
## **Clwb Mynydda Cymru** 

_Elusen gofrestredig rhif 1190243_ 

## **Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn 2023 - 2024** 

## **Cyfansoddiad ac Amcan** 

Mae Clwb Mynydda Cymru wedi ei sefydlu fel Sefydliad Corfforedig Elusennol. Ei amcan ydi hyrwyddo chwaraeon amatur, sef mynydda, yng Nghymru er budd y cyhoedd, yn arbennig ond nid yn unig trwy ddarparu cyfleon ar gyfer mynydda trwy gyfrwng y Gymraeg. 

## **Ymddiriedolwyr** 

Yr ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn oedd: 

Stephen Williams – Cadeirydd Elen Huws – Is-gadeirydd Richard Roberts – Ysgrifennydd Gweithgareddau Iolo ap Gwynn – Ysgrifennydd y Wefan Iolo Roberts – Ysgrifennydd Cyffredinol Dilys Phillips – Trysorydd Gethin Rowlands– aelod o’r pwyllgor Ariannell Parry – aelod o’r pwyllgor (tan 15/1/24) Eurig James –  aelod o’r pwyllgor (o 15/1/24) Dewi Hughes – aelod o’r pwyllgor Raymond Griffiths – aelod o’r pwyllgor Dwynwen Pennant – aelod o’r pwyllgor Sioned Ll Jones – aelod o’r pwyllgor Keith Roberts – aelod o’r pwyllgor 

## **Llywodraethu** 

Yr ymddiriedolwyr yn cyfarfod fel Pwyllgor sy’n rheoli gweithgareddau’r Clwb. 

Cynhaliwyd tri chyfarfod arferol o’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn sef ym misoedd Ionawr, Mai a  Medi ac fe gynhaliwyd un cyfarfod brys ym mis Hydref, i gyd drwy gyfrwng Zoom. Mae’r drefn o ddefnyddio Zoom i gynnal ein cyfarfodydd yn gweithio’n dda ac mae’n caniatáu i aelodau sy’n byw ym mhob rhan o Gymru ymuno â’r cyfarfodydd yn eitha rhwydd. 

1 



Gan mai un o brif gyfrifoldebau’r Pwyllgor yw cadw llygaid ar faterion ariannol y Clwb, ceir diweddariad gan y Trysorydd ym mhob cyfarfod a bydd y Trysorydd hefyd yn cyflwyno adroddiad am sefyllfa ariannol y Clwb a mantolen i’r Cyfarfod Blynyddol. Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i ddefnyddio’r arian oedd yn weddill yn y gronfa er cof am Gareth Pierce i gefnogi’r Urdd i drefnu ail gwrs penwythnos o fynydda a gweithgareddau awyr agored i bobl ifanc drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nglan Llyn, math o weithgaredd a fyddai wedi bod yn agos at galon Gareth. 

Yn y Cyfarfod Blynyddol y llynedd cafwyd nifer o awgrymiadau gan aelodau fel a ganlyn: 

## A. Taliadau i’r Cyngor Mynydda Prydeinig (CMP) 

Yn y cyfarfod cafwyd gwybod gan y Trysorydd fod rhan helaeth o dâl aelodaeth y Clwb yn cael ei dalu i’r CMP. Holwyd beth oedd y manteision o wneud hynny ac fe ofynnwyd i’r Pwyllgor roi ystyriaeth pellach i’r mater. Hefyd  i’r Ysgrifennydd Gweithgareddau, yn un o’i negeseuon rheolaidd i’r aelodau, nodi fod y Cyfarfod Blynyddol yn annog aelodau i fynychu cyfarfodydd rhanbarthol y CMP er mwyn sicrhau bod dylanwad trigolion lleol a Chymry Cymraeg  ynddynt. 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i hyn yn ei gyfarfod ym mis Ionawr ac fe nodwyd fod Gwyn Williams (Llanrwst), ar gais y Pwyllgor, wedi edrych i mewn i hyn yn y gorffennol a chanfod fod yr yswiriant a dderbynnir drwy aelodaeth o’r CMP yn gystadleuol a hefyd ei bod o fantais i’r Clwb fod yn aelod o gorff oedd  ȃ  dylanwad yn y byd mynydda. Yn sgil hyn penderfynodd y Pwyllgor fel a ganlyn: 

