**Y Capel Bach**

**Mr. Geraint Williams Organydd**

**Eglwys Gynulleidfaol BETHESDA Llangennech**

**ADRODDIAD Am y flwyddyn 2024**

**----- Start of picture text -----**

DRAMA’R
NADOLIG
**----- End of picture text -----**

**----- Start of picture text -----**

DERBYN AELOD
NEWYDD
Veronica Davies
**----- End of picture text -----**

**----- Start of picture text -----**

BEDYDD
Efa Mair Harries
**----- End of picture text -----**

**Y Parchedig LLEWELYN PICTON JONES, B.Sc., M.Ed.**

**1**

**20**

## **ANERCHIAD Y GWEINIDOG**

## _Chwefror 2025_

Annwyl Gyfeillion,

Hyfrydwch unwaith eto yw cael cyflwyno adroddiad Eglwys Bethesda am y flwyddyn 2024 i’ch sylw caredig gan ddymuno’n dda i chi gyd ar ddechrau blwyddyn newydd o wasanaeth mewn ymddiriedaeth yn Nuw. _“Gwawriodd blwyddyn newydd eto, o’th drugaredd, Arglwydd cu” –_ a gwaith yr eglwys yw cydnabod trugaredd yr Arglwydd mewn addoliad, tystio i’w gariad mewn gair, a rannu a byw y cariad hwnnw mewn gweithredoedd.

Erbyn hyn mae dros 25 mlynedd wedi mynd heibio ers imi gychwyn fy ngweinidogaeth yma ym Methesda ar y 1af o Ebrill 1999 ac mae wedi bod yn fraint i wasanaethu’r Arglwydd yn eich plith yn ystod yr amser yma. Ga’i ddiolch i chi gyd am eich cyfeillgarwch a’ch cefnogaeth i Marie Lynne a minnau yn ystod y cyfnod yma.  Cynhaliwyd Gwasanaeth arbennig i ddathlu’r achlysur ar Ddydd Sul Ebrill 14eg, 2024 ac fe ymddangosodd erthygl yn y Tyst o dan y pennawd _“Diolch a Dathlu yn Llangennech”._ Diolch i chi fel Eglwys am y rhodd hael a’r blodau a gyflwynwyd i Marie Lynne a minnau yn ystod yr oedfa. Mae’r erthygl yn gorffen gyda’r geiriau hyn: _“Yn dilyn oedfa hapus a bendithiol gwahoddwyd pawb i’r Capel Bach i fwynhau lluniaeth ysgafn, darn o gacen y dathlu a chyfle i gymdeithasu. Diwrnod o ddathlu a diolch a erys yn hir yn y cof!”._ Wrth i’r adroddiad yma ddod i law, byddaf wedi dathlu deng mlynedd ar hugain yn y weinidogaeth ers fy ordeinio yn y Tabernacl, Hendygwyn.

Fel y gwyddom mae angen rhywrai i ymgymryd ȃ chyfrifoldebau penodol i gynnal gwaith yr eglwys. Y mae ein diolch yn fawr unwaith eto am lafur cariad pawb sydd yn ffyddlon ac yn cyfrannu i gefnogi’r eglwys, ond rydym yn diolch yn arbennig i’r rhai sydd yn ymgymryd ȃ chyfrifoldebau amrywiol – yn ddiaconiaid, swyddogion, organydd, yn paratoi’r plant a’r ieuenctid, y sawl sy’n glanhau ac yn harddu’r cysegr, yn paratoi bwrdd y cymun, yn gwneud a threfnu’r gwaith cynnal a chadw, trefniadau’r fynwent, a phob un arall sy’n cyfrannu i waith yr eglwys mewn gwahanol ffyrdd.

_“Gwaith eich ffydd, llafur eich cariad”_ (1 Thes. 1:3).

Testun o lawenydd yw’r cyd-weithio a’r cyd-addoli hapus rhwng Bethesda ag Eglwys Bryn Seion . Mae hyn yn fuddiol i’r ddwy eglwys ac edrychwn ymlaen i barhau ȃ’r trefniant hwn yn y  dyfodol eto.

