## **CYMDEITHAS TŶ TAWE**

Adroddiad blwyddyn yn gorffen Ebrill 2023 I’r Comisiwn Elusennau

## **Nod a dibenion**

Mae gan Gymdeithas Tŷ Tawe ddau brif nod

1. Hyrwyddo addysg a gwybodaeth gyffredinol y gymuned trwy gefnogi astudio a gwerthfawrogi'r iaith Gymraeg, hanes Cymru, ac etifeddiaeth ddiwylliannol Cymru.

2. Sefydlu a chynnal canolfan i'r gymuned a fydd yn darparu cyfleusterau i'r aelodau ac aelodau'r gymuned ac ar gyfer eu hymwneud a'i gilydd trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg mewn chwaraeon, dysgu'r Gymraeg, cerdd a dawns, a llenyddiaeth.

## **Amcanion a Gweithgareddau**

Mae Cymdeithas Tŷ Tawe’n ymrwymedig i sicrhau bod cynifer â phosib yn mynychu digwyddiadau yn y Ganolfan, a bod defnydd o’r Gymraeg yn cael ei ehangu yn Abertawe.

Mae Cymdeithas Tŷ Tawe, gyda chymorth ei is-gwmni, Menter Iaith Abertawe, yn cynnal siop Gymraeg, yn trefnu digwyddiadau wythnosol i ddysgwyr yr iaith, ac yn trefnu sesiynau adloniant wythnosol.

Trwy gynnal y Ganolfan, mae Cymdeithas Tŷ Tawe’n darparu lle i gyrff, sefydliadau a mudiadau  sy’n  defnyddio’r  Gymraeg  ac  yn  hyrwyddo’r  defnydd  ohoni.  Mae’r  rhain  yn cynnwys Côr Tŷ Tawe, Dysgu Cymraeg Bae Abertawe, Clwb Darllen, Capel Gomer, Merched y Wawr, dosbarthiadau i ddysgwyr Dysgu Cymraeg Bae Abertawe  ac eraill.

## **Cyflawniadau a Pherfformiad**

Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, adferodd Tŷ Tawe o effaith covid y ddwy flynedd cyn hynny.  Gwelwyd rhaglen lawn o weithgareddau’n cael eu cynnal, gan gynnwys nifer helaeth o gigiau, nosweithiau canu gwerin misol, sesiynau amrywiol i bobl ifanc a phlant a nifer o rai eraill.

Darparwyd siopau siarad i ddysgwyr ar foreau Sadwrn ac iau trwy gymorth gwirfoddolwyr, a chadwyd yr un pryd i gynnal sesiynau sgwrsio trwy zoom  a gychwynnwyd yn ystod y cyfnod covid.

Llwyddodd y siop i weithredu, yn ddi-dor, gan ddarparu deunyddiau i ysgolion a llyfrgelloedd a darparu gwasanaeth prynu trwy’r we.

Defnyddiwyd Tŷ Tawe’n helaeth gan nifer o’r grwpiau a enwyd, ond bu’n rhaid i Gapel Gomer roi’r gorau i’w gweithgareddau am resymau y tu hwnt i ofal Tŷ Tawe.

Bu rhai o prif gantorion poblogaidd Cymru’n canu yn y nosweithiau adloniant misol.

## **Datblygu’r Ganolfan**

Yn sgil y gwaith ar wnaed ar ddileu lleithder, roedd modd defnyddio holl adnoddau’r adeilad yn ddirwystr.

Cafodd y Fenter Iaith gymorth ariannol gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe i adnewyddu golwg allanol y Ganolfan, ac edrychwn ymlaen at weld hyn.

## **Rhedeg y Ganolfan**

Cadarnhawyd incwm y Ganolfan trwy gael rhent am y siop, rhent gan y Fenter Iaith, arian am logi ystafelloedd, a chafwyd cyfraniadau parhaus gan aelodau a chefnogwyr.

Tudalen

Yn ystod y flwyddyn aethpwyd at i newid statws elusennol y Gymdeithas i fod yn Sefydliad Ymgorfforedig Elusennol a gobeithiwn y llwyddir i wneud hyn yn ystod y flwyddyn i ddod.

Staff y Fenter Iaith oedd yn bennaf yn gyfrifol am redeg y Ganolfan, wrth dderbyn incwm mewn cytundeb lefel gwasanaeth gyda Chymdeithas Tŷ Tawe.  Adolygwyd y memorandwm dealltwriaeth rhwng Cymdeithas Tŷ Tawe a’r Fenter Iaith i sicrhau cydweithio effeithiol.

Roedd staff y Fenter Iaith yn sefydlog, am y tro cyntaf am sawl blwyddyn, a chroesawyd gweithwyr rhan amser i’r siop.

## **Gwirfoddolwyr**

Mae Cymdeithas Tŷ Tawe wedi rhoi pwyslais ar ddatblygu gwirfoddolwyr o’r cychwyn.  Mae hyn yn rhoi cyfle i siaradwyr newydd ddefnyddio’r Gymraeg, ac yn dod â siaradwyr Cymraeg a siaradwyr newydd at ei gilydd.  Mae gwirfoddolwyr yn rhoi cymorth yn y siop bob dydd Sadwrn, a hefyd yn rhedeg y caffi, sy’n rhoi cyfle i siaradwyr newydd ddod at ei gilydd. Cafwyd cymorth tua thrigain o wirfoddolwyr

## **Materion ariannol**

Mae gan Gymdeithas Tŷ Tawe gyfrif wrth gefn a chyfrif cyfredol.  Mae’r swm yn y cyfrif cyfredol yn amrywio o gwmpas £10,000 a’r swm yn y cyfrif wrth gefn o gwmpas £30,000.

