## **ADRODDIAD BLYNYDDOL**

## **GAIR O'R GADAIR 2021 -22**

**----- Start of picture text -----**

ANNUAL
2022 2021 REPORT
**----- End of picture text -----**

**MESSAGE FROM THE CHAIR 2021 -22**

## _**NEGES Y PRIF SWYDDOG 2021-2022**_

## _**MESSAGE FROM THE CHIEF OFFICER 2021-2022**_

Yn ystod y cyfnod hwn fe wnaeth Menter Iaith Fflint a Wrecsam gynnal neu weithio mewn partneriaeth i gynnal **117**

Uchafbwynt gwaith y

**76 41**

**Dydd Gŵyl Dewi Y Fflint**

## **Gorymdaith Gŵyl Ddewi Wrecsam**

o ymweliadau ar Twitter a 100 o

During this time Menter Iaith Fflint a Wrecsam held or organised in partnership

**117**

Face to face **76** Online **41**

The highlight of the

**St David's Day - Flint**

**St David's Day Parade - Wrexham**

## **INCWM / INCOME 2021-22**

**----- Start of picture text -----**

56.52%
4.74%
0.11%
5.67%
0.86%
1.35%
5.99%
13.44%
5.61%
**----- End of picture text -----**

**----- Start of picture text -----**

25.15%
54.06%
15.61%
5.18%
**----- End of picture text -----**

_"Amser gwych yn Parti Haf yn Parc Gwepra heddiw. Diolch @ProffLlusern a @fflintawrecsam,  Edrych ymlaen i'r digwyddiad nesaf"_ _**Menna ar Twitter**_

_"Diolch @fflintawrecsam for the super quiz! We had lots of fun having a go this afternoon and hearing some new Welsh songs to have a dance to! "_

**Ysgol Licswm - Dydd Miwsig Cymru 2022**

**Cwmni Cyfyngedig drwy Warant 04000756 wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr.  Elusen Gofrestredig Rhif: 1194088. Company Limited by Guarantee Registered in England and Wales. Registered Charity No: 1194088.**

_"Diolch am drefnu.  Gorymdaith fendigedig. Fe wneaethom fwynhau yn fawr"_ **Ysgol Bodhyfryd ar Twitter**

_"Dwi methu disgwyl! Diolch o galon @fflintawrecsam am y gwahoddiad i fod yn feirniad #DewiSiryFflint #DysguCymraeg_ **Francesca ar Twiiter**

## **menterfflintwrecsam.cymru**

@menteriaithffaw @fflintawrecsam @menteriaithffaw

**Rhif Cofrestru: 04000756 Rhif yr Elusen: 1194088**

## **Cwmni Cyfyngedig Drwy Warant Heb Gyfalaf Cyfrannol**

**Datganiadau Ariannol Am y Flwyddyn yn Diweddu 31 Mawrth 2022 Sydd Wedi’u Paratoi Heb Archwiliad**

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

|**Cynnwys**||

||**Tudalen**|
|Adroddiad yr Ymddiriedolwyr|1 - 4|
|Adroddiad yr archiliwr annibynnol|5|
|Datganiad o weithgareddau ariannol|6|
|Mantolen|7|
|Nodiadau ar y Datganiadau Ariannol|8 – 17|

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022**

## **CYFEIRNOD A MANYLION GWEINYDDOL.**

Enw'r elusen gofrestredig Menter Iaith Fflint a Wrecsam Rhif cofrestru'r elusen: 1194088 (14 Ebrill 2021) Rhif cofrestredig y cwmni 04000756 (Cymru a Lloegr) **Swyddfa gofrestredig** Uned 3 Parc Busnes Yr Wyddgrug Ffordd Wrecsam Yr Wyddgrug Sir y Fflint CH7 1XP

## **Cyfarwyddwyr ac ymddiriedolwyr**

Y cyfarwyddyr a fu’n gwasanaethu’r cwmni yn ystod y flwyddyn 1 Ebrill 2021 hyd at 31 Mawrth 2022 a’r ymddiriedolwyr a fu’n gwasanaethu’r elusen am y cyfnod 14 Ebrill 2021 hyd at 31 Mawrth 2022 oedd:

Cadeirydd G W Hughes Trysorydd D E Davies-Jones Ysgrifenydd N W Jones Cyfarwyddyr ac Ymddiriedolwyr eraill B M Williams H B Jones (ymddeol 19/10/2021) P A Lovell R A Evans G Lloyd S A Owen (ymddeol 07/12/2021) Ll Roberts M Ll Jones D James M Thomas

**Cyfrifwyr** Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell RHUTHUN Sir Ddinbych LL15 1DQ

1

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022**

## **Strwythur a rheolaeth**

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn elusen gofrestredig, rhif 1194088, wedi ei sefydlu fel cwmni cyfyngedig, rhif 04000756. Mae cyfansoddiad y cwmni yn unol â chyfansoddiad elusennol a chwmnïau cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol. Cofrestrwyd Menter Iaith Fflint a Wrecsam fel elusen gofrestredig ar 14 Ebrill 2021, ac fel cwmni cyfyngedig, ar 24 Mai 2000.

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam (yr ‘Elusen’) yn cael ei gweinyddu a’i rheoli yn ôl y memorandwm ac erthyglau cymdeithasol y cwmni, a gan aelodau bwrdd y cyfarwyddwyr.

Mae aelodaeth yr Elusen yn agored i unigolion dros 16 oed ac unrhyw gymdeithas, gorfforedig neu anghorfforedig, sydd yn cytuno ag amcanion a gwaith yr Elusen, heb wahaniaethu rhwng pobl o safbwynt eu cyfoeth, gwleidyddiaeth, hil, crefydd, rhyw neu anabledd. Bydd i bob aelodfudiad benodi unigolyn i’w gynrychioli ac i bleidleisio.