**DATHLU 25 MLYNEDD O WEINIDOGAETH Y PARCHEDIG LLEWELYN  PICTON JONES YM METHESDA**

**19**

**2**

## **DATHLU 25 MLYNEDD O WEINIDOGAETH Y PARCHEDIG LLEWELYN  PICTON JONES YM METHESDA**

Diolch i chi gyd am eich ymateb cadarnhaol  eleni eto i _Apêl ‘Operation Christmas Child’, Apêl ‘Cymorth Cristnogol’_ y pentre ac i _Banc Bwyd Llanelli’._ Mae cefnogi’r achosion da yma yn parhau i fod yn rhan bwysig o’n gwaith a’n tystiolaeth fel Eglwys Iesu Grist.

Yn ystod y flwyddyn, hyfrydwch oedd derbyn Mrs.Veronica Davies yn aelod newydd gan hyderu iddi dderbyn bendith yn ein plith. Pleser hefyd oedd bedyddio Efa Mair Harries gan ddymuno’n dda i’r teulu oll i’r dyfodol.

Trist cofnodi inni golli, drwy  farwolaeth, tri a godwyd ym Methesda sef Mr.Colin Roberts, Mrs.Joan Williams a Mrs.Ena Davies.  Diolchwn i Dduw am y cyfeillion yma  a gweddïwn ar i Dduw gynnal a nerthu eu teuluoedd  yn eu galar a’u hiraeth. Cofiwn hefyd am eraill o’n haelodau sydd wedi colli perthnasau agos yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Boed iddyn nhw hefyd brofi o ddiddanwch Duw. Dymunwn fendith Duw hefyd ar yr aelodau sy’n dioddef o afiechyd, y rhai sy’n gaeth i’w cartrefi, y rhai sy mewn cartrefi preswyl a’r rhai sydd mewn gofid am wahanol resymau. Boed iddynt ganfod Duw yn Dduw hawdd ei gael mewn cyfyngder.

Parhau i ffynnu mae’r Dosbarth Beiblaidd Undebol yn y Capel Bach sydd yn cwrdd bob yn ail brynhawn Ddydd Mawrth. Aberhonddu oedd cyrchfan ein Pererindod eleni a  chafwyd diwrnod hyfryd yn ymweld ȃ’r Gadeirlan a chapel hanesyddol y Plough.  Edrychwn ymlaen eleni at barhau i fwynhau y gwmniaeth ddifyr, y trafod adeiladol a’r bererindod flynyddol.

Braint yw bod yn aelod o Eglwys Iesu Grist – ond braint sy’ hefyd yn gofyn am ymrwymiad. Rydym yn byw mewn dyddiau o ddifaterwch ysbrydol yn ein cymdeithas ac yn ein gwlad. Ga’i apelio ar bob aelod, os yw iechyd a nerth yn caniatáu, i fynychu’r oedfaon yn gyson er mwyn hyrwyddo gwaith y Deyrnas yn ein calonnau ac yn y gymdeithas sydd o’n hamgylch.

Diolchwn i Dduw am ein harwain eto’r flwyddyn  a aeth heibio a boed i’r Ysbryd Glȃn ein harwain i’r dyfodol gydag ymrwymiad a brwdfrydedd. Ni wyddom beth fydd profiadau’r flwyddyn hon, ond cyflawnwn ein gwaith yn hyderus gan gofio y bydd Duw yn ein cynnal, yn ein nerthu ac yn ein ysbrydoli yn ein ymdrechion er lles Ei Deyrnas.

_“Bydded i Arglwydd tangnefedd ei hun roi tangnefedd ichwi bob amser ym mhob modd! Bydded yr Arglwydd gyda chwi oll!” (2 Thesaloniaid 3:16)_

_Yr eiddoch yng Nghrist,_

_**Llewelyn Picton Jones**_

**18**

**3**

**SULIAU BETHESDA  2025  (Bore am 11.00)**

## **SWYDDOGION YR EGLWYS**

**Gweinidog: Y Parchedig Ll. P. JONES, B.Sc., M.Ed. 50 Heol Glanffrwd, Pontarddulais, Abertawe SA4 8QE Ffôn: 01792-882889 Symudol:  07792 823877**

