
## **Elusen gofrestredig rhif 259772** 

## **ADRODDIAD BLYNYDDOL 2023–2024** 

## **SWYDDOGION** 

**Llywydd:** D. Roy Saer 

## **Is-Lywyddion** 

Phyllis Kinney Myron Lloyd 

## **Cadeirydd** 

Yr Athro E. Wyn James 

## **Is-Gadeirydd** 

Dr Elen Wyn Keen 

## **Aelodau’r Pwyllgor Gwaith** 

Cai Fôn Davies (2022) Gwenan Gibbard (2021) Branwen Medi Jones (2023) Einir Wyn Jones (2021) Dr Emma Lile (2021) Trefor Pugh (2021) Ben Ridler (2021) Morfudd Sinclair (2021) 

## **Ysgrifennydd Cyffredinol:** 

Dr Rhiannon Ifans Rhandir, Penrhyn-coch, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3EQ Ffôn: 01970 828719 canugwerin.com 

## **Trysorydd ac Ysgrifennydd Aelodaeth:** 

Dr Rhidian Griffiths Coed y Berllan, Ffordd Bryn-y-môr, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2HX Ffôn: 01970 610160 e-bost: rhcgriffiths@btinternet.com 

## **Golygydd y cylchgrawn** _**Canu Gwerin**_ 

Dr Rhiannon Ifans 



## **CYMDEITHAS ALAWON GWERIN CYMRU** 

## **Amcanion** 

Amcanion y Gymdeithas fydd addysgu’r cyhoedd ym maes cerddoriaeth draddodiadol Gymreig trwy gasglu, cadw a pherfformio’r cyfryw gerddoriaeth, trwy gyhoeddi enghreifftiau addas o’r cyfryw gerddoriaeth a thrwy hyrwyddo ymchwil i’w hanes yn llenyddol a cherddorol. 

## **Cyfansoddiad** 

Mae’r Gymdeithas yn gweithredu yn unol â’r cyfansoddiad a fabwysiadwyd yn 1910 ac a ddiwygiwyd 4 Awst 1971 a 12 Medi 1981. 

## **Adroddiad ar weithgarwch y flwyddyn** 

## **Y Cylchgrawn blynyddol,** _**Canu Gwerin**_ 

Diolch i’r Golygydd, Dr Rhiannon Ifans, am drefnu rhifyn llawn a diddorol unwaith eto, rhif 46 mewn cyfres a gyhoeddwyd yn ddi-dor ers 1978. Mae’n cynnwys cyfraniadau gan Wyn Thomas, Twm Morys, Christine James, Marged Esli a’r Golygydd, yn ogystal ag adolygiadau 

## **Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023** 

Traddodwyd Darlith Goffa Amy Parry-Williams 2023 gan Gwenan Gibbard, ar y testun ‘Caneuon Gwerin Llŷn ac Eifionydd’. 

Cynhaliwyd Talwrn y Partïon Gwerin yn y Tŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod ym Moduan. Cadeiriwyd gan Rhiannon Ifans a’r beirniad oedd Owain Siôn; y partïon gwerin a fu’n cystadlu oedd Parti Llŷn ac Eifionydd (yn cynrychioli Eisteddfod 2023) a Pharti Gweddill Cymru (yn cynrychioli Eisteddfod 2024). Cynhaliwyd sesiwn ‘Baledi Hen a Newydd’ yn y Tŷ Gwerin ar faes yr Eisteddfod. Yn cymryd rhan roedd Menna Thomas, Morfudd Sinclair, Glandon Lewis ac Edryd Williams. 

## **Adargraffu** 

Adargraffwyd _Canu’r Cymry 1 a 2_ a _Caneuon Gwerin i Blant_ yn ystod y flwyddyn. Mae’n galonogol iawn fod galw o hyd am y cyfrolau hyn. 

## **Y Gynhadledd Flynyddol** 

Cynhaliwyd y Gynhadledd Flynyddol yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth, ar 23 a 24 Medi 2023, gan ddychwelyd i’r hen batrwm o gael sesiynau dros ddau ddiwrnod. Brynhawn Sadwrn cafwyd cyflwyniadau gan Elinor Bennett,  yn trafod 



bywyd a gwaith y casglwr Nicholas Bennett, ac Elain Rhys yn trafod trefniannau lleisiol Grace Williams o alawon gwerin Cymreig. Mwynhawyd noson lawen ddifyr yng nghwmni Parti Camddwr yng Nghanolfan Merched y Wawr ar y nos Sadwrn. Fore Sul cafwyd cyflwyniadau gan Rhidian Griffiths ar ddisgrifiadau twristiaid o ganu gwerin a chan E. Wyn James ar ganu gwerin Cwm Taf. 

Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol ar ddiwedd y gynhadledd yn ôl ein harfer. 

## **Pwyllgor Gwaith** 

Cyfarfu’r Pwyllgor Gwaith yn ystod y Gynhadledd ar 23 Medi 2023. Yn ystod y flwyddyn, yn ôl ein harfer, atebwyd nifer o ymholiadau am faterion yn ymwneud â byd canu gwerin. 

