OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2023-03-31-accounts

CYMDEITHAS TŶ TAWE

Adroddiad blwyddyn yn gorffen Ebrill 2023 I’r Comisiwn Elusennau

Nod a dibenion

Mae gan Gymdeithas Tŷ Tawe ddau brif nod

  1. Hyrwyddo addysg a gwybodaeth gyffredinol y gymuned trwy gefnogi astudio a gwerthfawrogi'r iaith Gymraeg, hanes Cymru, ac etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru.

  2. Sefydlu a chynnal canolfan i'r gymuned a fydd yn darparu cyfleusterau i'r aelodau ac aelodau'r gymuned ac ar gyfer eu hymwneud a'i gilydd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg mewn chwaraeon, dysgu'r Gymraeg, cerdd a dawns, a llenyddiaeth.

Amcanion a Gweithgareddau

Mae Cymdeithas Tŷ Tawe’n ymrwymedig i sicrhau bod cynifer â phosib yn mynychu digwyddiadau yn y Ganolfan, a bod defnydd o’r Gymraeg yn cael ei ehangu yn Abertawe.

Mae Cymdeithas Tŷ Tawe, gyda chymorth ei is-gwmni, Menter Iaith Abertawe, yn cynnal siop Gymraeg, yn trefnu digwyddiadau wythnosol i ddysgwyr yr iaith, ac yn trefnu sesiynau adloniant wythnosol.

Trwy gynnal y Ganolfan, mae Cymdeithas Tŷ Tawe’n darparu lle i gyrff, sefydliadau a mudiadau sy’n defnyddio’r Gymraeg ac yn hyrwyddo’r defnydd ohoni. Mae’r rhain yn cynnwys Côr Tŷ Tawe, Dysgu Cymraeg Bae Abertawe, Clwb Darllen, Capel Gomer, Merched y Wawr, dosbarthiadau i ddysgwyr Dysgu Cymraeg Bae Abertawe ac eraill.

Cyflawniadau a Pherfformiad

Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, adferodd Tŷ Tawe o effaith covid y ddwy flynedd cyn hynny. Gwelwyd rhaglen lawn o weithgareddau’n cael eu cynnal, gan gynnwys nifer helaeth o gigiau, nosweithiau canu gwerin misol, sesiynau amrywiol i bobl ifanc a phlant a nifer o rai eraill.

Darparwyd siopau siarad i ddysgwyr ar foreau Sadwrn ac iau trwy gymorth gwirfoddolwyr, a chadwyd yr un pryd i gynnal sesiynau sgwrsio trwy zoom a gychwynnwyd yn ystod y cyfnod covid.

Llwyddodd y siop i weithredu, yn ddi-dor, gan ddarparu deunyddiau i ysgolion a llyfrgelloedd a darparu gwasanaeth prynu trwy’r we.

Defnyddiwyd Tŷ Tawe’n helaeth gan nifer o’r grwpiau a enwyd, ond bu’n rhaid i Gapel Gomer roi’r gorau i’w gweithgareddau am resymau y tu hwnt i ofal Tŷ Tawe.

Bu rhai o prif gantorion poblogaidd Cymru’n canu yn y nosweithiau adloniant misol.

Datblygu’r Ganolfan

Yn sgil y gwaith ar wnaed ar ddileu lleithder, roedd modd defnyddio holl adnoddau’r adeilad yn ddirwystr.

Cafodd y Fenter Iaith gymorth ariannol gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe i adnewyddu golwg allanol y Ganolfan, ac edrychwn ymlaen at weld hyn.

Rhedeg y Ganolfan

Cadarnhawyd incwm y Ganolfan trwy gael rhent am y siop, rhent gan y Fenter Iaith, arian am logi ystafelloedd, a chafwyd cyfraniadau parhaus gan aelodau a chefnogwyr.

Tudalen

Yn ystod y flwyddyn aethpwyd at i newid statws elusennol y Gymdeithas i fod yn Sefydliad Ymgorfforedig Elusennol a gobeithiwn y llwyddir i wneud hyn yn ystod y flwyddyn i ddod.

Staff y Fenter Iaith oedd yn bennaf yn gyfrifol am redeg y Ganolfan, wrth dderbyn incwm mewn cytundeb lefel gwasanaeth gyda Chymdeithas Tŷ Tawe. Adolygwyd y memorandwm dealltwriaeth rhwng Cymdeithas Tŷ Tawe a’r Fenter Iaith i sicrhau cydweithio effeithiol.

Roedd staff y Fenter Iaith yn sefydlog, am y tro cyntaf am sawl blwyddyn, a chroesawyd gweithwyr rhan amser i’r siop.