Gall Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn unfrydol ac am reswm da, roi terfyn ar aelodaeth unrhyw unigolyn neu aelod-fudiad: cyhyd a bod gan yr unigolyn dan sylw neu gynrychiolydd penodedig yr aelod-fudiad dan sylw'r hawl i wrandawiad gan y Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yng nghwmni ffrind, cyn y gwneir penderfyniad terfynol.

## **Bwrdd y cyfarwyddwyr**

Rheolir busnes yr Elusen gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr a fydd yn atebol i'r aelodau. Ni fydd gan unrhyw berson hawl i weithredu fel Cyfarwyddwr, boed hynny am, y tro cyntaf neu dro dilynol, hyd nes y bydd wedi llofnodi datganiad derbyn parodrwydd i weithredu er budd yr Elusen yn llyfr cofnodion Bwrdd y Cyfarwyddwyr.

Bydd Bwrdd y cyfarwyddwyr yn cynnwys dim llai na 8 o gyfarwyddwyr a dim mwy na 16 o gyfarwyddwyr.

Gall y Cyfarwyddwyr ar unrhyw adeg gyfethol unrhyw berson i Fwrdd y Cyfarwyddwyr cyn belled na fydd mwy nag un rhan o dair o Fwrdd y Cyfarwyddwyr yn gyfetholedig a chyn belled na ragorir ar yr uchafswm a benodir yn erthygl 39, ac na wneir rhagor na thri chyfetholiad o’r fath rhwng un Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’r nesaf. Rhaid i bob person a gyfetholir fel hyn ymddiswyddo yn y Cyfarfod Blynyddol yn dilyn eu cyfetholiad, ond byddent yn gymwys i’w hailbenodi wedi hynny.

Ceir talu holl gostau teithio, gwesty a threuliau eraill rhesymol cyfarwyddwyr mewn perthynas â’u presenoldeb mewn cyfarfod Cyfarwyddwyr, pwyllgorau neu gyfarfod cyffredinol neu mewn perthynas â chyflawni eu dyletswyddau, ond fel arall ni fyddant yn derbyn tal.

## **Nod ac amcanion yr elusen**

I hybu addysg drwy hyrwyddo'r iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig drwy weithgareddau cymdeithasol, y celfyddydau a chwaraeon, er budd y cyhoedd.

2

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022**

## **Darparu budd i’r cyhoedd**

Wrth gynllunio ein gwaith am y flwyddyn, mae aelodau’r pwyllgor sy’n gyfarwyddwyr / ymddiriedolwyr wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Elusennau a’r budd i’r cyhoedd.  Yn benodol, ceisiwn gynorthwyo a chefnogi’r gymuned yn ei chyfanrwydd o ran hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg gan bob oedran.  Rydym yn gweithio ar draws y ddwy sir gyfan a darparwn gyfleoedd i bobl wella proffil y Gymraeg a dwyieithrwydd, drwy ddarparu cyngor, cymorth, prosiectau a gweithgareddau penodol.

## **Adolygiad ariannol**

Mae’r prif weithgareddau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys rhai i blant a phobl ifanc, mewn partneriaeth gyda grwpiau lleol eraill. Er bod cyfnod Covid-19 wedi llacio rhyw gymaint, fe barhaodd heriau i’n hwynebu a rydym yn falch o’r ffordd wnaethom ymateb i heriau dysgu i fyw gyda’r pandemig a'r sawl cyfnod o ansicrwydd a ddaeth yn ei sgil. Fe wnaeth ymroddiad ac ymrwymiad pawb, y staff a’r Bwrdd, ein galluogi i gyrraedd diwedd y flwyddyn ariannol honno fel sefydliad cryf, mewn sefyllfa ariannol iach, gyda gwell dealltwriaeth o ffyrdd amgen o weithio ynghyd â phrofiad helaeth mewn darparu’n ddigidol.

Roedd yr angen i ni barhau i gynnig gwasanaethau tra’n bod yn ymwybodol iawn o’n cyfrifoldeb i gadw pawb - ein staff a’r cyhoedd - yn ddiogel, ein gorfodi i feddwl mewn ffyrdd amgen, peidio ag ofni arbrofi, a dysgu sgiliau newydd. Un canlyniad annisgwyl i ni ddechrau cynnig mwy o weithgareddau ac adnoddau rhithiol ar lein yn ystod y cyfnodau clo oedd i ni ddarganfod ein bod wedi llwyddo i gysylltu â nifer o bobl newydd, pobl wahanol i’r rhai byddem wedi disgwyl eu gweld yn mynychu ein digwyddiadau wyneb yn wyneb. Wrth i ni gael  darparu mwy a mwy o gyfleoedd wyneb yn wyneb yn 2022, fe wnaethom hefyd sicrhau bod yr arlwy digidol yn parhau er mwyn cadw’r cysylltiadau newydd hynny.

Yn ystod y flwyddyn heriol hon fe wnaeth Menter Iaith Fflint a Wrecsam barhau i arloesi ac addasu er mwyn diwallu anghenion ein cymunedau. Rydym yn hyderus i ni lwyddo i gyflawni ein gweledigaeth o hyrwyddo ac ehangu’r defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg yn siroedd Y Fflint a Wrecsam.

## **Campau a gyflawnwyd**

Am ddarlun mwy manwl o weithgareddau’r flwyddyn sy’n cyflawni nodau ac amcanion yr elusen ac yn rhoi budd i’r cyhoedd gweler Adroddiad Blynyddol yr elusen.

## **Perfformiad Ariannol yr Elusen**

Mae cyfanswm yr adnoddau a dderbyniwyd am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022 wedi codi o £222,806 i £238,044, sef cynydd o £15,238 (6.8%) ar y flwyddyn flaenorol.  Mae’r gyfradd llog yn parhau i fod yn isel iawn a derbyniwyd £7 o incwm buddsoddiad yn unig am y flwyddyn (2021 - £14).  Mae cyfanswm yr adnoddau a dreuliwyd am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022 wedi codi o £200,979 i £214,573 sef cynydd o £13,594 (6.8%) ar y flwyddyn flaenorol. Cafwyd gwarged felly o £23,471 am y flwyddyn i gymharu â gwarged o £21,827 am y flwyddyn flaenorol.

