## **Cylch Meithrin Seiont a Pheblig** 

Adroddiad a Datganiadau Ariannol Blwyddyn hyd 31[ain] Mawrth 2023 

Rhif Elusen Gofrestredig: 1195099 



**Cylch Meithrin Seiont a Pheblig** 

## _**Gwybodaeth Cyffredinol**_ 

## **Ymddiriedolwyr** 

Ms Lowri Thomas Jones (Cadeirydd) Ms Angharad Fflur Jones (Is-Gadeirydd) Ms Elin Jones  (Ysgrifenyddes) Ms Elin Mair Roberts (Is-Ysgrifennydd) 

## **Trysorydd / Treasurer** 

Mrs Mererid Mair Williams (Trysorydd) Ms Ffion Williams (Is-Drysorydd) 

## **Swyddfa Gofrestredig** 

Cylch Meithrin Seiont a Pheblig, Canolfan Noddfa, Cil Peblig, Caernarfon, Gwynedd 

## **Cyfrifydd** 

A. Hughes-Jones, Dyson a’i Cwmni Capel Moreia, South Penrallt, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1NS. 

## **Bancwyr** 

HSBC Bank Plc 

1 



**Cylch Meithrin Seiont a Pheblig** 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr** _am y flwyddyn yn diweddu 31[ain] Mawrth 2023_ 

Mae’n bleser gan yr ymddiriedolwyr gyflwyno eu hadroddiad a datganiadau ariannol yr elusen am y flwyddyn yn diweddu i 31[ain] Mawrth, 2023. Mae’r adroddiadau wedi eu paratoi yn unol a chyfansoddiad yr elusen darpariaethau yn y Datganiad o Ymarferion Cymeradwy – “Cyfrifo ac Ymadrodd gan Elusennau” ac yn cydymffurfio gyda’r gyfraith berthnasol. 

## **Amcanion a Gweithgareddau** 

Mae’r elusen yn gweithredu dan gyfansoddiad wedi eu greu gan Fudiad Ysgolion Meithrin (MYM)  sydd yn cael ei ddefnyddio gan bob meithrinfa sydd yn aelod o  MYM. 

Mae ymddiriedolwyr yn cael eu apwyntio pob blwyddyn yn y Cyfarfod Blynyddol drwy gytundeb y pwyllgor rheoli. Mae apwyntiad ymddiriedolwyr ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn cael ei wneud trwy gytundeb pwyllgor rheoli. 

Prif amcan yr elusen yw rhoi addysg cyn ysgol i blant rhwng dwy a hanner a phedair oed am ddeg awr a dau ddeg pum munud yr wythnos. 

## **Strwythur a Threfniant** 

Mae’r elusen yn cael ei rhedeg gan bwyllgor o chwech o ymddiriedolwyr sydd fel arfer yn rieni plant sydd yn mynychu’r ysgol. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod bob chwarter ac mae pennaeth yr ysgol a dwy aelod o’r staff yn mynychu’r cyfarfodydd. Nid oes gan aelodau’r staff  bleidlais yn y pwyllgor. Mae gweithgareddau dydd  i ddydd yr elusen yn nwylo’r staff cyflogedig sydd yn cael pwyllgor yn fisol. 

## **Perthynas ag elusennau eraill** 

Mae’r ysgol yn aelod o Fudiad Ysgolion Meithrin, sydd yn elusen fydd yn cefnogi pob Meithrinfa Gymraeg gyda chyngor a grantiau. 

## **Datblygiadau Gweithgareddau a’r hyn a Gyflawnwyd** 

Roedd gan yr ysgol nifer arferol o blant, tua chwech ar hugain yn sesiwn y bore a’r prynhawn gyda llawer mwy ar y gofrestr aros. 

Nid oedd newidiadau sylweddol yng ngweithgareddau’r elusen yn ystod y flwyddyn, ac nid oes unrhyw ddigwyddiadau sy’n effeithio’r elusen wedi digwydd ers ddiwedd y flwyddyn. 