## **Diaconiaid:**

_Etholwyd_ Mr. KENNETH JOHN, 3,C1ôs Pendderi 1971 Mr. J. COLIN LEE,  Heol Troserch 1990 Mrs. MARGARET HARRIES, Alltyfran 1999 Mr. DESMOND JONES, Haulfryn 1999 Mr. KEITH THOMAS, Tirgof 1999 PARCH. GERALD JONES,  Parc Morlais 2017

**Ysgrifenyddes:** Mrs. MARGARET HARRIES, Fferm Alltyfran (Ffôn: 772363)

**Ysgrifenyddes y Pulpud:** Mrs. MARIE-LYNNE JONES 50, Heol Glanffrwd,Pontarddulais (Ffon: (01792-882889)

**Trysorydd:** Mr. KEITH THOMAS, 66, Tirgof, Llangennech (Ffôn: 821955)

**Ysgrifennydd Ariannol:** Mr. COLIN LEE, 4A, Heol Troserch, Llangennech (Ffôn: 823719)

_Cyhoeddwr_ Mr. DESMOND JONES _Organydd_ Mr.GERAINT WILLIAMS _Cyfeilyddes_ Mrs.LYNWEN GALLIMORE _Ysgrifennydd y Fynwent_ Mr. GWYNNE DAVIES

Gorffennaf 6 10.30 Huw Jones (Ymuno gyda Bryn Seion) Gorffennaf 13 Parchg Gareth Morgan Jones Gorffennaf 20 Gweinidog Gorffennaf 27 Parchg Derek Rees Awst 3 Gweinidog (Cymun) (Bryn Seion yn ymuno) Awst 10 Bryn Seion – Parchg Ian Sims (10.30) Awst 17 Dim Oedfa Awst 24 Dim Oedfa Awst 31 Dim Oedfa

Medi 7 10.30 C.P . Bryn Seion – Parchg Gwyn Elfyn Medi 14 Gweinidog (Cymun) Medi 21 Gweinidog Medi 28 Parchg Randolph Thomas Hydref 5 Gweinidog (Cymun) Hydref 12 10.30 Oedfa Diolchgarwch  - Bryn Seion Hydref 19 Gweinidog Hydref 26 Parchg Randolph Thomas Tachwedd 2 Parchg Derek Rees Tachwedd 9 _(Sul y Cofio)_ Gweinidog (Cymun)  - (Bryn Seion yn ymuno) Tachwedd 16 Gweinidog - Oedfa ‘ _Operation Christmas Child_ ’ Tachwedd 23 Parchg Andrew Lenny Tachwedd 30 Gweinidog (Cymun) –  Adfent Rhagfyr 7 Parchg Derek Rees Rhagfyr 14 3pm - Gwasanaeth Nadolig Plant/Ieuenctid Rhagfyr 21 Gweinidog / Aelodau

- 6.00 - Oedfa Golau Cannwyll – Hope-Siloh

- Rhagfyr 25 _(Y Nadolig)_ 10.00  Oedfa Gymun – Bryn Seion Rhagfyr 28 Gweinidog/Marie Lynne (Bryn Seion yn ymuno)

