Cylch Meithrin Seiont a Pheblig
Adroddiad a Datganiadau Ariannol Blwyddyn hyd 31[ain] Mawrth 2023
Rhif Elusen Gofrestredig: 1195099
Cylch Meithrin Seiont a Pheblig
Gwybodaeth Cyffredinol
Ymddiriedolwyr
Ms Lowri Thomas Jones (Cadeirydd) Ms Angharad Fflur Jones (Is-Gadeirydd) Ms Elin Jones (Ysgrifenyddes) Ms Elin Mair Roberts (Is-Ysgrifennydd)
Trysorydd / Treasurer
Mrs Mererid Mair Williams (Trysorydd) Ms Ffion Williams (Is-Drysorydd)
Swyddfa Gofrestredig
Cylch Meithrin Seiont a Pheblig, Canolfan Noddfa, Cil Peblig, Caernarfon, Gwynedd
Cyfrifydd
A. Hughes-Jones, Dyson a’i Cwmni Capel Moreia, South Penrallt, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1NS.
Bancwyr
HSBC Bank Plc
1
Cylch Meithrin Seiont a Pheblig
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn yn diweddu 31[ain] Mawrth 2023
Mae’n bleser gan yr ymddiriedolwyr gyflwyno eu hadroddiad a datganiadau ariannol yr elusen am y flwyddyn yn diweddu i 31[ain] Mawrth, 2023. Mae’r adroddiadau wedi eu paratoi yn unol a chyfansoddiad yr elusen darpariaethau yn y Datganiad o Ymarferion Cymeradwy – “Cyfrifo ac Ymadrodd gan Elusennau” ac yn cydymffurfio gyda’r gyfraith berthnasol.
Amcanion a Gweithgareddau
Mae’r elusen yn gweithredu dan gyfansoddiad wedi eu greu gan Fudiad Ysgolion Meithrin (MYM) sydd yn cael ei ddefnyddio gan bob meithrinfa sydd yn aelod o MYM.
Mae ymddiriedolwyr yn cael eu apwyntio pob blwyddyn yn y Cyfarfod Blynyddol drwy gytundeb y pwyllgor rheoli. Mae apwyntiad ymddiriedolwyr ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn cael ei wneud trwy gytundeb pwyllgor rheoli.
Prif amcan yr elusen yw rhoi addysg cyn ysgol i blant rhwng dwy a hanner a phedair oed am ddeg awr a dau ddeg pum munud yr wythnos.
Strwythur a Threfniant
Mae’r elusen yn cael ei rhedeg gan bwyllgor o chwech o ymddiriedolwyr sydd fel arfer yn rieni plant sydd yn mynychu’r ysgol. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter ac mae pennaeth yr ysgol a dwy aelod o’r staff yn mynychu’r cyfarfodydd. Nid oes gan aelodau’r staff bleidlais yn y pwyllgor. Mae gweithgareddau dydd i ddydd yr elusen yn nwylo’r staff cyflogedig sydd yn cael pwyllgor yn fisol.
Perthynas ag elusennau eraill
Mae’r ysgol yn aelod o Fudiad Ysgolion Meithrin, sydd yn elusen fydd yn cefnogi pob Meithrinfa Gymraeg gyda chyngor a grantiau.
Datblygiadau Gweithgareddau a’r hyn a Gyflawnwyd
Roedd gan yr ysgol nifer arferol o blant, tua chwech ar hugain yn sesiwn y bore a’r prynhawn gyda llawer mwy ar y gofrestr aros.
Nid oedd newidiadau sylweddol yng ngweithgareddau’r elusen yn ystod y flwyddyn, ac nid oes unrhyw ddigwyddiadau sy’n effeithio’r elusen wedi digwydd ers ddiwedd y flwyddyn.
Nid oes newidiadau wedi eu trefnu; blaenoriaeth yr ymddiriedolwyr yw i barhau i addysgu plant cynysgol yr ardal mewn awyrgylch gynnes a chyfeillgar.
