Cylch Meithrin Llanrug
Adroddiad a Datganiad Ariannol Blynyddol Anarchwiliedig
01-04-2022– 31-03-2023
Rhif Cofrestredig Elusennol: 1189596
Cylch Meithrin Llanrug
Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol
Prif Gyswllt:
Arweinydd: Nichola Griffiths
Swyddfa Gofrestredig:
Cylch Meithrin Llanrug, Ysgol Gynradd Llanrug, Llanrug, Caernarfon Gwynedd.
Unigolion Cyfrifol:
Manon Glyn Llinos Bracegirdle
Yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn i 31 Mawrth 2023
| Swyddogaeth | Enw |
|---|---|
| Cadeirydd | Heledd Hulson |
| Ysgrifennydd | Sara Hywel |
| Trysorydd | Vicky Jones |
1
Cylch Meithrin Llanrug
Adroddiad yr Ymddiriedolwyr
Dymuna’r pwyllgor gyflwyno eu hadroddiad a datganiad ariannol yr elusen am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2023.
Nod ac Amcanion:
Mae Cylch Meithrin Llanrug yn gweithredu dan gyfansoddiad wedi ei greu gan y Mudiad Meithirn. Mae ymddiriedolwyr yn cael eu apwyntio bob blwyddyn yn y Cyfarfod Blynyddol drwy gytundeb y pwyllgor rheoli.
Prif amcan yr elusen yw rhoi addysg i blant rhwng 2.5 a 4 oed ym mhentref Llanrug a’r cyffiniau er mwyn iddynt fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Cylch yn darparu sesiynau ar gyfer plant 2.5 i 3 oed yn ogystal a sesiynau clwb brecwast a clwb cinio ar gyfer plant 3-4 oed. Darperir hefyd un sesiwn Ti a Fi bob wythnos. Mae’r Cylch yn cyflogi arweinydd ac o leiaf dau gymhorthydd er mwyn darparu’r gwasanaeth o ddydd i ddydd, ond rheolir yr elusen gan bwyllgor o wirfoddolwyr. Ceisir annof rhieni i fod yn aelod o’r pwyllgor gwirfoddol. Gwneir hynny bob mis Medi.
Strwythyr a threfniant
Mae’r elusen yn cael ei redeg gan bwyllgor/ymddiriedolwyr sydd fel arfer yn rieni y plant sydd yn mynychu’r Cylch. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod dwy waith y tymor. Mae gweithgareddau dydd i dydd y Cylch yn cael ei reoli gan y staff cyflogedig gyda chefnogaeth gan Swyddog Cefnogi y Mudiad Meithrin.
Datblygiadau, gweithgareddau a’r hyn a gyflanwyd
Nid oedd newidiadau sylweddol yng ngweithgareddau’r elusen yn ystod y flwyddyn. Blaenoriaeth Cylch Meithrin Llanrug yw i barhau i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y y Gymraeg i blant oed cyn-ysgol yr ardal mewn awyrgylch cynned a chyfeillgar.
Llwyddiannau a pherfformiad
Llwyddwyd i ddarparu gwasanaeth blynyddoedd cynnar i 26 o blant ardal Llanrug. Cynhaliwyd cyngherddau Nadolig a Gwyl Ddewi. Cafwyd nifer o weithgareddau codi arian hefyd yn cynnwys taith gerdded.
Cynllun Gofal 30 Awr
Mae Cylch Meithirn Llanrug yn rhan o’r Cynllun Gofal 30 awr a llwyddwyd i ddarparu gwasanaeth Gofal Plant i 28 o blant ardal Llanrug. O dan y cynllun, gall rieni cymwys hawlio hyd at 30 awr o addysg cynnar a gofal plant bob wythnos, hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
2
Polisi cronfeydd
Cronfeydd cyffredinol yw'r cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i'w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb gael eu clustnodi ar gyfer unrhyw bwrpas penodol arall.
Cadwir cronfeydd at gostau rhedeg o dydd i dydd yr elusen ac i fod yn ddigonol am o leiaf tri mis o wariant os bydd incwm cyffredinol yn gorffen.
Roedd cronfeydd o £26,106 yn y banc ar 31 Mawrth 2023.
Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 15.11.2023 ac arwyddwyd are u rhan gan
…………………………………… Cadeirydd
CYLCH MEITHRIN LLANRUG
3
CYFRIF DERBYNIADAU A THALIADAU
AM Y FLWYDDYN HYD AT 31 MAWRTH 2023
| 2023 | 2022 | |
|---|---|---|
| £ | £ | |
| Incwm: | ||
| Ffioedd Plant | 15,865 | 14,007 |
| Grant Cyngor Gwynedd 30 Awr | 76,212 | 54,902 |
| Incwm Codi Arian: | 1,566 | 1,214 |
| Incwm arall | 183 | 172 |
| Ti a Fi | 572 | - |
| Rhodd | 2,000 | - |
| ______ | ______ | |
| £96,398 | £70,295 | |
| __ | ______ | |
| Gwariant | ||
| Gweithgareddau Elusennol: | ||
| Cyflogau | 71,156 | 71,127 |
| Rhent | 620 | 360 |
| Offer, nwyddau ac adnoddau | 5,326 | 8,052 |
| ______ | ______ | |
| 77,102 | 79,539 | |
| Gwariant arall | ||
| Costau swyddfa | - | 225 |
| Costau ffon | 246 | 248 |
| Cyfrifo | 279 | 876 |
| Costau proffesiynol | 125 | 384 |
| Hyfforddiant | 60 | 72 |
| Manion | 108 | 253 |
| Ad-daliad benthyciad | 30 | 5,657 |
| Costau codi arian | 90 | - |
| ______ | ______ | |
| 938 | 7,715 | |
| ______ | ______ | |
| Cyfanswm gwariant | 78,040 | 87,254 |
| ______ | ______ | |
| Incwm / (gwariant) Net | ||
| am y flwyddyn | 18,358 | (16,959) |
| Arian mewn banc ac mewn llaw | ||
| Ar 31 Mawrth 2022 | 7,748 | 24,707 |
| ______ | ______ | |
| Ar 31 Mawrth 2023 | £26,106 | £7,748 |
| _ | ______ | |
| Ymddiriedolwyr |
Ni dalwyd cyflog na ffioedd i unrhyw ymddiriedowr yn ystod y flwyddyn. (2022 – DIM). Ni wnaed ad-daliadau i ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn (2022 - DIM).
Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 15/11/2023 ac arwyddwyd ar eu rhan gan
Vicky Jones Trysorydd
4