_i. ategu fod y Pwyllgor o’r  farn ei bod o werth i’r Clwb  fod yn aelod o’r CMP ii. cytuno ȃ’r awgrym fod yr  Ysgrifennydd  Gweithgareddau, yn un o’i negeseuon rheolaidd i’r aelodau, yn nodi fod y Cyfarfod Blynyddol yn annog aelodau i fynychu cyfarfodydd rhanbarthol y CMP er mwyn sicrhau bod dylanwad trigolion lleol a Chymry Cymraeg  ynddynt._ 

_iii. byddai Steve yn rhoi gwybod  i Richard am ddyddiadau’r cyfarfodydd rhanbarthol dan sylw_ 

Bu datblygiadau pellach ynglȳn ȃ thaliadau i’r CMP yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan gafwyd ar ddeall y disgwylir y bydd y taliadau a wneir i’r CMP gan glybiau ar ran eu haelodau yn codi i oddeutu £29 y pen. Gan mai ond £25 yw tâl aelodaeth y Clwb nid yw’r sefyllfa yn gynaliadwy  yn y tymor hir a thra roedd y Trysorydd o’r farn fod gan y Clwb ddigon o arian yn y coffrau i ysgwyddo’r cynnydd yn 2025 byddai’n rhaid edrych ar faint y tâl aelodaeth yn y dyfodol. 

Cynhaliwyd cyfarfod brys o’r Pwyllgor i ystyried hyn ar 28ain o Hydref ac fe adroddir ar y sefyllfa i’r Cyfarfod Blynyddol. 

## B. Archif 

Yn y Cyfarfod Blynyddol holwyd beth oedd y sefyllfa ynglŷn â’r bwriad i greu archif o’r dogfennau yn ymwneud ȃ  sefydlu’r Clwb, nifer ohonynt wedi cael eu harddangos yn stondin y Clwb yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst yn 2019. 

2 



Rhoddwyd ystyriaeth i hyn gan y Pwyllgor a chysylltodd Steve, y Cadeirydd, ȃ nifer o aelodau a oedd ynglŷn  ȃ sefydlu’r Clwb a hel y dogfennau perthnasol at ei gilydd. Byddant maes o law yn cael eu trosglwyddo i’r Llyfrgell Genedlaethol yn y gobaith y byddant  yn cael eu  rhoi ar wefan y Llyfrgell fel y bydd hanes sefydlu a dyddiau cynnar y Clwb wedi ei ddiogelu ac ar gael i’w weld gan unrhyw un yn y  dyfodol. Mae’r Pwyllgor yn hynod o ddiolchgar i Steve am ei holl waith ac yn sicr bydd y Cyfarfod yn ategu hyn. Gobeithir y bydd y ffolderi o ddogfennau a gasglwyd ar gael i’w harchwilio yn y Cyfarfod Blynyddol eleni. 

Fe nodir isod rai o’r materion sydd wedi cael sylw’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn 

## Cardiau aelodaeth electroneg 

Ystyriwyd a fyddai modd defnyddio ffurf electroneg i ddosbarthu cardiau aelodaeth i’r aelodau gan y gallai hyn arbed arian i’r Clwb drwy wneud i ffwrdd ȃ chostau postio ac ati.  Hyd yma ni lwyddwyd i gael digon o wybodaeth i ddangos a fyddai hyn yn rhywbeth ymarferol y gellid ei wneud. 

## Graddio teithiau 

Ym mis Medi ystyriwyd a ddylid caniatáu i ddarpar-aelod ddod ar daith wedi ei graddio yn ddu (sef teithiau mwyaf heriol y Clwb). Oherwydd eu natur heriol ac anodd a  fyddai’n well  eu cyfyngu i aelodau llawn yn unig. Penderfynodd y Pwyllgor addasu’r canllawiau teithiau a nodi, er bod croeso i ddarpar-aelodau ymuno ag un o deithiau’r Clwb ar daith flasu, mai ar gyfer aelodau llawn yn unig mae’r teithiau wedi eu graddio yn ddu 

## Canllawiau ar gyfer teithiau preswyl 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth ym mis Ionawr i’r drefn o ychwanegu tua 10% at gost teithiau preswyl y Clwb yn unol ȃ chanllawiau’r Clwb er mwyn sicrhau bod arian wrth gefn. Cafodd y drefn hon ei mabwysiadu gan fod y Pwyllgor a’r Cyfarfod Blynyddol  wedi penderfynu na ddylai teithiau preswyl wneud colled fyddai’n golygu bod y Clwb yn gorfod gwneud iawn amdano. 