Gwirfoddolwyr

Mae Cymdeithas Tŷ Tawe wedi rhoi pwyslais ar ddatblygu gwirfoddolwyr o’r cychwyn. Mae hyn yn rhoi cyfle i siaradwyr newydd ddefnyddio’r Gymraeg, ac yn dod â siaradwyr Cymraeg a siaradwyr newydd at ei gilydd. Mae gwirfoddolwyr yn rhoi cymorth yn y siop bob dydd Sadwrn, a hefyd yn rhedeg y caffi, sy’n rhoi cyfle i siaradwyr newydd ddod at ei gilydd. Cafwyd cymorth tua thrigain o wirfoddolwyr

Materion ariannol

Mae gan Gymdeithas Tŷ Tawe gyfrif wrth gefn a chyfrif cyfredol. Mae’r swm yn y cyfrif cyfredol yn amrywio o gwmpas £10,000 a’r swm yn y cyfrif wrth gefn o gwmpas £30,000.

Mae adeilad Tŷ Tawe’n rhan helaeth o’r asedau diriaethol, a nodir fel £489,658 yn ein cyfrifon. Derbyniwyd £9,217 mewn rhoddion ac incwm aelodaeth. Roedd incwm y siop a gwerthiant llyfrau’n £54,566. Derbyniwyd £38,959 yn incwm rhent, llogi ystafelloedd ac eraill. Roedd y gwariant yn cynnwys £39,257 ar stoc a masnachu, ac roedd gwriant ar gynnal y sefydliad yn £38,959. £5,752 oedd yr incwm net. Gwelir y manylion ariannol llawn yn ein hadroddiad ariannol.

Rheolaeth

Y swyddogion yn ystod y flwyddyn oedd Catrin Rowlands (Cadeirydd), Jaci Gruffudd (Trysorydd), Rhian Jones (Ysgrifennydd). Ymddiriedolwyr yr elusen oedd Heini Gruffudd, Jaci Gruffudd a Roderick Evans.

Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol trwy gyfrwng zoom. Mae hawl gan yr holl aelodau i gymryd rhan yn hwn, i ddewis swyddogion ac i gymeradwyo’r cyfrifon a’r adroddiad blynyddol.

Gwneir penderfyniadau dydd i ddydd gan y swyddogion, a chynhelir cyfarfodydd o bryd i’w gilydd gydag aelodau pan fo angen.

Tudalen

RHIF ELUSEN GOFRESTREDIG : 514082

DATGANIADAU ARIANNOL HEB EU HARCHWILIO

AM Y FLWYDDYN DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023

i

GYMDEITHAS TŶ TAWE

Bevan Buckland LLP Llawr Gwaelod Tŷ Ceredigion Llys Castell Parc Menter Abertawe SA7 9LA

CYMDEITHAS TY TAWE

CYNNWYS Y DATGANIADAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN DDAETH I BEN AR 31 MAWRTH 31 MARCH 2023

Tudalen
Manylion Cyfeirio a Gweinyddol 1
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr 2
Adroddiad Archwiliwr Annibynnol 3
Datganiad o Weithgareddau Ariannol 4
Mantolen 5
Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol 6 i 11
Datganiad Manwlo Weithgareddau Ariannol 12 i 13

Page 1

CYMDEITHAS TY TAWE

MANYLION CYFEIRIO A GWEINYDDOL Y FLWYDDYN I BEN AR 31 MAWRTH 2022

YMDDIRIEDOLWYR U D R Evans Ymddiriedolwr G H Gruffudd Ms J M Gruffudd PRIF GYFEIRIAD Tŷ Tawe 9 Stryd Christina Abertawe SA1 4EW RHIF ELUSEN GOFRESTREDIG 514082 ARCHWILIWR ANNIBYNNOL Bevan Buckland LLP Llawr Gwaelod Tŷ Ceredigion Llys Castell Parc Menter Abertawe SA7 9LA

Page 1

CYMDEITHAS TY TAWE

ADRODDIAD YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN DDAETH I BEN AR 31 MAWRTH 2023

Mae'r ymddiriedolwyr yn cyflwyno eu hadroddiad gyda datganiadau ariannol yr elusen am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022. Mae'r ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu darpariaethau Cyfrifeg ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Arfer a Argymhellir sy'n berthnasol i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (yn effeithiol 1 Ionawr 2019).

AMCANION A GWEITHGAREDDAU

Amcanion a nodau

Amcan Cymdeithas Ty Tawe yr hyrwyddo'r Gymraeg yn Abertawe a'r ardal.

Mae'r nodau'n cynnwys darparu canolfan Gymraeg, cynnal siop Gymraeg, darparu adnoddau i gymdeithasau Cymraeg gynnal gweithgareddau, cefnogi Menter Iaith Abertawe, cynnal gweithgareddau Cymraeg, dosbarthiadau i siaradwyr Cymraeg , dysgwyr a phobl ifanc, ac i bawb yn yr ardal sy'n dymuno cryfhau eu cysylltiad â'r iaith.

