OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-12-31-accounts

Y Capel Bach

Mr. Geraint Williams Organydd

Eglwys Gynulleidfaol BETHESDA Llangennech

ADRODDIAD Am y flwyddyn 2024

----- Start of picture text -----
DRAMA’R
NADOLIG
----- End of picture text -----

----- Start of picture text -----
DERBYN AELOD
NEWYDD
Veronica Davies
----- End of picture text -----

----- Start of picture text -----
BEDYDD
Efa Mair Harries
----- End of picture text -----

Y Parchedig LLEWELYN PICTON JONES, B.Sc., M.Ed.

1

20

ANERCHIAD Y GWEINIDOG

Chwefror 2025

Annwyl Gyfeillion,

Hyfrydwch unwaith eto yw cael cyflwyno adroddiad Eglwys Bethesda am y flwyddyn 2024 i’ch sylw caredig gan ddymuno’n dda i chi gyd ar ddechrau blwyddyn newydd o wasanaeth mewn ymddiriedaeth yn Nuw. “Gwawriodd blwyddyn newydd eto, o’th drugaredd, Arglwydd cu” – a gwaith yr eglwys yw cydnabod trugaredd yr Arglwydd mewn addoliad, tystio i’w gariad mewn gair, a rannu a byw y cariad hwnnw mewn gweithredoedd.

Erbyn hyn mae dros 25 mlynedd wedi mynd heibio ers imi gychwyn fy ngweinidogaeth yma ym Methesda ar y 1af o Ebrill 1999 ac mae wedi bod yn fraint i wasanaethu’r Arglwydd yn eich plith yn ystod yr amser yma. Ga’i ddiolch i chi gyd am eich cyfeillgarwch a’ch cefnogaeth i Marie Lynne a minnau yn ystod y cyfnod yma. Cynhaliwyd Gwasanaeth arbennig i ddathlu’r achlysur ar Ddydd Sul Ebrill 14eg, 2024 ac fe ymddangosodd erthygl yn y Tyst o dan y pennawd “Diolch a Dathlu yn Llangennech”. Diolch i chi fel Eglwys am y rhodd hael a’r blodau a gyflwynwyd i Marie Lynne a minnau yn ystod yr oedfa. Mae’r erthygl yn gorffen gyda’r geiriau hyn: “Yn dilyn oedfa hapus a bendithiol gwahoddwyd pawb i’r Capel Bach i fwynhau lluniaeth ysgafn, darn o gacen y dathlu a chyfle i gymdeithasu. Diwrnod o ddathlu a diolch a erys yn hir yn y cof!”. Wrth i’r adroddiad yma ddod i law, byddaf wedi dathlu deng mlynedd ar hugain yn y weinidogaeth ers fy ordeinio yn y Tabernacl, Hendygwyn.

Fel y gwyddom mae angen rhywrai i ymgymryd ȃ chyfrifoldebau penodol i gynnal gwaith yr eglwys. Y mae ein diolch yn fawr unwaith eto am lafur cariad pawb sydd yn ffyddlon ac yn cyfrannu i gefnogi’r eglwys, ond rydym yn diolch yn arbennig i’r rhai sydd yn ymgymryd ȃ chyfrifoldebau amrywiol – yn ddiaconiaid, swyddogion, organydd, yn paratoi’r plant a’r ieuenctid, y sawl sy’n glanhau ac yn harddu’r cysegr, yn paratoi bwrdd y cymun, yn gwneud a threfnu’r gwaith cynnal a chadw, trefniadau’r fynwent, a phob un arall sy’n cyfrannu i waith yr eglwys mewn gwahanol ffyrdd.

“Gwaith eich ffydd, llafur eich cariad” (1 Thes. 1:3).

Testun o lawenydd yw’r cyd-weithio a’r cyd-addoli hapus rhwng Bethesda ag Eglwys Bryn Seion . Mae hyn yn fuddiol i’r ddwy eglwys ac edrychwn ymlaen i barhau ȃ’r trefniant hwn yn y dyfodol eto.