## **Polisi Cronfeydd**

Mae’n rhan o bolisi’r Elusen i gadw cronfeydd anghyfyngedig sef y cronfeydd rhyddion, ar lefel sy’n hafal i tua 3 mis o dreuliau anghyfyngedig.  Mae hyn yn caniatáu cronfa ddigonol i dalu costau rheoli, gweinyddu a chynnal yr Elusen.

3

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD Y CYFARWYDDWYR AC YMDDIRIEDOLWYR AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022**

## **Polisi Buddsoddiad**

Yr amcan buddsoddiad yw diogelu'r buddsoddiadau cyfredol yn erbyn chwyddiant ac i gael incwm rhesymol yn ôl. Mae perfformiad y buddsoddiadau yn cael eu hadolygu ar sail gyson trwy eu cymharu gyda maincfesuriad addas.

## **Rheolaeth Risg**

Gwnaed arolwg gan y Cyfarwyddwyr ym meysydd busnes a gweithredu’r Elusen a gallant gadarnhau y byddai’r Elusen mewn sefyllfa i liniaru unrhyw risg ragweladwy.

## **Cynlluniau ar gyfer y dyfodol**

Mae’r Elusen yn parhau i weithio yn agos gyda Llywodraeth Cymru,  Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a phartneriaid eraill i  hybu’r iaith Gymraeg drwy Siroedd Fflint a Wrecsam gyfan. Mae’r Elusen hefyd yn parhau i ddatblygu presenoldeb ar y we a chyfryngau cymdeithasol drwy’r wefan a rhwydweithiau cymdeithasol, a hyn wedi dod yn bwysicach fyth ers i gyfyngiadau Covid-19 newid patrymau cymdeithasu, dysgu a hamddena.

## **Datganiad o Gyfrifoldebau'r Ymddiriedolwyr**

Mae'r ymddiriedolwyr (sydd hefyd yn gyfarwyddwyr ar Fenter Iaith Fflint a Wrecsam at ddibenion cyfraith cwmnïau) yn gyfrifol am baratoi adroddiad yr ymddiriedolwyr a'r datganiadau ariannol yn unol â chyfraith berthnasol a Safonau Cyfrifeg y DU (Arferion Cyfrifyddu a Dderbynnir yn Gyffredinol yn y Deyrnas Unedig).

Mae cyfraith cwmnïau yn gofyn bod yr ymddiriedolwyr yn paratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy'n rhoi safbwynt cywir a theg ar faterion y cwmni elusennol fel y mae pethau ac o'r ffynonellau sy'n dod i mewn a defnydd y ffynonellau, gan gynnwys incwm a gwariant y cwmni elusennol dros y cyfnod hwnnw. Fel rhan o waith paratoi'r datganiadau ariannol, bydd gofyn i'r ymddiriedolwyr wneud y canlynol:

- Dewis polisïau cyfrifyddu addas ac yna eu rhoi ar waith yn gyson

- Dilyn dulliau ac egwyddorion Datganiad o Arferion Argymelledig yr Elusen

- Beirniadu ac amcangyfrif yn rhesymol ac yn bwyllog

- Paratoi'r datganiadau ariannol yn seiliedig ar fusnes sydd ar fynd oni bai ei bod yn anaddas cymryd y bydd y cwmni elusennol yn parhau mewn busnes

Mae'r ymddiriedolwyr yn gyfrifol am gadw cofnodion ariannol digonol sy'n datgelu, gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg, beth ydy sefyllfa ariannol y cwmni elusennol ac yn eu galluogi nhw i sicrhau fod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio gyda Deddf Cwmnïau 2006. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r cwmni elusennol ac felly hefyd dros gymryd camau rhesymol er mwyn rhwystro a datgelu unrhyw dwyll neu anghysondeb arall.

Cafodd adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr ei fabwysiadu ar 20 Rhagfyr 2022 a’i arwyddo ar ran Bwrdd yr Ymddiriedolwyr gan:

|**Llofnod**|_G W Hughes_|

|**Enw**|**G W Hughes**|
|**Safle**|**Ymddiriedolwr - cadeirydd**|

4

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **ADRODDIAD YR ARCHWILIWR ANNIBYNNOL I YMDDIRIEDOLWYR CWMNI ELUSENNOL MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM (‘y Cwmni’)**

Adroddaf i’r ymddiriedolwyr elusen ar fy archwiliad o gyfrifon y Cwmni am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022.

## **Cyfrifoldebau a’r sail adrodd**

Fel ymddiriedolwyr elusen y Cwmni (a hefyd ei gyfarwyddwyr at ddibenion y gyfraith cwmnïau), rydych yn gyfrifol am baratoi'r cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 (‘Deddf 2006’).

Ar ôl bodloni fy hun nad yw’n ofynnol i gynnal archiliwad ariannol o gyfrifon y Cwmni o dan Ran 16 o Ddeddf 2006 a’i fod yn gymwys i gael archwiliad annibynnol, adroddaf mewn perthynas â’m harchwiliad o gyfrifon eich elusen fel y cwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf Elusennau 2011 (‘Deddf 2011’).  Wrth gynnal fy archwiliad, dilynais y Cyfarwyddiadau a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o Ddeddf 2011.

