OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2023-03-31-accounts

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn Historical and Maritime Museum and Study Centre Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

CYFRIFON ARIANNOL AM Y FLWYDDYN I'R 31ain MAWRTH 2023

Rhif Elusen:- 514365

A. HUGHES JONES DYSON A'U CWMNI CYFRIFWYR SIARTREDIG CAERNARFON

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn

Historical and Maritime Museum and Study Centre Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

Cynnwys y Datganiadau Ariannol

Am Y Flwyddyn Yn Diweddu 31ain Mawrth 2023

Adroddiad Yr Ymddiriedolwyr 1 - 4
Adroddiad Yr Arholwr Annibynnol 5
Datganiad O'r Gweithgareddau Ariannol 6
Mantolen 7
Nodiadau i'r Cyfrifon 8 - 13

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn

Historical and Maritime Museum and Study Centre

Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

Adroddiad Yr Ymddiriedolwyr

Am Y Flwyddyn Yn Diweddu 31ain Mawrth 2023

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021

Mae’r Ymddiriedolwyr yn cyflwyno eu hadroddiad gyda datganiadau ariannol yr elusen ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023. Mae’r Ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu darpariaethau’r Datganiad Arfer a Argymhellir (SORP) 'Cyfrifyddu ac Adrodd gan Elusennau' a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2005.

CYFEIRNOD A MANYLION GWEINYDDOL

Rhif Elusen cofrestredig

514365

Prif gyfeiriad

Hen Eglwys Santes Fair Stryd y Mynach Nefyn, Gwynedd LL53 6LB

Ymddiriedolwyr

Mr W J Trenholme Mr J G Davies Mrs B Trenholme-Morgan Mrs J Hughes Mrs E M Jones Mrs M Pierce Jones

Archwilwyr Annibynnol

Brian Hughes. A. Hughes-Jones, Dyson a'u Cwmni. Capel Moreia, South Penrallt, Caernarfon, LL55 1NS

Banc Cyfreithwyr HSBC Bank Plc Parry Daves Clwyd Jones and Lloyd 48 High Street, Pwllheli Stryd Penlan, Pwllheli Gwynedd, LL53 5SE LL53 5DE

STRWYTHUR, LLYWODRAETHIANT A RHEOLAETH

Dogfen lywodraethu

Rheolir yr elusen gan ei dogfen lywodraethu, gweithred ymddiried, ac mae yn elusen anghorfforedig.

Rheoli risg

Mae dyletswydd ar yr Ymddiriedolwyr i adnabod ac adolygu’r risgiau sy’n wynebu’r elusen ac i sicrhau bod rheoliadau priodol yn eu lle i ddarparu sicrwydd rhesymol rhag twyll a chamgymeriadau.

AMCANION A GWEITHGAREDDAU

Amcanion yr elusen yw casglu, storio ac arddangos arteffactau, lluniau, mapiau, printiadau, llyfrau, cynlluniau, siartiau, dogfennau, cofnodion, llawysgrifau, offer a chofebau hanesyddol a morwrol ac eitemau eraill tebyg fel y gall y cyhoedd, neu unrhyw unigolyn neu grŵp o unigolion eu harchwilio a’u hastudio.

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn

Historical and Maritime Museum and Study Centre

Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

Adroddiad Yr Ymddiriedolwyr

Am Y Flwyddyn Yn Diweddu 31ain Mawrth 2023

Gweithgareddau arwyddocaol

Sefydlwyd yr amgueddfa yn 1977 gan griw o wirfoddolwyr lleol oedd yn awyddus i arddangos treftadaeth forwrol gyfoethog yr ardal. Ond bu’n rhaid i’r amgueddfa gau yn 2000 am resymau Iechyd a Diogelwch. Yn 2007, daeth aelodau o’r gymuned ymlaen gan ffurfio pwyllgor newydd i ailagor yr amgueddfa er budd ymwelwyr a’r gymuned leol. Cafwyd pecyn cyllido llwyddiannus yn cynnwys arian grant o Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cynulliad Cymru, cronfa Tir a Môr, AHNE Llŷn, Ymddiriedolaeth Drefol Nefyn, Cyngor Gwynedd a chronfa Cyfenter.

