwyd taith gerdded wythnosol i unigolion.

ADOLYGIAD CYLLIDOL

RHODDION

11

Sefydlwyd ein cyfrif PayPal gyda statws ‘elusen’ fel bod posibl gwerthu eitemau heb orfod talu ffioedd gwerthu, a hefyd posib codi arian drwy ddefnyddio botwm ‘PayPal Donate’ drwy system ‘PayPal Giving’. Golygai hyn ei fod bellach yn haws nag erioed i bobl roddi arian i’r Antur, drwy ddull digidol.

PRIF FFYNONELLAU INCWM

Prif ffynhonnell incwm y cwmni yw Incwm Cytundebol o’r Awdurdodau Lleol trwy’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ogystal mae’r Cwmni yn rhan o bartneriaeth Caergylchu gyda Chyngor Gwynedd a chytundebir gyda’r Cyngor am y gwaith hwn. Mae incwm masnachol o werthu gwasanaeth i gwmnïau ac unigolion, a chynnyrch Antur Waunfawr, yn dod ag incwm hollbwysig i’r Antur.

DENU GRANTIAU A CHRONFEYDD NEWYDD

Yn ystod y flwyddyn, llwyddwyd i sicrhau’r grantiau canlynol:

POLISI ARIAN WRTH GEFN

Mae’n bolisi gan y Cwmni i gadw cronfa anghyfyngedig fechan, gan eithrio cronfeydd dynodedig o eiddo’r Elusen sydd wedi eu neilltuo yn benodol. Penderfynodd y Bwrdd adolygu’r polisi yn rheolaidd (gan gymryd i ystyriaeth asedau cynyddol y Cwmni) fel bod yna arian i gynnal costau gwasanaethu amcanion yr elusen am gyfnod, ac i gynnal costau rheoli a gweinyddu, a hefyd digon i ymateb i unrhyw gais brys. Dros y 6 mlynedd diwethaf mae’r Cwmni wedi sicrhau bod yna lleiafswm o 3 mis o gyflog wedi ei gadw wrth gefn ar gyfer unrhyw heriau annisgwyl. Mae hyn yn unol â chanllawiau ymarfer da’r Comisiwn Elusennau ac yn cwrdd ag amcanion y Cod Llywodraethu. Mae’r Cwmni hefyd yn ymwybodol bod angen buddsoddi yn adeiladau a safleoedd y Cwmni er mwyn sicrhau cynaladwyedd yr Antur i’r dyfodol.

IAITH A DIWYLLIANT

Cymraeg yw iaith weinyddol fewnol y cwmni a Chymraeg yw iaith weinyddol y prosiectau sydd wedi eu sefydlu, ac rydym yn anelu bob amser i fod yn gyflogwr rhagorol a blaengar, a hybu’r iaith, diwylliant a’r economi leol.

Byddwn yn parhau i weithredu a chynllunio’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, yn unol â nod ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ Llywodraeth Cymru, gan fod yn rhagweithiol o ran defnyddio a hybu’r Gymraeg. Fel menter gymdeithasol bydd Antur Waunfawr yn cyfarch anghenion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol y gymuned leol– a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu ddewis iaith yr unigolyn, ac mewn partneriaeth.

MARCHNATA, YMGYSYLLTU A CHYHOEDDUSRWYDD

Penderfynodd Carla Esposito, ein Swyddog Marchnata adael yr Antur er mwyn datblygu ei gyrfa – cafodd ddyrchafiad a swydd ym Mhrifysgol Bangor. Fe wnaeth yr Antur ddymuno’n dda iddi yn ei gyrfa newydd, gan nodi bydd colled fawr ar ei hôl.

Swyddog Marchnata allanol sydd nawr yn cyflawni’r gwaith marchnata; Mae Osian Wyn Owen (Cwmni Argoedd) yn gyfieithydd ac â chymhwyster meistri mewn ysgrifennu creadigol.

Parhawyd i weithredu’r strategaeth marchnata a chyrraedd y nodau a amlinellwyd yn y strategaeth. Mae’r wefan yn parhau i gyfrannu at dwf presenoldeb ar-lein y cwmni a hefyd yn adrodd ein newyddion diweddaraf. Mae gennym eisoes linc hefo Golwg 360 ac rydym yn annog cyfranogwyr lleol.

Dyma giplun ystadegau ein cyfryngau cymdeithasol yng nghyfnod mis Mai 2021 i Ragfyr 2021:

Mae ein cyrhaeddiad Facebook yn 34,121 (sy’n gynnydd o 46.8%)

Mae ein cyrhaeddiad Instagram yn 1,648 (sy’n gynnydd o 87.5%); mae lle i ddatblygu ein defnydd o’r cyfrwng hwn, ond rydym ar y trywydd cywir.

Ymweliadau â’n tudalen Facebook wedi gweld cynnydd o 63% Ymweliadau â’n tudalen Instagram wedi gweld cynnydd o 104%

12

Mae ein nifer o ddilynwyr newydd ar Facebook wedi cynyddu 176% Mae ein nifer o ddilynwyr newydd ar Instagram wedi cynyddu 691%

EIN BLAENORIAETHAU AR GYFER 2022 – 23

DIWEDDGLO

Pwysig yw dathlu’r llwyddiannau bach bob dydd a rhoi cydnabyddiaeth i'r staff am hwylio’r storm ac am warchod yr Antur – maent wedi cynnal y busnesau, ac wedi sicrhau parhad y ddarpariaeth - sydd yn ei dro wedi ein galluogi i gynyddu niferoedd unigolion; diolchwn i'r staff cefnogol i gyd am eu gwaith blaengar a di-flino dros y flwyddyn. Mae’n galonogol eto eleni i adlewyrchu ar yr holl a gyflawnwyd, a’r prosiectau newydd sydd ar y gweill er gwaethaf yr heriau yn ystod y flwyddyn, gan nodi natur organaidd a synergaidd gwaith yr adrannau lle mae cydweithio cryf a balchder ymysg y staff.

