OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2021-03-31-accounts

Cylch Meithrin Dyfryn Banw Adroddiad Blynyddol / Annual Report

Crynhoir ein nodau ac amcanion yn y weledigaeth a amlinellir isod. Rheolir y Cylch Meithrin gan bwyllgor rheoli gwirfoddol gyda statws elusennol fel CIO . Mae'r Cylch yn perthyn i deulu ehangach Mudiad Meithrin a darperir cyngor i ni gan Swyddog Cefnogi'r Mudiad a gan athrawes ymgynghorol o Gyngor Sir Powys. Darperir rheolaeth linell i arweinydd y Cylch gan yr Unigolyn Cyfrifol. Mae'r arweinydd yn darparu rheolaeth linell i'r aelod arall o staff. Mae'r Cylch yn gofrestredig gydag AGC ac yn darparu'r Cynnig Gofal Plant ac addysg gynnar.

Bydd y weledigaeth hon yn ganolog i ethos Cylch Meithrin Dyffryn Banw i ddarparu amgylchedd gynnes a chynhwysol sy’n galon i’r gymuned. Caiff pob plentyn hwyl yn dysgu trwy chwarae a’u trochi yn y Gymraeg dan oruchwyliaeth ymarferwyr cymwys sy’n angerddol am les a datblygiad plant bach.

Gofal plant o ansawdd yn Gymraeg (cyn symud ymlaen i addysg Gymraeg yn ein hysgol leol) i blant 1 i 5 gan ganolbwyntio ar ddysgu trwy chwarae a sbarduno chwilfrydedd cynhenid ac annibyniaeth y plentyn unigol.

Ymgysylltiad o ansawdd gyda phlant gan roi sylw i weithgaredd un i un wedi’i deilwra yn ôl anghenion a diddordebau’r plentyn a rhoi sylw i weithgaredd grŵp bach a grŵp mwy.

Darparu amgylchedd dan do ac awyr agored diddorol yn cynnwys rhannau rhydd, deunyddiau naturiol, adnoddau penagored a chynllunio teithiau chwarae a mynd am dro wythnosol.

Rhyngweithiadau ansawdd uchel gydag oedolion wedi cymhwyso a sy’n dysgu o hyfforddiant parhaus yn ymateb i blant ar unwaith ac yn gwneud gwahaniaeth i ddysgu a chwarae’r plentyn gan wrando ar llais y plentyn a dysgu o adborth.

Cofnodi rhyngweithiadau/amseroedd dysgu trwy chwarae ar gyfer plant ffocws bob wythnos a rhannu gyda rhieni/gofalwyr; trafod gyda’r Unigolyn Cyfrifol a’r Pwyllgor; cynnal cyfarfodydd arolygu a gwerthuso.

Edrych yn ol…

Caiff hyn ei gryfhau gan ymagwedd adeiladol, agored, gydweithredol a blaengar. Hyderwn fod ein prosiect ‘Cylch Ni’ yn bodloni’r meysydd hyn ac hefyd yn cynnig mwy yng ngwyneb yr angen i adnewyddu ac adfer yng nghyfnod “ôl-Covid” gan ddarparu sicrwydd o ran y lleoliad yng ngwyneb ansicrwydd Covid-19.