Yn yr amgueddfa ceir arddangosfa barhaol, llwyfan ar gyfer perfformiadau bach, gofod ar gyfer cynnal gweithgareddau, caffi a siop. Ni chodir tâl mynediad i’r amgueddfa er mwyn annog pobl i ymweld droeon a thro. Trefnir rhaglen amrywiol o weithgareddau yn cynnwys darlithoedd gwadd, gweithgareddau i blant, arddangosfeydd dros dro a chyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith.

Dechreuodd y gwaith ailddatblygu yn hydref 2012 pan roddwyd to newydd, y talwyd amdano gyda grantiau gan AHNE Llŷn a CADW a rhodd gan Ymddiriedolaeth Drefol Nefyn. Gwnaed gwaith ailddatblygu sensitif a chynaliadwy yn cynnwys gosod deunydd insiwleiddio, ffenestri a llawr newydd, ynghyd â system wresogi Airsource. Adeiladwyd ramp newydd ar gyfer yr anabl yng ngwanwyn 2013, wedi’i gyllido drwy grant Ein Treftadaeth CADW a chymorth o gronfa tirlenwi Tir a Môr. Dyluniwyd y ramp i ymdebygu i’r rheiliau ar fwrdd llong. Ym mis Medi 2013, dechreuodd y cwmni adeiladu ar y gwaith yn adeilad yr amgueddfa. Roedd hyn yn cynnwys rhaglen o insiwleiddio, gosod llawr a llwybr ithfaen tuag at y giât, rhoi swyddfa a chegin i mewn, gosod ffenestri newydd ac ail-bwyntio’r eglwys a’r tŵr.

Cyllidwyd y prosiect drwy becyn o grantiau yn cynnwys Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Rhaglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol Llywodraeth Cymru. Yn ystod y gwaith adnewyddu ym mis Tachwedd 2013, gwnaed peth gwaith tanategu er mwyn sefydlogi’r waliau a’r to, a dyma pryd y darganfuwyd y bedd cist hynafol a’r sgerbwd gan yr archeolegwyr. Ailagorodd yr amgueddfa ei drysau i’r cyhoedd yn swyddogol ar 19 Gorffennaf 2014. Ers hynny mae’r amgueddfa wedi gweithredu prif amcanion yr elusen yn llwyddiannus, gan gynnwys darparu arddangosfeydd morwrol hanesyddol a rhai perthnasol eraill yn ogystal â darparu gweithgareddau addysgol er budd y cyhoedd. Mae’r gweithgareddau ategol yn cynnwys rhedeg siop anrhegion a chaffi.

Er Budd y Cyhoedd

Mae’r ymddiriedolwyr wedi adolygu eu rhwymedigaeth o dan Adran 17(5) o Ddeddf Elusennau 2011, sef i roi sylw i’r canllawiau er budd y cyhoedd a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Elusennau, a chadarnhânt eu bod yn cydymffurfio.

CYFLAWNIAD A PHERFFORMIAD

Gweithgareddau elusennol

Er 2007 mae pwyllgor newydd yr elusen wedi gweithio’n galed i sicrhau’r cyllid oedd ei angen i wneud gwaith

adnewyddu sylweddol ar adeilad yr Hen Eglwys a dechreuodd hyn o ddifri yn 2012, gyda’r gwaith adnewyddu yn cynnwys ail-doi ac addasu’r adeilad i ddarparu mynediad rhwydd i bawb. Fel rhan o’r broses hon bu’n rhaid symud casgliad yr elusen a chawsant eu cadw mewn storfa ddiogel - diolch i’r gwirfoddolwyr a weithiodd yn galed er mwyn helpu i’w symud.

Mae gan Amgueddfa Forwrol Llŷn gasgliad unigryw o tua 400 o arteffactau cysylltiedig â hanes a threftadaeth forwrol Nefyn a Phenrhyn Llŷn. Mae hyn yn cynnwys arteffactau, peintiadau, darluniau, modelau llongau, angorion, ffotograffau a dogfennau. Ymhlith y creiriau o longddrylliadau mae plât enw o’r Royal Charter, angor

