OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2024-09-01-accounts

ELUSEN DYFFRYN PERIS

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn 2023 - 2024

Cyflwyniad

Sefydlwyd Ynni Padarn Peris er mwyn creu cynllun heidro cymunedol i gynhyrchu trydan ‘gwyrdd’ gan ddefnyddio unrhyw elw at ddibenion cymdeithasol yn Nyffryn Peris.

Yna sefydlwyd Elusen Dyffryn Peris i ddosbarthu rhodd arianol a roddir yn flynyddol gan Ynni Padarn Peris er mwyn cyfrannu i les y cymunedau yn y dyffryn.

Un o amcanion sylfaenol Ynni Padarn Peris oedd sefydlu elusen a fyddai’n rhannu arian i brosiectau lleol. Nodir y mathau o weithgareddau a ystyrir yn briodol i dderbyn cefnogaeth fel - lleihau tlodi tanwydd, hybu ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth gynaladwy, arbed ynni, prosiectau cadwraethol, lleihau gwastraff, gwirfoddoli, hybu ymarfer corff neu hybu dysgwyr Cymraeg.

Yn ystod 2019 aethpwyd ati i sefydlu Elusen Dyffryn Peris a fyddai’n gweithredu’n annibynnol i fenter Ynni Padarn Peris.

Cofrestrwyd Elusen Dyffryn Peris SCE gyda’r Comisiwn Elusennau ym mis Ebrill 2020, yna bu’n weithredol o Fehefin o’r un flwyddyn.

Mae Bwrdd yr Elusen yn cynnwys saith o unigolion lleol sy’n gyfarwydd â’r fro ac yn gydymdeimladol tuag at ofynion ei chymunedau ynghyd a dau aelod sy’n eistedd ar Fwrdd Ynni Padarn ac yn rhannu’r un dyheadau.

Yn anffodus yn ystod y cyfnod yma prin fu’r nifer o geisiadau er yr ymdrechion i ledaenu gwybodaeth am yr elusen. Felly bu’r flwyddyn hon yn bur dawel o ran y ceisiadau i’w trafod, felly diolch i’r holl ymddiriedolwyr sydd wedi ymuno’n gyson drwy Zoom i wireddu gwaith yr Elusen a bod yn ffyddiog y gwelir cynnydd yn y ceisiadau i’r dyfodol.

John Grisdale Ysgrifennydd

Rhestr o Ymddiriedolwyr y Bwrdd
Dr Robin Parry Cadeirydd Etholwyd 2019
John Grisdale Ysgrifennydd Etholwyd 2019
Rhys ap Gwilym Trysorydd Etholwyd 2019
Erin Eifon Etholwyd 2019
Rhian George Etholwyd 2019
Katy Williams Etholwyd 2019
Philip Roberts Etholwyd 2019
Maldwyn Peris YPP Etholwyd 2019
George Jones YPP Etholwyd 2019

Braslun o waith y Bwrdd yn ystod 2023 - 2024

Ionawr 2023

Ni chynhaliwyd cyfarfod o’r Bwrdd gan nad oedd cais newydd wedi dod i law.

Ebrill 2023

Ni chynhaliwyd cyfarfod o’r Bwrdd gan nad oedd cais newydd wedi dod i law.

11 Gorffennaf 2023

Cyfarfod drwy Teams.

Derbyniwyd sawl ymholiad cychwynnol ond dim un cyflawn. Felly wrth ystyried ein criteria credir y dyliai ystyriaethau cymunedol fod llawn mor werthfawr ag ystyriaethau amgylcheddol ac arbed ynni. Bu ein cefnogaeth o gynllun pwyntiau gwefru Y Caban ac amgylchedd mynwent Llanrug yn brawf o hyn.

Cytunwyd i hyrwyddo hyn yn lleol ac yn Eco’r Wyddfa ond i ddefnyddio mwy ar weplyfr yr Elusen ac i safleoedd y pentrefi lleol ailadrodd unrhyw neges.

10 Hydref 2024

Cyfarfod yn Y Ganolfan Llanberis.

Ymddangosodd hanes diweddar yr Elusen yn rhifyn Awst o Eco;r Wyddfa. Braf oedd nodi yn ystod y cyfnod diweddaraf i diwedd Medi daeth tri cais i law. Cymeradwywyd Cais 10 oddi wrth Y Sefydliad Coffa yn Llanrug er mwyn uwchraddio y system goleuo. Hefyd cefnogwyd Clwb Drama Ragarug a gyflwynodd Cais 11. Yn anffodus ni chefnogwyd Cais 12 gan GwyrddNI.

7 Chwefror 2024

Cyfarfod drwy Teams.

Un cais ddaeth i law sef Cais 13 oddi wrth Grŵp Datblygu Llanberis yn gofyn am gefnogaeth i brynu ‘gasibo’ er mwyn hyrwyddo eu gwaith a’u proffil amgylcheddol yn y pentref.

7 Mai 2024

Cyfarfod drwy Teams.

Gwnaethpwyd apêl lleol am gynrychiolwyr i weithredu fel Ymddiriedolwyr newydd ond prin fu’r ymateb yn anffodus. Bydd pwyso pellach cyn y pwyllgor ym mis Gorffennaf. Trafodwyd ail gais ar ran Gwyrdd Ni sef Cais 13 a phenderfynwyd holi barn aelodau o Bwyllgor Ynni Padarn Peris er mwyn cael barn mwy cynhwysfawr erbyn y pwyllgor nesaf.

Rhestr y Ceisiadau

Cais Teitl Penderfyniad Swm
Cais 10Uwchraddio system goleuo yn Llanrug Cymeradwyo £5875.20
Cais 11Clwb Dram Ragarug Cymeradwyo £3200.00
Cais 12Cyfranu at waith GwyrddNi Gwrthod
Cias 13Gasibo i Grŵp Datblygu Llanberis Cymeradwyo £679.00

Crynodeb o’r sefyllfa Arianol

Derbyniwyd £10,000 o gyllid gan Ynni Padarn Peris rhwng mis Mehefin 2023 hyd at ddiwedd mis Mai 2024. Dosbarthwyd cyfanswm o £9,754.20 mewn grantiau, fel y manylir

isod. Gwariwyd £192.02 ar weinyddu gwefan yr Elusen dros y cyfnod. £15,975.56 oedd yn weddill yng nghyfrif banc yr Elusen ar ddiwedd mis Mai 2024.

Manylion trosglwyddiadau banc yr Elusen:

Dyddiad Derbyniwyd Talwyd Mantol
31/05/2023 Mantol Agoriadol £15921.78
25/10/2023 Cais 10 £5,8750
25/10/2023 Cais 11 £3,200.00
27/11/2023 Ynni Padarn Peris £10,000
27/02/2024 Cais 13 £679.00
30/03/2024 Costau wefan £192.02
31/05/2024 Mantol terfynnol £15,975.56