# **Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr o 28 Chwefror 2020 hyd at 31 Rhagfyr 2020**

## **Enw’r Elusen:  Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE**

## **Rhif yr Elusen: 1188238**

##  **Amcanion a Gweithgareddau**

Prif amcan yr Eglwys yw hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn ôl egwyddorion enwadau’r Annibynwyr a’r Bedyddwyr yng Nghymru fel aelod o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Gall yr Eglwys hefyd hybu addysg a chyflawni amcanion elusennol eraill yn y Deyrnas Unedig a/neu mewn rhannau eraill o’r byd.

Mae’r Eglwys wedi ei hymrwymo i gyrraedd cynulleidfa eang o fewn dinas Bangor a thu hwnt gan agor ei drysau i gynifer â phosibl i addoli yn yr Eglwys ac i fanteisio ar bob cyfle i ymuno mewn gweithgareddau addoli a chymdeithasol trwy gyfrwng y we a dulliau eraill. Mae’n rhoi ffydd ar waith mewn gweddi a gweithred, mewn cân a sacrament.

Wrth gynllunio ein gweithgareddau ar gyfer y flwyddyn rhown bwyslais ar gynorthwyo pawb i fyw eu ffydd o ddydd i ddydd fel rhan o deulu’r Eglwys. Gwnawn hynny trwy:

Addoli a gweddi; astudio’r Gair a datblygu ein dealltwriaeth o’r ffydd Gristnogol. Darparu gofal bugeiliol. Cynorthwyo plant a phobl ifanc i dyfu yn y ffydd. Hybu gwaith cenhadol.

I hyrwyddo’r gwaith hwn mae’n bwysig i ni gynnal yr adeilad a datblygu ein dulliau cyfrifiadurol, gan fanteisio ar y cyngor a’r cymorth a dderbynnir gan Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac Undeb Bedyddwyr Cymru.

##  **Cyflawniadau a Pherfformiad**

## **Addoli a Gweddi**

Mae’r Eglwys yn cynnig darpariaeth eang o gyfleoedd i addoli, yn bennaf ar y Sul, gan gynnwys oedfaon yn y capel, oedfaon dros Zoom (sydd yn ddatblygiad mewn ymateb uniongyrchol i Covid-19), a rhannu deunydd addoli i rai nad ydynt yn gallu bod yn bresennol yn y capel nac yn gallu cael mynediad cyfrifiadurol. Mae aelodau a chyfeillion yr eglwys yn gallu dewis derbyn cylchlythyrau wythnosol am weithgareddau’r eglwys a’r rhaglen addoli. Ar ddechrau 2020 roedd 168 o aelodau ar lyfrau’r eglwys ond mae dylanwad yr eglwys yn

1

ehangach na hynny, a’i drysau’n agored, gan gynnwys dros y we, i gyrraedd cynulleidfa estynedig.

Mae Ysgol Sul y plant a’r bobl ifanc, gyda chefnogaeth rhieni a theuluoedd yn ogystal â gwirfoddolwyr o blith yr aelodau, yn rhoi cyfleoedd i elwa ar weithgareddau amrywiol a chynhyrfus.

Mae dosbarth Ysgol Sul yr oedolion yn fforwm wythnosol werthfawr i astudio’r Beibl a dyfnhau dealltwriaeth o’n ffydd.

## **Gofal Bugeiliol**

Mae cyfathrebu’n effeithiol gyda’n haelodau a’n cyfeillion yn greiddiol i waith yr eglwys, boed trwy ymweliadau neu trwy godi ffôn neu trwy rannu deunydd darllen, y cyfan dan arweiniad gweinidog yr eglwys gyda chymorth rhwydwaith o gynorthwywyr. Yn ogystal, dosberthir cylchgrawn misol – _Y Negesydd_ –yn ddigidol ac yn gopïau caled i’r sawl sy’n dymuno hynny.