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn

Historical and Maritime Museum and Study Centre

Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

Adroddiad Yr Ymddiriedolwyr

Am Y Flwyddyn Yn Diweddu 31ain Mawrth 2023

o’r Vella a llestri a photeli wisgi o’r Stuart a ddrylliwyd yn 1901. Mae offer mordwyo yn cynnwys cwmpawdau a secstantau. Mae yn y casgliad hefyd offer adeiladu llongau yn cynnwys llifiau a ddefnyddiwyd i adeiladu llawer o longau ar draethau Nefyn a Phorthdinllaen yn ystod yr 19eg ganrif. Yn yr amgueddfa hefyd ceir nifer o arteffactau sy’n portreadu bywyd ar fwrdd llong a rhai a ddygwyd yn ôl o deithiau tramor hir. Mae’r casgliad yn cynnwys 21 o fodelau llongau. Ceir hefyd beintiadau o longau, printiadau o’r ardal leol a phosteri. Mae’r amgueddfa yn meddu ar gasgliad mawr o ffotograffau a chardiau post gan longwyr a chapteiniaid lleol. Mae yna dros 30 o faneri cwmnïau llongau a adferwyd yn ddiweddar, a chaiff y rhain eu harddangos yn yr amgueddfa. Mae Amgueddfa Forwrol Llŷn yn falch hefyd o fod yn rhan o Ecoamgueddfa gyntaf Cymru sy’n cael ei datblygu ar Benrhyn Llŷn - yr Ecoamgueddfa. Mae’r cysyniad o Ecoamgueddfeydd wedi bod yn llwyddiannus mewn gwledydd eraill ar hyd a lled y byd ond hon yw’r gyntaf o’i bath yng Nghymru. Nod yr Ecoamgueddfa ar benrhyn Llŷn yw dathlu treftadaeth gyfoethog ardal yr Ecoamgueddfa gyda chwe sefydliad treftadaeth yn cydweithio. Mae’r aelodau’n cynnwys Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Felin Uchaf, Plas Heli, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Forwrol Llŷn a Nant Gwrtheyrn. Dyma gyfle ardderchog i gynyddu’r ymdeimlad o falchder cymunedol ym Mhenrhyn Llŷn a chodi proffil yr ardal ledled y byd trwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn modd arloesol a chadarnhaol.

Y weledigaeth ar gyfer yr Ecoamgueddfa yw sicrhau cynnydd mewn twristiaeth ddiwylliannol yn yr ardal, gan arwain at ddiwydiant twristaidd cynaliadwy trwy gydol y flwyddyn, a ddaw â manteision economaidd yn ogystal â chymdeithasol.

Ers i’r amgueddfa ailagor ym mis Gorffennaf 2014, cafwyd nifer o arddangosfeydd amlwg, trefnwyd a chynnal nifer o gyflwyniadau, sgyrsiau a darlithoedd ar hanes yr ardal a’i phobol yn ogystal â chynnal gweithdai plant.

ADOLYGIAD ARIANNOL

Polisi Cronfeydd

Ym marn yr Ymddiriedolwyr, dylid cadw cronfeydd digonol wrth gefn i alluogi’r gweithgareddau elusennol i barhau am o leiaf ddeuddeng mis.

ADOLYGIAD Y FLWYDDYN

Bu hon yn flwyddyn ail agor ar ôl y Cofid. Roedd pethau'n ansicr trwy'r wlad, gyda chwyddiant a chostau ynni yn codi i'r entrychion. Bu'n gyfnod digon pryderus a sigledig. Cafwyd newid staff gyda Jina Gwyrfai yn lleihau ei horiau yn ystod Hydref a Gaeaf 2022, Janice Evans yn cymryd mwy o oriau a Dyddgu Williams yn cael ei phenodi yn Rheolwr rhan amseryn ystod Chwefror 2023. Hefyd dros Rhagfyr 2022 a Ionawr 2023 cawsom

brosiect i gydredeg gyda Cymru yn chwarae pel droed yng Nghwpan y Byd. Penodwyd Ceiri Coker i wneud y gwaith hwn a llwyddwyd i gysylltu gydag ysgolion lleol a'r gymuned yn dda.

Bu'r Pwyllgor Rheoli yn cydweithio gyda Gwion Jones i ddatblygu Cyfansoddiad newydd - sef trosglwyddo o fod yn Ymddiriedolaeth i fod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol. Mae'r gwaith yma yn parhau.

