## **ELUSEN DYFFRYN PERIS** 

## **Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr am y flwyddyn 2023 - 2024** 

## **Cyflwyniad** 

Sefydlwyd Ynni Padarn Peris er mwyn creu cynllun heidro cymunedol i gynhyrchu trydan ‘gwyrdd’ gan ddefnyddio unrhyw elw at ddibenion cymdeithasol yn Nyffryn Peris. 

Yna sefydlwyd Elusen  Dyffryn Peris i ddosbarthu rhodd arianol a roddir yn flynyddol gan Ynni Padarn Peris er mwyn cyfrannu i les y cymunedau yn  y dyffryn. 

Un o amcanion sylfaenol Ynni Padarn Peris oedd sefydlu elusen a fyddai’n rhannu arian i brosiectau lleol. Nodir y mathau o weithgareddau a ystyrir yn briodol i dderbyn cefnogaeth fel - lleihau tlodi tanwydd, hybu ynni adnewyddadwy, trafnidiaeth gynaladwy, arbed ynni, prosiectau cadwraethol, lleihau gwastraff, gwirfoddoli, hybu ymarfer corff neu hybu dysgwyr Cymraeg. 

Yn ystod 2019 aethpwyd ati i sefydlu Elusen Dyffryn Peris a fyddai’n gweithredu’n annibynnol i fenter Ynni Padarn Peris. 

Cofrestrwyd Elusen Dyffryn Peris SCE gyda’r Comisiwn Elusennau ym mis Ebrill 2020, yna bu’n weithredol o Fehefin o’r un flwyddyn. 

Mae Bwrdd yr Elusen yn cynnwys saith o unigolion lleol sy’n gyfarwydd â’r fro ac yn gydymdeimladol tuag at ofynion ei chymunedau ynghyd a dau aelod sy’n eistedd ar Fwrdd Ynni Padarn ac yn rhannu’r un dyheadau. 

Yn anffodus yn ystod y cyfnod yma prin fu’r nifer o geisiadau er yr ymdrechion i ledaenu gwybodaeth am yr elusen. Felly bu’r flwyddyn hon yn bur dawel o ran y ceisiadau i’w trafod,  felly diolch i’r holl ymddiriedolwyr sydd wedi ymuno’n gyson drwy Zoom i wireddu gwaith yr Elusen a bod yn ffyddiog y gwelir cynnydd yn y ceisiadau i’r dyfodol. 

John Grisdale Ysgrifennydd 

|**Rhestr o Ymddiriedolwyr**|**y Bwrdd**||
|---|---|---|
|Dr Robin Parry|Cadeirydd|Etholwyd 2019|
|John Grisdale|Ysgrifennydd|Etholwyd 2019|
|Rhys ap Gwilym|Trysorydd|Etholwyd 2019|
|Erin Eifon||Etholwyd 2019|
|Rhian George||Etholwyd 2019|
|Katy Williams||Etholwyd 2019|
|Philip Roberts||Etholwyd 2019|
|Maldwyn Peris|YPP|Etholwyd 2019|
|George Jones|YPP|Etholwyd 2019|





## **Braslun o waith y Bwrdd yn ystod 2023 - 2024** 

## **Ionawr 2023** 

Ni chynhaliwyd cyfarfod o’r Bwrdd gan nad oedd cais newydd wedi dod i law. 

## **Ebrill 2023** 

Ni chynhaliwyd cyfarfod o’r Bwrdd gan nad oedd cais newydd wedi dod i law. 

## **11 Gorffennaf 2023** 

Cyfarfod drwy Teams. 

Derbyniwyd sawl ymholiad cychwynnol ond dim un cyflawn. Felly wrth ystyried ein criteria credir y dyliai ystyriaethau cymunedol fod llawn mor werthfawr ag ystyriaethau amgylcheddol ac arbed ynni. Bu ein cefnogaeth o gynllun pwyntiau gwefru Y Caban ac amgylchedd  mynwent Llanrug yn brawf o hyn. 

Cytunwyd i hyrwyddo hyn yn lleol ac yn Eco’r Wyddfa ond i ddefnyddio mwy ar weplyfr yr Elusen ac i safleoedd y pentrefi lleol ailadrodd unrhyw neges. 

## **10 Hydref 2024** 

Cyfarfod yn Y Ganolfan Llanberis. 

Ymddangosodd hanes diweddar yr Elusen yn rhifyn Awst o Eco;r Wyddfa. Braf oedd nodi yn ystod y cyfnod diweddaraf i diwedd Medi daeth tri cais i law. Cymeradwywyd **Cais 10** oddi wrth Y Sefydliad Coffa yn Llanrug er mwyn uwchraddio y system goleuo. Hefyd cefnogwyd Clwb Drama Ragarug a gyflwynodd **Cais 11.** Yn anffodus ni chefnogwyd **Cais 12** gan GwyrddNI. 

## **7 Chwefror 2024** 

Cyfarfod drwy Teams. 

Un cais ddaeth i law sef **Cais 13** oddi wrth Grŵp Datblygu Llanberis yn gofyn am gefnogaeth i brynu ‘gasibo’ er mwyn hyrwyddo eu gwaith a’u proffil amgylcheddol yn y pentref. 

## **7 Mai 2024** 

Cyfarfod drwy Teams. 

Gwnaethpwyd apêl lleol am gynrychiolwyr i weithredu fel Ymddiriedolwyr newydd ond prin fu’r ymateb yn anffodus. Bydd pwyso pellach cyn y pwyllgor ym mis Gorffennaf. Trafodwyd ail gais ar ran Gwyrdd Ni sef **Cais 13** a phenderfynwyd holi barn aelodau o Bwyllgor Ynni Padarn Peris er mwyn cael barn mwy cynhwysfawr erbyn y pwyllgor nesaf. 

## **Rhestr y Ceisiadau** 

|Cais|Teitl|Penderfyniad|Swm|
|---|---|---|---|
|**Cais**|**10**Uwchraddio system goleuo yn Llanrug|Cymeradwyo|£5875.20|
|**Cais**|**11**Clwb Dram Ragarug|Cymeradwyo|£3200.00|
|**Cais**|**12**Cyfranu at waith GwyrddNi|Gwrthod||
|**Cias**|**13**Gasibo i Grŵp Datblygu Llanberis|Cymeradwyo|£679.00|



## **Crynodeb o’r sefyllfa Arianol** 

Derbyniwyd £10,000 o gyllid gan Ynni Padarn Peris rhwng mis Mehefin 2023 hyd at ddiwedd mis Mai 2024. Dosbarthwyd cyfanswm o £9,754.20 mewn grantiau, fel y manylir 



isod. Gwariwyd £192.02 ar weinyddu gwefan yr Elusen dros y cyfnod. £15,975.56 oedd yn weddill yng nghyfrif banc yr Elusen ar ddiwedd mis Mai 2024. 

Manylion trosglwyddiadau banc yr Elusen: 

|Dyddiad||Derbyniwyd|Talwyd|Mantol|
|---|---|---|---|---|
|31/05/2023|Mantol Agoriadol|||£15921.78|
|25/10/2023|Cais 10||£5,8750||
|25/10/2023|Cais 11||£3,200.00||
|27/11/2023|Ynni Padarn Peris|£10,000|||
|27/02/2024|Cais 13||£679.00||
|30/03/2024|Costau wefan||£192.02||
|31/05/2024|Mantol terfynnol|||£15,975.56|