Mae’n ystrydebol i nodi ond plant yw dyfodol pob adferiad cymunedol ac mae plant wedi cael bargen wael yn ystod y pandemig oherwydd yr holl gyfyngiadau ar eu rhyddid arferol. Mae sawl edefyn tystiolaeth yn pwyntio at sgil-effeithiau niweidiol cyfyngiadau’r pandemig ar blant a goblygiadau tymor hir hynny ar ddatblygiad, llesiant a ffyniant. Ar y llaw arall, ceir tystiolaeth bendant o bwysigrwydd darpariaeth gofal ac addysg o ansawdd yn y blynyddoedd cynnar a chyd-berthynas darpariaeth gwasanaeth gofal ac addysg gynnar ar ddatblygiad gwybyddol arferol y plentyn bach. Rydym felly’n arbennig o falch mai dim ond am gyfnod o 3 mis y bu’n Cylch Meithrin ar gau i’r gymuned yn ystod y pandemig (o Fawrth 2020 hyd Mehefin 2020) ac fe wnaeth y staff, y Pwyllgor rheoli gwirfoddol a’r gymuned bopeth o fewn ein gallu i ail-agor drysau’r ddarpariaeth (hyd yn oed pan oedd mwyafrif ysgolion Cymru ar gau i’r mwyafrif o blant). Rydym felly’n angerddol am gynnal a gwella’r ddarpariaeth hon sef gwasanaethau’n Cylch Meithrin. Dros y blynyddoedd bu i ni fuddsoddi’n drwm mewn gwella ansawdd: yn gyntaf trwy fodloni gofyniad Mudiad Meithrin a mynd at i gofrestru’r ddarpariaeth gyda AGC. Yn ail, trwy gynyddu oriau’r ddarpariaeth o 3 awr a 40 munud yr wythnos i 18 awr yr wythnos. Yn drydydd, trwy fuddsoddi yn sgiliau a hyfforddiant ein staff (gyda’r ddwy yn astudio cymhwyster prentisiaeth gofal plant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf). Yn bedwerydd, trwy benderfynu derbyn plant o 18 mis oed i fyny. Yn bumed, trwy ymgeisio a derbyn gwahanol grantiau e.e. i brynu dodrefn ac adnoddau chwarae newydd. Yn olaf, trwy dendro i allu darparu’r Cyfnod Sylfaen ac yn ddiweddarach i ddarparu cyfran o’r Cynnig Gofal Plant. Trwy hyn oll, rydym wedi bod yn ffodus i dderbyn cefnogaeth Pwyllgor neuadd y pentref, ein hathrawes ymgynghorol o Gyngor Sir Powys a Swyddog Cefnogi Mudiad Meithrin. Teimlwn mai’r prif rwystr i gynnydd pellach ein Cylch yw’r safle ac amlygwyd hyn yn ddramatig yn ystod y pandemig. Er fod i’r safle presennol ragoriaethau: gofod agored braf, cegin, nifer o doiledau gwahanol, mynediad i’r anabl ayyb mae nifer o rwystrau hefyd. Y prif rwystrau yw’r ffaith fod y gofod yn un a rennir gyda’r gymuned ehangach (sy’n golygu gwaith trymlwythog i staff wrth godi a thynnu’r ddarpariaeth lawr yn ddyddiol) a diffyg gofod awyr agored mawr (sy’n golygu cynllunio strategol i sicrhau fod y plant yn cael darpariaeth barhaus h.y. mynediad dilyffethair i’r awyr agored i gefnogi eu hanghenion datblygiadol). Bwriad ein cais i’r Gronfa Adfer felly yw i dalu am ad-leoli ein Cylch Meithrin i safle’r ysgol Gymraeg leol gan fuddsoddi mewn creu caban fydd yn gartref parhaol ac esgliwsif i’r Cylch Meithrin. Bydd effaith hynny ar y bobl yr ydym yn gweithio a hwy (sef plant 18 mis oed i 4 oed) a’u teuluoedd a’r gymuned ehangach yn y cyfnod “ôl-Covid” yn sylweddol iawn:

supporting our children and young people to recover we look at the full range of their needs ” (Written Statement: The Summer of Fun (16 June 2021) | GOV.WALES)

Dylid nodi nad yw’r buddiannau uchod yn absoliwt. Hynny yw, mae Cylch Meithrin Dyffryn Banw wedi llwyddo ar hyd y degawdau i fodloni gofynion y gymuned i dderbyn gofal (ac yn ddiweddarach) addysg gynnar trwy gyfrwng y Gymraeg ar ei safle presennol. Mae esiamplau niferus o Gylchoedd Meithrin mewn safleoedd heb fod ar dir ysgol sy’n llwyddo i ragori. Byddai bod yn berchen ar ein safle’n hunain yn rhyddhau y buddion uchod i ni o fod yn derbyn y buddsoddiad yn y safle.

