## **Adroddiad Blynyddol Eglwys Efengylaidd Bangor – Ebrill 2021**

Dibenion Eglwys Efengylaidd Bangor yn ôl ein cyfansoddiad yw:

- Hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn unol â’n Cyffes Ffydd, yn bennaf, ond nid yn unig, drwy gyfrwng cyhoeddi negeseuon Cristnogol o natur efengylu a dysgu.

- Hyrwyddo’r ffydd Gristnogol yn ardal Bangor yn bennaf ond nid yn unig, er budd y cyhoedd drwy gynnal cyfarfodydd pregethu ac efengylu; cyfarfodydd gweddi ac astudiaethau; darlithiau; cynhyrchu neu ddosbarthu llenyddiaeth ar y ffydd Gristnogol er hysbysu eraill am hanfodion y ffydd Gristnogol.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi llwyddo i gyrraedd y dibenion hyn mewn sawl ffordd.

Bu’r amgylchiadau yn wahanol oherwydd y pandemig, a’r rheolau cysylltiedig â hyn sydd wedi ein gorfodi i weithredu mewn modd gwahanol. Cynhaliwyd y rhan fwyaf o’n gweithgareddau trwy gyfrwng y we, a gwariwyd ar dechnoleg er mwyn cyflawni’r gwaith hwn.

Rydym wedi cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd bob Sul, sy’n cynnwys Ysgol Sul i’r plant trwy gyfrwng y we, a gwasanaethau o addoliad a phregethu wedi eu darlledu ar YouTube a thrwy gyfrwng Zoom. Ers Mawrth 21ain cynhaliwyd ein gwasanaeth bore Sul yng Nghapel y Ffynnon, gyda mesurau diogelwch i sicrhau ein bod yn cadw at reolau diogelwch y wlad. Cynhaliwyd astudiaeth i’r bobl ifainc ar nos Sul, a bu nifer o chwiorydd yr eglwys yn cyfarfod ar nosweithiau yn yr wythnos i astudio’r Beibl. Yn ogystal â hyn rydym wedi parhau i gynnal gweithgareddau yn ystod yr wythnos: Cyffro, sef clwb i blant oed ysgol gynradd, a Selar ar gyfer plant oed ysgol uwchradd. Yn wythnosol cynhaliwyd cyfarfod gweddi ar gyfer yr aelodau. Yn fisol cynhaliwyd Brecwast i’r Merched, a Brecwast Dynion. Parhaodd ein gweinidog i baratoi defosiynau byrion ar YouTube, gyda 195 wedi eu darlledu yn ystod y flwyddyn.

Cynhaliwyd gweithgareddau arbennig yn ogystal â hyn, sef “Cwrs y Beibl” – cyfres o wyth o sesiynau yn rhoi arolwg o’r Beibl. Gan na fedrem wahodd plant atom ar gyfer ein cyflwyniadau arferol, paratowyd fideo yn cyflwyno hanes y Nadolig:  “Yr Anrheg Nadolig”, Fis Rhagfyr , a fideo arall adeg y Pasg – “Cracio’r Pasg”, a’u danfon i ysgolion iddyn nhw fedru eu defnyddio. Fis Rhagfyr fe gynhaliwyd oedfa Carolau yng Ngolau Cannwyll dros y we a rhannwyd copïau o gylchgrawn “Holi” oedd wedi ei baratoi ar gyfer y Nadolig.

Rydym wedi cynnal hyfforddiant diogelu ar gyfer pawb sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion bregus yn yr eglwys, a bu rhai yn adolygu polisi diogelwch yr eglwys. ac mae pwyllgor wedi bod yn ystyried yr amodau i ni fedru ymgasglu gyda’n gilydd eto yn ddiogel. Paratowyd asesiadau risg ar gyfer ein holl weithgareddau.

Estynnwyd at y Gymdeithas leol trwy gynnal teithiau cerdded i Ddysgwyr y Gymraeg, ac ym mis Tachwedd cynhaliwyd noson Cwis Tearfund lle codwyd arian tuag at y gymdeithas sy’n cynorthwyo tlodion yn y byd.