Gan fod tuedd  i’r Clwb bellach ddefnyddio amrywiaeth o wahanol fathau o lety ar gyfer teithiau preswyl, yn amrywio o hostelau i ystafelloedd mewn gwestai, a olyga amrediad yn y prisiau a godir, penderfynodd y Pwyllgor ddiwygio’r canllawiau i geisio sicrhau bod hyblygrwydd yn yr hyn a godir yn ychwanegol ar aelodau  tra yn ceisio sicrhau na fydd y Clwb yn gorfod cwrdd ag unrhyw ddiffyg: 

Mae’r cymal perthnasol felly yn datgan “ _Dylid ychwanegu hyd at 10% at gost dybiedig y daith fel bod arian wrth gefn”_ 

## Diffib y Clwb 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i ymholiad ynglŷn ȃ phriodoldeb cario diffib y Clwb ar deithiau preswyl. Penderfynodd y Pwyllgor mai prif ddiben y diffibs sydd ym meddiant y Clwb yw eu defnyddio ar gyfer teithiau yng Nghymru. Fodd bynnag, os cyfyd taith breswyl lle mae’r aelodau  sy’n mynychu yn tueddu i gyd-gerdded fel un grwp ac na fyddai yn  cyd-daro ȃ thaith yng Nghymru yna gellid ei gario yno. Byddai’n rhaid i arweinydd y daith breswyl sicrhau fod y diffib yn cael ei drosglwyddo mewn da bryd  i arweinydd y daith olynol ar raglen weithgareddau’r Clwb yng Nghymru. 

3 



## Eisteddfod genedlaethol 

Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd  eleni a bu’r Pwyllgor yn gwneud trefniadau ar gyfer gweithgareddau’r Clwb ynddi. Traddododd Gerallt Pennant Ddarlith Goffa Llew Gwent yn olrhain hanes datblygiad cerdded y Munroau yn yr Alban. Hefyd cynhaliwyd Taith Goffa Gareth Pierce  yn ystod yr wythnos gyda 21 yn ymuno ȃ thaith ar Fynydd y Glyn o dan arweiniad Dewi Hughes. Roedd y Pwyllgor yn hynod o ddiolchgar i’r aelodau hynny a fu ynglȳn ȃ’r trefniadau ar gyfer y gweithgareddau hyn. 

Os oes diddordeb gennych mae cofnodion cyfarfodydd y  Pwyllgor a rhai’r Cyfarfodydd Blynyddol i’w gweld ar wefan y Clwb, gweler y ddolen isod: 

## http://www.clwbmynyddacymru.com/Dogfennau.htm 

## **Recriwtio ymddiriedolwyr** 

Y Cyfarfod Blynyddol sydd yn cadarnhau aelodaeth y Pwyllgor ac felly’n penodi’r ymddiriedolwyr. Yn ôl y cyfansoddiad mae traean o aelodau’r Pwyllgor (yr ymddiriedolwyr) yn ymddeol yn flynyddol, sef 4 aelod, er bod hawl i unrhyw un ohonynt gael ei ail-benodi. Y rhai sydd i ymddeol yw’r rhai sydd wedi bod yn eu swydd hiraf. Mae’n agored i unrhyw aelod gynnig i wasanaethu ar y Pwyllgor drwy gysylltu â’r Ysgrifennydd Cyffredinol cyn y Cyfarfod Blynyddol. 

Os daw sedd yn wag rhwng Cyfarfodydd Blynyddol mae gan y pwyllgor yr hawl i gyfethol ymddiriedolwr, tan y Cyfarfod Blynyddol nesaf. Yn y cyfarfod ym mis Ionawr fe adroddwyd bod sedd wag ar y Pwyllgor yn dilyn ymadawiad  Ariannell Parry  i Awstralia ac fe gyfetholwyd Eurig James i wasanaethau ar y Pwyllgor yn ei lle. 