Byddwn yn plethu ein mentergarwch efo egwyddorion cymdeithasol cryf gan greu cynlluniau busnes a fydd yn rhoi ffocws i’n gwaith ac yn ail-uno’r Antur yn dilyn y pandemig -mae’n gyfle i ni arwain a bod yn arloesol. Rydym yn esiampl o Fenter sy’n rhagori ac yn arfer da – rydym yn ddiolchgar iawn i’r bobl sy’n cefnogi ein prosiectau ar sail ein henw da – gan obeithio fod yr adroddiad yma yn dyst i waith graenus yr Antur.

Mae’r Brif Weithredwraig a’i staff yn gweithio’n barhaus i gynnal safonau ac amrywiaeth o gyfleoedd trwy’r prosiectau a’r busnesau a reolir, ac i gydymffurfio a’r rheoliadau a’r ddeddfwriaeth berthnasol. Hefo’r cyfyngiad ariannol sy’n taro, rydym angen parhau i weithredu gyda rheolaeth dynn, adolygu’r cyllidebau’n ofalus, dethol gwasanaethau a chynllunio’n greadigol. Yn sicr, bydd y Cwmni yn parhau i ddarparu gofal, hyfforddiant a gwaith perthnasol a deniadol i bobl ag anableddau dysgu, a bydd yn parhau i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel i’r tenantiaid mewn amgylchedd iach a hapus.

Nod Antur Waunfawr yw parhau i oroesi trwy fod yn gystadleuol ac effeithiol fel menter gymdeithasol, tra hefyd yn canolbwyntio ar ein gwerthoedd, iechyd a llesiant a’n nodau ac amcanion.

CYFRIFOLDEBAU YR YMDDIRIEDOLWYR MEWN CYSYLLTIAD A’R DATGANIADAU ARIANNOL

Yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am baratoi yr adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol yn unol a chyfraith perthnasol ac Arferiad Cyfrifeg Safonol Cyffredinol y Deyrnas Unedig (UK GAAP).

Mae’n ofynnol dan y Ddeddf Cwmnïau i’r ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol sydd yn rhoi golwg wir a theg o amgylchiadau yr elusen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol am y gweddill neu ddiffyg yn y flwyddyn ariannol. Wrth baratoi’r datganiadau ariannol mae’n ofynnol ar yr ymddiriedolwyr i:

  1. ddefnyddio a chymhwyso yn gyson bolisïau cyfrifyddol addas; 2. gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon rhesymol a phwyllog; a

  2. pharatoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes byw os nad yw’n anaddas i ystyried bydd yr elusen yn parhau mewn busnes.

13

Mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am sicrhau fod trefniadau wedi eu gwneud i gynnal cofnodion cyfrifyddol sydd yn datgan sefyllfa ariannol yr elusen yn rhesymol fanwl ac sydd yn eu galluogi i’r datganiadau ariannol gydymffurfio â Deddf Cwmnïau 2006. Mae’r ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau’r elusen, ac i sicrhau y gwneir darpariaethau i atal a darganfod twyll ac afreoleidd-dra arall.

Datganiad yr Ymddiriedolwyr Ynglyn a Datgelu Gwybodaeth i’r Archwiliwr

Mae’r ymddiriedolwyr yn cadarnhau cyn belled ac maent yn ymwybodol, nad oes dim gwybodaeth perthnasol nad yw archwiliwr yr elusen yn ymwybodol ohonno. Maent wedi cymeryd pob cam y dylent fel ymddiriedolwyr i wneud eu hunain yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio perthnasol ac i sicrhau fod archwiliwr yr elusen yn ymwybodol o’r wybodaeth.

Ymddiriedolwr Awdurdodedig: Mr Rhys Evans – Cadeirydd y Bwrdd

Cafodd yr Adroddiad ei chymeradwyo

Llofnod:

Mr Rhys Evans – Cadeirydd

Dyddiad:

14

Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol i Aelodau Antur Waunfawr

Barn

Yr ydym wedi archwilio datganiadau ariannol Antur Waunfawr am y flwyddyn hyd 31 Mawrth 2022 sydd yn cynnwys y datganiad o weithredoedd ariannol, y fantolen, y datganiad ynghylch llif arian a’r nodiadau i’r datganiadau ariannol, gan gynnwys crynodeb o’r polisïau cyfrifo sylweddol. Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd i baratoi y datganiadau ariannol yw cyfraith cymwys a Safonau Cyfrifo y Deyrnas Unedig, gan gynnwys FRS 102, , 'Y Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon' (Arferiad Cyfrifeg Safonol Cyffredinol y Deyrnas Unedig).

Yn ein barn mae’r datganiadau ariannol yn:

Sail ein barn

Rydym wedi cynnel ein archwiliad yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (DU) (ISAs (DU)) a chyfraith cymwys. Disgrifir ein cyfrifoldebau dan y safonau hynny ymhellach yn adran cyfrifoldebau’r archwiliwr am archwiliad o’r datganiadau ariannol o’n hadroddiad. Rydym yn annibynnol o’r cwmni yn unol â’r anghenion ethegol sydd yn gymwys i’n archwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safonau Ethegol yr FRC ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau ethegol eraill yn unol â’r gofynion hynny. Rydym yn credu fod y tystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol a chymwys i baratoi sail i’n barn.

Canlyniadau ynglŷn a busnes byw

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol rydym wedi dod i’r casgliad bod defnydd yr ymddiriedolwyr o’r sail busnes byw o gyfrifo wrth baratoi’r datganiadau yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi’i gyflawni, nid ydym wedi nodi unrhyw ansicrwydd materol yn ymwneud a digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r endid i barhau fel busnes byw am gyfnod o leiaf 12 mis o’r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol.

Disgrifir ein cyfrifoldebau a chyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr mewn perthynas a busnes byw yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.

Gwybodaeth arall

Yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am y gwybodaeth arall. Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth gynwysiedig yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y datganiadau ariannol a’n hadroddiad ni fel archwiliwr arnynt. Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, heblaw i’r helaeth fod wedi ei nodi’n benodol yn ein hadroddiad, nid ydym yn datgan unrhyw ganlyniadau o sicrwydd arno.

