Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am y cyfnod O 01/04/2023 (dyddiad cychwyn y cyfnod) Hyd at 31/03/2024 (dyddiad diwedd y cyfnod)
Enw’r elusen: Garn Bach Tryweryn Rhif elusen gofrestredig: 1196991 Amcanion a gweithgareddau
| Cyfeirnod SORP | ||
|---|---|---|
| Crynodeb o amcanion yr elusen a nodwyd yn y ddogfen lywodraethol |
Para 1.17 | Cylch Meithrin/Gofal Dydd yn darparu addysg i blant rhwng 2-4 oed a gofal i blant clwb ar ôl ysgol/clwb gofal gwyliau o 2-11 oed. |
| Crynodeb o’r prif weithgareddau a ddarparwyd er budd cyhoeddus mewn perthynas a’r amcanion hyn, yn benodol, y gweithgareddau, y prosiectau neu'r gwasanaethau a nodwyd yn y cyfrifon. |
Para 1.17 a 1.19 | Rydym wedi ystyried y canllaw a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Elusennau at fudd cyhoeddus. Cynnig addysg a gofal i hyd at 19 o blant yng Nghaban Garn Bach Tryweryn drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol â gofynion AGC/Estyn. Byddwn yn derbyn arweiniad ac argymhellion gan ein hathrawes ymgynhorol ac hefyd ein Cydlynydd Cefnogi. |
| Datganiad yn cadarnhau a yw'r ymddiriedolwyr wedi rhoi sylw i'r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Elusennau ar fudd cyhoeddus |
Para 1.18 | Cadarnhau ein bod yn cydymffurfio efo’r gofynion statudol. |
| Gwybodaeth ychwanegol (dewisol) Os dymunwch rhowch datganiadau pellach, lle bo hynny'n berthnasol, ynghylch: |
||
| SORP reference | ||
| Polisi darparu grantiau | Para 1.38 | Wedi bod yn ymgeisio am nifer o grantiau i’n cynorthwyo efo datblygu/cynnal addysg o’r safon uchaf a hefyd ar gyfer ariannu prosiect/datblygiadau yn y Caban, yn enwedig yr ardal tu allan. Wedi bod yn llwyddiannus i dderbyn ambell grant cymunedol hefyd ar gyfer cynorthwyo efo ariannu gweithgareddau clwb gofal ar ôl ysgol/clwb gofalgwyliau. |
| Polisi buddsoddiad cymdeithasol gan gynnwys buddsoddiad cysylltiedig â rhaglen |
Para 1.38 | Er mwyn darparu addysg a gofal am bris rhesymol wedi cynnal amryw o weithgareddau codi arian ac wedi ymgeisio am nifer o grantiau i wella’r ddarpariaeth â chynnal addysg o’r safon uchaf. |
| Cyfraniad gan wirfoddolwyr | Para 1.38 | Yn ffodus iawn o gefnogaeth gwirfoddolwyr â chyfraniadau gan aelodau’r gymuned. Mae cyfraniad rhieni ac aelodau’r pwyllgor yn amhrisiadwy yn enwedig gyda gweithgareddau codi arian ar gyfer y Cylch â chynorthwyo mewn sawl ffordd arall hefyd. Y Pwyllgor wedi dod I’r brig yn y categori Pwyllgor yng ngwobrau’r Mudiad Meithrin yn2024. |
TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021
Arall
Cyraeddiadau a pherfformiad
| SORP reference | ||
|---|---|---|
| Crynodeb o brif gyflawniadau'r elusen, gan nodi'r gwahaniaeth y mae gwaith yr elusen wedi'i wneud i amgylchiadau ei buddiolwyr ac unrhyw fuddion ehangach i'r gymdeithas gyfan. |
Para 1.20 | Darparu hyd at 150 o sesiynau addysg feithrin a gofal dydd (47.5 yr wsnsos) i hyd at 19 o blant yng Ngarn Bach Tryweryn (i blant ardal Parc, Rhyduchaf, Maesywaen, Arenig, Cwmtirmynach, Frongoch ac ambell un o ardal y Bala hefyd) am bris rhesymol gan gydymffurfio efo gofynion AGC ac Estyn. |
Gwybodaeth ychwanegol (dewisol)
| Gwybodaeth ychwanegol (dewisol) | Gwybodaeth ychwanegol (dewisol) | Gwybodaeth ychwanegol (dewisol) |
|---|---|---|
| Os dymunwch rhowch datganiadau pellach, lle bo hynny'n berthnasol, ynghylch: | ||
| Cyflawniadau yn erbyn yr amcanion a osodwyd |
Para 1.41 | Wedi cyflawni’r uchod. |
| Perfformiad gweithgareddau codi arian yn erbyn yr amcanion a osodwyd |
Para 1.41 | Wedi llwyddo i godi arian/cynnal gweithgareddau fel y nodwyd. Wedi trefnu ambell ddigwyddiad ar y cyd efo’r ysgol hefyd sy’n ffordd wych o hybu cydweithio â chodi arian yn ehangach. Nifer o weithgareddau codi arian i’w trefnu ar gyfer yflwyddyn nesaf hefyd. |
| Perfformiad buddsoddiad yn erbyn amcanion |
Para 1.41 | Wedi gweithredu. |
