OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-03-31-accounts

Cylch Meithrin Llanrug

Adroddiad a Datganiad Ariannol Blynyddol Anarchwiliedig

01-04-2023– 31-03-2024

Rhif Cofrestredig Elusennol: 1189596

Cylch Meithrin Llanrug

Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol

Prif Gyswllt:

Arweinydd: Nichola Griffiths Jones

Swyddfa Gofrestredig:

Cylch Meithrin Llanrug, Ysgol Gynradd Llanrug, Llanrug, Caernarfon Gwynedd.

Person Cofrestredig:

Sara Hywel

Yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn i 31 Mawrth 2024

Swyddogaeth Enw
Cadeirydd Heledd Hulson
Ysgrifennydd Sara Hywel
Trysorydd Vicky Jones

1

Cylch Meithrin Llanrug

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr

Dymuna’r pwyllgor gyflwyno eu hadroddiad a datganiad ariannol yr elusen am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024.

Nod ac Amcanion:

Mae Cylch Meithrin Llanrug yn gweithredu dan gyfansoddiad wedi ei greu gan y Mudiad Meithirn. Mae ymddiriedolwyr yn cael eu apwyntio bob blwyddyn yn y Cyfarfod Blynyddol drwy gytundeb y pwyllgor rheoli.

Prif amcan yr elusen yw rhoi addysg i blant rhwng 2.5 a 4 oed ym mhentref Llanrug a’r cyffiniau er mwyn iddynt fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Cylch yn darparu sesiynau ar gyfer plant 2.5 i 3 oed yn ogystal a sesiynau clwb brecwast a clwb cinio ar gyfer plant 3-4 oed. Darperir hefyd un sesiwn Ti a Fi bob wythnos. Mae’r Cylch yn cyflogi arweinydd ac o leiaf dau gymhorthydd er mwyn darparu’r gwasanaeth o ddydd i ddydd, ond rheolir yr elusen gan bwyllgor o wirfoddolwyr. Ceisir annof rhieni i fod yn aelod o’r pwyllgor gwirfoddol. Gwneir hynny bob mis Medi.

Strwythyr a threfniant

Mae’r elusen yn cael ei redeg gan bwyllgor/ymddiriedolwyr sydd fel arfer yn rieni y plant sydd yn mynychu’r Cylch. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod dwy waith y tymor. Mae gweithgareddau dydd i dydd y Cylch yn cael ei reoli gan y staff cyflogedig gyda chefnogaeth gan Swyddog Cefnogi y Mudiad Meithrin.

Datblygiadau, gweithgareddau a’r hyn a gyflanwyd

Nid oedd newidiadau sylweddol yng ngweithgareddau’r elusen yn ystod y flwyddyn. Blaenoriaeth Cylch Meithrin Llanrug yw i barhau i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y y Gymraeg i blant oed cyn-ysgol yr ardal mewn awyrgylch cynned a chyfeillgar.

Llwyddiannau a pherfformiad

Llwyddwyd i ddarparu gwasanaeth blynyddoedd cynnar i 48 o blant ardal Llanrug. Cynhaliwyd cyngherddau Nadolig a Gwyl Ddewi. Cafwyd nifer o weithgareddau codi arian hefyd yn cynnwys taith gerdded.

Cynllun Gofal 30 Awr

Mae Cylch Meithirn Llanrug yn rhan o’r Cynllun Gofal 30 awr. O dan y cynllun, gall rieni cymwys hawlio hyd at 30 awr o addysg cynnar a gofal plant bob wythnos, hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Polisi cronfeydd

Cronfeydd cyffredinol yw'r cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i'w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb gael eu clustnodi ar gyfer unrhyw bwrpas penodol arall.

2

Cadwir cronfeydd at gostau rhedeg o dydd i dydd yr elusen ac i fod yn ddigonol am o leiaf tri mis o wariant os bydd incwm cyffredinol yn gorffen.

Roedd cronfeydd o £33,675 yn y banc ar 31 Mawrth 2024.

Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar …………………………………………… ac arwyddwyd are u rhan gan

…………………………………… Cadeirydd

3

CYLCH MEITHRIN LLANRUG

CYFRIF DERBYNIADAU A THALIADAU

AM Y FLWYDDYN HYD AT 31 MAWRTH 2024

2024 2023
£ £
Incwm:
Ffioedd Plant 18,142 15,865
Grant Cyngor Gwynedd 30 Awr 63,710 76,212
Incwm Codi Arian: 1,932 1,566
Incwm arall - 183
Ti a Fi 223 572
Rhodd 2,050 2,000
______ ______
£86,057 £96,398
__ ______
Gwariant
Gweithgareddau Elusennol:
Cyflogau 71,378 71,156
Rhent - 620
Offer, nwyddau ac adnoddau 6,083 5,326
______ ______
77,461 77,102
Gwariant arall
Costau ffon 250 246
Cyfrifo - 279
Costau proffesiynol 125 125
Hyfforddiant - 60
Manion 65 108
Ad-daliad benthyciad - 30
Costau codi arian 587 90
______ ______
1,027 938
______ ______
Cyfanswm gwariant 78,488 78,040
______ ______
Incwm / (gwariant) Net
am y flwyddyn 7,569 18,358
Arian mewn banc ac mewn llaw
Ar 31 Mawrth 2023 26,106 7.748
______ ______
Ar 31 Mawrth 2024 £33,675 £26,106
_ ______

Ymddiriedolwyr

Ni dalwyd cyflog na ffioedd i unrhyw ymddiriedowr yn ystod y flwyddyn. (2023 – DIM). Ni wnaed ad-daliadau i ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn (2023 - DIM).

Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar ................................. ac arwyddwyd ar eu rhan gan

……………………………………

Trysorydd

4