Mewn cysylltiad â’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol, mae gennym gyfrifoldeb i ddarllen yr wyboadaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried os oes anghysondeb sylweddol rhwng yr wybodaeth arall a’r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gawsom yn ystod yr archwiliad neu sydd fel arall yn ymddangos yn sylweddol anghywir. Os daw yn ymwybodol o unrhyw gamfynegiant sylweddol ymddangosiadol neu anghysondebau, mae’n ofynnol arnom i benderfynu os oes camddatganiad sylweddol yn y datganiadau ariannol neu gamddatganiad sylweddol yn yr wybodaeth arall. Os down i gasgliad , ar sail y gwaith a gwblhawyd fod camddatganiad sylweddol yn yr wybodaeth ychwanegol yma, mae’n ofynnol arnom i ymadrodd y ffaith.

Nid oes gennym ddim i ymadrodd mewn cyswllt â hyn.

15

Barn ar faterion eraill a benodwyd gan Ddeddf Cwmniau 2006

Yn ein barn, yn seiliedig ar y gwaith a ymgymerwyd yng nghwrs yr archwiliad:

Materion yr ydym angen datgan arnynt trwy eithriad

Yn sgil yr wybodaeth a dealltwriaeth y cwmni a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod ein harchwiliad, nid ydym wedi adnabod camfynegiant sylweddol yn adroddiad yr ymddiriedolwyr.

Nid oes gennym ddim i ddatgan ynglyn â’r materion canlynol lle mae Deddf Cwmniau 2006 yn gofyn i ni ddatgan i chwi os, yn ein barn:

Cyfrifoldebau'r ymddiriedolwyr

Fel yr eglurir yn llawnach yn y datganiad o gyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr, yr ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni elusennol at bwrpas deddf cwmnïau) sydd yn gyfrifol am baratoi y datganiadau ariannol ac am foddhau eu hunain eu bod yn rhoi golwg wir a theg ac am y rheolau mewnol mae’r ymddiriedolwyr yn cysidro’n angenrheidiol i alluogi paratoad o ddatganiadau ariannol sydd yn rhydd o gamosodiad sylweddol, boed hynny yn deillio o dwyll neu gamgymeriad.

Wrth baratoi y datganiadau ariannol, mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu’r cwmni elusennol i barhau fel busnes byw, gan ddatgelu, fel yn gymwys, materion perthnasol i allu’r busnes i barhau a defnyddio y sail busnes byw o gyfrifo os nad yw’r ymddiriedolwyr un ai wedi penderfynu i gau y cwmni neu roi gorau i weithredu, neu heb fod gyda dewis rhesymol ond i wneud hynny.

Cyfrifoldeb yr archwiliwr am archwilio’r datganiadau ariannol

Ein amcanion yw i dderbyn sicrwydd rhesymol fod y datganiadau ariannol ar y cyfan yn rhydd o gamddatganiad sylweddol, boed hynny wedi ei achosi drwy dwyll neu gamgymeriad, ac i gyhoeddi adroddiad archwiliwr sydd yn cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchaf o sicrwydd, ond nid yn gwarantu y buasai archwiliad wedi ei chynnal yn unol ag ISAs (DU) yn darganfod camddatganiad sylweddol, os yw yn bod pob adeg. Gall camosodiadau godi o dwyll neu gamgymeriad, a byddent yn cael eu cysidro yn sylweddol os, yn unigol neu gyda’i gilydd, y buasai’n rhesymol i ddisgwyl iddynt effeithio dewisiadau economaidd defnyddwyr a gymerir ar sail y datganiadau yma.

Mae afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, yn achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rydym yn dylunio gweithdrefnau yn unol â’n cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll. Manylir isod i ba raddau y mae ein gweithdrefnau’n gallu canfod afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll:

16

Gwnaethom asesu tueddiad datganiadau ariannol y cwmni i gamddatganiad perthnasol, gan gynnwys cael dealltwriaeth o sut y gallai twyll ddigwydd, trwy:

Er mwyn mynd i’r afael â’r risg o dwyll trwy ragfarn rheoli a diystyru rheolaethau, rydym yn:

Mewn ymateb i’r risg o afreolaidd-dra a diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau, gwnaethom ddylunio gweithdrefnau a oedd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

Mae cyfyngiadau cynhenid yn ein gweithdrefnau archwilio a ddisgrifir uchod. Po fwyaf y caiff deddfau a rheoliadau eu dileu o drafodion ariannol, y lleiaf tebygol yw y byddem yn dod yn ymwybodol o ddiffyg cydymffurfio. Mae safonau archwilio hefyd yn cyfyngu’r gweithdrefnau archwilio sydd yn ofynnol i nodi diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau i ymholi’r cyfarwyddwyr a rheolwyr eraill ac archwilio gohebiaeth reoleiddiol a chyfreithiol, os o gwbl. Gall fod yn anoddach canfod camddatganiadau materol sydd yn codi oherwydd twyll na’r rhai sydd yn codi o gamgymeriad oherwydd gallent gynnwys cuddio neu gydgynllwynio yn fwriadol.

Fel rhan o archwiliad a ymgymerir yn unol ag ISAs (DU), rydym yn ymarfer barn proffesiynol a chynnal amheuaeth broffesiynol trwy gydol yr archwiliad, rydym hefyd yn:

17

neu amgylchiadau a all godi amheuaeth sylweddol ar allu‘r cwmni elusennol i barhau fel uned byw. Os y down i gasgliad fod ansicrwydd sylweddol yn bod, mae’n ofynnol arnom i dynnu sylw, yn ein adroddiad archwiliwr i’r datgeliadau perthnasol yn y datganiadau ariannol neu, os nad yw’r datgeliadau yn ddigonol, i addasu ein barn. Mae ein casgliadau yn seiliedig ar y tystiolaeth archwilio a dderbyniwyd hyd at dyddiad adroddiad yr archwiliwr. Er hynny, gall digwyddiadau neu amgylchiadau yn y dyfodol achosi’r cwmni i beidio parhau fel busnes byw.

Rydym yn cyfathrebu gyda’r rhai sydd yn gyfrifol am lywodraethu ynglŷn, ymysg materion eraill, paratoi cwmpas ac amseru yr archwiliad a darganfyddiadau sylweddol yr archwiliad, gan gynnwys unrhyw wendidau sylfaenol mewn rheolaeth ariannol a ddarganfuwyd gennym yn ystod ein harchwiliad.