## **Datganiad yr archwiliwr annibynnol**

Cwblheais fy archwiliad.  Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw mewn perthynas â’r archwiliad sy’n rhoi achos i mi gredu:

- bod cofnodion cyfrifyddu heb eu cadw ar gyfer y Cwmni fel sy’n ofynnol gan adran 386 o Ddeddf Cwmnïau 2006; neu

- nid yw’r cyfrifon yn cyfateb â’r cofnodion hynny; neu

- nid yw’r cyfrifon yn cydymffurfio â gofynion cyfrifyddu perthnasol o dan adran 396 o Ddeddf 2006 heblaw unrhyw ofyniad bod y cyfrifon yn rhoi darlun ‘gwir a theg’ nad yw’n fater i’w ystyried fel rhan o archwiliad annibynnol; neu

- nid yw’r cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â dulliau ac egwyddorion y Datganiad o Arferion Cymeradwy ar gyfer cyfrifon ac adroddiadau gan elusennau yn gymwys i elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â'r Safon Adrodd Ariannol sy'n gymwys yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS 102).

Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn perthynas â’r archwiliad y dylid dwyn sylw atynt yn yr adroddiad hwn er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o’r cyfrifon.

Arwyddwyd: _R A Roberts_

Dyddiad:    21 Rhagfyr 2022

R A Roberts, BSc, FCA Hill & Roberts Cyfrifwyr Siartredig 1 Tan y Castell RHUTHUN Sir Ddinbych LL15 1DQ

5

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **Datganiad o weithgareddau ariannol (yn cynnwys crynodeb o gyfrif incwm a gwariant) am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022**

|||2022|2022|2022|2021|

|Nodyn||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|
|||Anghyfyngedig|Cyfygedig|Cronfeydd|Cronfeydd|

|**Incwm**||||||
|**Incwm a gwaddoliadau**||||||
|Rhoddion a chymynroddion|3|147,123|-|147,123|167,168|
|Gweithgareddau elusennol|4|71,635|16,409|88,044|55,451|
|Gweithgareddau masnachu arall|5|2,176|-|2,176|-|
|Incwm arall|6|694|-|694|173|
|Buddsoddiant|7|7|-|7|14|

|Cyfanswm incwm||221,635|16,409|238,044|222,806|

|**Gwariant**||||||
|Gwariant ar weithgareddau||||||
|elusennol|8|203,491|10,072|213,563|200,979|
|Costau eraill|10|1,010|-|1,010|-|

|Cyfanswm gwariant||204,501|10,072|214,573|200,979|

|**Incwm / gwariant net**|11|**17,134**|**6,337**|**23,471**|**21,827**|
|**Trosglwyddiadau gros rhwng**||||||
|**cronfeydd**||**-**|**-**|**-**|**-**|

|**Symudiad net yn y cronfeydd**||**17,134**|**6,337**|**23,471**|**21,827**|
|Cyfanswm cronfeydd||107,576|1,250|108,826|86,999|
|01 Ebrill 2021||||||

|**Cyfanswm cronfeydd**||**124,710**|**7,587**|**132,297**|**108,826**|
|**31 Mawrth 2022**||=======|=======|=======|=======|

Mae holl weithgareddau’r cwmni yn cael eu hystyried yn rhai parhaol.

Nid oedd gan y cwmni enillion na cholledion heblaw am y gwarged am y flwyddyn.

Mae’r nodiadau ar dudalennau 8 i 17 yn rhan annatod o’r datganiadau ariannol yma.

6

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **MANTOLEN AR 31 MAWRTH 2022**

||**Nodyn**||**2022**||**2021**|

|**Asedau sefydlog**||||||
|Asedau cyffyrddadwy|17||7,499||3,741|
|**Asedau cyfredol**||||||
|Dyledwyr|18|26,052||38,904||
|Arian yn y banc||102,483||75,752||
|Arian mewn llaw||42||72||

|||128,577||114,728||

|**Credydwyr -yn daladwy**||||||
|**o fewn blwyddyn**|19|3,779||9,643||

|**Asedau cyfredol net**|||124,798||105,085|

|**Asedau net**|||**£132,297**||**£108,826**|

|**Cronfeydd wrth gefn**||||||
|Cronfeydd anghyfyngedig|20||124,710||107,576|
|Cronfeydd cyfyngedig|20||7,587||1,250|

|**Cyfanswm cronfeydd**|||**£132,297**||**£108,826**|

Roedd gan y cwmni hawl i eithrio rhag archwilio’r datganiadau ariannol yn rhinwedd adran 477 o’r Ddeddf Cwmnïau 2006 yn berthnasol i gwmnïau bychan.

Nid yw’r aelodau wedi gofyn i’r cwmni gael archwiliad o’r datganiadau ariannol am y flwyddyn berthnasol yn unol ag adran 476;

Mae’r ymddiriedolwyr yn cydnabod eu dyletswyddau i gydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf ynglŷn â chadw cofnodion cyfrifyddu a pharatoi’r datganiadau ariannol.

Y mae’r datganiadau ariannol yma wedi eu paratoi mewn cytundeb â’r ddarpariaeth arbennig adran XV o ddeddf Cwmnïau 2006 sydd yn berthnasol i gwmnïau bach ac yn unol â FRS 102 SORP.

Mabwysiadwyd y datganiadau ariannol hyn gan fwrdd yr ymddiriedolwyr ar 20 Rhagfyr 2022 ac arwyddwyd ar eu rhan gan:

## **Llofnod:** _D E Davies-Jones_

## **D E Davies-Jones Ymddiriedolwr (Trysorydd)**

Mae’r nodiadau ar dudalennau 8 i 17 yn rhan annatod o’r datganiadau ariannol yma

7

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022**

## **1 Gwybodaeth Statudol**

Mae Menter Iaith Fflint a Wrecsam yn gwmni cyfyngedig drwy warant wedi'i gorffori yng Nghymru, yn y DU. Y swyddfa gofrestredig ydy Uned 3, Parc Busnes Yr Wyddgrug, Ffordd Wrecsam, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1XP.

Caiff y datganiadau ariannol eu cyflwyno mewn punnoedd sterling (£), arian gweithredu'r cwmni, a'i dalgrynnu at y bunt agosaf.