O fewn yr adeilad, llwyddwyd i gael gosod lifft i godi arteffactau i'r Mezzanine. Mae'r goleudadau a'r gwres yn

peri trafferth a bydd rhaid gwario i'w diweddaru yn y dyfodol. Cynhyrchwyd adnoddau ar gyfer y Cwriciwlwm Hanes newydd ac mae'r gwaith hwn i'w barhau. Cafwyd cryn lwyddiant wrth ddennu diddordeb ysgolion lleol i ymweld. Cafwyd tair arddanosfa wahanol, a baratowyd gan y Grwp Arteffactau - Enwogion Nefyn,

Arddangosfa Blue Funnel a Trychinebau ar y Mor. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddiweddaru Achrediad yr Amgueddfa. Cynhaliwyd Gwyl Fadrun, Gwyl Ganoloesol lwyddiannus yn ystod yr Haf. Cafwyd diwrnod braf a

4

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn

Historical and Maritime Museum and Study Centre

Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

Adroddiad Yr Ymddiriedolwyr

Am Y Flwyddyn Yn Diweddu 31ain Mawrth 2023

mwynhawyd gweithgareddau o fewn waliau'r fynwent ac yng nhae chwarae Bryn Mynach.

Cynhelir gweithgareddau yn rheoliadd. Mae criw Brodio yn cyfarfod bob bythefnos - criw sy'n dod at ei gilydd i ddatblygu eu crefft yn ogystal a chael cyfle i gael sgwrs a chwmni. Cynhaliwyd sgyrsiau haf a

cynhaliwyd raffl flynyddol, bore coffi a noson Garolau i godi arian. Bu'n gyfnod o baratoi at ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol a'r ardal yn Awst 2023. Llwyddwyd i gael presenoldeb da yno trwy gydweithio gyda'r Eco Amgueddfa. Mae 162 yn Gyfeillion yr Amgueddfa.

Mae'r Pwyllgor Rheoli a Rheolwr yr Amgueddfa, fel rhan o'u polisi wedi cynhyrchu cynllun busnes ac wedi penodi Trysorydd sy'n diweddaru'r Pwyllgor yn rheolaidd, fel arfer yn fisol neu ddeufisol. Mae pob data trosglwyddo arian wedi ei gofnodi un ai yn ddigidol neu fel copi caled.

Mae pob gwybdoaeth ariannol wedi ei adrodd i'r Cyfrifydd er sicrhau tryloywder a chydymffurfiaeth a'r anghenion cyfreithiol.

Datganiad O Gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr

Mae'r Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am baratoi adroddiad yr Ymddiriedolwyr ar datganiadau ariannol yn unol a'r rheolau perthnasol a Safonau Cyfrifyddol Y Deyrnas Unedig (Arferion Cyfrifyddol Y Deyrnas Unedig).

O dan rheolau elusennau yn Lloegr a Cymru mae yn ofynnol i'r Ymddiriedolwyr baratoi datganiadau ariannol bob blwyddyn sydd yn dangos darlun gwir a theg o sefyllfa'r elusen ac o elw neu cholled yr elusen am y cyfnod hwnnw.

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol mae'n ofynnol i'r Ymddiriedolwyr:

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddol sy'n dangos safle ariannol y cwmni a'u galluogi i baratoi cyfrifon sydd yn cydymffurfio gyda Deddf Elusennau 2011, Rheolau Elusennau 2008 (Cyfrifon ac adroddiadau) ac gofynion y gweithred Ymddiriedolaeth.

Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r elusen ac felly yn gyfrifol am rwystro a datgelu twyll ac unrhyw afreoleidd-dra arall.

W J Trenholme -Ymddiriedolwr

Dyddiad:

5

Adroddiad Yr Arholwr Annibynnol I Ymddiriedolwyr

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn

Historical and Maritime Museum and Study Centre

Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

Rhoddaf adroddiad ar gyfrifon yr elusen am y flwyddyn i'r 31ain Fawrth 2023 ar dudalennau 6 i 13.

Cyfrifoldebau sydd yn briodol i'r Ymddiriedolwyr Ar Arholwr Annibynnol

Chwi fel Ymddiriedolwyr yr elusen sydd yn gyfrifol am baratoi'r cyfrifon, yr ydych yn ystyried nad yw'r gofyniad i gynnal archwiliad yn gymwys, a bennir yn adran 144(2) o'r Ddeddf

Elusennau 2011 (Y Ddeddf 2011) ac y bod angen arholiad annibynnol.

