OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2021-03-31-accounts

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

(Conwy and Denbighshire Care and Repair)

Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol

Ar gyfer y flwyddyn yn diweddu

31 Mawrth 2021

Rhif Cwmni 9827000

Elusen Gofrestredig Rhif 1171303

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Adroddiad a datganiadau ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021

Cynnwys

Tudalen:

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Gwybdaeth am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021

Swyddfa Gofrestredig: Tŷ Silyn
Y Sgwâr
Pen-y-groes
Caernarfon
Archwilydd: Beever and Struthers
St Georges House
215 Chester Rd
Manceinion
M15 4JE
Bancwyr: Barclays Corporate
Wales & South West Team
3rdFloor
Windsor Court
Caerdydd
CF10 3ZL
Cyfreithwyr: John Owens Solicitors
Uned 13
Ffordd Richard Davis
Parc Busines Llanelwy
Llanelwy
Devonshire Solicitors
30 Finsburry Circus
Llundain
Aelodau’r Bwrdd Rheoli: Gwynne Jones
Paul Quirk
Hannah Fleck
Samantha Parry (ymddiswyddodd ym Medi 2020)
Gwenan Carrington
Shan Williams
Catherine Curtis-Nelson (ymddiswyddodd ym Medi 2020)
Clifton Robinson `
Swyddogion Rheoli’r Bwrdd: Samantha Parry (ymddiswyddodd fel Cadeirydd
ym Medi 2020)
Gwynne Jones (penodwyd yn Gadeirydd ym
Medi 2020)
Gwenan Carrington Vice Chair
Shan Williams (ymddiswyddodd fel
Ysgrifennydd yn Ebrill 2021)
Bryn Ellis (penodwyd yn Ysgrifennydd yn
Ebrill 2021)

Rhif Cwmni Cofrestredig 9827000 Rhif Elusen Gofrestredig 1171303

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Adroddiad y Bwrdd Rheoli am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021

Mae’r Bwrdd Rheoli yn cyflwyno eu hadroddiad a datganiadau ariannol archwiliedig am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021.

Prif weithgareddau a budd i’r cyhoedd

Prif weithgaredd Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yw darparu gwasanaethau tai i bobl hŷn neu bobl fregus i aros yn annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Mae gwasanaeth gwelliannau i’r cartref a garddio Gerddi Gwyrdd a chrefftwyr manion swyddi yn hunangynhaliol ac yn gwella'r gwasanaeth craidd wrth gefnogi pobl hŷn neu fregus yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

Trwy gynllunio gofalus a chynnwys yr holl staff, cynhaliodd yr asiantaeth lefel uchel o berfformiad trwy gydol y cyfnod, gan gynnig gwasanaethau i 1,730 o bobl hŷn / bregus, gan ddarparu addasiadau i 1,010 o bobl hŷn trwy'r Rhaglen Addasiadau Ymateb Cyflym (RRAP), Enable a gwasanaethau addasu Adref o’r Ysbyty. Cefnogwyd 965 o gleientiaid ychwanegol ymng Nghonwy a Sir Ddinbych drwy wasanaethau gwella cartrefi a garddio Gerddi Gwyrdd, a chrefftwyr manion swyddi.

Newidiadau yn Statws a Llywodraethiant Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Mae gan Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych, fel is-gwmni i Grŵp Cynefin, ei Fwrdd Rheoli ei hun gyda chyfrifoldeb am asedau a rhwymedigaethau'r asiantaeth ond mae'n adrodd i'r rhiant-asiantaeth. Ar 25 Ionawr 2017 daeth yn elusen gofrestredig gyda'r Comisiwn Elusennau (Rhif Cofrestru 1171303).

Polisiau a strategaethau allweddol

Mae'r Cwmni'n adolygu ei Gynllun Corfforaethol a'i Gynllun Busnes yn flynyddol sy'n cynnwys polisïau allweddol fel cronfeydd wrth gefn, rheoli risg a rheoli trysorlys.

Adolygiad o’r busnes

Mae'r canlyniadau ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 yn adlewyrchu cryfder ariannol ac ymrwymiad Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych i ddarparu gwasanaethau tai o safon i bobl hŷn neu bobl fregus i aros yn annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartref eu hunain.