DATHLU 25 MLYNEDD O WEINIDOGAETH Y PARCHEDIG LLEWELYN PICTON JONES YM METHESDA

19

2

DATHLU 25 MLYNEDD O WEINIDOGAETH Y PARCHEDIG LLEWELYN PICTON JONES YM METHESDA

Diolch i chi gyd am eich ymateb cadarnhaol eleni eto i Apêl ‘Operation Christmas Child’, Apêl ‘Cymorth Cristnogol’ y pentre ac i Banc Bwyd Llanelli’. Mae cefnogi’r achosion da yma yn parhau i fod yn rhan bwysig o’n gwaith a’n tystiolaeth fel Eglwys Iesu Grist.

Yn ystod y flwyddyn, hyfrydwch oedd derbyn Mrs.Veronica Davies yn aelod newydd gan hyderu iddi dderbyn bendith yn ein plith. Pleser hefyd oedd bedyddio Efa Mair Harries gan ddymuno’n dda i’r teulu oll i’r dyfodol.

Trist cofnodi inni golli, drwy farwolaeth, tri a godwyd ym Methesda sef Mr.Colin Roberts, Mrs.Joan Williams a Mrs.Ena Davies. Diolchwn i Dduw am y cyfeillion yma a gweddïwn ar i Dduw gynnal a nerthu eu teuluoedd yn eu galar a’u hiraeth. Cofiwn hefyd am eraill o’n haelodau sydd wedi colli perthnasau agos yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Boed iddyn nhw hefyd brofi o ddiddanwch Duw. Dymunwn fendith Duw hefyd ar yr aelodau sy’n dioddef o afiechyd, y rhai sy’n gaeth i’w cartrefi, y rhai sy mewn cartrefi preswyl a’r rhai sydd mewn gofid am wahanol resymau. Boed iddynt ganfod Duw yn Dduw hawdd ei gael mewn cyfyngder.

Parhau i ffynnu mae’r Dosbarth Beiblaidd Undebol yn y Capel Bach sydd yn cwrdd bob yn ail brynhawn Ddydd Mawrth. Aberhonddu oedd cyrchfan ein Pererindod eleni a chafwyd diwrnod hyfryd yn ymweld ȃ’r Gadeirlan a chapel hanesyddol y Plough. Edrychwn ymlaen eleni at barhau i fwynhau y gwmniaeth ddifyr, y trafod adeiladol a’r bererindod flynyddol.

Braint yw bod yn aelod o Eglwys Iesu Grist – ond braint sy’ hefyd yn gofyn am ymrwymiad. Rydym yn byw mewn dyddiau o ddifaterwch ysbrydol yn ein cymdeithas ac yn ein gwlad. Ga’i apelio ar bob aelod, os yw iechyd a nerth yn caniatáu, i fynychu’r oedfaon yn gyson er mwyn hyrwyddo gwaith y Deyrnas yn ein calonnau ac yn y gymdeithas sydd o’n hamgylch.

Diolchwn i Dduw am ein harwain eto’r flwyddyn a aeth heibio a boed i’r Ysbryd Glȃn ein harwain i’r dyfodol gydag ymrwymiad a brwdfrydedd. Ni wyddom beth fydd profiadau’r flwyddyn hon, ond cyflawnwn ein gwaith yn hyderus gan gofio y bydd Duw yn ein cynnal, yn ein nerthu ac yn ein ysbrydoli yn ein ymdrechion er lles Ei Deyrnas.