Fy nghyfrifoldeb i yw:

dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011; ac

Sail adroddiad yr Arholwr Annibynnol

Gwnaed yr arolwg yn ôl y Canllawiau Cyffredinol a roddwyd gan Gomisiynwyr yr Elusennau. Mae'r arolwg yn cynnwys adolygu cofnodion y cyfrifon a gedwir gan yr Elusen a chymharu'r cyfrifon sydd yn cael eu cyflwyno gyda'r cofnodion. Mae'n cynnwys hefyd ystyriaeth o unrhyw eitem anghyffredin neu ddadleniadau yn y cyfrifon a cheisiwyd cael eglurhad gennych chi fel Ymddiriedolwyr ynglyn ag unrhyw faterion o'r fath. Ni fydd y ffurf a gymerir gennyf yn rhoi'r holl dystiolaeth a fuasai ei angen mewn archwiliad, ac felly nid wyf yn datgan barn a yw'r cyfrifon yn cyflwyno 'darlun gwir a theg' ac mae'r adroddiad wedi ei gyfyngu i'r materion a nodwyd yn y datganiad isod.

Datganiad yr Arholwr Annibynnol

Yn gysylltiedig â'r arolwg a wnaed gennym ni ddaeth dim i'm sylw:

(1) sydd yn rhoi achos rhesymol i mi gredu nad yw, mewn unrhyw fodd o bwys yr anghenion wedi eu cadw ynglyn a:

(i) cadw cofnodion cyfrifyddol yn unol ag Adran 130 o Ddeddf 2011; ac

(ii) i baratoi cyfrifon sydd yn cydfynd a'r cofnodion cyfrifyddol ac sydd yn ufuddhau i ofynion cyfrifyddol Ddeddf 2011.

(2) Nid oes unrhyw fater yn fy marn sydd angen tynnu sylw iddo er mwyn rhoi dealltwriaeth llawn o'r cyfrifon.

Dyddiad:

B Hughes FCA A. Hughes Jones Dyson A'u Cwmni. Cyfrifwyr Siartredig ac Archwilwyr Cofrestredig Capel Moreia South Penrallt, Caernarfon

6

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn

Historical and Maritime Museum and Study Centre

Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

Datganiad O'r Gweithgareddau Ariannol Am Y Flwyddyn i'r 31ain Mawrth 2023

Incwm
Nodiadau
Cymynroddion a Rhoddion
2
Gweithgareddau Masnachu Eraill
3
Incwm buddsoddiadol
Gweithgareddau Elusennol
4
Cyfanswm Incwm
Gwariant
Codi Arian
5
Gweithgareddau Elusennol
7
Cyfanswm Gwariant
Symudiad Net Mewn Cronfeydd
Cronfeydd a Ddygwyd Ymlaen
Cronfeydd i Gario Ymlaen
Cronfeydd
Heb eu
Cyfanswm
Cyfyngu
Cronfeydd
2023
2022
£
£
5,346
8,184
8,806
4,170
200
8
19,860
34,110
34,212
46,472
3,166
921
80,627
73,792
83,793
74,713
(49,581)
(28,241)
458,420
486,660
408,839
458,419
Cronfeydd
Heb eu
Cyfanswm
Cyfyngu
Cronfeydd
2023
2022
£
£
5,346
8,184
8,806
4,170
200
8
19,860
34,110
34,212
46,472
3,166
921
80,627
73,792
83,793
74,713
(49,581)
(28,241)
458,420
486,660
408,839
458,419
46,472
921
73,792
74,713
(28,241)
486,660
458,419

7

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn

Historical and Maritime Museum and Study Centre

Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

Mantolen ar 31ain Mawrth 2023

Nodiadau
Asedau sefydlog
Asedau sefydlog cyffyrddadwy
8
Asedau Treftadaeth
9
Asedau cyfredol
Stoc
Dyledwyr
10
Arian yn y banc ac mewn llaw
Rhwymedigaethau
Symiau dyledus o fewn un
flwyddyn
11
Asedau cyfredol net
Asedau net
12
Cronfeydd
Heb eu cyfyngu
12
2023
£
3,474
-
60,178
63,652
1,726
2022
£
£
£
296,913
326,182
50,000
50,000
346,913
376,182
2,708
13,586
68,162
84,456
2,218
61,926
82,238
408,839
458,420
408,839
458,420

Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar , 2023 ac arwyddwyd ar eu rhan gan

W J Trenholme -Ymddiriedolwr

D Evans -Ymddiriedolwr

8

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn

Historical and Maritime Museum and Study Centre

Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

Nodiadau I'r Cyfrifon Am y Flwyddyn i'r 31ain Mawrth 2023

Confensiwn Cyfrifydda

Paratowyd y cyfrifon yn ôl y confensiwn cost hanesyddol, wedi ei addasu trwy ail-brisio rhai asedau sefydlog. Mae'r Datganiadau Ariannol wedi'u paratoi yn unol a'r Datganiad Arferion Cyfrifo: Cyfrifo ac Adrodd gan

Elusennau sydd yn paratoi eu cyfrifon yn unol a'r Safon Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU

a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2014 a'r Safon Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) a Deddf Elusennau 2011.

Wrth baratoi y cyfrifon mae'r ymddiriedolwyr wedi ystyried pan yn ymroi i'r polisiau cyfrifo sy'n ofynnol gan FRS 102 ar SAA FRS 102 i Elusennau a oedd angen ailddatgan y ffigyrau cymharol. Nid oedd angen ailddatgan.

Incwm

Mae'r incwm yn cael ei gynnwys yn y Datganiad o weithgareddau ariannol pan mae gan yr elusen hawl cyfreithiol i'r incwm ac mae modd ei gyfrifo gyda chywirdeb rhesymol.

Tanysgrifiadau a Rhoddion

Mae tanysgrifiadau a rhoddion yn cael eu cydnabod yn y cyfnod y maent yn berthnasol, mae hyn yn cynnwys tanysgrifiadau am aelodaeth bywyd, sydd oherwydd perthnasedd canfyddedig, ni ystyrir bod angen polisi arwahan.

Gwariant

Mae gwariant yn cael ei gydnabod ar sail croniadau ac wedi ei ddosbarthu dan benawdau sydd yn berthnasol i gyfanswm yr holl gostau sy'n gysylltiedig â'r categori. Lle na ellir priodoli costau'n uniongyrchol i benawdau penodol maent wedi cael eu dyrannu i weithgareddau ar sail sy'n gyson â'r defnydd o adnoddau.

Asedau Cyffwrddadwy

Darperir dibrisiant ar asedau sefydlog ar y gyfradd ganlynol, yn seiliedig ar amcangyfrif o oes ddefnyddiol yr asedau, a'u gwerth gweddilliol disgwyliedig:

Gosodion a Man daclau 20% o'r gost
Cyfrifaduron 25% o'r gost

Mae'r eiddo a feddiannir gan yr elusen, a elwir yn Hen Eglwys y Santes Fair, sef eiddo i'r Eglwys yng Nghymru, yn cael ei brydlesu o dan gytundeb o'r newydd wedi'i lofnodi ar 22ain Ebrill 2013. Mae cyfnod y brydles yn 25 mlynedd.

Fel y cyfryw, mae'r gwariant cyfalaf gan yr elusen yn ystod y gwaith o adnewyddu yr eiddo yn cael ei ddibrisio ar sail llinell syth o 4% sy'n gynrychiadol o'r budd a ddisgwylir ar y gwariant gan yr elusen o dan y gytundeb prydles gyfredol.

9

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn

Historical and Maritime Museum and Study Centre

Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

Nodiadau I'r Cyfrifon Am y Flwyddyn i'r 31ain Mawrth 2023

1 Polisiau cyfrifyddol (Parhad)

Asedau Treftadaeth

Cydnabyddiaeth a Phrisiad

Mae casgliad yr amgueddfa o arteffactau morwrol ac eitemau cysylltiedig, sy'n cael eu

