
## **Cylch Meithrin Dyfryn Banw Adroddiad Blynyddol /** _**Annual Report**_ 


Crynhoir ein nodau ac amcanion yn y weledigaeth a amlinellir isod. Rheolir y Cylch Meithrin gan bwyllgor rheoli gwirfoddol gyda statws elusennol fel _CIO_ . Mae'r Cylch yn perthyn i deulu ehangach Mudiad Meithrin a darperir cyngor i ni gan Swyddog Cefnogi'r Mudiad a gan athrawes ymgynghorol o Gyngor Sir Powys. Darperir rheolaeth linell i arweinydd y Cylch gan yr Unigolyn Cyfrifol. Mae'r arweinydd yn darparu rheolaeth linell i'r aelod arall o staff. Mae'r Cylch yn gofrestredig gydag AGC ac yn darparu'r Cynnig Gofal Plant ac addysg gynnar. 

Bydd y weledigaeth hon yn ganolog i ethos Cylch Meithrin Dyffryn Banw i ddarparu amgylchedd gynnes a chynhwysol sy’n galon i’r gymuned. Caiff pob plentyn hwyl yn dysgu trwy chwarae a’u trochi yn y Gymraeg dan oruchwyliaeth ymarferwyr cymwys sy’n angerddol am les a datblygiad plant bach. 

- Gweledigaeth i'r lleoliad 

Gofal plant o ansawdd yn Gymraeg (cyn symud ymlaen i addysg Gymraeg yn ein hysgol leol) i blant 1 i 5 gan ganolbwyntio ar ddysgu trwy chwarae a sbarduno chwilfrydedd cynhenid ac annibyniaeth y plentyn unigol. 

- Ymgysylltu gyda phlant 

Ymgysylltiad o ansawdd gyda phlant gan roi sylw i weithgaredd un i un wedi’i deilwra yn ôl anghenion a diddordebau’r plentyn a rhoi sylw i weithgaredd grŵp bach a grŵp mwy. 

- Yr amgylchedd 

Darparu amgylchedd dan do ac awyr agored diddorol yn cynnwys rhannau rhydd, deunyddiau naturiol, adnoddau penagored a chynllunio teithiau chwarae a mynd am dro wythnosol. 

- Rhyngweithiadau oedolion 

Rhyngweithiadau ansawdd uchel gydag oedolion wedi cymhwyso a sy’n dysgu o hyfforddiant parhaus yn ymateb i blant ar unwaith ac yn gwneud gwahaniaeth i ddysgu a chwarae’r plentyn gan wrando ar llais y plentyn a dysgu o adborth. 

- Cynllunio gwaith papur 

Cofnodi rhyngweithiadau/amseroedd dysgu trwy chwarae ar gyfer plant ffocws bob wythnos a rhannu gyda rhieni/gofalwyr; trafod gyda’r Unigolyn Cyfrifol a’r Pwyllgor; cynnal cyfarfodydd arolygu a gwerthuso. 

## **Edrych yn ol…** 

- Mae dogfen Cyngor Sir Powys ‘Our response to Covid’ (Our_response_to_COVID 19.pdf) yn nodi sawl maes gweithredu sydd yn allweddol i’n prosiect: 

- Sefydlu hybiau gofal plant 

- Dilyniant addysgiadol 



- Cadw cymunedau’n saff a gwydn 

Caiff hyn ei gryfhau gan ymagwedd adeiladol, agored, gydweithredol a blaengar. Hyderwn fod ein prosiect ‘Cylch Ni’ yn bodloni’r meysydd hyn ac hefyd yn cynnig mwy yng ngwyneb yr angen i adnewyddu ac adfer yng nghyfnod “ôl-Covid” gan ddarparu sicrwydd o ran y lleoliad yng ngwyneb ansicrwydd Covid-19. 