“Bydded i Arglwydd tangnefedd ei hun roi tangnefedd ichwi bob amser ym mhob modd! Bydded yr Arglwydd gyda chwi oll!” (2 Thesaloniaid 3:16)

Yr eiddoch yng Nghrist,

Llewelyn Picton Jones

18

3

SULIAU BETHESDA 2025 (Bore am 11.00)

SWYDDOGION YR EGLWYS

Gweinidog: Y Parchedig Ll. P. JONES, B.Sc., M.Ed. 50 Heol Glanffrwd, Pontarddulais, Abertawe SA4 8QE Ffôn: 01792-882889 Symudol: 07792 823877

Diaconiaid:

Etholwyd Mr. KENNETH JOHN, 3,C1ôs Pendderi 1971 Mr. J. COLIN LEE, Heol Troserch 1990 Mrs. MARGARET HARRIES, Alltyfran 1999 Mr. DESMOND JONES, Haulfryn 1999 Mr. KEITH THOMAS, Tirgof 1999 PARCH. GERALD JONES, Parc Morlais 2017

Ysgrifenyddes: Mrs. MARGARET HARRIES, Fferm Alltyfran (Ffôn: 772363)

Ysgrifenyddes y Pulpud: Mrs. MARIE-LYNNE JONES 50, Heol Glanffrwd,Pontarddulais (Ffon: (01792-882889)

Trysorydd: Mr. KEITH THOMAS, 66, Tirgof, Llangennech (Ffôn: 821955)

Ysgrifennydd Ariannol: Mr. COLIN LEE, 4A, Heol Troserch, Llangennech (Ffôn: 823719)

Cyhoeddwr Mr. DESMOND JONES Organydd Mr.GERAINT WILLIAMS Cyfeilyddes Mrs.LYNWEN GALLIMORE Ysgrifennydd y Fynwent Mr. GWYNNE DAVIES

Gorffennaf 6 10.30 Huw Jones (Ymuno gyda Bryn Seion) Gorffennaf 13 Parchg Gareth Morgan Jones Gorffennaf 20 Gweinidog Gorffennaf 27 Parchg Derek Rees Awst 3 Gweinidog (Cymun) (Bryn Seion yn ymuno) Awst 10 Bryn Seion – Parchg Ian Sims (10.30) Awst 17 Dim Oedfa Awst 24 Dim Oedfa Awst 31 Dim Oedfa

Medi 7 10.30 C.P . Bryn Seion – Parchg Gwyn Elfyn Medi 14 Gweinidog (Cymun) Medi 21 Gweinidog Medi 28 Parchg Randolph Thomas Hydref 5 Gweinidog (Cymun) Hydref 12 10.30 Oedfa Diolchgarwch - Bryn Seion Hydref 19 Gweinidog Hydref 26 Parchg Randolph Thomas Tachwedd 2 Parchg Derek Rees Tachwedd 9 (Sul y Cofio) Gweinidog (Cymun) - (Bryn Seion yn ymuno) Tachwedd 16 Gweinidog - Oedfa ‘ Operation Christmas Child ’ Tachwedd 23 Parchg Andrew Lenny Tachwedd 30 Gweinidog (Cymun) – Adfent Rhagfyr 7 Parchg Derek Rees Rhagfyr 14 3pm - Gwasanaeth Nadolig Plant/Ieuenctid Rhagfyr 21 Gweinidog / Aelodau

4

17

SULIAU BETHESDA 2025 (Bore am 11.00)