**4**

**17**

**SULIAU BETHESDA  2025   (Bore am 11.00)**

|**SULIAU**|**BETHESDA  2025   (Bore am 11.00)**|||

|Ionawr 5|Gweinidog (Cymun) – (Bryn Seion yn ymuno)|||
|Ionawr 12|Parchg Gareth Morgan Jones|**YMDDIRIEDOLWYR**||
|Ionawr19|Parchg Gerald Jones|||
|Ionawr 26|Parchg Guto Llywelyn|Etholwyd 1973||
|Chwefror 2|Parchg Dafydd Morris|Mr. Kenneth John||
|Chwefror 9|Gweinidog (Cymun)|||
|Chwefror 16|Gweinidog|Etholwyd 2005||
|Chwefror 23|Gareth Watkins|||
|||Mr.Desmond Jones||
|Mawrth 2|Gweinidog-Gwasanaeth Gŵyl Dewi (Cymun)|Mr.Colin Lee||
|Mawrth 9|Gweinidog|Mr.Keith Thomas||
|Mawrth 16|Parchg Gerald Jones (Bryn Seion yn ymuno)|||
|Mawrth 23|Parchg Randolph Thomas|**AELOD NEWYDD**||
|Mawrth 30|Gweinidog (Cymun)|||
|||Veronica Davies||
|Ebrill 6|Parchg Andrew Lenny|||
|Ebrill 13 (_Sul y Blodau)_|Gweinidog||**BEDYDD**|
|Ebrill 18_(Y Groglith)_|2.30 Gweinidog (Cymun) (Bryn Seion yn ymuno)|||
|Ebrill 20_(Y Pasg)_|Gweinidog (Cymun)|Efa Mair Harries||
|Ebrill 27|11.00 C.P.Salem – Parchg Isaias Grandis|||
|||**MARWOLAETHAU**||
|Mai 4|Dr Dai Lloyd|||
|Mai 11
Mai 18
Mai 25|Parchg Ddr Alun Tudur - Cyfarfod Pregethu
Oedfa Cymorth Cristnogol – Bryn Seion
Gweinidog (Cymun)||Colin Roberts
Joan Williams
Ena Davies|
|Mehefn 1|2.30 a 6 - Cymanfa Ganu Llangennech  - Bethesda|||
|Mehefn 8(_Y_ _Pentecost)_
Mehefn 15|Dr Dai Lloyd
Parchg Randolph Thomas|Dydd Sul am 11.00|Oedfa Bore ac Ysgol Sul|
|Mehefn 22
Mehefn 29|Gweinidog
Gweinidog (Cymun)|Dydd Mawrth am 2.00|
Dosbarth Beiblaidd|

**5**

**16**

**YR EGLWYS AM Y FLWYDDYN 2024**

## **CYFARWYDDIADAU I’R AELODAU**

- Gofynnir i  bob  Aelod  ddefnyddio  amlenni plaen i holl gasgliadau’r Eglwys. Mae cyflenwad o amlenni i gael yn y cyntedd.

- Awgrymir yn garedig i Aelodau a symudant i eglwysi eraill y disgwylir iddynt  cyn  cael ‘Llythyr  aelodaeth’  fod  wedi  gwneud  eu rhan yn rhesymol os yn eu gallu, i gyflawni eu rhwymedigaeth ariannol  at yr Eglwys.

- Pan  fydd  marwolaeth, dymunir  ar  y perthnasau ymgynghori a’r Gweinidog cyn trefnu amser yr angladd.

- Awgrymir yn garedig i unrhyw un a wyr am afiechyd ymhlith Aelodau’r Eglwys wneud y peth yn hysbys i’r Gweinidog, neu un o’r diaconiaid fel y gellir ymweld a hwynt heb golli amser.

- Disgwylir i  bob Aelod gyflawni  ei addewid tuag at holl gasgliadau’r Eglwys  erbyn  y  Sul olaf o’r flwyddyn, er mwyn hwyluso gwaith yr Ysgrifennydd Ariannol ynglyn a’r Adroddiad.

- Y Fynwent:  Rhaid   ymgynghori a  Ysgrifennydd  y  Fynwent, cyn trefnu  a’r torrwr beddau ynghylch claddedigaeth.  Ni ellir cadw manylion ar  wahan i hynny.

## **PLANT  A IEUENCTID  Y CAPEL**

Rhodri Harries Efa Haf George Lois Harries Ffion Mari George Hannah Harries Siwan Haf James Hannah Lois Thomas Dafydd Harri John Ifan Elis Thomas Elen Gwenllian John Cadi Mai Evans Elin Thomas Mali Lloyd Evans Catrin Thomas Bryn Lawlor Iwan Thomas Ethni Lawlor