Rydym wedi hyrwyddo’r ffydd Gristnogol y tu hwnt i’r sefyllfa leol trwy i’n gwasanaethau a defosiynau arlein fod yn agored i eraill ymuno gyda rhai ar bedwar

cyfandir yn manteisio ar ein darpariaeth. Rydym hefyd wedi cefnogi Heledd Job, Elin Bryn a Lydia Adams yn ariannol ac mewn gweddi. Rydym wedi rhyddhau ein gweinidog ar adegau i gynorthwyo Cristnogion yn Nwyrain Ewrop drwy gynadleddau, seminarau a mentora ar y we.

Er nad oedd modd cyfarfod yn y capel dros y rhan fwyaf o’r flwyddyn rydym wedi ceisio cynnal yr adeiladau yn briodol gan wario ar adnewyddu’r rendrad ar un gornel o’r adeilad, a rhoi dwy ffenestr newydd yn wyneb pydredd.

Rydym wedi llwyddo i gynnal y gwaith yn ariannol yn bennaf trwy roddion gwirfoddol yr aelodau.

## **Eglwys Efengylaidd Bangor**

## **Mantolen y flwyddyn Diweddu 31 Mawrth 2021**

|**Cronfa Gyffredinol**
Incwm 2020- 2021
Costau 2020- 2021
Incwm llai Costau
Mewn Llaw 31/03/2020
Incwm llai costau 2020/21
Mewn Llaw 31/03/2021
Cynrychiolwyd gan :
Cyfrif Cyfredol 31/03/2021
Cyfrif Cadw 31/03/2021
**Cronfa Newydd -cyfrif cadw**
Mewn Llaw 31/03/2020
UFM Cronfa Banabas 2020-21
Mewn Llaw 31/03/2021
**Cronfa Adeilad**
Mewn Llaw 31/03/2020
Incwm 2020- 2021
Costau 2020- 2021
Mewn Llaw 31/03/2021
Cyfrif banc @31/3/21|£49,456.07
£56,835.74|

||-£7,379.67|
||£23,418.08
-£7,379.67|
||£16,038.41|
||£2,959.35
£13,079.06|
||£16,038.41|
||£16,998.30
£0.00|
||£16,998.30|
||£1,591.96
£3,720.05
£2,860.82|
||£2,451.19|

||£2,451.19|

Mantolen 1 Crynodeb

1

## Eglwys Efengylaidd Bangor

## Mantolen 2020-21

## _**Derbyniadau**_

## _**Taliadau**_

**Y Weinidogaeth**

## **Costau Eraill**

## **Taliadau Eraill**

|Cronfa Gyffredinol
Casgliadau
Rhoddion Cymorth Arch. Banc
Rhoddion Eraill
Ad-daliad Treth
Cyfraniad I prynu teledu
Rhoddion i  Cronfa Caledi
Rhoddion i  Heledd
Llog (Cadw)
**Cyfanswm Derbyniadau**
Cyflog
Lwfansau
Ad-daliadau eraill(ffon, dyblygu, deunydd swyddfa)
Cwrs y Beibl
Copiau o HOLI a sticeri
Costau Teithio
Zoom
Yswiriant Cenedlaethol Cyflogwr
Llai Lwfans cyflogi
Pensiwn (cyfraniad yr Eglwys)
Pregethwyr gwadd
Gweinyddol
Amddiffyn plant (CCPAS/DBS)
Gwaith y plant
Costau Cyfreithiol
Postio taflenni pleidleisio
Gwasanaethu system gwresogi
Dehumidifier
Amddiffyn Tan
BT- Llinell band eang
Menai Cleaning Services ac offer PPE
Offer technegol newydd I ddarlledu oedfaon
Claytons-Gwaith ar Adeilad
UFM-Heledd Job
UCCF-Elin Williams
UFM - Lydia Adams
**Cyfanswm Taliadau**||**£**
0.00
32,508.00
3,220.00
8,407.00
350.00
2,250.00
2,700.00
21.07|

|||**49,456.07**|
|||30,900.00
660.00
253.00
59.89
150.00
78.75
124.78
3,051.96
-3,051.96
3,139.80
440.00
78.38|
|||**35,884.60**|
|||189.00
273.04
120.00
45.50
144.00
109.99
40.50
536.80
510.90
1,981.41
9,000.00|
|||**12,951.14**|
|||4,800.00
1,600.00
1,600.00|
|||**8,000.00**|

