## **Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr**

## **Cylch Meithrin Edern**

## **Rhif Elusen: 1191036**

Blwyddyn Ariannol yn cychwyn: 01/04/2023 Blwyddyn Ariannol yn darfod: 31/03/2024

## **Cyfeiriad:**

Cylch Meithrin Edern,

Canolfan Gymunedol Edern,

Lôn Gerddi,

Edern, LL53 8YS

## **Ymddiriedolwyr**

Lowri Williams

Sera Glyn Jones

Medi E Davies

## **Crynodeb:**

Eleni gwelwyd niferoedd plant ar lyfrau ’r Cylch yn gostwng,  gyda rhai yn talu ffioedd a sawl un ar y Cynllun Gofal Plant (3 oed). Rydym fel Pwyllgor, gyda chymorth y Swyddogion, wedi bod yn rhagweithiol eto yn ein ymdrechion i ddatblygu’r Cylch a chodi arian yn ystod y flwyddyn ariannol hon 1 Ebrill 2023 – 31 Mawrth 2024. Mae tri sesiwn yr wythnos, gydag niferoedd isel o blant yn mynychu ar ddydd Llun ond mwy o gefnogaeth i’r sesiynau dydd Mawrth a Iau, sy’n nôl y plant o ddosbarth Meithrin Ysgol Edern sy’n fuddiol iawn i rieni.

Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, roeddem yn llwyddiannus yn derbyn dau grant. Derbyniwyd grant gan Cyngor Gwynedd ar gyfer ein helpu i ariannu gwaith tarmacio ardal chwarae y Ganolfan a phrynu uned newid clytiau newydd. Derbyniwyd Grant Degwm hefyd gan Gyngor Gwynedd i brynu offer chwarae pren i’w gosod yn iard chwarae’r Cylch.

Ym mis Medi, cododd Y Ganolfan swm ein rent o £6 y sesiwn i £10 y sesiwn, ac ystyrir bod hyn wedi cael cryn effaith ar ein sefyllfa ariannol.

Cafwyd rhodd ariannol gan Gyngor Cymuned Tudweiliog i helpu i brynu carped a llyfrau ac fe werthfawrogir eu cyfraniad hael.

Cafwyd sawl gweithgaredd i gasglu arian yn cynnwys cwis lluniau a Raffl Sgratch Cards a Raffl Hamper Nadolig. Cynhaliwyd Taith Gerdded y plant a Noson Disgo Calan Gaeaf hefyd sydd wastad yn cael cefnogaeth. Mae biniau ailgylchu dillad Antur Waenfawr hefyd yn gymorth i ddod ac arian cyson i’r Cylch.

O ran gwariant, ein prif gostau yw cyflogau ein Swyddogion (2). Mae’r rhent hefyd wedi cynyddu yn sylweddol eleni o gymharu a blynyddoedd ariannol blaenorol.

Rydym wedi parhau i fuddsoddi yn ein adnoddau hefyd, gyda’r grantiau i gyd wedi eu gwario ac mae cyflwr y Ganolfan ac ein adnoddau wedi gwella.

Fe welwch o’r Gyfriflen Incwm a Gwariant canlynol bod coffrau’r Cylch yn sefydlog.

Trown ein golygon ar barhau i ddatblygu’r Cylch a gwella ein adnoddau, i sicrhau dyfodol hir dymor y Cylch. Gobeithio y byddwn yn parhau i gael cefnogaeth yn y flwyddyn ariannol newydd.

Arwyddwyd gan M E Davies

Medi E Davies (Trysorydd) Dyddiad: 26 Mehefin 2024

## **Cylch Meithrin Edern,**

## **Canolfan Gymunedol Edern, Lôn Gerddi, Edern, LL53 8YS**

## **Mantolen ariannol am y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2023 -31 Mawrth 2024**

|**Ysgol Feithrin Edern**|**Ysgol Feithrin Edern**|**Ysgol Feithrin Edern**||**2023/24**|||_Diweddarwyd 18/05/2024_|_Diweddarwyd 18/05/2024_|_Diweddarwyd 18/05/2024_||

|||||||||**UNION / EXACT**|||
|||||||||**Blwyddyn /**
**Year 1.4.23**
**- 31.3.24**|