SULIAU BETHESDA 2025 (Bore am 11.00)
Ionawr 5 Gweinidog (Cymun) – (Bryn Seion yn ymuno)
Ionawr 12 Parchg Gareth Morgan Jones YMDDIRIEDOLWYR
Ionawr19 Parchg Gerald Jones
Ionawr 26 Parchg Guto Llywelyn Etholwyd 1973
Chwefror 2 Parchg Dafydd Morris Mr. Kenneth John
Chwefror 9 Gweinidog (Cymun)
Chwefror 16 Gweinidog Etholwyd 2005
Chwefror 23 Gareth Watkins
Mr.Desmond Jones
Mawrth 2 Gweinidog-Gwasanaeth Gŵyl Dewi (Cymun) Mr.Colin Lee
Mawrth 9 Gweinidog Mr.Keith Thomas
Mawrth 16 Parchg Gerald Jones (Bryn Seion yn ymuno)
Mawrth 23 Parchg Randolph Thomas AELOD NEWYDD
Mawrth 30 Gweinidog (Cymun)
Veronica Davies
Ebrill 6 Parchg Andrew Lenny
Ebrill 13 (Sul y Blodau) Gweinidog BEDYDD
Ebrill 18_(Y Groglith)_ 2.30 Gweinidog (Cymun) (Bryn Seion yn ymuno)
Ebrill 20_(Y Pasg)_ Gweinidog (Cymun) Efa Mair Harries
Ebrill 27 11.00 C.P.Salem – Parchg Isaias Grandis
MARWOLAETHAU
Mai 4 Dr Dai Lloyd
Mai 11
Mai 18
Mai 25
Parchg Ddr Alun Tudur - Cyfarfod Pregethu
Oedfa Cymorth Cristnogol – Bryn Seion
Gweinidog (Cymun)
Colin Roberts
Joan Williams
Ena Davies
Mehefn 1 2.30 a 6 - Cymanfa Ganu Llangennech - Bethesda
Mehefn 8(Y Pentecost)
Mehefn 15
Dr Dai Lloyd
Parchg Randolph Thomas
Dydd Sul am 11.00 Oedfa Bore ac Ysgol Sul
Mehefn 22
Mehefn 29
Gweinidog
Gweinidog (Cymun)
Dydd Mawrth am 2.00
Dosbarth Beiblaidd

5

16

YR EGLWYS AM Y FLWYDDYN 2024

CYFARWYDDIADAU I’R AELODAU

PLANT A IEUENCTID Y CAPEL

Rhodri Harries Efa Haf George Lois Harries Ffion Mari George Hannah Harries Siwan Haf James Hannah Lois Thomas Dafydd Harri John Ifan Elis Thomas Elen Gwenllian John Cadi Mai Evans Elin Thomas Mali Lloyd Evans Catrin Thomas Bryn Lawlor Iwan Thomas Ethni Lawlor

TALIADAU

£ c
Cyflog y Gweinidog 7999.96
Treth Incwm 2000.04
Bwrdd Trydan - SSE 591.62
Pregethwyr Achlysurol 1150.00
Adeiladau’r Capel
1213.37
Yr Undeb 470.00
Olew i’r Capel 614.57
Adroddiadau 95.00
Anrhegion i’r plant (Nadolig) 105.50
Lluniaeth Parti Nadolig
425.20
Dŵr Cymru 159.90
Yswiriant (Congregational) 4782.86
Organyddion 725.00
Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin 30.00
Trysorfa Gweddwon Gweinidogion
45.00
Trin y Fynwent a’r coed 2741.00
Nwyddau a blodau 69.71
Genhadaeth 200.00
Cymorth Cristnogol 489.00
Samaritan’s Purse - Operation Christmas Child 114.00
Banc Bwyd Llanelli 400.00
Gwin Cymundeb 14.00
Beibl y Plant a Blwyddiaduron 34.00
Cymdeithas y Beibl 60.00
Taith Dosbarth Beiblaidd—Cyfraniad at y bws
87.00
Lluniaeth/Anrhegion - Dathlu 25 mlynedd
o wasanaeth y Gweinidog ym Methesda 1644.39
Gwaith Cyfreithiol—Ymddiriedolwyr 500.00
Mewn Llaw Rhagfyr 31 2024 10473.34
__
£37,234.46

