## **ELUSEN DYFFRYN PERIS** 

## **Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn 2024 - 2025** 

## **Cyflwyniad** 

Sefydlwyd Ynni Padarn Peris er mwyn creu cynllun heidro cymunedol i gynhyrchu trydan ‘gwyrdd’ gan ddefnyddio unrhyw elw at ddibenion cymdeithasol yn Nyffryn Peris. 

Yna sefydlwyd Elusen  Dyffryn Peris i ddosbarthu rhodd arianol a roddir yn flynyddol gan Ynni Padarn Peris er mwyn cyfrannu i les y cymunedau yn  y dyffryn. 

Un o amcanion sylfaenol Ynni Padarn Peris oedd sefydlu elusen a fyddai’n rhannu arian i brosiectau lleol. Nodir y mathau o weithgareddau a ystyrir yn briodol i dderbyn cefnogaeth fel - lleihau tlodi tanwydd, hybu ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth gynaladwy, arbed ynni, prosiectau cadwraethol, lleihau gwastraff, gwirfoddoli, hybu ymarfer corff neu hybu dysgwyr Cymraeg. 

Yn ystod 2019 aethpwyd ati i sefydlu Elusen Dyffryn Peris a fyddai’n gweithredu’n annibynnol i fenter Ynni Padarn Peris. 

Cofrestrwyd Elusen Dyffryn Peris SCE gyda’r Comisiwn Elusennau ym mis Ebrill 2020, yna bu’n weithredol o Fehefin o’r un flwyddyn. 

Mae Bwrdd yr Elusen yn cynnwys saith o unigolion lleol sy’n gyfarwydd â’r fro ac yn gydymdeimladol tuag at ofynion ei chymunedau ynghyd a dau aelod sy’n eistedd ar Fwrdd Ynni Padarn ac yn rhannu’r un dyheadau. 

Yn ystod y flwyddyn prin fu’r nifer o geisiadau er yr ymdrechion i ledaenu gwybodaeth am yr elusen. Felly bu’r cyfnod yn un bur dawel o ran y ceisiadau i’w trafod, ond diolch i’r holl ymddiriedolwyr sydd wedi ymuno’n gyson drwy Zoom i wireddu gwaith yr Elusen a bod yn ffyddiog y gwelir cynnydd yn y ceisiadau i’r dyfodol. 

Hefyd, mewn cyfarfod o’r Elusen ym mis Ionawr, datganodd John Grisdale ei fwriad i sefyll lawr o’i rôl fel Ysgrifennydd yn syth oherwydd cyflwr iechyd ei wraig; diolchodd y Cadeirydd i John am ei holl waith ers y dechrau un yn 2019 gan ddymuno’n dda iddo; diolchodd John am y geiriau caredig a dymunodd yn dda i’r Elusen i’r dyfodol. 

Cytunodd un o’r Ymddiriedolwyr, Maldwyn Peris i ymgymryd a’r gwaith ysgrifenyddol ac y byddai’n cysylltu hefo John i dderbyn y wybodaeth a’r ffeiliau perthnasol. 

Maldwyn Peris Ysgrifennydd 

## **Rhestr o Ymddiriedolwyr y Bwrdd** 

|Dr Robin Parry|Cadeirydd|Etholwyd 2019|
|---|---|---|
|Maldwyn Peris|Ysgrifennydd|Etholwyd 2019|
|Rhys ap Gwilym|Trysorydd|Etholwyd 2019|





|Erin Eifon||Etholwyd 2019|
|---|---|---|
|Rhian George||Etholwyd 2019|
|Katy Williams||Etholwyd 2019|
|Philip Roberts||Etholwyd 2019|
|Gwenan Pennant Jones||Etholwyd 2024|
|George Jones|YPP|Etholwyd 2019|



## **Braslun o waith y Bwrdd yn ystod 2024 - 2025** 

## **2il o Orffennaf 2024** 

Cyfarfod trwy Teams. 

Mynegwyd pryder – yr un hen stori – nad oedd fawr o geisiadau yn dod i law er ein bod wedi gohebu yn yr Eco a thrwy FB. 

Awgrymwyd ein bod yn newid ein Canllawiau i wobrwyo “Prosiectau sy’n cyfoethogi a chefnogi’r gymuned” – hyn i’w gymeradwyo yn y pwyllgor llawn nesaf. 

Gweithredwyd ar Gais 14 gan Ysgol Brynrefail i gefnogi prosiect addysgol ar Anhwylder Sbectrwm Awstistiaeth; bu trafodaeth agored ac wrth ei werthuso cafwyd sgôr uchel a chynigiwyd gan RP, GP ac EE y dylem gefnogi’r cais yn gyflawn, sef £3420. 

## **16 Hydref 2024** 

Cyfarfod ar Teams. 

Croesawyd pawb a diolchodd y Cadeirydd fod Gwenan Pennant Jones yn ymuno â ni fel Ymddiriedolwraig er nad oedd yn bresennol. 

Eto, mynegwyd pryder nad oedd fawr o geisiadau nac ychwaith ymateb yn y cyfryngau am aelodau ychwanegol i’r Bwrdd. 

Awgrymwyd ein bod yn hysbysebu yn yr Eco ar ffurf newyddlen. 

Cytunwyd ein bod yn cymeradwyo y cynnig ym mhwyllgor Gorffennaf i addasu ein Canllawiau i gynnwys “Prosiectau sy’n cyfoethogi’r a chefnogi’r gymuned” a’n bod yn hysbysu hyn yn ein gohebiaeth. 

**Cais 13** – dim cydnabyddiaeth nac adroddiad wedi ein cyrraedd am y gazebo a ariannwyd 

gennym. 