| Arall |
TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021
| Adolygiad ariannol | ||
|---|---|---|
| Adolygiad o sefyllfa ariannol yr elusen ar ddiwedd y cyfnod |
Para 1.21 | Cadarnhau bod y sefyllfa ariannol yn ffafriol ac yn gynaladwy. |
| Datganiad yn esbonio'r polisi ar gyfer cadw cronfeydd wrth gefn yn nodi pam eu bod yn cael eu cadw |
Para 1.22 | Mae gennym gyfrif cadw sydd wedi ei neilltuo yn benodol ar gyfer diben cynnal a chadw’r Caban a’r ardal tu allan. Rydym wedi derbyn yr arian hwn o ffynonellau grantiau penodol ac nid oes hawl gennym i’w ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas arall heblaw cynnal a chadw’r adeilad fel y nodwyd yn ein cesiadau. |
| Cyfanswm y cronfeydd wrth gefn a chynhelir |
Para 1.22 | £14,939.30 (ar gyfer gwaith cynnal a chadw/datblygu’r Caban a’r ardal tu allan). |
| Rhesymau dros beidio â dal unrhyw gronfeydd wrth gefn |
Para 1.22 | Ddim yn berthnasol |
| Manylion gronfa sydd â diffyg sylweddol |
Para 1.24 | Ddim yn berthnasol. |
| Esboniad o unrhyw ansicrwydd ynghylch yr elusen yn parhau fel busnes gweithredol |
Para 1.23 | Ddim yn berthnasol |
| Gwybodaeth ychwanegol (dewisol) Os dymunwch rhowch datganiadau pellach, lle bo hynny'n berthnasol, ynghylch: |
||
| Prif ffynonellau cyllid yr elusen (gan gynnwys unrhyw godi arian) |
Para 1.47 | Wedi cynnal amryw o weithgareddau codi arian er mwyn prynu adnoddau i wella darpariaeth addysg y plant. Wedi ymgeisio am nifer o grantiau hefyd. Wedi cofrestru ar gyfer y Rhestr Darparwyr Gofal Plant cymeradwy er mwyn ein galluogi i ymgeisio am grantiau. Mae’r ‘Cynnig Gofal Plant’ hefyd yn gymorth ar gyfer ariannu gofal plant. Rydym hefyd wedi bod yn ffodus o dderbyn cyfraniadau gan grant cymunedol y Coop â Chlwb Beicio’r Bala ar gyfer cynorthwyo efo buddsoddi mewn adnoddau â chynnal gweithgareddau yn y clwb gofal ar ôl ysgol/clwb gofal gwyliau. Hefyd cyfraniadau gan y cynghorau cymuned lleol ar gyfer buddsoddi mewn adnoddau i’r Cylch. |
| Polisi ac amcanion buddsoddi (gan gynnwys unrhyw bolisi buddsoddi cymdeithasol a fabwysiadwyd) |
Para 1.46 | Ddim yn berthnasol. |
| Disgrifiad o'r prif risgiau sy'n wynebu'r elusen |
Para 1.46 | Mae’r nifer plant sy’n mynychu wedi gostwng eleni oherwydd lleihad yn nifer y plant yn y sector oedran meithrin yn yr ardal. Mae’r niferoedd yn gyffredinol yn is yn yr ardal am gyfnod – byddwn yn monitro ac yn cynnal pwyllgorau rheolaidd i drafod y sefyllfa ac yn ymateb a gweithredu fel sy’n briododol. Fodd bynnag, mae’r rhagolygon yn edrych yn addawol ar gyfer y blynyddoeddnesafgydaniferdda o |
TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021
| fabanod yn mynychu sesiynau Ti a Fi yn ein lleoliad. |
||
|---|---|---|
| Arall | ||
| Strwythur, Llywodraethiant a Rheoli | ||
| Disgrifiad o ymddiriedolaethau'r elusen: |
||
| Math o ddogfen lywodraethol (cyfansoddiad, gweithred ymddiriedaeth, siarter frenhinol) |
Para 1.25 | Cyfansoddiad |
| Sut mae'r elusen wedi'i chyfansoddi? (e.e. cymdeithas anghorfforedig, CIO) |
Para 1.25 | CIO |
| Dulliau dewis ymddiriedolwyr gan gynnwys manylion unrhyw ddarpariaethau cyfansoddiadol e.e. etholiad i swydd |
Para 1.25 | Enwebu gan rieni’r Cylch/aelodau Pwyllgor mewn Cyfarfod Blynyddol. |
Gwybodaeth ychwanegol (dewisol)
Os dymunwch rhowch datganiadau pellach, lle bo hynny'n berthnasol, ynghylch:
| Polisïau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd ar gyfer anwytho a hyfforddi ymddiriedolwyr |
Para 1.51 | Mae’r Cylch yn gweithredu yn unol â pholisïau’r Mudiad Meithrin a gellir gwneud cais i gael gweld y polisïau â chyfansoddiad y cylch. Byddwn yn rhannu gohebiaeth gan y Mudiad ac unrhyw wybodaeth sy’n fuddiol, yn cynnig arweiniad ac yn berthnasol gyda’r ymddiriedolwyr. Hefyd yn cynnal pwyllgorau yn rheolaidd fel bo modd trafod materionallweddolsydd angensylw. |
|---|---|---|