*** Yr wyf wedi archwilio’r llyfrau a’r Cyfrifon ac yn tystio eu bod yn gywir ac yn cytuno a hwynt.

Mawrth 8fed 2025 Mr.Eric M.Lewis

15

6

PWYLLGOR Y FYNWENT

TRYSORFA GYFFREDINOL

DERBYNIADAU

£ c
Mewn Llaw Ionawr 2024 11537.08
Casgliad Wythnosol 12967.65
Cynllun Rhodd Cymorth (Treth Incwm) 1937.24
Llog ‘Nationwide’ 2704.88
Clwb ‘Camcorder’ Llangennech 434.00
Ad-daliad ‘Cymdeithas y Llan a’r Bryn’ 340.97
Ad-daliad ‘Clwb Undebol y Plant’ 209.00
Genhadaeth - Aelodau 120.00
Cymorth Cristnogol
289.00
Apȇl ‘Operation Christmas Child’ 100.00
Banc Bwyd Llanelli 354.60
Trysorfa’r Fynwent:
Cyfraniadau 600.00
Cyngor Cymuned Llangennech 100.00
Rhoddion:
Er cof am Parch. Maurice Loader 100.00
Er cof am Parch. E.D.Morgan 100.00
Mrs. Marion Banfield 100.00
Jarett, Awen ac Efa 40.00
Mrs. Jennifer Brain 150.00
Menter Cwm Gwendraeth Elli 50.00
Ad-daliad o Gapel Hope-Siloh
Cyflog y Gweinidog 5000.04

Ysgrifennydd: Mr. Gwynne Davies Trysorydd: Mr. Keith Thomas

RHEOLAU’R FYNWENT

****

RHEOLAU ARBENNIG

Telerau Claddu:

_ £ 37,234.46

Aelodau: Trysorfa’r Fynwent, £ 50.00

  1. Gwaherddir y sawl na fyddo’n aelod rhag ail-agor bedd heb ganiatad ysgrifenedig y perchennog.

  2. Ni agorir beddau o flaen y rhes gyntaf tu-cefn i’r Capel.

  3. Ar ol gorffen claddu tu-cefn i’r Capel, cleddir ar ochr dde y Capel ar gynllun Claddfa Lawn (Lawn Cemetery).

  4. BEDDFAEN: Ddim yn fwy na’r mesuriadau canlynol - 42ins x 36ins x 3ins, ac yn cynnwys llestr blodau os dymunir.

  5. Ni chaniateir llestr blodau ar wahan.

  6. Gwneler pob cais am le claddu yn y Fynwent i’r Ysgrifennydd.

14

7

RHESTR O’R AELODAU YNGHYD A’U CYFRANIADAU TUAG AT ACHOSION YR EGLWYS

‘Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu nac anghofiwch canys a chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.’ - Hebreaid xiii, 16.

Dynoda: (m) -rhai a hunodd; (y.l.) -Ymadael trwy Lythyr; (y) -Ymadael; (d) -Derbyniwyd o’r newydd ac o Eglwysi eraill; (*) Rhodd Cymorth. Dengys Colofn: (1) Casgliad Wythnosol ; (2) Y Genhadaeth; (3) Y Fynwent

DOSBARTH 1 Nant-y-gro, Llwynifan, Allt a Heol Troserch Dosbarthwr Mrs. Glenda Davies

Casgliad Genhadaeth Fynwent
*Glenda Davies £ 625.00 £ 20.00
Gareth Davies £ 50.00
*Anne Hughes £ 275.00 £ 10.00 £ 10.00
*Colin Lee £ 375.00 £ 5.00 £ 10.00
Margaret Lee £ 375.00 £ 5.00 £ 10.00
*Lynwen Williams £ 131.25 £ 5.00
*Geraint Williams £ 62.50
*Meriel Davies £ 325.00 £ 5.00
Sioned Davies £ 25.00
Iwan Thomas £ 100.00 £ 20.00

CYFRIF CYFREDOL

Mewn llaw 1 Ionawr 2024
11,537.08
Holl Dderbyniadau
25,697.38
£ 37,234.46
Holl Daliadau
-26,761.12
Mewn llaw 31 Rhagfyr 2024
£ 10,473.34
TRYSORFA CYFFREDINOL YR EGLWYS
Cyfrif Cyfredol
10,473.34
Cyfrif ’Nationwide’
66,002.20
__
£ 76,475.54
Cyfrif‘Nationwide’
Cyfalaf 2024
£ 66,002.20

Cyfraniadau at gynnal y fynwent

Aelodau £ 415.00
Mr. Dewi Thomas £ 50.00
Mrs.Yvonne Morgan £ 100.00
Mrs. Betsan Phillips £ 25.00
Jennifer a Meirion £ 10.00
Cyngor Cymuned Llangennech £ 100.00
£ 700.00

