OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2022-03-31-accounts

ADRODDIAD BLYNYDDOL

GAIR O'R GADAIR 2021 -22

----- Start of picture text -----
ANNUAL
2022 2021 REPORT
----- End of picture text -----

MESSAGE FROM THE CHAIR 2021 -22

NEGES Y PRIF SWYDDOG 2021-2022

MESSAGE FROM THE CHIEF OFFICER 2021-2022

Yn ystod y cyfnod hwn fe wnaeth Menter Iaith Fflint a Wrecsam gynnal neu weithio mewn partneriaeth i gynnal 117

Uchafbwynt gwaith y

76 41

Dydd Gŵyl Dewi Y Fflint

Gorymdaith Gŵyl Ddewi Wrecsam

o ymweliadau ar Twitter a 100 o

During this time Menter Iaith Fflint a Wrecsam held or organised in partnership

117

Face to face 76 Online 41

The highlight of the

St David's Day - Flint

St David's Day Parade - Wrexham

INCWM / INCOME 2021-22

----- Start of picture text -----
56.52%
4.74%
0.11%
5.67%
0.86%
1.35%
5.99%
13.44%
5.61%
----- End of picture text -----

----- Start of picture text -----
25.15%
54.06%
15.61%
5.18%
----- End of picture text -----

"Amser gwych yn Parti Haf yn Parc Gwepra heddiw. Diolch @ProffLlusern a @fflintawrecsam, Edrych ymlaen i'r digwyddiad nesaf" Menna ar Twitter

"Diolch @fflintawrecsam for the super quiz! We had lots of fun having a go this afternoon and hearing some new Welsh songs to have a dance to! "

Ysgol Licswm - Dydd Miwsig Cymru 2022

Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 04000756 wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr. Elusen Gofrestredig Rhif: 1194088. Company Limited by Guarantee Registered in England and Wales. Registered Charity No: 1194088.

"Diolch am drefnu. Gorymdaith fendigedig. Fe wneaethom fwynhau yn fawr" Ysgol Bodhyfryd ar Twitter

"Dwi methu disgwyl! Diolch o galon @fflintawrecsam am y gwahoddiad i fod yn feirniad #DewiSiryFflint #DysguCymraeg Francesca ar Twiiter

menterfflintwrecsam.cymru

@menteriaithffaw @fflintawrecsam @menteriaithffaw

Rhif Cofrestru: 04000756 Rhif yr Elusen: 1194088

Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant Heb Gyfalaf Cyfrannol

Datganiadau Ariannol Am y Flwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth 2022 Sydd Wedi’u Paratoi Heb Archwiliad

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

Cynnwys
Tudalen
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr 1 - 4
Adroddiad yr archiliwr annibynnol 5
Datganiad o weithgareddau ariannol 6
Mantolen 7
Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol 8 – 17

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

CYFEIRNOD A MANYLION GWEINYDDOL.

Enw'r elusen gofrestredig Menter Iaith Fflint a Wrecsam Rhif cofrestru'r elusen: 1194088 (14 Ebrill 2021) Rhif cofrestredig y cwmni 04000756 (Cymru a Lloegr) Swyddfa gofrestredig Uned 3 Parc Busnes Yr Wyddgrug Ffordd Wrecsam Yr Wyddgrug Sir y Fflint CH7 1XP

Cyfarwyddwyr ac ymddiriedolwyr

Y cyfarwyddyr a fu’n gwasanaethu’r cwmni yn ystod y flwyddyn 1 Ebrill 2021 hyd at 31 Mawrth 2022 a’r ymddiriedolwyr a fu’n gwasanaethu’r elusen am y cyfnod 14 Ebrill 2021 hyd at 31 Mawrth 2022 oedd:

Cadeirydd G W Hughes Trysorydd D E Davies-Jones Ysgrifenydd N W Jones Cyfarwyddyr ac Ymddiriedolwyr eraill B M Williams H B Jones (ymddeol 19/10/2021) P A Lovell R A Evans G Lloyd S A Owen (ymddeol 07/12/2021) Ll Roberts M Ll Jones D James M Thomas

Cyfrifwyr Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell RHUTHUN Sir Ddinbych LL15 1DQ

1

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

Strwythur a rheolaeth

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn elusen gofrestredig, rhif 1194088, wedi ei sefydlu fel cwmni cyfyngedig, rhif 04000756. Mae cyfansoddiad y cwmni yn unol â chyfansoddiad elusennol a chwmnïau cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol. Cofrestrwyd Menter Iaith Fflint a Wrecsam fel elusen gofrestredig ar 14 Ebrill 2021, ac fel cwmni cyfyngedig, ar 24 Mai 2000.

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam (yr ‘Elusen’) yn cael ei gweinyddu a’i rheoli yn ôl y memorandwm ac erthyglau cymdeithasol y cwmni, a gan aelodau bwrdd y cyfarwyddwyr.

Mae aelodaeth yr Elusen yn agored i unigolion dros 16 oed ac unrhyw gymdeithas, gorfforedig neu anghorfforedig, sydd yn cytuno ag amcanion a gwaith yr Elusen, heb wahaniaethu rhwng pobl o safbwynt eu cyfoeth, gwleidyddiaeth, hil, crefydd, rhyw neu anabledd. Bydd i bob aelodfudiad benodi unigolyn i’w gynrychioli ac i bleidleisio.