| Strwythur gweithredol yr elusen ac unrhyw rwydwaith ehangach y mae'r elusen yn gweithio gydag ef |
Para 1.51 | Ddim yn berthnasol. |
| Perthynas ag unrhyw bartïon cysylltiedig |
Para 1.51 | Ddim yn berthnasol. |
| Arall |
TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021
| Manylion Cyfeirio a Gweinyddu | Manylion Cyfeirio a Gweinyddu |
|---|---|
| Enw’r elusen | Garn Bach Tryweryn |
| Enw arall a ddefnyddir gan yr elusen |
|
| Rhif elusengofrestredig | 1196991 |
| Prif gyfeiriad yr elusen | Safle Ysgol Bro Tryweryn, Frongoch, Bala, Gwynedd, LL23 7NT. |
Enwau’r ymddiriedolwyr elusen sy’n rheoli’r elusen
| 1 2 3 4 5 6 7 8 |
Enw’r ymddiriedolwr | Swydd (os oes) | Dyddiadau gweithredu os nad am flwyddyn gyfan |
Enw'r person (neu'r corff) sydd â hawl i benodi ymddiriedolwr (os oes un) |
|---|---|---|---|---|
| Angharad Davies | Unigolyn Cyfrifol | 2 flynedd | Pwyllgor Garn Bach Tryweryn | |
| Catrin Elen Roberts | Cadeirydd/Ymddiriedolwr | 2 flynedd | Pwyllgor Garn Bach Tryweryn | |
| Eirian Ellis | Trysorydd/ Ymddiriedolwr |
2 flynedd | Pwyllgor Garn Bach Tryweryn | |
| Nia Lynch | Ysgrifennydd/ Ymddiriedolwr |
2 flynedd | Pwyllgor Garn Bach Tryweryn | |
| Lisa Smallwood | Ysgrifennydd/ Ymddiriedolwr |
2 flynedd | Pwyllgor Garn Bach Tryweryn | |
| Mali Dafydd | Ymddiriedolwr/ Is-Gadeirydd |
2 flynedd | Pwyllgor Garn Bach Tryweryn Pwyllgor Garn Bach Tryweryn |
|
| Glain Jones | Ymddiriedolwr | 2 flynedd | ||
| Mared Davies | Ymddiriedolwr | 2 flynedd | Pwyllgor Garn Bach Tryweryn |
Ymddiriedolwyr corfforaethol - enwau'r cyfarwyddwyr ar y dyddiad y cymeradwywyd yr adroddiad
Enw'r cyfarwyddwr
Enwau ymddiriedolwyr sy'n dal teitl eiddo sy'n berchen i'r elusen Enw’r ymddiriedolwr Dyddiadau gweithredu os nad am flwyddyn gyfan
TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021
Cronfeydd a gynhelir fel ymddiriedolwyr ceidwad ar ran eraill
| Disgrifiad o'r asedau a gynhelirynyrhinweddhon |
Ddim yn berthnasol |
|---|---|
| Enw ac amcanion yr elusen y mae’r asedau yn cael ei dal ar ei rhan a sut mae hyn yn dod o fewn amcanion yr elusengeidwad |
Ddim yn berthnasol |
| Manylion y trefniadau ar gyfer cadw asedau o'r fath yn ddiogel ac ar wahan i asedau'r elusen ei hun |
Ddim yn berthnasol |
Gwybodaeth ychwanegol (dewisol)
Enwau a chyfeiriadau ymgynghorwyr (Gwybodaeth ddewisol)
Math o Enw Cyfeiriad ymgyngh orydd
Enw’r prif weithredwr neu enwau uwch aelodau staff (gwybodaeth ddewisol)
Llinor Angharad Pritchard a Mari Siwan Davies (cyd-arweinyddion)
Eithriadau rhag datgelu
Rheswm dros beidio â datgelu manylion personél allweddol
Gwybodaeth ddewisol arall
TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021
Datganiad Mae’r ymddiriedolwyr yn datgan eu bod wedi cymeradwyo adroddiad yr ymddiriedolwyr uchod.
Arwyddwyd ar ran yr ymddiriedolwyr elusen
Llofnod(ion) Enw(au) llawn Angharad Medi Tudor Davies Swydd (ee, ysgrifennydd, Unigolyn Cyfrifol Cadeirydd ac ati) Dyddiad 20 Ionawr 2025
TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021
Adroddiad Cadeirydd
Diolch am gael bod yn rhan or pwyllgor gwych yma, wedi mwynhau fy amser yn cyfarfod ac trafod ffyrdd o ddatblygu a codi arian ir cylch.
Mi ydan yn lwcus iawn on Antis yma yn Garn Bach Tryweryn fysani fel rhieni a pwyllgor ar goll hebddachi, wastad yn hapus i helpu a rhoi y cyfle gora in plant- felly diolch yn fawr! Mae rhieni y gylch hefyd mor barod i helpu ac yn cefnogi gweithgareddau codi arian ac yn barod i wirfoddoli- mae ambell weithgaerdd wedi cael ei gynal eleni fel Caffi Rali Ffermwyr Ifanc, Caffi Eisteddfod, Bore coffi- daeth y gweithgareddau yma a llawer o gefnogaeth gen rieni y cylch, ysgol ac hefyd gen y gymuned, roedd hyn mor braf i weld.
Cafwyd ambell i drip ei drefnu hefyd Park Hall Farm a trip ar y tren bach- pawb wedi mwynhau a diolch i chi Antis am helpu a gwneud y tripiau yma ddigwydd.