Nid oes newidiadau wedi eu trefnu; blaenoriaeth yr ymddiriedolwyr yw i barhau i addysgu  plant  cynysgol yr ardal mewn awyrgylch gynnes a chyfeillgar. 

## **Cyfraniad Gwirfoddolwyr** 

Ar adegau, yn enwedig yn ystod tymor yr haf caiff yr elusen gymorth gan rai o’r rhieni,sydd yn werthfawr iawn. Mae’r elusen yn ffodus i dderbyn cymorth gan wirfoddolwyr eraill ac mae’r ymddiriedolwyr yn ddiolchgar iawn am eu help. Mae’r gwirfoddolwyr i gyd yn derbyn cyngor gan y Pennaeth ac aelodau’r pwyllgor am beth a ddisgwylir ganddynt. 

2 



**Cylch Meithrin Seiont a Pheblig** 

## _**Adroddiad yr ymddiriedolwyr (parhad)**_ 

## **Codi arian** 

Cafodd yr elusen flwyddyn lwyddiannus gyda chodi arian, a chodwyd swm o £2,291. Cyflawnwyd hyn trwy drefnu disgo, thripiau, cerdyn peldroed, raffl a chalendr. Mae’r elusen wedi eu lleoli mewn ardal difreintiedig ac mae nifer o rieni’r plant sy’n  mynychu’r feithrinfa ar gefnogaeth incwm, felly fe fydd yn anodd casglu symiau mawr o arian pob amser,  ond mae’r ymddiriedolwyr yn hapus iawn gyda’r swm a gasglwyd yn ystod y flwyddyn. 

## **Adolygiad risg** 

Mae’r ymddiriedolwyr wedi adolygu y risgiau mwyaf y mae’r elusen yn wynebu, yn arbennig rhai sydd wedi effeithio ar weithgareddau a chyllid yr elusen, ac maent yn fodlon fod systemau mewn lle i leddfu ein datguddiad i’r risgiau mwyaf. 

## **Polisi a chronfeydd** 

Cedwir cronfeydd at gostau rhedeg dydd  i ddydd  yr elusen sydd i fod yn ddigonol am wariant pedwar mis os bydd  i’r incwm gyffredinol orffen. Roedd cronfeydd o £15,885  yn y banc ar 31[ain] Mawrth 2023. 

Ymddiriedolwr Awdurdodedig: Ms Lowri Thomas Jones  – Cadeirydd y Bwrdd 

Cafodd yr Adroddiad ei chymeradwyo: 

Llofnod: ……………………………….. 

Ms Lowri Thomas Jones - Cadeirydd y Bwrdd 

3 



**Cylch Meithrin Seiont a Pheblig** 

**Adroddiad yr Arweinydd** _am y flwyddyn yn diweddu 31[ain] Mawrth 2023_ 

## **STAFF 2022 / 2023** 

- Karen Evans - Arweinydd 

- Wendy Jones – Is-Arweinydd, Arweinydd Ti a Fi 

- Angela Roberts - Cynorthwyydd  Ffion Roberts- Cynorthwyydd  Claire Griffiths – Cynorthwyydd 

- Ffion Ann Jones  – Cynorthwyydd 

- Tiffany Colton – Cymorthydd un i un 

- Leanne Lovell – Cymorthydd 

- Rhiannon Evans - Cymorthydd 

- Melanie Jones - Person Cofrestredig 

Hoffai’r staff, plant a pwyllgor y Cylch ddymuno yn dda iawn i Bethan Owen ag Elaine B Davies sydd wedi ein gadael yn ystod y flwyddyn i gychwyn swyddi newydd. Dymunwn yn dda i Claire Griffiths hefyd ar enedigaeth ei mab Ellis. 

