# **ANTUR WAUNFAWR (Cwmni yn gyfyngedig trwy warant)** 

**ADRODDIAD a DATGANIADAU ARIANNOL BLWYDDYN HYD AT:  31 MAWRTH 2022** 

**Rhif Elusen:   515445 Rhif Cwmni:  01832813** 



## **Antur Waunfawr** 

|**Antur Waunfawr**||
|---|---|
|**Cynnwys**|**Tudalen**|
|Gwybodaeth cyfreithiol a gweinyddol|2|
|Adroddiad yr ymddiriedolwyr|3-14|
|Adroddiad yr archwiliwr|15-18|
|Datganiad o weithredoedd ariannol|19|
|Mantolen|20|
|Datganiad ynghylch llif arian|21|
|Datganiad o newidiadau mewn cyllid a ddefnyddwyd i dderbyn asedau sefydlog|22|
|Nodiadau yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol|23-32|



1 



## **ANTUR WAUNFAWR** 

## **GWYBODAETH GYFREITHIOL A GWEINYDDOL:** 

|**Rhif Cofrestru’r Elusen:**|**515445**|
|---|---|
|**Rhif Cofrestru’r Cwmni:**|**1832813**|
|**Ymddiriedolwyr**||



## **Aelodau’r Bwrdd:** 

|**Aelodau’r Bwrdd:**||
|---|---|
|Mr. Rhys Evans|Cadeirydd|
|Mr. Huw Ynyr|Is-gadeirydd|
|Mr. Kevin Hughes|Trysorydd|
|Dr. John Prys Morgan Jones||
|Mr. Daron Harris||
|Mrs. Sara Mair Tomos||
|Mrs. Anna Ll. Williams||
|Mrs. Lowri Huws Jones||
|Miss. Gwen Tomos||
|Dr. Catrin Ellis Williams||
|Mr. Terry Parry||
|Mr Norman Williams `|Ymddiswyddo 27.09.21|
|Mr Geraint Stello|Ymddiswyddo 27.09.21|
|Mr John Jones|Ymddiswyddo 27.09.21|
|Mr. Gwyn Llŷn Parry|(Cymeradwywyd gan y Bwrdd ym Mis Mawrth 2022)|
|Ms. Menna Jones|Ysgrifenyddes  -Ymddiswyddo 26.07.22|
|**Y Tîm Rheoli:**||
|Menna Jones|Prif WeithredwraigYmddiswyddo 26.07.22|
|Stephen Goodwin|Uwch Reolwr Gwasanaethau Dydd a Phreswyl|
|Ellen Thirsk|Uwch Reolwraig Adnoddau Dynol|
|Haydn Jones|Uwch Reolwr Tri Busnes Gwyrdd|
|Sioned Hughes|Rheolwraig Cyllid|
|Gwenlli Mai Wynne|Rheolwraig Datblygu Busnes|
|Elain Hughes|Rheolwraig Datblygu Busnes|



## **Swyddfa Gofrestredig a Gweinyddol:** 

Bryn Pistyll Waunfawr Caernarfon Gwynedd LL55 4BJ 

**Cyfreithwyr:** Iestyn T. Harris, Carter Vincent LLP, The Port House, Porth Penrhyn, Bangor, Gwynedd, LL57 4HN 

## **Bancwyr:** 

Banc Barclays, Grŵp Canghennau Gwynedd, Bangor, Gwynedd 

**Archwilwyr:** W.J. Matthews a’i Fab, 11-15 Y Bont Bridd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AB 

2 



**ADRODDIAD BWRDD YMDDIRIEDOLWYR ANTUR WAUNFAWR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022** 

## **RHAGAIR** 

Cofnod o waith Antur Waunfawr yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022 yw’r adroddiad hwn. Mae sylw yma i waith a phrosiectau’r Antur a hefyd ein hymdrechion parhaus i warchod ein hunigolion a’n staff o ran y pandemig Cofid-19. Mae’n parhau i fod yn gyfnod anodd ond gallwn hefyd nodi’r llwyddiannau a’r holl a gyflawnwyd er gwaethaf yr heriau a’n wynebwyd. 

Mae’r ymddiriedolwyr, sydd hefyd yn gyfarwyddwyr yr elusen at bwrpas Deddf Cwmnïau, yn cyflwyno'r adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol archwiliedig am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2022, sydd hefyd wedi eu paratoi er mwyn cwrdd â’r angen am adroddiad cyfarwyddwyr a chyfrifon at bwrpas Deddf Cwmnϊau. Mae’r datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Elusennau 2011, Deddf Cwmnïau 2006, Erthyglau a Memorandwm y cwmni, a Chyfrifo ac Adrodd gan Elusennau, Datganiad o Weithredoedd Ariannol sydd yn berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102). 

Cwmni Cyfyngedig drwy Warant yw Antur Waunfawr a wnaed yn Gwmni Corfforedig ar 13eg Gorffennaf 1984 ac a gofrestrwyd yn Elusen ar 6ed Awst 1984. Sefydlwyd y Cwmni o dan Femorandwm y Cwmni sy’n sefydlu amcanion ac awdurdod y cwmni elusennol hwn ac yn cael ei reoli gan Erthyglau’r Cwmni. 

## **NOD AC AMCANION** 

Mae Memorandwm Antur Waunfawr yn cyhoeddi ein nod fel a ganlyn; 

“I hyrwyddo a chymryd rhan yng nghymorth a gofal bobl ag anawsterau dysgu ac unigolion ag anableddau corfforol a gyfeirir atom gan asiantaethau statudol, yn Sir Gwynedd a’r cylch:- drwy ddarparu, a rhoi cymorth yn y ddarpariaeth o gynnig cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth, heb eithrio hil, oed neu ryw na thybiaethau gwleidyddol, crefyddol neu dybiaethau eraill.” 

Mae’r Bwrdd yn trafod nod yr elusen yn rheolaidd ac yn ei gadw mewn cof wrth gynllunio a datblygu ei strategaeth ar gyfer y Cwmni. 

Rydym yn cyflawni’r nod drwy: 

- ddarparu gwaith a gweithgaredd ystyrlon a deniadol a chyfleoedd hyfforddiant blaengar mewn amgylchedd cefnogol i unigolion ag anableddau a’r difreintiedig 

- ddarparu cartrefi o ansawdd uchel gyda chefnogaeth a pharch i rymuso’r unigolion i fyw bywydau llawn ac annibynnol fel tenantiaid 

- ddarparu cynlluniau cynaliadwy a gwasanaethau ail-ddefnyddio ac ail-gylchu proffesiynol yng ngogledd Cymru mewn cydweithrediad â chyrff statudol a phreifat 

- ddatblygu modelau o gynllunio person canolog a hyrwyddo Cefnogaeth Weithgar mewn cynlluniau personol unigolion, a rhaeadru’r broses trwy weithgaredd a gwaith yr Antur 

- hyrwyddo integreiddio a byw yn iach ym mhob agwedd o’r gwasanaethau a  darpariaeth hamdden i gyfarch iechyd da, llesiant a hapusrwydd sy’n ateb gwir ofynion yr unigolion 

- ddarparu cyfleusterau hygyrch i ymwelwyr, cwsmeriaid a’r gymuned leol, a meithrin diddordeb a ffynonellau incwm cynaliadwy o’r gweithgareddau a’r safleoedd 

- ddatblygu gweithgareddau cynaliadwy sy’n gydnaws ag anghenion ardal Waunfawr a Chaernarfon a chefnogi’r gymuned ehangach, a gwarchod yr amgylchedd 

- ein canolbwynt newydd llesiant a hwb i’n busnes beicio ym Mhorth yr Aur, Caernarfon 

- fod yn gyflogwr rhagorol a blaengar, a hybu’r iaith, diwylliant, a’r economi leol. 

## **SUT MAE EIN GWEITHGAREDDAU YN CREU BUDD CYHOEDDUS** 

Drwy weithredu’r amcanion uchod, rydym yn ateb anghenion ein hunigolion gydag anableddau dysgu a’r gymdeithas ehangach. 

Daw'r mwyafrif o unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth o Ogledd Gwynedd ond cyfeirir rhai atom gan gynghorau eraill cyfagos. Mae ein gallu i gynnig lleoliadau gwaith neu gartrefi i bobl yn dibynnu ar allu’r asiantaethau statudol i gynnig cytundebau gwasanaeth gofal a llesiant ar eu cyfer. Byddwn yn cyd-weithio gyda’r asiantaethau hyn ar bob achlysur, ac yn ymdrechu yn rhagweithiol i sicrhau cyfleoedd addas i bob person sy’n cael ei gyfeirio atom, ac i 

3 



sicrhau adnoddau teg i roi’r gwasanaeth gorau posib i’n defnyddwyr. Mae mwy o deuluoedd yn hunan gyfeirio erbyn hyn ac mae Antur Waunfawr yn eu cynghori i ymgysylltu a chyd-drafod gwasanaeth posib efo’r gwasanaethau cymdeithasol perthnasol. 

## **CYFLAWNIAD A PHERFFORMIAD** 

Mae Antur Waunfawr wedi ymrwymo i gyfarch ysbryd ac amcanion Deddfau Llywodraeth Cymru, yn bennaf; 

- Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 

- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 

- Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 

Sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd, a llesiant unigolion sy’n derbyn gwasanaethau gan Antur Waunfawr. Mae’n bwysig ein bod yn cydymffurfio â gofynion y Deddfau, ac yn sicrhau fod y cynnwys yn treiddio trwy weithgareddau, prosiectau a gofalaeth Antur Waunfawr. Byddwn yn gweithredu’n unol ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn parhau i weithredu a chynllunio’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, ac yn unol â nod ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ Llywodraeth Cymru, yn rhagweithiol o ran defnyddio a hybu’r Gymraeg. Mae’r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn berthnasol i’n prosiect llesiant a datblygiad newydd Porth yr Aur. 

Wrth lunio ein hamcanion ar gyfer y flwyddyn a chynllunio ein gweithgareddau, mae’r ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus, gan gynnwys y canllaw ‘Budd cyhoeddus: rhedeg elusen (PB2)’. 

Mabwysiadodd yr Antur Ddatganiad Llesiant yn 2016, ac mae’r datganiad yma yn sail i’n darpariaethau llesiant wrth ddatblygu ein gweithgareddau a phrosiectau iechyd a lles i’r dyfodol. 

## **Datganiad Llesiant Antur Waunfawr:** 

“Hyrwyddo llesiant, iechyd da a hapusrwydd, a galluogi unigolion fydd conglfeini gwasanaethau Antur Waunfawr i’r dyfodol. 

Darperir gofal, cefnogaeth weithgar, hyfforddiant a gwaith ystyrlon mewn modd effeithlon a chymesur i ateb gofynion pobl ag anableddau dysgu a phobl  ddifreintiedig yn lleol. 

Fel menter gymdeithasol bydd Antur Waunfawr yn cyfarch anghenion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol y gymuned leol– a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu ddewis iaith yr unigolyn, ac mewn partneriaeth. 

Ein nod yw creu cymdeithas arloesol, gyfartal, gynhyrchiol a charbon isel trwy feithrin teulu o fusnesau cynaliadwy yn lleol - cychwyn wrth ein traed a gweithredu’n uchelgeisiol i sicrhau llesiant a chymunedau gwydn.” 

Mae gan Antur Waunfawr sawl adran lwyddiannus sy’n cynnig cyfleoedd gwaith, hyfforddiant, cyfleoedd llesiant a gwasanaethau amrywiol i unigolion ag anableddau dysgu, a phobl ddifreintiedig. 

Yn sgil y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 adolygwyd swydd ddisgrifiad y Brif Weithredwraig i gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau. Mae’r Ddeddf yn cefnogi nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n diogelu hawliau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth mewn cyfraith. 

## **CROESAWU AELODAU NEWYDD I’R BWRDD RHEOLI** 

## **Recriwtio a Phenodi’r Pwyllgor Rheoli** 

Mae Cyfarwyddwyr y Cwmni hefyd yn ymddiriedolwyr elusennol yn ôl gofynion y gyfraith elusennol. Fe’u hadwaenir yn ôl Memorandwm ac Erthyglau’r Cwmni fel ‘Cyfarwyddwyr’ neu fel ‘Aelodau’r Bwrdd’. Hefyd, mae’r Erthyglau’n gosod amod mai am flwyddyn ar y tro y byddant yn gwasanaethu a bod rhaid ethol neu ail-ethol dim mwy na 15 Cyfarwyddwr yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. 

Rydym yn ffodus fod gennym amrediad da o arbenigedd a phrofiad ar y Bwrdd, sy’n cynnig cefnogaeth a chyngor i’r tîm rheoli yn y meysydd sy’n berthnasol i waith y cwmni e.e. cyllid, cyfreithiol, yswiriant, iechyd, gofal cwsmer, ail- 

4 



gylchu, addysg a hyfforddiant, busnes a hylendid bwyd. Fe wnaeth y Bwrdd barhau i gyfarfod dros y pandemig, a hynny’n rhithiol. 

## **Ymddiriedolwr Newydd** 

Mae Mr. Gwyn Llŷn Parry yn bennaeth Cyllid Gisda, Caernarfon a chanddo gyfrifoldebau strategol dros gyllideb yr elusen – sy’n cynnwys rheoli asedau a chefnogi’r Bwrdd drwy ddadansoddi cyllidebau, adrodd arnynt a’u cynghori yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd yr Is-bwyllgor Cyllid. Yn ogystal, mae ganddo brofiad helaeth o gynnal archwiliadau mewnol Cwmni Gisda. 

## **YMDDISWYDDIAD AELODAU’R CWMNI** 

Diolchwyd i’r ymddiriedolwyr canlynol am eu hymrwymiad a’u gwaith dros y blynyddoedd; Cyn-Gadeirydd y Bwrdd – Mr. John Gwynedd Jones, Mr. Geraint Strello a Mr. Norman Williams. Ffarweliwyd â’r tri ym mis Medi 2021 pan ymddiswyddwyd y tri’n swyddogol fel ymddiriedolwyr. 

## **Anwythiad a Hyfforddiant Ymddiriedolwyr** 

Gan fod Antur Waunfawr wedi ei sefydlu dros 30 mlynedd yn ôl, gyda phroffil uchel o fewn y gymdeithas, mae gan bob darpar gyfarwyddwr wybodaeth dda o’n gwaith. Caiff pob aelod o’r Bwrdd ffeil gyda manylion y strwythur rheolaethol a’r polisïau ynddi. Mae’r Brif Weithredwraig yn treulio amser gyda chyfarwyddwyr newydd, yn eu hanwytho drwy drefnu ymweliadau â'r safleoedd ac ateb cwestiynau. 