Eleni mae tymor Steve fel ein Cadeirydd yn dod i ben a mawr yw ein diolch iddo am ein harwain dros y ddwy flynedd diwethaf. Bydd Elen Huws yn cymryd y gadair yn y Cyfarfod Blynyddol. Mae Elen yn fynyddwraig brofiadol iawn sydd wedi hen arfer troedio mynyddoedd Cymru a thu hwnt ac mae yn un o’r aelodau sydd wedi dringo pob Munro yn yr Alban. Yn sicr bydd y Clwb mewn dwylo cadarn gydag Elen yn ein harwain dros y ddwy flynedd nesaf. 

Wrth i  Elen gymryd y gadair bydd swydd yr is-gadeirydd yn wag ac angen ei llenwi yn y Cyfarfod Blynyddol. 

## **Gweithgareddau** 

Ers dechrau’r flwyddyn, trefnwyd 53 o deithiau amrywiol ar benwythnosau ac 11 ar ddyddiau Mercher. Mae hyn yn golygu ein bod wedi cynnig o leiaf un daith pob wythnos. Diolch yn arbennig i’r rhai sydd wedi arwain taith am y tro cyntaf yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn argoeli’n ardderchog o ran dyfodol y Clwb. 

Trefnwyd dwy daith flasu dan arweiniad Stephen Williams; y naill ar Foelydd yr Wyddfa ddechrau mis Mai a’r llall dros y ddwy Glyder ddiwedd mis Medi. Mae’n braf gallu adrodd bod rhai o’r ‘blaswyr’ wedi cael eu hysbrydoli i ymaelodi. Diolch i’r 

4 



aelodau hynny a fu’n cynorthwyo a chroesawu’r rhai a ddaeth i flasu’r hyn y mae’r Clwb yn ei gynnig. 

Trefnwyd dwy daith breswyl i’r Alban; diolch yn fawr i Keith Roberts am eu trefnu. 

- Taith aeaf i Crianlarich **.** Ym mis Chwefror, bu 23 o aelodau yn dringo nifer helaeth o gopaon rhwng ardal Glen Lyon yn y dwyrain a Glencoe yn y gorllewin. Dathlwyd camp Gerallt Pennant o gwblhau’r Munros gyda chriw teilwng yn dringo dau gopa Buchaille Etive Beag yn Glencoe. 

- Taith haf i Onich. Mwynhaodd 19 o aelodau dywydd hafaidd dros ben ddiwedd mis Mai a llwyddwyd i esgyn nifer helaeth o gopaon. Yno, dathlwyd camp Dwynwen Pennant o gwblhau dringo’r Munros drwy esgyn Carn Mor Dearg. 

- Taith i Hawes, Swydd Efrog - aeth 19 o aelodau yno i fwynhau tywydd a theithiau ardderchog – diolch i Gwyn Williams am drefnu. 

Cynhelir taith i Crianlarich ar 8-15 Mawrth 2024 a thaith haf i’r Cairngorms. Byddir yn anfon rhagor o fanylion cyn hir. 

Defnyddiwyd peth o arian y gronfa a sefydlwyd er cof am Gareth Pierce i gefnogi cynnal cwrs mynydda ar y cyd ag Urdd Gobaith Cymru yng Ngwersyll Glanllyn ar 4-6 Hydref 2024 ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 ac 18 oed. 

Rydym yn ddiolchgar i arweinyddion teithiau a’u cyd-fynyddwyr am anfon adroddiadau a lluniau o deithiau at Iolo ap Gwynn. Maen nhw’n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae hynny’n hysbysebu effeithiol dros ben i’r Clwb. 