Ein rol gymunedol

Mae’n Cylch Meithrin yn ddarpariaeth gymunedol sydd mewn bodolaeth ers dros hanner canrif ac sydd wastad wedi cael ei reoli gan bwyllgor rheoli gwirfoddol o’r gymuned (yn rieni a chefnogwyr). Mae’r pwyllgor rheoli gwirfoddol wedi dadlau’n flaenorol dros ad-leoli gwasanaeth y Cylch i safle ysgol gymunedol (a bu addrefnu ysgolion y dalgylch yn gyfrwng i bwyso am hynny gyda’r Cyngor Sir). Mae’r pandemig wedi pwysleisio’r buddiannau posib ac wedi tanlinellu’r manteision i aelodau’r gymuned. Mae aelodau pwyllgor rheoli gwirfoddol y Cylch Meithrin yn cynnwys trawstoriad o rieni o bob cymuned ddaearyddol: Llanerfyl, Llangadfan a’r Foel ac mae’n mwynhau cefnogaeth frwd gan y gymuned ehangach i’w gweithgareddau codi arian amrywiol e.e. codwyd dros £1000 gan y gymuned mewn ymgyrch rithiol ddiweddar pan noddwyd plant y Cylch i fynd am dro gyda chanran uchel o’r noddwyr yn deillio o’r gymuned. Mae trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal rhwng cynrychiolwyr y Pwyllgor rheoli gwirfoddol gyda arweinyddiaeth a llywodraethwyr yr ysgol a chefnogaeth mewn egwyddor i hanfodion y cynllun. Mae Cyngor Sir Powys wedi buddsoddi yn safle Ysgol Cwm Banwy yn sgil proses ad-drefnu addysgiadol heriol a hir-wyntog felly ystyrir fod y cynllun hwn yn ddatganiad pellach o awydd i gryfhau statws yr ysgol fel ysgol gymunedol a darparwr gwasanaethau o fudd i deuluoedd sydd hefyd yn cefnogi amcanion strategaeth ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru a CSGA (WESP)

Cyngor Sir Powys. Mae staff lleol y Cylch wedi bod yn ganolog i’r cynllun i wireddu safle parhaol i’r Cylch Meithrin fel carfan arall o fuddiolwyr amlwg sydd hefyd yn awyddus i allu cynnig gwasanaethau fwy effeithiol i blant y dalgylch yn y Cylch. Byddai cael mynediad at ofod parhaol yn yr awyr agored (sylweddol) yn cyfoethogi’r ddarpariaeth gan mai bach iawn yw’r gofod awyr agored yn ein safle presennol gyda chryn waith cynllunio a meddwl yn gorfod mynd mewn i sicrhau fod y plant yn treulio amser sylweddol yn yr awyr agored e.e. trwy fynd am dro, mynd i barc cyfagos ayyb. Mae rhieni sydd wedi ymateb i’n holiadur gwerthuso gwasanaeth blynyddol hefyd wedi awgrymu y gellid ystyried ad-leoli’r Cylch wedi gweld buddiannau hynny yng nghyfnod y pandemig. Byddai hyn hefyd yn cefnogi egwyddorion y cwricwlwm newydd (sy’n seiliedig ar efelychu’r Cyfnod Sylfaen) ynghyd a bodloni hanfodion arfer da yn y blynyddoedd cynnar (ethos Montessori, Froebel ayyb). Rydym hefyd wedi derbyn cyngor gan gontractwyr lleol sydd yn gyffrous i fod yn rhan o’r cynllun uchelgeisiol hwn.

Niferoedd

Yn bresennol mae cofrestriad AGC yn caniatáu i ni dderbyn 19 plentyn ond mae’r gymhareb staff i blentyn gyda 2 aelod o staff yn caniatáu i ni dderbyn 11 plentyn ac nid oes awgrym ar sail data demograffeg y bydd cynnydd enfawr yn nifer y plant yn yr ardal. Ar y cyfan, rydym yn gallu bodloni pob cais i blentyn fynychu’r Cylch a nid oes rhestr aros.

Rhinweddau’r ddarpariaeth

Supporting the Economy

Supporting Health & Care

Supporting Residents & Communities

Strengthening Learning and Skills

Pigion o’r flwyddyn!

Croeso nol i bawb ar ôl gwyliau’r Haf. Gobeithio i chi gyd fwynhau! Rydym yn barod am dymor prysur gyda’r plant yn y Cylch.

Welcome back to you all after the summer holidays. We hope you all had a lovely time! We are ready for a busy half term ahead of us in the Cylch.