## **STRWYTHUR Y TÎM RHEOLI** 

## **Rheolwyr Gweithredol** 

Cynhelir cyfarfodydd Uwch Dîm Rheoli a Thîm Rheoli yn rheolaidd. Bydd cynrychiolydd pob adran hefyd yn cynnal cyfarfodydd gyda’u timau yn ogystal â Gweithgor Iechyd a Diogelwch, Gweithgor Meddiannau a’r Gweithgor TGCh. Mae Is-bwyllgorau hefyd wedi’u sefydlu er mwyn gweithredu ar benderfyniadau neu adolygiadau – megis yr Isbwyllgor Personél a’r Is-bwyllgor Polisïau. Yn ystod y flwyddyn mae'r rhain i gyd yn bwydo adroddiadau i’r Tîm Rheolaethol. 

## _**Menna Jones, Prif Weithredwraig**_ 

Mae Menna yn gwasanaethu ar fyrddau rheoli Menter a Busnes, Canolfan Cydweithredol Cymru ac yn Is-gadeirydd Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn. Mae wedi gweithio mewn mentrau cymdeithasol a chymunedol ers 31 mlynedd ac yn ystod y flwyddyn mi gymerodd gyfrifoldeb ‘Person Cyfrifol’ Antur Waunfawr. Mae wedi ei hyfforddi gan Social Enterprise Academy (Scotland) ar y cyd â Chreu Menter, Conwy i ddatblygu arweinwyr  Academi Mentrau Cymdeithasol Cymru. 

## _**Stephen Goodwin, Uwch Reolwr Gwasanaethau Dydd a Phreswyl**_ 

Mae Stephen yn aelod o Grŵp Trawsffurfio Gwasanaeth, Cyngor Gwynedd.  Mae gan Stephen dros 24 mlynedd o brofiad yn y maes gofal. Mae wedi cymhwyso fel Rheolwr Cofrestredig lefel 4. Mae Stephen hefyd wedi cwblhau cyrsiau mewn arweinyddiaeth a rheoli staff. 

## _**Ellen Thirsk, Uwch Reolwraig Adnoddau Dynol**_ 

Mae Ellen yn Gyfarwyddwr i Galeri, Menter Gymdeithasol a Chreadigol yng Nghaernarfon ac yn Gadeirydd i gorff Llywodraethwyr Ysgol Pendalar. Mae hi wedi gwirfoddoli i’r Samariaid am gyfnod o 15 mlynedd yn y gorffennol ac wedi cael trawstoriad o brofiadau rheoli mewn Iechyd, Tai a Gofal Cymdeithasol dros gyfnod o 31 mlynedd. Mae Ellen yn aelod siartredig o’r corff CIPD ac wedi cymhwyso ar lefel uwch mewn Cyfraith Cyflogaeth ac Iechyd a Diogelwch (NEBOSH). 

## _**Haydn Jones, Uwch Reolwr Busnesau Gwyrdd**_ 

Mae gan Haydn brofiad helaeth o annog unigolion yng Nghymru a dramor tra roedd yn gweithio yn yr America drwy ei waith ‘coaching’ gyda thrawstoriad o unigolion (abl ac anabl) 

Mae ganddo brofiad eang o reoli ac mae’n gyfrifol am reoli a rhedeg gwasanaethau ailddefnyddio ac ailgylchu o fewn yr Antur. 

Mae wedi cymhwyso i lefel graddedig (MA) mewn Addysg ac mae wedi mynychu trawstoriad o gyrsiau rheoli, ac yn ddiweddar wedi cwblhau NVQ Lefel 3 mewn Ailgylchu. 

## _**Sioned Hughes, Rheolwraig Cyllid**_ 

5 



Mae gan Sioned arbenigaeth a phrofiad eang o’r maes cyllid a gweinyddiaeth, rheoli busnes a datblygu a sefydlu sustemau a gweithdrefnau. Mae wedi ei chymhwyso i Lefel 4 yn ‘Association of Accounting Technicians’ Mae ganddi sgiliau rheoli da ac wedi mynychu trawstoriad o gyrsiau cyllid a rheolaeth, yn ogystal â phrofiad helaeth o ddelio gyda sefydliadau allanol, e.e., cyfrifydd, prif bartneriaid ariannol, ayb. 

## _**Elain Hughes, Rheolwraig Datblygu Busnes**_ 

Graddiodd Elain o Brifysgol Aberystwyth yn 2015 efo gradd BA Cymraeg Proffesiynol ac mae wedi gweithio i’r Antur ers 2016. Mae ganddi wybodaeth eang o Antur Waunfawr gan ei bod wedi bod yn gynorthwyydd personol i Menna ac wedi gweithio’n agos gyda phob adran; y tîm Rheoli, Uwch Reoli a’r Bwrdd dros y pum mlynedd diwethaf. Prif ganolbwynt ei gwaith yn ddiweddar yw rheoli a datblygu prosiectau cyfalaf Porth yr Aur a’r Sied Werdd. Mae Elain yn bwynt cyswllt i bartneriaethau newydd ac yn presenoli mewn digwyddiadau, cyfarfodydd a grwpiau ffocws allanol. 

## _**Gwenlli Wynne, Rheolwraig Datblygu Busnes**_ 

Mae gan Gwenlli ddealltwriaeth a phrofiad gyda phob adran yn Antur Waunfawr gan ei bod wedi bod yn gynorthwyydd personol i Menna a Huw Davies (cyn-Ddirprwy Brif Weithredwr) cyn symud ymlaen i’w swydd bresennol. Mae ganddi BSc Gofal Iechyd a Chymdeithasol. Mae Gwenlli wedi mynychu cwrs arwain gyda ‘Learn to Inspire’, ac mae ganddi brofiad helaeth o ddelio gyda sefydliadau allanol megis mentrau cymdeithasol eraill, Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynghorwyr lleol ayb. 

## **GWELEDIGAETH ANTUR WAUNFAWR** 

Gweledigaeth Antur Waunfawr yw galluogi pobl ag anableddau dysgu i integreiddio i’r gymuned leol a chyflawni gwaith ‘go iawn’ gyda phwrpas: Rydym yn Fenter Gymdeithasol flaenllaw sydd yn cynnig cyfleoedd iechyd a llesiant, hyfforddiant a gwaith amrywiol iawn yn ei natur i unigolion ag anableddau dysgu. Yn treiddio trwy hyn oll mae’r thema cynaladwyedd sy’n greiddiol i’n gwaith. Yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwaith i’n hunigolion, mae gan yr Antur nifer o fusnesau llewyrchus, a chaiff yr holl elw ei ail fuddsoddi yn y gwasanaeth i unigolion efo anableddau dysgu ac ein cymuned leol. 

Mae ein nod o integreiddio pobl ag anableddau dysgu i’r gymuned ym mhob agwedd bosib - boed yn waith neu weithgareddau cymdeithasol, yn rhinwedd sydd yr un mor bwysig heddiw ag yr oedd pan sefydlwyd yr Antur. 

## **YMATEB I ARGYFWNG COFID-19:** 

Prif flaenoriaeth yr Antur ydi iechyd, diogelwch a llesiant yr unigolion yr ydym yn eu cefnogi. Ar ddechrau’r pandemig, yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, addaswyd ein strwythurau a strategaethau er mwyn sicrhau cynnal gwasanaethau i unigolion efo anableddau dysgu. Adnabyddwyd flaenoriaethau a chynlluniwyd gyda’n comisiynwyr i ddarparu gwasanaeth i'r unigolion mwyaf bregus ac i gyrraedd ein cwsmeriaid a phartneriaid, gan ddarparu amgylchedd diogel i unigolion a staff, ac i sicrhau parhad busnes Antur Waunfawr. 

## **DIOGELU** 

Parhawyd i ddarparu gwasanaeth i unigolion preswyl, i unigolion gofal dwys yn unol â gofynion teuluol a chomisiynwyr, tra bod rhai unigolion yn cysgodi adref gyda theuluoedd a gwarchodwyr. Roedd rheolaeth lem ar fonitro symptomau, hunan ynysu, profi, olrhain achosion, darpariaeth ddigonol o PPE a chynllun ail agor. 

## **IECHYD MEDDWL** 

Mae iechyd a llesiant meddyliol llawn mor bwysig ag iechyd a llesiant corfforol. Roedd yn anorfod bod y cyfyngiadau a newidiadau sylweddol i fywydau yn mynd i effeithio iechyd a lles meddyliol unigolion, teuluoedd, gwarchodwyr a staff yn ddiwahân. Roedd staff penodedig yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd gydag unigolion, teuluoedd, gwarchodwyr a staff oedd adref yn cysgodi, ac roedd yn gyfle hefyd i gynnal digwyddiadau megis bore coffi, bingo a chwis ar-lein. 

Ein nod oedd darparu a chynnal y gwasanaethau gofal ac iechyd a llesiant i’r safon gorau posib o dan amgylchiadau heriol, drwy gynllunio ar gyfer anghenion yr unigolion, cynnal trafodaethau parhaus gyda’n comisiynwyr gwasanaeth a gofalwyr drwy gydol y cyfnod cysgodi ac wrth gynllunio i unigolion ddychwelyd yn ôl i'r gwasanaeth. Roedd angen sicrhau’r cydbwysedd rhwng lles iechyd corfforol a lles meddyliol, a thrwy hynny sicrhau dyfodol Antur Waunfawr fel Menter Gymdeithasol. 

Cymerwyd camau bychan i groesawu ein hunigolion yn ôl yn ddiogel ac yn raddol i’r gweithle, gan addasu a pharatoi gofodau i gynnal a chefnogi’r gwasanaethau dydd. 

6 



Cafwyd pum sesiwn gan Dr. Ioan Rees Seicolegydd ar gyfer Uwch Reolwyr a Rheolwyr ar gyfer ymdopi ac adlewyrchu ar y cyfnod heriol a wynebwyd gyda Covid a syniadau a thactegau ar gyfer symud ymlaen. 

## **GWARCHOD EIN STAFF A’R CYHOEDD** 

Ar ôl cyfnod heriol o ddelio gyda cofid roeddem yn falch iawn, fel llawer un o gael ychydig o normalrwydd nôl yn ein gwasanaethau. Parhawyd i ddilyn canllawiau’r Llywodraeth a’n cynllun cofid - dogfen fewnol Antur Waunfawr i ddiogelu iechyd yr unigolion a’n staff. 

Drwy barhau i ddilyn rheolau ag asesiadau risg roedd posib ail gychwyn gweithgareddau iechyd a llesiant i unigolion Antur Waunfawr ag ail gychwyn gyda’n rhaglen llesiant. 

Fe warchodwyd a chefnogwyd holl rhanddeiliaid yr Antur, ond yn ogystal, fe roddwyd pwyslais ar iechyd a lles meddyliol yn ystod y cyfnod yma. Fe ymrwymwyd cynlluniau llesiant, iechyd meddwl, iechyd corfforol, ac ymwybyddiaeth ofalgar i’r strategaeth led-led y Cwmni. Yn ogystal, llwyddwyd i weddnewid a thrawsnewid, gan gynnig gwasanaethau gwahanol ar gyfer y dyfodol er mwyn cynnig amrywiaeth a phrofiadau gwaith i unigolion ag anableddau dysgu. 

## **TRI BUSNES GWYRDD** 

## **WARWS WERDD** 

Canolfan a siop sy’n ailgylchu ac ailddefnyddio dodrefn a dillad ydi’r Warws Werdd. Rydym yn ailddefnyddio ac ailgylchu 277 tunnell o ddillad a dodrefn y flwyddyn fel rheol. 

Fe ail-agorwyd y Warws i'r cyhoedd ym mis Mawrth 2022 ar ôl cyfnod o fod ar gau yn ystod y pandemig er mwyn creu gofod diogel i'r unigolion weithio. 

## **Dillad** 

Yn ystod 2021/22, fe ganolbwyntiwyd ar gasglu, didoli a phrosesu dillad er mwyn cynnal y gwasanaeth a’r incwm. Yn ystod y flwyddyn gwelwyd cyfle i ddatblygu’r cynllun dillad ymhellach, a datblygwyd ein partneriaeth gyda’r masnachwyr dillad - Roberts Recycling Ltd. O fis Gorffennaf ymlaen, yn ogystal â gwasanaethu ein biniau ein hunain rydym hefyd wedi bod yn casglu a phrosesu gan y Gwasanaeth Tân, Seren a Tyddyn Môn. Golygai hyn gynnydd o oddeutu 400% yn y tunelledd ydym yn ei brosesu, gan gynyddu ein tunelledd wythnosol o 2 dunnell i 10 tunnell yr wythnos. Dros y flwyddyn, gwnaethom brosesu 382 tunnell o ddillad drwy’r Warws. 

## **Dodrefn** 

Oherwydd cyfyngiadau’r pandemig, roedd y siop ar gau i'r cyhoedd am fwyafrif y flwyddyn ac nid oedd modd i ni gasglu o dai. Yn hytrach, roedd y cyhoedd yn danfon dodrefn i'w ailddefnyddio i ganolfannau ailgylchu’r Cyngor a ninnau yn eu derbyn, ac roedd y dodrefn hyn ynghŷd â gwastraff masnachol yn cael eu gwerthu am brisiau fforddiadwy i Adra, Digartrefedd Môn, Gisda, Grŵp Cynefin ac adran digartrefedd y Cyngor. Yn ystod y flwyddyn, proseswyd 4 tunnell o ddodrefn. 

## **Gwastraff Swmpus** 

Yn ystod y pandemig, gofynnodd Cyngor Gwynedd i ni eu cynorthwyo i ddal i fyny gyda chasgliadau Gwastraff Swmpus. 

**Gofod Trwsio a Chreu** Ffiws Antur Waunfawr 

Rydym wedi derbyn nifer o offer ar gyfer gofod trwsio a chreu o dan frand ‘Ffiws’, sydd wedi ei ariannu gan Gronfa Economi Gylchol drwy law Cyngor Gwynedd. Mae’r offer yn cynnwys argraffwr 3D, torrwr laser, torrwr finyl, a pheiriannau gwnio a brodwaith. Mae’r gofod wedi ei leoli dros dro yn y Warws, a bydd yn symud i adeilad newydd y Sied Werdd pan fydd yn barod. 

Dros y flwyddyn gyfan, mae’r staff ar draws adrannau Antur Waunfawr wedi mynychu sawl hyfforddiant i ymwneud â phrosiect Ffiws Antur Waunfawr. Pwrpas Ffiws Antur Waunfawr yw rhoi cyfle i bawb gael mynediad at offer uwchdechnoleg ac annog ac ysbrydoli creadigrwydd. Yn syml, gofod gwneud yw Ffiws lle mae unigolion Antur Waunfawr yn gallu gwneud pethau gyda chymorth a chefnogaeth staff yr Antur. 

