OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2025-09-01-accounts

ELUSEN DYFFRYN PERIS

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn 2024 - 2025

Cyflwyniad

Sefydlwyd Ynni Padarn Peris er mwyn creu cynllun heidro cymunedol i gynhyrchu trydan ‘gwyrdd’ gan ddefnyddio unrhyw elw at ddibenion cymdeithasol yn Nyffryn Peris.

Yna sefydlwyd Elusen Dyffryn Peris i ddosbarthu rhodd arianol a roddir yn flynyddol gan Ynni Padarn Peris er mwyn cyfrannu i les y cymunedau yn y dyffryn.

Un o amcanion sylfaenol Ynni Padarn Peris oedd sefydlu elusen a fyddai’n rhannu arian i brosiectau lleol. Nodir y mathau o weithgareddau a ystyrir yn briodol i dderbyn cefnogaeth fel - lleihau tlodi tanwydd, hybu ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth gynaladwy, arbed ynni, prosiectau cadwraethol, lleihau gwastraff, gwirfoddoli, hybu ymarfer corff neu hybu dysgwyr Cymraeg.

Yn ystod 2019 aethpwyd ati i sefydlu Elusen Dyffryn Peris a fyddai’n gweithredu’n annibynnol i fenter Ynni Padarn Peris.

Cofrestrwyd Elusen Dyffryn Peris SCE gyda’r Comisiwn Elusennau ym mis Ebrill 2020, yna bu’n weithredol o Fehefin o’r un flwyddyn.

Mae Bwrdd yr Elusen yn cynnwys saith o unigolion lleol sy’n gyfarwydd â’r fro ac yn gydymdeimladol tuag at ofynion ei chymunedau ynghyd a dau aelod sy’n eistedd ar Fwrdd Ynni Padarn ac yn rhannu’r un dyheadau.

Yn ystod y flwyddyn prin fu’r nifer o geisiadau er yr ymdrechion i ledaenu gwybodaeth am yr elusen. Felly bu’r cyfnod yn un bur dawel o ran y ceisiadau i’w trafod, ond diolch i’r holl ymddiriedolwyr sydd wedi ymuno’n gyson drwy Zoom i wireddu gwaith yr Elusen a bod yn ffyddiog y gwelir cynnydd yn y ceisiadau i’r dyfodol.

Hefyd, mewn cyfarfod o’r Elusen ym mis Ionawr, datganodd John Grisdale ei fwriad i sefyll lawr o’i rôl fel Ysgrifennydd yn syth oherwydd cyflwr iechyd ei wraig; diolchodd y Cadeirydd i John am ei holl waith ers y dechrau un yn 2019 gan ddymuno’n dda iddo; diolchodd John am y geiriau caredig a dymunodd yn dda i’r Elusen i’r dyfodol.

Cytunodd un o’r Ymddiriedolwyr, Maldwyn Peris i ymgymryd a’r gwaith ysgrifenyddol ac y byddai’n cysylltu hefo John i dderbyn y wybodaeth a’r ffeiliau perthnasol.

Maldwyn Peris Ysgrifennydd

Rhestr o Ymddiriedolwyr y Bwrdd

Dr Robin Parry Cadeirydd Etholwyd 2019
Maldwyn Peris Ysgrifennydd Etholwyd 2019
Rhys ap Gwilym Trysorydd Etholwyd 2019
Erin Eifon Etholwyd 2019
Rhian George Etholwyd 2019
Katy Williams Etholwyd 2019
Philip Roberts Etholwyd 2019
Gwenan Pennant Jones Etholwyd 2024
George Jones YPP Etholwyd 2019

Braslun o waith y Bwrdd yn ystod 2024 - 2025

2il o Orffennaf 2024

Cyfarfod trwy Teams.

Mynegwyd pryder – yr un hen stori – nad oedd fawr o geisiadau yn dod i law er ein bod wedi gohebu yn yr Eco a thrwy FB.

Awgrymwyd ein bod yn newid ein Canllawiau i wobrwyo “Prosiectau sy’n cyfoethogi a chefnogi’r gymuned” – hyn i’w gymeradwyo yn y pwyllgor llawn nesaf.

Gweithredwyd ar Gais 14 gan Ysgol Brynrefail i gefnogi prosiect addysgol ar Anhwylder Sbectrwm Awstistiaeth; bu trafodaeth agored ac wrth ei werthuso cafwyd sgôr uchel a chynigiwyd gan RP, GP ac EE y dylem gefnogi’r cais yn gyflawn, sef £3420.

16 Hydref 2024

Cyfarfod ar Teams.

Croesawyd pawb a diolchodd y Cadeirydd fod Gwenan Pennant Jones yn ymuno â ni fel Ymddiriedolwraig er nad oedd yn bresennol.

Eto, mynegwyd pryder nad oedd fawr o geisiadau nac ychwaith ymateb yn y cyfryngau am aelodau ychwanegol i’r Bwrdd.

Awgrymwyd ein bod yn hysbysebu yn yr Eco ar ffurf newyddlen.

Cytunwyd ein bod yn cymeradwyo y cynnig ym mhwyllgor Gorffennaf i addasu ein Canllawiau i gynnwys “Prosiectau sy’n cyfoethogi’r a chefnogi’r gymuned” a’n bod yn hysbysu hyn yn ein gohebiaeth.

Cais 13 – dim cydnabyddiaeth nac adroddiad wedi ein cyrraedd am y gazebo a ariannwyd

gennym.