cynnal ar gyfer hyrwyddo'r prif amcan yr elusen, yn cael eu hadrodd ar y fantolen ar sail prisiad. Oherwydd natur amrywiol y asedau a ddelir, nid yw'r ymddiriedolwyr yn ystyried bod cost dibynadwy ar gael ar gyfer y mwyafrif helaeth o eitemau a gynhaliwyd yn y casgliad, mae'r prisiad wedi cael ei ddarparu gan yr ymddiriedolwyr, ac mae'n seiliedig ar gwerth yswirio'r casgliad. Mae ychwanegiadau yn cael eu gwneud gan brynu neu rhodd. Cofnodir pryniant yn ol eu cost yn y man cyntaf, ac mae rhoddion yn cael eu cofnodi yn ôl eu gwerth cyfredol a seilir gan curadur yr amgueddfa, gan gyfeirio, lle bo'n bosibl, i farchnadoedd masnachol gan ddefnyddio trafodion diweddar o arwerthiannau.

Cost Cadwraeth

Gwariant sydd, ym marn yr ymddiriedolwyr, mae'n ofynnol i gadw neu atal dirywiad pellach o eitemau unigol yn y casgliad, yn cael ei gydnabod yn y cyfrif incwm a gwariant pan wariwyd.

Stoc

Prisir y stoc yn ôl yr isaf o'r cost a phris y farchnad ar ol ystyried gostyngiad mewn gwerth.

Treth

Mae'r elusen yn rhydd o dreth ar ei weithgareddau elusennol.

Cyfrifyddu Cronfa

Gall cronfeydd anghyfyngedig gael eu defnyddio yn unol ag amcanion elusennol ar ddisgresiwn yr ymddiriedolwyr. Gall cronfeydd cyfyngedig gael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion cyfyngedig penodol o fewn amcanion yr elusen. Mae cyfyngiadau yn codi pan bennwyd gan y rhoddwr neu pan fydd arian yn cael ei godi at bwrpas penodol.

Cymynroddion a rhoddion Cronfeydd
Heb eu Cyfanswm
Cyfyngu Cronfeydd
2023 2022
£ £
Rhoddion 4,209 6,912
Ffioedd Ffrindiau 1,137 1,272
5,346 8,184
Gweithgareddau Masnachu Eraill
£ £
Gweithgareddau Codi Arian 1,781 1,155
Incwm Siop a Caffi 7,025 3,015
8,806 4,170

3

10

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn

Historical and Maritime Museum and Study Centre

Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

Nodiadau I'r Cyfrifon Am y Flwyddyn i'r 31ain Mawrth 2023

Cronfeydd
4
Incwm o Weithgareddau Elusennol
Heb eu
Cyfyngu
2023
£
Grantiau
19,860
19,860
5
Codi Arian
2023
Costau Siop a Caffi
£
Stoc agoriadol
2,708
Pryniant
3,932
Stoc caeedig
(3,474)
3,166
6
Costau Gweithwyr
Roedd nifer cyfartalog o weithwyr yn ystod y flwyddyn fel a ganlyn:
Rheolwr Datblygu
Arall
Cyfanswm
Cronfeydd
2022
£
34,110
34,110
2022
£
1,989
1,640
(2,708)
921
2023
2022
1
1
1
1
2
2

Ni dderbyniodd unrhyw aelod o staff gyflog o dros £60,000 yn y flwyddyn gyfredol.

Ni dalwyd cyflog nac ad-dalwyd costau ar ran unrhyw Ymddiriedolwr yn ystod y flwyddyn gyfredol neu flaenorol.

11

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn

Historical and Maritime Museum and Study Centre

Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

Nodiadau I'r Cyfrifon Am y Flwyddyn i'r 31ain Mawrth 2023

7
Gwariant Ar Weithgareddau Elusennol
Cyflogau
Costau Pensiwn
Costau Arddangosion
Costau Poroject
Gweithgareddau
Trethi a Dwr
Yswiriant
Gwres a Goleuo
Teleffon
Defnyddiau Swyddfa ac Argraffu
Atgyweirio ac Adnewyddu
Glanhau
Costau Wefan a Hysbysebu
Amrywion
Hyfforddi
Ffioedd cyfrifyddol
Ffioedd Proffesiynol
Dibrisiant- Gwelliannau Asedau Ar Les
Dibrisiant- Gosodion a Man Daclau
Dibrisiant-Cyfrifaduron
Cronfeydd
Heb eu
Cyfanswm
Cyfyngu
Cronfeydd
2023
2022
£
£
21,467
19,079
205
238
545
1,866
13,080
13,423
4,567
421
150
119
2,544
2,159
2,079
171
-
756
1,162
944
472
1,616
2,750
16
180
179
674
242
275
600
-
1,368
1,320
1,000
-
27,045
27,045
2,102
2,628
122
152
80,627
73,792