Mae’n ystrydebol i nodi ond plant yw dyfodol pob adferiad cymunedol ac mae plant wedi cael bargen wael yn ystod y pandemig oherwydd yr holl gyfyngiadau ar eu rhyddid arferol. Mae sawl edefyn tystiolaeth yn pwyntio at sgil-effeithiau niweidiol cyfyngiadau’r pandemig ar blant a goblygiadau tymor hir hynny ar ddatblygiad, llesiant a ffyniant. Ar y llaw arall, ceir tystiolaeth bendant o bwysigrwydd darpariaeth gofal ac addysg o ansawdd yn y blynyddoedd cynnar a chyd-berthynas darpariaeth gwasanaeth gofal ac addysg gynnar ar ddatblygiad gwybyddol arferol y plentyn bach. Rydym felly’n arbennig o falch mai dim ond am gyfnod o 3 mis y bu’n Cylch Meithrin ar gau i’r gymuned yn ystod y pandemig (o Fawrth 2020 hyd Mehefin 2020) ac fe wnaeth y staff, y Pwyllgor rheoli gwirfoddol a’r gymuned bopeth o fewn ein gallu i ail-agor drysau’r ddarpariaeth (hyd yn oed pan oedd mwyafrif ysgolion Cymru ar gau i’r mwyafrif o blant). Rydym felly’n angerddol am gynnal a gwella’r ddarpariaeth hon sef gwasanaethau’n Cylch Meithrin. Dros y blynyddoedd bu i ni fuddsoddi’n drwm mewn gwella ansawdd: yn gyntaf trwy fodloni gofyniad Mudiad Meithrin a mynd at i gofrestru’r ddarpariaeth gyda AGC. Yn ail, trwy gynyddu oriau’r ddarpariaeth o 3 awr a 40 munud yr wythnos i 18 awr yr wythnos. Yn drydydd, trwy fuddsoddi yn sgiliau a hyfforddiant ein staff (gyda’r ddwy yn astudio cymhwyster prentisiaeth gofal plant yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf). Yn bedwerydd, trwy benderfynu derbyn plant o 18 mis oed i fyny. Yn bumed, trwy ymgeisio a derbyn gwahanol grantiau e.e. i brynu dodrefn ac adnoddau chwarae newydd. Yn olaf, trwy dendro i allu darparu’r Cyfnod Sylfaen ac yn ddiweddarach i ddarparu cyfran o’r Cynnig Gofal Plant. Trwy hyn oll, rydym wedi bod yn ffodus i dderbyn cefnogaeth Pwyllgor neuadd y pentref, ein hathrawes ymgynghorol o Gyngor Sir Powys a Swyddog Cefnogi Mudiad Meithrin. Teimlwn mai’r prif rwystr i gynnydd pellach ein Cylch yw’r safle ac amlygwyd hyn yn ddramatig yn ystod y pandemig. Er fod i’r safle presennol ragoriaethau: gofod agored braf, cegin, nifer o doiledau gwahanol, mynediad i’r anabl ayyb mae nifer o rwystrau hefyd. Y prif rwystrau yw’r ffaith fod y gofod yn un a rennir gyda’r gymuned ehangach (sy’n golygu gwaith trymlwythog i staff wrth godi a thynnu’r ddarpariaeth lawr yn ddyddiol) a diffyg gofod awyr agored mawr (sy’n golygu cynllunio strategol i sicrhau fod y plant yn cael darpariaeth barhaus h.y. mynediad dilyffethair i’r awyr agored i gefnogi eu hanghenion datblygiadol). Bwriad ein cais i’r Gronfa Adfer felly yw i dalu am ad-leoli ein Cylch Meithrin i safle’r ysgol Gymraeg leol gan fuddsoddi mewn creu caban fydd yn gartref parhaol ac esgliwsif i’r Cylch Meithrin. Bydd effaith hynny ar y bobl yr ydym yn gweithio a hwy (sef plant 18 mis oed i 4 oed) a’u teuluoedd a’r gymuned ehangach yn y cyfnod “ôl-Covid” yn sylweddol iawn: 

- Angor a noddfa i blant bach a’u teuluoedd yng nghyfnod “ôl-Covid” 

- - Sicrwydd i deuluoedd yn nghyfnod “ôl-Covid” o ddarpariaeth gofal plant fel elfen allweddol i weithio o adref 

- Cymorth uniongyrchol i blant sydd wedi cael eu rhyddid wedi’i gyfyngu i allu chwarae a chwarae yn yr awyr agored oherwydd fel y dywedodd Julie Morgan AS (Dirprwy Weinidog yn Llywodraeth Cymru): “ _It is important that in_ 



_supporting our children and young people to recover we look at the full range of their needs_ ” (Written Statement: The Summer of Fun (16 June 2021) | GOV.WALES) 

- Darpariaeth barhaus a chynllunio meysydd ac ardaloedd dysgu thematig fydd yn gallu aros yn gyson oni benderfynir yn wahanol gyda chynllunio yn y foment a chyngor pedagogaidd gan ein hathrawes ymgynghorol 

