ADRODDIAD Y CADEIRYDD
DYDD IAU, MEHEFIN 27ain, 2024
Noswaith dda i chi i gyd a chroeso i gyfarfod blynyddol
Neuadd Goffa, Penrhyndeudraeth.
Mae'n bleser cael adrodd bod y Neuadd yn brysur dros
ben, yn wir yn Ilawer lawn prysurach nag y bu ers rhai
blynyddoedd. Mae mwy a mwy o geisiadau yn dod i law
li
parthed Ilogi yr ystafelloedd yn y Neuadd ac fel
canlyniad, mae ein sefyllfa ariannol yn bur Ilewyrchus.
Bu derbyn grantiau yn ystod cyfi]od y Covid yn gymorth
mawr i ni ac yn ddiweddarach, grantiau gan y National
Grid a Rebecca.
Oherwydd y prysurdeb yn y Neuadd, penderfynwyd
cyflogi person arall i gynorthwyo Chris Williams gyda'r
glanhau a gofalu. Mae Chris wrth ei waith ar ddydd Llun
ac rnae Des Jones yma ar ddydd Iau. Mae'r trefniant yma
i weld yn gweithio yn dda i sicrhau bod y Neuadd mewn
cyflwr glan a derbyniol ar gyfer y defnyddwyr o un pen
i'r wythnos i'r Ilall. Yn ogystal, anfonwyd Ilythyr
ynghyd a rhestr o delerau ac amodau at bawb sy'n
gwneud dethydd o'r Ile. Mae'r gwair yn cael ei dorri a'r
ffenestri yn cael eu glanhau yn rheolaidd. Mae'r
goleuadau, y larymau a'r offer atal tan yn cael eu profi
a'r offer tydanol yn cael profion PAT yn flynyddol.
Mae'r sefyllfa gadarnhaol yma yn bodoli hefyd
oherwydd bod yma bwyllgor rheoli o ymddiriedolwyr
gweithgar, ymroddgar a dibynadwy,sy'n rhoi eu hamser
yn ddiflino tuag at rediad effeithiol a threfnus y sefydliad
a phawb yn gwneud hymiy yn wirfoddol. Diolch
amdanynt.

Fel y gwyddoch, mae'r neuadd yn 100 oed y flwyddyn
nesaf. Mae'r adeilad yn mynd yn hyn a rhaid sicrhau bod
gennym arian wrth gefn i'w chynnal a'i chadw fel ei fod
yn ffynnu am flynyddoedd i ddod. Mae'n adnodd
gwerthfawr yn y gymuned, gyda Ilawer un yn ei chanmol
pan maent yn dod yma am y tro cyntaf.
Dyma a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i gynnal,
cadw ac uwchraddio yr adeilad.
Paentio yr ystafell gefn a gosod ffenestri newydd yna.
Plastro a phaentio y ddau allanfa dan a phaento y waliau
yn y fynedfa i'r ystafell gefn.
Carped newydd yn yr ystafell gefn a gorchudd ar lawr y
gegin fach.
Tynnu yr hen 'boiler"o'r gegin fach gefn.
Trwsio yr urinals yn nhoiledau y dynion.
Sychwyr dwylo newydd yn y toiledau.
Gwresogydd arall yn Ystafell Sbardun.
Ffens newydd ar hyd yr ocl]r chwith y tu allan i'r
Neuadd.
Landeri newydd ar yr adeilad.
Goleuadau argyfwng ychwanegol.
System sain newydd.
Glanhawr carped shark.
Teimlaf yn sicr mai gwaith diflino a threfnus yr
ymddiriedolwyr sydd yn gyfrifol am fyniant y Neuadd.
Mawr yw fy niolch i chi am eich ymroddiad ac am roi
cymaint o'ch amser yn wirfoddol i Neuadd Goff
Penrhyndeudraeth.
Diolch o galon! !
Morwen Pritchard
Cadeirydd.

NEUADD GOFFA PENRHYNDEUDRAETH
Cylrifon blwyddyn diweddu
31 Mawrth 2024
INCWM
Rhoddion
Uogl y neuadd
U08 banc
Manion
Yn y banc 01/04n023
13616.00
20900.00
7Q8.87
70.00 35294.87
1975.98
30915.64
5506.74
Cyfredol
Cadw
5bardun
Cyfanswm
38398.36
73693.23
GWARIANr
Cyneustodau
Yswirlant
Glanhau norrl Gwalr
System Sain
Cost Audit
5nowdonia Fire and Protertlon
Costau 8anc
c￿V
Carped
Cynnal a chadw
4405.77
1548.28
955.51
7047.16
321.30
111.48
271.49
1544.00
15658.02 31923.01
Costsu Banc
Yn y banc 01/0412023
Cyfredol
Cadw
Sbardun
2462.69
37172.03
£ 2,135.50 41770.22
73693.23
Cyfanswm
?3, L.?*

## **Adroddiad archwiliwr annibynnol i ymddiriedolwyr yr elusen Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth** 

Rwy'n adrodd i'r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon elusen Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth (yr Elusen) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024. 

## **Cyfrifoldebau a sail yr adroddiad** 

Fel ymddiriedolwyr elusennol yr Elusen, rydych chi'n gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 ('y Ddeddf'). 

Rwy'n adrodd mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Elusen a gynhaliwyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth gynnal fy archwiliad rwyf wedi dilyn yr holl gyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145 (5) (b) o'r Ddeddf. . 

## **Datganiad yr arholwr annibynnol** 

Rwyf wedi cwblhau fy arholiad. Rwy'n cadarnhau nad oes unrhyw faterion o bwys wedi dod i'm sylw mewn cysylltiad â'r arholiad sydd yn rhoi achos imi gredu mewn unrhyw ffordd berthnasol: 

1) ni chadwyd cofnodion cyfrifyddu mewn perthynas â'r Elusen fel sy'n ofynnol gan adran 130 o'r Ddeddf; neu 

2) nid yw cyfrifon yn cydymffurfio â'r cofnodion hynny; neu 

3) nid yw'r cyfrifon yn cydymffurfio â'r gofynion cymwys sy'n ymwneud â ffurf a chynnwys cyfrifon a nodir yn Rheoliadau Elusennau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008 ac eithrio unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi golwg wir a theg nad yw'n fater sy'n cael ei ystyried fel rhan o arholiad annibynnol. 

Nid oes gennyf unrhyw bryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'r archwiliad y dylid tynnu sylw ato yn yr adroddiad hwn er mwyn galluogi cyrraedd dealltwriaeth gywir o'r cyfrifon. 


Llofnodwyd: 

Enw: Maldwyn Jones 



Cymhwyster proffesiynol perthnasol:  BSc (Anrh)  ACIB 

Cyfeiriad: Manaros,  3 Holborn,  Stryd Fawr,  Nefyn,  Gwynedd  LL53 6HD Dyddiad: 10 Chwefror 2025 

