OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-09-30-accounts

Clwb Mynydda Cymru

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn 2023 - 2024

Cyfansoddiad ac Amcan

Mae Clwb Mynydda Cymru wedi ei sefydlu fel Sefydliad Corfforedig Elusennol. Ei amcan ydi hyrwyddo chwaraeon amatur, sef mynydda, yng Nghymru er budd y cyhoedd, yn arbennig ond nid yn unig trwy ddarparu cyfleon ar gyfer mynydda trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ymddiriedolwyr

Yr ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn oedd:

Stephen Williams – Cadeirydd Elen Huws – Is-gadeirydd Richard Roberts – Ysgrifennydd Gweithgareddau Iolo ap Gwynn – Ysgrifennydd y Wefan Iolo Roberts – Ysgrifennydd Cyffredinol Dilys Phillips – Trysorydd Gethin Rowlands– aelod o’r pwyllgor Ariannell Parry – aelod o’r pwyllgor (tan 15/1/24) Eurig James – aelod o’r pwyllgor (o 15/1/24) Dewi Hughes – aelod o’r pwyllgor Raymond Griffiths – aelod o’r pwyllgor Dwynwen Pennant – aelod o’r pwyllgor Sioned Ll Jones – aelod o’r pwyllgor Keith Roberts – aelod o’r pwyllgor

Llywodraethu

Yr ymddiriedolwyr yn cyfarfod fel Pwyllgor sy’n rheoli gweithgareddau’r Clwb.

Cynhaliwyd tri chyfarfod arferol o’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn sef ym misoedd Ionawr, Mai a Medi ac fe gynhaliwyd un cyfarfod brys ym mis Hydref, i gyd drwy gyfrwng Zoom. Mae’r drefn o ddefnyddio Zoom i gynnal ein cyfarfodydd yn gweithio’n dda ac mae’n caniatáu i aelodau sy’n byw ym mhob rhan o Gymru ymuno â’r cyfarfodydd yn eitha rhwydd.

1

Gan mai un o brif gyfrifoldebau’r Pwyllgor yw cadw llygaid ar faterion ariannol y Clwb, ceir diweddariad gan y Trysorydd ym mhob cyfarfod a bydd y Trysorydd hefyd yn cyflwyno adroddiad am sefyllfa ariannol y Clwb a mantolen i’r Cyfarfod Blynyddol. Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i ddefnyddio’r arian oedd yn weddill yn y gronfa er cof am Gareth Pierce i gefnogi’r Urdd i drefnu ail gwrs penwythnos o fynydda a gweithgareddau awyr agored i bobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nglan Llyn, math o weithgaredd a fyddai wedi bod yn agos at galon Gareth.

Yn y Cyfarfod Blynyddol y llynedd cafwyd nifer o awgrymiadau gan aelodau fel a ganlyn:

A. Taliadau i’r Cyngor Mynydda Prydeinig (CMP)

Yn y cyfarfod cafwyd gwybod gan y Trysorydd fod rhan helaeth o dâl aelodaeth y Clwb yn cael ei dalu i’r CMP. Holwyd beth oedd y manteision o wneud hynny ac fe ofynnwyd i’r Pwyllgor roi ystyriaeth pellach i’r mater. Hefyd i’r Ysgrifennydd Gweithgareddau, yn un o’i negeseuon rheolaidd i’r aelodau, nodi fod y Cyfarfod Blynyddol yn annog aelodau i fynychu cyfarfodydd rhanbarthol y CMP er mwyn sicrhau bod dylanwad trigolion lleol a Chymry Cymraeg ynddynt.