- Lleddfu pwysau gwaith a straen i’r staff sy’n gorfod cadw ac ail-godi yn ddyddiol neu bob yn ail ddydd (mewn cyfnodau o normalrwydd h.y. ble ceir gwasanaethau cymunedol eraill yn neuadd y pentref) 

- Osgoi gorfod cau Cylch Meithrin ar ddiwrnodau angladd neu ar ddiwrnodau etholiad er enghraifft (pan ddefnyddir y neuadd i bwrpas cynnal y digwyddiadau hynny) 

- Canoli gwasanaethau i deuluoedd ar un safle cymunedol hygyrch gan gryfhau ethos Gymraeg y safle a darparu dilyniant di-rwystr o’r Cylch ymlaen i’r ysgol (patrwm a gefnogir gan Mudiad Meithrin a Llywodraeth Cymru) 

- Hyrwyddo gwell trefniadau pontio i’r plentyn bach gan gydnabod bod y cyfnod o adael Cylch a chychwyn ysgol gynradd yn gyfnod heriol o newid i blant yn y blynyddoedd cynnar 

- Osgoi gwario adnoddau cyhoeddus Cyngor Sir Powys ar nifer o safleoedd amrywiol gan felly gryfhau’r ddarpariaeth un safle 

Dylid nodi nad yw’r buddiannau uchod yn absoliwt. Hynny yw, mae Cylch Meithrin Dyffryn Banw wedi llwyddo ar hyd y degawdau i fodloni gofynion y gymuned i dderbyn gofal (ac yn ddiweddarach) addysg gynnar trwy gyfrwng y Gymraeg ar ei safle presennol. Mae esiamplau niferus o Gylchoedd Meithrin mewn safleoedd heb fod ar dir ysgol sy’n llwyddo i ragori. Byddai bod yn berchen ar ein safle’n hunain yn rhyddhau y buddion uchod i ni o fod yn derbyn y buddsoddiad yn y safle. 

## **Ein rol gymunedol** 

Mae’n Cylch Meithrin yn ddarpariaeth gymunedol sydd mewn bodolaeth ers dros hanner canrif ac sydd wastad wedi cael ei reoli gan bwyllgor rheoli gwirfoddol o’r gymuned (yn rieni a chefnogwyr). Mae’r pwyllgor rheoli gwirfoddol wedi dadlau’n flaenorol dros ad-leoli gwasanaeth y Cylch i safle ysgol gymunedol (a bu addrefnu ysgolion y dalgylch yn gyfrwng i bwyso am hynny gyda’r Cyngor Sir). Mae’r pandemig wedi pwysleisio’r buddiannau posib ac wedi tanlinellu’r manteision i aelodau’r gymuned. Mae aelodau pwyllgor rheoli gwirfoddol y Cylch Meithrin yn cynnwys trawstoriad o rieni o bob cymuned ddaearyddol: Llanerfyl, Llangadfan a’r Foel ac mae’n mwynhau cefnogaeth frwd gan y gymuned ehangach i’w gweithgareddau codi arian amrywiol e.e. codwyd dros £1000 gan y gymuned mewn ymgyrch rithiol ddiweddar pan noddwyd plant y Cylch i fynd am dro gyda chanran uchel o’r noddwyr yn deillio o’r gymuned. Mae trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal rhwng cynrychiolwyr y Pwyllgor rheoli gwirfoddol gyda arweinyddiaeth a llywodraethwyr yr ysgol a chefnogaeth mewn egwyddor i hanfodion y cynllun. Mae Cyngor Sir Powys wedi buddsoddi yn safle Ysgol Cwm Banwy yn sgil proses ad-drefnu addysgiadol heriol a hir-wyntog felly ystyrir fod y cynllun hwn yn ddatganiad pellach o awydd i gryfhau statws yr ysgol fel ysgol gymunedol a darparwr gwasanaethau o fudd i deuluoedd sydd hefyd yn cefnogi amcanion strategaeth ‘Cymraeg 2050’ Llywodraeth Cymru a CSGA (WESP) 