Fe fyddwn yn canolbwyntio ar thema ‘Y Gofod’ yr hanner tymor hwn, gyda gorsaf ofod fel cornel chwarae rôl gan allu gwisgo fyny fel gofodwr, adeiladu roced yn defnyddio bocsys ailgylchu, darganfod sêr yn yr ardal chwarae bler, creu lluniau gofodwyr yn defnyddio ffoil, defnyddio gwahanol siapiau 2D i greu llun roced, a llawer mwy. Bydd lluniau o’r plant yn gwneud y gweithgareddau ar ein grŵp Facebook caeedig. Os oes gennych unrhyw lyfrau, neu bethau yn ymwneud a’r thema gofod, dewch a nhw i ddangos.

We will focus on the theme of 'The Space' this half term, with a space station as a role-playing corner - being able to dress up as an astronaut, building a rocket using recycling boxes, discoveingr stars in the messy play, creating astronaut pictures using foil, using different 2D shapes to create a rocket picture, and much more. Pictures of the children doing the activities will be up on our closed Facebook group. If you have any books associated with this theme, we would love to see!

Dangos a Dweud/ Show and Tell – Dros yr wythnosau nesaf bydd pob plentyn yn cael y cyfle i ddod a llun i mewn i’r Cylch i ddangos i’r plant eraill a’r staff, ac yn cael cyfle i siarad ychydig amdano. Gall fod yn unrhyw beth o ddiddordeb i’r plentyn – gall fod yn rywle maent wedi bod, llun rhywun sydd yn bwysig iddynt, neu lun anifail anwes. Fe fyddwn yn gyrru llythyr adref gyda’ch plentyn pan fydd angen. Edrychwn ymlaen at glywed eu straeon!

Show & Tell - Over the next few weeks each child will have the opportunity to bring a picture into the Cylch to show the other children and staff and have the opportunity to talk a little about it. It can be anything of interest to the child. It can be somewhere they’ve been, a picture of someone who is important to them, or picture of a pet animal. We will be sending a letter home with the child. We look forward to

hearing their stories!

Ein gweledigaeth / Our vision

Bydd y weledigaeth hon yn ganolog i ethos Cylch Meithrin Dyffryn Banw i ddarparu amgylchedd gynnes a chynhwysol sy’n galon i’r gymuned. Caiff pob plentyn hwyl yn dysgu trwy chwarae a’u trochi yn y Gymraeg dan oruchwyliaeth ymarferwyr cymwys sy’n angerddol am les a datblygiad plant bach.

Gweledigaeth i'r lleoliad

Gofal plant o ansawdd yn Gymraeg (cyn symud ymlaen i addysg Gymraeg yn ein hysgol leol) i blant 1 i 5 gan ganolbwyntio ar ddysgu trwy chwarae a sbarduno chwilfrydedd cynhenid ac annibyniaeth y plentyn unigol.

• Ymgysylltu gyda phlant

Ymgysylltiad o ansawdd gyda phlant gan roi sylw i weithgaredd un i un wedi’i deilwra yn ôl anghenion a diddordebau’r plentyn a rhoi sylw i weithgaredd grŵp bach a grŵp mwy.

• Yr amgylchedd

Darparu amgylchedd dan do ac awyr agored diddorol yn cynnwys rhannau rhydd, deunyddiau naturiol, adnoddau penagored a chynllunio teithiau chwarae a mynd am dro wythnosol.

Rhyngweithiadau oedolion

Rhyngweithiadau ansawdd uchel gydag oedolion wedi cymhwyso a sy’n dysgu o hyfforddiant parhaus yn ymateb i blant ar unwaith ac yn gwneud gwahaniaeth i ddysgu a chwarae’r plentyn gan wrando ar llais y plentyn a dysgu o adborth.

• Cynllunio gwaith papur

Cofnodi rhyngweithiadau/amseroedd dysgu trwy chwarae ar gyfer plant ffocws bob wythnos a rhannu gyda rhieni/gofalwyr; trafod gyda’r Unigolyn Cyfrifol a’r Pwyllgor; cynnal cyfarfodydd arolygu a gwerthuso.