## **TALIADAU**

||£   c|

|Cyflog y Gweinidog|7999.96|
|Treth Incwm|2000.04|
|Bwrdd Trydan - SSE|591.62|
|Pregethwyr Achlysurol|1150.00|
|Adeiladau’r Capel
|1213.37|
|Yr Undeb|470.00|
|Olew i’r Capel|614.57|
|Adroddiadau|95.00|
|Anrhegion i’r plant  (Nadolig)|105.50|
|Lluniaeth Parti Nadolig
|425.20|
|Dŵr Cymru|159.90|
|Yswiriant (Congregational)|4782.86|
|Organyddion|725.00|
|Cyfundeb Dwyrain Caerfyrddin|30.00|
|Trysorfa Gweddwon Gweinidogion
|45.00|
|Trin y Fynwent a’r coed|2741.00|
|Nwyddau a blodau|69.71|
|Genhadaeth|200.00|
|Cymorth Cristnogol|489.00|
|Samaritan’s Purse - Operation Christmas Child|114.00|
|Banc Bwyd Llanelli|400.00|
|Gwin Cymundeb|14.00|
|Beibl y Plant a Blwyddiaduron|34.00|
|Cymdeithas y Beibl|60.00|
|Taith Dosbarth Beiblaidd—Cyfraniad at y bws|
87.00|
|Lluniaeth/Anrhegion  -  Dathlu 25 mlynedd||
|o wasanaeth y Gweinidog ym Methesda|1644.39|
|Gwaith Cyfreithiol—Ymddiriedolwyr|500.00|
|Mewn Llaw Rhagfyr 31 2024|10473.34|

||**£37,234.46**|

*** Yr wyf wedi archwilio’r llyfrau a’r Cyfrifon ac yn tystio eu  bod yn gywir ac yn cytuno a hwynt.

Mawrth 8fed 2025                               Mr.Eric M.Lewis

**15**

**6**

## **PWYLLGOR  Y  FYNWENT**

## **TRYSORFA GYFFREDINOL**

## **DERBYNIADAU**

||£   c|

|Mewn Llaw Ionawr 2024|11537.08|
|Casgliad Wythnosol|12967.65|
|Cynllun Rhodd Cymorth (Treth Incwm)|1937.24|
|Llog ‘Nationwide’|2704.88|
|Clwb ‘Camcorder’ Llangennech|434.00|
|Ad-daliad ‘Cymdeithas y Llan a’r Bryn’|340.97|
|Ad-daliad ‘Clwb Undebol y Plant’|209.00|
|Genhadaeth -  Aelodau|120.00|
|Cymorth Cristnogol
|289.00|
|Apȇl ‘Operation Christmas Child’|100.00|
|Banc Bwyd Llanelli|354.60|
|**Trysorfa’r Fynwent:**||
|Cyfraniadau|600.00|
|Cyngor Cymuned Llangennech|100.00|
|**Rhoddion:**||
|Er cof am Parch. Maurice Loader|100.00|
|Er cof am Parch. E.D.Morgan|100.00|
|Mrs. Marion Banfield|100.00|
|Jarett, Awen ac Efa|40.00|
|Mrs. Jennifer Brain|150.00|
|Menter Cwm Gwendraeth Elli|50.00|
|**Ad-daliad o Gapel  Hope-Siloh**||
|Cyflog y Gweinidog|5000.04|

Ysgrifennydd:  Mr. Gwynne Davies Trysorydd:     Mr. Keith Thomas

## **RHEOLAU’R FYNWENT**

- Y mae’r Fynwent o dan reolaeth Pwyllgor Dewisiedig gan yr Eglwys.

- Rhaid i’r bedd fod o fewn naw troedfedd a phedair modfedd o hyd , pump troedfedd o led a saith troedfedd o ddyfnder.

- Length: 9ft  4in    Width:  5ft     Depth:  7ft

- Ni chaniateir i’r Cwrbyn fod dros saith troedfedd wrth dair troedfedd. Curb:  7ft  x  3ft

- Y mae pob bedd  i’w dorri yn unol a’r cynllun a dynwyd allan gan y  Pwyllgor.

- Y Perchenogion fydd yn gyfrifol am y beddfeini pan ail-agorir bedd.

- Fe gyll y perchenogion hawl i feddau nas glanheir cyn y gwyliau pregethu Blynyddol.

- Ymgadwed y rhai a fyddo’n glanhau beddau rhag anurddo beddau eraill. Rhaid iddynt gario’r chwyn i fan penodedig.