Gall Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn unfrydol ac am reswm da, roi terfyn ar aelodaeth unrhyw unigolyn neu aelod-fudiad: cyhyd a bod gan yr unigolyn dan sylw neu gynrychiolydd penodedig yr aelod-fudiad dan sylw'r hawl i wrandawiad gan y Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yng nghwmni ffrind, cyn y gwneir penderfyniad terfynol.

Bwrdd y cyfarwyddwyr

Rheolir busnes yr Elusen gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr a fydd yn atebol i'r aelodau. Ni fydd gan unrhyw berson hawl i weithredu fel Cyfarwyddwr, boed hynny am, y tro cyntaf neu dro dilynol, hyd nes y bydd wedi llofnodi datganiad derbyn parodrwydd i weithredu er budd yr Elusen yn llyfr cofnodion Bwrdd y Cyfarwyddwyr.

Bydd Bwrdd y cyfarwyddwyr yn cynnwys dim llai na 8 o gyfarwyddwyr a dim mwy na 16 o gyfarwyddwyr.

Gall y Cyfarwyddwyr ar unrhyw adeg gyfethol unrhyw berson i Fwrdd y Cyfarwyddwyr cyn belled na fydd mwy nag un rhan o dair o Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn gyfetholedig a chyn belled na ragorir ar yr uchafswm a benodir yn erthygl 39, ac na wneir rhagor na thri chyfetholiad o’r fath rhwng un Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’r nesaf. Rhaid i bob person a gyfetholir fel hyn ymddiswyddo yn y Cyfarfod Blynyddol yn dilyn eu cyfetholiad, ond byddent yn gymwys i’w hailbenodi wedi hynny.

Ceir talu holl gostau teithio, gwesty a threuliau eraill rhesymol cyfarwyddwyr mewn perthynas â’u presenoldeb mewn cyfarfod Cyfarwyddwyr, pwyllgorau neu gyfarfod cyffredinol neu mewn perthynas â chyflawni eu dyletswyddau, ond fel arall ni fyddant yn derbyn tal.

Nod ac amcanion yr elusen

I hybu addysg drwy hyrwyddo'r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig drwy weithgareddau cymdeithasol, y celfyddydau a chwaraeon, er budd y cyhoedd.

2

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

Darparu budd i’r cyhoedd

Wrth gynllunio ein gwaith am y flwyddyn, mae aelodau’r pwyllgor sy’n gyfarwyddwyr / ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau a’r budd i’r cyhoedd. Yn benodol, ceisiwn gynorthwyo a chefnogi’r gymuned yn ei chyfanrwydd o ran hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg gan bob oedran. Rydym yn gweithio ar draws y ddwy sir gyfan a darparwn gyfleoedd i bobl wella proffil y Gymraeg a dwyieithrwydd, drwy ddarparu cyngor, cymorth, prosiectau a gweithgareddau penodol.

Adolygiad ariannol

Mae’r prif weithgareddau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys rhai i blant a phobl ifanc, mewn partneriaeth gyda grwpiau lleol eraill. Er bod cyfnod Covid-19 wedi llacio rhyw gymaint, fe barhaodd heriau i’n hwynebu a rydym yn falch o’r ffordd wnaethom ymateb i heriau dysgu i fyw gyda’r pandemig a'r sawl cyfnod o ansicrwydd a ddaeth yn ei sgil. Fe wnaeth ymroddiad ac ymrwymiad pawb, y staff a’r Bwrdd, ein galluogi i gyrraedd diwedd y flwyddyn ariannol honno fel sefydliad cryf, mewn sefyllfa ariannol iach, gyda gwell dealltwriaeth o ffyrdd amgen o weithio ynghyd â phrofiad helaeth mewn darparu’n ddigidol.

Roedd yr angen i ni barhau i gynnig gwasanaethau tra’n bod yn ymwybodol iawn o’n cyfrifoldeb i gadw pawb - ein staff a’r cyhoedd - yn ddiogel, ein gorfodi i feddwl mewn ffyrdd amgen, peidio ag ofni arbrofi, a dysgu sgiliau newydd. Un canlyniad annisgwyl i ni ddechrau cynnig mwy o weithgareddau ac adnoddau rhithiol ar lein yn ystod y cyfnodau clo oedd i ni ddarganfod ein bod wedi llwyddo i gysylltu â nifer o bobl newydd, pobl wahanol i’r rhai byddem wedi disgwyl eu gweld yn mynychu ein digwyddiadau wyneb yn wyneb. Wrth i ni gael darparu mwy a mwy o gyfleoedd wyneb yn wyneb yn 2022, fe wnaethom hefyd sicrhau bod yr arlwy digidol yn parhau er mwyn cadw’r cysylltiadau newydd hynny.

Yn ystod y flwyddyn heriol hon fe wnaeth Menter Iaith Fflint a Wrecsam barhau i arloesi ac addasu er mwyn diwallu anghenion ein cymunedau. Rydym yn hyderus i ni lwyddo i gyflawni ein gweledigaeth o hyrwyddo ac ehangu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yn siroedd Y Fflint a Wrecsam.