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i hyn yn ei gyfarfod ym mis Ionawr ac fe nodwyd fod Gwyn Williams (Llanrwst), ar gais y Pwyllgor, wedi edrych i mewn i hyn yn y gorffennol a chanfod fod yr yswiriant a dderbynnir drwy aelodaeth o’r CMP yn gystadleuol a hefyd ei bod o fantais i’r Clwb fod yn aelod o gorff oedd ȃ dylanwad yn y byd mynydda. Yn sgil hyn penderfynodd y Pwyllgor fel a ganlyn:

i. ategu fod y Pwyllgor o’r farn ei bod o werth i’r Clwb fod yn aelod o’r CMP ii. cytuno ȃ’r awgrym fod yr Ysgrifennydd Gweithgareddau, yn un o’i negeseuon rheolaidd i’r aelodau, yn nodi fod y Cyfarfod Blynyddol yn annog aelodau i fynychu cyfarfodydd rhanbarthol y CMP er mwyn sicrhau bod dylanwad trigolion lleol a Chymry Cymraeg ynddynt.

iii. byddai Steve yn rhoi gwybod i Richard am ddyddiadau’r cyfarfodydd rhanbarthol dan sylw

Bu datblygiadau pellach ynglȳn ȃ thaliadau i’r CMP yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan gafwyd ar ddeall y disgwylir y bydd y taliadau a wneir i’r CMP gan glybiau ar ran eu haelodau yn codi i oddeutu £29 y pen. Gan mai ond £25 yw tâl aelodaeth y Clwb nid yw’r sefyllfa yn gynaliadwy yn y tymor hir a thra roedd y Trysorydd o’r farn fod gan y Clwb ddigon o arian yn y coffrau i ysgwyddo’r cynnydd yn 2025 byddai’n rhaid edrych ar faint y tâl aelodaeth yn y dyfodol.

Cynhaliwyd cyfarfod brys o’r Pwyllgor i ystyried hyn ar 28ain o Hydref ac fe adroddir ar y sefyllfa i’r Cyfarfod Blynyddol.

B. Archif

Yn y Cyfarfod Blynyddol holwyd beth oedd y sefyllfa ynglŷn â’r bwriad i greu archif o’r dogfennau yn ymwneud ȃ sefydlu’r Clwb, nifer ohonynt wedi cael eu harddangos yn stondin y Clwb yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst yn 2019.

2

Rhoddwyd ystyriaeth i hyn gan y Pwyllgor a chysylltodd Steve, y Cadeirydd, ȃ nifer o aelodau a oedd ynglŷn ȃ sefydlu’r Clwb a hel y dogfennau perthnasol at ei gilydd. Byddant maes o law yn cael eu trosglwyddo i’r Llyfrgell Genedlaethol yn y gobaith y byddant yn cael eu rhoi ar wefan y Llyfrgell fel y bydd hanes sefydlu a dyddiau cynnar y Clwb wedi ei ddiogelu ac ar gael i’w weld gan unrhyw un yn y dyfodol. Mae’r Pwyllgor yn hynod o ddiolchgar i Steve am ei holl waith ac yn sicr bydd y Cyfarfod yn ategu hyn. Gobeithir y bydd y ffolderi o ddogfennau a gasglwyd ar gael i’w harchwilio yn y Cyfarfod Blynyddol eleni.

Fe nodir isod rai o’r materion sydd wedi cael sylw’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn

Cardiau aelodaeth electroneg

Ystyriwyd a fyddai modd defnyddio ffurf electroneg i ddosbarthu cardiau aelodaeth i’r aelodau gan y gallai hyn arbed arian i’r Clwb drwy wneud i ffwrdd ȃ chostau postio ac ati. Hyd yma ni lwyddwyd i gael digon o wybodaeth i ddangos a fyddai hyn yn rhywbeth ymarferol y gellid ei wneud.