Mae adeilad Tŷ Tawe’n rhan helaeth o’r asedau diriaethol, a nodir fel £489,658 yn ein cyfrifon. Derbyniwyd £9,217 mewn rhoddion ac incwm aelodaeth.  Roedd incwm y siop a gwerthiant llyfrau’n £54,566.  Derbyniwyd £38,959 yn incwm rhent, llogi ystafelloedd ac eraill. Roedd y gwariant yn cynnwys £39,257 ar stoc a masnachu, ac roedd gwriant ar gynnal y sefydliad yn £38,959. £5,752 oedd yr incwm net.  Gwelir y manylion ariannol llawn yn ein hadroddiad ariannol.

## **Rheolaeth**

Y swyddogion yn ystod y flwyddyn oedd Catrin Rowlands (Cadeirydd), Jaci Gruffudd (Trysorydd), Rhian Jones (Ysgrifennydd).  Ymddiriedolwyr yr elusen oedd Heini Gruffudd, Jaci Gruffudd a Roderick Evans.

Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol trwy gyfrwng zoom. Mae hawl gan yr holl aelodau i gymryd rhan yn hwn, i ddewis swyddogion ac i gymeradwyo’r cyfrifon a’r adroddiad blynyddol.

Gwneir penderfyniadau dydd i ddydd gan y swyddogion, a chynhelir cyfarfodydd o bryd i’w gilydd gydag aelodau pan fo angen.

Tudalen

**RHIF ELUSEN** GOFRESTREDIG **: 514082**

## **DATGANIADAU ARIANNOL HEB EU HARCHWILIO**

**AM Y FLWYDDYN DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023**

## **i**

## **GYMDEITHAS TŶ TAWE**

Bevan Buckland LLP Llawr Gwaelod Tŷ Ceredigion Llys Castell Parc Menter Abertawe SA7 9LA

**CYMDEITHAS TY TAWE**

CYNNWYS  Y DATGANIADAU  ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN DDAETH I BEN AR 31 MAWRTH **31 MARCH 2023**

||**Tudalen**|||

|**Manylion Cyfeirio a Gweinyddol**||1||
|**Adroddiad  yr  Ymddiriedolwyr**||**2**||
|**Adroddiad Archwiliwr Annibynnol**||3||
|**Datganiad o Weithgareddau Ariannol**||4||
|**Mantolen**||5||
|**Nodiadau i'r Datganiadau Ariannol**||6    i|11|
|**Datganiad Manwlo Weithgareddau Ariannol**||12    i|13|

Page 1

**CYMDEITHAS TY TAWE**

## **MANYLION CYFEIRIO A GWEINYDDOL Y FLWYDDYN I BEN AR 31 MAWRTH 2022**

**YMDDIRIEDOLWYR** U D R Evans Ymddiriedolwr G H Gruffudd Ms J M Gruffudd **PRIF GYFEIRIAD** Tŷ Tawe 9 Stryd Christina Abertawe SA1 4EW **RHIF ELUSEN GOFRESTREDIG** 514082 **ARCHWILIWR** ANNIBYNNOL Bevan Buckland LLP Llawr Gwaelod Tŷ Ceredigion Llys Castell Parc Menter Abertawe SA7 9LA

Page 1

**CYMDEITHAS TY TAWE**

## **ADRODDIAD  YR YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN DDAETH I BEN AR 31 MAWRTH 2023**

Mae'r ymddiriedolwyr yn cyflwyno eu hadroddiad gyda datganiadau ariannol yr elusen am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.  Mae'r ymddiriedolwyr wedi mabwysiadu darpariaethau Cyfrifeg ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Arfer a Argymhellir sy'n berthnasol i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol  â'r Safon Adrodd  Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (yn effeithiol 1 Ionawr 2019).

## **AMCANION A GWEITHGAREDDAU**

## **Amcanion a nodau**

Amcan Cymdeithas Ty Tawe yr hyrwyddo'r Gymraeg yn Abertawe a'r ardal.

Mae'r nodau'n cynnwys darparu canolfan Gymraeg, cynnal siop Gymraeg, darparu adnoddau i gymdeithasau Cymraeg gynnal gweithgareddau, cefnogi Menter Iaith Abertawe, cynnal gweithgareddau Cymraeg, dosbarthiadau i siaradwyr Cymraeg , dysgwyr a phobl ifanc, ac i bawb yn yr ardal sy'n dymuno cryfhau eu cysylltiad â'r iaith.

## **CYFLAWNIAD A PHERFFORMIAD**

## **Gweithgareddau elusennol**

Mae gweithgareddau elusennol yn ymwneud â hyrwyddo'r iaith Gymraeg a'i diwylliant yn ardal Abertawe.  Er 1987 sefydlodd yr elusen Ganolfan Gymraeg yn Abertawe.  Dysgodd miloedd y Gymraeg yn y Ganolfan.  Denwyd cannoedd i wirfoddoli i gyflawni amcan a nodau'r elusen. Cynhaliodd gannoedd o weithgareddau, gan gynnwys sesiynau wythnosol dysgu anffurfiol i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg, gyda'r nod o ategu dysgu ffurfiol.  Cynhaliodd degau o gymdeithasau Cymraeg eu gweithgareddau yn y Ganolfan, a darparwyd sesiynau cerddoriaeth ac adloniant cyson, gan hyrwyddo grwpiau a chantorion Cymraeg a diwylliant cerddorol Cymraeg.  Lansiwyd dwsinau o lyfrau Cymraeg yn y Ganolfan. Trwy ddarparu siop Gymraeg, sydd hefyd yn bwynt galwad cyntaf i rai sydd am ymwneud â'r Gymraeg, rhoddwyd ffocws i'r Gymraeg yng nghanol y ddinas. Trwy gyfrwng Menter Iaith Abertawe, sy'n is-bwyllgor i Gymdeithas Ty Tawe, estynnwyd amcanion yr elusen i'r gymuned yn gyffredinol, gan gynnal clybiau ieuenctid, gweithgareddau i bobl ifanc, sesiynau meithrin a gweithgareddau eraill, gan gynnwys presenoldeb ar y cyfryngau digidol.