Campau a gyflawnwyd

Am ddarlun mwy manwl o weithgareddau’r flwyddyn sy’n cyflawni nodau ac amcanion yr elusen ac yn rhoi budd i’r cyhoedd gweler Adroddiad Blynyddol yr elusen.

Perfformiad Ariannol yr Elusen

Mae cyfanswm yr adnoddau a dderbyniwyd am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022 wedi codi o £222,806 i £238,044, sef cynydd o £15,238 (6.8%) ar y flwyddyn flaenorol. Mae’r gyfradd llog yn parhau i fod yn isel iawn a derbyniwyd £7 o incwm buddsoddiad yn unig am y flwyddyn (2021 - £14). Mae cyfanswm yr adnoddau a dreuliwyd am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022 wedi codi o £200,979 i £214,573 sef cynydd o £13,594 (6.8%) ar y flwyddyn flaenorol. Cafwyd gwarged felly o £23,471 am y flwyddyn i gymharu â gwarged o £21,827 am y flwyddyn flaenorol.

Polisi Cronfeydd

Mae’n rhan o bolisi’r Elusen i gadw cronfeydd anghyfyngedig sef y cronfeydd rhyddion, ar lefel sy’n hafal i tua 3 mis o dreuliau anghyfyngedig. Mae hyn yn caniatáu cronfa ddigonol i dalu costau rheoli, gweinyddu a chynnal yr Elusen.

3

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

Polisi Buddsoddiad

Yr amcan buddsoddiad yw diogelu'r buddsoddiadau cyfredol yn erbyn chwyddiant ac i gael incwm rhesymol yn ôl. Mae perfformiad y buddsoddiadau yn cael eu hadolygu ar sail gyson trwy eu cymharu gyda maincfesuriad addas.

Rheolaeth Risg

Gwnaed arolwg gan y Cyfarwyddwyr ym meysydd busnes a gweithredu’r Elusen a gallant gadarnhau y byddai’r Elusen mewn sefyllfa i liniaru unrhyw risg ragweladwy.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Mae’r Elusen yn parhau i weithio yn agos gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a phartneriaid eraill i hybu’r iaith Gymraeg drwy Siroedd Fflint a Wrecsam gyfan. Mae’r Elusen hefyd yn parhau i ddatblygu presenoldeb ar y we a chyfryngau cymdeithasol drwy’r wefan a rhwydweithiau cymdeithasol, a hyn wedi dod yn bwysicach fyth ers i gyfyngiadau Covid-19 newid patrymau cymdeithasu, dysgu a hamddena.

Datganiad o Gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr

Mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr ar Fenter Iaith Fflint a Wrecsam at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi adroddiad yr ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol yn unol â chyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifeg y DU (Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig).

Mae cyfraith cwmnïau yn gofyn bod yr ymddiriedolwyr yn paratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi safbwynt cywir a theg ar faterion y cwmni elusennol fel y mae pethau ac o'r ffynonellau sy'n dod i mewn a defnydd y ffynonellau, gan gynnwys incwm a gwariant y cwmni elusennol dros y cyfnod hwnnw. Fel rhan o waith paratoi'r datganiadau ariannol, bydd gofyn i'r ymddiriedolwyr wneud y canlynol:

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion ariannol digonol sy'n datgelu, gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, beth ydy sefyllfa ariannol y cwmni elusennol ac yn eu galluogi nhw i sicrhau fod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio gyda Deddf Cwmnïau 2006. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r cwmni elusennol ac felly hefyd dros gymryd camau rhesymol er mwyn rhwystro a datgelu unrhyw dwyll neu anghysondeb arall.

Cafodd adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr ei fabwysiadu ar 20 Rhagfyr 2022 a’i arwyddo ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr gan:

Llofnod G W Hughes
Enw G W Hughes
Safle Ymddiriedolwr - cadeirydd

4

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

ADRODDIAD YR ARCHWILIWR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR CWMNI ELUSENNOL MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM (‘y Cwmni’)

Adroddaf i’r ymddiriedolwyr elusen ar fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022.

Cyfrifoldebau a’r sail adrodd

Fel ymddiriedolwyr elusen y Cwmni (a hefyd ei gyfarwyddwyr at ddibenion y gyfraith cwmnïau), rydych yn gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (‘Deddf 2006’).

Ar ôl bodloni fy hun nad yw’n ofynnol i gynnal archiliwad ariannol o gyfrifon y Cwmni o dan Ran 16 o Ddeddf 2006 a’i fod yn gymwys i gael archwiliad annibynnol, adroddaf mewn perthynas â’m harchwiliad o gyfrifon eich elusen fel y cwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (‘Deddf 2011’). Wrth gynnal fy archwiliad, dilynais y Cyfarwyddiadau a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.

Datganiad yr archwiliwr annibynnol

Cwblheais fy archwiliad. Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw mewn perthynas â’r archwiliad sy’n rhoi achos i mi gredu:

Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â’r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o’r cyfrifon.

