Adroddiad Blynyddol Eglwys Efengylaidd Bangor – Ebrill 2021
Dibenion Eglwys Efengylaidd Bangor yn ôl ein cyfansoddiad yw:
-
Hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn unol â’n Cyffes Ffydd, yn bennaf, ond nid yn unig, drwy gyfrwng cyhoeddi negeseuon Cristnogol o natur efengylu a dysgu.
-
Hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn ardal Bangor yn bennaf ond nid yn unig, er budd y cyhoedd drwy gynnal cyfarfodydd pregethu ac efengylu; cyfarfodydd gweddi ac astudiaethau; darlithiau; cynhyrchu neu ddosbarthu llenyddiaeth ar y ffydd Gristnogol er hysbysu eraill am hanfodion y ffydd Gristnogol.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi llwyddo i gyrraedd y dibenion hyn mewn sawl ffordd.
Bu’r amgylchiadau yn wahanol oherwydd y pandemig, a’r rheolau cysylltiedig â hyn sydd wedi ein gorfodi i weithredu mewn modd gwahanol. Cynhaliwyd y rhan fwyaf o’n gweithgareddau trwy gyfrwng y we, a gwariwyd ar dechnoleg er mwyn cyflawni’r gwaith hwn.
Rydym wedi cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd bob Sul, sy’n cynnwys Ysgol Sul i’r plant trwy gyfrwng y we, a gwasanaethau o addoliad a phregethu wedi eu darlledu ar YouTube a thrwy gyfrwng Zoom. Ers Mawrth 21ain cynhaliwyd ein gwasanaeth bore Sul yng Nghapel y Ffynnon, gyda mesurau diogelwch i sicrhau ein bod yn cadw at reolau diogelwch y wlad. Cynhaliwyd astudiaeth i’r bobl ifainc ar nos Sul, a bu nifer o chwiorydd yr eglwys yn cyfarfod ar nosweithiau yn yr wythnos i astudio’r Beibl. Yn ogystal â hyn rydym wedi parhau i gynnal gweithgareddau yn ystod yr wythnos: Cyffro, sef clwb i blant oed ysgol gynradd, a Selar ar gyfer plant oed ysgol uwchradd. Yn wythnosol cynhaliwyd cyfarfod gweddi ar gyfer yr aelodau. Yn fisol cynhaliwyd Brecwast i’r Merched, a Brecwast Dynion. Parhaodd ein gweinidog i baratoi defosiynau byrion ar YouTube, gyda 195 wedi eu darlledu yn ystod y flwyddyn.
Cynhaliwyd gweithgareddau arbennig yn ogystal â hyn, sef “Cwrs y Beibl” – cyfres o wyth o sesiynau yn rhoi arolwg o’r Beibl. Gan na fedrem wahodd plant atom ar gyfer ein cyflwyniadau arferol, paratowyd fideo yn cyflwyno hanes y Nadolig: “Yr Anrheg Nadolig”, Fis Rhagfyr , a fideo arall adeg y Pasg – “Cracio’r Pasg”, a’u danfon i ysgolion iddyn nhw fedru eu defnyddio. Fis Rhagfyr fe gynhaliwyd oedfa Carolau yng Ngolau Cannwyll dros y we a rhannwyd copïau o gylchgrawn “Holi” oedd wedi ei baratoi ar gyfer y Nadolig.
Rydym wedi cynnal hyfforddiant diogelu ar gyfer pawb sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion bregus yn yr eglwys, a bu rhai yn adolygu polisi diogelwch yr eglwys. ac mae pwyllgor wedi bod yn ystyried yr amodau i ni fedru ymgasglu gyda’n gilydd eto yn ddiogel. Paratowyd asesiadau risg ar gyfer ein holl weithgareddau.
Estynnwyd at y Gymdeithas leol trwy gynnal teithiau cerdded i Ddysgwyr y Gymraeg, ac ym mis Tachwedd cynhaliwyd noson Cwis Tearfund lle codwyd arian tuag at y gymdeithas sy’n cynorthwyo tlodion yn y byd.