## **ADOLYGIAD ARIANNOL**

## **Polisi cronfeydd wrth gefn**

Cynhaliwyd cronfeydd wrth gefn o £53,158 yn y banc ar ddiwedd y flwyddyn ac mae pob un ohonynt yn gronfeydd anghyfyngedig. Cofnododd yr elusen elw o £5,752.  Mae'r Ymddiriedolwyr wedi adolygu'r sefyllfa ariannol ac maent yn fodlon bod yr elusen yn gallu parhau i weithredu hyd y gellir rhagweld ac am o leiaf y deuddeg mis nesaf.

## **STRWYTHUR, LLYWODRAETHIANT A RHEOLI**

## **Dogfen lywodraethol**

Rheolir yr elusen gan  ei dogfen lywodraethol, gweithred o ymddiriedaeth ac mae'n gyfystyr ag elusen heb ei hymgorffori.

## Rheoli risg

Mae'r ymddiriedolwyr yn deall y gofynion i fonitro'r risgiau sy'n wynebu'r elusen.  Cynhelir asesiadau risg gan bwyllgor yr elusen.

Cymeradwywyd drwy orchymyn  bwrdd  yr  ymddiriedolwyr ar ........................................

a llofnodwyd ar ei ran  gan:

_J.M.Gruffudd_ ........................................................................

Ms J M Gruffudd - Ymddiriedolwr

Page 2

**ADRODDIAD ANNIBYNNOL ARCHWILIWR I Y YMDDIRIEDOLWYR CYMDEITHAS TY TAWE**

## **Adroddiad archwilydd annibynnol i  ymddiriedolwyr  Cymdeithas Tŷ Tawe**

Rwy'n adrodd i ymddiriedolwyr yr elusen ar fy archwiliad o gyfrifon  Cymdeithas Tŷ Tawe (yr Ymddiriedolaeth) am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.

## **Cyfrifoldebau a sail  yr adroddiad**

Fel ymddiriedolwyr elusen yr Ymddiriedolaeth yr ydych yn gyfrifol am baratoi y cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 ('y Ddeddf').

Rwy'n adrodd mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gynhaliwyd o dan adran 145 o'r Ddeddf ac wrth gynnal fy archwiliad rwyf wedi dilyn pob Cyfarwyddyd perthnasol a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o'r Ddeddf.

## **Datganiad archwiliwr annibynnol**

Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Rwy'n cadarnhau nad oes unrhyw faterion materol wedi dod i'm sylw mewn cysylltiad â'r archwiliad sy’n rhoi achos i mi gredu mewn unrhyw fodd materol:

1. na chadwyd cofnodion cyfrifo mewn perthynas â'r Ymddiriedolaeth fel sy'n ofynnol gan adran 130 o'r Ddeddf; neu 2. nad yw'r cyfrifon yn cyd-fynd â'r cofnodion hynny; neu

3. nad yw'r cyfrifon yn cydymffurfio â'r gofynion perthnasol ynghylch ffurf a chynnwys cyfrifon a nodir yn y Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 heblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi barn wir a theg nad yw’n fater sy'n cael ei ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol.

Does gen i ddim pryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'r archwiliad y dylid tynnu sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn galluogi dealltwriaeth briodol o'r cyfrifon i gael ei gyrraedd.

Harri Lloyd-Davies

Harri Lloyd-Davies Bevan Buckland LLP Llawr Gwaelod Tŷ Ceredigion Llys Castell Parc Menter Abertawe SA7 9LA

25 Gorffennaf 2023

Page 3

**CYMDEITHAS TY TAWE**

## **DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN I BEN 31 MAWRTH 2023**

|2023
Cronfa
anghyfyngedig

Nodiadau
**INCWM A GWADDODION O**
Rhoddion a chymynroddion
9,217
Gweithgareddau masnachu eraill
2
54,566
Incwm buddsoddi
3
105
Incwm arall
20,080
**Cyfanswm**
83,968
**GWARIANT AR**
Codi arian
39,257
**Gweithgareddau elusennol**
Cyffredinol
38,959
**Cyfanswm**
78,216
**INCWM NET**
5,752
**CYMODI ARIAN**
Cyfanswm yr arian a gyflwynwyd
554,457
**CYFANSWM YR ARIAN YN CAEL EI GARIO YMLAEN**
560,209|2022
Cyfanswm
cronfeydd

11,006
53,910
6
22,057
86,979
44,956
33,331
78,287
8,692
545,765
554,457|

The notes form part of these financial statements

Page 4

## **CYMDEITHAS TY TAWE**

## M **ANTOLEN 31 MAWRTH 2023**

|Nodiadau
**ASEDAU SEFYDLOG**
Asedau diriaethol
6
**ASEDAU PRESENNOL**
Stociau
7
Dyledwyr
8
Arian yn y banc
**CREDYDWYR**
Symiau sy'n ddyledus o fewn blwyddyn
9
**ASEDAU NET CYFREDOL**
**CYFANSWM ASEDAU LLAI RHWYMEDIGAETHAU CYFREDOL**
**CREDYDWYR**
Symiau sy'n ddyledus ar ôl mwy na blwyddyn
10
**ASEDAU NET**
**CRONFEYDD**
11
Cronfeydd anghyfyngedig
**CYFANSWM CRONFEYDD**|2023
2022
Cyfanswm
anghyfyngedig
Ariannu
arian

494,504
489,658
20,500
20,500
4,564
193
53,158
49,816
78,222
70,509
(7,667)
(5,710)
70,555
64,799
565,059
554,457
(4,850)