## **Cyfathrebu a chysylltu** 

Bu’r flwyddyn ers Tachwedd 2023 yn un eithaf prysur a chofnodwyd hanesion 58 o deithiau a gweithgareddau ar y wefan – ynghyd â’r lluniau cyferbyniol ar Flickr. Bu’r wefan a’r cyfrif Gweplyfr/Facebook yn ddefnyddiol i gysylltu ag aelodau ac i ddarganfod aelodau newydd. Bu hefyd yn ddefnyddiol pan oedd angen diweddaru’r Rhaglen – weithiau ar y funud olaf! Mae’r wefan yn dal yn gydnaws â ffonau clyfar a llechi iOS ac Android yn ogystal a porwyr ar bob math o gyfrifiaduron. Mae’r ‘ap’ ar gyfer ffonau clyfar a phadiau iOS ac Android, a luniwyd gan Rhys Jones, yn dal ar gael (drwy ddefnyddio’r cyfarwyddiadau ar y wefan) ac yn boblogaidd fel dull hawdd o gyrchu gwybodaeth o’r wefan ble bynnag yr ydych. 

Diolch i bawb wnaeth ddanfon adroddiadau am hanes y teithiau gyda lluniau gwych. Cofiwch fod tudalen Newyddion ar y wefan hefyd ac fod croeso i bawb ddanfon manylion neu hanes o unrhyw beth all fod o ddiddordeb i’r aelodau. Adroddwyd am nifer o faterion yno yn ystod y flwyddyn. 

Ers Tachwedd 2023, defnyddiwyd y wefan filoedd o weithiau (y rhan fwyaf o’r DG a nifer o’r UDA a rhai o wledydd eraill). Bu’r defnydd yn weddol gyson drwy’r flwyddyn ac yn amlwg begynnu pryd roedd gweithgaredd gan y Clwb. Defnyddiwyd pob math o offer ar gyfer yr ymweliadau. 

5 



## Y Gweplyfr / Facebook 

Bellach mae ganddom bron 1.3k o ddilynwyr cyson ar ein tudalen ble gosodir cyhoeddiadau am ac adroddiadau ar weithragreddau. 

## Flickr 

Mae tua 12,281 o luniau a dynnwyd ar ein teithiau ers 2005 gan aelodau’r clwb, i gyd ar gael drwy’r wefan ar lwyfan Flickr. Pob taith gyda’i albwm ei hunan. Gall aelodau lawrlwytho unrhyw un o rhain ar gyfer defnydd personol. 

Mae ein cyfrifon Gweplyfr/Facebook, X (Trydar Twitter) ag Instagram yn dal yn weithgar, i gyd yn cyd-lynu efo’r wefan. Diolch hefyd i’r rhai sy’n gofalu am gyhoeddi gwybodaeth ar X ac Instagram. Cyhoeddir y rhaglen gweithgareddau a hanesion am bob gweithgaredd, ynghyd â Newyddion, ar ein gwefan. Cofiwch dagio @Clwb Mynydda Cymru pan yn negesu ar y gwefannau cymdeithasol. Cofiwch hefyd nodi eich bod am ddilyn ein cyfrif Gweplyfr/Facebook a hoffi a/neu rannu’r hanesion ag eraill. 

Cofiwch lawr lwytho’r ‘ap’ ar gyfer iOS neu Android, sy’n cysylltu’n uniongyrchol â gwefan y clwb – cyfarwyddiadau ar sut i wneud hynny ar gael ar y wefan [http://www.clwbmynyddacymru.com/Cysylltu.html]. 

Dim ond drwy ddilyn y cyfarwyddiadau uchod y gellir gwneud hyn, ni ellir cael hwn drwy adnoddau fel Playstore ayyb. 

Er mwyn sicrhau dilyniant i’r dyfodol, os oes unrhyw aelod sydd â phrofiad o luniadu/cynnal gwefannau (defnyddir meddalwedd Adobe Dreamweaver i olygu’r wefan) ddiddordeb mewn cynorthwyo gyda’r gwaith dylid cysylltu ag Ysgrifennydd y Wefan. 

Mae’r wefan yn gofnod pwysig o weithgareddau’r clwb dros y blynyddoedd. Daliwch ati i gefnogi ein gwefan a’r tudalennau gwefannau cymdeithasol. Mae’n bwysig lledaenu’r wybodaeth am weithgareddau’r clwb yn y dulliau hyn, gan mai dyma’r unig ffordd y daw cymaint ag sy’n bosib o bobl i wybod am yr hyn sy’n cael ei ddarparu. 