- Ni oddefir claddu ar y Sul heb ganiatad y Pwyllgor.

- Rhaid  cael  caniatad  oddi  wrth Ysgrifennydd y Fynwent cyn gosod beddfaen yn y Fynwent.

- Ni chaniateir bedd newydd i ddieithriaid.

- Nid  cyfrifoldeb  y  Pwyllgor,  na’r  Eglwys, yw  gofalu  am wasanaeth Gweinidog nac Organydd mewn angladdau.

## **RHEOLAU  ARBENNIG**

## **Telerau Claddu:**

_______ **£ 37,234.46**

**Aelodau:** Trysorfa’r Fynwent,  £  50.00

1. Gwaherddir y  sawl na fyddo’n aelod  rhag ail-agor bedd heb ganiatad ysgrifenedig y perchennog.

2. Ni agorir beddau o flaen y rhes gyntaf tu-cefn i’r Capel.

3. Ar  ol  gorffen claddu tu-cefn i’r Capel, cleddir ar ochr dde y Capel ar gynllun Claddfa Lawn (Lawn Cemetery).

4. BEDDFAEN:  Ddim yn fwy na’r mesuriadau canlynol -  42ins x 36ins x 3ins, ac yn cynnwys llestr blodau os dymunir.

5. Ni chaniateir llestr blodau ar wahan.

6. Gwneler pob cais am le claddu yn y Fynwent i’r Ysgrifennydd.

**14**

**7**

## **RHESTR O’R AELODAU YNGHYD A’U CYFRANIADAU TUAG AT ACHOSION YR EGLWYS**

_‘Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu nac anghofiwch canys a chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.’  -  Hebreaid xiii, 16._

Dynoda: **(m)** -rhai a hunodd; **(y.l.)** -Ymadael trwy Lythyr; **(y)** -Ymadael; **(d)** -Derbyniwyd o’r newydd ac o Eglwysi eraill; **(*)** Rhodd Cymorth. Dengys Colofn: (1) Casgliad Wythnosol ;  (2) Y Genhadaeth;  (3)  Y Fynwent

**DOSBARTH 1 Nant-y-gro, Llwynifan, Allt a  Heol Troserch** Dosbarthwr Mrs. Glenda Davies

||Casgliad|Genhadaeth|Fynwent|

|*Glenda Davies|£ 625.00||£  20.00|
|Gareth Davies|£   50.00|||
|*Anne Hughes|£ 275.00|£ 10.00|£  10.00|
|*Colin Lee|£ 375.00|£   5.00|£  10.00|
|Margaret Lee|£ 375.00|£   5.00|£  10.00|
|*Lynwen Williams|£  131.25||£    5.00|
|*Geraint Williams|£   62.50|||
|*Meriel Davies|£ 325.00|£  5.00||
|Sioned Davies|£   25.00|||
|Iwan Thomas|£ 100.00||£  20.00|

## **CYFRIF CYFREDOL**

|Mewn llaw 1 Ionawr 2024
|11,537.08|

|Holl Dderbyniadau
|25,697.38|
||**£ 37,234.46**|
|Holl Daliadau
|-26,761.12|
|Mewn llaw 31 Rhagfyr 2024
|**£  10,473.34**|
|**TRYSORFA CYFFREDINOL YR EGLWYS**||
|Cyfrif Cyfredol
|10,473.34|
|Cyfrif ’Nationwide’
|66,002.20|

||**£  76,475.54**|
|**Cyfrif‘Nationwide’**||
|Cyfalaf  2024
|**£  66,002.20**|

## **Cyfraniadau at gynnal y fynwent**

|Aelodau|£ 415.00|

|Mr. Dewi Thomas|£   50.00|
|Mrs.Yvonne Morgan|£ 100.00|
|Mrs. Betsan Phillips|£   25.00|
|Jennifer a Meirion|£   10.00|
|Cyngor Cymuned Llangennech|£ 100.00|
||**£  700.00**|