560,209
554,457
560,209
554,457
560,209
554,457|

Cymeradwywyd y datganiadau ariannol gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a'u hawdurdodi i'w cyhoeddi ar

ac fe'u llofnodwyd ar ei ran gan:

............................................. J M Gruffudd - Ymddiriedolwr

Mae’r  nodiadau’n  ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol hyn Tudalen 5

**CYMDEITHAS TY TAWE**

## **NODIADAU  I'R DATGANIADAU  ARIANNOL AM Y FLWYDDYN I BEN 31 MAWRTH 2022**

## **1. POLISÏAU CYFRIFO**

## **Sail paratoi'r datganiadau ariannol**

Paratowyd datganiadau ariannol yr elusen, sy'n endid budd cyhoeddus o dan FRS 102, yn unol â'r SORP Elusennau (FRS 102) 'Cyfrifeg ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Arfer a Argymhellir sy'n berthnasol i elusennau sy’n paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102) (effeithiol  1 Ionawr 2019)', Safon  Adrodd Ariannol  102 'The Financial Reporting Standard applicable in the UK and Republic of Ireland' a Deddf Elusennau 2011. Mae'r datganiadau ariannol wedi eu paratoi o dan y confensiwn cost hanesyddol.

Mae'r elusen wedi manteisio ar yr eithriadau datgelu canlynol wrth baratoi'r datganiadau  ariannol hyn, fel y caniateir gan FRS 102 'The Financial Reporting Standard applicable in the UK and Republic of Ireland':

- gofynion  Adran 7 Datganiad o Lif  Arian.

## **Incwm**

Cydnabyddir yr holl incwm   yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol  unwaith y bydd gan yr elusen hawl i'r arian, mae'n debygol  y bydd yr incwm yn cael ei dderbyn a gellir mesur y swm yn ddibynadwy.

Mae rhoddion ac incwm cymynroddion yn cynnwys rhoddion, aelodaeth, anrhegion a grantiau sy'n darparu cyllid craidd neu sydd o  natur gyffredinol ac yn cael eu cydnabod lle mae hawl, tebygolrwydd o dderbyn a gellir mesur y swm gyda digon o ddibynadwyedd.

Mae  gweithgareddau masnachu eraill yn cynnwys siop a gwerthu llyfrau.   Cydnabyddir y rhain wrth eu derbyn.

Mae incwm buddsoddi  yn  cynnwys  llog ar arian sy'n cael ei gynnal ar adneuo.  Cydnabyddir hyn  wrth ei dderbyn.

Mae incwm arall yn cynnwys llogi ystafelloedd, incwm rhent a hawliad yswiriant.

Cydnabyddir yr incwm o  logi ystafelloedd pan fydd y llogi yn  digwydd.

Cydnabyddir incwm  rhent wrth ei dderbyn, a chaiff ei ohirio pan fydd y taliad wedi ei dderbyn cyn y cyfnod y mae'n ymwneud ag ef.

Mae cais yswiriant yn cael ei gredydu  i'r Datganiad o Weithgareddau Ariannol wrth ei dderbyn.

## **Gwariant**

Cydnabyddir rhwymedigaethau fel gwariant cyn gynted ag y mae rhwymedigaeth gyfreithiol neu ddehongliadol yn ymrwymo'r elusen i'r gwariant hwnnw, mae'n debygol y  bydd angen trosglwyddo buddion economaidd mewn setliad a  gellir mesur swm y rhwymedigaeth yn  ddibynadwy.  Mae gwariant yn cael ei gyfrif ar sail groniadol  ac mae wedi'i ddosbarthu o dan benawdau sy'n cyfannu'r holl gost sy'n gysylltiedig â'r categori.  Lle na  ellir priodoli costau'n uniongyrchol i benawdau penodol maent wedi'u dyrannu i weithgareddau ar sail sy'n gyson â defnyddio adnoddau.

## **Asedau sefydlog diriaethol**

Darperir dibrisiant  ar y cyfraddau blynyddol canlynol  er mwyn dileu pob ased dros ei fywyd defnyddiol amcangyfrifedig.

Eiddo rhydd-ddaliadol  – 1% ar gost Offer a pheiriannau -  Llinell syth  dros 4 blynedd

## **Stociau**

Mae stociau'n cael eu gwerthfawrogi ar yr isaf  o gost a gwerth gwireddadwy net, ar ôl gwneud lwfans dyledus ar gyfer eitemau sy'n darfod ac yn symud yn araf.

## **Trethiant**

Mae'r elusen wedi'i heithrio rhag treth ar ei gweithgareddau  elusennol.

## **Cyfrifeg y gronfa**

Gellir defnyddio arian  anghyfyngedig  yn unol â'r amcanion elusennol yn ôl disgresiwn yr ymddiriedolwyr.

Dim ond at ddibenion cyfyngedig penodol y gellir defnyddio arian cyfyngedig  o fewn amcanion yr elusen.  Mae cyfyngiadau'n codi pan gaiff ei bennu gan y rhoddwr neu pan fydd  arian yn cael ei godi  at ddibenion cyfyngedig penodol.

Mae esboniad pellach o natur a phwrpas pob cronfa wedi ei gynnwys yn y nodiadau  i'r datganiadau ariannol.

continued...

Page 6

**CYMDEITHAS TY TAWE**

# **NODIADAU  I'R DATGANIADAU ARIANNOL – parhad**

# **AM Y FLWYDDYN DDAETH I BEN AR 31 MAWRTH**

**2022**

## **1.POLISÏAU CYFRIFO  - parhad**

Mae'r cwmni wedi dewis i gymhwyso darpariaethau

Adran 11 'Offerynnau Ariannol Sylfaenol' ac Adran 12

'Materion  Offerynnau Ariannol Eraill  ' o FRS 102  i'w holl  offerynnau ariannol.