Mae'r polisïau cyfrifyddu arwyddocaol sydd wedi'u defnyddio wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn wedi'u gosod isod. Mae'r polisïau wedi'u defnyddio yn gyson gyda phob blwyddyn gaiff ei chyflwyno, oni bai y nodir yn wahanol.

## **2 Polisïau Cyfrifyddu**

## **Sail paratoi'r datganiadau ariannol**

Mae datganiadau ariannol y cwmni elusennol, sy'n endid budd cyhoeddus o dan FRS102, wedi'u paratoi yn unol â Datganiad o Arferion Argymelledig yr Elusen (FRS102)  'Cyfrifyddu ac Adrodd gan Elusennau: Datganiad o Arferion Argymelledig sy'n berthnasol i elusennau sy'n paratoi eu cyfrifon yn unol â Safon Adrodd Ariannol perthnasol y DU a Gweriniaeth Iwerddon (FRS102) (mewn grym 1 Ionawr 2019)', Safon Adrodd Ariannol 102 'Safon Adrodd Ariannol perthnasol y DU a Gweriniaeth Iwerddon' a Deddf Cwmnïau 2006. Mae'r datganiadau ariannol wedi'u paratoi yn unol â'r confensiwn costau hanesyddol.

## **Busnes hyfyw**

Paratowyd y datganiadau ariannol ar sail busnes hyfyw.

Er gwaethaf sefyllfa Covid-19 yn parhau i gael effaith mae'r elusen wedi parhau i weithredu yn y cyfnod cyfrifyddu cyfredol. Mae'r ymddiriedolwyr yn hyderus bydd yr elusen yn parhau i weithredu. Mae’r elusen wedi llwyddo i ddal gafael ar brif grantiau, nodi ffynonellau grantiau newydd, a chychwyn ar y broses o ymgeisio am sawl un. Ar ôl gwneud ymholiadau, mae gan yr ymddiriedolwyr ddisgwyliad rhesymol bod gan yr elusen adnoddau digonol i barhau mewn bodolaeth weithredol hyd y gellir rhagweld.

Mae’r ymddiriedolwyr wedi ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael ynglŷn â dyfodol yr elusen, sydd o leiaf, ond heb ei gyfyngu i, ddeuddeg mis o ddyddiad cymeradwyo'r datganiadau ariannol yma.

## **Incwm**

Caiff yr holl incwm ei gydnabod yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol unwaith bydd gan yr elusen hawl dros yr arian.

## **Incwm o weithgareddau elusennol**

Mae incwm o weithgareddau elusennol yn cynnwys incwm wedi'i dderbyn trwy gytundeb neu lle mae hawl dros arian grant yn dibynnu ar amodau perfformio penodol. Caiff yr incwm hwn ei gydnabod wrth i'r gwasanaethau cysylltiedig gael eu darparu ac wrth gaffael yr hawl, bydd modd mesur tebygrwydd faint gaiff ei dderbyn a'r swm ei hun gyda digon o ddibynadwyedd.   Caiff incwm ei ohirio pan gaiff swm ei dderbyn cyn perfformio'r gwasanaeth neu ddigwyddiad y mae'n gysylltiedig ag o.

8

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM**

## **Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022**

## **2 Polisïau Cyfrifyddu - parhad**

## **Incwm o fuddsoddiad**

Caiff incwm o fuddsoddiad ei gydnabod pan gaiff ei derbyn.

## **Gwariant**

Caiff dyledion eu cydnabod fel gwariant unwaith y bydd gorfodaeth ymarferol neu gyfreithiol sy'n ymrwymo'r elusen i'r gwariant hwnnw, mae'n debyg y bydd angen trosglwyddo buddion economaidd wrth ei dalu a bydd modd mesur swm yr orfodaeth yn ddibynadwy. Caiff gwariant ei ystyried ar sail croniadau ac mae wedi'i ddosbarthu o dan benawdau sy'n crynhoi'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r categori. Mae gwariant yn cynnwys unrhyw DAW nad oes modd ei hawlio yn ôl.

Mae ‘gwariant elusennol’ yn cynnwys y costau hynny mae'r elusen wedi'i wario wrth ddarparu ei gweithgareddau a'i gwasanaethau ar gyfer ei buddiolwyr. Mae'n cynnwys costau y mae modd eu dyrannu yn uniongyrchol tuag at weithgareddau o'r fath a'r costau hynny o natur anuniongyrchol sy'n angenrheidiol er mwyn eu cefnogi.

‘Costau cefnogi’ ydy'r costau hynny sy'n angenrheidiol er mwyn darparu gweithgaredd ond er hynny, tydyn nhw ddim yn cynhyrchu neu yn creu allbwn gweithgaredd yr elusen. Mae hyn yn cynnwys costau llywodraethol sef y costau hynny sy'n gysylltiedig gyda chwrdd â gofynion cyfansoddiadol a statudol yr elusen ac yn cynnwys y ffioedd a chostau cyfrifyddu sy'n gysylltiedig â rheolaeth strategol yr elusen yn ogystal â rhan o'r cyflogau sy'n seiliedig ar fras amcan o'r amser a dreuliwyd ar yr adran hon.

## **Asedau sefydlog cyffyrddadwy**

Mae asedau sefydlog wedi'u cofnodi trwy gostau i ddechrau.

## **Dibrisiad**

Caiff dibrisiad ei gyfrifo er mwyn dileu cost ased, llai o'i werth sy'n weddill dros fywyd economaidd defnyddiol yr ased fel a ganlyn:

Gwellianau Prydles - 10% ar sail llinell syth Offer swyddfa - 25% o’r balans gostyngol

## **Treth**

Mae'r elusen wedi'i heithrio rhag treth gorfforaethol ar ei gweithgareddau elusennol.

## **Cyfrifyddu cronfeydd**

Mae cronfeydd anghyfyngedig ar gael i'r elusen eu defnyddio, fel y gwêl yr ymddiriedolwyr yn ddoeth, at unrhyw ddiben sy'n ymwneud ag amcanion yr elusen.

