# **Cylch Meithrin Llanrug** 

**Adroddiad a Datganiad Ariannol Blynyddol Anarchwiliedig** 

**01-04-2023– 31-03-2024** 

**Rhif Cofrestredig Elusennol: 1189596** 



## **Cylch Meithrin Llanrug** 

## **Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol** 

## **Prif Gyswllt:** 

Arweinydd: Nichola Griffiths Jones 

## **Swyddfa Gofrestredig:** 

Cylch Meithrin Llanrug, Ysgol Gynradd Llanrug, Llanrug, Caernarfon Gwynedd. 

## **Person Cofrestredig:** 

Sara Hywel 

## **Yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn i 31 Mawrth 2024** 

|**Swyddogaeth**|**Enw**|
|---|---|
|Cadeirydd|Heledd Hulson|
|Ysgrifennydd|Sara Hywel|
|Trysorydd|Vicky Jones|



1 



## **Cylch Meithrin Llanrug** 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr** 

Dymuna’r pwyllgor gyflwyno eu hadroddiad a datganiad ariannol yr elusen am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2024. 

## **Nod ac Amcanion:** 

Mae Cylch Meithrin Llanrug yn gweithredu dan gyfansoddiad wedi ei greu gan y Mudiad Meithirn. Mae ymddiriedolwyr yn cael eu apwyntio bob blwyddyn yn y Cyfarfod Blynyddol drwy gytundeb y pwyllgor rheoli. 

Prif amcan yr elusen yw rhoi addysg i blant rhwng 2.5 a 4 oed ym mhentref Llanrug a’r cyffiniau er mwyn iddynt fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Cylch yn darparu sesiynau ar gyfer plant 2.5 i 3 oed yn ogystal a sesiynau clwb brecwast a clwb cinio ar gyfer plant 3-4 oed. Darperir hefyd un sesiwn Ti a Fi bob wythnos. Mae’r Cylch yn cyflogi arweinydd ac o leiaf dau gymhorthydd er mwyn darparu’r gwasanaeth o ddydd i ddydd, ond rheolir yr elusen gan bwyllgor o wirfoddolwyr. Ceisir annof rhieni i fod yn aelod o’r pwyllgor gwirfoddol. Gwneir hynny bob mis Medi. 

## **Strwythyr a threfniant** 

Mae’r elusen yn cael ei redeg gan bwyllgor/ymddiriedolwyr sydd fel arfer yn rieni y plant sydd yn mynychu’r Cylch. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod dwy waith y tymor. Mae gweithgareddau dydd i dydd y Cylch yn cael ei reoli gan y staff cyflogedig gyda chefnogaeth gan Swyddog Cefnogi y Mudiad Meithrin. 

## **Datblygiadau, gweithgareddau a’r hyn a gyflanwyd** 

Nid oedd newidiadau sylweddol yng ngweithgareddau’r elusen yn ystod y flwyddyn. Blaenoriaeth Cylch Meithrin Llanrug yw i barhau i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y y Gymraeg i blant oed cyn-ysgol yr ardal mewn awyrgylch cynned a chyfeillgar. 

## **Llwyddiannau a pherfformiad** 

Llwyddwyd i ddarparu gwasanaeth blynyddoedd cynnar i 48 o blant ardal Llanrug. Cynhaliwyd cyngherddau Nadolig a Gwyl Ddewi. Cafwyd nifer o weithgareddau codi arian hefyd yn cynnwys taith gerdded. 

## **Cynllun Gofal 30 Awr** 

Mae Cylch Meithirn Llanrug yn rhan o’r Cynllun Gofal 30 awr. O dan y cynllun, gall rieni cymwys hawlio hyd at 30 awr o addysg cynnar a gofal plant bob wythnos,  hyd at 48 wythnos y flwyddyn. 

## **Polisi cronfeydd** 

Cronfeydd cyffredinol yw'r cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i'w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb gael eu clustnodi ar gyfer unrhyw bwrpas penodol arall. 

2 



Cadwir cronfeydd at gostau rhedeg o dydd i dydd yr elusen ac i fod yn ddigonol am o leiaf tri mis o wariant os bydd incwm cyffredinol yn gorffen. 

Roedd cronfeydd o £33,675 yn y banc ar 31 Mawrth 2024. 

Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar …………………………………………… ac arwyddwyd are u rhan gan 

…………………………………… Cadeirydd 

3 



## **CYLCH MEITHRIN LLANRUG** 

## **CYFRIF DERBYNIADAU A THALIADAU** 

## **AM Y FLWYDDYN HYD AT 31 MAWRTH 2024** 

||**2024**|**2023**|
|---|---|---|
||**£**|**£**|
|**Incwm:**|||
|Ffioedd Plant|18,142|15,865|
|Grant Cyngor Gwynedd  30 Awr|63,710|76,212|
|Incwm Codi Arian:|1,932|1,566|
|Incwm arall|-|183|
|Ti a Fi|223|572|
|Rhodd|2,050|2,000|
||______|______|
||£86,057|£96,398|
||________|______|
|**Gwariant**|||
|**Gweithgareddau Elusennol:**|||
|Cyflogau|71,378|71,156|
|Rhent|-|620|
|Offer, nwyddau ac adnoddau|6,083|5,326|
||______|______|
||77,461|77,102|
|**Gwariant arall**|||
|Costau ffon|250|246|
|Cyfrifo|-|279|
|Costau proffesiynol|125|125|
|Hyfforddiant|-|60|
|Manion|65|108|
|Ad-daliad benthyciad|-|30|
|Costau codi arian|587|90|
||______|______|
||1,027|938|
||______|______|
|Cyfanswm gwariant|78,488|78,040|
||______|______|
|Incwm / (gwariant) Net|||
|am y flwyddyn|7,569|18,358|
|**Arian mewn banc ac mewn llaw**|||
|Ar 31 Mawrth 2023|26,106|7.748|
||______|______|
|Ar 31 Mawrth 2024|£33,675|£26,106|
||_______|______|



## **Ymddiriedolwyr** 

Ni dalwyd cyflog na ffioedd i unrhyw ymddiriedowr yn ystod y flwyddyn. (2023 – DIM). Ni wnaed ad-daliadau i ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn (2023 -  DIM). 

## **Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar .................................  ac arwyddwyd ar eu rhan gan** 

## **……………………………………** 

## **Trysorydd** 

4 