## **SIED WERDD** 

Yn dilyn derbyn grant o £300,000 yn 2018 gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Sied Werdd mewn partneriaeth efo Cyngor Gwynedd er mwyn gwella isadeiledd a chynyddu tunelledd ailgylchu ac ailddefnyddio’r sir, derbyniwyd grant ychwanegol o £202,347.97 o Gronfa Economi Gylchog, Llywodraeth Cymru. 

7 



Penodwyd Ymgynghoriaeth Gwynedd ar gyfer y gwaith dylunio a rheoli prosiect, ac mae’r gwaith datblygu wedi bod yn dod yn ei flaen dros y flwyddyn ddiwethaf. Cynyddodd prisiau adeiladu yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ac roedd y prisiau tendr yn llawer rhy uchel, felly bu’n rhaid ail ddylunio’r adeilad a gwneud gwaith _value engineering_ er mwyn sicrhau prosiect hyfyw. Bydd y sied 170m[2] , gydag ail lawr yr un maint, yn cael ei hadeiladu ar dir sydd yn eiddo i’r Antur, tu ôl i’r Warws Werdd yng Nghibyn. Bydd yr adeilad yn hygyrch, gyda lifft a chyfleusterau cymorth, ac wedi ei dylunio gan ystyried amrywiaeth eang o anghenion  mewn golwg. 

Bydd y llawr gwaelod yn cynnwys gweithdy, gyda meinciau addasedig sydd yn codi i fyny ac i lawr ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn, a pheiriannau ysgafn ar gyfer unigolion gyda gwendid yn eu cyhyrau. Bydd y llawr cyntaf wedi ei rannu i 3 uned, gyda gofodau hyblyg ar gyfer prosiectau ailgylchu ac ailddefnyddio a fydd yn cyfrannu at nod y prosiect. Gall hwn hefyd fod yn ofod addysgiadol ar gyfer grwpiau cymunedol ac ysgolion. Bydd hyn yn rhyddhau gofod yn y Warws Werdd ar gyfer llawr siop. 

## **CAERGYLCHU** 

Canolfan ailgylchu ar Stad Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon, a sefydlwyd mewn partneriaeth â’r cyngor yn 2005 ac sy’n esiampl flaenllaw o gydweithio rhwng y ddau sector. Denwyd £1.7m o grant i Gaergylchu yn 2007. Mewn blwyddyn arferol, rydym yn trin 970 tunnell o blastig y flwyddyn, ac yn ystod y flwyddyn 21/22 danfonwyd 316 tunnell o bapur i'w ailgylchu. 

## **LLARPIO ANTUR** 

Gwasanaeth llarpio papur cyfrinachol, sydd wedi’i leoli yng Nghaergylchu, ac yn gwasanaethu ar hyd Gogledd Cymru i fusnesau a chartrefi, gyda dros 1200 o gwsmeriaid. Rydym yn gweithredu yn unol â gofynion rheolau GDPR. Dros gyfnod Cofid-19 gwelwyd y nifer o gwsmeriaid actif yn disgyn oherwydd bod swyddfeydd ar gau ayb, ond dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r gwasanaeth yn dychwelyd yn ôl i lefelau cyn Cofid-19. 

Dros y misoedd diwethaf mae’r niferoedd wedi cynyddu yn rheolaidd ac wedi sefydlogi, gyda 1,100 sach yn cael ei chasglu mis Mawrth, 2022. 

## **BEICS ANTUR** 

Cwblhawyd y gwaith ar safle Porth yr Aur ym Mai 2021, a symud mewn i weithredu’n fasnachol ym Mehefin 2021. Mae’r adeilad newydd yn ddau lawr, yn gwbl hygyrch gan gynnwys lifft a chawod ac mae Beics Antur wedi ei leoli ar y llawr gwaelod - gwasanaeth hurio, trwsio a gwasanaethu beics, beics addasedig, beics trydan a throsi beics i fod yn rhai trydan. Ar y llawr cyntaf mae Llofft Llesiant, gofod stiwdio 100m[2] ar gyfer pob math o weithgareddau iechyd a llesiant megis dawns, ioga a ffitrwydd, sydd hefyd ar gael i'w llogi ar gyfer cyfarfodydd a hyfforddiant. Yn ychwanegol, mae Ystafell Synhwyraidd ar y llawr cyntaf ar gyfer unigolion ag anghenion dwys neu nam ar y synhwyrau. 

Ers 2017, mae Antur Waunfawr wedi buddsoddi dros £500,000 o gronfeydd wrth gefn yn y prosiect hwn, ac wedi sicrhau dros £500,000 o grantiau. Mae’r rhain yn cynnwys: 

- Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol - £249,558 

- Cronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol trwy Lywodraeth Cymru, wedi ei reoli   gan CGGC - £150,000 

- Cronfa Treftadaeth Bensaernïol - £64,100 

- Cronfa Gofal Canolradd - £40,000 

- Garfield Weston Foundation - £25,000 

## **SAFLE BRYN PISTYLL** 

Eleni, ar ôl inni orfod cau safle Bryn Pistyll i'r cyhoedd dros gyfnod Pandemig Covid-19 i warchod ein hunigolion a’n staff, penderfynwyd trawsnewid ein defnydd o’r adeiladau a’r gofod a gwneud newidiadau i'r dyfodol. Wrth gyflwyno’r unigolion yn ôl mae pwyslais wedi ei roi ar iechyd a lles yr unigolion wedi cyfnod hir yn ynysu. Ac felly er mwyn gwella’r ddarpariaeth roedd yn rhaid edrych ar sut oedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu ar y safle. Enghreifftiau o rai o weithgareddau a drefnwyd yn ystod y cyfnod yw; sesiynau celf, cerdded, dawnsio, ioga, pilates, crefftau, teithiau dirgel a pharatoi cinio cartref. 

## Felly o ganlyniad; 

## **CAFFI BLAS Y WAUN** 

Mae’r caffi yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd, ond penderfynwyd ein bod yn parhau i baratoi prydau bwyd i'r trigolion bregus yn y gymuned oedd wedi cael budd o’r gwasanaeth yn ystod y cyfnod clo. Mae hyn yn caniatáu i ni barhau i 

8 



gydweithio gyda’r gymuned leol (megis ysgolion a grwpiau cymunedol) gan gynnig bwffe, prydau ar glyd a the prynhawn ac mae hyn yn bwysig o safbwynt gwaith sydd yn cael ei gyflawni gan yr unigolion yn ogystal ag elfen o incwm y caffi. 

Ein bwriad yn y dyfodol bydd rhoi ffocws ar fod yn ganolfan bwyd  – gan barhau i gynhyrchu bara brith, jam, fflap jacs a siytni ayb er mwyn gwerthu i'r cyhoedd. Byddwn hefyd yn edrych ar ddarparu ein nwyddau mewn sawl lleoliad ac wrth gwrs yn cydweithio mewn partneriaeth hefo siop leol y Pentref – sef Siop Pant y Waun- sydd yn awyddus i werthu cynnyrch yr Antur. 

## **SIOP GREFFTAU** 

Penderfynwyd cau’r siop grefftau yn barhaol, er mwyn darparu gofod i'r unigolion dderbyn gwasanaeth ar y safle, ac felly ein bwriad fydd symud elfen yma o’r busnes yn ddigidol; byddwn yn agor siop ar-lein Etsy fydd yn rhoi platfform ehangach i ni werthu cynnyrch ac i greu cyfleoedd digidol i'n hunigolion sydd â diddordeb mewn gwaith cyfrifiadurol. 

## **PARC NATUR A GERDDI** 

Ar safle Bryn Pistyll mae 7 erw o erddi a pharc natur, yn ogystal â maes chwarae cynhwysol. Eleni, fe wasanaethwyd y siglen a’i newid i ddefnydd oedolion gyda gallu gwahanol. Yn ystod y cyfnod, fe arwyddwyd ein cytundebau rhandiroedd i gyd, ac un syniad cyffrous i'r dyfodol yw datblygu’r ochr yma o’r busnes, gan gynnig mwy o randiroedd, yn cynnwys pobl hefo anableddau a darparu sesiynau dysgu sgiliau ayb. 

## **BRAGDY ANTUR WAUNFAWR** 

Yn dilyn llwyddiant y bragdy ar y safle ble mae cynnyrch lleol yn cael ei droi’n sudd afal a seidr Perllan y Fro, rydym yn awyddus i gynyddu potensial cynhyrchu’r bragdy: Eleni, enillwyd wobr un seren ar ôl ymgeisio ein seidr Riwbob ac afal yng nghystadleuaeth Blas Cymru 2021. 

Cynhyrchwyd gwerth £875 o seidr i'r cyhoedd, ond gellir cynhyrchu 880 o boteli (420 litr) y mis. Mae pob unigolyn sy’n gweithio ar Safle Waunfawr, os dymunir, yn cael y cyfle i greu seidr yn eu tro. O ganlyniad, mae’r penderfyniad wedi ei wneud i ehangu’r gwaith yma. 

## **BYNGALO GWYLIAU** 

Dros y blynyddoedd diwethaf, yn dilyn buddsoddiad o gronfeydd Antur Waunfawr a grant Cyfenter, rydym wedi bod yn datblygu Byngalo gwyliau hygyrch, sy’n addas i unigolion gydag anableddau, a all hefyd gael ei ddefnyddio ar gyfer llety ysbaid. Cwblhawyd y prosiect yn ystod Gwanwyn 2020. Ers mis Tachwedd mae cytundeb wedi ei sefydlu gyda’r cyngor i flaenoriaethu’r gofod i roi gofal ysbaid i ofalwyr ac unigolion sydd yn gwneud cais trwy’r cyngor. 

## **CYNLLUN CARTREFI AC AML OFYNION** 

Rydym yn darparu gwasanaeth Cymorth Cartref o dan reoliadau Arolygiaeth Gofal Cymru ar gyfer 11 unigolyn lle darparwn gefnogaeth gofal a gofal personol sydd wedi ei deilwra ar gyfer yr unigolion yn unol â’u hanghenion. 

Rydym yn cynnal gwasanaeth aml-ofynion ble mae unigolion gydag anableddau dwys  yn derbyn cefnogaeth un i un, a chyfleoedd iechyd a llesiant. Cafodd y gwasanaeth ei gynnal i'r rhai mwyaf bregus drwy gydol y pandemig. Yn yr haf gyda lefelau covid yn isel cawsom gyfle i ail gydio mewn sesiynau nofio a marchogaeth. Cawsom y fraint o gael Ann a Bill Hopcyn draw i gynnal sesiynau cerdd awyr agored yn wythnosol. Croesawyd unigolyn newydd yn Hydref 2021 ar ôl iddo adael Ysgol Pendalar heb leoliad oherwydd y pandemig. Llwyddom i ail gychwyn y gwasanaeth hamdden sydd yn rhoi boddhad i'r unigolion yr ydym yn eu cefnogi ac ysbaid ar y penwythnos i'r rhieni. 

## **RHWYDWEITHIAU STRATEGOL** 

## **PARTNERIAETHAU NEWYDD A CHYDWEITHIO YN YSTOD Y FLWYDDYN:** 

## **PERTHYNAS AG ASIANTAETHAU ALLANOL** 

Mae Antur Waunfawr yn cynnig gwasanaeth i oedolion ag anableddau dysgu mewn partneriaeth, yn bennaf, ag adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Gwynedd, yn ogystal â Chynghorau Conwy ac Ynys Môn hefyd. Rhagwelwn yn ystod y blynyddoedd nesaf y bydd mwy o bwyslais ar dendro ffurfiol am wasanaethau newydd a gwasanaethau presennol. Mae’r cynghorau yn comisiynu’r gwasanaeth yn unol â’u hasesiad o angen ac rydym yn cytundebu gyda’r cynghorau i ddarparu gwahanol fathau o wasanaeth yn unol â’r asesiad. Ein nod wedyn fel menter gymdeithasol yw hyrwyddo potensial yr unigolion o ran eu gwaith ond hefyd eu datblygiad personol a’u sgiliau. 

Er mewn ffordd wahanol eto eleni, parhawyd i gydweithio gyda swyddogion y Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgol Pendalar, Ysgol Hafod Lon, Coleg Menai, Coleg Meirion Dwyfor, a Glynllifon, yn ystod y flwyddyn, er mwyn cynllunio darpariaethau ar gyfer adnoddau gwell i dderbyn unigolion gydag anghenion mwy dwys. 

9 



## **ADRA:** 

Yn sgil y newid yn y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, golygai nad oeddem mwyach yn gallu parhau i fod yn landlordiaid yn ogystal â darparu gofal personol i’n tenantiaid. Yr opsiwn gorau er lles ein tenantiaid oedd creu partneriaeth gyda chymdeithas tai Adra, sydd yn golygu mai Adra sydd bellach yn landlordiaid ar ein tai. 

Yn ychwanegol, adolygwyd swydd ddisgrifiad y Brif Weithredwraig i gydymffurfio â gofynion y Rheoliadau – Menna Jones yw’r Person Cyfrifol nawr ar gyfer y cwmni. Mae’r Ddeddf yn cefnogi nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n diogelu hawliau unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth mewn cyfraith. 

## **GRŴP LLANDRILLO MENAI A GYRFA CYMRU:** 

Gyda digwyddiadau ‘byw’ wedi’u canslo oherwydd y firws, mi roedd y galw i bresenoli drwy ffurf fideo wedi cynyddu’n sylweddol dros y cyfnod. Fe gynhyrchwyd sawl fideo ar gyfer ddigwyddiadau, yn cynnwys fideo ‘Gweithio i’r Antur’ i fyfyrwyr Iechyd a Gofal Grŵp Llandrillo Menai a Gyrfa Cymru. 

Rydym wedi cydweithio yn gyson gydag RCS Wales ar gyfer cyfeirio staff am gefnogaeth cwnsela a physiotherapi gan sicrhau eu bod yn gallu parhau yn y lle gwaith.  Mae gennym ddwy aelod o’r tîm Adnoddau Dynol sydd wedi’u hyfforddi fel pencampwyr llesiant drwyddynt hefyd. Mae’r adnodd wedi bod yn werthfawr yn arbennig oherwydd y cyfnod heriol yma.  Maent hefyd yn darparu gweminarau llesiant cyson sydd o fudd i allu cefnogi staff. 