Rydym wedi hyrwyddo’r ffydd Gristnogol y tu hwnt i’r sefyllfa leol trwy i’n gwasanaethau a defosiynau arlein fod yn agored i eraill ymuno gyda rhai ar bedwar
cyfandir yn manteisio ar ein darpariaeth. Rydym hefyd wedi cefnogi Heledd Job, Elin Bryn a Lydia Adams yn ariannol ac mewn gweddi. Rydym wedi rhyddhau ein gweinidog ar adegau i gynorthwyo Cristnogion yn Nwyrain Ewrop drwy gynadleddau, seminarau a mentora ar y we.
Er nad oedd modd cyfarfod yn y capel dros y rhan fwyaf o’r flwyddyn rydym wedi ceisio cynnal yr adeiladau yn briodol gan wario ar adnewyddu’r rendrad ar un gornel o’r adeilad, a rhoi dwy ffenestr newydd yn wyneb pydredd.
Rydym wedi llwyddo i gynnal y gwaith yn ariannol yn bennaf trwy roddion gwirfoddol yr aelodau.
Eglwys Efengylaidd Bangor
Mantolen y flwyddyn Diweddu 31 Mawrth 2021
| Cronfa Gyffredinol Incwm 2020- 2021 Costau 2020- 2021 Incwm llai Costau Mewn Llaw 31/03/2020 Incwm llai costau 2020/21 Mewn Llaw 31/03/2021 Cynrychiolwyd gan : Cyfrif Cyfredol 31/03/2021 Cyfrif Cadw 31/03/2021 Cronfa Newydd -cyfrif cadw Mewn Llaw 31/03/2020 UFM Cronfa Banabas 2020-21 Mewn Llaw 31/03/2021 Cronfa Adeilad Mewn Llaw 31/03/2020 Incwm 2020- 2021 Costau 2020- 2021 Mewn Llaw 31/03/2021 Cyfrif banc @31/3/21 |
£49,456.07 £56,835.74 |
|---|---|
| -£7,379.67 | |
| £23,418.08 -£7,379.67 |
|
| £16,038.41 | |
| £2,959.35 £13,079.06 |
|
| £16,038.41 | |
| £16,998.30 £0.00 |
|
| £16,998.30 | |
| £1,591.96 £3,720.05 £2,860.82 |
|
| £2,451.19 | |
| £2,451.19 |
Mantolen 1 Crynodeb
1
Eglwys Efengylaidd Bangor
Mantolen 2020-21
Derbyniadau
Taliadau
Y Weinidogaeth
Costau Eraill
Taliadau Eraill
| Cronfa Gyffredinol Casgliadau Rhoddion Cymorth Arch. Banc Rhoddion Eraill Ad-daliad Treth Cyfraniad I prynu teledu Rhoddion i Cronfa Caledi Rhoddion i Heledd Llog (Cadw) Cyfanswm Derbyniadau Cyflog Lwfansau Ad-daliadau eraill(ffon, dyblygu, deunydd swyddfa) Cwrs y Beibl Copiau o HOLI a sticeri Costau Teithio Zoom Yswiriant Cenedlaethol Cyflogwr Llai Lwfans cyflogi Pensiwn (cyfraniad yr Eglwys) Pregethwyr gwadd Gweinyddol Amddiffyn plant (CCPAS/DBS) Gwaith y plant Costau Cyfreithiol Postio taflenni pleidleisio Gwasanaethu system gwresogi Dehumidifier Amddiffyn Tan BT- Llinell band eang Menai Cleaning Services ac offer PPE Offer technegol newydd I ddarlledu oedfaon Claytons-Gwaith ar Adeilad UFM-Heledd Job UCCF-Elin Williams UFM - Lydia Adams Cyfanswm Taliadau |
£ 0.00 32,508.00 3,220.00 8,407.00 350.00 2,250.00 2,700.00 21.07 |
|
|---|---|---|
| 49,456.07 | ||
| 30,900.00 660.00 253.00 59.89 150.00 78.75 124.78 3,051.96 -3,051.96 3,139.80 440.00 78.38 |
||
| 35,884.60 | ||
| 189.00 273.04 120.00 45.50 144.00 109.99 40.50 536.80 510.90 1,981.41 9,000.00 |
||
| 12,951.14 | ||
| 4,800.00 1,600.00 1,600.00 |
||