13

8

DOSBARTH 7 Ardal o amgylch Llangennech Dosbarthwr Mr. Ken John

Kenneth John
Dinah John
Hefn John
Brian Morris
Wynne Harries
Margaret Harries
Cerith Harries
Ian Harries
Eiddwen Harries
Eiddan Harries
Owain Harries
Kenneth Harries
Margaret Harries
Emyr Harries
Aled Harries
Iwan Harries
Jefrey White
Monica Jenkins
Bethan Lewis
Ryan Lee
*Parch.Ll.P.Jones
Hilda Phillips
Elaine Ley
Veronica Davies
Rhoddion:
Lyn a Heulwen Hunt
Ellis Thomas
Casgliad
£ 500.00
£ 500.00
£ 62.50
£ 150.00
£ 250.00
£ 250.00
£ 10.00
£ 160.00
£ 160.00
£ 25.00
£ 25.00
£ 120.00
£ 120.00
£ 10.00
£ 10.00
£ 10.00
£ 675.00
£ 100.00
£ 40.00
£ 125.00
£ 775.00
£ 110.00
£ 400.00
£320.00
£ 90.00
£ 30.00
Genhadaeth
£ 15.00
£ 15.00
£ 5.00
£ 5.00
£ 25.00
Fynwent
£ 15.00
£ 15.00
£ 5.00
£ 10.00
£ 20.00
£ 25.00

DOSBARTH 2 Afon Road, Park Lane, Mwrwg Rd., Bank Road, Tirgof, Heol Pontarddulais a Talyclun Dosbarthwr Mr.Keith Thomas

Casgliad Genhadaeth Fynwent
£
Emyr Lewis
Yvonne Jones £ 60.00
*Hugh Thomas £ 500.00 £ 5.00
*Keith Thomas £ 125.00 £ 5.00
David Moore £ 50.00 £ 20.00
*Gerwyn Mathews £ 269.00 £ 10.00
Maureen Mathews £ 269.00 £ 10.00
Parch. Gerald Jones £ 250.00 £ 7.50 £ 5.00
Mai Jones £ 250.00 £ 7.50
*Sian Jones £ 180.00
DOSBARTH 3 Staton Road , DOSBARTH 3 Staton Road , Heol y Maes
Dosbarthwr Mr. Penry Richards
Jean Thomas £ 100.00
*Penry Richards £ 150.00 £ 10.00 £ 10.00
Eleri Phillips £ 150.00 £ 50.00
*Lynwen Gallimore £ 318.75 £ 10.00

9

12

DOSBARTH 4 Bridge Street Dosbarthwr Mr. Keith Thomas

DOSBARTH 6 Brynhyfryd, Pencoed, Cleviston Park, Penllwyngwyn- Dosbarthwr Mrs. Pamela Richards

Casgliad Genhadaeth Fynwent
Sandra Davies £ 100.00
Rhian Phillips £ 40.00
Melanie Jenkins £ 100.00 £ 5.00

DOSBARTH 5 Hendre Road, Plas Isaf, Talywern, Hendre Park

(m) Colin Roberts Aldwyn Beasley Gwendoline Davies £ 110.00 Mari Rees £ 240.00 Moira Roberts £ 325.00

Casgliad Genhadaeth Fynwent
Rhian George £ 50.00
Paul Edwards £ 50.00 £ 20.00
Alun Richards £ 200.00 £ 10.00
Pamela Richards £ 200.00 £ 10.00
Menna Hughes £ 110.00 £ 5.00 £ 10.00
Richard Hughes £ 20.00
*Gwynne Davies £ 437.50 £ 10.00
*Meriel Davies £ 437.50 £ 10.00
Ashley Davies £ 50.00
*Nan Jones £ 125.00
*Desmond Jones £ 500.00 £ 15.00
Rita Jones £ 500.00 £ 15.00
Goronwy Davies £ 540.00 £ 10.00
Monica Davies £ 540.00 £ 10.00

10

11