CYFLAWNIAD A PHERFFORMIAD

Gweithgareddau elusennol

Mae gweithgareddau elusennol yn ymwneud â hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'i diwylliant yn ardal Abertawe. Er 1987 sefydlodd yr elusen Ganolfan Gymraeg yn Abertawe. Dysgodd miloedd y Gymraeg yn y Ganolfan. Denwyd cannoedd i wirfoddoli i gyflawni amcan a nodau'r elusen. Cynhaliodd gannoedd o weithgareddau, gan gynnwys sesiynau wythnosol dysgu anffurfiol i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg, gyda'r nod o ategu dysgu ffurfiol. Cynhaliodd degau o gymdeithasau Cymraeg eu gweithgareddau yn y Ganolfan, a darparwyd sesiynau cerddoriaeth ac adloniant cyson, gan hyrwyddo grwpiau a chantorion Cymraeg a diwylliant cerddorol Cymraeg. Lansiwyd dwsinau o lyfrau Cymraeg yn y Ganolfan. Trwy ddarparu siop Gymraeg, sydd hefyd yn bwynt galwad cyntaf i rai sydd am ymwneud â'r Gymraeg, rhoddwyd ffocws i'r Gymraeg yng nghanol y ddinas. Trwy gyfrwng Menter Iaith Abertawe, sy'n is-bwyllgor i Gymdeithas Ty Tawe, estynnwyd amcanion yr elusen i'r gymuned yn gyffredinol, gan gynnal clybiau ieuenctid, gweithgareddau i bobl ifanc, sesiynau meithrin a gweithgareddau eraill, gan gynnwys presenoldeb ar y cyfryngau digidol.

ADOLYGIAD ARIANNOL

Polisi cronfeydd wrth gefn

Cynhaliwyd cronfeydd wrth gefn o £53,158 yn y banc ar ddiwedd y flwyddyn ac mae pob un ohonynt yn gronfeydd anghyfyngedig. Cofnododd yr elusen elw o £5,752. Mae'r Ymddiriedolwyr wedi adolygu'r sefyllfa ariannol ac maent yn fodlon bod yr elusen yn gallu parhau i weithredu hyd y gellir rhagweld ac am o leiaf y deuddeg mis nesaf.

STRWYTHUR, LLYWODRAETHIANT A RHEOLI

Dogfen lywodraethol

Rheolir yr elusen gan ei dogfen lywodraethol, gweithred o ymddiriedaeth ac mae'n gyfystyr ag elusen heb ei hymgorffori.

Rheoli risg

Mae'r ymddiriedolwyr yn deall y gofynion i fonitro'r risgiau sy'n wynebu'r elusen. Cynhelir asesiadau risg gan bwyllgor yr elusen.

Cymeradwywyd drwy orchymyn bwrdd yr ymddiriedolwyr ar ........................................

a llofnodwyd ar ei ran gan:

J.M.Gruffudd ........................................................................

Ms J M Gruffudd - Ymddiriedolwr

Page 2

ADRODDIAD ANNIBYNNOL ARCHWILIWR I Y YMDDIRIEDOLWYR CYMDEITHAS TY TAWE

Adroddiad archwilydd annibynnol i ymddiriedolwyr Cymdeithas Tŷ Tawe

Rwy'n adrodd i ymddiriedolwyr yr elusen ar fy archwiliad o gyfrifon Cymdeithas Tŷ Tawe (yr Ymddiriedolaeth) am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.

Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad

Fel ymddiriedolwyr elusen yr Ymddiriedolaeth yr ydych yn gyfrifol am baratoi y cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 ('y Ddeddf').

Rwy'n adrodd mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gynhaliwyd o dan adran 145 o'r Ddeddf ac wrth gynnal fy archwiliad rwyf wedi dilyn pob Cyfarwyddyd perthnasol a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o'r Ddeddf.

Datganiad archwiliwr annibynnol

Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Rwy'n cadarnhau nad oes unrhyw faterion materol wedi dod i'm sylw mewn cysylltiad â'r archwiliad sy’n rhoi achos i mi gredu mewn unrhyw fodd materol:

  1. na chadwyd cofnodion cyfrifo mewn perthynas â'r Ymddiriedolaeth fel sy'n ofynnol gan adran 130 o'r Ddeddf; neu 2. nad yw'r cyfrifon yn cyd-fynd â'r cofnodion hynny; neu

  2. nad yw'r cyfrifon yn cydymffurfio â'r gofynion perthnasol ynghylch ffurf a chynnwys cyfrifon a nodir yn y Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 heblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi barn wir a theg nad yw’n fater sy'n cael ei ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol.

Does gen i ddim pryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'r archwiliad y dylid tynnu sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn galluogi dealltwriaeth briodol o'r cyfrifon i gael ei gyrraedd.