**13**

**8**

## **DOSBARTH 7     Ardal o amgylch Llangennech** Dosbarthwr     Mr. Ken John

|*Kenneth John
Dinah John
*Hefn John
Brian Morris
Wynne Harries
Margaret Harries
Cerith Harries
Ian Harries
Eiddwen Harries
Eiddan Harries
Owain Harries
Kenneth Harries
Margaret Harries
Emyr Harries
Aled Harries
Iwan Harries
*Jefrey White
Monica Jenkins
Bethan Lewis
*Ryan Lee
*Parch.Ll.P.Jones
Hilda Phillips
Elaine Ley
Veronica Davies
Rhoddion:
Lyn a Heulwen Hunt
Ellis Thomas|Casgliad
£ 500.00
£ 500.00
£  62.50
£ 150.00
£ 250.00
£ 250.00
£  10.00
£ 160.00
£ 160.00
£  25.00
£  25.00
£ 120.00
£ 120.00
£  10.00
£  10.00
£  10.00
£ 675.00
£ 100.00
£  40.00
£ 125.00
£ 775.00
£ 110.00
£ 400.00
£320.00
£  90.00
£  30.00
Genhadaeth
£ 15.00
£ 15.00
£  5.00
£  5.00
£ 25.00
Fynwent
£  15.00
£  15.00
£   5.00
£   10.00
£   20.00
£   25.00|

**DOSBARTH 2   Afon Road, Park Lane, Mwrwg Rd., Bank Road,  Tirgof, Heol Pontarddulais a Talyclun** Dosbarthwr Mr.Keith Thomas

||Casgliad|Genhadaeth|Fynwent|

|Emyr Lewis||||
|Yvonne Jones|£  60.00|||
|*Hugh Thomas|£ 500.00||£   5.00|
|*Keith Thomas|£ 125.00||£   5.00|
|David Moore|£  50.00||£  20.00|
|*Gerwyn Mathews|£ 269.00||£  10.00|
|Maureen Mathews|£ 269.00||£  10.00|
|Parch. Gerald Jones|£ 250.00|£  7.50|£    5.00|
|Mai Jones|£ 250.00|£  7.50||
|*Sian Jones|£ 180.00|||

|**DOSBARTH 3  Staton Road ,**|**DOSBARTH 3  Staton Road ,**|**Heol y Maes**|||

|Dosbarthwr|Mr. Penry Richards||||
|Jean Thomas||£ 100.00|||
|*Penry Richards||£ 150.00|£  10.00|£ 10.00|
|Eleri Phillips||£ 150.00||£  50.00|
|*Lynwen Gallimore||£ 318.75||£ 10.00|

**9**

**12**

**DOSBARTH 4 Bridge Street** Dosbarthwr Mr. Keith Thomas

## **DOSBARTH 6 Brynhyfryd, Pencoed,  Cleviston Park, Penllwyngwyn-** Dosbarthwr Mrs. Pamela Richards

||Casgliad|Genhadaeth|Fynwent|

|Sandra Davies|£ 100.00|||
|Rhian  Phillips|£  40.00|||
|Melanie Jenkins|£ 100.00||£    5.00|

## **DOSBARTH 5 Hendre Road, Plas Isaf, Talywern,  Hendre Park**

**(m)** Colin Roberts *Aldwyn Beasley Gwendoline Davies £ 110.00 Mari Rees £ 240.00 *Moira Roberts £ 325.00

||Casgliad|Genhadaeth|Fynwent|

|Rhian George|£   50.00|||
|Paul Edwards|£   50.00||£  20.00|
|Alun Richards|£ 200.00||£  10.00|
|Pamela Richards|£ 200.00||£  10.00|
|Menna Hughes|£ 110.00|£  5.00|£  10.00|
|Richard Hughes|£   20.00|||
|*Gwynne Davies|£ 437.50||£  10.00|
|*Meriel Davies|£ 437.50||£  10.00|
|Ashley Davies|£   50.00|||
|*Nan Jones|£ 125.00|||
|*Desmond Jones|£ 500.00||£  15.00|
|Rita Jones|£ 500.00||£  15.00|
|Goronwy Davies|£ 540.00||£  10.00|
|Monica Davies|£ 540.00||£  10.00|

**10**

**11**