Arwyddwyd: R A Roberts

Dyddiad: 21 Rhagfyr 2022

R A Roberts, BSc, FCA Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell RHUTHUN Sir Ddinbych LL15 1DQ

5

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

Datganiad o weithgareddau ariannol (yn cynnwys crynodeb o gyfrif incwm a gwariant) am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022

2022 2022 2022 2021
Nodyn Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfyngedig Cyfygedig Cronfeydd Cronfeydd
£ £ £ £
Incwm
Incwm a gwaddoliadau
Rhoddion a chymynroddion 3 147,123 - 147,123 167,168
Gweithgareddau elusennol 4 71,635 16,409 88,044 55,451
Gweithgareddau masnachu arall 5 2,176 - 2,176 -
Incwm arall 6 694 - 694 173
Buddsoddiant 7 7 - 7 14
_ __ _ __
Cyfanswm incwm 221,635 16,409 238,044 222,806
_ __ _ _
Gwariant
Gwariant ar weithgareddau
elusennol 8 203,491 10,072 213,563 200,979
Costau eraill 10 1,010 - 1,010 -
_ __ _ __
Cyfanswm gwariant 204,501 10,072 214,573 200,979
_ __ _ _
Incwm / gwariant net 11 17,134 6,337 23,471 21,827
Trosglwyddiadau gros rhwng
cronfeydd - - - -
_ __ _ _
Symudiad net yn y cronfeydd 17,134 6,337 23,471 21,827
Cyfanswm cronfeydd 107,576 1,250 108,826 86,999
01 Ebrill 2021
_ _ _ __
Cyfanswm cronfeydd 124,710 7,587 132,297 108,826
31 Mawrth 2022 ======= ======= ======= =======

Mae holl weithgareddau’r cwmni yn cael eu hystyried yn rhai parhaol.

Nid oedd gan y cwmni enillion na cholledion heblaw am y gwarged am y flwyddyn.

Mae’r nodiadau ar dudalennau 8 i 17 yn rhan annatod o’r datganiadau ariannol yma.

6

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2022

Nodyn 2022 2021
£ £ £ £
Asedau sefydlog
Asedau cyffyrddadwy 17 7,499 3,741
Asedau cyfredol
Dyledwyr 18 26,052 38,904
Arian yn y banc 102,483 75,752
Arian mewn llaw 42 72
______ _
128,577 114,728
_ _
Credydwyr -yn daladwy
o fewn blwyddyn 19 3,779 9,643
_ _
Asedau cyfredol net 124,798 105,085
_ _
Asedau net £132,297 £108,826
======= =======
£ £
Cronfeydd wrth gefn
Cronfeydd anghyfyngedig 20 124,710 107,576
Cronfeydd cyfyngedig 20 7,587 1,250
_ _
Cyfanswm cronfeydd £132,297 £108,826
======= =======

Roedd gan y cwmni hawl i eithrio rhag archwilio’r datganiadau ariannol yn rhinwedd adran 477 o’r Ddeddf Cwmnïau 2006 yn berthnasol i gwmnïau bychan.

Nid yw’r aelodau wedi gofyn i’r cwmni gael archwiliad o’r datganiadau ariannol am y flwyddyn berthnasol yn unol ag adran 476;

Mae’r ymddiriedolwyr yn cydnabod eu dyletswyddau i gydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf ynglŷn â chadw cofnodion cyfrifyddu a pharatoi’r datganiadau ariannol.

Y mae’r datganiadau ariannol yma wedi eu paratoi mewn cytundeb â’r ddarpariaeth arbennig adran XV o ddeddf Cwmnïau 2006 sydd yn berthnasol i gwmnïau bach ac yn unol â FRS 102 SORP.

Mabwysiadwyd y datganiadau ariannol hyn gan fwrdd yr ymddiriedolwyr ar 20 Rhagfyr 2022 ac arwyddwyd ar eu rhan gan:

Llofnod: D E Davies-Jones

D E Davies-Jones Ymddiriedolwr (Trysorydd)

Mae’r nodiadau ar dudalennau 8 i 17 yn rhan annatod o’r datganiadau ariannol yma

7

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

1 Gwybodaeth Statudol

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn gwmni cyfyngedig drwy warant wedi'i gorffori yng Nghymru, yn y DU. Y swyddfa gofrestredig ydy Uned 3, Parc Busnes Yr Wyddgrug, Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1XP.

Caiff y datganiadau ariannol eu cyflwyno mewn punnoedd sterling (£), arian gweithredu'r cwmni, a'i dalgrynnu at y bunt agosaf.

Mae'r polisïau cyfrifyddu arwyddocaol sydd wedi'u defnyddio wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn wedi'u gosod isod. Mae'r polisïau wedi'u defnyddio yn gyson gyda phob blwyddyn gaiff ei chyflwyno, oni bai y nodir yn wahanol.

2 Polisïau Cyfrifyddu

Sail paratoi'r datganiadau ariannol

Mae datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sy'n endid budd cyhoeddus o dan FRS102, wedi'u paratoi yn unol â Datganiad o Arferion Argymelledig yr Elusen (FRS102) 'Cyfrifyddu ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Arferion Argymelledig sy'n berthnasol i elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â Safon Adrodd Ariannol perthnasol y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) (mewn grym 1 Ionawr 2019)', Safon Adrodd Ariannol 102 'Safon Adrodd Ariannol perthnasol y DU a Gweriniaeth Iwerddon' a Deddf Cwmnïau 2006. Mae'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi yn unol â'r confensiwn costau hanesyddol.

Busnes hyfyw

Paratowyd y datganiadau ariannol ar sail busnes hyfyw.