## **RHEOLI RISG** 

Mae’r Cwmni wedi creu, dilyn a diweddaru Cynllun Clo cynhwysfawr yn ystod cyfnod y Pandemig gan sicrhau diogelwch a gweithdrefnau gwaith unigolion a staff. Bu i’r Tîm Uwch Reoli gyfarfod yn rheolaidd yn ystod y flwyddyn i sicrhau cydymffurfio â’r gweithdrefnau oedd yn eu lle ar yr adeg. 

## **HAPWIRIAD AROLYGIAETH GOFAL CYMRU** 

Cawsom archwiliad mis Gorffennaf, ac fe gyflwynwyd yr Adroddiad Arolygu i Fwrdd y Cwmni mis Medi; roedd yr adroddiad yn galonogol. 

## **ARCHWILIAD ISO 14001 ac ISO 9001** 

Llwyddwyd i gynnal yr Achrediad ISO 14001 a’r Achrediad ISO 9001 unwaith eto yn dilyn proses fanwl a thrylwyr rhannol-rhithiol a gwaith gwirio mewnol. Mae’r gweithredu ar y broses a’r systemau cysylltiedig yn fuddiol i ni wrth ymgeisio am gytundebau a thendrau i’r dyfodol. 

Mi roedd cydweithio rhagorol wedi bod rhwng y Rheolwyr, a’r adran Adnoddau Dynol - a’r canlyniad oedd cydymffurfiaeth lawn, ac adroddiad teilwng dros ben. 

## **BS EN 15713 GWASANAETH LLARPIO** 

Roedd y gwasanaeth llarpio yn llwyddiannus yn cael yr achrediad BS EN 15713 fis Mawrth 2021 a bydd yn cryfhau ein systemau gweithio yn ogystal ȃ gallu ymgeisio am gytundebau a thendrau newydd. Ychydig iawn o waith ychwanegol oedd ei angen ar gyfer yr achrediad yma gan fod y gwasanaeth llarpio eisoes yn gweithio i’r safon. 

## **DENU A DATBLYGU POBL** 

Mae’r Uwch-reolwraig Adnoddau Dynol yn aelod siartredig o’r corff CIPD ac wedi cymhwyso ar lefel uwch mewn Cyfraith Cyflogaeth i roi cyngor ac arweiniad ar faterion adnoddau dynol ar draws y corff, mae hi hefyd wedi cwblhau cwrs Adnabod a Delio gyda Gwahaniaethu yn y Gweithle. Rydym yn defnyddio cyfreithiwr lleol i ddarparu cefnogaeth pan mae angen. 

Wrth gymryd i ystyriaeth yr hinsawdd economaidd anodd mae cyflogwyr yn eu hwynebu, mae’r Uwch Reolwraig Adnoddau Dynol yn falch o adrodd ein bod eto eleni wedi llwyddo i gynnal yr adnoddau staff angenrheidiol ac wedi cydymffurfio efo holl ofynion gyfraith cyflogaeth. Drwy reoli ein hadnoddau rydym wedi llwyddo i gynnal safon ein gwasanaethau a chynllunio ar gyfer unigolion newydd yn ein gwasanaethau dydd a chefnogaeth cartref. 

Er mwyn sicrhau effeithlonrwydd y cwmni yn ystod y pandemig, roedd yn rhaid sicrhau effeithiolrwydd strwythurau staffio. Penderfynwyd gwobrwyo ymroddiad ein staff a chefnogi’r staff sydd yn arbenigo mewn darparu gofal ar sawl lefel i’n hunigolion ag anableddau dysgu yn y maes gofal. Rhoddwyd blaenoriaeth ar ddatblygu cryfderau a gyrfaoedd, rhoi cyfrifoldebau newydd i staff, rhoi clod i gyrhaeddiad ein staff a chynllunio’n strategol, gan roi pwyslais ar fentora, magu, a chadw staff. 

10 



Mae’r strwythur newydd yn creu llwybr gyrfa i’n gweithwyr cefnogol, a chodiad cyflog i’r rhai a lwyddodd i ateb gofynion y meini prawf uwch. 

Bwriad y strwythur newydd yw magu hyder, datblygu sgiliau a chymwysterau ac annog ein staff i ymgeisio am swyddi uwch. Eleni wnaeth 6 aelod staff lwyddo i gyrraedd y meini prawf uwch ac o ganlyniad maent wedi cymryd lefel uwch o gyfrifoldebau sydd wedi galluogi Is-reolwyr i ganolbwyntio ar faterion strategol yn ystod cyfnod heriol. 

Mae staff yr Antur yn ystod y cyfnod Cofid-19 wedi dangos ymroddiad cryf i waith yr Antur ac mae’r Bwrdd Rheoli a’r Uwch Dim yn ddiolchgar iawn o hyn – fe wnaeth sicrhau rhediad ein gwasanaeth. 

## **STAFF NEWYDD** 

Rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021 fe benodwyd 10 aelod newydd o staff ar draws y cwmni. 

## **HYFFORDDIANT** 

Mae gan yr Antur raglen Hyfforddiant a Datblygiad cynhwysfawr sydd yn ateb gofynion ein gwasanaethau ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, gan sicrhau ein bod yn cadw i safonau megis Arolygiaeth Gofal Cymru a Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Gwynedd, Ynys Môn a Conwy. Rydym yn sicrhau bod gofynion hyfforddiant yn gyfredol ac yn cofrestru ein gweithwyr cefnogol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac maent yn cwblhau gwerthoedd ac egwyddorion o fewn ei 6 mis cyntaf o gychwyn eu cyflogaeth. 

Rydym wedi cofrestru 6 aelod staff yn ystod y cyfnod yma. Byddwn yn parhau i gofrestru staff yn unol â’r gofynion 

Oherwydd Cofid-19 bu’r cyfnod yn heriol iawn o ran gallu hyfforddi staff a chadw ar ben diweddaru hyfforddiant. Llwyddwyd i symud i ddysgu ar lein er mwyn diweddaru hyfforddiant mandadol staff fel datrysiad dros dro. 

## **PROFIADAU GWAITH** 

Ni fu unrhyw brofiadau gwaith yn ystod y cyfnod hwn oherwydd y sefyllfa Cofid-19.  Oherwydd natur y gwasanaeth roedd yn bwysig canolbwyntio ar gadw ein hunigolion yn saff. Rydym yn adolygu profiadau gwaith yn rheolaidd yn ein Gweithgor Iechyd a Diogelwch a gobeithir gallu ailgychwyn profiadau gwaith i fyfyrwyr a disgyblion dros y misoedd nesaf. 

## **CYDNABYDDIAETH** 

Yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth mis Mai 2021 i roi swm o £735 i holl staff rheng flaen, fe wnaeth y Cwmni benderfynu rhoi cydnabyddiaeth o’r un swm i staff nad oedd yn disgyn mewn i gategorïau'r Llywodraeth gan eu bod hwythau wedi bod yn flaenllaw i redeg gwasanaeth gofal yn ystod y pandemig. 

## **UNIGOLION ANTUR WAUNFAWR** 

Daw'r mwyafrif o unigolion sydd yn derbyn gwasanaeth o Ogledd Gwynedd ond cyfeirir rhai atom gan gynghorau eraill cyfagos. Mae ein gallu i gynnig cytundebau gwasanaeth neu gartrefi i bobl yn dibynnu ar allu’r asiantaethau statudol i gynnig cytundebau gwasanaeth gofal a llesiant ar eu cyfer. Byddwn yn cyd-weithio gyda’r asiantaethau hyn ar bob achlysur, ac yn ymdrechu yn rhagweithiol i sicrhau cyfleoedd addas i bob person sy’n cael ei gyfeirio atom, ac i sicrhau adnoddau teg i roi’r gwasanaeth gorau posib i’n defnyddwyr. Mae mwy o deuluoedd yn hunan gyfeirio erbyn hyn ac mae Antur Waunfawr yn eu cynghori i ymgysylltu a chyd-drafod gwasanaeth posib efo’r gwasanaethau cymdeithasol perthnasol. 

## **ANNOG IECHYD A LLESIANT** 

Eleni, cynhaliwyd taith i ddathlu Gŵyl Dewi gyda 27 o unigolion a staff yn cerdded o safle Waunfawr i lawr i sgwâr Caernarfon ac ymunodd dros 20 o’r Warws Werdd, Caergylchu a Beics Antur. Cafwyd croeso a chydnabyddiaeth o bresenoldeb criw’r Antur ar y diwrnod, tra bod y cerddwyr a’r mynychwyr wedi mwynhau yn fawr. 

Yn dilyn llwyddiant y diwrnod allan, fe sefydlwyd taith gerdded wythnosol i unigolion. 

## **ADOLYGIAD CYLLIDOL** 

## **RHODDION** 

11 



Sefydlwyd ein cyfrif PayPal gyda statws ‘elusen’ fel bod posibl gwerthu eitemau heb orfod talu ffioedd gwerthu, a hefyd posib codi arian drwy ddefnyddio botwm ‘PayPal Donate’ drwy system ‘PayPal Giving’. Golygai hyn ei fod bellach yn haws nag erioed i bobl roddi arian i’r Antur, drwy ddull digidol. 

## **PRIF FFYNONELLAU INCWM** 

Prif ffynhonnell incwm y cwmni yw Incwm Cytundebol o’r Awdurdodau Lleol trwy’r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn ogystal mae’r Cwmni yn rhan o bartneriaeth Caergylchu gyda Chyngor Gwynedd a chytundebir gyda’r Cyngor am y gwaith hwn. Mae incwm masnachol o werthu gwasanaeth i gwmnïau ac unigolion, a chynnyrch Antur Waunfawr, yn dod ag incwm hollbwysig i’r Antur. 

## **DENU GRANTIAU A CHRONFEYDD NEWYDD** 

Yn ystod y flwyddyn, llwyddwyd i sicrhau’r grantiau canlynol: 

- Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol, CGGC - £86,148.24 

- Trawsnewid Anableddau Dysgu, Cyngor Fflint - £8,100 

- North Wales Seed Funding, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - £4,500 

- Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol - £22,694 

## **POLISI ARIAN WRTH GEFN** 

Mae’n bolisi gan y Cwmni i gadw cronfa anghyfyngedig fechan, gan eithrio cronfeydd dynodedig o eiddo’r Elusen sydd wedi eu neilltuo yn benodol. Penderfynodd y Bwrdd adolygu’r polisi yn rheolaidd (gan gymryd i ystyriaeth asedau cynyddol y Cwmni) fel bod yna arian i gynnal costau gwasanaethu amcanion yr elusen am gyfnod, ac i gynnal costau rheoli a gweinyddu, a hefyd digon i ymateb i unrhyw gais brys. Dros y 6 mlynedd diwethaf mae’r Cwmni wedi sicrhau bod yna lleiafswm o 3 mis o gyflog wedi ei gadw wrth gefn ar gyfer unrhyw heriau annisgwyl. Mae hyn yn unol â chanllawiau ymarfer da’r Comisiwn Elusennau ac yn cwrdd ag amcanion y Cod Llywodraethu. Mae’r Cwmni hefyd yn ymwybodol bod angen buddsoddi yn adeiladau a safleoedd y Cwmni er mwyn sicrhau cynaladwyedd yr Antur i’r dyfodol. 

## **IAITH A DIWYLLIANT** 

Cymraeg yw iaith weinyddol fewnol y cwmni a Chymraeg yw iaith weinyddol y prosiectau sydd wedi eu sefydlu, ac rydym yn anelu bob amser i fod yn gyflogwr rhagorol a blaengar, a hybu’r iaith, diwylliant a’r economi leol. 

Byddwn yn parhau i weithredu a chynllunio’n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, yn unol â nod ‘Miliwn o Siaradwyr Cymraeg’ Llywodraeth Cymru, gan fod yn rhagweithiol o ran defnyddio a hybu’r Gymraeg. Fel menter gymdeithasol bydd Antur Waunfawr yn cyfarch anghenion cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol y gymuned leol– a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu ddewis iaith yr unigolyn, ac mewn partneriaeth. 

## **MARCHNATA, YMGYSYLLTU A CHYHOEDDUSRWYDD** 

Penderfynodd Carla Esposito, ein Swyddog Marchnata adael yr Antur er mwyn datblygu ei gyrfa – cafodd ddyrchafiad a swydd ym Mhrifysgol Bangor. Fe wnaeth yr Antur ddymuno’n dda iddi yn ei gyrfa newydd, gan nodi bydd colled fawr ar ei hôl. 

Swyddog Marchnata allanol sydd nawr yn cyflawni’r gwaith marchnata; Mae Osian Wyn Owen (Cwmni Argoedd) yn gyfieithydd ac â chymhwyster meistri mewn ysgrifennu creadigol. 

Parhawyd i weithredu’r strategaeth marchnata a chyrraedd y nodau a amlinellwyd yn y strategaeth. Mae’r wefan yn parhau i gyfrannu at dwf presenoldeb ar-lein y cwmni a hefyd yn adrodd ein newyddion diweddaraf. Mae gennym eisoes linc hefo Golwg 360 ac rydym yn annog cyfranogwyr lleol. 

Dyma giplun ystadegau ein cyfryngau cymdeithasol yng nghyfnod mis Mai 2021 i Ragfyr 2021: 

Mae ein cyrhaeddiad Facebook yn 34,121 **(sy’n gynnydd o 46.8%)** 

Mae ein cyrhaeddiad Instagram yn 1,648 **(sy’n gynnydd o 87.5%);** mae lle i ddatblygu ein defnydd o’r cyfrwng hwn, ond rydym ar y trywydd cywir. 