Graddio teithiau

Ym mis Medi ystyriwyd a ddylid caniatáu i ddarpar-aelod ddod ar daith wedi ei graddio yn ddu (sef teithiau mwyaf heriol y Clwb). Oherwydd eu natur heriol ac anodd a fyddai’n well eu cyfyngu i aelodau llawn yn unig. Penderfynodd y Pwyllgor addasu’r canllawiau teithiau a nodi, er bod croeso i ddarpar-aelodau ymuno ag un o deithiau’r Clwb ar daith flasu, mai ar gyfer aelodau llawn yn unig mae’r teithiau wedi eu graddio yn ddu

Canllawiau ar gyfer teithiau preswyl

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth ym mis Ionawr i’r drefn o ychwanegu tua 10% at gost teithiau preswyl y Clwb yn unol ȃ chanllawiau’r Clwb er mwyn sicrhau bod arian wrth gefn. Cafodd y drefn hon ei mabwysiadu gan fod y Pwyllgor a’r Cyfarfod Blynyddol wedi penderfynu na ddylai teithiau preswyl wneud colled fyddai’n golygu bod y Clwb yn gorfod gwneud iawn amdano.

Gan fod tuedd i’r Clwb bellach ddefnyddio amrywiaeth o wahanol fathau o lety ar gyfer teithiau preswyl, yn amrywio o hostelau i ystafelloedd mewn gwestai, a olyga amrediad yn y prisiau a godir, penderfynodd y Pwyllgor ddiwygio’r canllawiau i geisio sicrhau bod hyblygrwydd yn yr hyn a godir yn ychwanegol ar aelodau tra yn ceisio sicrhau na fydd y Clwb yn gorfod cwrdd ag unrhyw ddiffyg:

Mae’r cymal perthnasol felly yn datgan “ Dylid ychwanegu hyd at 10% at gost dybiedig y daith fel bod arian wrth gefn”

Diffib y Clwb

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ymholiad ynglŷn ȃ phriodoldeb cario diffib y Clwb ar deithiau preswyl. Penderfynodd y Pwyllgor mai prif ddiben y diffibs sydd ym meddiant y Clwb yw eu defnyddio ar gyfer teithiau yng Nghymru. Fodd bynnag, os cyfyd taith breswyl lle mae’r aelodau sy’n mynychu yn tueddu i gyd-gerdded fel un grwp ac na fyddai yn cyd-daro ȃ thaith yng Nghymru yna gellid ei gario yno. Byddai’n rhaid i arweinydd y daith breswyl sicrhau fod y diffib yn cael ei drosglwyddo mewn da bryd i arweinydd y daith olynol ar raglen weithgareddau’r Clwb yng Nghymru.

3

Eisteddfod genedlaethol

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd eleni a bu’r Pwyllgor yn gwneud trefniadau ar gyfer gweithgareddau’r Clwb ynddi. Traddododd Gerallt Pennant Ddarlith Goffa Llew Gwent yn olrhain hanes datblygiad cerdded y Munroau yn yr Alban. Hefyd cynhaliwyd Taith Goffa Gareth Pierce yn ystod yr wythnos gyda 21 yn ymuno ȃ thaith ar Fynydd y Glyn o dan arweiniad Dewi Hughes. Roedd y Pwyllgor yn hynod o ddiolchgar i’r aelodau hynny a fu ynglȳn ȃ’r trefniadau ar gyfer y gweithgareddau hyn.

Os oes diddordeb gennych mae cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor a rhai’r Cyfarfodydd Blynyddol i’w gweld ar wefan y Clwb, gweler y ddolen isod:

http://www.clwbmynyddacymru.com/Dogfennau.htm

Recriwtio ymddiriedolwyr

Y Cyfarfod Blynyddol sydd yn cadarnhau aelodaeth y Pwyllgor ac felly’n penodi’r ymddiriedolwyr. Yn ôl y cyfansoddiad mae traean o aelodau’r Pwyllgor (yr ymddiriedolwyr) yn ymddeol yn flynyddol, sef 4 aelod, er bod hawl i unrhyw un ohonynt gael ei ail-benodi. Y rhai sydd i ymddeol yw’r rhai sydd wedi bod yn eu swydd hiraf. Mae’n agored i unrhyw aelod gynnig i wasanaethu ar y Pwyllgor drwy gysylltu â’r Ysgrifennydd Cyffredinol cyn y Cyfarfod Blynyddol.