Cyfraniad Gwirfoddolwyr
Ar adegau, yn enwedig yn ystod tymor yr haf caiff yr elusen gymorth gan rai o’r rhieni,sydd yn werthfawr iawn. Mae’r elusen yn ffodus i dderbyn cymorth gan wirfoddolwyr eraill ac mae’r ymddiriedolwyr yn ddiolchgar iawn am eu help. Mae’r gwirfoddolwyr i gyd yn derbyn cyngor gan y Pennaeth ac aelodau’r pwyllgor am beth a ddisgwylir ganddynt.
2
Cylch Meithrin Seiont a Pheblig
Adroddiad yr ymddiriedolwyr (parhad)
Codi arian
Cafodd yr elusen flwyddyn lwyddiannus gyda chodi arian, a chodwyd swm o £2,291. Cyflawnwyd hyn trwy drefnu disgo, thripiau, cerdyn peldroed, raffl a chalendr. Mae’r elusen wedi eu lleoli mewn ardal difreintiedig ac mae nifer o rieni’r plant sy’n mynychu’r feithrinfa ar gefnogaeth incwm, felly fe fydd yn anodd casglu symiau mawr o arian pob amser, ond mae’r ymddiriedolwyr yn hapus iawn gyda’r swm a gasglwyd yn ystod y flwyddyn.
Adolygiad risg
Mae’r ymddiriedolwyr wedi adolygu y risgiau mwyaf y mae’r elusen yn wynebu, yn arbennig rhai sydd wedi effeithio ar weithgareddau a chyllid yr elusen, ac maent yn fodlon fod systemau mewn lle i leddfu ein datguddiad i’r risgiau mwyaf.
Polisi a chronfeydd
Cedwir cronfeydd at gostau rhedeg dydd i ddydd yr elusen sydd i fod yn ddigonol am wariant pedwar mis os bydd i’r incwm gyffredinol orffen. Roedd cronfeydd o £15,885 yn y banc ar 31[ain] Mawrth 2023.
Ymddiriedolwr Awdurdodedig: Ms Lowri Thomas Jones – Cadeirydd y Bwrdd
Cafodd yr Adroddiad ei chymeradwyo:
Llofnod: ………………………………..
Ms Lowri Thomas Jones - Cadeirydd y Bwrdd
3
Cylch Meithrin Seiont a Pheblig
Adroddiad yr Arweinydd am y flwyddyn yn diweddu 31[ain] Mawrth 2023
STAFF 2022 / 2023
-
Karen Evans - Arweinydd
-
Wendy Jones – Is-Arweinydd, Arweinydd Ti a Fi
-
Angela Roberts - Cynorthwyydd Ffion Roberts- Cynorthwyydd Claire Griffiths – Cynorthwyydd
-
Ffion Ann Jones – Cynorthwyydd
-
Tiffany Colton – Cymorthydd un i un
-
Leanne Lovell – Cymorthydd
-
Rhiannon Evans - Cymorthydd
-
Melanie Jones - Person Cofrestredig
Hoffai’r staff, plant a pwyllgor y Cylch ddymuno yn dda iawn i Bethan Owen ag Elaine B Davies sydd wedi ein gadael yn ystod y flwyddyn i gychwyn swyddi newydd. Dymunwn yn dda i Claire Griffiths hefyd ar enedigaeth ei mab Ellis.