Er gwaethaf sefyllfa Covid-19 yn parhau i gael effaith mae'r elusen wedi parhau i weithredu yn y cyfnod cyfrifyddu cyfredol. Mae'r ymddiriedolwyr yn hyderus bydd yr elusen yn parhau i weithredu. Mae’r elusen wedi llwyddo i ddal gafael ar brif grantiau, nodi ffynonellau grantiau newydd, a chychwyn ar y broses o ymgeisio am sawl un. Ar ôl gwneud ymholiadau, mae gan yr ymddiriedolwyr ddisgwyliad rhesymol bod gan yr elusen adnoddau digonol i barhau mewn bodolaeth weithredol hyd y gellir rhagweld.

Mae’r ymddiriedolwyr wedi ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â dyfodol yr elusen, sydd o leiaf, ond heb ei gyfyngu i, ddeuddeg mis o ddyddiad cymeradwyo'r datganiadau ariannol yma.

Incwm

Caiff yr holl incwm ei gydnabod yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol unwaith bydd gan yr elusen hawl dros yr arian.

Incwm o weithgareddau elusennol

Mae incwm o weithgareddau elusennol yn cynnwys incwm wedi'i dderbyn trwy gytundeb neu lle mae hawl dros arian grant yn dibynnu ar amodau perfformio penodol. Caiff yr incwm hwn ei gydnabod wrth i'r gwasanaethau cysylltiedig gael eu darparu ac wrth gaffael yr hawl, bydd modd mesur tebygrwydd faint gaiff ei dderbyn a'r swm ei hun gyda digon o ddibynadwyedd. Caiff incwm ei ohirio pan gaiff swm ei dderbyn cyn perfformio'r gwasanaeth neu ddigwyddiad y mae'n gysylltiedig ag o.

8

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM

Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

2 Polisïau Cyfrifyddu - parhad

Incwm o fuddsoddiad

Caiff incwm o fuddsoddiad ei gydnabod pan gaiff ei derbyn.

Gwariant

Caiff dyledion eu cydnabod fel gwariant unwaith y bydd gorfodaeth ymarferol neu gyfreithiol sy'n ymrwymo'r elusen i'r gwariant hwnnw, mae'n debyg y bydd angen trosglwyddo buddion economaidd wrth ei dalu a bydd modd mesur swm yr orfodaeth yn ddibynadwy. Caiff gwariant ei ystyried ar sail croniadau ac mae wedi'i ddosbarthu o dan benawdau sy'n crynhoi'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r categori. Mae gwariant yn cynnwys unrhyw DAW nad oes modd ei hawlio yn ôl.

Mae ‘gwariant elusennol’ yn cynnwys y costau hynny mae'r elusen wedi'i wario wrth ddarparu ei gweithgareddau a'i gwasanaethau ar gyfer ei buddiolwyr. Mae'n cynnwys costau y mae modd eu dyrannu yn uniongyrchol tuag at weithgareddau o'r fath a'r costau hynny o natur anuniongyrchol sy'n angenrheidiol er mwyn eu cefnogi.

‘Costau cefnogi’ ydy'r costau hynny sy'n angenrheidiol er mwyn darparu gweithgaredd ond er hynny, tydyn nhw ddim yn cynhyrchu neu yn creu allbwn gweithgaredd yr elusen. Mae hyn yn cynnwys costau llywodraethol sef y costau hynny sy'n gysylltiedig gyda chwrdd â gofynion cyfansoddiadol a statudol yr elusen ac yn cynnwys y ffioedd a chostau cyfrifyddu sy'n gysylltiedig â rheolaeth strategol yr elusen yn ogystal â rhan o'r cyflogau sy'n seiliedig ar fras amcan o'r amser a dreuliwyd ar yr adran hon.

Asedau sefydlog cyffyrddadwy

Mae asedau sefydlog wedi'u cofnodi trwy gostau i ddechrau.

Dibrisiad

Caiff dibrisiad ei gyfrifo er mwyn dileu cost ased, llai o'i werth sy'n weddill dros fywyd economaidd defnyddiol yr ased fel a ganlyn:

Gwellianau Prydles - 10% ar sail llinell syth Offer swyddfa - 25% o’r balans gostyngol

Treth

Mae'r elusen wedi'i heithrio rhag treth gorfforaethol ar ei gweithgareddau elusennol.

Cyfrifyddu cronfeydd

Mae cronfeydd anghyfyngedig ar gael i'r elusen eu defnyddio, fel y gwêl yr ymddiriedolwyr yn ddoeth, at unrhyw ddiben sy'n ymwneud ag amcanion yr elusen.

Mae cronfeydd cyfyngedig wedi'u derbyn yn amodol gan y rhoddwyr at y diben sydd wedi'i bwriadu ar eu cyfer.

Offerynnau ariannol

Does gan yr elusen ddim ond asedau ariannol a dyledion ariannol o natur sy'n cymhwyso fel offerynnau ariannol syml. Caiff offerynnau ariannol syml eu hadnabod yn gyntaf drwy werth trosglwyddo ac yna eu mesur trwy eu gwerth talu.

9

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

2 Polisïau Cyfrifyddu - parhad

Dyledwyr

Caiff dyledwyr masnachu a dyledwyr eraill eu cydnabod trwy'r swm talu sy'n ddyledus ar ôl cynnig unrhyw ostyngiad masnachu.

