Adroddiad y Trysorydd Tachwedd 2023
Roedd y flwyddyn ariannol 2022-2023 yn un prysur i’r Côr. Gydag incwm o 8 cyngerdd (2 yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol), tâl aelodaeth, y cerdyn pêl droed, rhoddion a gwerthiant CDs, mae cyfrif y Côr yn edrych yn dipyn iachach eto eleni ac yn dangos elw o £4808.39 am y flwyddyn.
Mae teithiau’r côr yn dangos colled ond, fel yr adroddwyd ym mantolen 2021-2022, roedd £4044 o’r costau eleni yn wariant ar gyfer costau Taith Gaerdydd y flwyddyn ariannol gynt. Roedd aelodau eisoes wedi talu am y trip cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Hefyd, bydd ad-daliadau ar gyfer y cyngerdd Bedford a ganslwyd yn ddiweddar (oddeutu £1085) a rhai costau arall yn cario drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf.
Unwaith eto, roedd heriau mawr wrth hel pres ar gyfer teithiau’r Côr eleni gyda rhai yn araf yn talu a rhai yn newid cynlluniau (yn aml am resymau dilys). Mae’n mynd yn anodd cadw cyfrif ar daliadau wedyn. Mae hyn yn bwnc trafod rheolaidd yng nghyfarfodydd pwyllgor y côr.
Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Dafydd Lloyd unwaith eto am ei waith rheolaidd yn hel pres ar gyfer y cerdyn pêl-droed bob wythnos. Mae’r pres a gesglir trwy hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol at goffrau’r côr. Yn ogystal, diolch yn fawr iawn i Dafydd a chriw bach o ffyddloniaid sy’n gweithio yn galed i sicrhau fod y neuadd yn barod ar gyfer ymarfer ac yn cloi’r ysgol ar ddiwedd bob ymarfer. Mae’r gwaith hwn hefyd yn cyfrannu at y coffrau gan ei fod yn golygu nad oes raid i ni dalu staff Ysgol y Moelwyn i wneud y gwaith.
Hoffwn ddiolch unwaith eto i John Cadwaladr am ei amser a’i gymorth yn archwilio’r cyfrifon a gwirio’r fantolen hon.
Mi fyddaf yn sefyll i lawr o rôl y Trysorydd ar ôl y cyfarfod heddiw. Nes i erioed ofyn i gael gwneud y swydd na roi fy enw gerbron (bydd rhaid i mi ddysgu sut i ddweud ‘Na’ o hyn ymlaen!) ond mae wedi bod yn fraint cefnogi’r côr dros yr wyth mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae dal i weithio yn llawn amser yn golygu na allaf roi amser haeddiannol i’r swydd fel trysorydd. Dwi’n dymuno’n dda i fy olynydd.
Stuart Gray Trysorydd Côr Meibion y Brythoniaid
| MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023 (Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau) |
MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023 (Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau) |
MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023 (Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau) |
MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023 (Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau) |
MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023 (Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau) |
MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023 (Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau) |
MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023 (Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau) |
MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023 (Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau) |
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| DERBYNIADAU | COSTAU | ||||||
| CDs | 611.50 (63.56) |
CDs | 0 (0) |
||||
| Cyngherddau Ac ati |
|||||||
| Cyngherddau (Gweler isod) |
7568.47 (891.00) |
2783.50 (741.00) |
|||||
| Ffioedd Cystadlu | 397.00 | ||||||
| Rhoddion | 1741.17 (127.25) |
Treuliau Uniongyrchol |
|||||
| Arweinydd | 2720 (2590) |
||||||
| Cyfeilyddes | 2400 (2285) |
||||||
| Eraill (Ad-daliadau, ayb) |
242.00 (230.56) |
||||||
| Teithio Arweinydd |
840.80 (0) |
||||||
| Tal Aelodaeth | 4125.00 (4520.40) |
Teithio Cyfeilyddes |
237.60 (0) |
||||
| Grantiau | 0 (0) |
Teithio eraill | 0 (0) |
||||
| Taith(aelodau) | 12,909.40 (1140.00) |
Taith(aelodau) | 14,099.00 (0) |
||||
| Treuliau Anuniongyrchol |
|||||||
| Raffl | 383.51 | Raffl | 35.94 | ||||
| Eraill | 3 (72) |
Cerdd | 0 (0) |
||||
| Derbyniadau Eraill |
Dillad | 378.60 (0) |
|||||
| Cerdyn pêl droed |
2429.27 (1142.42) |
Yswiriant + Aelodaeth |
0 (128.25) |
||||
| Dillad | 130.00 (0) |
Llungopïo a Chostau Argraffu |
86.64 (17.97) |
||||
| Treth Rhodd (Gift Aid) |
0 (0) |
Safle’r we | 370.00 (0) |
||||
| Llog Banc (+ Iawndal) |
57.19 (373.65) |
Ffioedd Banc | 106.05 (115.19) |
||||
| Costau eraill | 22.99 | ||||||
| Cloi’r ysgol + Gwobr CPD |
430.00 (505.00) |
||||||
| CYFANSWM | 29958.51 | CYFANSWM | 25150.12 | ||||
| Elw am y flwyddyn |
4808.39 | ||||||
| 29958.51 | 29958.51 | ||||||
| Yn y Banc 1.8.2021 |
Prif Cadw |
8724.54 6241.56 |
Yn y Banc 31.7.2022 |
Prif Cadw |
13475.74 6298.75 |
||
| ARIAN Mewn Llaw |
0 | 0 | |||||
| CYFANSWM | 14,966.10 | CYFANSWM | 19774.49 |
| CYNGHERDDAU AC ATI | CYNGHERDDAU AC ATI | CYNGHERDDAU AC ATI | CYNGHERDDAU AC ATI | CYNGHERDDAU AC ATI | CYNGHERDDAU AC ATI |
|---|---|---|---|---|---|
| Incwm | Costau | ||||
| Gwyl Cerdd Conwy |
800.00 | Gwyl Cerdd Conwy |
350.00 | ||
| Cyng. Elusennol Llanfairfechan |
0 | 350.00 | |||
| Hafan y Mor X2 | (Un cyngerdd yn 2021-2022) |
1700.00 | Hafan y Mor | 350.00 | |
| Caerdydd (gyda Côr Meib. Taf) |
600.00 | ||||
| Cyng. Elusennol Wcrain |
350.00 | Cyng. Elusennol Wcrain |
350.00 | ||
| Cyng. Plas Glyn y Weddw |
2089.50 | Cyng. Plas Glyn y Weddw |
350.00 | ||
| Cyngerdd Blynyddol |
1865.00 | Cyngerdd Blynyddol |
1033.50 | ||
| Breindal Sain | 163.97 | ||||
| CYFANSWM | 7568.47 | 2783.50 |