Cyngor Sir Powys. Mae staff lleol y Cylch wedi bod yn ganolog i’r cynllun i wireddu safle parhaol i’r Cylch Meithrin fel carfan arall o fuddiolwyr amlwg sydd hefyd yn awyddus i allu cynnig gwasanaethau fwy effeithiol i blant y dalgylch yn y Cylch. Byddai cael mynediad at ofod parhaol yn yr awyr agored (sylweddol) yn cyfoethogi’r ddarpariaeth gan mai bach iawn yw’r gofod awyr agored yn ein safle presennol gyda chryn waith cynllunio a meddwl yn gorfod mynd mewn i sicrhau fod y plant yn treulio amser sylweddol yn yr awyr agored e.e. trwy fynd am dro, mynd i barc cyfagos ayyb. Mae rhieni sydd wedi ymateb i’n holiadur gwerthuso gwasanaeth blynyddol hefyd wedi awgrymu y gellid ystyried ad-leoli’r Cylch wedi gweld buddiannau hynny yng nghyfnod y pandemig. Byddai hyn hefyd yn cefnogi egwyddorion y cwricwlwm newydd (sy’n seiliedig ar efelychu’r Cyfnod Sylfaen) ynghyd a bodloni hanfodion arfer da yn y blynyddoedd cynnar (ethos Montessori, Froebel ayyb). Rydym hefyd wedi derbyn cyngor gan gontractwyr lleol sydd yn gyffrous i fod yn rhan o’r cynllun uchelgeisiol hwn. 

## **Niferoedd** 

Yn bresennol mae cofrestriad AGC yn caniatáu i ni dderbyn 19 plentyn ond mae’r gymhareb staff i blentyn gyda 2 aelod o staff yn caniatáu i ni dderbyn 11 plentyn ac nid oes awgrym ar sail data demograffeg y bydd cynnydd enfawr yn nifer y plant yn yr ardal. Ar y cyfan, rydym yn gallu bodloni pob cais i blentyn fynychu’r Cylch a nid oes rhestr aros. 

## **Rhinweddau’r ddarpariaeth** 

Supporting the Economy 

- Darpariaeth Gofal plant gofrestredig yn cefnogi’r economi gylchol neu’r economi sylfaen trwy ddarparu gofal plant i rieni allu gweithio 

- Cefnogi darpariaeth swyddi mewn cymunedau gwledig 

- Cefnogi cyfleon hyfforddiant ac uwch-sgilio yn y gymuned gan ein bod yn cefnogi ac yn elwa ar hyfforddiant 

## Supporting Health & Care 

- Darpariaeth gwasanaeth gofal wedi’i gofrestru a’i reoleiddio ar gyfer plant bach trwy fodloni gofynion AGC a ‘Gofal Cymdeithasol Cymru’ 

- Bydd y gofod newydd yn cynnig mwy o gyfle ar gyfer gweithgareddau yn yr awyr agored 

- Bydd y gofod newydd yn hwyluso trosglwyddo i’r ysgol felly’n cefnogi iechyd meddwl plant 

Supporting Residents & Communities 

- Cyfrannu at gynnal a hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant 

- Cyfrannu at y CSGA a rhaglen with ‘Cymraeg 2050’ 

- Cefnogi bodolaeth gwasanaeth Cylch Ti a Fi ar gyfer plant heb fod mewn oedran gofal ac addysg a gynhelir a nas gynhelir 

- Cyfrannu at gymuned fyw a bywiog sy’n denu teuluoedd 

## Strengthening Learning and Skills 

- Darparu addysg gynnar fel rhan o ddarpariaeth 30 awr Cyngor Sir Powys 



- Bodloni anghenion datblygiadol plant bach 

- Cyfrannu at wytnwch cymuned ysgol Gymraeg 

- Cefnogi sgiliau staff mewn ardal wledig sy’n uwch-sgilio 

- Ehangu cyfleoedd dysgu oherwydd cyswllt agosach gyda’r ysgol ac eto y gallu i wneud mwy tu allan gan gynnig cyfleoedd ar y cyd 

## **Pigion o’r flwyddyn!** 

Croeso nol i bawb ar ôl gwyliau’r Haf. Gobeithio i chi gyd fwynhau! Rydym yn barod am dymor prysur gyda’r plant yn y Cylch. 

_Welcome back to you all after the summer holidays. We hope you all had a lovely time! We are ready for a busy half term ahead of us in the Cylch._ 

Fe fyddwn yn canolbwyntio ar thema ‘Y Gofod’ yr hanner tymor hwn, gyda gorsaf ofod fel cornel chwarae rôl gan allu gwisgo fyny fel gofodwr, adeiladu roced yn defnyddio bocsys ailgylchu, darganfod sêr yn yr ardal chwarae bler, creu lluniau gofodwyr yn defnyddio ffoil, defnyddio gwahanol siapiau 2D i greu llun roced, a llawer mwy. Bydd lluniau o’r plant yn gwneud y gweithgareddau ar ein grŵp Facebook caeedig.  Os oes gennych unrhyw lyfrau, neu bethau yn ymwneud a’r thema gofod, dewch a nhw i ddangos. 