## **Cyllid** 

Cyflwynir datganiad o gyfrifon y Clwb i sylw’r aelodau ac fe welir fod y sefyllfa ariannol yn parhau’n gadarn gyda mwy o incwm wedi ei dderbyn yn ystod y flwyddyn nag a gafwyd o wariant. Mae hyn yn batrwm blynyddol. 

‘Roedd gan y Clwb 262 o aelodau yn talu £25 y pen o dâl aelodaeth yn ystod y flwyddyn. Daeth hyn ag incwm o £6,550. Yn ogystal ‘roedd yna nifer o “garedigion”. Unigolion ydi’r rhain sydd wedi bod yn aelodau yn y gorffennol ond heb gynyddu (na dileu) eu harchebion banc ac o’r herwydd sydd ddim mwyach yn gymwys i’w hystyried yn aelodau o’r Clwb. O’r rhain ‘roedd 27 yn talu £20, 25 yn talu £15 a 7 yn talu symiau llai gan roi cyfanswm incwm o £980. 

6 



Mae’r Clwb yn perthyn i’r Cyngor Mynydda Prydeinig (CMP), sy’n darparu yswiriant ar gyfer y gweithgareddau. ‘Roedd cost ymaelodi â’r CMP yn £23.90 y pen (gyda rhywfaint o ostyngiad yn ystod ail hanner y flwyddyn). Cyfanswm y taliad i’r CMP oedd £6,225.95. 

Mae’r derbyniadau a thaliadau ar gyfer y cinio blynyddol yn cwmpasu dwy flwyddyn ariannol fel rheol. Yn y flwyddyn dan sylw derbyniwyd £620 at ginio blynyddol 2023 yn y Royal Oak, Betws y Coed a thalwyd £1,165. Er bod hyn yn edrych fel colled sylweddol nid dyna’r gwir sefyllfa gan fod nifer o ragdaliadau wedi eu derbyn yn y flwyddyn ariannol flaenorol. (Rhyw £50 oedd y gwahaniaeth terfynol rhwng yr incwm a’r gwariant, sy’n gyson â blynyddoedd eraill). Bydd yr un sefyllfa yn codi yng nghyfrifon 2024/25 gan fod rhai taliadau wedi eu derbyn a’u gwneud mewn perthynas â chinio 2024 cyn i’r llyfrau gau. 

Trefnwyd tair taith breswyl yn ystod y flwyddyn. ‘Roedd cyfanswm y derbyniadau ar gyfer y dair taith yn £18,723 a’r gwariant yn £20,657. Ond fel gyda’r cinio blynyddol mae hyn cuddio’r ffaith fod nifer wedi talu blaendal ar gyfer taith Crianlarich cyn i’r llyfrau gau ar gyfrifon y flwyddyn gynt. Diolch i drefnwyr y teithiau am eu hymdrechion di-flino i sicrhau nad yw’r teithiau yn gwneud colled a’u bod yn talu amdanynt eu hunain neu’n dangos rhywfaint o warged. 

Yr unig incwm arall oedd llog banc (noder fod y gyfradd llog wedi cynyddu gryn dipyn yn y flwyddyn dan sylw) a rhoddion gan aelodau (sef gordaliadau heb eu hawlio’n ôl). 

‘Roedd y gwariant yn cynnwys y costau rhedeg arferol yn ymwneud â bancio, gweinyddiaeth, y wefan, y ddarlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac aelodaeth o’r Bartneriaeth Awyr Agored (sy’n cynnig hyfforddiant i’r aelodau). Yn ogystal gwnaed taliad o £528 i Urdd Gobaith Cymru am redeg penwythnos fynydda ar y cyd â’r Clwb er cof am y diweddar Gareth Pierce. Daeth yr arian hwn o Gronfa Coffa Gareth Pierce; mae £360 ar ôl yn y gronfa sydd wedi ei glustnodi ar gyfer penwythnos arall gyffelyb yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25. 