**Pwyllgor 2022/ 2023 Cadeirydd** Lowri Thomas Jones **Is-Gadeirydd** Angharad Fflur Jones **Ysgrifennydd** Elin Jones **Is-Ysgrifennydd** Elin Mair Roberts **Trysorydd** Mererid Mair Williams **Is-Drysorydd** Ffion Williams 

**Person Cofrestredig** Melanie Jones 

## **Hyfforddiant** 

Mae holl staff y cylch wedi bod yn brysur eto'r flwyddyn hon gyda hyfforddiant newydd: 

- Cymorth Cyntaf Pediatrig 

- Gofalu’n Ddiogel a Chwythu’r bib 

- Diogelu Plant 

- Cyfnod Sylfaen 

- Elklan lefel 2/3 

- Makaton 

- Hylendid Bwyd 

- Trosglwyddo 

- Gwybodaeth AGC 

- Iaith, Llefaredd ac anghenion arbennig 

- Schema 

- In the Moment Planning 

- ADY 

Mae blwyddyn arall bron â dod i ben! Mae Tymor yr Haf wedi bod yn dymor hapus a phrysur. Rydym wedi cael 26 o blant yn y ddwy sesiwn yn ddyddiol a llawer mwy ar y gofrestr. Mae’r cylch yn cefnogi'r Cynllun Gwen a mae pob plentyn yn cymryd rhan i olchi dannedd yn ystod y sesiwn. Mae’r Cylch hefyd yn dilyn Cynllun Cyn Ysgol Iach. 

Mae’r Cylch bellach wedi ei sefydlu yn CIO – ‘Charitable Incorporated Organisation’. Diolch i’r Mudiad Meithrin am ein cefnogi i lwyddo hyn. 

4 



**Cylch Meithrin Seiont a Pheblig** 

## _**Adroddiad yr Arweinydd (Parhad)**_ 

Rydym wedi cofrestru gyda Dechrau’n Deg am flwyddyn arall, mae hyn yn rhoi llawer o gyfleoedd i blant fynychu'r cylch am ddim a chael mynediad i ddiwrnodau hwyl i'r teulu yn Noddfa a Phlas Pawb. Drwy Ddechrau'n Deg fe fydd y Cylch  yn cael cynnig mynd ar hyfforddiant newydd a chael adnoddau newydd yn flynyddol. Mae’r plant wedi cael sesiynau Camau Cerdd gyda’r staff unwaith yr wythnos. Mae hyn wedi helpu'r plant i ddatblygu eu dawn gerddorol ac i adnabod tôn a rhythm. 

Diolch i Morrisons, mae’r Cylch wedi derbyn rhoddion o flodau a phlanhigion i’w plannu o amgylch Noddfa. Cafwyd trip diwedd y flwyddyn i Parc Sipsiwn. Cafodd y plant a rhieni ddiwrnod llawn hwyl. 

Cafodd y staff a plant fynychu sioe Dewin a Doti yn y Galeri eto y flwyddyn hon. 

Mae’r Cylch wedi derbyn Grant gan Dechrau’n Deg, i gael adnoddau chwarae yn yr awyr agored, a wedi derbyn adnoddau gan Wild Elements. Mae’r Cylch yn cael ei addasu i adnoddau naturiol, mae’r arweinydd wedi hel coed sydd wedi disgyn er mwyn ei rhoi tu mewn o amgylch y Cylch, i gyd-fynd a ‘In the Moment Planning’. 

Grantiau rydym wedi eu derbyn y flwyddyn hon 

- Tanwariant Dechrau'n Deg i brynu adnoddau 

- Grant Mudiad Meithrin 

Mae’r Cylch hefyd yn cyd-weithio a: 

- Easy Fundraising 

- Fare Share 

## **Codi Arian** 

Pob blwyddyn yr ydym yn annog y rhieni, plant a’r pwyllgor i weithio yn galed i godi arian tuag at y gwaith. Cawson ddiwrnod codi arian gyda rhieni wrth fynd am dro o amgylch Castell Caernarfon a darfod y daith yn y maes chwarae, rhoddod hyn y cyfle i rhieni gyfarfod ei gilydd. 

Diolch i’r Staff am drefnu Ffair Nadolig hynod lwyddiannus. Roedd Groto Sion Corn wedi ei greu yn yr ystafell gefn yn ogystal a stondinau amrywiol gyda busnesau lleol. Codwyd £1,000 yn y ffair. 

