OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2020-12-31-accounts

Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr o 28 Chwefror 2020 hyd at 31 Rhagfyr 2020

Enw’r Elusen: Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE

Rhif yr Elusen: 1188238

Amcanion a Gweithgareddau

Prif amcan yr Eglwys yw hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn ôl egwyddorion enwadau’r Annibynwyr a’r Bedyddwyr yng Nghymru fel aelod o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Gall yr Eglwys hefyd hybu addysg a chyflawni amcanion elusennol eraill yn y Deyrnas Unedig a/neu mewn rhannau eraill o’r byd.

Mae’r Eglwys wedi ei hymrwymo i gyrraedd cynulleidfa eang o fewn dinas Bangor a thu hwnt gan agor ei drysau i gynifer â phosibl i addoli yn yr Eglwys ac i fanteisio ar bob cyfle i ymuno mewn gweithgareddau addoli a chymdeithasol trwy gyfrwng y we a dulliau eraill. Mae’n rhoi ffydd ar waith mewn gweddi a gweithred, mewn cân a sacrament.

Wrth gynllunio ein gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn rhown bwyslais ar gynorthwyo pawb i fyw eu ffydd o ddydd i ddydd fel rhan o deulu’r Eglwys. Gwnawn hynny trwy:

Addoli a gweddi; astudio’r Gair a datblygu ein dealltwriaeth o’r ffydd Gristnogol. Darparu gofal bugeiliol. Cynorthwyo plant a phobl ifanc i dyfu yn y ffydd. Hybu gwaith cenhadol.

I hyrwyddo’r gwaith hwn mae’n bwysig i ni gynnal yr adeilad a datblygu ein dulliau cyfrifiadurol, gan fanteisio ar y cyngor a’r cymorth a dderbynnir gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru.

Cyflawniadau a Pherfformiad

Addoli a Gweddi

Mae’r Eglwys yn cynnig darpariaeth eang o gyfleoedd i addoli, yn bennaf ar y Sul, gan gynnwys oedfaon yn y capel, oedfaon dros Zoom (sydd yn ddatblygiad mewn ymateb uniongyrchol i Covid-19), a rhannu deunydd addoli i rai nad ydynt yn gallu bod yn bresennol yn y capel nac yn gallu cael mynediad cyfrifiadurol. Mae aelodau a chyfeillion yr eglwys yn gallu dewis derbyn cylchlythyrau wythnosol am weithgareddau’r eglwys a’r rhaglen addoli. Ar ddechrau 2020 roedd 168 o aelodau ar lyfrau’r eglwys ond mae dylanwad yr eglwys yn

1

ehangach na hynny, a’i drysau’n agored, gan gynnwys dros y we, i gyrraedd cynulleidfa estynedig.

Mae Ysgol Sul y plant a’r bobl ifanc, gyda chefnogaeth rhieni a theuluoedd yn ogystal â gwirfoddolwyr o blith yr aelodau, yn rhoi cyfleoedd i elwa ar weithgareddau amrywiol a chynhyrfus.

Mae dosbarth Ysgol Sul yr oedolion yn fforwm wythnosol werthfawr i astudio’r Beibl a dyfnhau dealltwriaeth o’n ffydd.

Gofal Bugeiliol

Mae cyfathrebu’n effeithiol gyda’n haelodau a’n cyfeillion yn greiddiol i waith yr eglwys, boed trwy ymweliadau neu trwy godi ffôn neu trwy rannu deunydd darllen, y cyfan dan arweiniad gweinidog yr eglwys gyda chymorth rhwydwaith o gynorthwywyr. Yn ogystal, dosberthir cylchgrawn misol – Y Negesydd –yn ddigidol ac yn gopïau caled i’r sawl sy’n dymuno hynny.

Cynhelir cyfarfodydd ‘paned a sgwrs’ misol dros Zoom fel dilyniant i’r cyfarfodydd yn festri’r eglwys, yn gyfle i aelodau a chyfeillion gynnal ei gilydd yn ogystal â thrafod materion y dydd. Yr un modd cynhelir Cylch Darllen rheolaidd

Mae’r eglwys wedi gweithredu fel canolfan i fudiad Bugeiliaid y Stryd Bangor, trefniant a ohiriwyd yn anorfod yn ystod cyfnod clo Covid-19.