Caiff taliadau o flaen llaw eu prisio ar y swm net a dalwyd o flaen llaw ar unrhyw ostyngiad dyledus.

Credydwyr

Caiff credydwyr eu cydnabod lle bo gan yr elusen orfodaeth bresennol o ganlyniad i ddigwyddiad blaenorol fydd mwy na thebyg yn arwain at drosglwyddo cronfeydd at drydydd parti a bydd modd mesur neu amcangyfrif y swm sy'n ddyledus er mwyn talu’r orfodaeth yn ddibynadwy. Caiff credydwyr gan amlaf eu cydnabod trwy eu swm talu ar ôl caniatáu ar gyfer unrhyw ostyngiadau masnachu sy'n ddyledus.

Costau pensiwn

Mae'r cwmni elusennol yn gweithredu cynllun cyfraniad pensiwn diffiniedig. Caiff costau cyfraniadau sy'n daladwy i gynllun pensiwn y cwmni elusennol eu codi ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer y cyfnod perthnasol.

Mae'r cwmni elusennol yn gwneud cyfraniadau i gynlluniau pensiwn personol ar ran ei gyflogai. Caiff costau eu codi ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer y cyfnod perthnasol.

3 Rhoddion a chymynrhoddion

Rhoddion a chymynrhoddion
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfynedig Cyfyngedig 2022 2021
£ £ £ £
Grant Llywodraeth Cymru 132,043 - 132,043 127,689
Grant Cyngor Sir y Fflint 11,080 - 11,080 11,080
Lwfans cyflogaeth 4,000 - 4,000 4,000
Grantiau ardrethi annomestig - - - 22,000
Cynllun cadw swyddi - - - 2,399
_ __ _ __
147,123 - 147,123 167,168
_ __ _ __

10

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

4 Incwm o weithgareddau elusennol

Cronfeydd Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm
Anghyfynedig Cyfyngedig 2022 2021
£ £ £ £
* Cist Cymunedol - - - 609
* Loteri Symud gyda Tedi - 13,245 13,245 6,477
* Cadwyn Clwyd Symud gyda Tedi - 3,164 3,164 4,703
* Cadwyn Clwyd Lleoliad Meithrinfa - - - 5,063
* Mentrau Iaith Cymru
Cymraeg Byd Busnes / Helo Blod 31,390 - 31,390 28,991
* Mentrau Iaith Cymru
Cyfiethu Proffiliau - - - 1,254
* Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi 3,366 - 3,366 3,200
* Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Meithrinfa 2,535 - 2,535 -
* Cyngor Sir y Fflint
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi 4,000 - 4,000 4,500
* Cyngor Sir y Fflint – Haf o Hwyl 13,101 - 13,101 -
* Cyngor Sir y Fflint – Gaeaf Llawn Lles 14,000 - 14,000 -
* Cyngor Sir y Fflint – Siopa Cudd 2,000 - 2,000 -
Incwm Partneriaid 1,243 - 1,243 654
_ __ _ __
71,635 16,409 88,044 55,451
_ __ _ __

* Cytundeb lefel gwasanaeth neu grant

5 Gweithgareddau masnachu eraill

Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfynedig Cyfyngedig 2022 2021
£ £ £ £
Incwm Partneriaid 2,176 - 2,176 -
_ __ _ __
2,176 - 2,176 -
_ __ _ __

11

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

6 Incwm Arall
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfyngedig Cyfyngedig 2022 2021
£ £ £ £
Incwm Arall 440 - 440 113
Mentrau Iaith Cymru
ad-daliad Cymraeg Byd Busnes 254 - 254 60
_ __ _ __
694 - 694 173
_ __ _ __
7 Incwm o fuddsoddiant
Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfyngedig Cyfyngedig 2022 2021
£ £ £ £
Llog derbyniwyd 7 - 7 14
_ __ _ __
7 - 7 14
_ __ _ __

8 Gwariant ar weithgareddau elusennol

Cronfeydd Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfynedig Cyfyngedig 2022 2021
£ £ £ £
Costau gweithgareddau elusennol
cyffredin
Cyflogau staff 113,585 - 113,585 133,775
Nawdd cymdeithasol 9,275 - 9,275 10,343
Costau pensiwn staff 5,920 - 5,920 6,721
Hyfforddiant 754 - 754 -
Recriwtio 636 - 636 109
Prosiect – Y Teulu 3,324 - 3,324 693
Prosiect – Plant a Phobl Ifanc 4,118 - 4,118 1,252
Prosiect – Cymunedau/ Y Gweithle 3,451 - 3,451 1,330
Prosiect – Symud gyda Tedi - 10,072 10,072 6,457
Prosiect – Dathliadau DGD 4,931 - 4,931 6,483
Prosiect – Swyddog Cymunedau Dwyiethog
-
- - 29
Prosiect – Amgylcheddol Y Berllan - - - 120
Prosiect – Caru Bwyd, Casau Gwastraff 327 - 327 -
Prosiect – Costau Cymraeg Byd Busnes/
Helo Blod 246 - 246 82
Prosiect – Gaeaf Llawn Lles 10,036 - 10,036 -
Prosiect – Haf o Hwyl 5,859 - 5,859 -
Prosiect – Proffiliau Iaith 1,320 - 1,320 -
Rhent a hurio 4,615 - 4,615 3,844
Ardrethi annomestig 35 - 35 211
Costau gwasanaethu 1,780 - 1,780 1,555
______ ______ ______ ______
Cario ymlaen 170,212 10,072 180,284 173,004
______ ______ ______ ______