**Cais 14** – yn ein cyfarfod ym mis Gorffennaf cytunwyd i gefnogi’r cais Bws Awstistiaeth ond fod angen manylion banc er mwyn trosglwyddo’r arian. 

**Cais 15** – cais gan Bwyllgor Pentra Deiniolen gyda ffocws i ddod a’r gymuned ynghyd i gymdeithasu, datblygu a ffynnu ond bod angen geiriad mwy addas er ein bod yn gefnogol i’r prosiect oedd angen gorffen cegin cymunedol oedd yn costio £8,629.62. 

Y sefyllfa ariannol – wedi talu £1,800 i Ragarug yng Ngorffennaf roedd £14,175.56 yn y coffrau. 

Diolchodd y Cadeirydd i John am ei waith fel Ysgrifennydd i’r Bwrdd ers 2019 a diolchodd John i bawb am eu hynawsedd gan ddymuno’n dda i’r Elusen i’r dyfodol. 

## **15 Ionawr 2025** 

Cyfarfod drwy Teams. 

Croesawyd Gwenan Pennant Jones a oedd yn ymuno â ni am y tro cyntaf. Ni ddaeth gohebiaeth i law am geisiadau 13, 14 na 15 a chytunwyd y byddai gwahanol aelodau o’r Bwrdd yn cysylltu â’r mudiadau perthnasol. 



Y sefyllfa ariannol – mae £6,400 a glustnodwyd i geisiadau 14 ac 15 yn dal heb ei dalu ac adroddodd y Trysorydd fod £14,175.56 yn dal yn y Banc. 

Holwyd os oedd cais wedi ei gyflwyno i’r Elusen gan GwyrddNi i sefydlu Partneriaeth yn y dyffryn ar batrwm rhai Dyffrynnoedd Ogwen a Nantlle – atebwyd nad oedd cais wedi ei dderbyn. 

Eglurodd Maldwyn Peris ei fod wedi derbyn holl ffeiliau’r Elusen gan John Grisdale, y cynysgrifennydd, a’i fod am ddilyn yr un strwythur i’r dyfodol. 

## **24 Ebrill 2025** 

Cyfarfod wyneb yn wyneb yn Y Ganolfan, Llanberis. 

**Cais 14** – Soniwyd fod hanes y cais Bws Awstistiaeth yn Ysgol Brynrefail wedi cael sylw ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru a bod y disgyblion, a’u rhieni a’r athrawon wedi elwa’n fawr o’r profiad a diolchwyd am gyfraniad ariannol yr Elusen. 

**Cais 15** – Er i ni ofyn am ragor o fanylion, ni chafwyd ymateb a ni thalwyd unrhyw arian iddynt. Cysylltu eto! 

**Cais 16** – Caban Cynfi. Roedd £311.08 o dan wario ar eu cais, sef £8,629.62, a chytunwyd  ein bod yn ddigon hapus iddynt gadw’r arian i’w ddefnyddio ar gyfarpar ychwanegol i’r gegin. 

**Cais 17** – Cwt Band Deiniolen. Er eu bod wedi cyflwyno amcanbrisiau teimlwyd nad oedd y ffurflen gais wedi ei chwblhau’n ddigonol ac awgrymwyd y dylid cysylltu hefo swyddog o Gyngor Gwynedd i’w cynorthwyo. Cafwyd Ffurflen Gais newydd yn ddiweddarach. **Cais 18** – Band Arian Llanrug. Cais cynhwysfawr a phroffesiynol a 27 o iwnifforms i aelodau’r band gydag amcanbrisiau a chytunwyd i gymeradwyo’r cais gydag amod fod perchnogaeth y gwisgoedd yn perthyn i’r band yn hytrach na’r unigolyn. 

## **Rhestr y Ceisiadau** 

|Cais|Teitl|Penderfyniad|Swm|
|---|---|---|---|
|**Cais**|**14**Bws Awtistiaeth|Cymeradwyo|£3,420.00|
|**Cais**|**15**Pwyllgor Pentre Deiniolen|Disgwyl ymateb||
|**Cais**|**16**Caban Cynf, Deiniolen|Cymeradwyo|£8,331.44|
|**Cais**|**17**Cwt Band Deiniolen|Cymeradwyo|£1,478.00|
|**Cais**|**18**Band Arian Llanrug|Cymeradwyo|£6,790.00|



## **Crynodeb o’r sefyllfa ariannol** 

Derbyniwyd £10,000 o gyllid gan Ynni Padarn Peris rhwng mis Mehefin 2024 hyd at ddiwedd mis Mai 2025. Dosbarthwyd cyfanswm o **£21,819.44** mewn grantiau, fel y manylir isod. Gwariwyd **£188.77** ar weinyddu gwefan yr Elusen dros y cyfnod. **£3,967.35** oedd yn weddill yng nghyfrif banc yr Elusen ar ddiwedd mis Mai 2025 ac awgrymwyd ein bod yn cysylltu a’r Ynni i dderbyn cyfraniad ychwanegol i’r coffrau. 

Manylion trosglwyddiadau banc yr Elusen: 

|Dyddiad||Derbyniwyd|Talwyd|Mantol|
|---|---|---|---|---|
|31/05/2024|Mantol Agoriadol|||£15,975.56|
|24/07/2024|Cais 11||£1,800.00||





||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|
||11/02/2025|Cais 16||£8,331.44|||
||11/02/2025|Cais 14||£3,420.00|||
||11/02/2025|Costau gwefan||£188.77|||
||14/02/2025|Ynni Padarn Peris|£10,000||||
||05/05/2025|Cais 18||£6,790.00|||
||19/05/2025|Cais 17||£1,478.00|||
||31/05/2025|Mantol terfynnol|||£3,967.35||
||||||||