Defnyddio ein adroddiad

Mae’r adroddiad hwn wedi ei wneud i aelodau’r cwmni elusennol yn unig, fel corff, yn unol â Phennod 3 o Adran 16 Deddf Cwmnïau 2006. Rydym wedi ymgymryd a’r gwaith archwilio fel y gallwn adrodd i aelodau’r cwmni elusennol ar y materion hynny y mae’n ofynnol i ni adrodd arnynt mewn adroddiad yr archwiliwr ac i ddim pwrpas arall. Hyd at eithaf â ganiateir trwy gyfraith, nid ydym yn derbyn na chymryd cyfrifoldeb i unrhyw un heblaw y cwmni elusennol ac aelodau’r cwmni elusennol fel corff, am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, nac am y farn yr ydym wedi ei ffurfio.

David Chidley (Prif archwiliwr statudol) Dros ac ar ran W J Matthews a’i Fab, Archwiliwr Statudol a Chyfrifwyr Siartredig, 11-15 Y Bont Bridd, CAERNARFON Ll55 1AB Dyddiad:

18

Antur Waunfawr

Datganiad o weithredoedd ariannol (yn cynnwys Cyfrif Incwm a Gwariant) am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022

Holl Holl
Gronfeydd Gronfeydd
Cronfeydd Cronfeydd 31 Mawrth 31 Mawrth
Nodiadau Anghyfyngedig Cyfyngedig 2022 2021
£ £ £ £
Incwm
Rhoddion
Rhoddion a grantiau 3 8,195 83,252 91,447 10,208
Grant Cyfalaf – Porth Yr Aur - 109,869 109,869 168,624
Grant Cyfalaf – Adferiad Gwyrdd - - - 102,685
Incwm o weithgareddau elusennol:
Incwm Safle a Chynllun Cartrefu 4 1,547,334 - 1,547,334 1,631,149
Incwm Warws Werdd 4 414,213 - 414,213 317,438
Incwm Caer Gylchu 4 572,264 - 572,264 519,177
Incwm Beics Menai 4 61,136 - 61,136 35,520
Elw ar werthu ased sefydlog - - - 145
Llog 4 - 4 21
Incwm arall - - - 2,442
Cynllun Cadw Swyddi 10,535 - 10,535 47,207
Grantiau Covid 47,932 47,932 132,436
_ _ _ __
Cyfanswm incwm 2,661,613 193,121 2,854,734 £2,967,052
_ _ _ __
Gwariant
Gweithgareddau elusennol 5 2,554,463 140,980 2,695,443 2,498,099
Colled ar ail-brisio asedau -
_ _ _ __
Cyfanswm gwariant 2,554,463 140,980 2,695,443 2,498,099
_ _ _ __
Cyfanswm adnoddau a ddefnyddiwyd cyn
enillion/colledion eraill a gydnabyddir 107,150 52,141 159,291 468,953
Symudiad net
mewn cronfeydd am y flwyddyn 107,150 52,141 159,291 468,953
Cronfeydd ar 1af Ebrill 2021 3,833,370 970,312 4,803,682 4,334,729
_ _ _ _
Cronfeydd ar 31ain Mawrth 2022 3,940,520 1,022,453 4,962,973 4,803,682
======= ======= ======= =======

Mae’r canlyniadau uchod yn deillio i gyd o weithgareddau sydd yn parhau.

19

Antur Waunfawr

Antur Waunfawr
Mantolenar 31ain Mawrth 2022
(Rhif Cofrestru’r Cwmni: 1832813)
2022 2021
Nodiadau £ £
Buddiannau Sefydlog
Buddiannau sefydlog dirweddol 12 3,893,586 3,863,325
Buddiannau cyfredol
Stoc 13 22,573 11,124
Dyledwyr 14 131,415 253,227
Arian mewn banc ac mewn llaw 1,012,711 949,097
__ __
1,166,699 1,213,448
Credydwyr: symiau yn ddyledus o fewn blwyddyn 15 68,470 230,172
_ __
Asedau cyfredol net 1,098,229 983,276
__ __
Cyfanswm asedau llai rhwymedigaethau cyfredol 4,991,815 4,846,601
Credydwyr: symiau yn ddyledus ar ôl blwyddyn 16 28,842 42,919
__ __
Asedau Net 4,962,973 4,803,682
======= ========
Cronfeydd
Cronfeydd Incwm
Cronfeydd anghyfyngedig 20 3,940,520 3,833,370
Cronfeydd cyfyngedig 20 1,022,453 970,312
_ __
4,962,973 4,803,682
======= =======

.......................................................

Mr Rhys Evans (Cyfarwyddwr)

Dyddiad :

20

Antur Waunfawr

Datganiad ynghylch llif arian am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022

Nodyn 2022 2021
£ £
Llif arian net o weithgareddau gweithredol 18 166,926 434,234
_ _
Llif arian o weithgareddau buddsoddi
Llog a dderbyniwyd 4 21
Derbyniadau o werthiant asedau sefydlog - 145
Prynu asedau sefydlog 12 (89,238) (760,316)
_ _
Arian a ddefnyddiwyd i fuddsoddi (89,234) (760,150)
_ _
Llif arian o weithgareddau ariannu
Derbyniad ariannu hur bwrcas - -
Ad-daliad oblygiadau hur bwrcas (14,078) (13,020)
_ _
Arian a dderbynwyd o weithgareddau ariannu (14,078) (13,020)
_ _
(Lleihad)/Cynnydd mewn arian a chyfatebolion arian 63,614 (338,936)
Arian a chyfatebolion arian ar 1 Ebrill 2021 949,097 1,288,033
__ __
Arian a chyfatebolion arian ar 31 Mawrth 2022 1,012,711 949,097
======= =======

21

Antur Waunfawr

Datganiad o newidiadau mewn cyllid a ddefnyddiwyd i dderbyn asedau sefydlog at ddefnydd yr elusen am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022

Gronfeydd Gronfeydd
Cronfeydd Cronfeydd 31 Mawrth 31 Mawrth
Anghyfyngedig Cyfyngedig 2022 2021
£ £ £ £
Symudiad net mewn cronfeydd 107,150 52,141 159,291 468,953
Adnoddau a ddefnyddiwyd i dderbyn
Asedau sefydlog net - (89,236) (89,236) (760,316)
_ _ _ _
Symudiad net mewn cronfeydd ar gael at
weithgareddau y dyfodol 107,150 (37,095) 70,055 (291,363)
======= ======= ======= =======