Cynhelir cyfarfodydd ‘paned a sgwrs’ misol dros Zoom fel dilyniant i’r cyfarfodydd yn festri’r eglwys, yn gyfle i aelodau a chyfeillion gynnal ei gilydd yn ogystal â thrafod materion y dydd. Yr un modd cynhelir Cylch Darllen rheolaidd

Mae’r eglwys wedi gweithredu fel canolfan i fudiad Bugeiliaid y Stryd Bangor, trefniant a ohiriwyd yn anorfod yn ystod cyfnod clo Covid-19.

## **Gwaith cenhadol a chymdeithasol**

Fel rhan o weledigaeth ehangach yr eglwys mae grŵp o aelodau’n cynnal cyfarfodydd misol yn yr adeilad i hybu pryniant nwyddau Marchnad Deg ac i gefnogi gwaith Traidcraft. Llwyddwyd i gynnal y ddarpariaeth hon trwy gydol y cyfnod clo wrth addasu’r ffordd o dderbyn archebion a chludo’r nwyddau i gartefi unigol. Cefnogir hefyd waith elusennau lleol, gan gynnwys Banc Bwyd Bangor a gwaith dros y di-gartref yn y ddinas, yn ogystal â chyfrannu at waith rhyngwladol (gweler rhai manylion isod). Mae’r eglwys hefyd yn cyfrannu’n gyson at weithgareddau Cytûn Bangor.

##  **Adolygiad Ariannol**

Cyfanswm y derbyniadau am y cyfnod cyfrifyddu oedd £45011, yn cynnwys offrymau, grantiau, rhodd cymorth ac incwm trwy logi festri'r adeilad.  Er bod COVID wedi cael effaith ddifrifol ar ein gallu i gynnal gwasanaethau a gweithgareddau Cristnogol eraill yn adeilad yr Eglwys, nid yw hyn wedi cael effaith fawr ar ein hincwm am y cyfnod o dan sylw.  Yn wir mae ein haelodau wedi aros yn deyrngar iawn i'r achos yn ariannol ac wrth fynychu gwasanaethau a gweithgareddau trwy Zoom.

Ar ben hynny, cawsom log o £696 trwy fuddsoddiadau yn eiddo Ymddiriedolwyr (y cyn) Eglwys Penuel, a £3795 a gyfrannwyd gan ein haelodau yn dilyn apeliadau yn y cyfnod am arian tuag at yr achosion elusennol canlynol:

2

- Banc Bwyd Bangor

- Cymorth Cristnogol

- Baptist Missionary Society

Mae’r cyfrifon yn dangos colled o £ 13787 am y cyfnod cyfrifyddu. Mae £ 8441 o hyn yn ymwneud â gwariant eithriadol ar adeilad yr Eglwys a gynhaliwyd yn y cyfnod hwn o ganlyniad adolygiad gan diacon yr Eglwys sy'n dal y portffolio eiddo, ar y cyd â'n cwmni yswiriant.  Manteisiwyd ar y cyfle i wneud atgyweiriadau oedd wedi cronni dros nifer o flynyddoedd er mwyn sicrhau'r adeilad at ein defnydd parhaus fel eglwys gydenwadol yn y dyfodol.  Hefyd gwariwyd swm ychwanegol o £15921 ar yr adeilad yn 2020 yn y cyfnod cyn cofrestru fel SCE.

Rydym yn ffodus yn Emaus i gyflogi gweinidog llawn amser ac mae'r costau sy'n gysylltiedig â'i gweinidogaeth yn cyfateb i 75% o incwm gweithredol yr Eglwys.  Derbyniwyd grantiau yn cyfansymu £12600 yn y cyfnod cyfrifyddu tuag at gost y weinidogaeth gan Gymanfa Arfon (Undeb Bedyddwyr Cymru) a Chyfundeb Annibynwyr Arfon (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg).