Gwaith cenhadol a chymdeithasol

Fel rhan o weledigaeth ehangach yr eglwys mae grŵp o aelodau’n cynnal cyfarfodydd misol yn yr adeilad i hybu pryniant nwyddau Marchnad Deg ac i gefnogi gwaith Traidcraft. Llwyddwyd i gynnal y ddarpariaeth hon trwy gydol y cyfnod clo wrth addasu’r ffordd o dderbyn archebion a chludo’r nwyddau i gartefi unigol. Cefnogir hefyd waith elusennau lleol, gan gynnwys Banc Bwyd Bangor a gwaith dros y di-gartref yn y ddinas, yn ogystal â chyfrannu at waith rhyngwladol (gweler rhai manylion isod). Mae’r eglwys hefyd yn cyfrannu’n gyson at weithgareddau Cytûn Bangor.

Adolygiad Ariannol

Cyfanswm y derbyniadau am y cyfnod cyfrifyddu oedd £45011, yn cynnwys offrymau, grantiau, rhodd cymorth ac incwm trwy logi festri'r adeilad. Er bod COVID wedi cael effaith ddifrifol ar ein gallu i gynnal gwasanaethau a gweithgareddau Cristnogol eraill yn adeilad yr Eglwys, nid yw hyn wedi cael effaith fawr ar ein hincwm am y cyfnod o dan sylw. Yn wir mae ein haelodau wedi aros yn deyrngar iawn i'r achos yn ariannol ac wrth fynychu gwasanaethau a gweithgareddau trwy Zoom.

Ar ben hynny, cawsom log o £696 trwy fuddsoddiadau yn eiddo Ymddiriedolwyr (y cyn) Eglwys Penuel, a £3795 a gyfrannwyd gan ein haelodau yn dilyn apeliadau yn y cyfnod am arian tuag at yr achosion elusennol canlynol:

2

Mae’r cyfrifon yn dangos colled o £ 13787 am y cyfnod cyfrifyddu. Mae £ 8441 o hyn yn ymwneud â gwariant eithriadol ar adeilad yr Eglwys a gynhaliwyd yn y cyfnod hwn o ganlyniad adolygiad gan diacon yr Eglwys sy'n dal y portffolio eiddo, ar y cyd â'n cwmni yswiriant. Manteisiwyd ar y cyfle i wneud atgyweiriadau oedd wedi cronni dros nifer o flynyddoedd er mwyn sicrhau'r adeilad at ein defnydd parhaus fel eglwys gydenwadol yn y dyfodol. Hefyd gwariwyd swm ychwanegol o £15921 ar yr adeilad yn 2020 yn y cyfnod cyn cofrestru fel SCE.

Rydym yn ffodus yn Emaus i gyflogi gweinidog llawn amser ac mae'r costau sy'n gysylltiedig â'i gweinidogaeth yn cyfateb i 75% o incwm gweithredol yr Eglwys. Derbyniwyd grantiau yn cyfansymu £12600 yn y cyfnod cyfrifyddu tuag at gost y weinidogaeth gan Gymanfa Arfon (Undeb Bedyddwyr Cymru) a Chyfundeb Annibynwyr Arfon (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

Roedd cronfeydd anghyfyngedig wrth gefn ar ddiwedd 2020 yn £ 43059. Mae eu hangen i dalu costau cynnal a chadw adeiladu'r Eglwys yn y dyfodol ac ariannu a blaenoriaethu materion iechyd a diogelwch sy'n codi. Mae cronfeydd ac asedau cyfyngedig yr Eglwys (gan gynnwys yr adeilad) o dan ofal Ymddiriedolwyr (cyn) Eglwys Pendref Bangor ac Ymddiriedolwyr (cyn) Eglwys Penuel Bangor. Daeth y ddwy Eglwys ynghyd ar 1 Ionawr 2017 (gyda'r ddwy yn cadw eu bwrdd ymddiriedolwyr eu hunain) i ffurfio Eglwys Gydenwadol Emaus. Fel cam cyntaf tuag at undod llawn crëwyd Emaus SCE ar 28 Chwefror 2020 i reoli cronfeydd anghyfyngedig yr Eglwys unedig. Mae ymddiriedolwyr y tri bwrdd yn ymwybodol o'r angen i uno mewn un corff yn y dyfodol. Gyda hyn mewn golwg mae is-bwyllgor wedi'i ffurfio i ystyried y llu o faterion cyfreithiol cymhleth yn gysylltiedig â'r prosiect.

Mae'r Ymddiriedolwyr yn hyderus i nodi nad oes gennym unrhyw ansicrwydd o gwbl bydd Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE yn parhau fel mudiad Cristnogol gweithredol.

Strwythur, Llywodraeth a Rheolaeth

Mae dogfen lywodraethol yr Eglwys yn Gyfansoddiad Sefydliad Corfforedig Elusennol gydag aelodau â phleidlais gan gynnwys yr ymddiriedolwyr. Drafftiwyd y ddogfen hon yn unol â'r canllawiau swyddogol y Comisiwn Elusennau.

