OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-03-31-accounts

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr

Cylch Meithrin Edern

Rhif Elusen: 1191036

Blwyddyn Ariannol yn cychwyn: 01/04/2023 Blwyddyn Ariannol yn darfod: 31/03/2024

Cyfeiriad:

Cylch Meithrin Edern,

Canolfan Gymunedol Edern,

Lôn Gerddi,

Edern, LL53 8YS

Ymddiriedolwyr

Lowri Williams

Sera Glyn Jones

Medi E Davies

Crynodeb:

Eleni gwelwyd niferoedd plant ar lyfrau ’r Cylch yn gostwng, gyda rhai yn talu ffioedd a sawl un ar y Cynllun Gofal Plant (3 oed). Rydym fel Pwyllgor, gyda chymorth y Swyddogion, wedi bod yn rhagweithiol eto yn ein ymdrechion i ddatblygu’r Cylch a chodi arian yn ystod y flwyddyn ariannol hon 1 Ebrill 2023 – 31 Mawrth 2024. Mae tri sesiwn yr wythnos, gydag niferoedd isel o blant yn mynychu ar ddydd Llun ond mwy o gefnogaeth i’r sesiynau dydd Mawrth a Iau, sy’n nôl y plant o ddosbarth Meithrin Ysgol Edern sy’n fuddiol iawn i rieni.

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, roeddem yn llwyddiannus yn derbyn dau grant. Derbyniwyd grant gan Cyngor Gwynedd ar gyfer ein helpu i ariannu gwaith tarmacio ardal chwarae y Ganolfan a phrynu uned newid clytiau newydd. Derbyniwyd Grant Degwm hefyd gan Gyngor Gwynedd i brynu offer chwarae pren i’w gosod yn iard chwarae’r Cylch.

Ym mis Medi, cododd Y Ganolfan swm ein rent o £6 y sesiwn i £10 y sesiwn, ac ystyrir bod hyn wedi cael cryn effaith ar ein sefyllfa ariannol.

Cafwyd rhodd ariannol gan Gyngor Cymuned Tudweiliog i helpu i brynu carped a llyfrau ac fe werthfawrogir eu cyfraniad hael.

Cafwyd sawl gweithgaredd i gasglu arian yn cynnwys cwis lluniau a Raffl Sgratch Cards a Raffl Hamper Nadolig. Cynhaliwyd Taith Gerdded y plant a Noson Disgo Calan Gaeaf hefyd sydd wastad yn cael cefnogaeth. Mae biniau ailgylchu dillad Antur Waenfawr hefyd yn gymorth i ddod ac arian cyson i’r Cylch.

O ran gwariant, ein prif gostau yw cyflogau ein Swyddogion (2). Mae’r rhent hefyd wedi cynyddu yn sylweddol eleni o gymharu a blynyddoedd ariannol blaenorol.

Rydym wedi parhau i fuddsoddi yn ein adnoddau hefyd, gyda’r grantiau i gyd wedi eu gwario ac mae cyflwr y Ganolfan ac ein adnoddau wedi gwella.

Fe welwch o’r Gyfriflen Incwm a Gwariant canlynol bod coffrau’r Cylch yn sefydlog.

Trown ein golygon ar barhau i ddatblygu’r Cylch a gwella ein adnoddau, i sicrhau dyfodol hir dymor y Cylch. Gobeithio y byddwn yn parhau i gael cefnogaeth yn y flwyddyn ariannol newydd.

Arwyddwyd gan M E Davies

Medi E Davies (Trysorydd) Dyddiad: 26 Mehefin 2024

Cylch Meithrin Edern,

Canolfan Gymunedol Edern, Lôn Gerddi, Edern, LL53 8YS

Mantolen ariannol am y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2023 -31 Mawrth 2024

Ysgol Feithrin Edern Ysgol Feithrin Edern Ysgol Feithrin Edern 2023/24 Diweddarwyd 18/05/2024 Diweddarwyd 18/05/2024 Diweddarwyd 18/05/2024
UNION / EXACT
Blwyddyn /
Year 1.4.23
- 31.3.24

£
INCWM / INCOME
Grant Mudiad Meithrin Grant -
Grant Arian Plant 3 oed /3yr old Education Funding Grant 6,900.00
Grant Cynaladwyedd /Sustainability Grant -
Grant Dechrau'n Deg /Flying Start Grant -
Grantiau Eraill / Other Grants 6,492.00
Incwm Hyfforddi(e.e CWG) a DwyloYchwanegol /Training -
Ffioedd Plant / Children's Fees 5,181.00
Codi Arian / Fundraising 798.11
Rhoddion ag Eraill /Donations & Sundries 405.58
Cyfanswm Incwm A 19,776.69
GWARIANT / EXPENDITURE
Cyflogau / Salaries 9,035.06
Costau Rhent a Gwres /Rent & Heating Costs 928.00
Ffioedd Cofrestru a Chynllun TWERegistration & PAYE Scheme Fees 1,241.00
Offer, Nwyddau ag Adnoddau /Equipment, Materials & Resources 5,555.27
Costau Bwyd a Diod /Food & Drink Costs -
Codi Arian / Fundraising 95.00
Eraill / Other 2,637.73
Cyfanswm Gwariant /Expenditure Total B 19,492.06
Gweddill (diffyg) am y flwyddyn=A-BSurplus (deficit) for the ye a
C
284.63
Arian a'r ddechrau'r flwyddyn(dylid cynnwys cyfanswm pob CH 0.00
Arian ar ddiwedd y flwyddyn=C+CH Cash at Year end D 284.63
Balans Banc@ 31.3. 1,880.94

Archwilwyd y Cyfrif a chafwyd yn gywir:

Lowri Williams

Dyddiad: Pwyllgor Cylch 26 Mehefin 2024

Datganiad Ariannol Cylch Meithrin Edern 2023/2024