Trefnwyd gweithgaredd codi arian ‘cerdyn pel-droed’ lle roedd rhieni yn ‘gwerthu’ timau peldroed! Diolch i bawb wnaeth gefnogi a helpu i gasglu noddwyr. Trefnodd y Cylch hefyd: 

        Gwerthu wyau Pasg ( wedi cael ei gweu gan Carol Morris) 

        Gwerthu addurniadau a calendrau Nadolig./Ffram Sul y Mamau 

         Ail Gylchu dillad drwy brosiect Bin Dillad Antur Waunfawr 

## **Diolchiadau** 

Hoffwn  gloi gan ddiolch yn fawr iawn i’r holl staff, rhieni a’r pwyllgor am eich holl gefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Diolch arbennig i Bwyllgor Gwaith Canolfan Noddfa sydd wedi bod yn gefnogol dros ben. Diolch i'r gofalwr am yr holl waith ychwanegol yn y cylch. 

Karen Evans 

## **Arweinydd** 

5 



**Cylch Meithrin Seiont a Pheblig** 

**Datganiad o Weithredoedd Ariannol (yn cynnwys cyfrif incwm a gwariant)** _am y flwyddyn yn diweddu 31[ain] Mawrth 2023_ 

||**Anghyfyngedig**|**Cyfyngedig**|**2023**|<br>**2022**|
|---|---|---|---|---|
||**£**|**£**|**£**|**£**|
|**Adnoddau cyllid**|||||
|Gweithgareddau i hyrwyddo|||||
|amcanion yr elusen:|||||
|Grantiau|100,633|-|100,633|93,626|
|Gweithgareddau i godi arian:|||||
|Ffioedd y Plant|11,561|-|11,561|9,595|
|Codi arian|2,341|-|2,341|2,723|
|Grantiau Covid:|||||
|Cynllun Cadw Swyddi|-|-|-|3,465|
|Llog derbyniadwy|17|-|17|1|
||______|_______|_______|_______|
|**Cyfanswm adnoddau i mewn**|114,552|-|114,552|109,410|
||______|_______|_______|_______|
|Gwariant elusennol|111,909|-|111,909|119,139|
|Gwariant i greu cronfeydd|224|-|224|135|
||_______|_______|_______|_______|
|**Cyfanswm gwariant**|112,133|-|112,133|119,274|
||_______|_______|_______|_______|
|**Incwm / (Colled) net am y flwyddyn**|2,419|-|2,419|(9,864)|
|Cronfeydd ar 1afo Ebrill 2022|23,779|-|23,779|33,643|
||_______|_______|_______||
|Cronfeydd ar 31ainMawrth 2023|26,198|-|26,198|23,779|
||_______|_______|_______||



6 



**Cylch Meithrin Seiont a Pheblig** 

**Mantolen** _ar 31[ain] Mawrth 2023_ 

||**_Nodyn_** **2023**|**2022**|
|---|---|---|
||**£**|**£**|
|**Buddiannau cyfredol**|||
|Asedau Sefydlog|2,544|2,847|
|Derbynwyr a Blaendaliadau|9,056|10,016|
|Arian yn y banc ac mewn llaw|17,487|13,767|
||______|______|
||29,087|26,630|
|**Rhwymedigaethau**|||
|Croniadau|1,928|1,857|
|Treth ac Yswiriant Cenedlaethol|961|994|
||______|______|
||2,889|2,851|
||_____|_____|
|**Asedau cyfredol net**|26,198|23,779|
||______|______|
|**Cronfeydd**|||
|Cronfeydd anghyfyngedig|26,198<br>|23,779|
|Cronfeydd cyfyngedig|-|-|
||______|______|
||26,198|23,779|
||______|______|



Asedau Anariannol 

Mae’r elusen yn preswylio canolfan cymdeithasol yng Nghaernarfon. 

Mae gan yr elusen offer a dodrefn (heb wybod y gost) yn cynnwys byrddau a chadeiriau, uned eistedd, ty chwarae, sglefren fawr, teganau a siglen, tywod a byrddau dwr, offer cegin a rhestr eang o deganau llai, llyfrau a offer dylunio. Mae’r offer mwyaf mewn cyflwr gweddol dda ac oddeutu pymtheg mlwydd oed. 