Pwyllgor 2022/ 2023 Cadeirydd Lowri Thomas Jones Is-Gadeirydd Angharad Fflur Jones Ysgrifennydd Elin Jones Is-Ysgrifennydd Elin Mair Roberts Trysorydd Mererid Mair Williams Is-Drysorydd Ffion Williams
Person Cofrestredig Melanie Jones
Hyfforddiant
Mae holl staff y cylch wedi bod yn brysur eto'r flwyddyn hon gyda hyfforddiant newydd:
-
Cymorth Cyntaf Pediatrig
-
Gofalu’n Ddiogel a Chwythu’r bib
-
Diogelu Plant
-
Cyfnod Sylfaen
-
Elklan lefel 2/3
-
Makaton
-
Hylendid Bwyd
-
Trosglwyddo
-
Gwybodaeth AGC
-
Iaith, Llefaredd ac anghenion arbennig
-
Schema
-
In the Moment Planning
-
ADY
Mae blwyddyn arall bron â dod i ben! Mae Tymor yr Haf wedi bod yn dymor hapus a phrysur. Rydym wedi cael 26 o blant yn y ddwy sesiwn yn ddyddiol a llawer mwy ar y gofrestr. Mae’r cylch yn cefnogi'r Cynllun Gwen a mae pob plentyn yn cymryd rhan i olchi dannedd yn ystod y sesiwn. Mae’r Cylch hefyd yn dilyn Cynllun Cyn Ysgol Iach.
Mae’r Cylch bellach wedi ei sefydlu yn CIO – ‘Charitable Incorporated Organisation’. Diolch i’r Mudiad Meithrin am ein cefnogi i lwyddo hyn.
4
Cylch Meithrin Seiont a Pheblig
Adroddiad yr Arweinydd (Parhad)
Rydym wedi cofrestru gyda Dechrau’n Deg am flwyddyn arall, mae hyn yn rhoi llawer o gyfleoedd i blant fynychu'r cylch am ddim a chael mynediad i ddiwrnodau hwyl i'r teulu yn Noddfa a Phlas Pawb. Drwy Ddechrau'n Deg fe fydd y Cylch yn cael cynnig mynd ar hyfforddiant newydd a chael adnoddau newydd yn flynyddol. Mae’r plant wedi cael sesiynau Camau Cerdd gyda’r staff unwaith yr wythnos. Mae hyn wedi helpu'r plant i ddatblygu eu dawn gerddorol ac i adnabod tôn a rhythm.
Diolch i Morrisons, mae’r Cylch wedi derbyn rhoddion o flodau a phlanhigion i’w plannu o amgylch Noddfa. Cafwyd trip diwedd y flwyddyn i Parc Sipsiwn. Cafodd y plant a rhieni ddiwrnod llawn hwyl.
Cafodd y staff a plant fynychu sioe Dewin a Doti yn y Galeri eto y flwyddyn hon.
Mae’r Cylch wedi derbyn Grant gan Dechrau’n Deg, i gael adnoddau chwarae yn yr awyr agored, a wedi derbyn adnoddau gan Wild Elements. Mae’r Cylch yn cael ei addasu i adnoddau naturiol, mae’r arweinydd wedi hel coed sydd wedi disgyn er mwyn ei rhoi tu mewn o amgylch y Cylch, i gyd-fynd a ‘In the Moment Planning’.
Grantiau rydym wedi eu derbyn y flwyddyn hon
-
Tanwariant Dechrau'n Deg i brynu adnoddau
-
Grant Mudiad Meithrin
Mae’r Cylch hefyd yn cyd-weithio a:
-
Easy Fundraising
-
Fare Share
Codi Arian
Pob blwyddyn yr ydym yn annog y rhieni, plant a’r pwyllgor i weithio yn galed i godi arian tuag at y gwaith. Cawson ddiwrnod codi arian gyda rhieni wrth fynd am dro o amgylch Castell Caernarfon a darfod y daith yn y maes chwarae, rhoddod hyn y cyfle i rhieni gyfarfod ei gilydd.
Diolch i’r Staff am drefnu Ffair Nadolig hynod lwyddiannus. Roedd Groto Sion Corn wedi ei greu yn yr ystafell gefn yn ogystal a stondinau amrywiol gyda busnesau lleol. Codwyd £1,000 yn y ffair.