Harri Lloyd-Davies

Harri Lloyd-Davies Bevan Buckland LLP Llawr Gwaelod Tŷ Ceredigion Llys Castell Parc Menter Abertawe SA7 9LA

25 Gorffennaf 2023

Page 3

CYMDEITHAS TY TAWE

DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN I BEN 31 MAWRTH 2023

2023
Cronfa
anghyfyngedig
£
Nodiadau
INCWM A GWADDODION O
Rhoddion a chymynroddion
9,217
Gweithgareddau masnachu eraill
2
54,566
Incwm buddsoddi
3
105
Incwm arall
20,080
Cyfanswm
83,968
GWARIANT AR
Codi arian
39,257
Gweithgareddau elusennol
Cyffredinol
38,959
Cyfanswm
78,216
INCWM NET
5,752
CYMODI ARIAN
Cyfanswm yr arian a gyflwynwyd
554,457
CYFANSWM YR ARIAN YN CAEL EI GARIO YMLAEN
560,209
2022
Cyfanswm
cronfeydd
£
11,006
53,910
6
22,057
86,979
44,956
33,331
78,287
8,692
545,765
554,457

The notes form part of these financial statements

Page 4

CYMDEITHAS TY TAWE

M ANTOLEN 31 MAWRTH 2023

Nodiadau
ASEDAU SEFYDLOG
Asedau diriaethol
6
ASEDAU PRESENNOL
Stociau
7
Dyledwyr
8
Arian yn y banc
CREDYDWYR
Symiau sy'n ddyledus o fewn blwyddyn
9
ASEDAU NET CYFREDOL
CYFANSWM ASEDAU LLAI RHWYMEDIGAETHAU CYFREDOL
CREDYDWYR
Symiau sy'n ddyledus ar ôl mwy na blwyddyn
10
ASEDAU NET
CRONFEYDD
11
Cronfeydd anghyfyngedig
CYFANSWM CRONFEYDD
2023
2022
Cyfanswm
anghyfyngedig
Ariannu
arian
£
£
494,504
489,658
20,500
20,500
4,564
193
53,158
49,816
78,222
70,509
(7,667)
(5,710)
70,555
64,799
565,059
554,457
(4,850)
-
560,209
554,457
560,209
554,457
560,209
554,457

Cymeradwywyd y datganiadau ariannol gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a'u hawdurdodi i'w cyhoeddi ar

...................................

ac fe'u llofnodwyd ar ei ran gan:

............................................. J M Gruffudd - Ymddiriedolwr

Mae’r nodiadau’n ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol hyn Tudalen 5

CYMDEITHAS TY TAWE

NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN I BEN 31 MAWRTH 2022

1. POLISÏAU CYFRIFO

Sail paratoi'r datganiadau ariannol

Paratowyd datganiadau ariannol yr elusen, sy'n endid budd cyhoeddus o dan FRS 102, yn unol â'r SORP Elusennau (FRS 102) 'Cyfrifeg ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Arfer a Argymhellir sy'n berthnasol i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (effeithiol 1 Ionawr 2019)', Safon Adrodd Ariannol 102 'The Financial Reporting Standard applicable in the UK and Republic of Ireland' a Deddf Elusennau 2011. Mae'r datganiadau ariannol wedi eu paratoi o dan y confensiwn cost hanesyddol.

Mae'r elusen wedi manteisio ar yr eithriadau datgelu canlynol wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, fel y caniateir gan FRS 102 'The Financial Reporting Standard applicable in the UK and Republic of Ireland':

Incwm

Cydnabyddir yr holl incwm yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol unwaith y bydd gan yr elusen hawl i'r arian, mae'n debygol y bydd yr incwm yn cael ei dderbyn a gellir mesur y swm yn ddibynadwy.

Mae rhoddion ac incwm cymynroddion yn cynnwys rhoddion, aelodaeth, anrhegion a grantiau sy'n darparu cyllid craidd neu sydd o natur gyffredinol ac yn cael eu cydnabod lle mae hawl, tebygolrwydd o dderbyn a gellir mesur y swm gyda digon o ddibynadwyedd.

Mae gweithgareddau masnachu eraill yn cynnwys siop a gwerthu llyfrau. Cydnabyddir y rhain wrth eu derbyn.

Mae incwm buddsoddi yn cynnwys llog ar arian sy'n cael ei gynnal ar adneuo. Cydnabyddir hyn wrth ei dderbyn.

Mae incwm arall yn cynnwys llogi ystafelloedd, incwm rhent a hawliad yswiriant.

Cydnabyddir yr incwm o logi ystafelloedd pan fydd y llogi yn digwydd.

Cydnabyddir incwm rhent wrth ei dderbyn, a chaiff ei ohirio pan fydd y taliad wedi ei dderbyn cyn y cyfnod y mae'n ymwneud ag ef.

Mae cais yswiriant yn cael ei gredydu i'r Datganiad o Weithgareddau Ariannol wrth ei dderbyn.

Gwariant

Cydnabyddir rhwymedigaethau fel gwariant cyn gynted ag y mae rhwymedigaeth gyfreithiol neu ddehongliadol yn ymrwymo'r elusen i'r gwariant hwnnw, mae'n debygol y bydd angen trosglwyddo buddion economaidd mewn setliad a gellir mesur swm y rhwymedigaeth yn ddibynadwy. Mae gwariant yn cael ei gyfrif ar sail groniadol ac mae wedi'i ddosbarthu o dan benawdau sy'n cyfannu'r holl gost sy'n gysylltiedig â'r categori. Lle na ellir priodoli costau'n uniongyrchol i benawdau penodol maent wedi'u dyrannu i weithgareddau ar sail sy'n gyson â defnyddio adnoddau.