_We will focus on the theme of 'The Space' this half term, with a space station as a role-playing corner - being able to dress up as an astronaut, building a rocket using recycling boxes, discoveingr stars in the messy play, creating astronaut pictures using foil, using different 2D shapes to create a rocket picture, and much more. Pictures of the children doing the activities will be up on our closed Facebook group. If you have any books associated with this theme, we would love to see!_ 

**Dangos a Dweud/** _**Show and Tell**_ – Dros yr wythnosau nesaf bydd pob plentyn yn cael y cyfle i ddod a llun i mewn i’r Cylch i ddangos i’r plant eraill a’r staff, ac yn cael cyfle i siarad ychydig amdano. Gall fod yn unrhyw beth o ddiddordeb i’r plentyn – gall fod yn rywle maent wedi bod, llun rhywun sydd yn bwysig iddynt, neu lun anifail anwes. Fe fyddwn yn gyrru llythyr adref gyda’ch plentyn pan fydd angen.   Edrychwn ymlaen at glywed eu straeon! 

**Show & Tell -** _Over the next few weeks each child will have the opportunity to bring a picture into the Cylch to show the other children and staff and have the opportunity to talk a little about it. It can be anything of interest to the child. It can be somewhere they’ve been, a picture of someone who is important to them, or picture of a pet animal. We will be sending a letter home with the child.  We look forward to_ 

_hearing their stories!_ 

## **Ein gweledigaeth /** _**Our vision**_ 

Bydd y weledigaeth hon yn ganolog i ethos Cylch Meithrin Dyffryn Banw i ddarparu amgylchedd gynnes a chynhwysol sy’n galon i’r gymuned. Caiff pob plentyn hwyl yn dysgu trwy chwarae a’u trochi yn y Gymraeg dan oruchwyliaeth ymarferwyr cymwys sy’n angerddol am les a datblygiad plant bach. 



## • **Gweledigaeth i'r lleoliad** 

Gofal plant o ansawdd yn Gymraeg (cyn symud ymlaen i addysg Gymraeg yn ein hysgol leol) i blant 1 i 5 gan ganolbwyntio ar ddysgu trwy chwarae a sbarduno chwilfrydedd cynhenid ac annibyniaeth y plentyn unigol. 

## **• Ymgysylltu gyda phlant** 

Ymgysylltiad o ansawdd gyda phlant gan roi sylw i weithgaredd un i un wedi’i deilwra yn ôl anghenion a diddordebau’r plentyn a rhoi sylw i weithgaredd grŵp bach a grŵp mwy. 

## **• Yr amgylchedd** 

Darparu amgylchedd dan do ac awyr agored diddorol yn cynnwys rhannau rhydd, deunyddiau naturiol, adnoddau penagored a chynllunio teithiau chwarae a mynd am dro wythnosol. 

## • **Rhyngweithiadau oedolion** 

Rhyngweithiadau ansawdd uchel gydag oedolion wedi cymhwyso a sy’n dysgu o hyfforddiant parhaus yn ymateb i blant ar unwaith ac yn gwneud gwahaniaeth i ddysgu a chwarae’r plentyn gan wrando ar llais y plentyn a dysgu o adborth. 

## **• Cynllunio gwaith papur** 

Cofnodi rhyngweithiadau/amseroedd dysgu trwy chwarae ar gyfer plant ffocws bob wythnos a rhannu gyda rhieni/gofalwyr; trafod gyda’r Unigolyn Cyfrifol a’r Pwyllgor; cynnal cyfarfodydd arolygu a gwerthuso. 

_This vision is central to the ethos of Cylch Meithrin Dyffryn Banw to provide a warm and inclusive environment that is at the heart of the community. All children at our setting have fun learning through play and being immersed in Welsh under the supervision of qualified practitioners who are passionate about the welfare and development of young children._ 

## _**• Vision for the setting**_ 

_Quality childcare in Welsh (before moving on to Welsh-medium education in our local school) for children aged 1 to 5 with a focus on learning through play and stimulating the innate curiosity and independence of the individual child._ 

## _•_ _**Engaging with children**_ 

_Quality engagement with children based on one-to-one activities tailored to the child's needs / interests and small group and larger group activities._ 

## _**• Environment**_ 

_Providing interesting indoor and outdoor environments including free parts, natural materials, various resources and planning outdoor play and weekly walks._ 

