Elusen gofrestredig rhif 259772
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2023–2024
SWYDDOGION
Llywydd: D. Roy Saer
Is-Lywyddion
Phyllis Kinney Myron Lloyd
Cadeirydd
Yr Athro E. Wyn James
Is-Gadeirydd
Dr Elen Wyn Keen
Aelodau’r Pwyllgor Gwaith
Cai Fôn Davies (2022) Gwenan Gibbard (2021) Branwen Medi Jones (2023) Einir Wyn Jones (2021) Dr Emma Lile (2021) Trefor Pugh (2021) Ben Ridler (2021) Morfudd Sinclair (2021)
Ysgrifennydd Cyffredinol:
Dr Rhiannon Ifans Rhandir, Penrhyn-coch, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3EQ Ffôn: 01970 828719 canugwerin.com
Trysorydd ac Ysgrifennydd Aelodaeth:
Dr Rhidian Griffiths Coed y Berllan, Ffordd Bryn-y-môr, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2HX Ffôn: 01970 610160 e-bost: rhcgriffiths@btinternet.com
Golygydd y cylchgrawn Canu Gwerin
Dr Rhiannon Ifans
CYMDEITHAS ALAWON GWERIN CYMRU
Amcanion
Amcanion y Gymdeithas fydd addysgu’r cyhoedd ym maes cerddoriaeth draddodiadol Gymreig trwy gasglu, cadw a pherfformio’r cyfryw gerddoriaeth, trwy gyhoeddi enghreifftiau addas o’r cyfryw gerddoriaeth a thrwy hyrwyddo ymchwil i’w hanes yn llenyddol a cherddorol.
Cyfansoddiad
Mae’r Gymdeithas yn gweithredu yn unol â’r cyfansoddiad a fabwysiadwyd yn 1910 ac a ddiwygiwyd 4 Awst 1971 a 12 Medi 1981.
Adroddiad ar weithgarwch y flwyddyn
Y Cylchgrawn blynyddol, Canu Gwerin
Diolch i’r Golygydd, Dr Rhiannon Ifans, am drefnu rhifyn llawn a diddorol unwaith eto, rhif 46 mewn cyfres a gyhoeddwyd yn ddi-dor ers 1978. Mae’n cynnwys cyfraniadau gan Wyn Thomas, Twm Morys, Christine James, Marged Esli a’r Golygydd, yn ogystal ag adolygiadau
Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023
Traddodwyd Darlith Goffa Amy Parry-Williams 2023 gan Gwenan Gibbard, ar y testun ‘Caneuon Gwerin Llŷn ac Eifionydd’.
Cynhaliwyd Talwrn y Partïon Gwerin yn y Tŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod ym Moduan. Cadeiriwyd gan Rhiannon Ifans a’r beirniad oedd Owain Siôn; y partïon gwerin a fu’n cystadlu oedd Parti Llŷn ac Eifionydd (yn cynrychioli Eisteddfod 2023) a Pharti Gweddill Cymru (yn cynrychioli Eisteddfod 2024). Cynhaliwyd sesiwn ‘Baledi Hen a Newydd’ yn y Tŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod. Yn cymryd rhan roedd Menna Thomas, Morfudd Sinclair, Glandon Lewis ac Edryd Williams.
Adargraffu
Adargraffwyd Canu’r Cymry 1 a 2 a Caneuon Gwerin i Blant yn ystod y flwyddyn. Mae’n galonogol iawn fod galw o hyd am y cyfrolau hyn.
Y Gynhadledd Flynyddol
Cynhaliwyd y Gynhadledd Flynyddol yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth, ar 23 a 24 Medi 2023, gan ddychwelyd i’r hen batrwm o gael sesiynau dros ddau ddiwrnod. Brynhawn Sadwrn cafwyd cyflwyniadau gan Elinor Bennett, yn trafod
bywyd a gwaith y casglwr Nicholas Bennett, ac Elain Rhys yn trafod trefniannau lleisiol Grace Williams o alawon gwerin Cymreig. Mwynhawyd noson lawen ddifyr yng nghwmni Parti Camddwr yng Nghanolfan Merched y Wawr ar y nos Sadwrn. Fore Sul cafwyd cyflwyniadau gan Rhidian Griffiths ar ddisgrifiadau twristiaid o ganu gwerin a chan E. Wyn James ar ganu gwerin Cwm Taf.
Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol ar ddiwedd y gynhadledd yn ôl ein harfer.
Pwyllgor Gwaith
Cyfarfu’r Pwyllgor Gwaith yn ystod y Gynhadledd ar 23 Medi 2023. Yn ystod y flwyddyn, yn ôl ein harfer, atebwyd nifer o ymholiadau am faterion yn ymwneud â byd canu gwerin.