Mae cronfeydd cyfyngedig wedi'u derbyn yn amodol gan y rhoddwyr at y diben sydd wedi'i bwriadu ar eu cyfer.

## **Offerynnau ariannol**

Does gan yr elusen ddim ond asedau ariannol a dyledion ariannol o natur sy'n cymhwyso fel offerynnau ariannol syml. Caiff offerynnau ariannol syml eu hadnabod yn gyntaf drwy werth trosglwyddo ac yna eu mesur trwy eu gwerth talu.

9

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022**

## **2 Polisïau Cyfrifyddu - parhad**

## **Dyledwyr**

Caiff dyledwyr masnachu a dyledwyr eraill eu cydnabod trwy'r swm talu sy'n ddyledus ar ôl cynnig unrhyw ostyngiad masnachu.

Caiff taliadau o flaen llaw eu prisio ar y swm net a dalwyd o flaen llaw ar unrhyw ostyngiad dyledus.

## **Credydwyr**

Caiff credydwyr eu cydnabod lle bo gan yr elusen orfodaeth bresennol o ganlyniad i ddigwyddiad blaenorol fydd mwy na thebyg yn arwain at drosglwyddo cronfeydd at drydydd parti a bydd modd mesur neu amcangyfrif y swm sy'n ddyledus er mwyn talu’r orfodaeth yn ddibynadwy. Caiff credydwyr gan amlaf eu cydnabod trwy eu swm talu ar ôl caniatáu ar gyfer unrhyw ostyngiadau masnachu sy'n ddyledus.

## **Costau pensiwn**

Mae'r cwmni elusennol yn gweithredu cynllun cyfraniad pensiwn diffiniedig. Caiff costau cyfraniadau sy'n daladwy i gynllun pensiwn y cwmni elusennol eu codi ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer y cyfnod perthnasol.

Mae'r cwmni elusennol yn gwneud cyfraniadau i gynlluniau pensiwn personol ar ran ei gyflogai. Caiff costau eu codi ar y Datganiad o Weithgareddau Ariannol ar gyfer y cyfnod perthnasol.

## **3 Rhoddion a chymynrhoddion**

|**Rhoddion a chymynrhoddion**|||||

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|
||Anghyfynedig|Cyfyngedig|2022|2021|

|Grant Llywodraeth Cymru|132,043|-|132,043|127,689|
|Grant Cyngor Sir y Fflint|11,080|-|11,080|11,080|
|Lwfans cyflogaeth|4,000|-|4,000|4,000|
|Grantiau ardrethi annomestig|-|-|-|22,000|
|Cynllun cadw swyddi|-|-|-|2,399|

||147,123|-|147,123|167,168|

10

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022**

## **4 Incwm o weithgareddau elusennol**

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|

|Anghyfynedig||Cyfyngedig|2022|2021|

|* Cist Cymunedol|-|-|-|609|
|* Loteri Symud gyda Tedi|-|13,245|13,245|6,477|
|* Cadwyn Clwyd Symud gyda Tedi|-|3,164|3,164|4,703|
|* Cadwyn Clwyd Lleoliad Meithrinfa|-|-|-|5,063|
|* Mentrau Iaith Cymru|||||
|Cymraeg Byd Busnes / Helo Blod|31,390|-|31,390|28,991|
|* Mentrau Iaith Cymru|||||
|Cyfiethu Proffiliau|-|-|-|1,254|
|* Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam|||||
|Dathlu Dydd Gŵyl Dewi|3,366|-|3,366|3,200|
|* Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam|||||
|Meithrinfa|2,535|-|2,535|-|
|* Cyngor Sir y Fflint|||||
|Dathlu Dydd Gŵyl Dewi|4,000|-|4,000|4,500|
|* Cyngor Sir y Fflint – Haf o Hwyl|13,101|-|13,101|-|
|* Cyngor Sir y Fflint – Gaeaf Llawn Lles|14,000|-|14,000|-|
|* Cyngor Sir y Fflint – Siopa Cudd|2,000|-|2,000|-|
|Incwm Partneriaid|1,243|-|1,243|654|

||71,635|16,409|88,044|55,451|

_* Cytundeb lefel gwasanaeth neu grant_

## **5 Gweithgareddau masnachu eraill**

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|

||Anghyfynedig|Cyfyngedig|2022|2021|

|Incwm Partneriaid|2,176|-|2,176|-|

||2,176|-|2,176|-|

11

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022**

|**6**|**Incwm Arall**|||||

|||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|
|||Anghyfyngedig|Cyfyngedig|2022|2021|

||Incwm Arall|440|-|440|113|
||Mentrau Iaith Cymru|||||
||ad-daliad Cymraeg Byd Busnes|254|-|254|60|

|||694|-|694|173|

|**7**|**Incwm o fuddsoddiant**|||||
|||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|
|||Anghyfyngedig|Cyfyngedig|2022|2021|

||Llog derbyniwyd|7|-|7|14|

|||7|-|7|14|

## **8 Gwariant ar weithgareddau elusennol**

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|

||Anghyfynedig||Cyfyngedig|2022|2021|

|**Costau gweithgareddau elusennol**||||||
|**cyffredin**||||||
|Cyflogau staff|113,585||-|113,585|133,775|
|Nawdd cymdeithasol||9,275|-|9,275|10,343|
|Costau pensiwn staff||5,920|-|5,920|6,721|
|Hyfforddiant||754|-|754|-|
|Recriwtio||636|-|636|109|
|Prosiect – Y Teulu||3,324|-|3,324|693|
|Prosiect – Plant a Phobl Ifanc||4,118|-|4,118|1,252|
|Prosiect – Cymunedau/ Y Gweithle||3,451|-|3,451|1,330|
|Prosiect – Symud gyda Tedi||-|10,072|10,072|6,457|
|Prosiect – Dathliadau DGD||4,931|-|4,931|6,483|
|Prosiect – Swyddog Cymunedau Dwyiethog||
-|-|-|29|
|Prosiect – Amgylcheddol Y Berllan||-|-|-|120|
|Prosiect – Caru Bwyd, Casau Gwastraff||327|-|327|-|
|Prosiect – Costau Cymraeg Byd Busnes/||||||
|Helo Blod||246|-|246|82|
|Prosiect – Gaeaf Llawn Lles||10,036|-|10,036|-|
|Prosiect – Haf o Hwyl||5,859|-|5,859|-|
|Prosiect – Proffiliau Iaith||1,320|-|1,320|-|
|Rhent a hurio||4,615|-|4,615|3,844|
|Ardrethi annomestig||35|-|35|211|
|Costau gwasanaethu||1,780|-|1,780|1,555|