Ymweliadau â’n tudalen Facebook **wedi gweld cynnydd o 63%** Ymweliadau â’n tudalen Instagram **wedi gweld cynnydd o 104%** 

12 



Mae ein nifer o ddilynwyr newydd ar Facebook **wedi cynyddu 176%** Mae ein nifer o ddilynwyr newydd ar Instagram **wedi cynyddu 691%** 

## **EIN BLAENORIAETHAU AR GYFER 2022 – 23** 

- Darparu gwaith a gweithgaredd ystyrlon a deniadol a chyfleoedd hyfforddiant blaengar mewn amgylchedd cefnogol i unigolion ag anableddau dysgu ac i'r difreintiedig 

- Darparu cartrefi o ansawdd uchel gyda chefnogaeth a pharch i rymuso’r unigolion i fyw bywydau llawn ac annibynnol fel tenantiaid 

- Darparu cynlluniau cynaliadwy a gwasanaethau ail-ddefnyddio ac ailgylchu proffesiynol yng ngogledd Cymru mewn cydweithrediad â chyrff statudol a phreifat 

- Datblygu modelau o gynllunio gyda'r unigolion yn ganolog a hyrwyddo Cefnogaeth Weithgar fel rhan o gynlluniau'r unigolion, a rhaeadru’r broses trwy weithgaredd/gwaith yr Antur 

- Hyrwyddo integreiddio a byw’n iach ym mhob agwedd o’n gwasanaethau a darpariaeth hamdden er mwyn bodloni anghenion iechyd da, llesiant a hapusrwydd yr unigolion 

- Darparu cyfleusterau hygyrch i ymwelwyr, cwsmeriaid a’r gymuned leol, a meithrin diddordeb a ffynonellau incwm cynaliadwy o’r gweithgareddau a’r safleoedd 

- Datblygu gweithgareddau cynaliadwy sy’n gydnaws ag anghenion ardal Waunfawr a Chaernarfon, cefnogi’r gymuned ehangach a gwarchod yr amgylchedd 

- Creu canolbwynt llesiant newydd a hwb i’n busnes beicio ym Mhorth yr Aur, Caernarfon 

- Bod yn gyflogwr rhagorol a blaengar, a hybu’r iaith, y diwylliant, a’r economi leol 

## **DIWEDDGLO** 

Pwysig yw dathlu’r llwyddiannau bach bob dydd a rhoi cydnabyddiaeth i'r staff am hwylio’r storm ac am warchod yr Antur – maent wedi cynnal y busnesau, ac wedi sicrhau parhad y ddarpariaeth - sydd yn ei dro wedi ein galluogi i gynyddu niferoedd unigolion; diolchwn i'r staff cefnogol i gyd am eu gwaith blaengar a di-flino dros y flwyddyn. Mae’n galonogol eto eleni i adlewyrchu ar yr holl a gyflawnwyd, a’r prosiectau newydd sydd ar y gweill er gwaethaf yr heriau yn ystod y flwyddyn, gan nodi natur organaidd a synergaidd gwaith yr adrannau lle mae cydweithio cryf a balchder ymysg y staff. 

Byddwn yn plethu ein mentergarwch efo egwyddorion cymdeithasol cryf gan greu cynlluniau busnes a fydd yn rhoi ffocws i’n gwaith ac yn ail-uno’r Antur yn dilyn y pandemig -mae’n gyfle i ni arwain a bod yn arloesol. Rydym yn esiampl o Fenter sy’n rhagori ac yn arfer da – rydym yn ddiolchgar iawn i’r bobl sy’n cefnogi ein prosiectau ar sail ein henw da – gan obeithio fod yr adroddiad yma yn dyst i waith graenus yr Antur. 

Mae’r Brif Weithredwraig a’i staff yn gweithio’n barhaus i gynnal safonau ac amrywiaeth o gyfleoedd trwy’r prosiectau a’r busnesau a reolir, ac i gydymffurfio a’r rheoliadau a’r ddeddfwriaeth berthnasol. Hefo’r cyfyngiad ariannol sy’n taro, rydym angen parhau i weithredu gyda rheolaeth dynn, adolygu’r cyllidebau’n ofalus, dethol gwasanaethau a chynllunio’n greadigol. Yn sicr, bydd y Cwmni yn parhau i ddarparu gofal, hyfforddiant a gwaith perthnasol a deniadol i bobl ag anableddau dysgu, a bydd yn parhau i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel i’r tenantiaid mewn amgylchedd iach a hapus. 

Nod Antur Waunfawr yw parhau i oroesi trwy fod yn gystadleuol ac effeithiol fel menter gymdeithasol, tra hefyd yn canolbwyntio ar ein gwerthoedd, iechyd a llesiant a’n nodau ac amcanion. 

## **CYFRIFOLDEBAU YR YMDDIRIEDOLWYR MEWN CYSYLLTIAD A’R DATGANIADAU ARIANNOL** 

Yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am baratoi yr adroddiad blynyddol a’r datganiadau ariannol yn unol a chyfraith perthnasol ac Arferiad Cyfrifeg Safonol Cyffredinol y Deyrnas Unedig (UK GAAP). 

Mae’n ofynnol dan y Ddeddf Cwmnïau i’r ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol sydd yn rhoi golwg wir a theg o amgylchiadau yr elusen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol am y gweddill neu ddiffyg yn y flwyddyn ariannol. Wrth baratoi’r datganiadau ariannol mae’n ofynnol ar yr ymddiriedolwyr i: 

1. ddefnyddio a chymhwyso yn gyson bolisïau cyfrifyddol addas; 2. gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon rhesymol a phwyllog; a 

3. pharatoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes byw os nad yw’n anaddas i ystyried bydd yr elusen yn parhau mewn busnes. 

13 



Mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am sicrhau fod trefniadau wedi eu gwneud i gynnal cofnodion cyfrifyddol sydd yn datgan sefyllfa ariannol yr elusen yn rhesymol fanwl ac sydd yn eu galluogi i’r datganiadau ariannol gydymffurfio â Deddf Cwmnïau 2006.  Mae’r ymddiriedolwyr hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau’r elusen, ac i sicrhau y gwneir darpariaethau i atal a darganfod twyll ac afreoleidd-dra arall. 

## **Datganiad yr Ymddiriedolwyr Ynglyn a Datgelu Gwybodaeth i’r Archwiliwr** 

Mae’r ymddiriedolwyr yn cadarnhau cyn belled ac maent yn ymwybodol, nad oes dim gwybodaeth perthnasol nad yw archwiliwr yr elusen yn ymwybodol ohonno. Maent wedi cymeryd pob cam y dylent fel ymddiriedolwyr i wneud eu hunain yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio perthnasol ac i sicrhau fod archwiliwr yr elusen yn ymwybodol o’r wybodaeth. 

Ymddiriedolwr Awdurdodedig:  Mr Rhys Evans – Cadeirydd y Bwrdd 

## **Cafodd yr Adroddiad ei chymeradwyo** 

## **Llofnod:** 

**Mr Rhys Evans  – Cadeirydd** 

**Dyddiad:** 

14 



## **Adroddiad yr Archwiliwr Annibynnol i Aelodau Antur Waunfawr** 

## **Barn** 

Yr ydym wedi archwilio datganiadau ariannol Antur Waunfawr am y flwyddyn hyd 31 Mawrth 2022 sydd yn cynnwys y datganiad o weithredoedd ariannol, y fantolen, y datganiad ynghylch llif arian a’r nodiadau i’r datganiadau ariannol, gan gynnwys crynodeb o’r polisïau cyfrifo sylweddol. Y fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd i baratoi y datganiadau ariannol yw cyfraith cymwys a Safonau Cyfrifo y Deyrnas Unedig, gan gynnwys FRS 102, ,  'Y Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon' (Arferiad Cyfrifeg Safonol Cyffredinol y Deyrnas Unedig). 

Yn ein barn mae’r datganiadau ariannol yn: 

- rhoi golwg wir a theg ar gyflwr materion y cwmni elusennol ar 31 Mawrth 2022, ac am yr adnoddau cyllid a’r adnoddau a ddefnyddiwyd yn cynnwys yr incwm a’r gwariant, am y flwyddyn yn diweddu bryd hynny; 

- wedi eu paratoi'n briodol yn unol â’r Arferiad Cyfrifo Safonol Cyffredinol y Deyrnas Unedig; ac 

- wedi eu paratoi yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006. 

## **Sail ein barn** 

Rydym wedi cynnel ein archwiliad yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (DU) (ISAs (DU)) a chyfraith cymwys. Disgrifir ein cyfrifoldebau dan y safonau hynny ymhellach yn adran cyfrifoldebau’r archwiliwr am archwiliad o’r datganiadau ariannol o’n hadroddiad. Rydym yn annibynnol o’r cwmni yn unol â’r anghenion ethegol sydd yn gymwys i’n archwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safonau Ethegol yr FRC ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau ethegol eraill yn unol â’r gofynion hynny. Rydym yn credu fod y tystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol a chymwys i baratoi sail i’n barn. 

## **Canlyniadau ynglŷn a busnes byw** 

Wrth archwilio’r datganiadau ariannol rydym wedi dod i’r casgliad bod defnydd yr ymddiriedolwyr o’r sail busnes byw o gyfrifo wrth baratoi’r datganiadau yn briodol. 

Yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi’i gyflawni, nid ydym wedi nodi unrhyw ansicrwydd materol yn ymwneud a digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu’r endid i barhau fel busnes byw am gyfnod o leiaf 12 mis o’r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol. 

Disgrifir ein cyfrifoldebau a chyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr mewn perthynas a busnes byw yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn. 

## **Gwybodaeth arall** 

Yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am y gwybodaeth arall. Mae’r wybodaeth arall yn cynnwys yr wybodaeth gynwysiedig yn yr adroddiad blynyddol, heblaw am y datganiadau ariannol a’n hadroddiad ni fel archwiliwr arnynt. Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, heblaw i’r helaeth fod wedi ei nodi’n benodol yn ein hadroddiad, nid ydym yn datgan unrhyw ganlyniadau o sicrwydd arno. 

Mewn cysylltiad â’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol, mae gennym gyfrifoldeb i ddarllen yr wyboadaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried os oes anghysondeb sylweddol rhwng yr wybodaeth arall a’r datganiadau ariannol neu’r wybodaeth a gawsom yn ystod yr archwiliad neu sydd fel arall yn ymddangos yn sylweddol anghywir. Os daw yn ymwybodol o unrhyw gamfynegiant sylweddol ymddangosiadol neu anghysondebau, mae’n ofynnol arnom i benderfynu os oes camddatganiad sylweddol yn y datganiadau ariannol neu gamddatganiad sylweddol yn yr wybodaeth arall. Os down i gasgliad , ar sail y gwaith a gwblhawyd fod camddatganiad sylweddol yn yr wybodaeth ychwanegol yma, mae’n ofynnol arnom i ymadrodd y ffaith. 

Nid oes gennym ddim i ymadrodd mewn cyswllt â hyn. 

15 



## **Barn ar faterion eraill a benodwyd gan Ddeddf Cwmniau 2006** 

Yn ein barn, yn seiliedig ar y gwaith a ymgymerwyd yng nghwrs yr archwiliad: 

- mae’r wybodaeth a roddir yn adroddiad yr ymddiriedolwyr am y flwyddyn ariannol y mae’r datganiadau ariannol wedi eu paratoi yn gyson a’r datganiadau ariannol; ac 

- mae adroddiad yr ymddiriedolwyr wedi ei pharatoi yn unol â gofynnion cyfreithiol cymwys. 

## **Materion yr ydym angen datgan arnynt trwy eithriad** 

Yn sgil yr wybodaeth a dealltwriaeth y cwmni a’i amgylchedd a gafwyd yn ystod ein harchwiliad, nid ydym wedi adnabod camfynegiant sylweddol yn adroddiad yr ymddiriedolwyr. 

Nid oes gennym ddim i ddatgan ynglyn â’r materion canlynol lle mae Deddf Cwmniau 2006 yn gofyn i ni ddatgan i chwi os, yn ein barn: 

- nad yw cofnodion cyfrifo cymwys wedi eu cadw, neu os yw adroddiadau cymwys i’n harchwiliad heb eu derbyn gan ganghennau na ymwelwyd gennym, neu 

- nad yw’r datganiadau ariannol mewn cytundeb â’r cofnodion ariannol a’r adroddiadau, neu 

- fod rhai datgeliadau am dal ymddiriedolwyr a benodir dan gyfraith wedi eu gwneud; neu 

- nid ydym wedi derbyn yr oll o’r wybodaeth a’r eglurhad oedd ei angen ar gyfer yr archwiliad. 

## **Cyfrifoldebau'r ymddiriedolwyr** 

Fel yr eglurir yn llawnach yn y datganiad o gyfrifoldebau’r ymddiriedolwyr, yr ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr y cwmni elusennol at bwrpas deddf cwmnïau) sydd yn gyfrifol am baratoi y datganiadau ariannol ac am foddhau eu hunain eu bod yn rhoi golwg wir a theg ac am y rheolau mewnol mae’r ymddiriedolwyr yn cysidro’n angenrheidiol i alluogi paratoad o ddatganiadau ariannol sydd yn rhydd o gamosodiad sylweddol, boed hynny yn deillio o dwyll neu gamgymeriad. 

Wrth baratoi y datganiadau ariannol, mae’r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am asesu gallu’r cwmni elusennol i barhau fel busnes byw, gan ddatgelu, fel yn gymwys, materion perthnasol i allu’r busnes i barhau a defnyddio y sail busnes byw o gyfrifo os nad yw’r ymddiriedolwyr un ai wedi penderfynu i gau y cwmni neu roi gorau i weithredu, neu heb fod gyda dewis rhesymol ond i wneud hynny. 

## **Cyfrifoldeb yr archwiliwr am archwilio’r datganiadau ariannol** 

Ein amcanion yw i dderbyn sicrwydd rhesymol fod y datganiadau ariannol ar y cyfan yn rhydd o gamddatganiad sylweddol, boed hynny wedi ei achosi drwy dwyll neu gamgymeriad, ac i gyhoeddi adroddiad archwiliwr sydd yn cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchaf o sicrwydd, ond nid yn gwarantu y buasai archwiliad wedi ei chynnal yn unol ag ISAs (DU) yn darganfod camddatganiad sylweddol, os yw yn bod pob adeg. Gall camosodiadau godi o dwyll neu  gamgymeriad, a byddent yn cael eu cysidro yn sylweddol os, yn unigol neu gyda’i gilydd, y buasai’n rhesymol i ddisgwyl iddynt effeithio dewisiadau economaidd defnyddwyr a gymerir ar sail y datganiadau yma. 

Mae afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll, yn achosion o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau.  Rydym yn dylunio gweithdrefnau yn unol â’n cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, i ganfod camddatganiadau perthnasol mewn perthynas ag afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll.  Manylir isod i ba raddau y mae ein gweithdrefnau’n gallu canfod afreolaidd-dra, gan gynnwys twyll: 

- Sicrhaodd y partner ymgysylltu fod gan y tim ymgysylltu ar y cyd y cymhwysedd, y galluoedd a’r sgiliau priodol i nodi neu gydnabod diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau cymwys; 

16 



- Gwnaethom nodi’r deddfau a’r rheoliadau sydd yn berthnasol i’r cwmni trwy drafodaethau â chyfarwyddwyr a rheolwyr eraill, ac o’n gwybodaeth fasnachol a’n profiad o’r sector; 

- Gwnaethom ganolbwyntio ar gyfreithiau a rheoliadau penodol yr oeddem o’r farn a allai gael effaith sylweddol uniongyrchol ar ddatganiadau ariannol neu weithrediadau’r cwmni, gan gynnwys deddfwriaeth fel Deddf Cwmnïau 2006, deddfwriaeth trethiant, diogelu data, gwrth-lwgrwobrwyo, cyflogaeth, amgylcheddol a deddfwriaeth iechyd a diogelwch; 

- Gwnaethom asesu graddau’r cydymffurfiad â’r deddfau a’r rheoliadau a nodwyd uchod trwy wneud ymholiadau gan reolwyr ac archwilio gohebiaeth gyfreithiol, a 

- Roedd deddfau a rheoliadau a nodwyd yn cael eu cyfleu o fewn y tim archwilio yn rheolaidd ac roedd y tim yn parhau i fod yn effro i achosion o ddiffyg cydymffurfio trwy gydol yr archwiliad. 