Penodir ymddiriedolwyr yn unol ag Adran 12 a 13 o’r Cyfansoddiad.

Oherwydd cyfyngiadau COVID, ar wahân i nifer fach iawn o wasanaethau yn adeilad yr Eglwys gyda chyfyngiad ar nifer yr addolwyr, cynhaliwyd ein holl wasanaethau trwy Zoom yn ystod y cyfnod cyfrifyddu cyfan. O ganlyniad roedd hi'n amhosibl cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol. Felly mae'r tri ymddiriedolwr gwreiddiol yn parhau i wasanaethu am dymor arall.

Penododd yr ymddiriedolwyr Ysgrifennydd Aelodaeth yr Eglwys yn ymddiriedolwr ym mis Chwefror 2021 (ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu cyntaf).

3

Mae ymddiriedolwyr yr SCE hefyd i gyd yn aelodau o fwrdd diaconiaid a swyddogion yr Eglwys. Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda'r ddau gorff o ymddiriedolwyr sydd, ar hyn o bryd, yn gyfrifol am gronfeydd cyfyngedig yr Eglwys (Ymddiriedolwyr y cyn Eglwys Pendref a'r cyn Eglwys Penuel). Y nod yn y pendraw yw ystyried cael un bwrdd o ymddiriedolwyr yn unig o fewn y SCE.

Mae'r ymddiriedolwyr wedi rhoi sylw i ganllawiau budd cyhoeddus y comisiwn wrth arfer unrhyw bwerau neu ddyletswyddau y mae'r canllawiau'n berthnasol iddynt.

Manylion cyfeirnodi a gweinyddol

Enw’r Elusen Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE Rhif elusen gofrestredig: 1188238 Prif gyfeiriad yr Elusen Eglwys Gydenwadol Emaus Lôn Cariadon Bangor Gwynedd LL57 2TE Cyfeiriad gohebiaeth yr Elusen 11 Gorseddfa Criccieth Gwynedd LL52 0DW

Dyddiadau'n Enw'r person (neu'r corff) Enw’r ymddiriedolwr Swydd gweithredu (os nad sydd â hawl i benodi am flwyddyn gyfan) ymddiriedolwr (os oes un) Gareth Ffowc Roberts Ysgrifennydd - Gwyn Eurig Davies Cyfreithiwr - David Llewelyn Jones Cadeirydd a - Thrysorydd

Ymddiriedolwyr corfforaethol – Dim

Enw'r ymddiriedolwyr sy'n dal teitl eiddo sy'n eiddo i'r elusen - Dim

Cronfeydd a ddelir fel ymddiriedolwyr ceidwad ar ran eraill - Dim

Eithriadau rhag datgelu – Dim

4

Datganiadau

Mae’r ymddiriedolwyr yn datgan eu bod wedi cymeradwyo adroddiad yr ymddiriedolwyr uchod.

Llofnodwyd ar ran ymddiriedolwyr yr elusen:

Llofnod Enw llawn David Llewelyn Jones Swydd Cadeirydd a Thrysorydd Dyddiad 9 Rhagfyr 2021

5

Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE Rhif : 1188238

Datganiadau Ariannol am y cyfnod 28 Chwefror 2020 i 31 Rhagfyr 2020

Cyfrif Incwm a Gwariant

Cyfrif Incwm a Gwariant
Incwm
Offrymau
Casgliad rhydd
Llogi'r Adeilad
Rhoddion arbennig
Cyfundeb Arfon (Grant)
Cymanfa Arfon (Grant)
Rhodd Cymorth
Llog
Apeliadau elusennol
Is-gyfanswm
Cyfanswm yr Incwm
Gwariant
Costau'r weinidogaeth -nodyn (a)
Glanhau
Cynnal ac atgyweirio
Gwres a Goleu
Yswiriant
Gwaith eithriadol ar yr adeilad
Garddio a chynnal tir
Mudiad y Chwiorydd
Teleffon a gwasanaeth rhyngrwyd
Gwariant swyddfa
Organ
Trethi Dwr
Llungopiwr
Amrywiol
Banc Bwyd
Cymorth Cristnogol
BMS
Is-gyfanswm
Prynu Asedau
Gliniadur
Ad-daliad benthyciad di-log
Is-gyfanswm
Cyfanswm y Gwariant
Net o dderbyniadau/(taliadau)
Trosglwyddiadau rhwng cronfeydd
Cronfeydd ariannol 27/02/2020
Arian mewn llaw ar 31/12/2020
Cronfeydd
anghyfyngedig
24,805
£
211
£
883
£
823
£
6,100
£
6,500
£
5,690
£
696
£
3,795
£
Cronfeydd
cyfyngedig
-
-
-
-
-
-
-
-
-
Cronfeydd
gwaddol
-
-
-
-
-
-
-
-
-
Cyfanswm
£ 24,805
£ 211
£ 883
£ 823
£ 6,100
£ 6,500
£ 5,690
£ 696
£ 3,795
49,502 - - £ 49,502
49,502
35,594
£
990
£
873
£
1,628
£
2,344
£
8,441
£
1,170
£
20
£
1,266
£
126
£
489
£
235
£
1,236
£
446
£
2,545
£
1,552
£
764
£
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
-
49,502
35,594
990
873
1,628
2,344
8,441
1,170
20
1,266
126
489
235
1,236
446
2,545
1,552
764
59,718 - - 59,718
£ 1,371
£ 2,200
-
-
-
-
£ 1,371
£ 2,200
£ 3,571 - - £ 3,571
£ 63,289 - - £ 63,289
0
-
-
-£ 13,787 0 -£ 13,787
-
-
£ 56,846
-
-
£ 56,846
£ 43,059 - - £ 43,059