|Cario ymlaen|170,212||10,072|180,284|173,004|

12

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM**

## **Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022**

## **8 Gwariant ar weithgareddau elusennol (parhad)**

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|

||Anghyfynedig|Cyfyngedig|2022|2021|

|Dygwyd ymlaen|170,212|10,072|180,284|173,004|
|Yswiriant|1,494|-|1,494|1,394|
|Golau a gwres|589|-|589|-|
|Costau mesurau amddiffyn Cofid 19|1,301|-|1,301|805|
|Argraffu, post a phapur|745|-|745|620|
|Ffôn|1,273|-|1,273|1,227|
|Costau cyfrifiadurol|2,237|-|2,237|1,810|
|Costau cyfieithu|-|-|-|120|
|Teithio a chynhaliaeth|421|-|421|149|
|Ffioedd proffesiynol|1,371|-|1,371|1,329|
|Costau eraill|318|-|318|47|
|Tanysgrifiadau ac aelodaeth|1,010|-|1,010|1,010|
|Dibrisiant|1,459|-|1,459|1,101|
|Colled ar waredu asedau|-|-|-|53|

|Cyfanswm costau gweithgareddau|||||
|Elusennol cyffredin|182,430|10,072|192,502|182,669|

|**Costau cefnogi**|||||
|Cyflogau|9,492|-|9,492|8,955|
|Nawdd cymdeithasol|682|-|682|617|
|Costau pensiwn staff|592|-|592|533|
|Hyfforddiant|377|-|377|-|
|Recriwtio|318|-|318|54|
|Rhent a hurio|2,307|-|2,307|1,922|
|Ardrethi annomestig|17|-|17|105|
|Costau gwasanethau|890|-|890|777|
|Yswiriant|747|-|747|697|
|Golau a gwres|294|-|294|-|
|Costau mesurau amddifyn Covid-19|650|-|650|402|
|Argraffu, post a phapur|373|-|373|310|
|Ffôn|637|-|637|614|
|Costau cyfriadurol|1,119|-|1,119|905|
|Costau cyfieithu|-|-|-|60|
|Ffioedd proffesiynnol|686|-|686|664|
|Costau Cyfrifo|1,150|-|1,150|1,116|
|Dibrisiant asedau cyffyrddadwy|729|-|729|550|
|Colled wrth waredu|-|-|-|27|
|Treth gorfforaeth|1|-|1|2|

|Cyfanswm costau gefnogi|21,061|-|21,061|18,310|

|Cyfanswm gwariant ar|||||
|weithgareddau elusennol|203,491|10,072|213,563|200,979|

13

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022**

## **9 Gwariant ar weithgareddau elusennol yn ôl math y gronfa**

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|

||Anghyfyng|Cyfyngedig|2022|Anghyfyng|Cyfyngedig|2021|
||-edig|||-edig|||

|Gwariant elusennol|
182,430|10,072|192,502|176,212|6,457|182,669|
|Costau cefnogi|21,061|-|21,061|18,310|-|18,310|

||203,491|10,072|213,563|194,522|6,457|200,979|

## **10 Costau eraill**

||Cronfeydd|Cronfeydd|Cyfanswm|Cyfanswm|

||Anghyfynedig|Cyfyngedig|2022|2021|

|Costau symud swyddfa|1,010|-|1,010|-|

||1,010|-|1,010|-|

Roedd hefyd gwariant cyfalaf o fewn y flwyddyn yn ymwneud a symud swyddfa o £3,850 sydd wedi ei ddangos o fewn nodyn 17 – ‘Gwelliannau Prydles’.

## **11**

## **Gwariant elusennol yn ôl gweithgareddau**

|Gweithgareddau|Gweithgareddau|Costau|Cyfanswm|Cyfanswm|

||Uniongyrchol|Cefnogi|2022|2021|

|Gweithgareddau elusennol cyffredin|182,430|19,910|202,340|193,404|
|Gweithgareddau elusennol penodol|10,072|-|10,072|6,457|
|Costau llywodraethol|-|1,151|1,151|1,118|

||192,502|21,061|213,563|200,979|

## **12 Dadansoddiad o gostau cefnogi**

|**Dadansoddiad o gostau cefnogi**||||

||Costau|Cyfanswm|Cyfanswm|
||Gweithgareddau|2022|2021|
||Hybu’r iaith|||
||Gymraeg|||

|Costau staff|11,461|11,461|10,159|
|Costau eiddo|729|729|577|
|Costau swyddfa gyffredinol|7,720|7,720|6,456|
|Costau llywodraethu|1,151|1,151|1,118|

||21,061|21,061|18,310|

14

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022**

## **13 Gwariant / Incwm Net**

|Mae Gwariant net wedi ei ddatgan ar ôl codi:|£|

|Dibrisiant|2,188|

## **14 Taliadau a Budd-daliadau'r Ymddiriedolwyr**

Ni thalwyd unrhyw gydnabyddiaeth na buddiant eraill i’r ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022 (2021 - £ Dim).  Mae’r elusen yn ystyried mai ei phersonél rheoli allweddol ydy’r ymddiriedolwyr a’r prif swyddog.  Cyfanswm buddiant cyflogaeth y personél rheoli allweddol, yn cynnwys cyfraniadau pensiwn, oedd £37,954 (2021 - £36,854).