Cais 14 – yn ein cyfarfod ym mis Gorffennaf cytunwyd i gefnogi’r cais Bws Awstistiaeth ond fod angen manylion banc er mwyn trosglwyddo’r arian.

Cais 15 – cais gan Bwyllgor Pentra Deiniolen gyda ffocws i ddod a’r gymuned ynghyd i gymdeithasu, datblygu a ffynnu ond bod angen geiriad mwy addas er ein bod yn gefnogol i’r prosiect oedd angen gorffen cegin cymunedol oedd yn costio £8,629.62.

Y sefyllfa ariannol – wedi talu £1,800 i Ragarug yng Ngorffennaf roedd £14,175.56 yn y coffrau.

Diolchodd y Cadeirydd i John am ei waith fel Ysgrifennydd i’r Bwrdd ers 2019 a diolchodd John i bawb am eu hynawsedd gan ddymuno’n dda i’r Elusen i’r dyfodol.

15 Ionawr 2025

Cyfarfod drwy Teams.

Croesawyd Gwenan Pennant Jones a oedd yn ymuno â ni am y tro cyntaf. Ni ddaeth gohebiaeth i law am geisiadau 13, 14 na 15 a chytunwyd y byddai gwahanol aelodau o’r Bwrdd yn cysylltu â’r mudiadau perthnasol.

Y sefyllfa ariannol – mae £6,400 a glustnodwyd i geisiadau 14 ac 15 yn dal heb ei dalu ac adroddodd y Trysorydd fod £14,175.56 yn dal yn y Banc.

Holwyd os oedd cais wedi ei gyflwyno i’r Elusen gan GwyrddNi i sefydlu Partneriaeth yn y dyffryn ar batrwm rhai Dyffrynnoedd Ogwen a Nantlle – atebwyd nad oedd cais wedi ei dderbyn.

Eglurodd Maldwyn Peris ei fod wedi derbyn holl ffeiliau’r Elusen gan John Grisdale, y cynysgrifennydd, a’i fod am ddilyn yr un strwythur i’r dyfodol.

24 Ebrill 2025

Cyfarfod wyneb yn wyneb yn Y Ganolfan, Llanberis.

Cais 14 – Soniwyd fod hanes y cais Bws Awstistiaeth yn Ysgol Brynrefail wedi cael sylw ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru a bod y disgyblion, a’u rhieni a’r athrawon wedi elwa’n fawr o’r profiad a diolchwyd am gyfraniad ariannol yr Elusen.

Cais 15 – Er i ni ofyn am ragor o fanylion, ni chafwyd ymateb a ni thalwyd unrhyw arian iddynt. Cysylltu eto!

Cais 16 – Caban Cynfi. Roedd £311.08 o dan wario ar eu cais, sef £8,629.62, a chytunwyd ein bod yn ddigon hapus iddynt gadw’r arian i’w ddefnyddio ar gyfarpar ychwanegol i’r gegin.

Cais 17 – Cwt Band Deiniolen. Er eu bod wedi cyflwyno amcanbrisiau teimlwyd nad oedd y ffurflen gais wedi ei chwblhau’n ddigonol ac awgrymwyd y dylid cysylltu hefo swyddog o Gyngor Gwynedd i’w cynorthwyo. Cafwyd Ffurflen Gais newydd yn ddiweddarach. Cais 18 – Band Arian Llanrug. Cais cynhwysfawr a phroffesiynol a 27 o iwnifforms i aelodau’r band gydag amcanbrisiau a chytunwyd i gymeradwyo’r cais gydag amod fod perchnogaeth y gwisgoedd yn perthyn i’r band yn hytrach na’r unigolyn.

Rhestr y Ceisiadau

Cais Teitl Penderfyniad Swm
Cais 14Bws Awtistiaeth Cymeradwyo £3,420.00
Cais 15Pwyllgor Pentre Deiniolen Disgwyl ymateb
Cais 16Caban Cynf, Deiniolen Cymeradwyo £8,331.44
Cais 17Cwt Band Deiniolen Cymeradwyo £1,478.00
Cais 18Band Arian Llanrug Cymeradwyo £6,790.00

Crynodeb o’r sefyllfa ariannol

Derbyniwyd £10,000 o gyllid gan Ynni Padarn Peris rhwng mis Mehefin 2024 hyd at ddiwedd mis Mai 2025. Dosbarthwyd cyfanswm o £21,819.44 mewn grantiau, fel y manylir isod. Gwariwyd £188.77 ar weinyddu gwefan yr Elusen dros y cyfnod. £3,967.35 oedd yn weddill yng nghyfrif banc yr Elusen ar ddiwedd mis Mai 2025 ac awgrymwyd ein bod yn cysylltu a’r Ynni i dderbyn cyfraniad ychwanegol i’r coffrau.

Manylion trosglwyddiadau banc yr Elusen:

Dyddiad Derbyniwyd Talwyd Mantol
31/05/2024 Mantol Agoriadol £15,975.56
24/07/2024 Cais 11 £1,800.00
11/02/2025 Cais 16 £8,331.44
11/02/2025 Cais 14 £3,420.00
11/02/2025 Costau gwefan £188.77
14/02/2025 Ynni Padarn Peris £10,000
05/05/2025 Cais 18 £6,790.00
19/05/2025 Cais 17 £1,478.00
31/05/2025 Mantol terfynnol £3,967.35