Asedau sefydlog diriaethol

Darperir dibrisiant ar y cyfraddau blynyddol canlynol er mwyn dileu pob ased dros ei fywyd defnyddiol amcangyfrifedig.

Eiddo rhydd-ddaliadol – 1% ar gost Offer a pheiriannau - Llinell syth dros 4 blynedd

Stociau

Mae stociau'n cael eu gwerthfawrogi ar yr isaf o gost a gwerth gwireddadwy net, ar ôl gwneud lwfans dyledus ar gyfer eitemau sy'n darfod ac yn symud yn araf.

Trethiant

Mae'r elusen wedi'i heithrio rhag treth ar ei gweithgareddau elusennol.

Cyfrifeg y gronfa

Gellir defnyddio arian anghyfyngedig yn unol â'r amcanion elusennol yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr.

Dim ond at ddibenion cyfyngedig penodol y gellir defnyddio arian cyfyngedig o fewn amcanion yr elusen. Mae cyfyngiadau'n codi pan gaiff ei bennu gan y rhoddwr neu pan fydd arian yn cael ei godi at ddibenion cyfyngedig penodol.

Mae esboniad pellach o natur a phwrpas pob cronfa wedi ei gynnwys yn y nodiadau i'r datganiadau ariannol.

continued...

Page 6

CYMDEITHAS TY TAWE

NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL – parhad

AM Y FLWYDDYN DDAETH I BEN AR 31 MAWRTH

2022

1.POLISÏAU CYFRIFO - parhad

Mae'r cwmni wedi dewis i gymhwyso darpariaethau

Adran 11 'Offerynnau Ariannol Sylfaenol' ac Adran 12

'Materion Offerynnau Ariannol Eraill ' o FRS 102 i'w holl offerynnau ariannol.

Cydnabyddir offerynnau ariannol ym mantolen y cwmni pan ddaw'r cwmni'n barti i ddarpariaethau cytundebol yr offeryn.

Mae asedau a rhwymedigaethau ariannol yn cael eu gwrthbwyso, gyda'r symiau net a gyflwynir yn y datganiadau ariannol, pan fo hawl gorfodol yn gyfreithiol i allosod y symiau cydnabyddedig ac mae bwriad i setlo ar sail net neu wireddu’r ased a setlo'r atebolrwydd ar yr un pryd.

Asedau ariannol sylfaenol

Mae asedau ariannol sylfaenol sy'n cynnwys dyledwyr a balansau arian parod a banc, yn cael eu mesur i ddechrau am bris trafodion gan gynnwys costau trafodion ac yn cael eu cario wedyn ar gost amorteiddio gan ddefnyddio'r dull llog effeithiol oni bai bod y trefniant yn golygu trafodiad ariannol, lle mae'r trafodiad yn cael ei fesur ar werth presennol derbynebau'r dyfodol sy'n cael eu disgownt ar gyfradd llog y farchnad. Nid yw asedau ariannol sy'n cael eu dosbarthu fel rhai derbyniadwy o fewn blwyddyn yn cael hamorteiddio.

Amharu ar asedau ariannol

Asesir asedau ariannol, ar wahân i'r rhai sy'n cael eu cadw mewn gwerth teg drwy elw a cholled, ar gyfer dangosyddion amhariad ar bob dyddiad gorffen adrodd.

Mae asedau ariannol yn cael eu amharu lle mae tystiolaeth wrthrychol, o ganlyniad i un neu fwy o ddigwyddiadau a ddigwyddodd ar ôl cydnabyddiaeth gychwynnol yr ased ariannol, y caiff llif arian amcangyfrifedig yn y dyfodol ei effeithio. Os oes amhariad ar ased, y golled amharu yw'r gwahaniaeth rhwng y swm cario a gwerth presennol y llif arian amcangyfrifedig a ddisgowntir ar gyfradd llog effeithiol wreiddiol yr ased. Cydnabyddir y golled amharu mewn elw neu golled

Os oes gostyngiad yn y golled amharu sy'n deillio o ddigwyddiad yn digwydd ar ôl i'r amhariad gael ei gydnabod, mae'r amhariad yn cael ei wyrdroi. Mae'r gwrthdroad yn golygu nad yw'r swm cario presennol yn fwy na'r hyn y byddai'r swm cario wedi bod, pe na bai'r amhariad wedi cael ei gydnabod o'r blaen. Mae'r gwrthdroad amhariad yn cael ei gydnabod mewn elw neu golled.

Anghydnabod o asedau ariannol

Mae asedau ariannol yn cael eu hanghydnabod dim ond pan fydd yr hawliau cytundebol i'r llif arian o'r ased yn dod i ben neu wedi'u setlo, neu pan fydd y cwmni'n trosglwyddo'r ased ariannol ac yn sylweddol yr holl risgiau a gwobrau perchnogaeth i endid arall, neu os cedwir rhai risgiau a gwobrau sylweddol o berchnogaeth ond bod rheolaeth o’r ased wedi ei throsglwyddo i barti arall sy'n gallu gwerthu'r ased yn ei gyfanrwydd i drydydd parti digyswllt.

