**Adroddiad y Trysorydd Tachwedd 2023**

Roedd y flwyddyn ariannol 2022-2023 yn un prysur i’r Côr. Gydag incwm o 8 cyngerdd (2 yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol), tâl aelodaeth, y cerdyn pêl droed, rhoddion a gwerthiant CDs, mae cyfrif y Côr yn edrych yn dipyn iachach eto eleni ac yn dangos elw o £4808.39 am y flwyddyn.

Mae teithiau’r côr yn dangos colled ond, fel yr adroddwyd ym mantolen 2021-2022, roedd £4044 o’r costau eleni yn wariant ar gyfer costau Taith Gaerdydd y flwyddyn ariannol gynt. Roedd aelodau eisoes wedi talu am y trip cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Hefyd, bydd ad-daliadau ar gyfer y cyngerdd Bedford a ganslwyd yn ddiweddar (oddeutu £1085) a rhai costau arall yn cario drosodd i’r flwyddyn ariannol nesaf.

Unwaith eto, roedd heriau mawr wrth hel pres ar gyfer teithiau’r Côr eleni gyda rhai yn araf yn talu a rhai yn newid cynlluniau (yn aml am resymau dilys). Mae’n mynd yn anodd cadw cyfrif ar daliadau wedyn. Mae hyn yn bwnc trafod rheolaidd yng nghyfarfodydd pwyllgor y côr.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Dafydd Lloyd unwaith eto am ei waith rheolaidd yn hel pres ar gyfer y cerdyn pêl-droed bob wythnos. Mae’r pres a gesglir trwy hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol at goffrau’r côr. Yn ogystal, diolch yn fawr iawn i Dafydd a chriw bach o ffyddloniaid sy’n gweithio yn galed i sicrhau fod y neuadd yn barod ar gyfer ymarfer ac yn cloi’r ysgol ar ddiwedd bob ymarfer. Mae’r gwaith hwn hefyd yn cyfrannu at y coffrau gan ei fod yn golygu nad oes raid i ni dalu staff Ysgol y Moelwyn i wneud y gwaith.

Hoffwn ddiolch unwaith eto i John Cadwaladr am ei amser a’i gymorth yn archwilio’r cyfrifon a gwirio’r fantolen hon.

Mi fyddaf yn sefyll i lawr o rôl y Trysorydd ar ôl y cyfarfod heddiw. Nes i erioed ofyn i gael gwneud y swydd na roi fy enw gerbron (bydd rhaid i mi ddysgu sut i ddweud ‘Na’ o hyn ymlaen!) ond mae wedi bod yn fraint cefnogi’r côr dros yr wyth mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae dal i weithio yn llawn amser yn golygu na allaf roi amser haeddiannol i’r swydd fel trysorydd. Dwi’n dymuno’n dda i fy olynydd.

Stuart Gray Trysorydd Côr Meibion y Brythoniaid

|**MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023**
(Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau)|**MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023**
(Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau)|**MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023**
(Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau)|**MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023**
(Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau)|**MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023**
(Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau)|**MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023**
(Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau)|**MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023**
(Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau)|**MANTOLEN CÔR Y BRYTHONIAID, 2022/2023**
(Ffigyrau 2021/2022 mewn cromfachau)|

|**DERBYNIADAU**||||**COSTAU**||||
|CDs|||611.50
(63.56)|CDs|||0
(0)|
|**Cyngherddau**
**Ac ati**||||||||
|**Cyngherddau**
(Gweler isod)|||7568.47
(891.00)||||2783.50
(741.00)|
|||||Ffioedd Cystadlu|||397.00|
|**Rhoddion**|||1741.17
(127.25)|**Treuliau**
**Uniongyrchol**||||
|||||Arweinydd|||2720
(2590)|
|||||Cyfeilyddes|||2400
(2285)|

|||||Eraill
(Ad-daliadau, ayb)|||242.00
(230.56)|

|||||Teithio
Arweinydd|||840.80
(0)|
|**Tal Aelodaeth**|||4125.00
(4520.40)|Teithio
Cyfeilyddes|||237.60
(0)|
|**Grantiau**|||0
(0)|Teithio eraill|||0
(0)|
|**Taith(aelodau)**|||12,909.40
(1140.00)|**Taith(aelodau)**|||14,099.00
(0)|

|||||**Treuliau**
**Anuniongyrchol**||||
|**Raffl**|||383.51|Raffl|||35.94|
|**Eraill**|||3
(72)|Cerdd|||0
(0)|

|**Derbyniadau**
**Eraill**||||Dillad|||378.60
(0)|
|Cerdyn pêl
droed|||2429.27
(1142.42)|Yswiriant +
Aelodaeth|||0
(128.25)|
|Dillad|||130.00
(0)|Llungopïo a
Chostau Argraffu|||86.64
(17.97)|
|Treth Rhodd
(Gift Aid)|||0
(0)|Safle’r we|||370.00
(0)|
|Llog Banc
(+ Iawndal)|||57.19
(373.65)|Ffioedd Banc|||106.05
(115.19)|
|||||Costau eraill|||22.99|
|||||Cloi’r ysgol
+ Gwobr CPD|||430.00
(505.00)|
|**CYFANSWM**|||**29958.51**|**CYFANSWM**|||**25150.12**|
|||||Elw am y
flwyddyn|||4808.39|
||||**29958.51**||||**29958.51**|

|**Yn y Banc**
**1.8.2021**||Prif
Cadw|8724.54
6241.56|**Yn y Banc**
**31.7.2022**||Prif
Cadw|13475.74
6298.75|
|ARIAN Mewn
Llaw|||0||||0|
|**CYFANSWM**|||**14,966.10**|**CYFANSWM**|||**19774.49**|

|**CYNGHERDDAU AC ATI**|**CYNGHERDDAU AC ATI**|**CYNGHERDDAU AC ATI**|**CYNGHERDDAU AC ATI**|**CYNGHERDDAU AC ATI**|**CYNGHERDDAU AC ATI**|

|**Incwm**|||**Costau**|||
|**Gwyl Cerdd**
**Conwy**||800.00||**Gwyl Cerdd**
**Conwy**|350.00|
|**Cyng. Elusennol**
**Llanfairfechan**||0|||350.00|
|**Hafan y Mor X2**|(Un cyngerdd
yn 2021-2022)|1700.00||**Hafan y Mor**|350.00|
|**Caerdydd (gyda**
**Côr Meib. Taf)**||600.00||||
|**Cyng. Elusennol**
**Wcrain**||350.00||**Cyng. Elusennol**
**Wcrain**|350.00|
|**Cyng. Plas Glyn**
**y Weddw**||2089.50||**Cyng. Plas Glyn**
**y Weddw**|350.00|
|**Cyngerdd**
**Blynyddol**||1865.00||**Cyngerdd**
**Blynyddol**|1033.50|
|**Breindal Sain**||163.97||||

|**CYFANSWM**||**7568.47**|||**2783.50**|