## **Cronfeydd** 

Ar ddiwedd y flwyddyn ‘roedd gan y Clwb £7,176.99 yn y coffrau. (Mae hyn yn cynnwys £360 yng Nghronfa Goffa Gareth Pierce, £52.50 o ragdaliadau ar gyfer cinio blynyddol 2024 a £6,764.49 yn y gronfa gyffredinol). Mae’r sefyllfa yn parhau’n iach ac yn dangos cynnydd unwaith eto ar y flwyddyn gynt, yn bennaf oherwydd yr incwm gan y caredigion a’r gwarged ar y teithiau. Gorffennwyd y flwyddyn gydag oddeutu £1,700 yn fwy o arian yn y gronfa gyffredinol nag oedd yno ar ddechrau’r flwyddyn. 

Mae’r Clwb angen cadw arian wrth gefn yn y gronfa gyffredinol er mwyn sicrhau llif arian digonol (gan fod rhaid weithiau talu ymlaen llaw am lety ar deithiau preswyl cyn casglu arian gan y rhai sy’n mynychu) ac hefyd er mwyn gwarchod yn erbyn gwariant annisgwyl. Credir fod swm o £5000 yn ddigonol ar gyfer hynny ar hyn o bryd. Gan bod angen i’r arian for ar gael ar fyr rybudd mae’n cael ei gadw mewn cyfrif cadw yn y banc yn hytrach na’i fuddsoddi am dymor hirach. 

7 



Rhagwelir y bydd y gronfa gyffredinol yn gostwng yn sylweddol yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25 o ganlyniad i benderfyniad y CMP i gynyddu eu ffi i £29.33 y pen o 1 Ionawr 2025. Mae modd i’r Clwb ymdopi gyda hyn yn 2025 oherwydd cryfder y gronfa gyffredinol ond yn amlwg fydd hynny ddim yn gynaliadwy am gyfnod hir a bydd raid dod i benderfyniad yng nghyfarfod blynyddol 2025 ar sut i ymateb i’r codiad annisgwyl hwn. 

Stephen Williams Cadeirydd 

(ar ran yr ymddiriedolwyr) 

Dyddiad: 16/11/24 

8 



## **CLWB MYNYDDA CYMRU - adroddiad ariannol 2023/24** 

_(Elusen gofrestredig rhif 1190243_ ) 

|||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|||||_(2022/23)_|||||_(2022/23)_|
|**Derbyniadau**||£|£||**Taliadau**||£|£||
|Aelodaeth:|Aelodau<br>|6,550.00|||Aelodaeth:|||||
||Caredigion|980.00||||||||
||||7,530.00|_7,690.00_||Cyngor Mynydda Prydeinig||6,225.95|_5,707.15_|
|Cinio blynyddol|2023<br>|620.00|||Cinio blynyddol|2023|1,165.00|||
|Cinio blynyddol|2024 (rhagdaliadau)|85.00|||Cinio blynyddol|2024 (blaendaliad)|32.50|||
||||705.00|_1,742.00_||||1,197.50|_1,290.00_|
|Teithiau:|||||Teithiau:|||||
||Crianlarich<br>|9,912.00||||Crianlarich|12,606.00|||
||Hawes<br>|5,391.00||||Hawes|4,901.00|||
||Inchree<br>|3,420.00||||Inchree|3,150.00|||
||||18,723.00|_5,130.00_||||20,657.00|_2,127.00_|
|Incwm arall:|Llog banc||162.36|_48.78_|Gwariant arall:|Costau banc|61.20|||
||Rhoddion||30.00|_70.00_||Gweinyddol|196.50|||
|||||||Gwefan|297.46|||
|||||||Eisteddfod 2024 (darlith)|123.00|||
|||||||Partneriaeth Awyr Agored|150.00|||
|||||||Penwythnos goffa Gareth||||
|||||||Pierce|528.00|||
|||||||||1,356.16|_986.81_|
|Mewn llaw 1 Hydref 2023:|||||Mewn llaw 30 Medi 2024:|||||
||Cyfrif cyfredol<br>|3,882.03||||Cyfrif cyfredol|433.42|||
||Cyfrif cadw<br>|5,581.21||||Cyfrif cadw|6,743.57|||
||||9,463.24|_4,893.42_||||7,176.99|_9,463.24_|
||||36,613.60|_19,574.20_||||36,613.60|_19,574.20_|
|Dilys Phillips|||||George Jones|||||
|Trysorydd|24/10/24||||Archwiliwr|24/10/24||||





## 

## 