Cydnabyddir offerynnau ariannol  ym mantolen y cwmni pan ddaw'r cwmni'n barti i ddarpariaethau cytundebol yr offeryn.

Mae asedau a rhwymedigaethau ariannol  yn cael eu gwrthbwyso, gyda'r symiau  net a gyflwynir yn y datganiadau ariannol,  pan fo  hawl gorfodol yn gyfreithiol i allosod y  symiau cydnabyddedig ac mae bwriad i setlo ar sail net neu wireddu’r ased a setlo'r atebolrwydd ar yr un pryd.

## **Asedau ariannol sylfaenol**

Mae asedau ariannol sylfaenol sy'n cynnwys dyledwyr a balansau arian parod a banc, yn cael eu mesur i ddechrau am bris trafodion gan gynnwys costau trafodion ac yn cael eu cario wedyn ar  gost amorteiddio gan ddefnyddio'r dull llog effeithiol oni bai bod y trefniant yn golygu trafodiad ariannol, lle mae'r trafodiad yn cael ei fesur ar werth presennol derbynebau'r dyfodol sy'n cael eu disgownt ar gyfradd llog y farchnad. Nid yw asedau ariannol sy'n cael eu dosbarthu fel rhai derbyniadwy o fewn blwyddyn yn cael hamorteiddio.

## **Amharu ar asedau ariannol**

Asesir asedau ariannol, ar wahân i'r rhai sy'n cael eu cadw mewn gwerth teg drwy elw a cholled, ar gyfer dangosyddion amhariad ar bob dyddiad gorffen adrodd.

Mae asedau ariannol yn cael eu amharu lle mae tystiolaeth wrthrychol, o ganlyniad i un neu fwy o ddigwyddiadau a ddigwyddodd ar ôl cydnabyddiaeth gychwynnol yr ased  ariannol, y caiff llif arian amcangyfrifedig yn y dyfodol ei effeithio.  Os oes amhariad ar ased, y golled amharu yw'r gwahaniaeth rhwng y swm cario a gwerth presennol  y llif arian amcangyfrifedig a ddisgowntir ar gyfradd llog effeithiol wreiddiol yr ased. Cydnabyddir y golled amharu mewn elw neu golled

Os oes gostyngiad yn y golled amharu sy'n  deillio o ddigwyddiad yn digwydd ar ôl i'r amhariad gael ei gydnabod, mae'r amhariad yn cael ei wyrdroi. Mae'r gwrthdroad yn golygu nad yw'r swm cario presennol yn fwy na'r hyn y byddai'r swm cario wedi bod, pe na bai'r  amhariad wedi cael  ei gydnabod o'r blaen. Mae'r gwrthdroad amhariad  yn cael ei gydnabod mewn elw neu golled.

## **Anghydnabod o asedau ariannol**

Mae asedau ariannol yn cael eu hanghydnabod dim ond pan fydd  yr hawliau cytundebol i'r llif arian o'r ased yn dod i ben neu wedi'u setlo,  neu pan fydd y cwmni'n trosglwyddo'r ased ariannol ac yn sylweddol yr holl risgiau a gwobrau perchnogaeth i endid arall, neu os cedwir rhai risgiau a gwobrau sylweddol o berchnogaeth ond bod rheolaeth o’r   ased wedi ei throsglwyddo i barti arall sy'n  gallu gwerthu'r ased yn ei gyfanrwydd i drydydd parti digyswllt.

## **Dosbarthiad rhwymedigaethau ariannol**

Dosberthir rhwymedigaethau ariannol ac offerynnau ecwiti yn ôl sylwedd y trefniadau cytundebol a gofnodwyd. Offeryn ecwiti yw unrhyw gontract sy'n dangos diddordeb gweddilliol yn asedau'r cwmni ar ôl tynnu ei holl rwymedigaethau.

## **Rhwymedigaethau ariannol sylfaenol**

Mae  rhwymedigaethau ariannol sylfaenol,  gan gynnwys credydwyr a benthyciadau banc yn cael eu cydnabod i ddechrau  am bris trafodion oni bai bod y trefniant yn llunio trafodiad ariannu,  lle mae'r offeryn dyled yn cael ei fesur ar werth presennol taliadau’r dyfodol ac ar gyfradd llog y farchnad. Nid yw  rhwymedigaethau ariannol sy'n cael eu dosbarthu fel rhai sy'n daladwy o fewn blwyddyn yn cael eu hamorteiddio.

Wedi  hynny, mae offerynnau dyled yn cael eu cario ar gost  amorteiddio, gan ddefnyddio'r dull cyfradd llog effeithiol.

Mae credydwyr masnach yn rhwymedigaethau i dalu am nwyddau neu wasanaethau sydd wedi'u caffael yng nghwrs cyffredin busnes gan gyflenwyr. Dosberthir symiau sy'n daladwy fel rhwymedigaethau cyfredol os yw taliad yn ddyledus o fewn blwyddyn neu lai. Os nad ydynt, fe'u cyflwynir fel  rhwymedigaethau nad ydynt yn gyfredol.  Cydnabyddir credydwyr masnach  i ddechrau am bris trafodion ac wedi hynny fe'u mesurir ar gost amorteiddio gan ddefnyddio'r dull  llog effeithiol.

## **Anghydnabod rhwymedigaethau ariannol**

Mae rhwymedigaethau ariannol yn cael eu hanghydnabod pan fydd rhwymedigaethau cytundebol y cwmni'n dod i ben neu'n cael eu rhyddhau neu eu canslo.

Mae tudalen 9

yn parhau...