|||**56,835.74**|

|**_Derbyniadau tynnu Taliadau_**||**_-7,379.67_**|

Mantolen 2 Cronfa Cyffredinol

2

- Cronfa Adeilad  202 ~~0~~ 21

|Nat West PLC|1,591.96||

|**Cyfanswm Gronfa @ 31/3/20**||**1,591.96**|
|**Incwm 2020-2021**|||
|Derbyniadau gan aelodau|2,520.00||
|Llog Banc|0.05||
|Gift Aid|1,200.00||
|**Cyfanswm incwm 2020-2021**||**3,720.05**|
|**Costau 2020-2021**|||
|**Costau cynnal a cadw Capel y Ffynnon**|||
|Dwr|234.96||
|Trydan|837.00||
|Nwy|1,031.00||
|Yswirant|757.86||
|**Cyfanswm Costau 2020-2021**||**2,860.82**|
|**Cyfanswm yn y gronfa adeilad @31/3/21**||**2,451.19**|
|**Cyfrifon Banc**|||
|Nat West PLC||**2,451.19**|

Mantolen 3 Cronfa Adeilad

3

**Awgrymiadau ar gyfer Cyllideb 2021-22**

||**Cyflog DMJ**|**Cyflog DMJ**|**Cyflog DMJ**|

||**Yn codi**|**Yn codi**|**Yn codi**|
||**0%**|**1%**|**3%**|

|**Incwm Tebygol**||||
|Rhoddion Cymorth Archeb Banc|33,000.00|33,000.00|33,000.00|
|Ad daliad treth|9,000.00|9,000.00|9,000.00|
|Casgliadau|2,000.00|2,000.00|2,000.00|
|Derbyniadau eraill|1,000.00|1,000.00|1,000.00|
|**Cyfanswm Incwm**|**45,000.00**|**45,000.00**|**45,000.00**|
|**Y Weinidogaeth**||||
|Cyflog|30,900.00|31,200.00|31,800.00|
|Lwfansau|900.00|900.00|900.00|
|Costau Teithio|200.00|200.00|200.00|
|Costau Eraill|250.00|250.00|250.00|
|Cynhadleddau|300.00|300.00|300.00|
|Ysw Genedlaethol Cyflogwr|0.00|0.00|0.00|
|Pensiwn|3,000.00|3,000.00|3,000.00|
|Cydnabyddiaeth|750.00|750.00|750.00|
|**Cyfanswm y Weinidogaeth**|**36,300.00**|**36,600.00**|**37,200.00**|
|**Eraill**||||
|Efengylu|1,000.00|1,000.00|1,000.00|
|UFM-Heledd|4,800.00|4,800.00|4,800.00|
|Rhoddion Eraill|1,200.00|1,200.00|1,200.00|
|Costau eraill|2,500.00|2,500.00|2,500.00|
|**Cyfanswm Eraill**|**9,500.00**|**9,500.00**|**9,500.00**|
|**Cyfanswm Costau**|**45,800.00**|**46,100.00**|**46,700.00**|
|**Incwm llai costau (colled)**|**(800.00)**|**(1,100.00)**|**(1,700.00)**|

Cyllideb 2021-22

4

Efen
laidd Ban
Mantolen
dd n Diweddu 31 Mawrth 2021
Cronfs GyffrediDol
Incwm 2020- 2021
£49,456.07
£56,835.74
-£7.379.67
Costau 2020- 2021
Incwm Ilai Costau
Mewn Llaw 31103r2020
£23,418.08
-£7,379.67
£16,038.41
Incwm Ilai ¢ostau 2020121
Mewn Llaw 3110312021
Cynrychiolwyd gan .
Cyfrif Cyfredol 31103r2021
Cyfrif Cadw 3110312021
£2,959.35
£13,079.06
£16.0)8.41
Cronfa Newydd -cyfrif
Mevm Llaw 31103r2020
£16,998.30
UFM Cronfa Banabas 2020-21
£0.00
Mewn Llaw 31103r2021
£16,998.30
Cronfa Adeilad
Mewn Llaw 31103r2020
£1,591.96
Incmryn 2020- 2021
£3,720.05
£2.860.82
Costau 2020- 2021
Mewn Llaw 31103r2021
£2.451.19
Cyfrif banc @3113r21
£2,451.19
Archwiliwyd a chafwid yn gywir .
Dyddiad .
ok- 11- wozi