Dosbarthiad rhwymedigaethau ariannol

Dosberthir rhwymedigaethau ariannol ac offerynnau ecwiti yn ôl sylwedd y trefniadau cytundebol a gofnodwyd. Offeryn ecwiti yw unrhyw gontract sy'n dangos diddordeb gweddilliol yn asedau'r cwmni ar ôl tynnu ei holl rwymedigaethau.

Rhwymedigaethau ariannol sylfaenol

Mae rhwymedigaethau ariannol sylfaenol, gan gynnwys credydwyr a benthyciadau banc yn cael eu cydnabod i ddechrau am bris trafodion oni bai bod y trefniant yn llunio trafodiad ariannu, lle mae'r offeryn dyled yn cael ei fesur ar werth presennol taliadau’r dyfodol ac ar gyfradd llog y farchnad. Nid yw rhwymedigaethau ariannol sy'n cael eu dosbarthu fel rhai sy'n daladwy o fewn blwyddyn yn cael eu hamorteiddio.

Wedi hynny, mae offerynnau dyled yn cael eu cario ar gost amorteiddio, gan ddefnyddio'r dull cyfradd llog effeithiol.

Mae credydwyr masnach yn rhwymedigaethau i dalu am nwyddau neu wasanaethau sydd wedi'u caffael yng nghwrs cyffredin busnes gan gyflenwyr. Dosberthir symiau sy'n daladwy fel rhwymedigaethau cyfredol os yw taliad yn ddyledus o fewn blwyddyn neu lai. Os nad ydynt, fe'u cyflwynir fel rhwymedigaethau nad ydynt yn gyfredol. Cydnabyddir credydwyr masnach i ddechrau am bris trafodion ac wedi hynny fe'u mesurir ar gost amorteiddio gan ddefnyddio'r dull llog effeithiol.

Anghydnabod rhwymedigaethau ariannol

Mae rhwymedigaethau ariannol yn cael eu hanghydnabod pan fydd rhwymedigaethau cytundebol y cwmni'n dod i ben neu'n cael eu rhyddhau neu eu canslo.

Mae tudalen 9

yn parhau...

Dyledwyr

Cydnabyddir dyledwyr masnach a dyledwyr eraill ar y swm setlo ar ôl i unrhyw ddisgownt masnach gael ei gynnig. Rhoddir gwerth rhagdaliadau ar y swm ad-dalu net o unrhyw ddisgowntiau masnach sy'n ddyledus.

Mae tudalen 9

yn parhau...

CYMDEITHAS TY TAWE

NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL – parhad

AM Y FLWYDDYN I BEN AR 31 MAWRTH 2023

1.POLISÏAU CYFRIFO - parhad

Offerynnau ariannol

Arian parod yn y banc ac mewn llaw

Mae arian parod mewn banc ac arian parod mewn llaw yn cynnwys arian parod a buddsoddiadau hylifol iawn tymor byr gydag aeddfedrwydd byr o dri mis neu lai o ddyddiad caffael neu agor yr adnau neu gyfrif tebyg.

Credydwyr a darpariaethau

Cydnabyddir credydwyr a darpariaethau lle mae gan yr elusen rwymedigaeth bresennol o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gorffennol a fydd yn ôl pob tebyg yn arwain at drosglwyddo arian i drydydd parti a gellir mesur neu amcangyfrif y swm sy'n ddyledus i setlo'r rhwymedigaeth yn ddibynadwy. Mae credydwyr a darpariaethau fel arfer yn cael eu cydnabod yn eu swm setlo ar ôl caniatáu unrhyw ostyngiadau masnach sy'n ddyledus.

2. GWEITHGAREDDAU MASNACHU ERAILL

Incwm siopau
Incwm llyfr
INCWM BUDDSODDI
Llog cyfrif Adnau
2023
£
29,049
25,517
54,566
2023
£
105
2022
£
32,702
21,208
53,910
2022
£
6

3. INCWM BUDDSODDI

Llog cyfrif Adnau

4. CYDNABYDDIAETH A BUDDION YMDDIRIEDOLWYR

Nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth ariannol na buddion eraill ar gyfer y flwyddyn yn diweddu ar 31 Mawrth

Treuliau ymddiriedolwyr

Ni thalwyd treuliau ymddiriedolwyr am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 nac am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.

5. CYMARIAETHAU AR GYFER Y DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL

Anghyfyngedig
cronfa
£
INCWM A GWADDODION O
Rhoddion a chymynroddion 11,006
Gweithgareddau masnachu eraill 53,910
Incwm buddsoddi 6
Incwm arall 22,057
Cyfanswm 86,979
GWARIANT AR
Codi arian 44,956
Gweithgareddau elusennol
Cyffredinol 33,331
Cyfanswm 78,287
INCWM NET 8,692

Mae tudalen 9

yn parhau...

CYSONI ARIAN Cyfanswm yr arian a ddygwyd ymlaen

545,765

Mae tudalen 9

yn parhau...