Trefnwyd gweithgaredd codi arian ‘cerdyn pel-droed’ lle roedd rhieni yn ‘gwerthu’ timau peldroed! Diolch i bawb wnaeth gefnogi a helpu i gasglu noddwyr. Trefnodd y Cylch hefyd:
Gwerthu wyau Pasg ( wedi cael ei gweu gan Carol Morris)
Gwerthu addurniadau a calendrau Nadolig./Ffram Sul y Mamau
Ail Gylchu dillad drwy brosiect Bin Dillad Antur Waunfawr
Diolchiadau
Hoffwn gloi gan ddiolch yn fawr iawn i’r holl staff, rhieni a’r pwyllgor am eich holl gefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Diolch arbennig i Bwyllgor Gwaith Canolfan Noddfa sydd wedi bod yn gefnogol dros ben. Diolch i'r gofalwr am yr holl waith ychwanegol yn y cylch.
Karen Evans
Arweinydd
5
Cylch Meithrin Seiont a Pheblig
Datganiad o Weithredoedd Ariannol (yn cynnwys cyfrif incwm a gwariant) am y flwyddyn yn diweddu 31[ain] Mawrth 2023
| Anghyfyngedig | Cyfyngedig | 2023 | 2022 |
|
|---|---|---|---|---|
| £ | £ | £ | £ | |
| Adnoddau cyllid | ||||
| Gweithgareddau i hyrwyddo | ||||
| amcanion yr elusen: | ||||
| Grantiau | 100,633 | - | 100,633 | 93,626 |
| Gweithgareddau i godi arian: | ||||
| Ffioedd y Plant | 11,561 | - | 11,561 | 9,595 |
| Codi arian | 2,341 | - | 2,341 | 2,723 |
| Grantiau Covid: | ||||
| Cynllun Cadw Swyddi | - | - | - | 3,465 |
| Llog derbyniadwy | 17 | - | 17 | 1 |
| ______ | _ | _ | _ | |
| Cyfanswm adnoddau i mewn | 114,552 | - | 114,552 | 109,410 |
| ______ | _ | _ | _ | |
| Gwariant elusennol | 111,909 | - | 111,909 | 119,139 |
| Gwariant i greu cronfeydd | 224 | - | 224 | 135 |
| _ | _ | _ | _ | |
| Cyfanswm gwariant | 112,133 | - | 112,133 | 119,274 |
| _ | _ | _ | _ | |
| Incwm / (Colled) net am y flwyddyn | 2,419 | - | 2,419 | (9,864) |
| Cronfeydd ar 1afo Ebrill 2022 | 23,779 | - | 23,779 | 33,643 |
| _ | _ | _ | ||
| Cronfeydd ar 31ainMawrth 2023 | 26,198 | - | 26,198 | 23,779 |
| _ | _ | _ |
6
Cylch Meithrin Seiont a Pheblig
Mantolen ar 31[ain] Mawrth 2023
| Nodyn 2023 | 2022 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Buddiannau cyfredol | ||
| Asedau Sefydlog | 2,544 | 2,847 |
| Derbynwyr a Blaendaliadau | 9,056 | 10,016 |
| Arian yn y banc ac mewn llaw | 17,487 | 13,767 |
| ______ | ______ | |
| 29,087 | 26,630 | |
| Rhwymedigaethau | ||
| Croniadau | 1,928 | 1,857 |
| Treth ac Yswiriant Cenedlaethol | 961 | 994 |
| ______ | ______ | |
| 2,889 | 2,851 | |
| _____ | _____ | |
| Asedau cyfredol net | 26,198 | 23,779 |
| ______ | ______ | |
| Cronfeydd | ||
| Cronfeydd anghyfyngedig | 26,198 |
23,779 |
| Cronfeydd cyfyngedig | - | - |
| ______ | ______ | |
| 26,198 | 23,779 | |
| ______ | ______ |
Asedau Anariannol
Mae’r elusen yn preswylio canolfan cymdeithasol yng Nghaernarfon.
Mae gan yr elusen offer a dodrefn (heb wybod y gost) yn cynnwys byrddau a chadeiriau, uned eistedd, ty chwarae, sglefren fawr, teganau a siglen, tywod a byrddau dwr, offer cegin a rhestr eang o deganau llai, llyfrau a offer dylunio. Mae’r offer mwyaf mewn cyflwr gweddol dda ac oddeutu pymtheg mlwydd oed.