_Ar ran y pwyllgor rheoli_ 

........................................... .......................................... Ms Lowri Thomas Jones - Cadeirydd 

Mrs Mererid Mair Williams – Trysorydd 

7 



**Cylch Meithrin Seiont a Pheblig** 

**Nodiadau parthed y datganiadau ariannol** _am y flwyddyn yn diweddu 31[ain] Mawrth 2023_ 

## **1. Polisïau cyfrifyddol** 

## **a)    Confensiwn cyfrifeg** 

Mae’r datganiadau ariannol wedi eu darparu dan y confensiwn cost hanesyddol. Maent wedi eu paratoi i adlewyrchu’r Datganiad Ymarferion Cymeradwy “Cyfrifo ac Ymadrodd gan Elusennau” ac yn cydymffurfio gyda’r gyfraith perthnasol. 

## **b) Cronfeydd** 

Cronfeydd cyffredinol yw’r cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i’w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb gael eu clustnodi ar gyfer unrhyw bwrpas penodol arall. 

## **2. Grantiau a dderbyniwyd** 

||**Cronfeydd**|**Cronfeydd**|**Cyfanswm**|**Cyfanswm**|
|---|---|---|---|---|
||**Anghyfyngedig**|**Cyfyngedig**|**2023**|**2022**|
||**£**|**£**|**£**|**£**|
|Mudiad Ysgolion Meithrin|-|-|-|-|
|Cynllun Cyfeirio|-|-|-|2,032|
|Cyngor Gwynedd|16,815|-|16,815|17,448|
|Dechrau’n Deg|70,517|-|70,517|50,856|
|Cynllun Gofal Plant 30 Awr|313|-|313|236|
|Grantiau eraill|12,988|-|12,988|7,439|
|Grantiau Cyfalaf Dechrau’n Deg|<br>-|-|-|919|
|Mudiad Meithrin Grant Argyfwng|<br>-|-|-|-|
|Grant Adnodd|-|-|-|14,696|
||_______|_______|_______|_______|
||100,633||100,633|93,626|
||_______|_______|_______|_______|



8 



**Cylch Meithrin Seiont a Pheblig** 

**Nodiadau parthed y datganiadau ariannol** _am y flwyddyn yn diweddu 31[ain] Mawrth 2023_ 

## **3. Cyfanswm adnoddau a ddefnyddiwyd** 

|||**Cyfanswm**|**Cyfanswm**|
|---|---|---|---|
|||**2023**|**2022**|
|||**£**|**£**|
||**Costau Elusennol**|||
||Cyflogau|99,115|90,932|
||Ffôn|-|191|
||Offer a defnyddiau|1,030|7,233|
||Bwyd a diod|-|-|
||Adnewyddu a Thrwsio|3,885|13,049|
||Costau swyddfa|780|584|
||Llogi ystafell|5,200|5,471|
||Cyfrifon|492|492|
||Cyrsiau|-|-|
||Ffioedd y Banc|74|16|
||Dibrisiant|304|345|
||Costau eraill|1,029|826|
||**Costau i Greu Cronfeydd**|||
||Costau Trip|224|135|
|||_______|______|
|||112,133|119,274|
|||_______|_______|
|**3. **|**Costau staff**|||
|||**2023**|**2022**|
|||**£**|**£**|
||Cyflogau|96,044|87,607|
||Yswiriant Cenedlaethol|1,633|2,096|
||Pensiwn|1,438|1,229|
|||_______|_______|
|||99,115|90,932|



Ar gyfartaledd, nifer y gweithwyr llawn amser oedd 6 (2022 – 6). Ni dderbyniodd unrhyw aelod o staff  gyflog dros £50,000 (2022 – Dim). 

Ni dalwyd unrhyw gyflog i’r ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn (2022 – dim). Ni ad-dalwyd unrhyw gostau ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn (2022 – Dim). 

9 

