Adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor ym Mis Hydref, 2023.
Mae wedi bod yn flwyddyn brysur a llwyddiannus iawn i Gylch Meithrin Pentreuchaf. Mae’r nifer o blant yn y Cylch wedi parhau i dyfu ac erbyn hyn – ryn ni’n agos iawn i fod yn llawn. Mae 22 o blant ar y gofrestr.
Mae’r Cylch Meithrin yn darparu gwasanaeth sesiynol o ansawdd uchel i blant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol a hynny drwy sesiynau boreuol y Meithrin a Mwy a’r Cylch Meithrin yn y prynhawn. Nod greiddiol y Cylch yw hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg i blant oed ysgol yn ardal Pentreuchaf.
Mae plant bach yn medru manteisio ar y cynllun 20 awr o oriau gofal am ddim drwy’r Cynnig Gofal Plant ac mae hynny yn arbennig o bwysig i ni i gefnogi teuluoedd ifanc i gael mynediad at ein gwasanaeth.
Mae’r Cylch yn aelod o’r Mudiad Meithrin ac yn derbyn cefnogaeth barhaus gan y Mudiad – rydym yn falch o groesawu Eifiona o’r Mudiad atom ni heno ac yn diolch iddi am ei chefnogaeth a’i chyngor yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.
Mae ein dwy aelod arbennig o staff yn ymroddedig ac yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i’r plant ddatblygu drwy weithgareddau a chwarae ac rwy’n meddwl fy mod yn siarad ar ran pawb wrth ddweud fod y plant yn dwli arnoch chi ac mae’n bleser eu gweld yn cyrraedd a gadael y cylch mor hapus bob dydd.
Diolch hefyd i’r ysgol ym Mhentreuchaf am fod yn gartref mor groesawgar i’r Cylch. Rydym yn cael y gofod gan yr ysgol am ddim, ac mae hynny yn hwyluso gwaith y cylch yn fawr ac yn gartref sefydlog a braf i weithgareddau’r Cylch. Mae hefyd yn help mawr wrth gwrs wrth i’r plant bontio i’r dosbarth meithrin gan wneud y cam mawr o ddechrau’r ysgol yn un esmwyth a diogel i’r plant. Diolch arbennig iawn hefyd i Mrs Helen Jones sy’n gweithredu fel ein unigolyn cyfrifol ar y pwyllgor ac sydd wastad wrth law i gefnogi a chynghori swyddogion y pwyllgor.
I weithredu o ddydd i ddydd mae’r Cylch yn hollol ddibynnol ar yr incwm a ddaw wrth y plant sy’n mynychu’r sesiynau ac yn bwysig iawn gweithgareddau codi arian. Dyma sy’n talu cyflogau’r staff ac yn prynu adnoddau angenrheidiol i’r cylch. Mae’r cyfnod diwethaf wedi bod yn gyfle i sefydlogi’r Cylch yn ariannol yn dilyn heriau Covid 19. Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio bu nifer o weithgareddau codi arian llwyddiannus, yn cynnwys:
-
Taith gerdded
-
Bingo
-
Raffl Pasg
-
Raffl Nadolig
-
Stondin yn Ffair Fedi’r Ysgol
-
Parti Nadolig ar y cyd gyda’r Cylch Ti a Fi
Mae parhau i godi arian yn hanfodol i ddyfodol y Cylch ac i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’n teuluoedd.
Wrth drafod codi arian – mae’n rhaid i ni fel pwyllgor a rhieni ddiolch o galon i Naomi am ei gwaith diflino fel Trysorydd y Cylch. Yn ei rôl wirfoddol, mae Naomi yn gyfrifol am gadw trefn ar daliadau rhieni, grantiau a sicrhau bod y staff yn derbyn eu cyflogau yn brydlon ac yn gywir. Diolch hefyd i Angharad a Gwawr am eu gwaith fel ysgrifenyddion ac am gadw trefn arnom ni.
Yn dilyn y cyfarfod hwn dw i’n mawr obeithio y bydd rhai ohonoch chi yn ymuno gyda ni ar y Pwyllgor i gefnogi gwaith y Cylch arbennig hwn a’r staff bendigedig sydd gyda ni yma.
| 2022-23 | Ebrill | Mai | Mehefn | GorfennafAwst | GorfennafAwst |
|---|---|---|---|---|---|
| COSTAU | |||||
| Cyfog | £956.60 | £2,150.06 | £1,856.73 | £1,160.82 | £2,077.20 |
| HMRC | £58.20 | £0.00 | £0.00 | £0.00 | £0.00 |
| Cyfogres | £0.00 | £0.00 | £90.00 | £0.00 | £0.00 |
| Cynllun pensiwn | £2.10 | £0.00 | £66.03 | £0.00 | £5.95 |
| Deunyddiau ac ofer | £1,051.88 | £0.00 | £109.78 | £196.50 | £0.00 |
| Ad-daliadau | £0.00 | £0.00 | £0.00 | £0.00 | £0.00 |
| Costau mudiad | £0.00 | £0.00 | £78.00 | £0.00 | £0.00 |
| Cyfanswm Costau | £2,068.78 | £2,150.06 | £2,200.54 | £1,357.32 | £2,077.20 |
| INCWM | |||||
| Ffoedd mynychu | £2,367.00 | £3,644.00 | £848.50 | £1,872.00 | £900.00 |
| Gweithgareddau codi arian | £506.70 | £0.00 | £0.00 | £0.00 | |
| Grantiau | £300.00 | £0.00 | £0.00 | £0.00 | £0.00 |
| Cyfraniadau | £0.00 | £500.00 | £0.00 | £0.00 | £0.00 |
| Cyfanswm Incwm | £2,667.00 | £4,650.70 | £848.50 | £1,872.00 | £900.00 |
Balans o'r mis blaenorol £1,564.02 £2,153.24 £4,643.85 £3,155.81 £3,670.49 Balans ar ddiwedd y mis £2,153.24 £4,643.85 £3,155.81 £3,670.49 £2,487.34
Medi Hydref Tachwedd Rhagfyr Ionawr Chwefror Mawrth
| £1,845.45 | £1,804.14 | £2,200.00 | £2,025.49 | £2,025.49 | £2,153.81 | £2,223.09 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| £0.00 | £0.00 | £0.00 | £5.32 | £5.32 | £9.12 | £0.00 |
| £90.00 | £0.00 | £90.00 | £0.00 | £0.00 | £90.00 | £0.00 |
| £38.49 | £32.20 | £69.38 | £40.07 | £30.00 | £0.00 | £0.00 |
| £0.00 | £750.00 | £0.00 | £0.00 | £0.00 | £0.00 | £1,523.23 |
| £0.00 | £0.00 | £184.88 | £0.00 | £0.00 | £0.00 | £19.20 |
| £0.00 | £125.00 | £0.00 | £0.00 | £0.00 | £0.00 | £0.00 |
| £1,973.94 | £2,711.34 | £2,544.26 | £2,070.88 | £2,025.49 | £2,252.93 | £3,765.52 |
£908.00 £1,819.00 £2,183.31 £3,110.00 £1,434.50 £1,634.00 £937.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £620.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £908.00 £1,819.00 £2,183.00 £3,110.00 £1,434.50 £2,254.00 £937.00
£2,487.34 £1,421.40 £546.06 £184.80 £1,137.74 £541.43 £1,500.28 £1,421.40 £546.06 £184.80 £1,137.74 £541.43 £1,500.28 £882.26