## _**• Adult interactions**_ 

_High-quality interactions with qualified adults who learn from ongoing training to respond to children and make a difference to the child's learning and play, listening to the child's voice and learning from feedback._ 

## _•_ _**Planning paperwork**_ 



_Recording interactions/learning times through play on a weekly basis and sharing feedback with parents/carers, the Responsible Individual and the Committee; holding development and evaluation meetings for staff._ 

## _**HAF O HWYL**_ 


Diolch i bawb ddaeth i’n cefnogi yn y digwyddiad Haf o Hwyl ym Mharc Eifion, Pontrobert yn ystod gwyliau’r Haf. Daeth 71 o blant i gymryd rhan yn yr wyl dros y tri diwrnod. 

_Thank you all who supported us in the Haf o Hwyl event in Parc Eifion, Pontrobert. Lovely to see 71 children joining us over the three days and taking part in the activities._ 

## **Polisiau** _**/ Policies**_ 

Mae copïau llawn o’r polisïau ar gael yn y Cylch, i’w weld ar unrhyw adeg. 

_There are copies of all policies available in Cylch and can be accessed at any time._ 

## **GOFAL AC ADDYSG /** _**CHILDCARE AND EDUCATION**_ 

Dim ond nodyn i’ch atgoffa os yw eich plentyn bron a troi yn 3 oed i chi wneud cais i’r cyngor am 10 awr o addysg ac 8 awr o ofal. Os am unrhyw gyngor, gofynnwch i Gwenllian, ein unigolyn cyfrifol neu i Mirain. 

_Just a reminder if your child is almost 3 years old you can apply to the council for 10 hours of education and 8 hours of care. If you need any advice, please ask Gwenllian, our registered person or Mirain._ 

## **Oriau agor Cylch -** _**Cylch opening hours -**_ 

Bore Llun 9-1 _Monday morning 9-1_ Bore Mawrth 9-1 _Tuesday morning 9-1_ Dydd Mercher 9-3 _Wednesday 9-3_ Bore Gwener 9-1 _Friday morning 9-1_ 

## **Cofwch! /** 

## _**Remember**_ **!** 

A fedrwch gofio gyrru welis, cot a’r llyfr nodiadau gyda’ch plentyn i bob sesiwn os gwelwch yn dda. Diolch 

_Please can you send wellies, coat and the activities note book with your child to each session. Thankyou!_ 

Y rhif ffon i gysylltu â ni ydy 07580941419 (oriau Cylch) neu e-bost dyfrynbanw@icloud.com _._ 

_The contact details are 07580941419 (Cylch hours) or -email dyfrynbanw@icloud.com_ 

_Diolch yn fawr,_ 

_Mirain a Heddys_ 



|**Ffoedd RhieniGrantiau**|**Ffoedd RhieniGrantiau**|**Codi Arian**||
|---|---|---|---|
|90|180|847.77||
|80|1437.61|||
|20|1241.98|||
|80|1241.98|||
|80|1241.98|||
|30|1222.04|||
|80|676.31|||
|20|72|||
|130|1227.88|||
|130|3757.11|||
|210|146.25|||
|96.25|225|||
|140|58.5|||
|136.25|1087|||
|70|2863|||
|70|146.25|||
|140|58.5|||
|140|2817.84|||
|113.75|60|||
|210|117|||
|210|250|||
|140|250|||
|140||||
|130||||
|140||||
|35||||
|120||||
|100||||
|10||||
|40||||
|150||||
|81.25||||
|150||||
|**3512.5 **|**20378.2**|**847.77**|**Cyfanswm 24738.5**|





|Cyfogau|Adnoddau/Snacs|Pensiwn(NEST)|NIC|Profesiynol|
|---|---|---|---|---|
|8076|405.36|233.53|477.73|40|
|8538.36|102.58||79.77|300|
|798.52|163.16||48.06|252|
|798.52|108.61||48.06||
||104.62||||
||243.57||||
||16.8||||
||64.24||||
||359.99||||
||39.99||||
||177.33||||
||379||||
||116.61||||
||232.35||||
||143.83||||
|**18211.4**|**2658.04**|**233.53**|**653.62**|**592**|





|Marchnata|Misc||Rhent a Trethi|Hyforddiant|Ti a Fi|
|---|---|---|---|---|---|
|||25|552|25|94.25|
|||300|732|38||
||||20|60||
|||||500||
|||**325**|**1304**|**623**|**94.25**|





Cyfanswn 24694.8