Gwnaethom asesu tueddiad datganiadau ariannol y cwmni i gamddatganiad perthnasol, gan gynnwys cael dealltwriaeth o sut y gallai twyll ddigwydd, trwy: 

- Wneud ymholiadau gan reolwyr ynghylch ble roeddent o’r farn bod tueddiad i dwyll, eu gwybodaeth am dwyll gwirioneddol amheus a honedig; 

- Ystyried y rheolaethau mewnol sydd ar waith i liniaru risgiau twyll a diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. 

Er mwyn mynd i’r afael â’r risg o dwyll trwy ragfarn rheoli a diystyru rheolaethau, rydym yn: 

- Perfformio gweithdrefnau dadansoddol i nodi unrhyw berthnasoedd anarferol neu annisgwyl; 

- Profi cofnodion cyfrifo ar gyfer trafodion anarferol; 

- Asesu a oedd dyfarniadau a thybiaethau a wnaed wrth bennu’r amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o ragfarn bosibl; 

- 

- Ymchwilio i’r rhesymeg y tu ôl i drafodion sylweddol neu anghyffredin. 

Mewn ymateb i’r risg o afreolaidd-dra a diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau, gwnaethom ddylunio gweithdrefnau a oedd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: 

- Cytuno ar ddatgeliadau datganiadau ariannol i ddogfennau ategol sylfaenol; 

- Darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sydd yn gyfrifol am lywodraethu; 

- Ymholi’r rheolwyr ynghylch ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl; 

- 

- Adolygu gohebiaeth â Chyllid a Thollau EM, rheoleiddwyr perthnasol a chynghorwyr cyfreithiol y cwmni. 

Mae cyfyngiadau cynhenid yn ein gweithdrefnau archwilio a ddisgrifir uchod.  Po fwyaf y caiff deddfau a rheoliadau eu dileu o drafodion ariannol, y lleiaf tebygol yw y byddem yn dod yn ymwybodol o ddiffyg cydymffurfio.  Mae safonau archwilio hefyd yn cyfyngu’r gweithdrefnau archwilio sydd yn ofynnol i nodi diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau i ymholi’r cyfarwyddwyr a rheolwyr eraill ac archwilio gohebiaeth reoleiddiol a chyfreithiol, os o gwbl. Gall fod yn anoddach canfod camddatganiadau materol sydd yn codi oherwydd twyll na’r rhai sydd yn codi o gamgymeriad oherwydd gallent gynnwys cuddio neu gydgynllwynio yn fwriadol. 

Fel rhan o archwiliad a ymgymerir yn unol ag ISAs (DU), rydym yn ymarfer barn proffesiynol a chynnal amheuaeth broffesiynol trwy gydol yr archwiliad, rydym hefyd yn: 

- Adnabod ac asesu’r risg o gamosodiad sylweddol o’r datganiadau ariannol, boed hynny wedi ei achosi drwy dwyll neu gamgymeriad, cynllunio a pherfformio gweithdrefnau archwilio yn ymatebol i’r risg hynny, a chael tystiolaeth archwilio sydd yn ddigonol a phriodol i ddarparu sail i’n barn. Mae’r risg o beidio darganfod camosodiad sylweddol yn deillio o dwyll yn uwch nag o risg yn deillio o gamgymeriad, gan y gall twyll gynnwys cyd-dwyllo, ffugio, gadael gwybodaeth allan yn fwriadol, camfynegiadau, neu anwybyddu reolau mewnol. 

- Cael dealltwriaeth o reolaeth ariannol perthnasol i’r archwiliad er mwyn cynllunio gweithdrefnau archwilio sydd yn briodol yn yr amgylchiadau, ond nid at bwrpas o fynegi barn ar effeithiolrwydd y rheolau mewnol. 

- Asesu priodolrwydd y polisïau cyfrifyddol a ddefnyddiwyd a rhesymoldeb o amcangyfrifau cyfrifyddol a datgeliaethau cysylltiedig a wneir gan yr ymddiriedolwyr. 

- Dod i gasgliad ar briodoldeb defnydd o’r sail cyfrifo busnes byw gan yr ymddiriedolwyr ac, yn seiliedig ar y dystiolaeth archwilio a gawsom, os os oes ansicrwydd sylfaenol yn bodoli yn gysylltiedig â digwyddiadau 

17 



neu amgylchiadau a all godi amheuaeth sylweddol ar allu‘r cwmni elusennol i barhau fel uned byw. Os y down i gasgliad fod ansicrwydd sylweddol yn bod, mae’n ofynnol arnom i dynnu sylw, yn ein adroddiad archwiliwr i’r datgeliadau perthnasol yn y datganiadau ariannol neu, os nad yw’r datgeliadau yn ddigonol, i addasu ein barn. Mae ein casgliadau yn seiliedig ar y tystiolaeth archwilio a dderbyniwyd hyd at dyddiad adroddiad yr archwiliwr. Er hynny, gall digwyddiadau neu amgylchiadau yn y dyfodol achosi’r cwmni i beidio parhau fel busnes byw. 

- Asesu y cyflwyniad cyffredinol , strwythur a chynnwys y datganiadau ariannol, gan gynnwys y datgeliadau, ac os yw’r datganiadau ariannol yn cynrychioli y trafodion a digwyddiadau sylfaenol mewn ffurf sydd yn cyflawni cyflwyniad teg. 

Rydym yn cyfathrebu gyda’r rhai sydd yn gyfrifol am lywodraethu ynglŷn, ymysg materion eraill, paratoi cwmpas ac amseru  yr archwiliad a darganfyddiadau sylweddol yr archwiliad, gan gynnwys unrhyw wendidau sylfaenol mewn rheolaeth ariannol a ddarganfuwyd gennym yn ystod ein harchwiliad. 

## **Defnyddio ein adroddiad** 

Mae’r adroddiad hwn wedi ei wneud i aelodau’r cwmni elusennol yn unig, fel corff, yn unol â Phennod 3 o Adran 16 Deddf Cwmnïau 2006. Rydym wedi ymgymryd a’r gwaith archwilio fel y gallwn adrodd i aelodau’r cwmni elusennol ar y materion hynny y mae’n ofynnol i ni adrodd arnynt mewn adroddiad yr archwiliwr ac i ddim pwrpas arall. Hyd at eithaf â ganiateir trwy gyfraith, nid ydym yn derbyn na chymryd cyfrifoldeb i unrhyw un heblaw y cwmni elusennol ac aelodau’r cwmni elusennol fel corff, am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, nac am y farn yr ydym wedi ei ffurfio. 

_David Chidley_ (Prif archwiliwr statudol) Dros ac ar ran W J Matthews a’i Fab, Archwiliwr Statudol a Chyfrifwyr Siartredig, 11-15 Y Bont Bridd, CAERNARFON Ll55 1AB Dyddiad: 

18 



## **Antur Waunfawr** 

**Datganiad o weithredoedd ariannol (yn cynnwys Cyfrif Incwm a Gwariant)** _am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022_ 

|||||**Holl**|**Holl**|
|---|---|---|---|---|---|
|||||**Gronfeydd**|**Gronfeydd**|
|||**Cronfeydd**|**Cronfeydd**|**31 Mawrth**|**31 Mawrth**|
||**_Nodiadau_**|**Anghyfyngedig**|**Cyfyngedig**|**2022**|**2021**|
|||**£**|**£**|**£**|**£**|
|**Incwm**||||||
|_Rhoddion_||||||
|Rhoddion a grantiau|**_3_**|8,195|83,252|91,447|10,208|
|Grant Cyfalaf – Porth Yr Aur||-|109,869|109,869|168,624|
|Grant Cyfalaf – Adferiad Gwyrdd||-|-|-|102,685|
|_Incwm o weithgareddau elusennol:_||||||
|Incwm Safle a Chynllun Cartrefu|**_4_**|1,547,334|-|1,547,334|1,631,149|
|Incwm Warws Werdd|**_4_**|414,213|-|414,213|317,438|
|Incwm Caer Gylchu|**_4_**|572,264|-|572,264|519,177|
|Incwm Beics Menai|**_4_**|61,136|-|61,136|35,520|
|Elw ar werthu ased sefydlog||-|-|-|145|
|Llog||4|-|4|21|
|Incwm arall||-|-|-|2,442|
|Cynllun Cadw Swyddi||10,535|-|10,535|47,207|
|Grantiau Covid||47,932||47,932|132,436|
|||_______|_______|_______|________|
|**_Cyfanswm incwm_**||2,661,613|193,121|2,854,734|£2,967,052|
|||_______|_______|_______|________|
|**_Gwariant_**||||||
|Gweithgareddau elusennol|**_5_**|2,554,463|140,980|2,695,443|2,498,099|
|Colled ar ail-brisio asedau|||||-|
|||_______|_______|_______|________|
|**_Cyfanswm gwariant_**||2,554,463|140,980|2,695,443|2,498,099|
|||_______|_______|_______|________|
|**_Cyfanswm adnoddau a ddefnyddiwyd cyn_**||||||
|**_enillion/colledion eraill a gydnabyddir_**||**107,150**|**52,141**|**159,291**|**468,953**|
|**Symudiad net**||||||
|**mewn cronfeydd am y flwyddyn**||**107,150**|**52,141**|**159,291**|**468,953**|
|Cronfeydd ar 1af Ebrill 2021||3,833,370|970,312|4,803,682|4,334,729|
|||_______|_______|_______|_______|
|Cronfeydd ar 31ain Mawrth 2022||3,940,520|1,022,453|4,962,973|4,803,682|
|||=======|=======|=======|=======|



Mae’r canlyniadau uchod yn deillio i gyd o weithgareddau sydd yn parhau. 

19 



## **Antur Waunfawr** 

|**Antur Waunfawr**||||||
|---|---|---|---|---|---|
|**_Mantolen_**_ar 31ain Mawrth 2022_||||||
|**(****_Rhif Cofrestru’r Cwmni: 1832813)_**||||||
||||**2022**||**2021**|
|**_Nodiadau_**|||**£**||**£**|
|**Buddiannau Sefydlog**||||||
|Buddiannau sefydlog dirweddol|**_12_**||3,893,586||3,863,325|
|**Buddiannau cyfredol**||||||
|Stoc|**_13_**|22,573||11,124||
|Dyledwyr|**_14_**|131,415||253,227||
|Arian mewn banc ac mewn llaw||1,012,711||949,097||
|||________||________||
|||1,166,699||1,213,448||
|**Credydwyr:** _symiau yn ddyledus o fewn blwyddyn_|**_15_**|68,470||230,172||
|||_______||________||
|**Asedau cyfredol net**|||1,098,229||983,276|
||||________||________|
|Cyfanswm asedau llai rhwymedigaethau cyfredol|||4,991,815||4,846,601|
|**Credydwyr:** _symiau yn ddyledus ar ôl blwyddyn_|**_16_**||28,842||42,919|
||||________||________|
|**Asedau Net**|||4,962,973||4,803,682|
||||=======||========|
|**Cronfeydd**||||||
|**Cronfeydd Incwm**||||||
|Cronfeydd anghyfyngedig|**_20_**||3,940,520||3,833,370|
|Cronfeydd cyfyngedig|**_20_**||1,022,453||970,312|
||||_______||________|
||||4,962,973||4,803,682|
||||=======||=======|



**.......................................................** 

**Mr  Rhys Evans (Cyfarwyddwr)** 

**Dyddiad** : 

20 



## **Antur Waunfawr** 

**Datganiad ynghylch llif arian** _am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022_ 

||**Nodyn**|**2022**|**2021**|
|---|---|---|---|
|||**£**|**£**|
|**Llif arian net o weithgareddau gweithredol**|**_18_**|166,926|**434,234**|
|||_______|_______|
|**Llif arian o weithgareddau buddsoddi**||||
|Llog a dderbyniwyd||4|21|
|Derbyniadau o werthiant asedau sefydlog||-|145|
|Prynu asedau sefydlog|**_12_**|(89,238)|(760,316)|
|||_______|_______|
|**Arian a ddefnyddiwyd i fuddsoddi**||(89,234)|**(760,150)**|
|||_______|_______|
|**Llif arian o weithgareddau ariannu**||||
|Derbyniad ariannu hur bwrcas||-|-|
|Ad-daliad oblygiadau hur bwrcas||(14,078)|(13,020)|
|||_______|_______|
|**Arian a dderbynwyd o weithgareddau ariannu**||**(14,078)**|**(13,020)**|
|||_______|_______|
|**(Lleihad)/Cynnydd mewn arian a chyfatebolion arian**||**63,614**|**(338,936)**|
|Arian a chyfatebolion arian ar 1 Ebrill 2021||949,097|1,288,033|
|||________|________|
|**Arian a chyfatebolion arian ar 31 Mawrth 2022**||**1,012,711**|**949,097**|
|||=======|=======|



21 



## **Antur Waunfawr** 

**Datganiad o newidiadau mewn cyllid a ddefnyddiwyd i dderbyn asedau sefydlog at ddefnydd yr elusen** _am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022_ 

||||**Gronfeydd**|**Gronfeydd**|
|---|---|---|---|---|
||**Cronfeydd**|**Cronfeydd**|**31 Mawrth**|**31 Mawrth**|
||**Anghyfyngedig**|**Cyfyngedig**|**2022**|**2021**|
||**£**|**£**|**£**|**£**|
|Symudiad net mewn cronfeydd|107,150|52,141|159,291|468,953|
|Adnoddau a ddefnyddiwyd i dderbyn|||||
|Asedau sefydlog net|-|(89,236)|(89,236)|(760,316)|
||_______|_______|_______|_______|
|Symudiad net mewn cronfeydd ar gael at|||||
|weithgareddau y dyfodol|107,150|(37,095)|70,055|(291,363)|
||=======|=======|=======|=======|



22 



## **Antur Waunfawr** 

## **Nodiadau i’r datganiadau ariannol** _am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022_ 

## **1. Polisïau cyfrifyddol** 

Mae’r prif bolisïau cyfrifo a fabwysiadwyd, penderfyniadau a phrif ffynonellau ansicrwydd â amcangyfrifir wrth baratoi y datganiadau ariannol fel a ganlyn: 

## **a) Sail paratoi cyfrifon** 

Mae’r datganiadau ariannol wedi eu darparu yn unol a “Cyfrifo ac Adrodd gan Elusennau” Datganiad o Ymarferion Cymeradwyol sydd yn berthnasol i elusennau sydd yn paratoi eu cyfrifon yn unol a’r Datganiad o Weithredoedd Ariannol sydd yn berthynol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) – (SORP Elusennau (FRS102)), yr Safon Adrodd Ariannol sydd yn berthynol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) a Deddf Cwmniau 2006. 