Ethol Mudiad Meithrin- dyma amser cyffroes iawn ir Pwyllgor, edrych mlaen i glywed y newydd ac i weld os bydd y pwyllor wedi cael llwyddiant pellach.
Diolch unwaith eto Cadeirydd- Catrin Elen Roberts
TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021
Adroddiad cyfarfod Blynyddol
Hydref 2024
Wel mae yna flwyddyn arall wedi mynd heibio. Rydym ar ein trydedd flwyddyn yn y caban ac wedi dod i adnabod ein trefn newydd yn dda iawn. Yn y flwyddyn ddiwethaf roedd ein niferoedd mor uchel ac erioed! Y Flwyddyn yma mae gennym 12 o blant ar ein llyfrau ac yn obeithiol y cawn ni fwy dros y flwyddyn sydd i ddod. Mae’r clwb gwyliau wedi bod yn boblogaidd iawn yn ystod gwyliau’r haf ac roedden ni ar agor bob dydd oni bai am yr wythnos roedden wedi cau. Cyflogwyd Tesni i wneud ambell ddiwrnod. Hefyd mae’r clwb ar ôl ysgol yn mynd yn dda iawn.
Un peth rydym yn pryderu amdano a thrafodwyd gyda Manon Jones ein Hathrawes Ymgynghorol Blynyddoedd Cynnar yw niferoedd plant sydd yn mynychu amser Cylch o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 9-11:30. Dyma'r amser lle rydym yn rhoi addysg i’r plant a gwneud y profiadau arbennig gyda’r plant. Mae hyn yn rhan bwysig o roi’r dechrau gorau i’r plentyn. Fel staff rydym yn gwybod y bydd hyn yn cael ei godi gan Estyn sydd ar y gweill yn fuan.
Rydym rŵan wedi dod i ddygymod gyda’r drefn newydd y cwricwlwm i Gymru. Ar rydym yn ei ddilyn gan roi fwy o brofiadau i’r plant. Rydym yn dilyn trywydd y plentyn gan ddilyn eu diddordebau a chreu “themâu”. Byddem dal yn gwneud themâu megis y tymhorau a thraddodiadau a gwyliau megis Nadolig, Pasg a Sul y Mamau/Tadau ayyb.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydw i wedi cyflawni lefel 3 mewn ysgol goedwig a llongyfarchiadau i Anti Donna ar gyflawni lefel 2 mewn dysgu yn yr awyr agored. Rydym wedi bod yn mynd ar blant i’r goedwig mewn grwpiau bach ac mae pawb wedi mwynhau yn fawr. Mae’r profiadau mae’r plant yn cael yma yn werthfawr iawn gan ddefnyddio tools a chael profiad o goginio ar y tân. Rydw i yn edrych ymlaen at fynd ar blant eto pan fydd y tywydd yn well yn y flwyddyn newydd. Rydym yn diolch i deulu Rhyd-Defaid am adael i ni ddefnyddio eu coedwig a’u tir nhw.
Mae Angharad a fine wrthi yn cyflawni cynllyn Cyn Ysgolion Iach Gwynedd. Mae o dipyn o waith ond gobeithio gyda’n gilydd byddem yn gallu ei gyflawni a chael y dystysgrif.
TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021
Rydym flwyddyn yma yn newid rhai pethau i fod yn ddigidol. Byddem yn gwneud ein harsylwadau ac asesu ar ein ipad newydd ac yn ei bostio ar Seesaw yn syth felly byddech yn eu derbyn yn syth yn hytrach na ysgrifennu ei lawr ar ddogfen. Bydd hyn yn gwneud y gwaith asesu'r Pum Llwybr Dysgu llawer haws i mi.
Rhywbeth sydd wedi gweithio yn arbennig o dda ydi trosglwyddo’r plant meithrin i’r ysgol. Roedd y plant yn cael mynd i’r ysgol i gael eu cinio am y tymor olaf gydag aelod o staff ac felly yn cael amser chwarae gyda’r plant mawr. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn digwydd blwyddyn nesaf hefyd. Y tymor olaf cefais fynd i mewn i’r ysgol i siarad gyda Mrs Lynch er mwyn trafod y plant oedd yn dechrau dosbarth meithrin Medi yma. Teimlaf fod hyn wedi gweithio yn well yn hytrach na rhoi papur iddyn nhw am y plant. Roedden nhw yn cael cyfle i ddod i adnabod y plant a chael ychydig o’u cefndir cyn iddyn nhw ddechrau.
Rydym yn cynnal Ti a Fi bore Llun a Phrynhawn Mawrth ac mae’n braf croesawy darpar rieni, Nain a Thaid a Gwarchodwyr i’n plith. Ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu babis newydd sydd i ddod. Byddem yn trafod dyfodol Ti a Fi ar bnawn dydd Mawrth toc.
Blwyddyn ddiwethaf roedden yn ffodus iawn o dderbyn grant cyfalaf i brynu dwy sied. Rydym yn ddiolchgar i’r tadau am osod y ddwy sied bwrpasol, un ar gyfer cadw teganau tu allan ac un ar gyfer creu dosbarth tu allan ac i gadw pethau loos parts. Os oes gennych unrhyw loose parts megis peipiau, preniau, olwynion neu reals byddem yn ddiolchgar ohonynt plîs. Blwyddyn yma rydym yn ffodus iawn i gael grant cyfalaf o £5,000. Bydd hyn yn mynd tuag at wella'r ardal tu allan. Mae Eiddon wedi bod yn brysur yn rhoi ffens bren dal a bydd yn rhoi turff newydd a chreu ardaloedd adeiladu a chegin fwd hefyd. Rydym yn ddiolchgar iddo am hyn.