22

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022

1. Polisïau cyfrifyddol

Mae’r prif bolisïau cyfrifo a fabwysiadwyd, penderfyniadau a phrif ffynonellau ansicrwydd â amcangyfrifir wrth baratoi y datganiadau ariannol fel a ganlyn:

a) Sail paratoi cyfrifon

Mae’r datganiadau ariannol wedi eu darparu yn unol a “Cyfrifo ac Adrodd gan Elusennau” Datganiad o Ymarferion Cymeradwyol sydd yn berthnasol i elusennau sydd yn paratoi eu cyfrifon yn unol a’r Datganiad o Weithredoedd Ariannol sydd yn berthynol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) – (SORP Elusennau (FRS102)), yr Safon Adrodd Ariannol sydd yn berthynol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) a Deddf Cwmniau 2006.

Mae Antur Waunfawr yn bodloni gofynion diffiniad uned budd cyhoeddus dan FRS102. Cydnabyddir asedau a rhwymedigaethau yn wreiddiol ar sail cost hanesyddol neu werth trafodion os na nodir yn wahanol yn y nodyn polisi cyfrifo perthnasol.

Mae’r ymddiriedolwyr yn cysidro nad oes ansicrwydd sylweddol am allu’r cwmni elusennol i barhau fel busnes byw.

b) Cyfrifo cronfeydd

Cronfeydd cyffredinol yw cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i’w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb eu penodi at unrhyw bwrpas arall.

Mae cronfeydd dynodedig yn cynnwys cronfeydd anghyfyngedig sydd wedi eu rhoi i’r neilltu gan yr ymddiriedolwyr at bwrpas arbennig. Mae nod a defnydd y cronfeydd dynodedig wedi eu disgrifio yn y nodiadau i’r cyfrifon.

Cronfeydd cyfyngedig yw cronfeydd sydd i’w defnyddio yn unol a chyfyngiadau penodol dan amodau’r rhoddwr neu sydd wedi eu codi gan yr elusen at bwrpas arbennig. Mae’r costau o godi a gweinyddu’r cronfeydd wedi eu nodi yn erbyn y cronfeydd penodedig. Mae nod pob cronfa gyfyngedig wedi eu nodi yn y nodiadau i’r cyfrifon.

c) Incwm

Dangosir incwm yn y Datganiad o Weithredoedd Ariannol pan fydd gan yr elusen hawl cyfreithlon i’r incwm, bydd canllawiau perfformio dan dermau yr ffynonellau incwm wedi eu cyfarfod, bydd yn debygol y derbynnir yr incwm a gellir mesur y swm yn rhesymol fanwl.

Cydnabyddir am grantiau llywordraeth a grantiau eraill, boed y grant yn grant refeniw neu gyfalaf, Ariannol pan fydd gan yr elusen hawl cyfreithlon i’r incwm, bydd canllawiau perfformio dan dermau yr ffynonellau incwm wedi eu cyfarfod, bydd yn debygol y derbynnir yr incwm a gellir mesur y swm yn rhesymol fanwl ac nac oes angen gohirio’r incwm.

ch) Gwariant a TAW anadferadwy

Cydnabyddir gwariant pan mae oblygiad cyfreithiol neu weithredol i wneud taliad i drydydd person, y mae’n debygol fydd taliad yn angenrheidiol a gellir mesur yr blygiad yn ddibynadwy.

Cyfrifir TAW na ellir ei hawlio fel cost yn erbyn y gweithgaredd a achosodd y gwariant.

d) Dosbarthiad costau cynorthwyol

Costau cynorthwyol yw gweithgareddau sydd yn cefnogi gwaith yr elusen ond sydd ddim yn ymwneud a gweithgareddau elusennol yn uniongyrchol. Mae costau cynorthwyol yn cynnwys yr adran weinyddol, cyllid, personél a llywodraethol sydd yn cefnogi y gwahanol brosiectau elusennol. Mae’r costau hyn wedi eu dosbarthu rhwng y gwahanol adrannau fel y dangosir yn nodyn 6.

23

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022

1 Polisïau cyfrifyddol (ymlaen)

dd)

Asedau sefydlog

Mae asedau sefydlog yn cael eu dangos ar sail cost neu ar brisiad y farchnad. Dangosir y buddiannau sefydlog ar gost neu brisiad llai dibrisiant. Cyfrifwyd am ddibrisiant ar sail dileu cost y buddiannau dros gyfnod amcangyfrif o’u hoes fel a ganlyn:

Adeiladau 2% Siediau a thai gwydr 10% Offer 20 -331/3% Moduron 20%

Ni chyfrifir am ddibrisiant ar dir rhyddfreiniol. Nid yw buddiannau sefydlog sydd yn costio llai na £1,000 yn cael eu cyfalafu a byddent yn cael eu dileu ym mlwyddyn prynnu.

e) Stoc

Mae stoc yn cynrychioli asedau a brynwyd i ailwerthu. Prisiwyd y stoc ar y lleiaf o gost neu werth net sylweddoladwy. Nid yw eitemau stoc a dderbyniwyd fel rhoddion neu er mwyn dosbarthu yn cael eu cynnwys yn y datganiadau ariannol nes maent wedi eu gwerthu neu ddosbarthu.

f) Dyledwyr

Cydnabyddir dyledwyr ar y swm cytundebol ar ôl nodi unrhyw disgownt masnachol a gynnigwyd. Dangosir blaendaliadau ar werth y swm a dalwyd ymlaen llaw llai unrhyw ddisgownt masnachol a dderbyniwyd.

ff) Arian mewn banc ac mewn llaw

Mae arian mewn banc ac mewn llaw yn cynnwys arian buddsoddiadau tymor byr sydd yn aeddfedu o fewn tri mis o’u caffael neu o agor y cyfrif adnau.

