## **Cylch Meithrin Llanrug** 

**Adroddiad a Datganiad Ariannol Blynyddol Anarchwiliedig** 

**01-04-2024– 31-03-2025** 

**Rhif Cofrestredig Elusennol: 1189596** 



## **Cylch Meithrin Llanrug** 

## **Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol** 

## **Prif Gyswllt:** 

Arweinydd: Nichola Griffiths Jones 

## **Swyddfa Gofrestredig:** 

Cylch Meithrin Llanrug, Ysgol Gynradd Llanrug, Llanrug, Caernarfon Gwynedd. 

## **Person Cofrestredig:** 

Sara Hywel 

## **Yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn i 31 Mawrth 2025** 

|**Swyddogaeth**|**Enw**|
|---|---|
|Cadeirydd|Heledd Hulson|
|Ysgrifennydd|Sara Hywel|
|Trysorydd|Vicky Jones|



1 



## **Cylch Meithrin Llanrug** 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr** 

Dymuna’r pwyllgor gyflwyno eu hadroddiad a datganiad ariannol yr elusen am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2025. 

## **Nod ac Amcanion:** 

Mae Cylch Meithrin Llanrug yn gweithredu dan gyfansoddiad wedi ei greu gan y Mudiad Meithirn. Mae ymddiriedolwyr yn cael eu apwyntio bob blwyddyn yn y Cyfarfod Blynyddol drwy gytundeb y pwyllgor rheoli. 

Prif amcan yr elusen yw rhoi addysg i blant rhwng 2.5 a 4 oed ym mhentref Llanrug a’r cyffiniau er mwyn iddynt fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Cylch yn darparu sesiynau ar gyfer plant 2.5 i 3 oed yn ogystal a sesiynau clwb brecwast a clwb cinio ar gyfer plant 3-4 oed. Darperir hefyd un sesiwn Ti a Fi bob wythnos. Mae’r Cylch yn cyflogi arweinydd ac o leiaf dau gymhorthydd er mwyn darparu’r gwasanaeth o ddydd i ddydd, ond rheolir yr elusen gan bwyllgor o wirfoddolwyr. Ceisir annof rhieni i fod yn aelod o’r pwyllgor gwirfoddol. Gwneir hynny bob mis Medi. 

## **Strwythyr a threfniant** 

Mae’r elusen yn cael ei redeg gan bwyllgor/ymddiriedolwyr sydd fel arfer yn rieni y plant sydd yn mynychu’r Cylch. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod dwy waith y tymor. Mae gweithgareddau dydd i dydd y Cylch yn cael ei reoli gan y staff cyflogedig gyda chefnogaeth gan Swyddog Cefnogi y Mudiad Meithrin. 

## **Datblygiadau, gweithgareddau a’r hyn a gyflanwyd** 

Nid oedd newidiadau sylweddol yng ngweithgareddau’r elusen yn ystod y flwyddyn. Blaenoriaeth Cylch Meithrin Llanrug yw i barhau i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y y Gymraeg i blant oed cyn-ysgol yr ardal mewn awyrgylch cynned a chyfeillgar. 

## **Llwyddiannau a pherfformiad** 

Llwyddwyd i ddarparu gwasanaeth blynyddoedd cynnar I 48 o blant ardal Llanrug. Cynhaliwyd cyngherddau Nadolig a Gwyl Ddewi. Cafwyd nifer o weithgareddau codi arian hefyd yn cynnwys taith gerdded. 

## **Cynllun Gofal 30 Awr** 

Mae Cylch Meithirn Llanrug yn rhan o’r Cynllun Gofal 30 awr. O dan y cynllun, gall rieni cymwys hawlio hyd at 30 awr o addysg cynnar a gofal plant bob wythnos,  hyd at 48 wythnos y flwyddyn. 

## **Polisi cronfeydd** 

Cronfeydd cyffredinol yw'r cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i'w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb gael eu clustnodi ar gyfer unrhyw bwrpas penodol arall. 

2 



Cadwir cronfeydd at gostau rhedeg o dydd i dydd yr elusen ac i fod yn ddigonol am o leiaf tri mis o wariant os bydd incwm cyffredinol yn gorffen. 