Roeddem hefyd yn ffodus o gael ein dewis i fod yn rhan o gadi arian y co op eleni. Cawsom ddefnyddio rhan ohono yn y gwyliau’r haf drwy fynd i soft play a chael sesiwn pêl droed a rygbi. Os oes gennych unrhyw syniadau am bobl i ddod i mewn i neud gweithgareddau gyda’r plant byddem yn ddiolchgar o’u clywed plîs.
Oherwydd niferoedd y plant rydym wedi gorfod lleihau oriau staff. Rydym yn ddiolchgar iawn i chi staff am gydweithredu gyda hyd. Gobeithio y bydd niferoedd y plant yn codi dros y flwyddyn.
TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021
Hoffwn i ac Angharad ddiolch yn fawr i’r staff, rhieni, aelodau o’r pwyllgor, a staff ysgol Bro Tryweryn am eich cefnogaeth. Mae’n bob amser yn bleser cyd weithio gyda chi. Ac wrth gwrs y plant i gyd. Edrychwn ymlaen at y flwyddyn i ddod.
Hoffwn orffen ar longyfarch y Pwyllgor yma ar gael eu hethol a dod i’r rownd derfynol yn y gwobrau Mudiad Meithrin drwy Gymru! Waw mae hyn yn arbennig ac rydym yn falch iawn ohonoch i gyd. Edrychaf ymlaen at glywed y canlyniad. Pob lwc i chi!
Diolch,
Anti Mari ac Anti Angharad.
TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021
ADRODDIAD CYLLIDOL AR GYFER CYFARFOD BLYNYDDOL CYLCH MEITHRIN GARN BACH TRYWERYN Nos Lun, 7/10/2024 am 7.00yh yn y Plas Coch
Blwyddyn Gyllidol Ebrill 1[af] 2023 – Mawrth 31[ain] 2024
Gweler y fantolen am y cyfnod 1[af ] o Ebrill 2023-31[ain ] o Fawrth, 2024. Gwnaed elw o £12,144.52 yn ystod y flwyddyn.
Diolch i Bethan Jones am ei chymorth gydag archwilio’r cyfrifon – rydym yn gwerthfawrogi ei chymorth.
Balans cyfrif Cyfredol ar 31/03/23: £26,864.40 Balans Cyfrif Cadw ar 31/03/23: £20,762.59
Balans Cyfrif Cyfredol ar 31/03/24: £44,832.21 Balans Cyfrif Cadw ar 31/03/24: £14,939.30
Hoffwn ategu fy ngwerthfawrogiad eto a diolch i bawb am eu cefnogaeth/cymorth ac amynedd gyda’r materion/penderfyniadau cyllidol/gweinyddol yn ystod y flwyddyn. Hefyd diolch o galon i’r rhieni i gyd am eu cefnogaeth â’ch cydweithrediad parod bob amser. Diolch hefyd i staff Ysgol Bro Tryweryn am eu cydweithrediad â’ch cefnogaeth barod bob amser.
Grantiau
Bu’r Cylch yn ffodus iawn o dderbyn grantiau/cyfraniadau unwaith yn rhagor yn ystod y flwyddyn sy’n ein cynorthwyo efo buddsoddi mewn adnoddau â’n galluogi i barhau i ddarparu cyfleoedd â phrofiadau amhrisiadwy i blant y cylch a’r clybiau gofal ar ôl ysgol/gwyliau.
Grantiau’r Cylch 2023-2024
Grantiau Cylch
| O Ebrill 2023 | |
|---|---|
| Medi 2023 – Clwb Beicio Bala (Argyfer buddsoddi mewn offer ffitrwydd ac adnoddau ffitrwydd) |
£300.00 |
| Cyfraniad Cyntaf Grant Cymunedol y Coop (Rydym eisoes wedi derbyn y cyfraniad cyntaf gan y gronfa. Disgwylir y cyfraniad terfynol yn ystod mis Tachwedd. Defnyddir y cyllid hwn ar gyfer cynorthwyo efo costau ariannu ymweliadau/gweithgareddau ar gyfer y clwbgofal ar ôlysgol/gwyliau. |
£1,176.43 |
| Cyngor Cymuned Llanycil (Buddsoddwyd mewn ipad newydd efo’r £150.00 ar gyfer tynnu lluniau gweithgareddau’r plant i’w rhannu efo’r rhieni. Mae’r £50.00 wedi ei glustnodi argyferprynu coed amrywiol argyfer ein hardal tu allan. |
£50.00 a £150.00 |
| Cyngor Cymuned Llandderfel (Clustnodwyd yr arian hwn ar gyfer buddsoddi mewn adnoddau ysgol goedwig/cynnalgweithgareddauynyr ardal tu allan. |
£100.00 |
| Grantiau Cyngor Gwynedd – Grant Cyfalaf – Siediau Bach a Mawr (Buddsoddwyd mewn dwy sied newydd – un fach ar gyfer storio beiciau ag ati a ‘r mwyaf fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer storio ac i gynnal gweithgareddau awyr agored/ardal tu allan. |
£1,400.00 |
| Grant Hyfforddiant a Llyfrau (Derbyniwyd grant ar gyfer cynorthwyo efo ariannu costau staff cyflenwi yn ystod hyfforddiant. Clustnodwyd £420.00 o hwn ar gyfer buddsoddi mewn llyfrau newydd I’r Cylch. |
£1,070.00 |
TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021
Canopi
Bum yn ffodus iawn o dderbyn grant cyfalaf o £15,000 gan Gyngor Gwynedd tuag at osod canopi pwrpasol yn yr ardal chwarae tu allan. Cwblhawyd y gwaith yn ystod mis Mawrth/Ebrill 2023. Y cyngor yn uniongyrchol fu’n gyfrifol am y gwariant, ond bu’n ofynnol i ni gyfrannu £1,506.00 tuag at y costau terfynol o ail osod yr arwyneb ardal chwarae. Cwmni Twinfix fu’n gosod y canopi, ac mae’n adnodd ac ychwanegiad buddiol iawn sydd yn medru cael ei ddefnyddio ymhob tywydd. Bydd angen i ni fuddsoddi mewn rhyw fath o ‘shutter’ pwrpasol er mwyn sicrhau bod y canopi yn gaeedig.