12

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM

Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

8 Gwariant ar weithgareddau elusennol (parhad)

Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfynedig Cyfyngedig 2022 2021
£ £ £ £
Dygwyd ymlaen 170,212 10,072 180,284 173,004
Yswiriant 1,494 - 1,494 1,394
Golau a gwres 589 - 589 -
Costau mesurau amddiffyn Cofid 19 1,301 - 1,301 805
Argraffu, post a phapur 745 - 745 620
Ffôn 1,273 - 1,273 1,227
Costau cyfrifiadurol 2,237 - 2,237 1,810
Costau cyfieithu - - - 120
Teithio a chynhaliaeth 421 - 421 149
Ffioedd proffesiynol 1,371 - 1,371 1,329
Costau eraill 318 - 318 47
Tanysgrifiadau ac aelodaeth 1,010 - 1,010 1,010
Dibrisiant 1,459 - 1,459 1,101
Colled ar waredu asedau - - - 53
______ ______ ______ ______
Cyfanswm costau gweithgareddau
Elusennol cyffredin 182,430 10,072 192,502 182,669
______ ______ ______ ______
Costau cefnogi
Cyflogau 9,492 - 9,492 8,955
Nawdd cymdeithasol 682 - 682 617
Costau pensiwn staff 592 - 592 533
Hyfforddiant 377 - 377 -
Recriwtio 318 - 318 54
Rhent a hurio 2,307 - 2,307 1,922
Ardrethi annomestig 17 - 17 105
Costau gwasanethau 890 - 890 777
Yswiriant 747 - 747 697
Golau a gwres 294 - 294 -
Costau mesurau amddifyn Covid-19 650 - 650 402
Argraffu, post a phapur 373 - 373 310
Ffôn 637 - 637 614
Costau cyfriadurol 1,119 - 1,119 905
Costau cyfieithu - - - 60
Ffioedd proffesiynnol 686 - 686 664
Costau Cyfrifo 1,150 - 1,150 1,116
Dibrisiant asedau cyffyrddadwy 729 - 729 550
Colled wrth waredu - - - 27
Treth gorfforaeth 1 - 1 2
______ ______ _ ______
Cyfanswm costau gefnogi 21,061 - 21,061 18,310
______ ______ _ ______
Cyfanswm gwariant ar
weithgareddau elusennol 203,491 10,072 213,563 200,979
______ ______ _ ______

13

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

9 Gwariant ar weithgareddau elusennol yn ôl math y gronfa

Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm
Anghyfyng Cyfyngedig 2022 Anghyfyng Cyfyngedig 2021
-edig -edig
£ £ £ £ £ £
Gwariant elusennol
182,430
10,072 192,502 176,212 6,457 182,669
Costau cefnogi 21,061 - 21,061 18,310 - 18,310
______ ______ ______ _ ______ ______
203,491 10,072 213,563 194,522 6,457 200,979
______ ______ ______ _ ______ ______

10 Costau eraill

Cronfeydd Cronfeydd Cyfanswm Cyfanswm
Anghyfynedig Cyfyngedig 2022 2021
£ £ £ £
Costau symud swyddfa 1,010 - 1,010 -
______ ______ ______ ______
1,010 - 1,010 -
______ ______ ______ ______

Roedd hefyd gwariant cyfalaf o fewn y flwyddyn yn ymwneud a symud swyddfa o £3,850 sydd wedi ei ddangos o fewn nodyn 17 – ‘Gwelliannau Prydles’.

11

Gwariant elusennol yn ôl gweithgareddau

Gweithgareddau Gweithgareddau Costau Cyfanswm Cyfanswm
Uniongyrchol Cefnogi 2022 2021
£ £ £ £
Gweithgareddau elusennol cyffredin 182,430 19,910 202,340 193,404
Gweithgareddau elusennol penodol 10,072 - 10,072 6,457
Costau llywodraethol - 1,151 1,151 1,118
______ ______ ______ ______
192,502 21,061 213,563 200,979
______ ______ ______ ______

12 Dadansoddiad o gostau cefnogi

Dadansoddiad o gostau cefnogi
Costau Cyfanswm Cyfanswm
Gweithgareddau 2022 2021
Hybu’r iaith
Gymraeg
£ £ £
Costau staff 11,461 11,461 10,159
Costau eiddo 729 729 577
Costau swyddfa gyffredinol 7,720 7,720 6,456
Costau llywodraethu 1,151 1,151 1,118
_ _ ______
21,061 21,061 18,310
_ _ ______

14

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

13 Gwariant / Incwm Net

Mae Gwariant net wedi ei ddatgan ar ôl codi: £
Dibrisiant 2,188

14 Taliadau a Budd-daliadau'r Ymddiriedolwyr

Ni thalwyd unrhyw gydnabyddiaeth na buddiant eraill i’r ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022 (2021 - £ Dim). Mae’r elusen yn ystyried mai ei phersonél rheoli allweddol ydy’r ymddiriedolwyr a’r prif swyddog. Cyfanswm buddiant cyflogaeth y personél rheoli allweddol, yn cynnwys cyfraniadau pensiwn, oedd £37,954 (2021 - £36,854).