Mae twf yn y sefydliad wedi rhagori ar y disgwyliadau o ystyried yr ansicrwydd a achoswyd gan y pandemig yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Gwelwyd twf trosiant o 4% (2020 - 16.7%) ers y flwyddyn flaenorol, er bod y grant a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru wedi aros ar yr un lefel am y pum mlynedd diwethaf. Gwnaed penderfyniad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i fuddsoddi yng ngwasanaeth gwella cartrefi Gerddi Gwyrdd i hyrwyddo twf pellach ac i ddod yn fwy hunangynhaliol yn y dyfodol.

Ym mis Medi 2019, cyflwynwyd adroddiad i Fwrdd Rheoli’r grŵp yn mapio effaith bosibl Brexit heb gytundeb, a oedd yn cynnwys yr effeithiau y byddai’n eu cael ar y cwsmeriaid a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Ystyriodd yr adroddiad y canlyniadau posibl canlynol:

Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych wedi nodi effeithiau posibl y gallai Brexit eu cael wrth redeg y cwmni o ddydd i ddydd, a lle bo modd, maent wedi rhoi rheolaethau ar waith i liniaru neu reoli ei effaith ar y cwmni.

1

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Adroddiad y Bwrdd Rheoli

am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021

Adolygiad o’r busnes (parhad)

Yn fwy diweddar, mae Covid-19 wedi creu ei heriau ei hun, a sbardunwyd Tîm Digwyddiad Mawr y grŵp i ddelio â’i effeithiau parhaus. Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych wedi asesu ei effaith bosibl ar y busnes ac wedi diwygio ei ffigurau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 i adlewyrchu senarios amrywiol. Trafodwyd hefyd y gallai gwasanaethau asiantaethau Gofal a Thrwsio gynyddu yng ngoleuni'r galw cynyddol am unigolion sydd eisiau aros gartref cyhyd ag y bo modd yn hytrach na chael eu derbyn i'r ysbyty neu symud i gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio.

Asedau Sefydlog

Mae manylion asedau sefydlog wedi eu nodi yn nodyn 8. Nid yw’r Bwrdd Rheoli wedi ystyried ei bod yn briodol ail-brisio’r asedau sefydlog.

Gweithwyr

Mae'r Cwmni'n cydnabod bod angen staff medrus, brwdfrydig ac ymroddedig er mwyn cyflawni ei amcanion busnes o ddarparu gwasanaeth o safon yn seiliedig ar arfer gorau. Mae buddsoddiad sylweddol yn parhau i gael ei wneud yn y rhaglenni addysg a hyfforddiant i ddatblygu ei weithlu ymhellach.

Ym mhob rhan o'i waith mae'r Cwmni wedi ymrwymo i driniaeth deg waeth beth fo hil, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd, oedran, rhyw, iechyd, statws priodasol neu gyfeiriadedd rhywiol, ac mae'n ceisio sicrhau nad oes rhwystrau i gydraddoldeb o safbwynt cyfle.

Mae gan y Cwmni bolisïau Iechyd a Diogelwch ar gyfer ei weithwyr, sydd hefyd yn ymwneud â phenderfynu ar bolisïau'r Cwmni a'u perfformiad.

Bwrdd Rheoli

Ar y dudalen wybodaeth, rhestrir Bwrdd Rheoli'r Cwmni a wasanaethodd trwy gydol y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2021 a hyd at y dyddiad y llofnodir y cyfrifon, oni nodir yn wahanol. Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn is-gwmni i Grŵp Cynefin sydd hefyd wedi'i gofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014.

Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Syr Ddinbych yn cael ei lywodraethu gan Fwrdd ac yn cydymffurfio â Chod Llywodraethu CCC. Mae'r Bwrdd yn adolygu ei berfformiad ei hun yn ffurfiol bob blwyddyn er mwyn nodi lle y gallai fod angen profiad ychwanegol. Mae aelodau'r Bwrdd i gyd yn Gyfarwyddwyr Anweithredol ac yn derbyn treuliau enwol allan o boced yn unig.

Y Bwrdd sy'n gyfrifol yn y pen draw am strategaeth a rheolaeth y Cwmni. Mae Pwyllgor Archwilio a Risg y grŵp yn gyfrifol am Archwilio Mewnol ac mae Pwyllgor Cyllid a Thwf y grŵp yn gyfrifol am yr archwiliad allanol.