Roedd cronfeydd anghyfyngedig wrth gefn ar ddiwedd 2020 yn £ 43059. Mae eu hangen i dalu costau cynnal a chadw adeiladu'r Eglwys yn y dyfodol ac ariannu a blaenoriaethu materion iechyd a diogelwch sy'n codi. Mae cronfeydd ac asedau cyfyngedig yr Eglwys (gan gynnwys yr adeilad) o dan ofal Ymddiriedolwyr (cyn) Eglwys Pendref Bangor ac Ymddiriedolwyr (cyn) Eglwys Penuel Bangor.  Daeth y ddwy Eglwys ynghyd ar 1 Ionawr 2017 (gyda'r ddwy yn cadw eu bwrdd ymddiriedolwyr eu hunain) i ffurfio Eglwys Gydenwadol Emaus.  Fel cam cyntaf tuag at undod llawn crëwyd Emaus SCE ar 28 Chwefror 2020 i reoli cronfeydd anghyfyngedig yr Eglwys unedig.  Mae ymddiriedolwyr y tri bwrdd yn ymwybodol o'r angen i uno mewn un corff yn y dyfodol.  Gyda hyn mewn golwg mae is-bwyllgor wedi'i ffurfio i ystyried y llu o faterion cyfreithiol cymhleth yn gysylltiedig â'r prosiect.

Mae'r Ymddiriedolwyr yn hyderus i nodi nad oes gennym unrhyw ansicrwydd o gwbl bydd Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE yn parhau fel mudiad Cristnogol gweithredol.

##  **Strwythur, Llywodraeth a Rheolaeth**

Mae dogfen lywodraethol yr Eglwys yn Gyfansoddiad Sefydliad Corfforedig Elusennol gydag aelodau â phleidlais gan gynnwys yr ymddiriedolwyr. Drafftiwyd y ddogfen hon yn unol â'r canllawiau swyddogol y Comisiwn Elusennau.

Penodir ymddiriedolwyr yn unol ag Adran 12 a 13 o’r Cyfansoddiad.

Oherwydd cyfyngiadau COVID, ar wahân i nifer fach iawn o wasanaethau yn adeilad yr Eglwys gyda chyfyngiad ar nifer yr addolwyr, cynhaliwyd ein holl wasanaethau trwy Zoom yn ystod y cyfnod cyfrifyddu cyfan.  O ganlyniad roedd hi'n amhosibl cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol.  Felly mae'r tri ymddiriedolwr gwreiddiol yn parhau i wasanaethu am dymor arall.

Penododd yr ymddiriedolwyr Ysgrifennydd Aelodaeth yr Eglwys yn ymddiriedolwr ym mis Chwefror 2021 (ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu cyntaf).

3

Mae ymddiriedolwyr yr SCE hefyd i gyd yn aelodau o fwrdd diaconiaid a swyddogion yr Eglwys.  Maent hefyd yn gweithio'n agos gyda'r ddau gorff o ymddiriedolwyr sydd, ar hyn o bryd, yn gyfrifol am gronfeydd cyfyngedig yr Eglwys (Ymddiriedolwyr y cyn Eglwys Pendref a'r cyn Eglwys Penuel).  Y nod yn y pendraw yw ystyried cael un bwrdd o ymddiriedolwyr yn unig o fewn y SCE.

Mae'r ymddiriedolwyr wedi rhoi sylw i ganllawiau budd cyhoeddus y comisiwn wrth arfer unrhyw bwerau neu ddyletswyddau y mae'r canllawiau'n berthnasol iddynt.

##  **Manylion cyfeirnodi a gweinyddol**

Enw’r Elusen Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE Rhif elusen gofrestredig: 1188238 Prif gyfeiriad yr Elusen Eglwys Gydenwadol Emaus Lôn Cariadon Bangor Gwynedd LL57 2TE Cyfeiriad gohebiaeth yr Elusen 11 Gorseddfa Criccieth Gwynedd LL52 0DW

**Dyddiadau'n Enw'r person (neu'r corff) Enw’r ymddiriedolwr Swydd gweithredu (os nad sydd â hawl i benodi am flwyddyn gyfan) ymddiriedolwr (os oes un)** Gareth Ffowc Roberts Ysgrifennydd **-** Gwyn Eurig Davies Cyfreithiwr **-** David Llewelyn Jones Cadeirydd a **-** Thrysorydd