g) Credydwyr a darpariaethau

Cydnabyddir credydwyr a darpariaethau pan fydd gan yr elusen oblygiad cyfredol yn deillio o ddigwyddiad yn y gorffennol gyda’r canlyniad tebygol o drosglwyddiad o eiddo i drydydd person a gellir mesur y swm angenrheidiol i setlo’r oblygiad yn ddibynadwy. Cydnabyddir credydwyr a darpariaethau ar y swm setlo llai unrhyw ddisgownt masnachol a dderbyniwyd.

nh) Offerynnau ariannol

Dim ond offerynnau ariannol sylfaenol sydd gan yr elusen. Cofnodir offerynnau ariannol sylfaenol i dechrau ar bris y contract os nad yw’r trefniant yn sefydlu gweithrediad ariannu, pan fyddent yn cael eu cofnodi ar werth presennol taliadau yn y dyfodol wedi eu gostyngu ar raddfa llog y farchnad am offeryn ariannol tebyg.

h) Costau pensiwn

Mae’r gost o baratoi pensiwn a manteision cyffelyb yn cael eu prisio i’r Datganiad o Weithredoedd ariannol fel mae’r rhwymedigaeth yn codi. Mae’r elusen yn talu cyfraniadau pensiwn ar sail cyfraniadau wedi eu diffinio.

2 Statws y cwmni

Mae’r cwmni yn gyfyngedig drwy warant. Wrth ddirwyn i ben neu ddiddymu’r cwmni ac wedi bodloni ei holl ddyledion a’i rwymedigaethau, os erys unrhyw eiddo o gwbl yn weddill, ni thelir ef i aelodau’r cwmni na’i ddosbarthu yn eu mysg, ond yn hytrach ei roi i sefydliad elusennol arall gydag amcanion cyffelyb i amcanion y cwmni.

24

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022

3. Rhoddion a grantiau gwirfoddol

Rhoddion a grantiau gwirfoddol
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfyngedig Cyfyngedig 2022 2021
£ £ £ £
Grant Heddlu Gogledd Cymru - - - 2,500
Grant Adferiad Gwyrdd - - - 3,470
Rhoddion 8,195 - 8,195 4,238
Grant Adfer Cyngor Gwynedd - 14,854 14,854 -
Grantiau Gan Cyngor Sir Fflint - 8,550 8,550 -
Grant Betsi Cadwalader - 4,500 4,500 -
Cronfa Adfer Y Gwasanaethau Gwirfoddol 55,348 55,348 -
_ _ _ _
8,195 83,252 91,447 10,208
_ _ _ _

4. Incwm o weithgareddau elusennol

Incwm o weithgareddau elusennol
Safle &
Cynllun Warws Caer- Beics Cyfanswm Cyfanswm
Cartrefu Werdd Gylchu Menai 2022 2021
£ £ £ £ £ £
Cytundebau Gwasanaeth 1,430,884 152,022 101,203 33,336 1,717,445 1,834,737
Cronfa Byw yn Annibynnol - - - - - 324
Cytundeb Ailgylchu - 76,672 257,468 - 334,140 334,140
Grant ICF - - - - - 5,278
Incwm Caergylchu - - 213,593 - 213,593 160,797
Incwm Warws Werdd - 185,519 - - 185,519 84,898
Incwm Safle a Chynllun Cartrefu 112,582 - - - 112,582 79,396
Incwm Beics Menai - - - 27,800 27,800 74
Incwm arall 3,868 - - - 3,868 3,640
_ _ _ _ __ __
1,547,334 414,213 572,264 61,136 2,594,947 2,503,284
_ _ _ _ __ __

25

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022

5. Dadansodiad o wariant ar weithgareddau elusennol

Safle &
Cynllun Warws Caer- Beics Cyfanswm Cyfanswm
Cartrefu Werdd Gylchu Menai 2022 2021
£ £ £ £ £ £
Costau staff 1,118,996 197,407 397,656 72,672 1,786,731 1,684,818
Nwyddau i’w gwerthu a thraul 767 54,448 10,374 10,954 76,544 49,231
Cafe/ Bwyd 13,081 - - - 13,081 13,124
Safle ac adnewyddu 59,117 33,590 12,889 19,911 125,507 132,888
Teithio a chostau buddiolwyr 41,775 31,678 43,354 2,802 119,609 103,714
Costau swyddfa 10,458 8,408 6,148 8,806 33,820 32,250
Hyfforddiant 13,156 2,135 1,797 14,309 31,396 8,213
Costau staff - 2,584 902 - 3,486 1,848
Costau marchnata 53 50 9,236 1,944 11,283 4,519
Costau proffesiynol 3,734 - 7,274 47 11,055 2,973
Dibrisiant 4,870 16,346 7,581 10,676 39,473 20,630
Llogau - 3,576 - - 3,576 4,597
Dyledwyr drwg - - 7,467 - 7,467 -
Eraill 364 1,129 5 744 2,242 7,013
Costau llywodraethol 14,739 2,209 5,206 1,568 23,722 22,147
Costau cynorthwyol 252,528 37,849 89,206 26,866 406,449 410,134
__ _ _ __ _ __
1,533,638 391,411 599,095 171,299 2,695,443 2,498,099
__ _ _ __ __ _

Roedd gwariant ar weithgareddau elusennol yn £2,695,443 (2021 - £2,498,099). O’r gwariant yma roedd £2,554,463 (2021-£2,470,974) yn anghyfyngedig a £140,980 (2021 - £27,125) yn gyfyngedig.

6. Dadansoddiad o gostau llywodraethol a chynorthwyol

I ddechrau, mae’r cwmni elusennol yn nodi ei gostau cynorthwyol. Yna nodir y costau sydd yn berthnasol i’r pwrpas llywodraethol. Wedi adnabod y costau llywodraethol, rhannir y costau cynorthwyol cyffredinol a’r costau llywodraethol rhwng y pedwar gweithgaredd elusennol a ymgymerwyd yn ystod y flwyddyn. Nodir sail dosbarthiad y costau rhwng y gweithgareddau elusennol yn y tabl isod.