Grantiau wedi eu cymeradwyo
Cyflwynwyd cais am grant cyfalaf ar gyfer y flwyddyn 2024-2025 cyn gwyliau’r haf. Derbyniwyd cadarnhad wythnos diwethaf bod y Sir wedi cymeradwyo’r cais am £5,000.00 ar gyfer cwblhau’r ardal tu allan sef:-
-
Gosod gwair artiffisial a thywyrch o amgylch y sied.
-
Codi ffens uchel a gorchuddio’r gwyntyllion.
-
Gosod tâp dŵr yn yr ardal tu allan.
Yn ystod ymweliad gan Swyddog o adran Eiddo’r Sir i gymeradwyo’r gwaith o fewn y ffurflen C1 i gydfynd â’r cais grant, hysbyswyd hefyd am broblemau carffosiaeth/draeniau sydd gennym efo’r toiledau. Cadarnhaodd mai’r Sir yn uniongyrchol fydd yn gyfrifol am gwblhau’r gwaith hwn.
Codi Arian
Bydd angen parhau i drefnu digwyddiadau codi arian. Yn ystod 2023-2024 trefnwyd y digwyddiadau/gweithgareddau a ganlyn. Anogir pawb i gofrestru a defnyddio easyfundraising – mae’n fodd effeithiol a didrafferth iawn o godi arian.
CODI ARIAN
| Caffi Eisteddfodau’r Urdd Mawrth 2024 | £1,032.43 | |||
|---|---|---|---|---|
| Raffl PasgMawrth-Ebrill 2023 | £35.00 | |||
| Amazon Smile | £13.41 | |||
| Easyfundraising | £55.04 | |||
| BBQTymoryr Haf | £168.30 | |||
| Bore Coffi Gorffennaf 2023 | £33.00 | |||
| Helfa Drysor PwyllgoryCylch | £30.00 | |||
| Bore Coffi ‘Rwbeth Neis,Neis i De’ | £93.50 | |||
| Raffl Hampr Nadolig | £443.64 | |||
| Elw Stondinau Ffeiriau Nadolig | £150.10 | |||
| Cyngerdd Nadolig | £202.00 | |||
| Mai 2024 – Caffi Rali Ffermwyr Ifanc | £1,123.55 | |||
| Bore Coffi Gorffennaf 2024 | £46.50 |
Derbyniwyd ebost gan Marged ar ran yr Urdd yn holi fyse gennym ddiddordeb bod yn ngofal y caffi yn Eisteddfodau’r Urdd ar y dyddiadau a ganlyn:
-
Cylch Penllyn – Nos Fercher, 19[eg ] o Fawrth 2025 – 4.00yp-8.00yp
-
Rhanbarth Uwchradd – Dydd Sadwrn, 22[ain ] o Fawrth 2025 – 9.30yb-3.00yp
-
Wedi hysbysu y byddwn yn cysylltu i gadarnhau yn dilyn ein cyfarfod blynyddol.
Biliau (Quickbooks)
TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021
Mae’r feddalwedd ‘Quickbooks’ i’w weld yn gweithio’n hwylus iawn. Mae posib talu drwy PayPal neu drwy daliad BACS. Fodd bynnag, rydym yn gorfod talu canran o ffioedd gweinyddu ar y taliadau PayPal. Diolch i’r holl rieni am fod yn amyneddgar.
Staffio/Cytundebau Staff
Mae nifer y plant ar ein cofrestr wedi lleihau yn arw ar gyfer mis Medi eleni. 12 plentyn sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd. Yn sgil hyn, mae wedi bod yn anorfod i ni orfod lleihau oriau staff oherwydd nad oes cymaint o blant angen gofal yn ystod sesiynau penodol. Mae posibilrwydd efallai y bydd ambell blentyn yn ymuno efo ni ym mis Ionawr. Pwysleisiwyd bod angen i rieni fod yn glynnu at eu cytundebau Oriau Cylch er mwyn sicrhau bod y ratios plant>staffio yn gywir fel bo modd osgoi gorstaffio.
- Gofal Dydd/Gofal Gwyliau/Gofal ar ôl Ysgol/Cyn Ysgol
Ymddengys bod gofynion gofal y clwb ar ôl ysgol/clwb gofal gwyliau wedi lleihau am gyfnod hefyd.