Ar ran y pwyllgor rheoli
........................................... .......................................... Ms Lowri Thomas Jones - Cadeirydd
Mrs Mererid Mair Williams – Trysorydd
7
Cylch Meithrin Seiont a Pheblig
Nodiadau parthed y datganiadau ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31[ain] Mawrth 2023
1. Polisïau cyfrifyddol
a) Confensiwn cyfrifeg
Mae’r datganiadau ariannol wedi eu darparu dan y confensiwn cost hanesyddol. Maent wedi eu paratoi i adlewyrchu’r Datganiad Ymarferion Cymeradwy “Cyfrifo ac Ymadrodd gan Elusennau” ac yn cydymffurfio gyda’r gyfraith perthnasol.
b) Cronfeydd
Cronfeydd cyffredinol yw’r cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i’w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb gael eu clustnodi ar gyfer unrhyw bwrpas penodol arall.
2. Grantiau a dderbyniwyd
| Cronfeydd | Cronfeydd | Cyfanswm | Cyfanswm | |
|---|---|---|---|---|
| Anghyfyngedig | Cyfyngedig | 2023 | 2022 | |
| £ | £ | £ | £ | |
| Mudiad Ysgolion Meithrin | - | - | - | - |
| Cynllun Cyfeirio | - | - | - | 2,032 |
| Cyngor Gwynedd | 16,815 | - | 16,815 | 17,448 |
| Dechrau’n Deg | 70,517 | - | 70,517 | 50,856 |
| Cynllun Gofal Plant 30 Awr | 313 | - | 313 | 236 |
| Grantiau eraill | 12,988 | - | 12,988 | 7,439 |
| Grantiau Cyfalaf Dechrau’n Deg | - |
- | - | 919 |
| Mudiad Meithrin Grant Argyfwng | - |
- | - | - |
| Grant Adnodd | - | - | - | 14,696 |
| _ | _ | _ | _ | |
| 100,633 | 100,633 | 93,626 | ||
| _ | _ | _ | _ |
8
Cylch Meithrin Seiont a Pheblig
Nodiadau parthed y datganiadau ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31[ain] Mawrth 2023
3. Cyfanswm adnoddau a ddefnyddiwyd
| Cyfanswm | Cyfanswm | ||
|---|---|---|---|
| 2023 | 2022 | ||
| £ | £ | ||
| Costau Elusennol | |||
| Cyflogau | 99,115 | 90,932 | |
| Ffôn | - | 191 | |
| Offer a defnyddiau | 1,030 | 7,233 | |
| Bwyd a diod | - | - | |
| Adnewyddu a Thrwsio | 3,885 | 13,049 | |
| Costau swyddfa | 780 | 584 | |
| Llogi ystafell | 5,200 | 5,471 | |
| Cyfrifon | 492 | 492 | |
| Cyrsiau | - | - | |
| Ffioedd y Banc | 74 | 16 | |
| Dibrisiant | 304 | 345 | |
| Costau eraill | 1,029 | 826 | |
| Costau i Greu Cronfeydd | |||
| Costau Trip | 224 | 135 | |
| _ | ______ | ||
| 112,133 | 119,274 | ||
| _ | _ | ||
| **3. ** | Costau staff | ||
| 2023 | 2022 | ||
| £ | £ | ||
| Cyflogau | 96,044 | 87,607 | |
| Yswiriant Cenedlaethol | 1,633 | 2,096 | |
| Pensiwn | 1,438 | 1,229 | |
| _ | _ | ||
| 99,115 | 90,932 |
Ar gyfartaledd, nifer y gweithwyr llawn amser oedd 6 (2022 – 6). Ni dderbyniodd unrhyw aelod o staff gyflog dros £50,000 (2022 – Dim).
Ni dalwyd unrhyw gyflog i’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn (2022 – dim). Ni ad-dalwyd unrhyw gostau ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn (2022 – Dim).
9