Costau
Sail Cynorthwyol Cyfanswm Cyfanswm
Dosbarthu CyffredinolLlywodraethol 2022 2021
£ £ £ £
Costau staff Amser staff 236,594 15,110 251,704 240,394
Safle ac adnewyddu Defnydd 34,143 - 34,143 36,791
Costau Covid Defnydd 31,290 - 31,290 43,584
Swyddfa Defnydd 36,457 - 36,457 62,826
Teithio Defnydd 3,464 - 3,464 -
Hyfforddiant Defnydd 2,993 - 2,993 2,856
Hysbysebu a marchnata Defnydd 12,350 - 12,350 2,810
Archwilio/Cyfrifydd Defnydd - 8,612 8,612 8,413
Proffesiynnol Trafodion 28,915 - 28,915 19,887
Dibrisiant Defnydd 19,504 - 19,504 13,984
Eraill Trafodion 739 - 739 736
_ _ _ __
406,449 23,722 430,171 432,281
_ __ _ __

26

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022

7. Incwm net am y flwyddyn

Incwm net am y flwyddyn
Nodir yr incwm net ar ôl codi: 2022 2021
£ £
Dibrisiant 58,977 34,614
Ffioedd archwilio 5,950 5,912
Archwiliwr – ffioedd eraill 2,660 2,501
_ ______
Costau staff a chydnabyddiaeth yr ymddiriedolwyr
2022 2021
£ £
Cyflogau 1,761,700 1,651,167
Cyflogau gweithwyr 54,580 49,304
Yswiriant cenedlaethol 135,640 137,160
Costau pensiwn 86,515 87,581
__ __
2,038,435 1,925,212
__ __

8. Costau staff a chydnabyddiaeth yr ymddiriedolwyr

Cyfanswm nifer cyflogedig ar sail blwyddyn cyflawn oedd 162 ( 2021 – 154 ). Nid oedd cydnabyddiaeth unrhyw aelod o staff dros £60,000 y flwyddyn.

Ni dderbyniwyd ffioedd na thal rheoli gan ymddiriedolwyr yr elusen yn ystod y flwyddyn (2021 – Dim). Ni wnaed taliadau i ymddiriedolwyr yr elusen am gostau a achoswyd (2021 – Dim). Ni wnaethpwyd taliad am wasanaethau proffesiynol nac am wasanaethau eraill i ymddiriedolwyr yr elusen yn ystod y flwyddyn (2021 – Dim) .

Mae personél rheoli allweddol yr elusen yn cynnwys yr ymddiriedolwyr a’r tim rheoli. Roedd cydnabyddiaeth personél rheoli allweddol yr elusen yn £268,975 (2021 - £253,672) .

2022 2021
Nifer Nifer
Prif weithredwr 1 1
Uwch reolwyr 3 3
Rheolwyr 10 9
Safle 26 25
Ail Gylchu 13 13
Warws Werdd 5 5
Cynllun Cartrefu 23 27
Beics Menai 2 2
Gweinyddol 6 6
Gweithwyr gyda anabledd 73 63
____ ____
162 154
=== ===

27

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022

9. Trafodion Partion Cysylltiedig

Ni fu trafodion gyda partïon cysylltiedig yn ystod y flwyddyn. Nid oedd symiau yn ddyledus i na dyledus gan bartïon cysylltiedig ar ddiwedd y flwyddyn (2021 - £Dim) .

10. Grantiau Llywodraeth

Mae incwm grantiau llywodraeth yn cynnwys cytundebau gwasanaeth gyda awdurdodai lleol i ffynonellau gwasanaethau buddiannol i fuddiolwyr yr elusen.

11. Treth gorfforaeth

Mae gan Antur Waunfawr eithriad o dreth ar incwm ac enillion dan Adran 505 o Ddeddf Treth 1988 ac adran 252 o’r Ddeddf Treth Enillion Cyfalaf 1992 i’r eithaf eu defnyddir at ei nodau elusennol.

12.

Buddiannau sefydlog

Tir ac
Adeiladau Offer Moduron Cyfanswm
£ £ £ £
Cost/Gwerth
Ar 1af Ebrill 2021 3,860,303 495,615 114,602 4,470,520
Ychwanegiadau 74,262 14,976 - 89,238
__ __ __ __
Ar 31ain Mawrth 2022 3,934,565 510,591 114,602 4,559,758
__ __ __ __
Dibrisiant
Ar 1af Ebrill 2021 229,160 359,881 18,154 607,195
Cost am y flwyddyn 19,524 20,164 19,289 58,977
_ _ _ _
Ar 31ain Mawrth 2022 248,684 380,045 37,443 666,172
_ _ _ _
Gwerth Llyfr Net
Ar 31ain Mawrth 2022 3,685,881 130,546 77,159 3,893,586
======== ======= ===== =======
Ar 31ain Mawrth 2021 3,631,143 135,734 96,448 3,863,325
======== ======= ===== =======

Yn gynwysedig yn y £3,137,622 mae £20,000 sydd yn werth tir yn Waunfawr ac £38,599 o dir yng Nghaernarfon . Ail brisiwyd y tir ac adeiladau yn Waunfawr ac Warws Werdd yng Nghaernarfon gan Dafydd Hardy, syrfewyr siartredig yn mis Mawrth 2020. Rhoddwyd gwerth y tir ac adeiladau yn Waunfawr fel £2,165,000. Mae’r gwerth yma yn isel ac yn llai na’r disgwyl oherwydd yr ansicrwydd yn y farchnad eiddo yn dilyn y pandemic Covid-19. Cost gwreiddiol yr asedau sefydlog yw £3,935,815 (2021-£3,861,553) a buasai dibrisiant o £208,476, (2021- £191,367) wedi ei godi arnynt.