Os daw sedd yn wag rhwng Cyfarfodydd Blynyddol mae gan y pwyllgor yr hawl i gyfethol ymddiriedolwr, tan y Cyfarfod Blynyddol nesaf. Yn y cyfarfod ym mis Ionawr fe adroddwyd bod sedd wag ar y Pwyllgor yn dilyn ymadawiad Ariannell Parry i Awstralia ac fe gyfetholwyd Eurig James i wasanaethau ar y Pwyllgor yn ei lle.

Eleni mae tymor Steve fel ein Cadeirydd yn dod i ben a mawr yw ein diolch iddo am ein harwain dros y ddwy flynedd diwethaf. Bydd Elen Huws yn cymryd y gadair yn y Cyfarfod Blynyddol. Mae Elen yn fynyddwraig brofiadol iawn sydd wedi hen arfer troedio mynyddoedd Cymru a thu hwnt ac mae yn un o’r aelodau sydd wedi dringo pob Munro yn yr Alban. Yn sicr bydd y Clwb mewn dwylo cadarn gydag Elen yn ein harwain dros y ddwy flynedd nesaf.

Wrth i Elen gymryd y gadair bydd swydd yr is-gadeirydd yn wag ac angen ei llenwi yn y Cyfarfod Blynyddol.

Gweithgareddau

Ers dechrau’r flwyddyn, trefnwyd 53 o deithiau amrywiol ar benwythnosau ac 11 ar ddyddiau Mercher. Mae hyn yn golygu ein bod wedi cynnig o leiaf un daith pob wythnos. Diolch yn arbennig i’r rhai sydd wedi arwain taith am y tro cyntaf yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn argoeli’n ardderchog o ran dyfodol y Clwb.

Trefnwyd dwy daith flasu dan arweiniad Stephen Williams; y naill ar Foelydd yr Wyddfa ddechrau mis Mai a’r llall dros y ddwy Glyder ddiwedd mis Medi. Mae’n braf gallu adrodd bod rhai o’r ‘blaswyr’ wedi cael eu hysbrydoli i ymaelodi. Diolch i’r

4

aelodau hynny a fu’n cynorthwyo a chroesawu’r rhai a ddaeth i flasu’r hyn y mae’r Clwb yn ei gynnig.

Trefnwyd dwy daith breswyl i’r Alban; diolch yn fawr i Keith Roberts am eu trefnu.

Cynhelir taith i Crianlarich ar 8-15 Mawrth 2024 a thaith haf i’r Cairngorms. Byddir yn anfon rhagor o fanylion cyn hir.

Defnyddiwyd peth o arian y gronfa a sefydlwyd er cof am Gareth Pierce i gefnogi cynnal cwrs mynydda ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru yng Ngwersyll Glanllyn ar 4-6 Hydref 2024 ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 18 oed.

Rydym yn ddiolchgar i arweinyddion teithiau a’u cyd-fynyddwyr am anfon adroddiadau a lluniau o deithiau at Iolo ap Gwynn. Maen nhw’n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae hynny’n hysbysebu effeithiol dros ben i’r Clwb.

Cyfathrebu a chysylltu

Bu’r flwyddyn ers Tachwedd 2023 yn un eithaf prysur a chofnodwyd hanesion 58 o deithiau a gweithgareddau ar y wefan – ynghyd â’r lluniau cyferbyniol ar Flickr. Bu’r wefan a’r cyfrif Gweplyfr/Facebook yn ddefnyddiol i gysylltu ag aelodau ac i ddarganfod aelodau newydd. Bu hefyd yn ddefnyddiol pan oedd angen diweddaru’r Rhaglen – weithiau ar y funud olaf! Mae’r wefan yn dal yn gydnaws â ffonau clyfar a llechi iOS ac Android yn ogystal a porwyr ar bob math o gyfrifiaduron. Mae’r ‘ap’ ar gyfer ffonau clyfar a phadiau iOS ac Android, a luniwyd gan Rhys Jones, yn dal ar gael (drwy ddefnyddio’r cyfarwyddiadau ar y wefan) ac yn boblogaidd fel dull hawdd o gyrchu gwybodaeth o’r wefan ble bynnag yr ydych.