## **Treuliau'r ymddiriedolwyr**

Ni thalwyd unrhyw dreuliau i'r ymddiriedolwyr yn y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2022 (2021- £ dim).

## **15 Costau staff**

|**Costau staff**|||

||**2022**|**2021**|

|Cyflogau|123,077|142,730|
|Nawdd cymdeithasol|9,957|10,902|
|Cyfraniadau pensiwn|6,512|7,225|

||139,546|160,857|

Mae'r elusen yn cyflogi 2 aelod o staff llawn amser ac 4 aelod o staff rhan-amser (2021 - 2 amser llawn ac 6 rhan amser).  Ni enillodd unrhyw aelod o staff fwy na £60,000 y flwyddyn (2021: Dim).  Mae'r elusen yn gweithredu cynllun pensiwn cyfraniad diffiniedig mewn perthynas â'r staff. Mae rheolwyr annibynnol yn dal y cynllun a'i asedau. Mae'r tâl pensiwn yn cynrychioli cyfraniadau sy'n ddyledus gan y cwmni a'u cyfanswm yw £6,512 (2021 - £7,225). Cyfraniadau sy'n ddyledus ar ddiwedd y flwyddyn oedd £ dim (2021: £ dim).

## **16 Tâl yr Arolygwyr Annibynnol**

Roedd tâl yr arholwr annibynnol yn gyfystyr â ffi cyfrifo ac arholi o £1,150 (2021 - £1,116).

15

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM**

## **Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022**

|**17**|**Asedau cyffyrddadwy sefydlog**|**Asedau cyffyrddadwy sefydlog**||||

|||**Gwelliannau**|**Offer**|||
|||**Prydles**|**Swyddfa**||**Cyfanswm**|
||**Cost**|£|£||£|
||Ar 1 Ebrill 2021|-|10,918||10,918|
||Ychwanegiadau|3,850|2,096||5,946|
||Gwaredu|-|-||-|

||Ar 31 Mawrth 2022|3,850|13,014||16,864|

||**Dibrisiant**|||||
||Ar 1 Ebrill 2021|-|7,177||7,177|
||Dibrisiant am y cyfnod|385|1,803||2,188|
||Dileu wrth waredu|-|-||-|

||Ar 31 Mawrth 2022|385|8,980||9,365|

||**Gwerth llyfr net**|||||
||Ar 31 Mawrth 2022|£3,465|£4,034||£7,499|

||Ar 31 Mawrth 2021|£-|£3,741||£3,741|

|**17**|**Dyledwyr – yn ddyledus o fewn y flwyddyn**|||**2022**|
**2021**|

||Dyledwr eraill|||26,052|
38,904|

|||||26,052|
38,904|

|**18**|**Credydwyr - yn ddyledus o**|**fewn y flwyddyn**||**2022**|
**2021**|

||Treth gorfforaeth|||1|
3|
||Trethi a nawdd cymdeithasol|||-|

||Credydwyr eraill|||3,778|
9,640|

|||||3,779|
9,643|

16

## **MENTER IAITH FFLINT A WRECSAM**

## **Cwmni cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannol ac elusen gofrestredig**

## **NODIADAU AR Y DATGANIADAU ARIANNOL (** _**parhad**_ **) AM Y FLWYDDYN YN DIWEDDU 31 MAWRTH 2022**

## **19 Dadansoddiad o gronfeydd elusennol**

||**Ar 31**|**Incwm**|**Gwariant**|**Trosglwy**|**Ar 31**|

||**Mawrth**|||**-ddiadau**|**Mawrth**|
||**2021**||||**2022**|

|Cronfeydd cyfyngedig|1,250|16,409|(10,072)|
-|7,587|
|Cronfeydd anghyfyngedig|
107,576|221,635|(204,501)|
-|124,710|

|Cyfanswm cronfeydd|**£108,826**|**£238,044**|**£(214,573)**|
**£-**|**£132,297**|

|**Dadansoddiad o asedau**|**net rhwng cronfeydd**|||||
|||**Asedau**|**Asedau**|**Rhwymedig**|**Cyfanswm**|
|||**sefydlog**|**Cyfredol**|**-aethau**||
|||**cyffyrddadwy**|**net**|**tymor hir**||

|Cronfeydd cyfyngedig||-|7,587|-|7,587|
|Cronfeydd anghyfyngedig||7,499|117,211|-|124,710|

|||**£7,499**|**£124,798**|**£ -**|**£132,297**|

## **20 Dadansoddiad o asedau net rhwng cronfeydd**

## **21 Trafodion gyda ymddiriedolwyr neu bersonau cysylltiedig neu debyg**

Mae’r ymddiriedolwyr yn rhoi o’u hamser yn gwbl wirfoddol i gyfarfod, rheoli a chynnal gweithgaredd yr elusen, heb unrhyw dâl neu gydnabyddiaeth yn uniongyrchol nag yn anuniongyrchol o gronfa’r elusen am wneud hynny.

Yr unig eithriad yw cydnabyddiaeth ar ffurf ffi yn ymwneud â gwaith arbennig ar gyfer gweithgareddau’r elusen.  Lle rhoir cydnabyddiaeth i ymddiriedolwyr am hynny, mae’n bolisi datgan yr hyn â gânt yn agored, a cheir dadansoddiad isod, felly, o’r taliadau i ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn adrodd.

Talwyd Bethan Williams am 3 sesiwn ioga i rieni a phlant yn ystod y flwyddyn am ffi o £360.

## **22 Ymrwymiadau ariannol arall**

Ar 31 Mawrth 2022, roedd gan y cwmni ymrwymiadau o dan brydlesi gweithredol ni chaiff eu diddymu, dros weddill tymor y prydlesi yma o £1,512 (2021 - £4,236).

17