Cylch Meithrin Llanrug
Adroddiad a Datganiad Ariannol Blynyddol Anarchwiliedig
01-04-2024– 31-03-2025
Rhif Cofrestredig Elusennol: 1189596
Cylch Meithrin Llanrug
Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol
Prif Gyswllt:
Arweinydd: Nichola Griffiths Jones
Swyddfa Gofrestredig:
Cylch Meithrin Llanrug, Ysgol Gynradd Llanrug, Llanrug, Caernarfon Gwynedd.
Person Cofrestredig:
Sara Hywel
Yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn i 31 Mawrth 2025
| Swyddogaeth | Enw |
|---|---|
| Cadeirydd | Heledd Hulson |
| Ysgrifennydd | Sara Hywel |
| Trysorydd | Vicky Jones |
1
Cylch Meithrin Llanrug
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr
Dymuna’r pwyllgor gyflwyno eu hadroddiad a datganiad ariannol yr elusen am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025.
Nod ac Amcanion:
Mae Cylch Meithrin Llanrug yn gweithredu dan gyfansoddiad wedi ei greu gan y Mudiad Meithirn. Mae ymddiriedolwyr yn cael eu apwyntio bob blwyddyn yn y Cyfarfod Blynyddol drwy gytundeb y pwyllgor rheoli.
Prif amcan yr elusen yw rhoi addysg i blant rhwng 2.5 a 4 oed ym mhentref Llanrug a’r cyffiniau er mwyn iddynt fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Cylch yn darparu sesiynau ar gyfer plant 2.5 i 3 oed yn ogystal a sesiynau clwb brecwast a clwb cinio ar gyfer plant 3-4 oed. Darperir hefyd un sesiwn Ti a Fi bob wythnos. Mae’r Cylch yn cyflogi arweinydd ac o leiaf dau gymhorthydd er mwyn darparu’r gwasanaeth o ddydd i ddydd, ond rheolir yr elusen gan bwyllgor o wirfoddolwyr. Ceisir annof rhieni i fod yn aelod o’r pwyllgor gwirfoddol. Gwneir hynny bob mis Medi.
Strwythyr a threfniant
Mae’r elusen yn cael ei redeg gan bwyllgor/ymddiriedolwyr sydd fel arfer yn rieni y plant sydd yn mynychu’r Cylch. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod dwy waith y tymor. Mae gweithgareddau dydd i dydd y Cylch yn cael ei reoli gan y staff cyflogedig gyda chefnogaeth gan Swyddog Cefnogi y Mudiad Meithrin.
Datblygiadau, gweithgareddau a’r hyn a gyflanwyd
Nid oedd newidiadau sylweddol yng ngweithgareddau’r elusen yn ystod y flwyddyn. Blaenoriaeth Cylch Meithrin Llanrug yw i barhau i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y y Gymraeg i blant oed cyn-ysgol yr ardal mewn awyrgylch cynned a chyfeillgar.
Llwyddiannau a pherfformiad
Llwyddwyd i ddarparu gwasanaeth blynyddoedd cynnar I 48 o blant ardal Llanrug. Cynhaliwyd cyngherddau Nadolig a Gwyl Ddewi. Cafwyd nifer o weithgareddau codi arian hefyd yn cynnwys taith gerdded.
Cynllun Gofal 30 Awr
Mae Cylch Meithirn Llanrug yn rhan o’r Cynllun Gofal 30 awr. O dan y cynllun, gall rieni cymwys hawlio hyd at 30 awr o addysg cynnar a gofal plant bob wythnos, hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Polisi cronfeydd
Cronfeydd cyffredinol yw'r cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i'w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb gael eu clustnodi ar gyfer unrhyw bwrpas penodol arall.
2
Cadwir cronfeydd at gostau rhedeg o dydd i dydd yr elusen ac i fod yn ddigonol am o leiaf tri mis o wariant os bydd incwm cyffredinol yn gorffen.
Roedd cronfeydd o £32,849 yn y banc ar 31 Mawrth 2025.
Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 28 Ionawr ac arwyddwyd are u rhan gan Vicky Jones (Trysorydd)
3
Cylch Meithrin Llanrug
Adroddiad Arholwr Annibynnol i Aelodau Cylch Meithrin Llanrug
Adroddaf i’r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon yr eluson uchod (“yr Ymddiriedolaeth”) am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025, a ymddengys ar dudalen 5.
Cyfrifoldebau’r a’r sail adrodd
Fel ymddiriedolwyr elusen yr Ymddiriedolaeth, rydych yn gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol a gofynion Deddf Elusennau 2011 ( y Deddf).
Adroddaf mewn perthynas a’m harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth ymgymryd a’m harchwiliad, dilynais y Cyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o’r Ddeddf.
Datganiad yr Arholwr Annibynnol
Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw mewn perthynas a’r archwiliad sy’n rhoi achos i mi gredu, mewn unrhyw agwedd perthnasol:
-
ni chafodd cofnodion cyfrifyddu eu cadw yn unol ag adran 130 o’r Ddeddf Elusennau; neu
-
nid yw’r cyfrifon yn cyfateb a’r cofnodion cyfrifyddu
Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhwy faterion eraill mewn perthynas a’r archwiliad y dylid dwyn sylw atynyt er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o’r cyfrifon.
D A Chidley
W. J. Matthews a’i Fab Cyfrifwyr Siartredig, 11-15 Y Bont Bridd, Caernarfon, Gwynedd.
Dyddiedig:
4
CYLCH MEITHRIN LLANRUG
CYFRIF DERBYNIADAU A THALIADAU
AM Y FLWYDDYN HYD AT 31 MAWRTH 2025
| 2025 | 2024 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Incwm: | ||
| Ffioedd Plant | 21,457 | 18,142 |
| Grant Cyngor Gwynedd 30 Awr | 64,836 | 63,710 |
| Incwm Codi Arian: | 1,938 | 1,932 |
| Ti a Fi | 755 | 223 |
| Rhodd | - | 2,050 |
| ______ | ______ | |
| £88,986 | £86,057 | |
| __ | ______ | |
| Gwariant | ||
| Gweithgareddau Elusennol: | ||
| Cyflogau | 80,642 | 71,378 |
| Rhent | 1,125 | - |
| Offer, nwyddau ac adnoddau | 6,762 | 6,083 |
| ______ | ______ | |
| 88,529 | 77,461 | |
| Gwariant arall | ||
| Costau ffon | 273 | 250 |
| Costau proffesiynol | 287 | 125 |
| Costau banc | 67 | 65 |
| Costau codi arian | 281 | 587 |
| Cyngor hyfforddiant | 375 | - |
| ______ | ______ | |
| 1,283 | 1,027 | |
| _____ | ______ | |
| Cyfanswm gwariant | 89,812 | 78,488 |
| ______ | ______ | |
| Incwm / (gwariant) Net | ||
| am y flwyddyn | (826) | 7,569 |
| Arian mewn banc ac mewn llaw | ||
| Ar 31 Mawrth 2024 | 33,675 | 26,106 |
| ______ | ______ | |
| Ar 31 Mawrth 2025 | £32,849 | £33,675 |
| _ | ______ |
Ymddiriedolwyr
Ni dalwyd cyflog na ffioedd i unrhyw ymddiriedowr yn ystod y flwyddyn. (2024 – DIM). Ni wnaed ad-daliadau i ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn (2024 - DIM).
Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 28 Ionawr 2026 ac arwyddwyd ar eu rhan gan
Vicky Jones Trysorydd
5