ADRODDIAD Y CADEIRYDD DYDD IAU, MEHEFIN 27ain, 2024 Noswaith dda i chi i gyd a chroeso i gyfarfod blynyddol Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth. Mae'n bleser cael adrodd bod y Neuadd yn brysur dros ben, yn wir yn Ilawer lawn prysurach nag y bu ers rhai blynyddoedd. Mae mwy a mwy o geisiadau yn dod i law li parthed Ilogi yr ystafelloedd yn y Neuadd ac fel canlyniad, mae ein sefyllfa ariannol yn bur Ilewyrchus. Bu derbyn grantiau yn ystod cyfi]od y Covid yn gymorth mawr i ni ac yn ddiweddarach, grantiau gan y National Grid a Rebecca. Oherwydd y prysurdeb yn y Neuadd, penderfynwyd cyflogi person arall i gynorthwyo Chris Williams gyda'r glanhau a gofalu. Mae Chris wrth ei waith ar ddydd Llun ac rnae Des Jones yma ar ddydd Iau. Mae'r trefniant yma i weld yn gweithio yn dda i sicrhau bod y Neuadd mewn cyflwr glan a derbyniol ar gyfer y defnyddwyr o un pen i'r wythnos i'r Ilall. Yn ogystal, anfonwyd Ilythyr ynghyd a rhestr o delerau ac amodau at bawb sy'n gwneud dethydd o'r Ile. Mae'r gwair yn cael ei dorri a'r ffenestri yn cael eu glanhau yn rheolaidd. Mae'r goleuadau, y larymau a'r offer atal tan yn cael eu profi a'r offer tydanol yn cael profion PAT yn flynyddol. Mae'r sefyllfa gadarnhaol yma yn bodoli hefyd oherwydd bod yma bwyllgor rheoli o ymddiriedolwyr gweithgar, ymroddgar a dibynadwy,sy'n rhoi eu hamser yn ddiflino tuag at rediad effeithiol a threfnus y sefydliad a phawb yn gwneud hymiy yn wirfoddol. Diolch amdanynt.
Fel y gwyddoch, mae'r neuadd yn 100 oed y flwyddyn nesaf. Mae'r adeilad yn mynd yn hyn a rhaid sicrhau bod gennym arian wrth gefn i'w chynnal a'i chadw fel ei fod yn ffynnu am flynyddoedd i ddod. Mae'n adnodd gwerthfawr yn y gymuned, gyda Ilawer un yn ei chanmol pan maent yn dod yma am y tro cyntaf. Dyma a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gynnal, cadw ac uwchraddio yr adeilad. Paentio yr ystafell gefn a gosod ffenestri newydd yna. Plastro a phaentio y ddau allanfa dan a phaento y waliau yn y fynedfa i'r ystafell gefn. Carped newydd yn yr ystafell gefn a gorchudd ar lawr y gegin fach. Tynnu yr hen 'boiler"o'r gegin fach gefn. Trwsio yr urinals yn nhoiledau y dynion. Sychwyr dwylo newydd yn y toiledau. Gwresogydd arall yn Ystafell Sbardun. Ffens newydd ar hyd yr ocl]r chwith y tu allan i'r Neuadd. Landeri newydd ar yr adeilad. Goleuadau argyfwng ychwanegol. System sain newydd. Glanhawr carped shark. Teimlaf yn sicr mai gwaith diflino a threfnus yr ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am fyniant y Neuadd. Mawr yw fy niolch i chi am eich ymroddiad ac am roi cymaint o'ch amser yn wirfoddol i Neuadd Goff Penrhyndeudraeth. Diolch o galon! ! Morwen Pritchard Cadeirydd.
NEUADD GOFFA PENRHYNDEUDRAETH Cylrifon blwyddyn diweddu 31 Mawrth 2024 INCWM Rhoddion Uogl y neuadd U08 banc Manion Yn y banc 01/04n023 13616.00 20900.00 7Q8.87 70.00 35294.87 1975.98 30915.64 5506.74 Cyfredol Cadw 5bardun Cyfanswm 38398.36 73693.23 GWARIANr Cyneustodau Yswirlant Glanhau norrl Gwalr System Sain Cost Audit 5nowdonia Fire and Protertlon Costau 8anc cV Carped Cynnal a chadw 4405.77 1548.28 955.51 7047.16 321.30 111.48 271.49 1544.00 15658.02 31923.01 Costsu Banc Yn y banc 01/0412023 Cyfredol Cadw Sbardun 2462.69 37172.03 £ 2,135.50 41770.22 73693.23 Cyfanswm ?3, L.?*
Adroddiad archwiliwr annibynnol i ymddiriedolwyr yr elusen Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth
Rwy'n adrodd i'r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon elusen Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth (yr Elusen) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024.
Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad
Fel ymddiriedolwyr elusennol yr Elusen, rydych chi'n gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 ('y Ddeddf').
Rwy'n adrodd mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Elusen a gynhaliwyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth gynnal fy archwiliad rwyf wedi dilyn yr holl gyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145 (5) (b) o'r Ddeddf. .
Datganiad yr arholwr annibynnol
Rwyf wedi cwblhau fy arholiad. Rwy'n cadarnhau nad oes unrhyw faterion o bwys wedi dod i'm sylw mewn cysylltiad â'r arholiad sydd yn rhoi achos imi gredu mewn unrhyw ffordd berthnasol:
1) ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu mewn perthynas â'r Elusen fel sy'n ofynnol gan adran 130 o'r Ddeddf; neu
2) nid yw cyfrifon yn cydymffurfio â'r cofnodion hynny; neu
3) nid yw'r cyfrifon yn cydymffurfio â'r gofynion cymwys sy'n ymwneud â ffurf a chynnwys cyfrifon a nodir yn Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 ac eithrio unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi golwg wir a theg nad yw'n fater sy'n cael ei ystyried fel rhan o arholiad annibynnol.
Nid oes gennyf unrhyw bryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'r archwiliad y dylid tynnu sylw ato yn yr adroddiad hwn er mwyn galluogi cyrraedd dealltwriaeth gywir o'r cyfrifon.
Llofnodwyd:
Enw: Maldwyn Jones
Cymhwyster proffesiynol perthnasol: BSc (Anrh) ACIB
Cyfeiriad: Manaros, 3 Holborn, Stryd Fawr, Nefyn, Gwynedd LL53 6HD Dyddiad: 10 Chwefror 2025