6

----- Start of picture text -----
Nodyn (a)
Costau'r Weinidogaeth £ 24,065
Cynllun Pensiwn y Weinidogaeth £ 2,174
Yswiriant Gwladol a Threth Incwm £ 6,054
Cytun Bangor £ 150
Treuliau'r Gweinidog £ 1,479
Yr Ysgol Sul £ 760
Pregethwyr £ 390
Undeb/Cyfundeb Yr Annibynwyr £ 522
£ 35,594
----- End of picture text -----

Datganiad o Asedau a Dyledion ar 31 Rhagfyr 2020

----- Start of picture text -----
Cronfeydd Cronfeydd
Categoriau Manylion
anghyfyngedig cyfyngedig
Cronfeydd Arian Parod Cyfrif Banc - Rhodd Cymanfa Arfon £ 32,874 £ -
(Gwerthiant Bethel)
Cyfrifon Banc (eraill) £ 10,185 £ -
Cyfanswm cronfeydd arian parod £ 43,059 £ -
OK OK
Cronfeydd Cronfeydd
Manylion
anghyfyngedig cyfyngedig
Asedau Ariannol Eraill Allens Organs blaendal 2021 £ 489 -
Rhodd Cymorth £ 4,716 -
Offrymau wedi'u bancio ar ôl diwedd y -
£ 165
flwyddyn
Manylion Cost
Asedau a gedwir at ddefnydd yr Cronfa
Gliniadur £ 1,371
elusen yn unig anghyfyngedig
Manylion Cost
Dyledion Cronfa
Cylchgrawn Y Tyst £ 26
anghyfyngedig
Cronfa
Treth Incwm a Cyfraniadau Yswiriant Gwladol £ 1,823
anghyfyngedig
Cronfa
Ecclesiastical Insurance £ 1,547
anghyfyngedig
----- End of picture text -----

Arwyddyd ar ran yr ymddiriedolwyr
Cadeirydd a Trysorydd
Llofnod David Llewelyn Jones
Enw

7

Adroddiad archwiliwr annibynnol ar y cyfrifon

Adran A Adroddiad yr archwiliwr annibynnol Adrodd i ymddireidolwyr Enw’r Elusen Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE Cyfrifon ar gyfer y 31ain Rhagfyr 2020 Rhif 1188238 flwyddyn yn diweddu Elusen Rwy'n adrodd i'r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon yr elusen uchod am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 / 12 / 2020. Cyfrifioldebau a sail yr Fel ymddiriedolwyr elusennau'r Ymddiriedolaeth, chi sy'n gyfrifol am baratoi'r adroddiad cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 ("y Ddeddf"). Adroddaf mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gynhaliwyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth gynnal fy archwiliad, rwyf wedi dilyn y Cyfarwyddiadau perthnasol a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o'r Ddeddf. Datganiad arholwr Rwyf wedi cwblhau fy arholiad. Rwy'n cadarnhau nad oes unrhyw faterion annibynnol perthnasol wedi dod i'm sylw mewn cysylltiad â'r archwiliad sy'n rhoi achos i mi gredu mewn unrhyw ystyriaeth faterol:

Nid oes gennyf unrhyw bryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'r archwiliad y dylid tynnu sylw ato er mwyn gallu cael dealltwriaeth gywir o'r cyfrifon.

Dyddiad: 15/12/2021 Arwyddwyd: Enw: Sian M.Williams Cymhwyster(au) ICAEW neu gorff proffesiynol perthnasol (os oes rhai): Cyfeiriad: Griffith,Williams & Co 36, Stryd Fawr Pwllheli, Gwynedd, LL53 5RT

October 2018

1

IER