Diolch i bawb wnaeth ddanfon adroddiadau am hanes y teithiau gyda lluniau gwych. Cofiwch fod tudalen Newyddion ar y wefan hefyd ac fod croeso i bawb ddanfon manylion neu hanes o unrhyw beth all fod o ddiddordeb i’r aelodau. Adroddwyd am nifer o faterion yno yn ystod y flwyddyn.

Ers Tachwedd 2023, defnyddiwyd y wefan filoedd o weithiau (y rhan fwyaf o’r DG a nifer o’r UDA a rhai o wledydd eraill). Bu’r defnydd yn weddol gyson drwy’r flwyddyn ac yn amlwg begynnu pryd roedd gweithgaredd gan y Clwb. Defnyddiwyd pob math o offer ar gyfer yr ymweliadau.

5

Y Gweplyfr / Facebook

Bellach mae ganddom bron 1.3k o ddilynwyr cyson ar ein tudalen ble gosodir cyhoeddiadau am ac adroddiadau ar weithragreddau.

Flickr

Mae tua 12,281 o luniau a dynnwyd ar ein teithiau ers 2005 gan aelodau’r clwb, i gyd ar gael drwy’r wefan ar lwyfan Flickr. Pob taith gyda’i albwm ei hunan. Gall aelodau lawrlwytho unrhyw un o rhain ar gyfer defnydd personol.

Mae ein cyfrifon Gweplyfr/Facebook, X (Trydar Twitter) ag Instagram yn dal yn weithgar, i gyd yn cyd-lynu efo’r wefan. Diolch hefyd i’r rhai sy’n gofalu am gyhoeddi gwybodaeth ar X ac Instagram. Cyhoeddir y rhaglen gweithgareddau a hanesion am bob gweithgaredd, ynghyd â Newyddion, ar ein gwefan. Cofiwch dagio @Clwb Mynydda Cymru pan yn negesu ar y gwefannau cymdeithasol. Cofiwch hefyd nodi eich bod am ddilyn ein cyfrif Gweplyfr/Facebook a hoffi a/neu rannu’r hanesion ag eraill.

Cofiwch lawr lwytho’r ‘ap’ ar gyfer iOS neu Android, sy’n cysylltu’n uniongyrchol â gwefan y clwb – cyfarwyddiadau ar sut i wneud hynny ar gael ar y wefan [http://www.clwbmynyddacymru.com/Cysylltu.html].

Dim ond drwy ddilyn y cyfarwyddiadau uchod y gellir gwneud hyn, ni ellir cael hwn drwy adnoddau fel Playstore ayyb.

Er mwyn sicrhau dilyniant i’r dyfodol, os oes unrhyw aelod sydd â phrofiad o luniadu/cynnal gwefannau (defnyddir meddalwedd Adobe Dreamweaver i olygu’r wefan) ddiddordeb mewn cynorthwyo gyda’r gwaith dylid cysylltu ag Ysgrifennydd y Wefan.

Mae’r wefan yn gofnod pwysig o weithgareddau’r clwb dros y blynyddoedd. Daliwch ati i gefnogi ein gwefan a’r tudalennau gwefannau cymdeithasol. Mae’n bwysig lledaenu’r wybodaeth am weithgareddau’r clwb yn y dulliau hyn, gan mai dyma’r unig ffordd y daw cymaint ag sy’n bosib o bobl i wybod am yr hyn sy’n cael ei ddarparu.

