# **Cylch Meithrin Llanrug** 

**Adroddiad a Datganiad Ariannol Blynyddol Anarchwiliedig** 

**01-04-2021– 31-03-2022** 

**Rhif Cofrestredig Elusennol: 1189596** 



## **Cylch Meithrin Llanrug** 

## **Gwybodaeth Gyfreithiol a Gweinyddol** 

## **Prif Gyswllt:** 

Arweinydd: Nichola Griffiths Jones 

## **Swyddfa Gofrestredig:** 

Cylch Meithrin Llanrug, Ysgol Gynradd Llanrug, Llanrug, Caernarfon Gwynedd. 

## **Person Cofrestredig:** 

Clare Owen 

## **Yr Ymddiriedolwyr ar gyfer y flwyddyn i 31 Mawrth 2021** 

|**Swyddogaeth**|**Enw**|
|---|---|
|Cadeirydd|Einir Roberts|
|Ysgrifennydd|Llinos Morris|
|Trysorydd|Vicky Jones|



1 



## **Cylch Meithrin Llanrug** 

## **Adroddiad yr Ymddiriedolwyr** 

Dymuna’r pwyllgor gyflwyno eu hadroddiad a datganiad ariannol yr elusen am y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2022. 

## **Nod ac Amcanion:** 

Mae Cylch Meithrin Llanrug yn gweithredu dan gyfansoddiad wedi ei greu gan y Mudiad Meithirn. Mae ymddiriedolwyr yn cael eu apwyntio bob blwyddyn yn y Cyfarfod Blynyddol drwy gytundeb y pwyllgor rheoli. 

Prif amcan yr elusen yw rhoi addysg i blant rhwng 2.5 a 4 oed ym mhentref Llanrug a’r cyffiniau er mwyn iddynt fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Cylch yn darparu sesiynau ar gyfer plant 2.5 i 3 oed yn ogystal a sesiynau clwb brecwast a clwb cinio ar gyfer plant 3-4 oed. Darperir hefyd un sesiwn Ti a Fi bob wythnos. Mae’r Cylch yn cyflogi arweinydd ac o leiaf dau gymhorthydd er mwyn darparu’r gwasanaeth o ddydd i ddydd, ond rheolir yr elusen gan bwyllgor o wirfoddolwyr. Ceisir annof rhieni i fod yn aelod o’r pwyllgor gwirfoddol. Gwneir hynny bob mis Medi. 

## **Strwythyr a threfniant** 

Mae’r elusen yn cael ei redeg gan bwyllgor/ymddiriedolwyr sydd fel arfer yn rieni y plant sydd yn mynychu’r Cylch. Mae’r pwyllgor yn cyfarfod dwy waith y tymor. Mae gweithgareddau dydd i dydd y Cylch yn cael ei reoli gan y staff cyflogedig gyda chefnogaeth gan Swyddog Cefnogi y Mudiad Meithrin. 

## **Datblygiadau, gweithgareddau a’r hyn a gyflanwyd** 

Nid oedd newidiadau sylweddol yng ngweithgareddau’r elusen yn ystod y flwyddyn. Blaenoriaeth Cylch Meithrin Llanrug yw i barhau i ddarparu addysg blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y y Gymraeg i blant oed cyn-ysgol yr ardal mewn awyrgylch cynned a chyfeillgar. 

## **Llwyddiannau a pherfformiad** 

Llwyddwyd i ddarparu gwasanaeth blynyddoedd cynnar i 53 o blant ardal Llanrug. Cynhaliwyd cyngherddau Nadolig a Gwyl Ddewi. Cafwyd nifer o weithgareddau codi arian hefyd yn cynnwys taith gerdded. 

## **Cynllun Gofal 30 Awr** 

Mae Cylch Meithirn Llanrug yn rhan o’r Cynllun Gofal 30 awr. O dan y cynllun, gall rieni cymwys hawlio hyd at 30 awr o addysg cynnar a gofal plant bob wythnos,  hyd at 48 wythnos y flwyddyn. 

## **Grant WCVA** 

Yn ystod y flwyddyn talwyd yn ol benthyciad a dderbynwyd yn y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2021 gan WCVA O £5,657. 

## **Polisi cronfeydd** 

2 



Cronfeydd cyffredinol yw'r cronfeydd anghyfyngedig sydd yn barod i'w defnyddio gan yr ymddiriedolwyr i hyrwyddo amcanion cyffredinol yr elusen ac sydd heb gael eu clustnodi ar gyfer unrhyw bwrpas penodol arall. 

Cadwir cronfeydd at gostau rhedeg o dydd i dydd yr elusen ac i fod yn ddigonol am o leiaf tri mis o wariant os bydd incwm cyffredinol yn gorffen. 

Roedd cronfeydd o £7,748 yn y banc ar 31 Mawrth 2022. 

Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 24ain Ionawr 2023 ac arwyddwyd ar eu rhan gan 

Vicky Jones Trysorydd 

## **CYLCH MEITHRIN LLANRUG** 

**CYFRIF DERBYNIADAU A THALIADAU** 

3 



## **AM Y FLWYDDYN HYD AT 31 MAWRTH 2022** 

||**2022**|**2021**|
|---|---|---|
||**£**|**£**|
|**Incwm:**|||
|Ffioedd Plant|14,007|7,953|
|Grant Cyngor Gwynedd  30 Awr|54,902|33,032|
|Incwm Codi Arian:|1,214|735|
|Grant WCVA|-|22,500|
|Incwm Cynllun Cadw Swyddi|-|19,443|
|Incwm arall|172|-|
||______|______|
||£70,295|£83,663|
||________|______|
|**Gwariant**|||
|**Gweithgareddau Elusennol:**|||
|Cyflogau|71,127|78,391|
|Rhent|360|-|
|Offer, nwyddau ac adnoddau|8,052|8,021|
||______|______|
||79,539|86,412|
|**Gwariant arall:**|||
|Costau swyddfa|225|406|
|Costau ffon|248|202|
|Cyfrifo|876|-|
|Costau proffesiynol|384|142|
|Hyfforddiant|72|-|
|Manion|253|121|
|Costau glanhau a PPE|-|1,821|
|Ad-daliad benthyciad|5,657|-|
||______|______|
||7,715|2,692|
||______|______|
|Cyfanswm gwariant|87,254|89,104|
||______|______|
|(Gwariant) /Incwm Net|||
|am y flwyddyn|(16,959)|(5,441)|
|**Arian mewn banc ac mewn llaw**|||
|Ar 31 Mawrth 2021|24,707|30,148|
||______|______|
|Ar 31 Mawrth 2022|£7,748|£24,707|
||_______|______|



## **Ymddiriedolwyr** 

Ni dalwyd cyflog na ffioedd i unrhyw ymddiriedowr yn ystod y flwyddyn. (2021 – DIM). Ni wnaed ad-daliadau i ymddiriedolwyr yn ystod y flwyddyn, (2021 -  DIM). 

Cymeradwywyd gan yr Ymddiriedolwyr ar 24ain Ionawr 2023  ac arwyddwyd ar eu rhan gan 

Vicky Jones Trysorydd 

4 