This vision is central to the ethos of Cylch Meithrin Dyffryn Banw to provide a warm and inclusive environment that is at the heart of the community. All children at our setting have fun learning through play and being immersed in Welsh under the supervision of qualified practitioners who are passionate about the welfare and development of young children.

• Vision for the setting

Quality childcare in Welsh (before moving on to Welsh-medium education in our local school) for children aged 1 to 5 with a focus on learning through play and stimulating the innate curiosity and independence of the individual child.

Engaging with children

Quality engagement with children based on one-to-one activities tailored to the child's needs / interests and small group and larger group activities.

• Environment

Providing interesting indoor and outdoor environments including free parts, natural materials, various resources and planning outdoor play and weekly walks.

• Adult interactions

High-quality interactions with qualified adults who learn from ongoing training to respond to children and make a difference to the child's learning and play, listening to the child's voice and learning from feedback.

Planning paperwork

Recording interactions/learning times through play on a weekly basis and sharing feedback with parents/carers, the Responsible Individual and the Committee; holding development and evaluation meetings for staff.

HAF O HWYL

Diolch i bawb ddaeth i’n cefnogi yn y digwyddiad Haf o Hwyl ym Mharc Eifion, Pontrobert yn ystod gwyliau’r Haf. Daeth 71 o blant i gymryd rhan yn yr wyl dros y tri diwrnod.

Thank you all who supported us in the Haf o Hwyl event in Parc Eifion, Pontrobert. Lovely to see 71 children joining us over the three days and taking part in the activities.

Polisiau / Policies

Mae copïau llawn o’r polisïau ar gael yn y Cylch, i’w weld ar unrhyw adeg.

There are copies of all policies available in Cylch and can be accessed at any time.

GOFAL AC ADDYSG / CHILDCARE AND EDUCATION

Dim ond nodyn i’ch atgoffa os yw eich plentyn bron a troi yn 3 oed i chi wneud cais i’r cyngor am 10 awr o addysg ac 8 awr o ofal. Os am unrhyw gyngor, gofynnwch i Gwenllian, ein unigolyn cyfrifol neu i Mirain.

Just a reminder if your child is almost 3 years old you can apply to the council for 10 hours of education and 8 hours of care. If you need any advice, please ask Gwenllian, our registered person or Mirain.

Oriau agor Cylch - Cylch opening hours -

Bore Llun 9-1 Monday morning 9-1 Bore Mawrth 9-1 Tuesday morning 9-1 Dydd Mercher 9-3 Wednesday 9-3 Bore Gwener 9-1 Friday morning 9-1

Cofwch! /

Remember !

A fedrwch gofio gyrru welis, cot a’r llyfr nodiadau gyda’ch plentyn i bob sesiwn os gwelwch yn dda. Diolch

Please can you send wellies, coat and the activities note book with your child to each session. Thankyou!

Y rhif ffon i gysylltu â ni ydy 07580941419 (oriau Cylch) neu e-bost dyfrynbanw@icloud.com .

The contact details are 07580941419 (Cylch hours) or -email dyfrynbanw@icloud.com

Diolch yn fawr,

Mirain a Heddys

Ffoedd RhieniGrantiau Ffoedd RhieniGrantiau Codi Arian
90 180 847.77
80 1437.61
20 1241.98
80 1241.98
80 1241.98
30 1222.04
80 676.31
20 72
130 1227.88
130 3757.11
210 146.25
96.25 225
140 58.5
136.25 1087
70 2863
70 146.25
140 58.5
140 2817.84
113.75 60
210 117
210 250
140 250
140
130
140
35
120
100
10
40
150
81.25
150
**3512.5 ** 20378.2 847.77 Cyfanswm 24738.5
Cyfogau Adnoddau/Snacs Pensiwn(NEST) NIC Profesiynol
8076 405.36 233.53 477.73 40
8538.36 102.58 79.77 300
798.52 163.16 48.06 252
798.52 108.61 48.06
104.62
243.57
16.8
64.24
359.99
39.99
177.33
379
116.61
232.35
143.83
18211.4 2658.04 233.53 653.62 592
Marchnata Misc Rhent a Trethi Hyforddiant Ti a Fi
25 552 25 94.25
300 732 38
20 60
500
325 1304 623 94.25

Cyfanswn 24694.8