Cyllid

Cyflwynir datganiad o gyfrifon y Clwb i sylw’r aelodau ac fe welir fod y sefyllfa ariannol yn parhau’n gadarn gyda mwy o incwm wedi ei dderbyn yn ystod y flwyddyn nag a gafwyd o wariant. Mae hyn yn batrwm blynyddol.

‘Roedd gan y Clwb 262 o aelodau yn talu £25 y pen o dâl aelodaeth yn ystod y flwyddyn. Daeth hyn ag incwm o £6,550. Yn ogystal ‘roedd yna nifer o “garedigion”. Unigolion ydi’r rhain sydd wedi bod yn aelodau yn y gorffennol ond heb gynyddu (na dileu) eu harchebion banc ac o’r herwydd sydd ddim mwyach yn gymwys i’w hystyried yn aelodau o’r Clwb. O’r rhain ‘roedd 27 yn talu £20, 25 yn talu £15 a 7 yn talu symiau llai gan roi cyfanswm incwm o £980.

6

Mae’r Clwb yn perthyn i’r Cyngor Mynydda Prydeinig (CMP), sy’n darparu yswiriant ar gyfer y gweithgareddau. ‘Roedd cost ymaelodi â’r CMP yn £23.90 y pen (gyda rhywfaint o ostyngiad yn ystod ail hanner y flwyddyn). Cyfanswm y taliad i’r CMP oedd £6,225.95.

Mae’r derbyniadau a thaliadau ar gyfer y cinio blynyddol yn cwmpasu dwy flwyddyn ariannol fel rheol. Yn y flwyddyn dan sylw derbyniwyd £620 at ginio blynyddol 2023 yn y Royal Oak, Betws y Coed a thalwyd £1,165. Er bod hyn yn edrych fel colled sylweddol nid dyna’r gwir sefyllfa gan fod nifer o ragdaliadau wedi eu derbyn yn y flwyddyn ariannol flaenorol. (Rhyw £50 oedd y gwahaniaeth terfynol rhwng yr incwm a’r gwariant, sy’n gyson â blynyddoedd eraill). Bydd yr un sefyllfa yn codi yng nghyfrifon 2024/25 gan fod rhai taliadau wedi eu derbyn a’u gwneud mewn perthynas â chinio 2024 cyn i’r llyfrau gau.

Trefnwyd tair taith breswyl yn ystod y flwyddyn. ‘Roedd cyfanswm y derbyniadau ar gyfer y dair taith yn £18,723 a’r gwariant yn £20,657. Ond fel gyda’r cinio blynyddol mae hyn cuddio’r ffaith fod nifer wedi talu blaendal ar gyfer taith Crianlarich cyn i’r llyfrau gau ar gyfrifon y flwyddyn gynt. Diolch i drefnwyr y teithiau am eu hymdrechion di-flino i sicrhau nad yw’r teithiau yn gwneud colled a’u bod yn talu amdanynt eu hunain neu’n dangos rhywfaint o warged.

Yr unig incwm arall oedd llog banc (noder fod y gyfradd llog wedi cynyddu gryn dipyn yn y flwyddyn dan sylw) a rhoddion gan aelodau (sef gordaliadau heb eu hawlio’n ôl).

‘Roedd y gwariant yn cynnwys y costau rhedeg arferol yn ymwneud â bancio, gweinyddiaeth, y wefan, y ddarlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac aelodaeth o’r Bartneriaeth Awyr Agored (sy’n cynnig hyfforddiant i’r aelodau). Yn ogystal gwnaed taliad o £528 i Urdd Gobaith Cymru am redeg penwythnos fynydda ar y cyd â’r Clwb er cof am y diweddar Gareth Pierce. Daeth yr arian hwn o Gronfa Coffa Gareth Pierce; mae £360 ar ôl yn y gronfa sydd wedi ei glustnodi ar gyfer penwythnos arall gyffelyb yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25.

