OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2022-03-31-accounts

Cylch Meithrin Llanrug

Adroddiad a Datganiad Ariannol Blynyddol Anarchwiliedig

01-04-2021– 31-03-2022

Rhif Cofrestredig Elusennol: 1189596

Cylch Meithrin Llanrug

Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol

Prif Gyswllt:

Arweinydd: Nichola Griffiths Jones

Swyddfa Gofrestredig:

Cylch Meithrin Llanrug, Ysgol Gynradd Llanrug, Llanrug, Caernarfon Gwynedd.

Person Cofrestredig:

Clare Owen

Yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn i 31 Mawrth 2021

Swyddogaeth Enw
Cadeirydd Einir Roberts
Ysgrifennydd Llinos Morris
Trysorydd Vicky Jones

1

Cylch Meithrin Llanrug

Adroddiad yr Ymddiriedolwyr

Dymuna’r pwyllgor gyflwyno eu hadroddiad a datganiad ariannol yr elusen am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2022.

Nod ac Amcanion:

Mae Cylch Meithrin Llanrug yn gweithredu dan gyfansoddiad wedi ei greu gan y Mudiad Meithirn. Mae ymddiriedolwyr yn cael eu apwyntio bob blwyddyn yn y Cyfarfod Blynyddol drwy gytundeb y pwyllgor rheoli.

Prif amcan yr elusen yw rhoi addysg i blant rhwng 2.5 a 4 oed ym mhentref Llanrug a’r cyffiniau er mwyn iddynt fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Cylch yn darparu sesiynau ar gyfer plant 2.5 i 3 oed yn ogystal a sesiynau clwb brecwast a clwb cinio ar gyfer plant 3-4 oed. Darperir hefyd un sesiwn Ti a Fi bob wythnos. Mae’r Cylch yn cyflogi arweinydd ac o leiaf dau gymhorthydd er mwyn darparu’r gwasanaeth o ddydd i ddydd, ond rheolir yr elusen gan bwyllgor o wirfoddolwyr. Ceisir annof rhieni i fod yn aelod o’r pwyllgor gwirfoddol. Gwneir hynny bob mis Medi.

Strwythyr a threfniant

Mae’r elusen yn cael ei redeg gan bwyllgor/ymddiriedolwyr sydd fel arfer yn rieni y plant sydd yn mynychu’r Cylch. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod dwy waith y tymor. Mae gweithgareddau dydd i dydd y Cylch yn cael ei reoli gan y staff cyflogedig gyda chefnogaeth gan Swyddog Cefnogi y Mudiad Meithrin.

Datblygiadau, gweithgareddau a’r hyn a gyflanwyd

Nid oedd newidiadau sylweddol yng ngweithgareddau’r elusen yn ystod y flwyddyn. Blaenoriaeth Cylch Meithrin Llanrug yw i barhau i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y y Gymraeg i blant oed cyn-ysgol yr ardal mewn awyrgylch cynned a chyfeillgar.

Llwyddiannau a pherfformiad

Llwyddwyd i ddarparu gwasanaeth blynyddoedd cynnar i 53 o blant ardal Llanrug. Cynhaliwyd cyngherddau Nadolig a Gwyl Ddewi. Cafwyd nifer o weithgareddau codi arian hefyd yn cynnwys taith gerdded.

Cynllun Gofal 30 Awr

Mae Cylch Meithirn Llanrug yn rhan o’r Cynllun Gofal 30 awr. O dan y cynllun, gall rieni cymwys hawlio hyd at 30 awr o addysg cynnar a gofal plant bob wythnos, hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Grant WCVA

Yn ystod y flwyddyn talwyd yn ol benthyciad a dderbynwyd yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2021 gan WCVA O £5,657.

Polisi cronfeydd

2

Cronfeydd cyffredinol yw'r cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i'w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb gael eu clustnodi ar gyfer unrhyw bwrpas penodol arall.

Cadwir cronfeydd at gostau rhedeg o dydd i dydd yr elusen ac i fod yn ddigonol am o leiaf tri mis o wariant os bydd incwm cyffredinol yn gorffen.

Roedd cronfeydd o £7,748 yn y banc ar 31 Mawrth 2022.

Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 24ain Ionawr 2023 ac arwyddwyd ar eu rhan gan

Vicky Jones Trysorydd

CYLCH MEITHRIN LLANRUG

CYFRIF DERBYNIADAU A THALIADAU

3

AM Y FLWYDDYN HYD AT 31 MAWRTH 2022

2022 2021
£ £
Incwm:
Ffioedd Plant 14,007 7,953
Grant Cyngor Gwynedd 30 Awr 54,902 33,032
Incwm Codi Arian: 1,214 735
Grant WCVA - 22,500
Incwm Cynllun Cadw Swyddi - 19,443
Incwm arall 172 -
______ ______
£70,295 £83,663
__ ______
Gwariant
Gweithgareddau Elusennol:
Cyflogau 71,127 78,391
Rhent 360 -
Offer, nwyddau ac adnoddau 8,052 8,021
______ ______
79,539 86,412
Gwariant arall:
Costau swyddfa 225 406
Costau ffon 248 202
Cyfrifo 876 -
Costau proffesiynol 384 142
Hyfforddiant 72 -
Manion 253 121
Costau glanhau a PPE - 1,821
Ad-daliad benthyciad 5,657 -
______ ______
7,715 2,692
______ ______
Cyfanswm gwariant 87,254 89,104
______ ______
(Gwariant) /Incwm Net
am y flwyddyn (16,959) (5,441)
Arian mewn banc ac mewn llaw
Ar 31 Mawrth 2021 24,707 30,148
______ ______
Ar 31 Mawrth 2022 £7,748 £24,707
_ ______

Ymddiriedolwyr

Ni dalwyd cyflog na ffioedd i unrhyw ymddiriedowr yn ystod y flwyddyn. (2021 – DIM). Ni wnaed ad-daliadau i ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn, (2021 - DIM).

Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 24ain Ionawr 2023 ac arwyddwyd ar eu rhan gan

Vicky Jones Trysorydd

4