Etholir swyddogion y Gymdeithas ac aelodau’r Pwyllgor trwy benderfyniad y Cyfarfod Blynyddol ac yn unol â’r rheolau a eglurir yn y cyfansoddiad. Etholwyd Branwen Medi Jones yn aelod newydd o’r Pwyllgor Gwaith. 

## **Cymynrodd** 

Yn ystod y flwyddyn derbyniwyd cymynrodd hael trwy ewyllys y ddiweddar Hilda Hunter, Amwythig. Roedd Miss Hunter yn ddarlithydd mewn cerddoriaeth ac yn ymddiddori’n fawr yn ein traddodiad gwerin. Bu’n aelod o’r Gymdeithas am nifer o flynyddoedd hyd ei marwolaeth ar 17 Mai 2022. Cyhoeddodd ei hunangofiant, _Dyfal Donc_ , yn 2006. Gofynnir inni fuddsoddi’r cymynrodd, sy’n werth dros £25,000, a defnyddio’r incwm i gyllido ysgoloriaeth i’w dyfarnu yn ôl disgresiwn Swyddogion y Gymdeithas i ymgeisydd teilwng sy’n astudio cerddoriaeth werin. 

## **Digido** 

Gyda chymorth Llyfrgell Genedlaethol Cymru cwblhawyd y gwaith o ddigido _Canu Gwerin_ 1978–2015, gyda’r bwriad o osod y ffeiliau digidol ar wefan y Gymdeithas. 

## **Polisi ar gynilion** 

Mae’r arian sydd wrth gefn yng nghoffrau’r Gymdeithas yn cael ei ddefnyddio’n bennaf i gyllido cyhoeddiadau, yn unol â phenderfyniadau’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyfarfod Blynyddol. Amcenir at gadw o leiaf £25,000 yn y cronfeydd wrth gefn i gyllido prosiectau cyhoeddi a phrosiectau digido. 



Rhif elu5en'. 259772
2022-23
1,257.Cil Aelc*laÉth
I￿.C￿ Rhoddion
260.(K) Cynhadledd
469.10 Gwerthiant Ilyfrau
502.68 Brelndalladau
3￿).12 Rhodd &rymorth
1232.73 Incwm buddsoddlad
Cymynrodd
2023.24
277.25
751.00
S,879￿0
71.60
180.00
8.62
503.90
1,253.
25.L
475.IXI
532.01
599.10
201.35
1.269.64
25.thJ).
227.65 Gweiry¢kk4
s01.￿) Cynhadledd
1767.50 Ary3ffi1
72.40 Costau banc
35a￿ Eisteddf￿￿
Ys8olorlaeth cynhadledd
ILW.IYJ Cyfrgniodstors t>nd RrbbMs
IOSO.tKI Ywefvn nwdd
6.96&55 Cyfanswrn talladau
Z94&92 Gweddlll I Idfffy8)
4,021.63 Cyfanswm derbyn4adau
29355.
7￿7137
21,683.73
30.&24
15,360.28
594.52
2Z354.47
12.044.01
492.99
47,9?4.85
Stocyn y Ganolfan Lyfrau
Buddsodthad Charifurnl
3&309.27
60.511.85

CYMDEITHAS ALAWON GWERIN CYMRU
Elusen gofrestredsg rhif 259772
Adroddiad yr ArchwiliwrAnnibynnol ar Gyfrlfon yr Elusen 8m yflwyddyn
1 Mai 2023 hyd 30 Ebrill 2024
Barn
Yrwyfwedi archwilio datganiadau ariannol CymdeithasAlawon Gwerin Cymru 8m yflwyddyn yn
diweddu 30 Ebrill 2024.
Yn fy marn i mae'r datganiadau ariannol yn cyflwyno darlun teg o setyllfa'r elusen ar 30 Ebrill
2024 ac o'i h8dnoddau a'i defnydd o'i hadnoddau, gan gynnwys ei hincwm 8.1 gwariant, 8m y
flwyddyn honno. a bod y datganiadau hynny wedi eu paratoi yn unol ag arferion safonol
cyfrifyddol y Deyrnas Gyfunol ac yn unol a gofynion Deddf Elusennaij 2011.
Casglladau
Yn seiliedig ar y gwaith a wneuthum. yr wyf wedi dod i'r casgliad fod defnydd yr ymddiriedolwyr o
sail gyfrifyddol busnes gweithredol wrth baratoi'r datganiadau ariannol yn briodol. Yn seiliedig ar
ygwaith a wneuthum, nid wyfwedi adnabod unrhyw ansicrwydd perthynol i amgylchiadau sy'n
bwrw amheu8eth ar allu'r elusen i barhau fel busnes Eweithredol am gyfnod o ddeuddeng mis o
leiaf o'r dyddiad yr awdurdodwyd y datg8niadau ariannol.
Iwan ap Datydd, BA, MLib
27 Medi 2024