Roedd cronfeydd o £32,849 yn y banc ar 31 Mawrth 2025. 

Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 28 Ionawr ac arwyddwyd are u rhan gan Vicky Jones (Trysorydd) 

3 



## **Cylch Meithrin Llanrug** 

## **Adroddiad Arholwr Annibynnol i Aelodau Cylch Meithrin Llanrug** 

Adroddaf  i’r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon yr eluson uchod (“yr Ymddiriedolaeth”) am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2025, a ymddengys ar dudalen 5. 

## **Cyfrifoldebau’r a’r sail adrodd** 

Fel ymddiriedolwyr elusen yr Ymddiriedolaeth, rydych yn gyfrifol am baratoi’r cyfrifon yn unol a gofynion Deddf Elusennau 2011 ( y Deddf). 

Adroddaf mewn perthynas a’m harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gwblhawyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth ymgymryd a’m harchwiliad, dilynais y Cyfarwyddiadau cymwys a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o’r Ddeddf. 

## **Datganiad yr Arholwr Annibynnol** 

Rwyf wedi cwblhau fy archwiliad. Cadarnhaf nad yw unrhyw faterion perthnasol wedi dod i’m sylw mewn perthynas a’r archwiliad sy’n rhoi achos i mi gredu, mewn unrhyw agwedd perthnasol: 

- ni chafodd cofnodion cyfrifyddu eu cadw yn unol ag adran 130 o’r Ddeddf Elusennau; neu 

- nid yw’r cyfrifon yn cyfateb a’r cofnodion cyfrifyddu 

Nid oes unrhyw bryderon gennyf ac nid wyf wedi dod ar draws unrhwy faterion eraill mewn perthynas a’r archwiliad y dylid dwyn sylw atynyt er mwyn sicrhau dealltwriaeth briodol o’r cyfrifon. 

## **D A Chidley** 

**W. J. Matthews a’i Fab Cyfrifwyr Siartredig, 11-15 Y Bont Bridd, Caernarfon, Gwynedd.** 

**Dyddiedig:** 

4 



## **CYLCH MEITHRIN LLANRUG** 

## **CYFRIF DERBYNIADAU A THALIADAU** 

## **AM Y FLWYDDYN HYD AT 31 MAWRTH 2025** 

||**2025**|**2024**|
|---|---|---|
||**£**|**£**|
|**Incwm:**|||
|Ffioedd Plant|21,457|18,142|
|Grant Cyngor Gwynedd  30 Awr|64,836|63,710|
|Incwm Codi Arian:|1,938|1,932|
|Ti a Fi|755|223|
|Rhodd|-|2,050|
||______|______|
||£88,986|£86,057|
||________|______|
|**Gwariant**|||
|**Gweithgareddau Elusennol:**|||
|Cyflogau|80,642|71,378|
|Rhent|1,125|-|
|Offer, nwyddau ac adnoddau|6,762|6,083|
||______|______|
||88,529|77,461|
|**Gwariant arall**|||
|Costau ffon|273|250|
|Costau proffesiynol|287|125|
|Costau banc|67|65|
|Costau codi arian|281|587|
|Cyngor hyfforddiant|375|-|
||______|______|
||1,283|1,027|
||_____|______|
|Cyfanswm gwariant|89,812|78,488|
||______|______|
|Incwm / (gwariant) Net|||
|am y flwyddyn|(826)|7,569|
|**Arian mewn banc ac mewn llaw**|||
|Ar 31 Mawrth 2024|33,675|26,106|
||______|______|
|Ar 31 Mawrth 2025|£32,849|£33,675|
||_______|______|



## **Ymddiriedolwyr** 

Ni dalwyd cyflog na ffioedd i unrhyw ymddiriedowr yn ystod y flwyddyn. (2024 – DIM). Ni wnaed ad-daliadau i ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn (2024 -  DIM). 

## **Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 28 Ionawr 2026  ac arwyddwyd ar eu rhan gan** 

## **Vicky Jones Trysorydd** 

5 