Cronfeydd

Ar ddiwedd y flwyddyn ‘roedd gan y Clwb £7,176.99 yn y coffrau. (Mae hyn yn cynnwys £360 yng Nghronfa Goffa Gareth Pierce, £52.50 o ragdaliadau ar gyfer cinio blynyddol 2024 a £6,764.49 yn y gronfa gyffredinol). Mae’r sefyllfa yn parhau’n iach ac yn dangos cynnydd unwaith eto ar y flwyddyn gynt, yn bennaf oherwydd yr incwm gan y caredigion a’r gwarged ar y teithiau. Gorffennwyd y flwyddyn gydag oddeutu £1,700 yn fwy o arian yn y gronfa gyffredinol nag oedd yno ar ddechrau’r flwyddyn.

Mae’r Clwb angen cadw arian wrth gefn yn y gronfa gyffredinol er mwyn sicrhau llif arian digonol (gan fod rhaid weithiau talu ymlaen llaw am lety ar deithiau preswyl cyn casglu arian gan y rhai sy’n mynychu) ac hefyd er mwyn gwarchod yn erbyn gwariant annisgwyl. Credir fod swm o £5000 yn ddigonol ar gyfer hynny ar hyn o bryd. Gan bod angen i’r arian for ar gael ar fyr rybudd mae’n cael ei gadw mewn cyfrif cadw yn y banc yn hytrach na’i fuddsoddi am dymor hirach.

7

Rhagwelir y bydd y gronfa gyffredinol yn gostwng yn sylweddol yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25 o ganlyniad i benderfyniad y CMP i gynyddu eu ffi i £29.33 y pen o 1 Ionawr 2025. Mae modd i’r Clwb ymdopi gyda hyn yn 2025 oherwydd cryfder y gronfa gyffredinol ond yn amlwg fydd hynny ddim yn gynaliadwy am gyfnod hir a bydd raid dod i benderfyniad yng nghyfarfod blynyddol 2025 ar sut i ymateb i’r codiad annisgwyl hwn.

Stephen Williams Cadeirydd

(ar ran yr ymddiriedolwyr)

Dyddiad: 16/11/24

8

CLWB MYNYDDA CYMRU - adroddiad ariannol 2023/24

(Elusen gofrestredig rhif 1190243 )

(2022/23) (2022/23)
Derbyniadau £ £ Taliadau £ £
Aelodaeth: Aelodau
6,550.00 Aelodaeth:
Caredigion 980.00
7,530.00 7,690.00 Cyngor Mynydda Prydeinig 6,225.95 5,707.15
Cinio blynyddol 2023
620.00 Cinio blynyddol 2023 1,165.00
Cinio blynyddol 2024 (rhagdaliadau) 85.00 Cinio blynyddol 2024 (blaendaliad) 32.50
705.00 1,742.00 1,197.50 1,290.00
Teithiau: Teithiau:
Crianlarich
9,912.00 Crianlarich 12,606.00
Hawes
5,391.00 Hawes 4,901.00
Inchree
3,420.00 Inchree 3,150.00
18,723.00 5,130.00 20,657.00 2,127.00
Incwm arall: Llog banc 162.36 48.78 Gwariant arall: Costau banc 61.20
Rhoddion 30.00 70.00 Gweinyddol 196.50
Gwefan 297.46
Eisteddfod 2024 (darlith) 123.00
Partneriaeth Awyr Agored 150.00
Penwythnos goffa Gareth
Pierce 528.00
1,356.16 986.81
Mewn llaw 1 Hydref 2023: Mewn llaw 30 Medi 2024:
Cyfrif cyfredol
3,882.03 Cyfrif cyfredol 433.42
Cyfrif cadw
5,581.21 Cyfrif cadw 6,743.57
9,463.24 4,893.42 7,176.99 9,463.24
36,613.60 19,574.20 36,613.60 19,574.20
Dilys Phillips George Jones
Trysorydd 24/10/24 Archwiliwr 24/10/24