Etholir swyddogion y Gymdeithas ac aelodau’r Pwyllgor trwy benderfyniad y Cyfarfod Blynyddol ac yn unol â’r rheolau a eglurir yn y cyfansoddiad. Etholwyd Branwen Medi Jones yn aelod newydd o’r Pwyllgor Gwaith.
Cymynrodd
Yn ystod y flwyddyn derbyniwyd cymynrodd hael trwy ewyllys y ddiweddar Hilda Hunter, Amwythig. Roedd Miss Hunter yn ddarlithydd mewn cerddoriaeth ac yn ymddiddori’n fawr yn ein traddodiad gwerin. Bu’n aelod o’r Gymdeithas am nifer o flynyddoedd hyd ei marwolaeth ar 17 Mai 2022. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Dyfal Donc , yn 2006. Gofynnir inni fuddsoddi’r cymynrodd, sy’n werth dros £25,000, a defnyddio’r incwm i gyllido ysgoloriaeth i’w dyfarnu yn ôl disgresiwn Swyddogion y Gymdeithas i ymgeisydd teilwng sy’n astudio cerddoriaeth werin.
Digido
Gyda chymorth Llyfrgell Genedlaethol Cymru cwblhawyd y gwaith o ddigido Canu Gwerin 1978–2015, gyda’r bwriad o osod y ffeiliau digidol ar wefan y Gymdeithas.
Polisi ar gynilion
Mae’r arian sydd wrth gefn yng nghoffrau’r Gymdeithas yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i gyllido cyhoeddiadau, yn unol â phenderfyniadau’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyfarfod Blynyddol. Amcenir at gadw o leiaf £25,000 yn y cronfeydd wrth gefn i gyllido prosiectau cyhoeddi a phrosiectau digido.
Rhif elu5en'. 259772 2022-23 1,257.Cil Aelc*laÉth I.C Rhoddion 260.(K) Cynhadledd 469.10 Gwerthiant Ilyfrau 502.68 Brelndalladau 3).12 Rhodd &rymorth 1232.73 Incwm buddsoddlad Cymynrodd 2023.24 277.25 751.00 S,8790 71.60 180.00 8.62 503.90 1,253. 25.L 475.IXI 532.01 599.10 201.35 1.269.64 25.thJ). 227.65 Gweiry¢kk4 s01.) Cynhadledd 1767.50 Ary3ffi1 72.40 Costau banc 35a Eisteddf Ys8olorlaeth cynhadledd ILW.IYJ Cyfrgniodstors t>nd RrbbMs IOSO.tKI Ywefvn nwdd 6.96&55 Cyfanswrn talladau Z94&92 Gweddlll I Idfffy8) 4,021.63 Cyfanswm derbyn4adau 29355. 77137 21,683.73 30.&24 15,360.28 594.52 2Z354.47 12.044.01 492.99 47,9?4.85 Stocyn y Ganolfan Lyfrau Buddsodthad Charifurnl 3&309.27 60.511.85
CYMDEITHAS ALAWON GWERIN CYMRU Elusen gofrestredsg rhif 259772 Adroddiad yr ArchwiliwrAnnibynnol ar Gyfrlfon yr Elusen 8m yflwyddyn 1 Mai 2023 hyd 30 Ebrill 2024 Barn Yrwyfwedi archwilio datganiadau ariannol CymdeithasAlawon Gwerin Cymru 8m yflwyddyn yn diweddu 30 Ebrill 2024. Yn fy marn i mae'r datganiadau ariannol yn cyflwyno darlun teg o setyllfa'r elusen ar 30 Ebrill 2024 ac o'i h8dnoddau a'i defnydd o'i hadnoddau, gan gynnwys ei hincwm 8.1 gwariant, 8m y flwyddyn honno. a bod y datganiadau hynny wedi eu paratoi yn unol ag arferion safonol cyfrifyddol y Deyrnas Gyfunol ac yn unol a gofynion Deddf Elusennaij 2011. Casglladau Yn seiliedig ar y gwaith a wneuthum. yr wyf wedi dod i'r casgliad fod defnydd yr ymddiriedolwyr o sail gyfrifyddol busnes gweithredol wrth baratoi'r datganiadau ariannol yn briodol. Yn seiliedig ar ygwaith a wneuthum, nid wyfwedi adnabod unrhyw ansicrwydd perthynol i amgylchiadau sy'n bwrw amheu8eth ar allu'r elusen i barhau fel busnes Eweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r dyddiad yr awdurdodwyd y datg8niadau ariannol. Iwan ap Datydd, BA, MLib 27 Medi 2024