Hyfforddiant
Mynychodd yr arweinyddion a’r Unigolyn Cyfrifol sesiynau hyfforddiant Diogelu Uwch Grŵp C sy’n ofyn statudol erbyn hyn. Hefyd yn ystod y flwyddyn diweddarwyd hyfforddiant Diogelu Grŵp B gan ambell un o’r staff (cymorthyddion). Mae gofyn statudol hefyd erbyn Tachwedd 2024 i aelodau pwyllgor neu wirfoddolwyr ar bwyllgor hefyd fod wedi cwblhau hyfforddiant Diogelu Grŵp A – sesiwn byr arlein ydyw ar gyfer codi ymwybyddiaeth o’r gofynion. Mae’n ddigonol os ydi aelodau’r pwyllgor eisoes wedi cwblhau cymhwyster tebyg yn rhinwedd eu swydd dyddiol. Cysylltwch os ydych angen rhagor o fanylion.
Casgliad Clytiau/Casgliad Ysbwriel
Rydym bellach yn cydweithio efo’r ysgol o ran y trefniant casglu ysbwriel/deunydd ail gylchu oherwydd cesglir y biniau oddi ar safle’r ysgol. Felly nid ydym wedi gorfod talu ffi am y gwasanaeth eleni. Fodd bynnag, rydym yn parhau i dalu’r ffi misol am y casgliad clytiau.
Biliau/Costau Ynni
Yn dilyn gohebu cyson gyda’r Sir dros gyfnod maith, derbyniwyd bil ar gyfer y cyflenwad trydan a dŵr ddiwedd mis Mawrth 2024. Trafodwyd y mater yn ddiweddar gyda Phennaeth Ysgol Bro Tryweryn. Rhagwelir mai’r penderfyniad gorau yn y tymor hir o ran yr ysgol a’r Cylch fydd gosod mesurydd trydan a dŵr uniongyrchol ar gyfer defnydd y caban – bydd hyn yn sicrhau darlleniadau cywir ac yn hwyluso trefniadau ar gyfer y ddwy safle.
Iechyd a Diogelwch
Rydym wrthi’n diwygio ac yn diweddaru asesiadau risg ar gyfer Garn Bach Tryweryn. Hefyd yn adolygu’r polisïau yn unol â’r broses flynyddol. Trefnir i drydanwr lleol gynnal profion PAT ac archwilio’r offer trydanol. Rydym hefyd angen gosod system ddiogelwch ar y drysau mewnol er mwyn sicrhau diogelwch y plant a’r staff.
Balans cyfrif Cyfredol ar 02/10/24: £51,036.89 Balans Cyfrif Cadw ar 02/10/24: £14,733.03
Diolch i bawb am eu cefnogaeth/cymorth â’u cydweithrediad parod. Gwerthfawrogir y cyfan.
Donna Puw (Hydref 2024)
TAR (SORP FRS102) Cymraeg Ion 2021
| Garn Bach Tryweryn | Garn Bach Tryweryn | Garn Bach Tryweryn | Garn Bach Tryweryn | CC16a | |
|---|---|---|---|---|---|
| For the period from |
01/04/2023 Period start date |
To | |||
| Section A Receipts and payments | |||||
| A1 Receipts | Unrestricted funds to the nearest £ 60,431 554 3,646 7,510 41,775 600 2,256 581 117,353 - - - 117,353 76,898 761 9,348 784 1,653 2,288 3,028 86 4,179 235 239 119 27 717 4,848 105,210 - - - 105,210 12,143 - 12,143 |
Restricted funds to the nearest £ - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - |
Endowment funds to the nearest £ |
Total funds to the nearest £ 60,431 554 3,646 7,510 41,775 600 2,256 581 117,353 - - - 117,353 76,898 761 9,348 784 1,653 2,288 3,028 86 4,179 235 239 119 27 717 4,848 105,210 - - - 105,210 12,143 |
Last year to the nearest £ |
| Ffioedd Cylch Meithrin Fees | 60,431 | - - - - - - - - - |
- | ||
| Ffioedd Ti a Fi Fees | 554 | - | |||
| Grantiau/Grants | 3,646 | - | |||
| Grant Addysg/Education Grant | 7,510 | - | |||
| 30 awr | 41,775 | - | |||
| Cyfraniadau/Donations | 600 | - | |||
| Codi Arian/Fundraising | 2,256 | - | |||
| Eraill/Misc | 581 | - | |||
| Sub total(Gross income for AR) |
117,353 | - | |||
| A2 Asset and investment sales, (see table). |
|||||
| - | - - - |
||||
| - | - | ||||
| Sub total | - | - | |||
| Total receipts A3 Payments |
|||||
| - | - | ||||
| Cyflogau/Salaries | 76,898 | - - - - - - - - - - |
- | ||
| Pensiwn/Pension | 761 | - | |||
| HMRC | 9,348 | - | |||
| Cyfrifydd Hill & Roberts Accountant | 784 | - | |||
| Taliadau Misol/MonthlyPayments | 1,653 | - | |||
| Bwyd/Food | 2,288 | - | |||
| Adnoddau | 3,028 | - | |||
| Ffioedd Banc/Banc Charges | 86 | - | |||
| Ynni/EnergyBills | 4,179 | ||||
| Taliadau Blynyddol/Subscription | 235 | ||||
| Gweinyddol/Administration | 239 | ||||
| Hyfforddiant/Training | 119 | ||||
| Codi Arian/Fundraising | 27 | ||||
| Gweithgareddau/Activities | 717 | ||||
| Cynnal a Chadw | 4,848 | - | |||
| **Sub total ** | 105,210 | - | |||
| A4 Asset and investment purchases, (see table) |
|||||
| - | - - - |
||||
| - | |||||
| **Sub total ** | - | - | |||
| Total payments Net of receipts/(payments) A5 Transfers between funds A6 Cash funds last year end Cash funds this year end |
|||||
| - | - | ||||
| 12,143 | - |
- | |||
| - - |
- - |
- | |||
| - | - | ||||
| 12,143 | - |
12,143 | - |
CCXX R1 accounts (SS)
21/01/2025
1