**Ymddiriedolwyr corfforaethol** – Dim

**Enw'r ymddiriedolwyr sy'n dal teitl eiddo sy'n eiddo i'r elusen** - Dim

**Cronfeydd a ddelir fel ymddiriedolwyr ceidwad ar ran eraill** - Dim

**Eithriadau rhag datgelu** – Dim

4

##  **Datganiadau**

**Mae’r ymddiriedolwyr yn datgan eu bod wedi cymeradwyo adroddiad yr ymddiriedolwyr uchod.**

## **Llofnodwyd ar ran ymddiriedolwyr yr elusen:**

**Llofnod Enw llawn David Llewelyn Jones Swydd Cadeirydd a Thrysorydd Dyddiad 9 Rhagfyr 2021**

5

## **Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE           Rhif : 1188238**

## **Datganiadau Ariannol am y cyfnod 28 Chwefror 2020 i 31 Rhagfyr 2020**

## **Cyfrif Incwm a Gwariant**

|**Cyfrif Incwm a Gwariant**|||||

|**Incwm**
Offrymau
Casgliad rhydd
Llogi'r Adeilad
Rhoddion arbennig
Cyfundeb Arfon (Grant)
Cymanfa Arfon (Grant)
Rhodd Cymorth
Llog
Apeliadau elusennol
**_Is-gyfanswm_ **
**_Cyfanswm yr Incwm_**
**Gwariant**
Costau'r weinidogaeth -**nodyn (a)**
Glanhau
Cynnal ac atgyweirio
Gwres a Goleu
Yswiriant
Gwaith eithriadol ar yr adeilad
Garddio a chynnal tir
Mudiad y Chwiorydd
Teleffon a gwasanaeth rhyngrwyd
Gwariant swyddfa
Organ
Trethi Dwr
Llungopiwr
Amrywiol
Banc Bwyd
Cymorth Cristnogol
BMS
**_Is-gyfanswm_ **
**Prynu Asedau**
Gliniadur
Ad-daliad benthyciad di-log
**_Is-gyfanswm_ **
**_Cyfanswm y Gwariant_**
**_Net o dderbyniadau/(taliadau)_**
**_Trosglwyddiadau rhwng cronfeydd_**
**_Cronfeydd ariannol 27/02/2020_**
**_Arian mewn llaw ar 31/12/2020_**|**Cronfeydd**
**anghyfyngedig**
24,805

211

883

823

6,100

6,500

5,690

696

3,795
£|**Cronfeydd**
**cyfyngedig**

**-**|**Cronfeydd**
**gwaddol**

**-**|**Cyfanswm**|
|||||**£               24,805**
**£                     211**
**£                     883**
**£                     823**
**£                  6,100**
**£                  6,500**
**£                  5,690**
**£                     696**|
|||||**£                  3,795**|
||**49,502**|**-**|**-**|**£               49,502**|
||**49,502**
35,594

990

873

1,628

2,344

8,441

1,170

20

1,266

126

489

235

1,236

446

2,545

1,552

764

|||||**49,502**|

|||||**35,594**
**990**
**873**
**1,628**
**2,344**
**8,441**
**1,170**
**20**
**1,266**
**126**
**489**
**235**
**1,236**
**446**
**2,545**
**1,552**|
|||||**764**|
||**59,718**|**-**|**-**|**59,718**|
||**£                     1,371**
**£                     2,200**|**-**

|||||**£                  1,371**
**£                  2,200**|
||**£                     3,571**|**-**|**-**|**£                  3,571**|

||**£                   63,289**|**-**|**-**|**£               63,289**|
||||**0**

||**-£                   13,787**|**0**||**-£               13,787**

**£                   56,846**|**-**

|||||**£               56,846**|
||**£                   43,059**|**-**|**-**|**£               43,059**|

6

**----- Start of picture text -----**

Nodyn (a)
Costau'r Weinidogaeth £                   24,065
Cynllun Pensiwn y Weinidogaeth £                     2,174
Yswiriant Gwladol a Threth Incwm £                     6,054
Cytun Bangor £                        150
Treuliau'r Gweinidog £                     1,479
Yr Ysgol Sul £                        760
Pregethwyr  £                        390
Undeb/Cyfundeb Yr Annibynwyr £                        522
£                   35,594
**----- End of picture text -----**