Mae Antur Waunfawr yn bodloni gofynion diffiniad uned budd cyhoeddus dan FRS102. Cydnabyddir asedau a rhwymedigaethau yn wreiddiol ar sail cost hanesyddol neu werth trafodion os na nodir yn wahanol yn y nodyn polisi cyfrifo perthnasol. 

Mae’r ymddiriedolwyr yn cysidro nad oes ansicrwydd sylweddol am allu’r cwmni elusennol i barhau fel busnes byw. 

## **b) Cyfrifo cronfeydd** 

Cronfeydd cyffredinol yw cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i’w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb eu penodi at unrhyw bwrpas arall. 

Mae cronfeydd dynodedig yn cynnwys cronfeydd anghyfyngedig sydd wedi eu rhoi i’r neilltu gan yr ymddiriedolwyr at bwrpas arbennig. Mae nod a defnydd y cronfeydd dynodedig wedi eu disgrifio yn y nodiadau i’r cyfrifon. 

Cronfeydd cyfyngedig yw cronfeydd sydd i’w defnyddio yn unol a chyfyngiadau penodol dan amodau’r rhoddwr neu sydd wedi eu codi gan yr elusen at bwrpas arbennig. Mae’r costau o godi a gweinyddu’r cronfeydd wedi eu nodi yn erbyn y cronfeydd penodedig.  Mae nod pob cronfa gyfyngedig wedi eu nodi yn y nodiadau i’r cyfrifon. 

## **c) Incwm** 

Dangosir incwm yn y Datganiad o Weithredoedd Ariannol pan fydd gan yr elusen hawl cyfreithlon i’r incwm, bydd canllawiau perfformio dan dermau yr ffynonellau incwm wedi eu cyfarfod, bydd yn debygol y derbynnir yr incwm a gellir mesur y swm yn rhesymol fanwl. 

Cydnabyddir am grantiau llywordraeth a grantiau eraill, boed y grant yn grant refeniw neu gyfalaf, Ariannol pan fydd gan yr elusen hawl cyfreithlon i’r incwm, bydd canllawiau perfformio dan dermau yr ffynonellau incwm wedi eu cyfarfod, bydd yn debygol y derbynnir yr incwm a gellir mesur y swm yn rhesymol fanwl ac nac oes angen gohirio’r incwm. 

## **ch) Gwariant a TAW anadferadwy** 

Cydnabyddir gwariant pan mae oblygiad cyfreithiol neu weithredol i wneud taliad i drydydd person, y mae’n debygol fydd taliad yn angenrheidiol a gellir mesur yr blygiad yn ddibynadwy. 

Cyfrifir TAW na ellir ei hawlio fel cost yn erbyn y gweithgaredd a achosodd y gwariant. 

## **d) Dosbarthiad costau cynorthwyol** 

Costau cynorthwyol yw gweithgareddau sydd yn cefnogi gwaith yr elusen ond sydd ddim yn ymwneud a gweithgareddau elusennol yn uniongyrchol. Mae costau cynorthwyol yn cynnwys yr adran weinyddol, cyllid, personél a llywodraethol sydd yn  cefnogi y gwahanol brosiectau elusennol. Mae’r costau hyn wedi eu dosbarthu rhwng y gwahanol adrannau fel y dangosir yn nodyn 6. 

23 



## **Antur Waunfawr** 

**Nodiadau i’r datganiadau ariannol** _am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022_ 

## **1 Polisïau cyfrifyddol (ymlaen)** 

## **dd)** 

## **Asedau sefydlog** 

Mae asedau sefydlog yn cael eu dangos ar sail cost neu ar brisiad y farchnad.  Dangosir y buddiannau sefydlog ar gost neu brisiad llai dibrisiant. Cyfrifwyd am ddibrisiant ar sail dileu cost y buddiannau dros gyfnod amcangyfrif o’u hoes fel a ganlyn: 

Adeiladau 2% Siediau a thai gwydr 10% Offer 20 -331/3% Moduron 20% 

Ni chyfrifir am ddibrisiant ar dir rhyddfreiniol. Nid yw buddiannau sefydlog sydd yn costio llai na £1,000 yn cael eu cyfalafu a byddent yn cael eu dileu ym mlwyddyn prynnu. 

## **e) Stoc** 

Mae stoc yn cynrychioli asedau a brynwyd i ailwerthu. Prisiwyd y stoc ar y lleiaf o gost neu werth net sylweddoladwy. Nid yw eitemau stoc a dderbyniwyd fel rhoddion neu er mwyn dosbarthu yn cael eu cynnwys yn y datganiadau ariannol nes maent wedi eu gwerthu neu ddosbarthu. 

## **f) Dyledwyr** 

Cydnabyddir dyledwyr ar y swm cytundebol ar ôl nodi unrhyw disgownt masnachol a gynnigwyd. Dangosir blaendaliadau ar werth y swm a dalwyd ymlaen llaw llai unrhyw ddisgownt masnachol a dderbyniwyd. 

## **ff) Arian mewn banc ac mewn llaw** 

Mae arian mewn banc ac mewn llaw yn cynnwys arian buddsoddiadau tymor byr sydd yn aeddfedu o fewn tri mis o’u caffael neu o agor y cyfrif adnau. 

## **g) Credydwyr a darpariaethau** 

Cydnabyddir credydwyr a darpariaethau pan fydd gan yr elusen oblygiad cyfredol yn deillio o ddigwyddiad yn y gorffennol gyda’r canlyniad tebygol o drosglwyddiad o eiddo i drydydd person a gellir mesur y swm angenrheidiol i setlo’r oblygiad yn ddibynadwy. Cydnabyddir credydwyr a darpariaethau ar y swm setlo llai unrhyw ddisgownt masnachol a dderbyniwyd. 

## **nh) Offerynnau ariannol** 

Dim ond offerynnau ariannol sylfaenol sydd gan yr elusen. Cofnodir offerynnau ariannol sylfaenol i dechrau ar bris y contract os nad yw’r trefniant yn sefydlu gweithrediad ariannu, pan fyddent yn cael eu cofnodi ar werth presennol taliadau yn y dyfodol wedi eu gostyngu ar raddfa llog y farchnad am offeryn ariannol tebyg. 

## **h) Costau pensiwn** 

Mae’r gost o baratoi pensiwn a manteision cyffelyb yn cael eu prisio i’r Datganiad o Weithredoedd ariannol fel mae’r rhwymedigaeth yn codi. Mae’r elusen yn talu cyfraniadau pensiwn ar sail cyfraniadau wedi eu diffinio. 

## **2 Statws y cwmni** 

Mae’r cwmni yn gyfyngedig drwy warant. Wrth ddirwyn i ben neu ddiddymu’r cwmni ac wedi bodloni ei holl ddyledion a’i rwymedigaethau, os erys unrhyw eiddo o gwbl yn weddill, ni thelir ef i aelodau’r cwmni na’i ddosbarthu yn eu mysg, ond yn hytrach ei roi i sefydliad elusennol arall gydag amcanion cyffelyb i amcanion y cwmni. 

24 



## **Antur Waunfawr** 

**Nodiadau i’r datganiadau ariannol** _am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022_ 

## **3. Rhoddion a grantiau gwirfoddol** 

|**Rhoddion a grantiau gwirfoddol**|||||
|---|---|---|---|---|
||**Cronfeydd**|**Cronfeydd**|**Cyfanswm**|**Cyfanswm**|
||**Anghyfyngedig**|**Cyfyngedig**|**2022**|**2021**|
||**£**|**£**|**£**|**£**|
|Grant Heddlu Gogledd Cymru|-|-|-|2,500|
|Grant Adferiad Gwyrdd|-|-|-|3,470|
|Rhoddion|8,195|-|8,195|4,238|
|Grant Adfer Cyngor Gwynedd|-|14,854|14,854|-|
|Grantiau Gan Cyngor Sir Fflint|-|8,550|8,550|-|
|Grant Betsi Cadwalader|-|4,500|4,500|-|
|Cronfa Adfer Y Gwasanaethau Gwirfoddol||55,348|55,348|-|
||_______|_______|_______|_______|
||8,195|83,252|91,447|10,208|
||_______|_______|_______|_______|



## **4. Incwm o weithgareddau elusennol** 

|**Incwm o weithgareddau elusennol**|||||||
|---|---|---|---|---|---|---|
||**Safle &**||||||
||**Cynllun**|**Warws**|**Caer-**|**Beics**|**Cyfanswm**|**Cyfanswm**|
||**Cartrefu**|**Werdd**|**Gylchu**|**Menai**|**2022**|**2021**|
||**£**|**£**|**£**|**£**|**£**|**£**|
|Cytundebau Gwasanaeth|1,430,884|152,022|101,203|33,336|1,717,445|1,834,737|
|Cronfa Byw yn Annibynnol|-|-|-|-|-|324|
|Cytundeb Ailgylchu|-|76,672|257,468|-|334,140|334,140|
|Grant ICF|-|-|-|-|-|5,278|
|Incwm Caergylchu|-|-|213,593|-|213,593|160,797|
|Incwm Warws Werdd|-|185,519|-|-|185,519|84,898|
|Incwm Safle a Chynllun Cartrefu|112,582|-|-|-|112,582|79,396|
|Incwm Beics Menai|-|-|-|27,800|27,800|74|
|Incwm arall|3,868|-|-|-|3,868|3,640|
||_______|_______|_______|_______|________|________|
||1,547,334|414,213|572,264|61,136|2,594,947|2,503,284|
||_______|_______|_______|_______|________|________|



25 



## **Antur Waunfawr** 

**Nodiadau i’r datganiadau ariannol** _am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022_ 

## **5. Dadansodiad o wariant ar weithgareddau elusennol** 

||**Safle &**||||||
|---|---|---|---|---|---|---|
||**Cynllun**|**Warws**|**Caer-**|**Beics**|**Cyfanswm**|**Cyfanswm**|
||**Cartrefu**|**Werdd**|**Gylchu**|**Menai**|**2022**|**2021**|
||**£**|**£**|**£**|**£**|**£**|**£**|
|Costau staff|1,118,996|197,407|397,656|72,672|1,786,731|1,684,818|
|Nwyddau i’w gwerthu a thraul|767|54,448|10,374|10,954|76,544|49,231|
|Cafe/ Bwyd|13,081|-|-|-|13,081|13,124|
|Safle ac adnewyddu|59,117|33,590|12,889|19,911|125,507|132,888|
|Teithio a chostau buddiolwyr|41,775|31,678|43,354|2,802|119,609|103,714|
|Costau swyddfa|10,458|8,408|6,148|8,806|33,820|32,250|
|Hyfforddiant|13,156|2,135|1,797|14,309|31,396|8,213|
|Costau staff|-|2,584|902|-|3,486|1,848|
|Costau marchnata|53|50|9,236|1,944|11,283|4,519|
|Costau proffesiynol|3,734|-|7,274|47|11,055|2,973|
|Dibrisiant|4,870|16,346|7,581|10,676|39,473|20,630|
|Llogau|-|3,576|-|-|3,576|4,597|
|Dyledwyr drwg|-|-|7,467|-|7,467|-|
|Eraill|364|1,129|5|744|2,242|7,013|
|Costau llywodraethol|14,739|2,209|5,206|1,568|23,722|22,147|
|Costau cynorthwyol|252,528|37,849|89,206|26,866|406,449|410,134|
||________|_______|_______|________|_______|________|
||1,533,638|391,411|599,095|171,299|2,695,443|2,498,099|
||________|_______|_______|________|________|_______|



Roedd gwariant ar weithgareddau elusennol yn £2,695,443 (2021 - £2,498,099). O’r gwariant yma roedd £2,554,463 (2021-£2,470,974) yn anghyfyngedig a £140,980 (2021 - £27,125) yn gyfyngedig. 

## **6. Dadansoddiad o gostau llywodraethol a chynorthwyol** 

I ddechrau, mae’r cwmni elusennol yn nodi ei gostau cynorthwyol. Yna nodir y costau sydd yn berthnasol i’r pwrpas llywodraethol. Wedi adnabod y costau llywodraethol, rhannir y costau cynorthwyol cyffredinol a’r costau llywodraethol rhwng y pedwar gweithgaredd elusennol a ymgymerwyd yn ystod y flwyddyn. Nodir sail dosbarthiad y costau rhwng y gweithgareddau elusennol yn y tabl isod. 

|||**Costau**||||
|---|---|---|---|---|---|
||**Sail**|**Cynorthwyol**||**Cyfanswm**|**Cyfanswm**|
||**Dosbarthu**|**CyffredinolLlywodraethol**||**2022**|**2021**|
|||**£**|**£**|**£**|**£**|
|Costau staff|_Amser staff_|236,594|15,110|251,704|240,394|
|Safle ac adnewyddu|_Defnydd_|34,143|-|34,143|36,791|
|Costau Covid|_Defnydd_|31,290|-|31,290|43,584|
|Swyddfa|_Defnydd_|36,457|-|36,457|62,826|
|Teithio|_Defnydd_|3,464|-|3,464|-|
|Hyfforddiant|_Defnydd_|2,993|-|2,993|2,856|
|Hysbysebu a marchnata|_Defnydd_|12,350|-|12,350|2,810|
|Archwilio/Cyfrifydd|_Defnydd_|-|8,612|8,612|8,413|
|Proffesiynnol|_Trafodion_|28,915|-|28,915|19,887|
|Dibrisiant|_Defnydd_|19,504|-|19,504|13,984|
|Eraill|_Trafodion_|739|-|739|736|
|||_______|_______|_______|________|
|||406,449|23,722|430,171|432,281|
|||_______|________|_______|________|



26 



**Antur Waunfawr** 

**Nodiadau i’r datganiadau ariannol** _am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022_ 

## **7. Incwm net am y flwyddyn** 

|**Incwm net am y flwyddyn**|||
|---|---|---|
|**Nodir yr incwm net ar ôl codi:**|**2022**|**2021**|
||**£**|**£**|
|Dibrisiant|58,977|34,614|
|Ffioedd archwilio|5,950|5,912|
|Archwiliwr – ffioedd eraill|2,660|2,501|
||_______|______|
|**Costau staff a chydnabyddiaeth yr ymddiriedolwyr**|||
||**2022**|**2021**|
||**£**|**£**|
|Cyflogau|1,761,700|1,651,167|
|Cyflogau gweithwyr|54,580|49,304|
|Yswiriant cenedlaethol|135,640|137,160|
|Costau pensiwn|86,515|87,581|
||________|________|
||2,038,435|1,925,212|
||________|________|



## **8. Costau staff a chydnabyddiaeth yr ymddiriedolwyr** 

Cyfanswm nifer cyflogedig ar sail blwyddyn cyflawn oedd 162 ( _2021 – 154_ ).   Nid oedd cydnabyddiaeth unrhyw aelod o staff dros £60,000 y flwyddyn. 