13. Stoc

Stoc 2022 2021
£ £
Cynnwys stoc:
Stoc Warws Werdd 10,496 8,674
Stoc Beics Menai 4,050 2,150
Stoc siop 4,016 200
Stoc cafe 1,881 100
Stoc Caergylchu 2,130 -
______ ______
22,573 11,124
______ ______

28

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022

14. Dyledwyr 2022 2021
£ £
Grantiau, cytundebau a dyledwyr masnachol 122,949 242,257
Dyledwyr eraill 8,466 10,971
_ _
131,415 253,228
_ _
15. Credydwyr:symiau yn ddyledus o fewn blwyddyn
2022 2021
£ £
Credydwyr masnachol 1,133 19,225
Swm yn ddyledus dan gytundeb hur bwrcas 14,708 13,994
Treth a nawdd cymdeithasol 23,557 131
Croniadau ac incwm gohiriedig 29,072 196,822
_ _
68,470 230,172
_ _
16. Credydwyr:symiau yn ddyledus ar ol blwyddyn
2022 2021
£ £
Swm yn ddyledus dan gytundeb hur bwrcas 28,842 42,919
(yn daladwy mewn llai na 5 blywyddyn) _ _
17. Offerynnau ariannol
17. Offerynnau ariannol
Yr offerynnau ariannol a fesurir ar sail cost wedi ei amorteiddio yw’r benthyciad hur bwrcas.
2022 2021
£ £
Swm yn ddyledus o fewn blwyddyn 14,708 13,994
Swm yn ddyledus dros blwyddyn ond o fewn pum mlynedd 28,842 42,919
_ ______
Cyfanswm 43,550 56,913
_ _
18. Cymodi'r elw gweithredol â'r mewnlif arian net o weithgareddau gweithredol
2022 2021
£ £
Symudiad net mewn cronfeydd 159,291 468,953
Llog a dderbyniwyd (4) (21)
Dibrisiant 58,977 34,614
Elw ar werthu ased - (145)
(Cynnydd) Lleihad/ mewn stoc (11,449) (3,542)
(Cynnydd)/Lleihad mewn dyledwyr 121,813 113,555
Cynydd/(Lleihad) mewn credydwyr (161,702) (179,180)
__ _
Llif arian net o
weithgareddau gweithredol 166,926 434,234
======= =======

29

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022

19. Ymroddiad cyfalaf

Ar ddiwedd y flwyddyn roedd gan Antur Waunfawr ymroddiad cyfalaf ynglŷn a datblygiad adeiladu o £700,118 (2021 - £DIM ).

20. Cronfeydd cyfyngedig

31 Mawrth Trosglwydd Adnoddau Ail -
2021 -iadau
Cyllid
Brisio Cyfanswm
£ £ £ £ £
Warws Werdd 358,640 - (10,548) - 348,092
Sgubor Grefftau 8,797 - (251) - 8,546
Grant Cae Chwarae 22,140 - (1,080) - 21,060
Rhoddion 4,831 - (2,365) - 2,466
Grant Clothworkers Foundation 14,220 - (11,570) - 2,650
Grantiau Porth Yr Aur 458,999 - 98,492 - 557,491
Grant Adferiad Gwyrdd 102,685 - (20,537) - 82,148
_ _ _ _ _
970,312 52,141 1,022,453
_ _ _ ______ _
31 Mawrth Trosglwydd Adnoddau Ail -
2020 -iadau
Cyllid
Brisio Cyfanswm
£ £ £ £ £
Warws Werdd 369,188 - (10,548) - 358,640
Sgubor Grefftau 9,048 - (251) - 8,797
Grant Cae Chwarae 23,220 - (1,080) - 22,140
Rhoddion 4,930 - (99) - 4,831
Grant Clothworkers Foundation 14,220 - - - 14,220
Grantiau Porth yr Aur 290,375 - 168,624 - 458,999
Grant Adferiad Gwyrdd - - 102,685 - 102,685
_ _ _ _ _
710,981 - 259,331 - 970,312
_ _ _ ______ _

30

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022

Cronfeydd anghyfyngedig

Cronfeydd anghyfyngedig
Balans
31 Mawrth Trosglwy- Adnoddau Ail
2021 ddiadau Cyllid Brisio Cyfanswm
£ £ £ £
£
Tal Aelodaeth 182 - - -
182
Cronfa Gyffredinol 2,674,393 (211,240)
107,150
- 2,570,303
Cronfa Ailbrisio 528,088 (2,156)
-
-
525,932
__ ______ ______ ______
_
3,202,663 (213,396)
107,150
3,096,417
Cronfeydd Dynodedig
Cronfa Datblygu Eiddo 119,000 110,500 - -
229,500
Cronfa Wrth Gefn 511,707 102,896 - -
614,603
__ _ _ _
_
3,833,370 - 107,150 - 3,940,520
__ _ _ _
_
Balans
31 Mawrth Trosglwy- Adnoddau Ail
2020 ddiadau Cyllid Brisio Cyfanswm
£ £ £ £
£
Tal Aelodaeth 182 - - -
182
Cronfa Gyffredinol 2,246,131 218,640 209,622 - 2,674,393
Cronfa Ailbrisio 530,244 (2,156)
-
-
528,088
__ ______ ______ ______
_
2,776,557 216,484 209,622 - 3,202,663
Cronfeydd Dynodedig
Cronfa Datblygu Eiddo 339,191 (220,191)
-
-
119,000
Cronfa Wrth Gefn 508,000 3,707 - -
511,707
__ _ _ _
_
3,623,748 - 209,622 - 3,833,370
__ _ _ _
_

21. Dadansoddiad o’r Cronfeydd rhwng yr asedau net ar 31ain Mawrth 2022

Cronfeydd Cronfeydd Cronfa
Cyfyngedig Dynodedig Gyffredinol Cyfanswm
£ £ £ £
Asedau Sefydlog 1,022,453 - 2,871,133 3,893,586
Asedau Cyfredol Net - 844,103 254,126 1,098,229
Credydwyr: symiau yn ddyledus ar ôl blwyddyn - - (28,842) (28,842)
_ _ _ _
Cyfanswm asedau net 1,022,453 844,103 3,096,417 4,962,973
__ _ _ _

31

Antur Waunfawr

Nodiadau i’r datganiadau ariannol am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022

Cronfeydd Anghyfyngedig

Prif weithgaredd y cwmni yw darparu gwaith a hyfforddiant i bobl ag anabledd dysgu, a thrwy hynny gwasanaethu’r gymuned.

Cronfeydd Dynodedig a chyfyngedig

Mae’r cwmni wedi penderfynu ymrwymo arian sydd ar gael wrth gefn er mwyn datblygu eiddo Sied Werdd.

Mae swm yn cynrychioli tri mis o gyflog wedi ei gadw wrth gefn i gyfarfod unrhyw heriau annisgwyl h.y £614,603 ar hyn o bryd. Mae hyn yn unol a chanllawiau ymarfer da y Comisiwn Elusennau ac yn cyfarfod ag amcanion Llywodraethu Da Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

32