## **Dyledwyr**

Cydnabyddir dyledwyr masnach a dyledwyr eraill ar y swm setlo ar ôl i unrhyw ddisgownt masnach gael ei gynnig. Rhoddir gwerth rhagdaliadau ar y swm ad-dalu net o unrhyw ddisgowntiau masnach sy'n ddyledus.

Mae tudalen 9

yn parhau...

**CYMDEITHAS TY TAWE**

## **NODIADAU  I'R DATGANIADAU ARIANNOL – parhad**

AM Y FLWYDDYN I BEN AR 31 MAWRTH **2023**

## **1.POLISÏAU CYFRIFO  - parhad**

## **Offerynnau ariannol**

## **Arian parod yn y banc ac mewn llaw**

Mae arian parod  mewn banc ac arian parod mewn llaw yn cynnwys arian parod a buddsoddiadau hylifol iawn tymor byr gydag aeddfedrwydd byr o dri mis neu lai o ddyddiad  caffael neu agor  yr adnau neu gyfrif tebyg.

## **Credydwyr a darpariaethau**

Cydnabyddir credydwyr a darpariaethau lle mae gan yr elusen rwymedigaeth bresennol o ganlyniad i ddigwyddiad yn y gorffennol a fydd yn ôl pob tebyg yn arwain at drosglwyddo arian i drydydd parti a gellir mesur neu amcangyfrif y swm sy'n ddyledus i setlo'r rhwymedigaeth yn ddibynadwy. Mae credydwyr a darpariaethau fel arfer yn cael eu cydnabod yn eu swm setlo ar ôl caniatáu unrhyw ostyngiadau masnach sy'n ddyledus.

## **2. GWEITHGAREDDAU MASNACHU ERAILL**

|Incwm siopau
Incwm llyfr
**INCWM BUDDSODDI**
Llog cyfrif Adnau|2023

29,049
25,517
54,566
2023

105|2022

32,702
21,208
53,910
2022

6|

## **3. INCWM BUDDSODDI**

Llog cyfrif Adnau

## **4. CYDNABYDDIAETH A BUDDION YMDDIRIEDOLWYR**

Nid oedd unrhyw gydnabyddiaeth ariannol na buddion eraill ar gyfer y flwyddyn yn diweddu ar 31 Mawrth

## **Treuliau ymddiriedolwyr**

Ni thalwyd treuliau ymddiriedolwyr am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 nac am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022.

## **5. CYMARIAETHAU AR GYFER Y DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL**

||Anghyfyngedig|

||cronfa|

|**INCWM A GWADDODION O**||
|Rhoddion a chymynroddion|11,006|
|Gweithgareddau masnachu eraill|53,910|
|Incwm buddsoddi|6|
|Incwm arall|22,057|
|**Cyfanswm**|86,979|
|**GWARIANT AR**||
|Codi arian|44,956|
|**Gweithgareddau elusennol**||
|Cyffredinol|33,331|
|**Cyfanswm**|78,287|
|**INCWM NET**|8,692|

Mae tudalen 9

yn parhau...

**CYSONI ARIAN** Cyfanswm yr arian a ddygwyd ymlaen

545,765

Mae tudalen 9

yn parhau...

**CYMDEITHAS TY TAWE**

## **NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL - parhad AR GYFER Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023**

## **5. CYMARIAETHAU AR GYFER Y DATGANIAD O WEITHGAREDDAU ARIANNOL - parhad**

|||||Cronfa anghyfyngedig|Cronfa anghyfyngedig|Cronfa anghyfyngedig|

||**CYFANSWM YR ARIAN YN CAEL EI GARIO YMLAEN**||||554,457||
|**6.**|**ASEDAU SEFYDLOG DIRIAETHOL**||||||
|||Eiddo rhydd-ddaliadol  Offer|a pheiriannau   Cyfansymiau||||

||**COST**||||||
||Ar 1 Ebrill 2022|493,695|4,324||498,019||
||Ychwanegiadau|-|12,802||12,802||
||Ar 31 Mawrth 2023|493,695|17,126||510,821||
||**DIBRISIAD**||||||
||Ar 1 Ebrill 2022|4,937|3,424|||8,361|
||Tâl am y flwyddyn|4,937|3,019|||7,956|
||Ar 31 Mawrth 2023|9,874|6,443||16,317||
||**GWERTH LLYFR NET**||||||
||Ar 31 Mawrth 2023|483,821|10,683||494,504||
||Ar 31 Mawrth 2022|488,758|900||489,658||
|**7.**|**STOCIAU**||||||
||||2023||2022||

||Stociau||20,500||20,500||
|**8.**|**DYLEDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS O FEWN BLWYDDYN**||||||
||||2023||2022||

||||TAW-193||||
||Rhagdaliadau||4,564|||-|
||||4,564||193||
|**9.**|**CREDYDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS O FEWN BLWYDDYN**||||||
||||2023||2022||

||Credydwyr masnach||154|||3,282|
||Trethiant a nawdd cymdeithasol||531|||-|
||Credydwyr eraill||6,982|||2,428|
||||7,667||5,710||

Mae tudalen 9

yn parhau...