| 8,000.00 | ||
| 56,835.74 | ||
| Derbyniadau tynnu Taliadau | -7,379.67 |
Mantolen 2 Cronfa Cyffredinol
2
- Cronfa Adeilad 202 ~~0~~ 21
£
£
| Nat West PLC | 1,591.96 | |
|---|---|---|
| Cyfanswm Gronfa @ 31/3/20 | 1,591.96 | |
| Incwm 2020-2021 | ||
| Derbyniadau gan aelodau | 2,520.00 | |
| Llog Banc | 0.05 | |
| Gift Aid | 1,200.00 | |
| Cyfanswm incwm 2020-2021 | 3,720.05 | |
| Costau 2020-2021 | ||
| Costau cynnal a cadw Capel y Ffynnon | ||
| Dwr | 234.96 | |
| Trydan | 837.00 | |
| Nwy | 1,031.00 | |
| Yswirant | 757.86 | |
| Cyfanswm Costau 2020-2021 | 2,860.82 | |
| Cyfanswm yn y gronfa adeilad @31/3/21 | 2,451.19 | |
| Cyfrifon Banc | ||
| Nat West PLC | 2,451.19 |
Mantolen 3 Cronfa Adeilad
3
Awgrymiadau ar gyfer Cyllideb 2021-22
| Cyflog DMJ | Cyflog DMJ | Cyflog DMJ | |
|---|---|---|---|
| Yn codi | Yn codi | Yn codi | |
| 0% | 1% | 3% | |
| £ | £ | £ | |
| Incwm Tebygol | |||
| Rhoddion Cymorth Archeb Banc | 33,000.00 | 33,000.00 | 33,000.00 |
| Ad daliad treth | 9,000.00 | 9,000.00 | 9,000.00 |
| Casgliadau | 2,000.00 | 2,000.00 | 2,000.00 |
| Derbyniadau eraill | 1,000.00 | 1,000.00 | 1,000.00 |
| Cyfanswm Incwm | 45,000.00 | 45,000.00 | 45,000.00 |
| Y Weinidogaeth | |||
| Cyflog | 30,900.00 | 31,200.00 | 31,800.00 |
| Lwfansau | 900.00 | 900.00 | 900.00 |
| Costau Teithio | 200.00 | 200.00 | 200.00 |
| Costau Eraill | 250.00 | 250.00 | 250.00 |
| Cynhadleddau | 300.00 | 300.00 | 300.00 |
| Ysw Genedlaethol Cyflogwr | 0.00 | 0.00 | 0.00 |
| Pensiwn | 3,000.00 | 3,000.00 | 3,000.00 |
| Cydnabyddiaeth | 750.00 | 750.00 | 750.00 |
| Cyfanswm y Weinidogaeth | 36,300.00 | 36,600.00 | 37,200.00 |
| Eraill | |||
| Efengylu | 1,000.00 | 1,000.00 | 1,000.00 |
| UFM-Heledd | 4,800.00 | 4,800.00 | 4,800.00 |
| Rhoddion Eraill | 1,200.00 | 1,200.00 | 1,200.00 |
| Costau eraill | 2,500.00 | 2,500.00 | 2,500.00 |
| Cyfanswm Eraill | 9,500.00 | 9,500.00 | 9,500.00 |
| Cyfanswm Costau | 45,800.00 | 46,100.00 | 46,700.00 |
| Incwm llai costau (colled) | (800.00) | (1,100.00) | (1,700.00) |
Cyllideb 2021-22
4
Efen laidd Ban Mantolen dd n Diweddu 31 Mawrth 2021 Cronfs GyffrediDol Incwm 2020- 2021 £49,456.07 £56,835.74 -£7.379.67 Costau 2020- 2021 Incwm Ilai Costau Mewn Llaw 31103r2020 £23,418.08 -£7,379.67 £16,038.41 Incwm Ilai ¢ostau 2020121 Mewn Llaw 3110312021 Cynrychiolwyd gan . Cyfrif Cyfredol 31103r2021 Cyfrif Cadw 3110312021 £2,959.35 £13,079.06 £16.0)8.41 Cronfa Newydd -cyfrif Mevm Llaw 31103r2020 £16,998.30 UFM Cronfa Banabas 2020-21 £0.00 Mewn Llaw 31103r2021 £16,998.30 Cronfa Adeilad Mewn Llaw 31103r2020 £1,591.96 Incmryn 2020- 2021 £3,720.05 £2.860.82 Costau 2020- 2021 Mewn Llaw 31103r2021 £2.451.19 Cyfrif banc @3113r21 £2,451.19 Archwiliwyd a chafwid yn gywir . Dyddiad . ok- 11- wozi