CYMDEITHAS TY TAWE

NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL - parhad AR GYFER Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023

5. CYMARIAETHAU AR GYFER Y DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL - parhad

Cronfa anghyfyngedig Cronfa anghyfyngedig Cronfa anghyfyngedig
£
CYFANSWM YR ARIAN YN CAEL EI GARIO YMLAEN 554,457
6. ASEDAU SEFYDLOG DIRIAETHOL
Eiddo rhydd-ddaliadol Offer a pheiriannau Cyfansymiau
£ ££
COST
Ar 1 Ebrill 2022 493,695 4,324 498,019
Ychwanegiadau - 12,802 12,802
Ar 31 Mawrth 2023 493,695 17,126 510,821
DIBRISIAD
Ar 1 Ebrill 2022 4,937 3,424 8,361
Tâl am y flwyddyn 4,937 3,019 7,956
Ar 31 Mawrth 2023 9,874 6,443 16,317
GWERTH LLYFR NET
Ar 31 Mawrth 2023 483,821 10,683 494,504
Ar 31 Mawrth 2022 488,758 900 489,658
7. STOCIAU
2023 2022
£ £
Stociau 20,500 20,500
8. DYLEDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS O FEWN BLWYDDYN
2023 2022
£ £
TAW-193
Rhagdaliadau 4,564 -
4,564 193
9. CREDYDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS O FEWN BLWYDDYN
2023 2022
£ £
Credydwyr masnach 154 3,282
Trethiant a nawdd cymdeithasol 531 -
Credydwyr eraill 6,982 2,428
7,667 5,710

Mae tudalen 9

yn parhau...

CYMDEITHAS TY TAWE

NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL – parhad AM Y FLWYDDYN DDAETH I BEN AR 31 MAWRTH 2023

10. CREDYDWYR : SYMIAU'N DISGYN YN DDYLEDUS AR Ôl MWY NA BLWYDDYN

Credydwyr eraill
11.
SYMUDIADAU MEWN CRONFEYDD
2023
£
4,850
2022
£
-
SYMUDIADAU MEWN CRONFEYDD
Symudiad net mewn cronfeydd
Ar
Ar 1.4.22 31.3.23
£ £ £
Cronfeydd anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol 554,457 5,752 560,209
CYFANSWM CRONFEYDD 554,457 5,752 560,209
Symudiad net mewn cronfeydd, wedi’i gynwyd yn yr uchod fel a ganlyn:
Adnoddau’n Adnoddau Symudiad
dod i mewn wedi’u gwario mewn cronfeydd
£ £ £
Cronfeydd anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol 83,968 (78,216) 5,752
CYFANSWM CRONFEYDD 83,968 (78,216) 5,752
Cymariaethau ar gyfer symudiad mewn cronfeydd
Symudiad
net Ar
Ar 1.4.21
mewn cronfeydd
31.3.22
£ £ £
Cronfeydd anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol 545,765 8,692 554,457
CYFANSWM CRONFEYDD 545,765 8,692 554,457
Cymariaethau symudiad net mewn cronfeydd, wedi’u cynnwys yn yr uchod fel a ganlyn:
Adnoddau’n Adnoddau Symudiad
dod i mewn wedi’u gwario mewn cronfeydd
£ £ £
Cronfeydd anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol 86,979 (78,287) 8,692
CYFANSWM CRONFEYDD 86,979 (78,287) 8,692

Tudalen 10

parhad...

CYMDEITHAS TY TAWE

NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL - parhad AR GYFER Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023

11. SYMUD MEWN CRONFEYDD - parhad

Mae sefyllfa blwyddyn 12 mis gyfredol a 12 mis blaenorol fel a ganlyn:

Symudiad net
mewn
Ar 1.4.21 cronfeydd
31.3.23
£
£
Cronfeydd anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol
545,765
14,444
CYFANSWM CRONFEYDD
545,765
14,444
Ar
£
560,209
560,209

Mae blwyddyn gyfredol 12 mis a'r flwyddyn flaenorol 12 mis symudiad net cyfunol mewn cronfeydd, a gynhwysir yn yr uchod fel a ganlyn:

Adnoddau Adnoddau Symud
sy'n dod i mewn a wariwyd
cronfeydd
£
Cronfeydd anghyfyngedig
Cronfa gyffredinol
170,947
(156,503)
CYFANSWM CRONFEYDD
170,947
(156,503)
mewn
££
14,444
14,444

12. DATGELIADAU PARTI CYSYLLTIEDIG

Ni fu unrhyw drafodion parti cysylltiedig yn y cyfnod adrodd sy'n gofyn am ddatgeliad.