## **Datganiad o Asedau a Dyledion ar 31 Rhagfyr 2020**

**----- Start of picture text -----**

Cronfeydd  Cronfeydd
Categoriau  Manylion
anghyfyngedig cyfyngedig
Cronfeydd Arian Parod  Cyfrif Banc - Rhodd Cymanfa Arfon   £                 32,874  £                    -
(Gwerthiant Bethel)
Cyfrifon Banc (eraill)   £                 10,185   £                         -
Cyfanswm cronfeydd arian parod   £                 43,059   £                     -
OK OK
Cronfeydd  Cronfeydd
Manylion
anghyfyngedig cyfyngedig
Asedau Ariannol Eraill  Allens Organs blaendal 2021  £                       489                             -
Rhodd Cymorth  £                    4,716                             -
Offrymau wedi'u bancio ar ôl diwedd y                              -
£                       165
flwyddyn
Manylion  Cost
Asedau a gedwir at ddefnydd yr  Cronfa
Gliniadur   £                   1,371
elusen yn unig anghyfyngedig
Manylion  Cost
Dyledion Cronfa
Cylchgrawn Y Tyst   £                        26
anghyfyngedig
Cronfa
Treth Incwm a Cyfraniadau Yswiriant Gwladol   £                   1,823
anghyfyngedig
Cronfa
Ecclesiastical Insurance   £                   1,547
anghyfyngedig
**----- End of picture text -----**

|**Arwyddyd ar ran yr ymddiriedolwyr**
**Cadeirydd a Trysorydd**|**Llofnod**|**David Llewelyn Jones**
**Enw**|

7

## **Adroddiad archwiliwr annibynnol ar y cyfrifon**

**Adran A                        Adroddiad yr archwiliwr annibynnol Adrodd i ymddireidolwyr** Enw’r Elusen Eglwys Gydenwadol Emaus Bangor SCE **Cyfrifon ar gyfer y** 31ain Rhagfyr 2020 **Rhif** 1188238 **flwyddyn yn diweddu Elusen** Rwy'n adrodd i'r ymddiriedolwyr ar fy archwiliad o gyfrifon yr elusen uchod am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 / 12 / 2020. **Cyfrifioldebau a sail yr** Fel ymddiriedolwyr elusennau'r Ymddiriedolaeth, chi sy'n gyfrifol am baratoi'r **adroddiad** cyfrifon yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 ("y Ddeddf"). Adroddaf mewn perthynas â'm harchwiliad o gyfrifon yr Ymddiriedolaeth a gynhaliwyd o dan adran 145 o Ddeddf 2011 ac wrth gynnal fy archwiliad, rwyf wedi dilyn y Cyfarwyddiadau perthnasol a roddwyd gan y Comisiwn Elusennau o dan adran 145(5)(b) o'r Ddeddf. **Datganiad arholwr** Rwyf wedi cwblhau fy arholiad.  Rwy'n cadarnhau nad oes unrhyw faterion **annibynnol** perthnasol wedi dod i'm sylw mewn cysylltiad â'r archwiliad sy'n rhoi achos i mi gredu mewn unrhyw ystyriaeth faterol:

- ni chedwir cofnodion cyfrifyddu yn unol ag adran 130 o'r Ddeddf neu

- nid yw'r cyfrifon yn cyd-fynd â'r cofnodion cyfrifyddu

Nid oes gennyf unrhyw bryderon ac nid wyf wedi dod ar draws unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'r archwiliad y dylid tynnu sylw ato er mwyn gallu cael dealltwriaeth gywir o'r cyfrifon.

**Dyddiad:** 15/12/2021 **Arwyddwyd: Enw:** Sian M.Williams **Cymhwyster(au)** ICAEW **neu gorff proffesiynol perthnasol (os oes rhai): Cyfeiriad:** Griffith,Williams & Co 36, Stryd Fawr Pwllheli, Gwynedd, LL53 5RT

**October 2018**

1

**IER**