
Adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor ym Mis Hydref, 2023. 

Mae wedi bod yn flwyddyn brysur a llwyddiannus iawn i Gylch Meithrin Pentreuchaf. Mae’r nifer o blant yn y Cylch wedi parhau i dyfu ac erbyn hyn – ryn ni’n agos iawn i fod yn llawn. Mae 22 o blant ar y gofrestr. 

Mae’r Cylch Meithrin yn darparu gwasanaeth sesiynol o ansawdd uchel i blant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol a hynny drwy sesiynau boreuol y Meithrin a Mwy a’r Cylch Meithrin yn y prynhawn. Nod greiddiol y Cylch yw hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg i blant oed ysgol yn ardal Pentreuchaf. 

Mae plant bach yn medru manteisio ar y cynllun 20 awr o oriau gofal am ddim drwy’r Cynnig Gofal Plant ac mae hynny yn arbennig o bwysig i ni i gefnogi teuluoedd ifanc i gael mynediad at ein gwasanaeth. 

Mae’r Cylch yn aelod o’r Mudiad Meithrin ac yn derbyn cefnogaeth barhaus gan y Mudiad – rydym yn falch o groesawu Eifiona o’r Mudiad atom ni heno ac yn diolch iddi am ei chefnogaeth a’i chyngor yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. 

Mae ein dwy aelod arbennig o staff yn ymroddedig ac yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i’r plant ddatblygu drwy weithgareddau a chwarae ac rwy’n meddwl fy mod yn siarad ar ran pawb wrth ddweud fod y plant yn dwli arnoch chi ac mae’n bleser eu gweld yn cyrraedd a gadael y cylch mor hapus bob dydd. 

Diolch hefyd i’r ysgol ym Mhentreuchaf am fod yn gartref mor groesawgar i’r Cylch. Rydym yn cael y gofod gan yr ysgol am ddim, ac mae hynny yn hwyluso gwaith y cylch yn fawr ac yn gartref sefydlog a braf i weithgareddau’r Cylch. Mae hefyd yn help mawr wrth gwrs wrth i’r plant bontio i’r dosbarth meithrin gan wneud y cam mawr o ddechrau’r ysgol yn un esmwyth a diogel i’r plant. Diolch arbennig iawn hefyd i Mrs Helen Jones sy’n gweithredu fel ein unigolyn cyfrifol ar y pwyllgor ac sydd wastad wrth law i gefnogi a chynghori swyddogion y pwyllgor. 

I weithredu o ddydd i ddydd mae’r Cylch yn hollol ddibynnol ar yr incwm a ddaw wrth y plant sy’n mynychu’r sesiynau ac yn bwysig iawn gweithgareddau codi arian. Dyma sy’n talu cyflogau’r staff ac yn prynu adnoddau angenrheidiol i’r cylch. Mae’r cyfnod diwethaf wedi bod yn gyfle i sefydlogi’r Cylch yn ariannol yn dilyn heriau Covid 19.  Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio bu nifer o weithgareddau codi arian llwyddiannus, yn cynnwys: 

- Taith gerdded 

- Bingo 

- Raffl Pasg 

- Raffl Nadolig 

- Stondin yn Ffair Fedi’r Ysgol 

- Parti Nadolig ar y cyd gyda’r Cylch Ti a Fi 



Mae parhau i godi arian yn hanfodol i ddyfodol y Cylch ac i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’n teuluoedd. 

Wrth drafod codi arian – mae’n rhaid i ni fel pwyllgor a rhieni ddiolch o galon i Naomi am ei gwaith diflino fel Trysorydd y Cylch. Yn ei rôl wirfoddol, mae Naomi yn gyfrifol am gadw trefn ar daliadau rhieni, grantiau a sicrhau bod y staff yn derbyn eu cyflogau yn brydlon ac yn gywir. Diolch hefyd i Angharad a Gwawr am eu gwaith fel ysgrifenyddion ac am gadw trefn arnom ni. 

Yn dilyn y cyfarfod hwn dw i’n mawr obeithio y bydd rhai ohonoch chi yn ymuno gyda ni ar y Pwyllgor i gefnogi gwaith y Cylch arbennig hwn a’r staff bendigedig sydd gyda ni yma. 



|**2022-23**|Ebrill|Mai|Mehefn|GorfennafAwst|GorfennafAwst|
|---|---|---|---|---|---|
|COSTAU||||||
|Cyfog|£956.60|£2,150.06|£1,856.73|£1,160.82|£2,077.20|
|HMRC|£58.20|£0.00|£0.00|£0.00|£0.00|
|Cyfogres|£0.00|£0.00|£90.00|£0.00|£0.00|
|Cynllun pensiwn|£2.10|£0.00|£66.03|£0.00|£5.95|
|Deunyddiau ac ofer|£1,051.88|£0.00|£109.78|£196.50|£0.00|
|Ad-daliadau|£0.00|£0.00|£0.00|£0.00|£0.00|
|Costau mudiad|£0.00|£0.00|£78.00|£0.00|£0.00|
|Cyfanswm Costau|£2,068.78|£2,150.06|£2,200.54|£1,357.32|£2,077.20|
|INCWM||||||
|Ffoedd mynychu|£2,367.00|£3,644.00|£848.50|£1,872.00|£900.00|
|Gweithgareddau codi arian||£506.70|£0.00|£0.00|£0.00|
|Grantiau|£300.00|£0.00|£0.00|£0.00|£0.00|
|Cyfraniadau|£0.00|£500.00|£0.00|£0.00|£0.00|
|Cyfanswm Incwm|£2,667.00|£4,650.70|£848.50|£1,872.00|£900.00|



Balans o'r mis blaenorol £1,564.02 £2,153.24 £4,643.85 £3,155.81 £3,670.49 Balans ar ddiwedd y mis £2,153.24 £4,643.85 £3,155.81 £3,670.49 £2,487.34 



## Medi Hydref Tachwedd Rhagfyr Ionawr Chwefror Mawrth 

|£1,845.45|£1,804.14|£2,200.00|£2,025.49|£2,025.49|£2,153.81|£2,223.09|
|---|---|---|---|---|---|---|
|£0.00|£0.00|£0.00|£5.32|£5.32|£9.12|£0.00|
|£90.00|£0.00|£90.00|£0.00|£0.00|£90.00|£0.00|
|£38.49|£32.20|£69.38|£40.07|£30.00|£0.00|£0.00|
|£0.00|£750.00|£0.00|£0.00|£0.00|£0.00|£1,523.23|
|£0.00|£0.00|£184.88|£0.00|£0.00|£0.00|£19.20|
|£0.00|£125.00|£0.00|£0.00|£0.00|£0.00|£0.00|
|£1,973.94|£2,711.34|£2,544.26|£2,070.88|£2,025.49|£2,252.93|£3,765.52|



£908.00 £1,819.00 £2,183.31 £3,110.00 £1,434.50 £1,634.00 £937.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £620.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £0.00 £908.00 £1,819.00 £2,183.00 £3,110.00 £1,434.50 £2,254.00 £937.00 

£2,487.34 £1,421.40 £546.06 £184.80 £1,137.74 £541.43 £1,500.28 £1,421.40 £546.06 £184.80 £1,137.74 £541.43 £1,500.28 £882.26 