|**INCWM / INCOME**|||||||||||
|Grant Mudiad Meithrin Grant||||||||-|||
|Grant Arian Plant 3 oed /3yr old Education Funding Grant||||||||6,900.00|||
|Grant Cynaladwyedd /Sustainability Grant||||||||-|||
|Grant Dechrau'n Deg /Flying Start Grant||||||||-|||
|Grantiau Eraill / Other Grants||||||||6,492.00|||
|Incwm Hyfforddi(e.e CWG) a DwyloYchwanegol /Training||||||||-|||
|Ffioedd Plant / Children's Fees||||||||5,181.00|||
|Codi Arian / Fundraising||||||||798.11|||
|Rhoddion ag Eraill /Donations & Sundries||||||||405.58|||
|**Cyfanswm Incwm**||||||**A**||**19,776.69**|||

|**GWARIANT / EXPENDITURE**|||||||||||
|Cyflogau / Salaries||||||||9,035.06|||
|Costau Rhent a Gwres /Rent & Heating Costs||||||||928.00|||
|Ffioedd Cofrestru a Chynllun TWERegistration & PAYE Scheme||||||Fees||1,241.00|||
|Offer, Nwyddau ag Adnoddau /Equipment, Materials & Resources||||||||5,555.27|||
|Costau Bwyd a Diod /Food & Drink Costs||||||||-|||
|Codi Arian / Fundraising||||||||95.00|||
|Eraill / Other||||||||2,637.73|||
|**Cyfanswm Gwariant /Expenditure Total**||||||**B**||**19,492.06**|||

|Gweddill (diffyg) am y flwyddyn=A-BSurplus (deficit) for the ye||||||a
**C**||284.63|||

|Arian a'r ddechrau'r flwyddyn(dylid cynnwys cyfanswm pob||||||**CH**||0.00|||

|Arian ar ddiwedd y flwyddyn=C+CH Cash at Year end||||||**D**||284.63|||

|Balans Banc@ 31.3.||||||||_1,880.94_|||

Archwilwyd y Cyfrif a chafwyd yn gywir:

Lowri Williams

Dyddiad:  Pwyllgor Cylch 26 Mehefin 2024

## **Datganiad Ariannol Cylch Meithrin Edern 2023/2024**

|**Ysgol Feithrin Edern**|**Ysgol Feithrin Edern**|**Ysgol Feithrin Edern**||**2023/24**|||_Diweddarwyd 18/05/2024_|_Diweddarwyd 18/05/2024_|_Diweddarwyd 18/05/2024_|

|||||||||**UNION / EXACT**||
|||||||||**Blwyddyn /**
**Year 1.4.23**
**- 31.3.24**|

|**INCWM / INCOME**||||||||||
|Grant Mudiad Meithrin Grant||||||||-||
|Grant Arian Plant 3 oed /3yr old Education Funding Grant||||||||6,900.00||
|Grant Cynaladwyedd /Sustainability Grant||||||||-||
|Grant Dechrau'n Deg /Flying Start Grant||||||||-||
|Grantiau Eraill / Other Grants||||||||6,492.00||
|Incwm Hyfforddi(e.e CWG) a DwyloYchwanegol /Training||||||||-||
|Ffioedd Plant / Children's Fees||||||||5,181.00||
|Codi Arian / Fundraising||||||||798.11||
|Rhoddion ag Eraill /Donations & Sundries||||||||405.58||
|**Cyfanswm Incwm**||||||**A**||**19,776.69**||

|**GWARIANT / EXPENDITURE**||||||||||
|Cyflogau / Salaries||||||||9,035.06||
|Costau Rhent a Gwres /Rent & Heating Costs||||||||928.00||
|Ffioedd Cofrestru a Chynllun TWERegistration & PAYE Scheme||||||Fees||1,241.00||
|Offer, Nwyddau ag Adnoddau /Equipment, Materials & Resources||||||||5,555.27||
|Costau Bwyd a Diod /Food & Drink Costs||||||||-||
|Codi Arian / Fundraising||||||||95.00||
|Eraill / Other||||||||2,637.73||
|**Cyfanswm Gwariant /Expenditure Total**||||||**B**||**19,492.06**||

|Gweddill (diffyg) am y flwyddyn=A-BSurplus (deficit) for the ye||||||a
**C**||284.63||

|Arian a'r ddechrau'r flwyddyn(dylid cynnwys cyfanswm pob||||||**CH**||0.00||

|Arian ar ddiwedd y flwyddyn=C+CH Cash at Year end||||||**D**||284.63||

|Balans Banc@ 31.3.||||||||_1,880.94_||