# **Cylch Meithrin Llanrug** 

**Adroddiad a Datganiad Ariannol Blynyddol Anarchwiliedig** 

**01-04-2022– 31-03-2023** 

**Rhif Cofrestredig Elusennol: 1189596** 



## **Cylch Meithrin Llanrug** 

## **Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol** 

## **Prif Gyswllt:** 

Arweinydd: Nichola Griffiths 

## **Swyddfa Gofrestredig:** 

Cylch Meithrin Llanrug, Ysgol Gynradd Llanrug, Llanrug, Caernarfon Gwynedd. 

## **Unigolion Cyfrifol:** 

Manon Glyn Llinos Bracegirdle 

## **Yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn i 31 Mawrth 2023** 

|**Swyddogaeth**|**Enw**|
|---|---|
|Cadeirydd|Heledd Hulson|
|Ysgrifennydd|Sara Hywel|
|Trysorydd|Vicky Jones|



1 



## **Cylch Meithrin Llanrug** 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr** 

Dymuna’r pwyllgor gyflwyno eu hadroddiad a datganiad ariannol yr elusen am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2023. 

## **Nod ac Amcanion:** 

Mae Cylch Meithrin Llanrug yn gweithredu dan gyfansoddiad wedi ei greu gan y Mudiad Meithirn. Mae ymddiriedolwyr yn cael eu apwyntio bob blwyddyn yn y Cyfarfod Blynyddol drwy gytundeb y pwyllgor rheoli. 

Prif amcan yr elusen yw rhoi addysg i blant rhwng 2.5 a 4 oed ym mhentref Llanrug a’r cyffiniau er mwyn iddynt fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Cylch yn darparu sesiynau ar gyfer plant 2.5 i 3 oed yn ogystal a sesiynau clwb brecwast a clwb cinio ar gyfer plant 3-4 oed. Darperir hefyd un sesiwn Ti a Fi bob wythnos. Mae’r Cylch yn cyflogi arweinydd ac o leiaf dau gymhorthydd er mwyn darparu’r gwasanaeth o ddydd i ddydd, ond rheolir yr elusen gan bwyllgor o wirfoddolwyr. Ceisir annof rhieni i fod yn aelod o’r pwyllgor gwirfoddol. Gwneir hynny bob mis Medi. 

## **Strwythyr a threfniant** 

Mae’r elusen yn cael ei redeg gan bwyllgor/ymddiriedolwyr sydd fel arfer yn rieni y plant sydd yn mynychu’r Cylch. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod dwy waith y tymor. Mae gweithgareddau dydd i dydd y Cylch yn cael ei reoli gan y staff cyflogedig gyda chefnogaeth gan Swyddog Cefnogi y Mudiad Meithrin. 

## **Datblygiadau, gweithgareddau a’r hyn a gyflanwyd** 

Nid oedd newidiadau sylweddol yng ngweithgareddau’r elusen yn ystod y flwyddyn. Blaenoriaeth Cylch Meithrin Llanrug yw i barhau i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y y Gymraeg i blant oed cyn-ysgol yr ardal mewn awyrgylch cynned a chyfeillgar. 

## **Llwyddiannau a pherfformiad** 

Llwyddwyd i ddarparu gwasanaeth blynyddoedd cynnar i 26 o blant ardal Llanrug. Cynhaliwyd cyngherddau Nadolig a Gwyl Ddewi. Cafwyd nifer o weithgareddau codi arian hefyd yn cynnwys taith gerdded. 

## **Cynllun Gofal 30 Awr** 

Mae Cylch Meithirn Llanrug yn rhan o’r Cynllun Gofal 30 awr a llwyddwyd i ddarparu gwasanaeth Gofal Plant i 28 o blant ardal Llanrug. O dan y cynllun, gall rieni cymwys hawlio hyd at 30 awr o addysg cynnar a gofal plant bob wythnos,  hyd at 48 wythnos y flwyddyn. 

2 



## **Polisi cronfeydd** 

Cronfeydd cyffredinol yw'r cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i'w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb gael eu clustnodi ar gyfer unrhyw bwrpas penodol arall. 

Cadwir cronfeydd at gostau rhedeg o dydd i dydd yr elusen ac i fod yn ddigonol am o leiaf tri mis o wariant os bydd incwm cyffredinol yn gorffen. 

Roedd cronfeydd o £26,106 yn y banc ar 31 Mawrth 2023. 

Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 15.11.2023 ac arwyddwyd are u rhan gan 

…………………………………… Cadeirydd 

## **CYLCH MEITHRIN LLANRUG** 

3 



## **CYFRIF DERBYNIADAU A THALIADAU** 

## **AM Y FLWYDDYN HYD AT 31 MAWRTH 2023** 

||**2023**|**2022**|
|---|---|---|
||**£**|**£**|
|**Incwm:**|||
|Ffioedd Plant|15,865|14,007|
|Grant Cyngor Gwynedd  30 Awr|76,212|54,902|
|Incwm Codi Arian:|1,566|1,214|
|Incwm arall|183|172|
|Ti a Fi|572|-|
|Rhodd|2,000|-|
||______|______|
||£96,398|£70,295|
||________|______|
|**Gwariant**|||
|**Gweithgareddau Elusennol:**|||
|Cyflogau|71,156|71,127|
|Rhent|620|360|
|Offer, nwyddau ac adnoddau|5,326|8,052|
||______|______|
||77,102|79,539|
|**Gwariant arall**|||
|Costau swyddfa|-|225|
|Costau ffon|246|248|
|Cyfrifo|279|876|
|Costau proffesiynol|125|384|
|Hyfforddiant|60|72|
|Manion|108|253|
|Ad-daliad benthyciad|30|5,657|
|Costau codi arian|90|-|
||______|______|
||938|7,715|
||______|______|
|Cyfanswm gwariant|78,040|87,254|
||______|______|
|Incwm / (gwariant) Net|||
|am y flwyddyn|18,358|(16,959)|
|**Arian mewn banc ac mewn llaw**|||
|Ar 31 Mawrth 2022|7,748|24,707|
||______|______|
|Ar 31 Mawrth 2023|£26,106|£7,748|
||_______|______|
|**Ymddiriedolwyr**|||



Ni dalwyd cyflog na ffioedd i unrhyw ymddiriedowr yn ystod y flwyddyn. (2022 – DIM). Ni wnaed ad-daliadau i ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn (2022 -  DIM). 

## **Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 15/11/2023  ac arwyddwyd ar eu rhan gan** 

## **Vicky Jones Trysorydd** 

4 