12

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn

Historical and Maritime Museum and Study Centre

Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

Nodiadau I'r Cyfrifon Am y Flwyddyn i'r 31ain Mawrth 2023

8
Asedau Sefydlog
Cost neu brisiad
Ar 01/04/22
Ychwanegiadau
Ar 31/03/23
Dibrisiant
Ar 01/04/22
Codiant am y Flwyddyn
Ar 31/03/23
Gwerth llyfr net 31/03/23
Gwerth llyfr net 31/03/22
Eiddo Ar
Gosodion a
Les
Man Daclau
£
£
540,870
34,360
-
-
540,870
34,360
225,813
23,847
27,045
2,102
252,858
25,949
288,012
8,411
315,057
10,513
Cyfrifaduron
£
21,988
-
21,988
21,376
122
21,498
490
612
Cyfanswm
£
597,218
-
597,218
271,036
29,269
300,305
296,913
326,182
9 Asedau Treftadaeth Cyfanswm
Gwerth Marchnad £
Ar 1af Ebrill 2022 ac 31ain Fawrth 2023 50,000

Fel y nodir yn adroddiad yr ymddiriedolwyr, mae gan Amgueddfa Forwrol Llŷn gasgliad unigryw o tua 400 o greiriau cysylltiedig â’r dreftadaeth forwrol a hanes Nefyn a Phenrhyn Llŷn.

Mae’n cynnwys arteffactau, peintiadau, darluniau, modelau llongau, angorau, ffotograffau a dogfennau. Ymhlith y creiriau o longddrylliadau mae plât enw o’r Royal Charter, angor o’r Vella, a llestri a photeli wisgi o’r Stuart a ddrylliwyd yn 1901. Mae offer mordwyo yn cynnwys cwmpawdau a secstantau.

Yn y casgliad hefyd mae offer adeiladu llongau yn cynnwys llifiau a ddefnyddiwyd i adeiladu llawer o longau

ar draethau Nefyn a Phorthdinllaen yn ystod yr 19eg ganrif. Yn yr amgueddfa hefyd cedwir nifer o arteffactau sy’n adrodd hanes bywyd ar long ac eitemau a gludwyd adref o deithio tramor hirfaith. Mae 18 model llong yn y casgliad, ynghyd â pheintiadau llongau, printiadau o’r ardal leol, mapiau a phosteri. Mae’r amgueddfa hefyd yn berchen ar gasgliad mawr o ffotograffau a chardiau post gan forwyr a chapteiniaid lleol. Mae gennym dros 30 baner

gan gwmnïau llongau sydd wedi cael eu glanhau’n ddiweddar ac sy’n cael eu harddangos yn yr amgueddfa.

Byddwn unai’n prynu eitemau neu bobl yn eu rhoi i ni. Mae’r Amgueddfa yn cadw’r hawl i gael gwared ar eitemau o’r casgliad o dro i dro er mwyn prynu pethau newydd pan fo’r ymddiriedolwyr o’r farn nad yw hyn yn tynnu oddi wrth hunaniaeth y casgliad yn ei gyfanrwydd.

13

Amgueddfa Hanesyddol a Morwrol a Chanolfan Astudiaethau Llŷn

Historical and Maritime Museum and Study Centre

Marchnata fel Amgueddfa Forwrol Llŷn Maritime Museum

Nodiadau I'r Cyfrifon Am y Flwyddyn i'r 31ain Mawrth 2023

10 Dyledwyr 2023 2022
£ £
Grantiau yn ddyledus - 13,586
11 Credydwyr: symiau yn ddyledus 2023 2022
o fewn blwyddyn £ £
Treth Ac Yswiriant Gwladol 276 840
Credydwyr Eraill 1,450 1,378
1,726 2,218
12 Symudiad Mewn Cronfeydd
Cronfeydd Cronfeydd
A Ddygwyd Incwm Gwariant Ar 31ain
Ymlaen Fawrth 2023
£ £ £ £
Heb eu cyfyngu 458,420 34,212 83,793 408,839