Page 11

CYMDEITHAS TY TAWE

DATGANIAD MANWL O WEITHGAREDDAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023

2023 2022
£ £
INCWM AC WADDOL
Rhoddion a chymynroddion
Rhoddion ac incwm aelodaeth 5,347 4,773
Rhoddion - 4,990
Cymorth rhodd 1,445 1,243
Grantiau 2,425 -
9,217 11,006
Gweithgareddau masnachu eraill
Incwm siop 29,049 32,702
Incwm llyfr 25,517 21,208
54,566 53,910
Incwm buddsoddi
Llog cyfrif Adnau 105 6
Incwm arall
Incwm arall - 4,408
Incwm rhent 18,625 15,400
Llogi ystafell 1,455 2,249
20,080 22,057
Cyfanswm yr adnoddau sy'n dod i mewn 83,968 86,979
GWARIANT
Gweithgareddau masnachu eraill
Agor stoc 20,500 18,148
Pryniannau 39,257 47,308
Cau stoc (20,500) (20,500)
39,257 44,956
Gweithgareddau elusennol
Amrywiol 1,477 1,930
Costau cymorth
Rheolaeth
Cyflog 3,477 -
Cyfraddau a dŵr 1,480 1,741
Yswiriant 2,268 2,381
Golau a gwres 1,714 2,320
Hysbysebu 759 557
Tâl rheoli 10,000 10,000
Atgyweiriadau 2,138 2,328
Teithio 154 13
Costau Cymorth til 930 850
Costau cyfrifiadurol 269 250
Cyfrifo 4,264 2,105
Trwyddedau a thanysgrifiadau 1,493 1,623
Eiddo rhydd-ddaliadol 4,937 4,937
Offer a pheiriannau 3,019 1,712
36,902 30,817

Nid yw’r dudalen hon yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol statudol

Page 12

CYMDEITHAS TY TAWE

DATGANIAD MANWL O WEITHGAREDDAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023

2023 2022
£ £
Rheolaeth
Cyllid
Taliadau banc 580 453
Llog benthyciad banc - 131
580584
Cyfanswm yr adnoddau a wariwyd 78,216 78,287
Incwm net 5,752 8,692

Nid yw’r dudalen hon yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol statudol

This page does not form part of the statutory financial statements

Page 12

This page does not form part of the statutory financial statements

Page 13

Bevan Buckland LLP Ground Floor, Cardigan House Castle Court Swansea Enterprise Park SA7 9LA

Date

Dear Examiner,

This representation letter is provided in connection with your examination of the financial statements of the charity for the year ended 31[st] March 2023.

We confirm that the following representations are made on the basis of enquiries of the trustees, management and staff with relevant knowledge and experience (and, where appropriate, of inspection of supporting documentation) sufficient to satisfy ourselves that we can properly make each of the following representations to you:

  1. We have fulfilled our responsibilities as trustees under the Charities Act 2011 for preparing financial statements, in accordance with the applicable financial reporting framework, FRS 102 and the FRS 102 Charity SORP .

We confirm that in our opinion the financial statements give a true and fair view and in particular that where any additional information must be disclosed in order to give a true and fair view that information has in fact been disclosed. We confirm that the selection and application of the accounting policies used in the preparation of the financial statements are appropriate, and we approve these accounts for the year ended 31[st] March 2023.

  1. We confirm that all accounting records have been made available to you for the purpose of your examination, in accordance with your terms of engagement, and that all the transactions undertaken by the charity have been properly reflected and recorded in the accounting records. All other records and related information, including minutes of all management, trustees’ and members’ meetings, have been made available to you. We have given you unrestricted access to persons within the charity in order to obtain evidence and have provided any additional information that you have requested for the purposes of your examination.

  2. We confirm the charity has satisfactory title to all assets and there are no liens or encumbrances on the assets, except for those disclosed in the financial statements.

  3. We confirm that significant assumptions used by us in making accounting estimates, including those measured at fair value, are reasonable.

  4. We confirm that we have no plans or intentions that may materially alter the carrying value and, where relevant, the fair value measurements or classification of assets and liabilities reflected in the financial statements.

  5. We confirm that the charity has no liabilities or contingent liabilities other than those disclosed in the financial statements.

  6. We confirm that all known actual or possible litigation and claims whose effects should be considered when preparing the financial statements have been disclosed to you and accounted for and disclosed in accordance with the applicable financial reporting framework, FRS 102 and the FRS 102 Charity SORP.

  7. We confirm that there have been no events since the balance sheet date which require disclosing or which would materially affect the amounts in the financial statements, other than those already disclosed or included in the financial statements.

  8. We confirm that we are aware of the definition of a related party for the purpose of the accounting framework being applied in the preparation of the accounts.

We confirm that the related party relationships and transactions set out below are a complete list of such relationships and transactions and that we are not aware of any further related parties or transactions.

transactions.
Party Relationship Nature of transaction
Menter
Iaith
Abertawe
Subsidiary Rental income received
Menter
Iaith
Abertawe
Subsidiary Management charge incurred
Menter
Iaith
Abertawe
Subsidiary Share of costs relating to fxed
asset purchase received
(Projector)
Menter
Iaith
Abertawe
Subsidiary Share of costs received (£4,000)

There have been no deficiencies in internal control of which we are aware.

Yours faithfully,

...............................................................

Signed on behalf of the board of trustees

Trustee...............................................................

Date..................................................................