Treuliau'r ymddiriedolwyr

Ni thalwyd unrhyw dreuliau i'r ymddiriedolwyr yn y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022 (2021- £ dim).

15 Costau staff

Costau staff
2022 2021
£ £
Cyflogau 123,077 142,730
Nawdd cymdeithasol 9,957 10,902
Cyfraniadau pensiwn 6,512 7,225
______ ______
139,546 160,857
______ ______

Mae'r elusen yn cyflogi 2 aelod o staff llawn amser ac 4 aelod o staff rhan-amser (2021 - 2 amser llawn ac 6 rhan amser). Ni enillodd unrhyw aelod o staff fwy na £60,000 y flwyddyn (2021: Dim). Mae'r elusen yn gweithredu cynllun pensiwn cyfraniad diffiniedig mewn perthynas â'r staff. Mae rheolwyr annibynnol yn dal y cynllun a'i asedau. Mae'r tâl pensiwn yn cynrychioli cyfraniadau sy'n ddyledus gan y cwmni a'u cyfanswm yw £6,512 (2021 - £7,225). Cyfraniadau sy'n ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn oedd £ dim (2021: £ dim).

16 Tâl yr Arolygwyr Annibynnol

Roedd tâl yr arholwr annibynnol yn gyfystyr â ffi cyfrifo ac arholi o £1,150 (2021 - £1,116).

15

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM

Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

17 Asedau cyffyrddadwy sefydlog Asedau cyffyrddadwy sefydlog
Gwelliannau Offer
Prydles Swyddfa Cyfanswm
Cost £ £ £
Ar 1 Ebrill 2021 - 10,918 10,918
Ychwanegiadau 3,850 2,096 5,946
Gwaredu - - -
_ _ _
Ar 31 Mawrth 2022 3,850 13,014 16,864
_ _ _
Dibrisiant
Ar 1 Ebrill 2021 - 7,177 7,177
Dibrisiant am y cyfnod 385 1,803 2,188
Dileu wrth waredu - - -
_ _ _
Ar 31 Mawrth 2022 385 8,980 9,365
_ _ _
Gwerth llyfr net
Ar 31 Mawrth 2022 £3,465 £4,034 £7,499
======= ======= =======
Ar 31 Mawrth 2021 £- £3,741 £3,741
======= ======= =======
17 Dyledwyr – yn ddyledus o fewn y flwyddyn 2022
2021
£
£
Dyledwr eraill 26,052
38,904
______
______
26,052
38,904
______
______
18 Credydwyr - yn ddyledus o fewn y flwyddyn 2022
2021
£
£
Treth gorfforaeth 1
3
Trethi a nawdd cymdeithasol -
-
Credydwyr eraill 3,778
9,640
______
______
3,779
9,643
______
______

16

MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM

Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig

NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL ( parhad ) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022

19 Dadansoddiad o gronfeydd elusennol

Ar 31 Incwm Gwariant Trosglwy Ar 31
Mawrth -ddiadau Mawrth
2021 2022
£ £ £ £ £
Cronfeydd cyfyngedig 1,250 16,409 (10,072)
-
7,587
Cronfeydd anghyfyngedig
107,576
221,635 (204,501)
-
124,710
_ _ _ _ _
Cyfanswm cronfeydd £108,826 £238,044 £(214,573)
£-
£132,297
_ _ _ _ _
Dadansoddiad o asedau net rhwng cronfeydd
Asedau Asedau Rhwymedig Cyfanswm
sefydlog Cyfredol -aethau
cyffyrddadwy net tymor hir
£ £ £ £
Cronfeydd cyfyngedig - 7,587 - 7,587
Cronfeydd anghyfyngedig 7,499 117,211 - 124,710
_ _ _ _
£7,499 £124,798 £ - £132,297
_ _ _ _

20 Dadansoddiad o asedau net rhwng cronfeydd

21 Trafodion gyda ymddiriedolwyr neu bersonau cysylltiedig neu debyg

Mae’r ymddiriedolwyr yn rhoi o’u hamser yn gwbl wirfoddol i gyfarfod, rheoli a chynnal gweithgaredd yr elusen, heb unrhyw dâl neu gydnabyddiaeth yn uniongyrchol nag yn anuniongyrchol o gronfa’r elusen am wneud hynny.

Yr unig eithriad yw cydnabyddiaeth ar ffurf ffi yn ymwneud â gwaith arbennig ar gyfer gweithgareddau’r elusen. Lle rhoir cydnabyddiaeth i ymddiriedolwyr am hynny, mae’n bolisi datgan yr hyn â gânt yn agored, a cheir dadansoddiad isod, felly, o’r taliadau i ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn adrodd.

Talwyd Bethan Williams am 3 sesiwn ioga i rieni a phlant yn ystod y flwyddyn am ffi o £360.

22 Ymrwymiadau ariannol arall

Ar 31 Mawrth 2022, roedd gan y cwmni ymrwymiadau o dan brydlesi gweithredol ni chaiff eu diddymu, dros weddill tymor y prydlesi yma o £1,512 (2021 - £4,236).

17