**CYMDEITHAS TY TAWE**

## **NODIADAU  I'R DATGANIADAU ARIANNOL – parhad AM Y FLWYDDYN DDAETH I BEN AR 31 MAWRTH 2023**

## **10. CREDYDWYR  : SYMIAU'N DISGYN YN DDYLEDUS AR Ôl  MWY NA BLWYDDYN**

|Credydwyr eraill
**11.**
**SYMUDIADAU MEWN CRONFEYDD**|2023

4,850|2022

|**SYMUDIADAU MEWN CRONFEYDD**|||||||

|||Symudiad|net|mewn cronfeydd|||
|||||Ar|||
|Ar|1.4.22||||31.3.23||

|**Cronfeydd anghyfyngedig**|||||||
|Cronfa gyffredinol||554,457||5,752|560,209||
|**CYFANSWM CRONFEYDD**||554,457||5,752|560,209||
|Symudiad net mewn cronfeydd, wedi’i gynwyd yn yr uchod fel a ganlyn:|||||||
|Adnoddau’n|||Adnoddau||Symudiad||
|dod i mewn||wedi’u gwario||mewn cronfeydd|||

|**Cronfeydd anghyfyngedig**|||||||
|Cronfa gyffredinol||83,968||(78,216)||5,752|
|**CYFANSWM CRONFEYDD**||83,968||(78,216)||5,752|
|**Cymariaethau ar gyfer symudiad mewn cronfeydd**|||||||
||||Symudiad||||
|||||net|Ar||
|Ar|1.4.21
mewn cronfeydd||||31.3.22||

|**Cronfeydd anghyfyngedig**|||||||
|Cronfa gyffredinol||545,765||8,692|554,457||
|**CYFANSWM CRONFEYDD**||545,765||8,692|554,457||
|Cymariaethau symudiad net mewn cronfeydd, wedi’u cynnwys yn yr uchod fel a ganlyn:|||||||
|Adnoddau’n|||Adnoddau||Symudiad||
|dod i mewn||wedi’u gwario||mewn cronfeydd|||

|**Cronfeydd anghyfyngedig**|||||||
|Cronfa gyffredinol||86,979||(78,287)||8,692|
|**CYFANSWM CRONFEYDD**||86,979||(78,287)||8,692|

Tudalen 10

parhad...

**CYMDEITHAS TY TAWE**

## **NODIADAU I'R DATGANIADAU ARIANNOL - parhad AR GYFER Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023**

## **11. SYMUD MEWN CRONFEYDD - parhad**

Mae sefyllfa blwyddyn 12 mis gyfredol a 12 mis blaenorol fel a ganlyn:

|Symudiad net
mewn
Ar 1.4.21      cronfeydd
31.3.23

**Cronfeydd anghyfyngedig**
Cronfa gyffredinol
545,765
14,444
**CYFANSWM CRONFEYDD**
545,765
14,444|Ar

560,209
560,209|

Mae blwyddyn gyfredol 12 mis a'r flwyddyn flaenorol 12 mis symudiad net cyfunol mewn cronfeydd, a gynhwysir yn yr uchod fel a ganlyn:

|Adnoddau      Adnoddau Symud
sy'n dod i mewn   a wariwyd
cronfeydd

**Cronfeydd anghyfyngedig**
Cronfa gyffredinol
170,947
(156,503)
**CYFANSWM CRONFEYDD**
170,947
(156,503)|mewn

14,444
14,444|

## **12. DATGELIADAU PARTI CYSYLLTIEDIG**

Ni fu unrhyw drafodion parti cysylltiedig yn y cyfnod adrodd sy'n gofyn am ddatgeliad.

Page 11

**CYMDEITHAS TY TAWE**

## **DATGANIAD MANWL O WEITHGAREDDAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023**

||2023|2022|

|**INCWM AC WADDOL**|||
|**Rhoddion a chymynroddion**|||
|Rhoddion ac incwm aelodaeth|5,347|4,773|
|Rhoddion|-|4,990|
|Cymorth rhodd|1,445|1,243|
|Grantiau|2,425|-|
||9,217|11,006|
|**Gweithgareddau masnachu eraill**|||
|Incwm siop|29,049|32,702|
|Incwm llyfr|25,517|21,208|
||54,566|53,910|
|**Incwm buddsoddi**|||
|Llog cyfrif Adnau|105|6|
|**Incwm arall**|||
|Incwm arall|-|4,408|
|Incwm rhent|18,625|15,400|
|Llogi ystafell|1,455|2,249|
||20,080|22,057|
|**Cyfanswm yr adnoddau sy'n dod i mewn**|83,968|86,979|
|**GWARIANT**|||
|**Gweithgareddau masnachu eraill**|||
|Agor stoc|20,500|18,148|
|Pryniannau|39,257|47,308|
|Cau stoc|(20,500)|(20,500)|
||39,257|44,956|
|**Gweithgareddau elusennol**|||
|Amrywiol|1,477|1,930|
|**Costau cymorth**|||
|**Rheolaeth**|||
|Cyflog|3,477|-|
|Cyfraddau a dŵr|1,480|1,741|
|Yswiriant|2,268|2,381|
|Golau a gwres|1,714|2,320|
|Hysbysebu|759|557|
|Tâl rheoli|10,000|10,000|
|Atgyweiriadau|2,138|2,328|
|Teithio|154|13|
|Costau Cymorth til|930|850|
|Costau cyfrifiadurol|269|250|
|Cyfrifo|4,264|2,105|
|Trwyddedau a thanysgrifiadau|1,493|1,623|
|Eiddo rhydd-ddaliadol|4,937|4,937|
|Offer a pheiriannau|3,019|1,712|
||36,902|30,817|

Nid yw’r dudalen hon yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol statudol

Page 12

**CYMDEITHAS TY TAWE**

## **DATGANIAD MANWL O WEITHGAREDDAU ARIANNOL AR GYFER Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023**

||2023||2022|

|**Rheolaeth**||||
|**Cyllid**||||
|Taliadau banc|580||453|
|Llog benthyciad banc||-|131|
||580584|||
|Cyfanswm yr adnoddau a wariwyd||78,216|78,287|
|**Incwm net**||5,752|8,692|

Nid yw’r dudalen hon yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol statudol

This page does not form part of the statutory financial statements

Page 12

This page does not form part of the statutory financial statements

Page 13

Bevan Buckland LLP Ground Floor, Cardigan House Castle Court Swansea Enterprise Park SA7 9LA

Date

Dear Examiner,

This representation letter is provided in connection with your examination of the financial statements of the charity for the year ended 31[st] March 2023.