Ni dderbyniwyd ffioedd na thal rheoli gan ymddiriedolwyr yr elusen yn ystod y flwyddyn _(2021 – Dim)._ Ni wnaed taliadau i ymddiriedolwyr yr elusen am gostau a achoswyd _(2021 – Dim)._ Ni wnaethpwyd taliad am wasanaethau proffesiynol nac am wasanaethau eraill i ymddiriedolwyr yr elusen yn ystod y flwyddyn _(2021 – Dim)_ . 

Mae personél rheoli allweddol yr elusen yn cynnwys yr ymddiriedolwyr a’r tim rheoli. Roedd cydnabyddiaeth personél rheoli allweddol yr elusen yn £268,975 _(2021 - £253,672)_ . 

||2022|2021|
|---|---|---|
||Nifer|Nifer|
|Prif weithredwr|1|1|
|Uwch reolwyr|3|3|
|Rheolwyr|10|9|
|Safle|26|25|
|Ail Gylchu|13|13|
|Warws Werdd|5|5|
|Cynllun Cartrefu|23|27|
|Beics Menai|2|2|
|Gweinyddol|6|6|
|Gweithwyr gyda anabledd|73|63|
||____|____|
||162|154|
||===|===|



27 



**Antur Waunfawr** 

**Nodiadau i’r datganiadau ariannol** _am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022_ 

## **9. Trafodion Partion Cysylltiedig** 

Ni fu trafodion gyda partïon cysylltiedig yn ystod y flwyddyn. Nid oedd symiau yn ddyledus i na dyledus gan bartïon cysylltiedig ar ddiwedd y flwyddyn _(2021 - £Dim)_ . 

## **10. Grantiau Llywodraeth** 

Mae incwm grantiau llywodraeth yn cynnwys cytundebau gwasanaeth gyda awdurdodai lleol i ffynonellau gwasanaethau buddiannol i fuddiolwyr yr elusen. 

## **11. Treth gorfforaeth** 

Mae gan Antur Waunfawr eithriad o dreth ar incwm ac enillion dan Adran 505 o Ddeddf Treth 1988 ac adran 252 o’r Ddeddf Treth Enillion Cyfalaf 1992 i’r eithaf eu defnyddir at ei nodau elusennol. 

## **12.** 

## **Buddiannau sefydlog** 

||**_Tir ac_**||||
|---|---|---|---|---|
||**_Adeiladau_**|**_Offer_**|**_Moduron_**|**_Cyfanswm_**|
||**£**|**£**|**£**|**£**|
|**_Cost/Gwerth_**|||||
|Ar 1af Ebrill 2021|3,860,303|495,615|114,602|4,470,520|
|Ychwanegiadau|74,262|14,976|-|89,238|
||________|________|________|________|
|Ar 31ain Mawrth 2022|3,934,565|510,591|114,602|4,559,758|
||________|________|________|________|
|**_Dibrisiant_**|||||
|Ar 1af Ebrill 2021|229,160|359,881|18,154|607,195|
|Cost am y flwyddyn|19,524|20,164|19,289|58,977|
||_______|_______|_______|_______|
|Ar 31ain Mawrth 2022|248,684|380,045|37,443|666,172|
||_______|_______|_______|_______|
|**_Gwerth Llyfr Net_**|||||
|Ar 31ain Mawrth 2022|3,685,881|130,546|77,159|3,893,586|
||========|=======|=====|=======|
|Ar 31ain Mawrth 2021|3,631,143|135,734|96,448|3,863,325|
||========|=======|=====|=======|



Yn gynwysedig yn y £3,137,622 mae £20,000 sydd yn werth tir yn Waunfawr ac £38,599 o dir yng Nghaernarfon _**.**_ Ail brisiwyd y tir ac adeiladau yn Waunfawr ac Warws Werdd yng Nghaernarfon gan Dafydd Hardy, syrfewyr siartredig yn mis Mawrth 2020.  Rhoddwyd gwerth y tir ac adeiladau yn Waunfawr fel £2,165,000. Mae’r gwerth yma yn isel ac yn llai na’r disgwyl oherwydd yr ansicrwydd yn y farchnad eiddo yn dilyn y pandemic Covid-19. Cost gwreiddiol yr asedau sefydlog yw £3,935,815 (2021-£3,861,553) a buasai dibrisiant o £208,476, (2021- £191,367) wedi ei godi arnynt. 

## **13. Stoc** 

||||
|---|---|---|
|**Stoc**|**2022**|**2021**|
||**£**|**£**|
|Cynnwys stoc:|||
|Stoc Warws Werdd|10,496|8,674|
|Stoc Beics Menai|4,050|2,150|
|Stoc siop|4,016|200|
|Stoc cafe|1,881|100|
|Stoc Caergylchu|2,130|-|
||______|______|
||22,573|11,124|
||______|______|



28 



## **Antur Waunfawr** 

**Nodiadau i’r datganiadau ariannol** _am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022_ 

|**14.**|**Dyledwyr**|**2022**|**2021**|
|---|---|---|---|
|||**£**|**£**|
||Grantiau, cytundebau a dyledwyr masnachol|122,949|242,257|
||Dyledwyr eraill|8,466|10,971|
|||_______|_______|
|||131,415|253,228|
|||_______|_______|
|**15.**|**Credydwyr:**_symiau yn ddyledus o fewn blwyddyn_|||
|||**2022**|**2021**|
|||**£**|**£**|
||Credydwyr masnachol|1,133|19,225|
||Swm yn ddyledus dan gytundeb hur bwrcas|14,708|13,994|
||Treth a nawdd cymdeithasol|23,557|131|
||Croniadau ac incwm gohiriedig|29,072|196,822|
|||_______|_______|
|||68,470|230,172|
|||_______|_______|
|**16.**|**Credydwyr:**_symiau yn ddyledus ar ol blwyddyn_|||
|||**2022**|**2021**|
|||**£**|**£**|
||Swm yn ddyledus dan gytundeb hur bwrcas|28,842|42,919|
||(yn daladwy mewn llai na 5 blywyddyn)|_______|_______|
|**17.**|**Offerynnau ariannol**|||



|**17.**|**Offerynnau ariannol**|||
|---|---|---|---|
||Yr offerynnau ariannol a fesurir ar sail cost wedi ei amorteiddio yw’r benthyciad hur|bwrcas.||
|||**2022**|**2021**|
|||**£**|**£**|
||Swm yn ddyledus o fewn blwyddyn|14,708|13,994|
||Swm yn ddyledus dros blwyddyn ond o fewn pum mlynedd|28,842|42,919|
|||_______|______|
||Cyfanswm|43,550|56,913|
|||_______|_______|
|**18**.|**Cymodi'r elw gweithredol â'r mewnlif arian net o weithgareddau gweithredol**|||
|||**2022**|**2021**|
|||**£**|**£**|
||Symudiad net mewn cronfeydd|159,291|468,953|
||Llog a dderbyniwyd|(4)|(21)|
||Dibrisiant|58,977|34,614|
||Elw ar werthu ased|-|(145)|
||(Cynnydd) Lleihad/ mewn stoc|(11,449)|(3,542)|
||(Cynnydd)/Lleihad mewn dyledwyr|121,813|113,555|
||Cynydd/(Lleihad) mewn credydwyr|(161,702)|(179,180)|
|||________|_______|
||**Llif arian net o**|||
||**weithgareddau gweithredol**|166,926|434,234|
|||=======|=======|



29 



## **Antur Waunfawr** 

**Nodiadau i’r datganiadau ariannol** _am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022_ 

## **19. Ymroddiad cyfalaf** 

Ar ddiwedd y flwyddyn roedd gan Antur Waunfawr ymroddiad cyfalaf ynglŷn a datblygiad adeiladu o £700,118 _(2021 - £DIM )._ 

## **20. Cronfeydd cyfyngedig** 

||**31 Mawrth**|**Trosglwydd**|**Adnoddau**|**Ail -**||
|---|---|---|---|---|---|
||**2021**|**-iadau**|<br>**Cyllid**|**Brisio**|**Cyfanswm**|
||**£**|**£**|**£**|**£**|**£**|
|Warws Werdd|358,640|-|(10,548)|-|348,092|
|Sgubor Grefftau|8,797|-|(251)|-|8,546|
|Grant Cae Chwarae|22,140|-|(1,080)|-|21,060|
|Rhoddion|4,831|-|(2,365)|-|2,466|
|Grant Clothworkers Foundation|14,220|-|(11,570)|-|2,650|
|Grantiau Porth Yr Aur|458,999|-|98,492|-|557,491|
|Grant Adferiad Gwyrdd|102,685|-|(20,537)|-|82,148|
||_______|_______|_______|_______|_______|
||970,312||52,141||1,022,453|
||_______|_______|_______|______|_______|



||**31 Mawrth**|**Trosglwydd**|**Adnoddau**|**Ail -**||
|---|---|---|---|---|---|
||**2020**|**-iadau**|<br>**Cyllid**|**Brisio**|**Cyfanswm**|
||**£**|**£**|**£**|**£**|**£**|
|Warws Werdd|369,188|-|(10,548)|-|358,640|
|Sgubor Grefftau|9,048|-|(251)|-|8,797|
|Grant Cae Chwarae|23,220|-|(1,080)|-|22,140|
|Rhoddion|4,930|-|(99)|-|4,831|
|Grant Clothworkers Foundation|14,220|-|-|-|14,220|
|Grantiau Porth yr Aur|290,375|-|168,624|-|458,999|
|Grant Adferiad Gwyrdd|-|-|102,685|-|102,685|
||_______|_______|_______|_______|_______|
||710,981|-|259,331|-|970,312|
||_______|_______|_______|______|_______|



30 



## **Antur Waunfawr** 

**Nodiadau i’r datganiadau ariannol** _am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022_ 

## **Cronfeydd anghyfyngedig** 

|**Cronfeydd anghyfyngedig**||||||
|---|---|---|---|---|---|
||**Balans**|||||
||**31 Mawrth**|**Trosglwy-**|**Adnoddau**|**Ail**||
||**2021**|**ddiadau**|**Cyllid**|**Brisio**|**Cyfanswm**|
||**£**|**£**|**£**|**£**|<br>**£**|
|Tal Aelodaeth|182|-|-|-|<br>182|
|Cronfa Gyffredinol|2,674,393|(211,240)|<br>107,150|-|2,570,303|
|Cronfa Ailbrisio|528,088|(2,156)|<br>-|-|<br>525,932|
||________|______|______|______|<br>_______|
||3,202,663|(213,396)|<br>107,150||3,096,417|
|_Cronfeydd Dynodedig_||||||
|Cronfa Datblygu Eiddo|119,000|110,500|-|-|<br>229,500|
|Cronfa Wrth Gefn|511,707|102,896|-|-|<br>614,603|
||________|_______|_______|_______|<br>_______|
||3,833,370|-|107,150|-|3,940,520|
||________|_______|_______|_______|<br>_______|
||**Balans**|||||
||**31 Mawrth**|**Trosglwy-**|**Adnoddau**|**Ail**||
||**2020**|**ddiadau**|**Cyllid**|**Brisio**|**Cyfanswm**|
||**£**|**£**|**£**|**£**|<br>**£**|
|Tal Aelodaeth|182|-|-|-|<br>182|
|Cronfa Gyffredinol|2,246,131|218,640|209,622|-|2,674,393|
|Cronfa Ailbrisio|530,244|(2,156)|<br>-|-|<br>528,088|
||________|______|______|______|<br>_______|
||2,776,557|216,484|209,622|-|3,202,663|
|_Cronfeydd Dynodedig_||||||
|Cronfa Datblygu Eiddo|339,191|(220,191)|<br>-|-|<br>119,000|
|Cronfa Wrth Gefn|508,000|3,707|-|-|<br>511,707|
||________|_______|_______|_______|<br>_______|
||3,623,748|-|209,622|-|3,833,370|
||________|_______|_______|_______|<br>_______|



## **21.    Dadansoddiad o’r Cronfeydd rhwng yr asedau net ar 31ain Mawrth 2022** 

||**Cronfeydd**|**Cronfeydd**|**Cronfa**||
|---|---|---|---|---|
||**Cyfyngedig**|**Dynodedig**|**Gyffredinol**|**Cyfanswm**|
||**£**|**£**|**£**|**£**|
|Asedau Sefydlog|1,022,453|-|2,871,133|3,893,586|
|Asedau Cyfredol Net|-|844,103|254,126|1,098,229|
|Credydwyr: symiau yn ddyledus ar ôl blwyddyn|-|-|(28,842)|(28,842)|
||_______|_______|_______|_______|
|Cyfanswm asedau net|1,022,453|844,103|3,096,417|4,962,973|
||________|_______|_______|_______|



31 



## **Antur Waunfawr** 

**Nodiadau i’r datganiadau ariannol** _am y flwyddyn hyd at 31ain Mawrth 2022_ 

## **Cronfeydd Anghyfyngedig** 

Prif weithgaredd y cwmni yw darparu gwaith a hyfforddiant i bobl ag anabledd dysgu, a thrwy hynny gwasanaethu’r gymuned. 

## **Cronfeydd Dynodedig a chyfyngedig** 

Mae’r cwmni wedi penderfynu ymrwymo arian sydd ar gael wrth gefn er mwyn datblygu eiddo Sied Werdd. 

Mae swm yn cynrychioli tri mis o gyflog wedi ei gadw wrth gefn i gyfarfod unrhyw heriau annisgwyl h.y £614,603 ar hyn o bryd. Mae hyn yn unol a chanllawiau ymarfer da y Comisiwn Elusennau ac yn cyfarfod ag amcanion Llywodraethu Da Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru 

32 