Section B Statement of assets and liabilities at the end of the period
| Categories Signed by one or two trustees on behalf of all the trustees B1 Cash funds B2 Other monetary assets B4 Assets retained for the charity’s own use B5 Liabilities B3 Investment assets |
Signature Details Details Cyfrif Cyfredol Details Details Total cash funds (agree balances with receipts and payments account(s)) Details Cyfrif Cadw (£336.31 yn log banc) |
Unrestricted funds Restricted funds to nearest £ to nearest £ 44,832 - - - - - 44,832 - Agreement Error OK Unrestricted funds Restricted funds to nearest £ to nearest £ - - - - - - - - - - - - Fund to which asset belongs Cost (optional) 14,939 - - - - - Fund to which asset belongs Cost (optional) - - - - - - - - - Fund to which liability relates Amount due (optional) - - - - - Print Name Angharad Medi Tudor Davies |
Endowment funds to nearest £ |
|---|---|---|---|
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| OK | |||
| Endowment funds to nearest £ |
|||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| Current value (optional) |
|||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| Current value (optional) |
|||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| - | |||
| When due (optional) |
|||
| Date of approval |
|||
| Angharad Medi Tudor Davies | 13/01/2025 | ||
CCXX R2 accounts (SS)
21/01/2025
2
CVLCM MEtrHPJNGAHF46ACHThlWEthI CYFRIF DERByP1DAuAiAl14ts1uAhlYFllDD¥IlvNEUxj 3W¥20 FfioethJHant 34.93&82 25N9>55 f30. SS4. 14955. 2681Q 7$10 7689359 YW.51 9347.fjo Cyngoi knrtEdd13Q awfl HM Cyn8OTGtddI10I EE.¥fOnSTrir 51$65 201.60 125 Cyn8Orfjwynod cOp (trbBe CvwC¥mLwdUYrrt# CyrwCpxLYAdud1rt 2470 I143 1Tr.64 631.63 05.P5 3636. Y2.60 93S.98 IloÈ GrtY 336Jl Tan 4414 Trefi Bath rrbGypsyWgod EistadtodtrY urthj altl Pa51 Am•zOnSmi 1032.4J 35. 2389.J7 261.Lll ss i.10 33tyJ 9a 441 Iso io 76.40 ij Lk) 19. Boftcom hjbeih R•ffl H•mw Nè0ts1 FIJIT Duy •71.19 Cwwewdd 23fy1 trIFAI4SWM IipJsJ £47W&• E1711.51 CTI1(a(rth Mtithikn É26J61.¢0 lthr £44)1.21 É14.939.30 £59.ni.si Cost4u frvttèni C05t £•.In.6D t475 37/?/J4-
CHARITY COMMISSION FOR ENGLAND ANO WALES Independent examiner's report on the accounts Section A Independent Examiner's Report Report to the trusteesl members of GcLrn 6kC h 3113]> On accounts for the year ended Charity no lif any) Iiq6qq ) Sot out on pages I report to the tnfrslees on my examination of the accounts of the above charty {"the Trust") for the year ended Re$ponslbi1Sties and basis of report As the charitys trustees. you are responsible for the preparation of the accounts in accordance with the requirements of the Charities Ad 2011 I"Ihe Act-l. I rewt in respect of my examinatK)n of the Trust's accounts carried out under section 145 of Ihe 2011 Act and in ¢arying out my examination, I have followed all the aPpIable Directions given by the Charity ComMissn under sedKJn 1451511b) of the Act. Independent I examiner's statement Ing a qua member of linsert name of I have ¢ompFeled my examination. I confim that no material matters h8ve come to my attention in connection with the examination lolhef Ihan that disclosed below ') which gives me cause to belbeve that in, any material respect.. the accounting records were not kepl in accordance wrth SeCtn 130 of the Chanlies Act.. or the accounts did not accord with the accounting records.. or the accounts did not comply with the applicable requirements concerning the fom and content of accounts sel out in the Charities (Accounts and Reports) Regulations 2008 other than any requirement that the accounts give a 'true and fair, view which is not a matter considered as part of an independent examination. I have no concerns and have ccrfne across no other matters in connection with the examination to which attention should be drawn in this report in order lo enabbe a proper understanding of the accounts to be reached. ' Please delete the vrdS in the brackets rf they do not 8ppIy. Slgned: Dat•: Name: f NJ goNJr S Relevant professlonal qualiflcation{sl or body .q,*f iéc hiV&XLn IER Oct 2018
{rfany): Address: Section B Disclosure Only complete Il the examiner needs to highlight material matters of concern (see CC32, Independent examin*ion of charity accounts.. directions and guKlance for examiners). Give here brief details of any items that the examiner wishes to dlsclose. IER Oct 2018