We confirm that the following representations are made on the basis of enquiries of the trustees, management and staff with relevant knowledge and  experience  (and,  where  appropriate,  of  inspection  of  supporting documentation) sufficient to satisfy ourselves that we can properly make each of the following representations to you:

1. We have fulfilled our responsibilities as trustees under the _Charities Act 2011_ for preparing financial statements, in accordance with the applicable financial reporting framework, _FRS 102 and the FRS 102 Charity SORP_ .

We confirm that in our opinion the financial statements give a true and fair view and in particular that where any additional information must  be  disclosed  in  order  to  give  a  true  and  fair  view  that information  has  in  fact  been  disclosed.  We  confirm  that  the selection  and  application  of  the  accounting  policies  used  in the preparation  of  the  financial  statements  are  appropriate,  and we approve these accounts for the year ended 31[st] March 2023.

2. We confirm that all accounting records have been made available to you for the purpose of your examination, in accordance with your terms of engagement, and that all the transactions undertaken by the  charity  have  been  properly  reflected  and  recorded  in  the accounting  records.  All  other  records  and  related  information, including  minutes  of  all  management,  trustees’  and  members’ meetings, have been made available to you.  We have given you unrestricted access to persons within the charity in order to obtain evidence and have provided any additional information that you have requested for the purposes of your examination.

3. We confirm the charity has satisfactory title to all assets and there are  no  liens  or  encumbrances  on  the  assets,  except  for  those disclosed in the financial statements.

4. We  confirm  that  significant  assumptions  used  by  us  in  making accounting estimates, including those measured at fair value, are reasonable.

5. We confirm that we have no plans or intentions that may materially alter  the  carrying  value  and,  where  relevant,  the  fair  value measurements or classification of assets and liabilities reflected in the financial statements.

6. We confirm that the charity has no liabilities or contingent liabilities other than those disclosed in the financial statements.

7. We confirm that all known actual or possible litigation and claims whose effects should be considered when preparing the financial statements  have  been  disclosed  to  you  and  accounted  for  and disclosed  in  accordance  with  the  applicable  financial  reporting framework, FRS 102 and the FRS 102 Charity SORP.

8. We confirm that there have been no events since the balance sheet date which require disclosing or which would materially affect the amounts in the financial statements, other than those already disclosed or included in the financial statements.

9. We confirm that we are aware of the definition of a related party for the  purpose  of  the  accounting  framework  being  applied  in  the preparation of the accounts.

We confirm that the related party relationships and transactions set out below are a complete list of such relationships and transactions and  that  we  are  not  aware  of  any  further  related  parties  or transactions.

|transactions.|||

|**_Party_**|**_Relationship_**|**_Nature of transaction_**|
|Menter
Iaith
Abertawe|Subsidiary|Rental income received|
|Menter
Iaith
Abertawe|Subsidiary|Management charge incurred|
|Menter
Iaith
Abertawe|Subsidiary|Share of costs relating to fxed
asset purchase received
(Projector)|
|Menter
Iaith
Abertawe|Subsidiary|Share of costs received (£4,000)|

- 10.We  confirm  that  all  related  party  relationships  and  transactions have  been  accounted  for  and  disclosed  in  accordance  with  the applicable financial reporting framework, _FRS 102 and the FRS 102 Charity SORP_ .

- 11.We confirm that the charity neither had, at any time during the year, any arrangement, transaction or agreement to provide credit facilities (including advances and credits granted by the charity) for trustees, nor provided guarantees of any kind on behalf of the trustees.

- 12.We  confirm  that  the  charity  has  not  contracted  for  any  capital expenditure other than as disclosed in the financial statements.

- 13.We  confirm  that  the  charity  has  complied  with  all  aspects  of contractual agreements that could have a material effect on the financial statements in the event of non-compliance.

- 14.We confirm that we are not aware of any possible or actual instance of non-compliance with those laws and regulations which provide a legal framework within which the charity conducts its activities and which are central to the charity’s ability to conduct its activities, except as explained to you and as disclosed in the financial statements.

- 15.We acknowledge our responsibility for the design, implementation and maintenance of internal controls to prevent and detect fraud. We confirm that we have disclosed to you the results of our risk assessment of the risk of fraud in the organisation.

There have been no deficiencies in internal control of which we are aware.

- 16.We confirm that there have been no actual or suspected instances of fraud involving trustees, management or employees who have a significant role in internal control or that could have a material effect on the financial statements. We also confirm that we are not aware of any allegations of fraud by trustees, former trustees, analysts, employees, former employees, regulators or others.

- 17.We confirm that, in our opinion, the charity’s financial statements should be prepared on the going concern basis on the grounds that current and future sources of funding or support will be more than adequate for the charity’s needs. In reaching this conclusion, we have taken into account all relevant matters of which we are aware, and have considered a period of at least one year from the date on which the financial statements _will be_ approved.

- 18.We confirm that in our opinion the effects of uncorrected misstatements are immaterial, both individually and in aggregate, to the financial statements as a whole. A list of the uncorrected misstatements is attached to this letter.

- 19.We confirm that all grants, donations and other income, including those  subject  to  special  terms  or  conditions  or  received  for restricted purposes, have been notified to you. There have been no breaches of terms or conditions during the period regarding the application of such income.

- 20.We acknowledge our legal responsibilities regarding disclosure of information to you as examiners and confirm that:

- so far as each trustee is aware, there is no relevant information of which you as examiners are unaware; and

- each trustee has taken all the steps that they ought to have taken as a trustee to make themselves aware of any relevant information and  to  establish that  you  are aware  of  that information.

Yours faithfully,

Signed on behalf of the board of trustees

Trustee...............................................................

Date..................................................................