Dirprwyir rheolaeth weithredol y Cwmni o ddydd i ddydd i'r Prif Swyddog a benodir ar gontract cyflogaeth safonol yr un fath â'r holl staff.

Llywodraethiant Corfforaethol

Mae’r Bwrdd Rheoli, wedi mabwysiadu BDO fel eu harchwilwyr mewnol wrth iddynt gael eu penodi’n archwilwyr mewnol y grŵp yn 2019 yn dilyn proses dendro gaeedig. Mae eu cylch gwaith ar gyfer cynllunio rhaglenni yn cwrdd â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (SAMSC) a gofynion 'Cylchlythyr RSL 02/10 Rheolaeth Mewnol ac Adroddiadau Tai Llywodraeth Cymru', hefyd y 'Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru'. Nid yw gwaith archwilio mewnol safonol wedi datgelu unrhyw feysydd mawr o wendid, ac mae wedi arwain at hyder ychwanegol yn system rheolaeth fewnol y Cwmni.

Yn unol â gofynion llywodraethu corfforaethol, mae'r Bwrdd yn hyderus bod gan y Cwmni adnoddau digonol i barhau mewn bodolaeth hyd y gellir rhagweld, ac yn unol â hynny mae'n parhau i fabwysiadu'r sail busnes gweithredol wrth baratoi'r datganiadau ariannol.

2

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Adroddiad y Bwrdd Rheoli am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)

Llywodraethiant Corfforol (parhad)

Ym mis Gorffennaf 2018, cynhyrchwyd asesiad diagnostig llywodraethu gan y Fforwm Llywodraethu (FfLl) i ddarparu arweiniad ac argymhellion ar sut y gallai'r Bwrdd symud ymlaen gyda'i ddatblygiad llywodraethu ac ymgorffori elfennau o arfer gorau. Canfu'r asesiad fod Gofal a Thrwsio Conwy a Syr Ddinbych wedi cyflawni'r lefel uchaf (lefel tri), a ddangosodd fod 'llywodraethu yn fwy na chydymffurfiaeth' a bod y cwmni'n ceisio cynyddu ei berfformiad i'r eithaf trwy effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd protocol, gweithdrefnau ac ymarfer.

Datganiad y Bwrdd am system rheolaethau mewnol y Cwmni

Mae'r Bwrdd Rheoli yn gyfrifol am sicrhau bod system o reolaethau ariannol mewnol ar waith er mwyn rhoi sicrwydd rhesymol ar gyfer diogelu asedau'r Cwmni, bod cofnodion cyfrifyddu priodol yn cael eu cadw a bod y wybodaeth ariannol yn cael ei darparu'n amserol.

Gweithredwyd y canlynol er mwyn sicrhau bod rheolaethau ariannol mewnol effeithiol ar waith:

Mae'r Bwrdd yn derbyn ei gyfrifoldebau dros sicrhau bod rheolaethau mewnol addas yn gweithredu sydd wedi'u cynllunio i roi sicrwydd rhesymol o'r canlynol:

Cyfrifoldeb y Bwrdd yw mabwysiadu a chynnal rheolaethau ariannol mewnol. Mae'r Bwrdd yn derbyn bod y systemau hyn yn rhoi sicrwydd rhesymol yn erbyn camddatganiad neu golledion sylweddol.

Mae'r trefniadau allweddol sydd wedi'u sefydlu fel rheolaethau mewnol yn cynnwys:

Mae'r Bwrdd wedi adolygu rheolaethau ariannol mewnol y Cwmni am y cyfnod sy'n dod i ben 31 Mawrth 2021 a'r cyfnod hyd y llofnodir y cyfrifon. Ni ddarganfuwyd unrhyw wendidau sylweddol yn rheolaethau mewnol y Cwmni a allai fod wedi achosi colledion i'r Cwmni, ac ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl nac ansicrwydd perthnasol yr oedd angen eu datgelu yn y Datganiadau Ariannol na'r Adroddiad Archwilio.

Cyfrifoldebau’r Bwrdd Rheoli

Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am baratoi adroddiad y Bwrdd Rheoli a'r datganiadau ariannol yn unol â'r gyfraith a'r rheoliadau cymwys.

Mae cyfraith cwmnïau yn ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol. O dan y gyfraith / ddeddfwriaeth honno mae'r Bwrdd wedi dewis paratoi datganiadau ariannol y Cwmni

3

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Adroddiad y Bwrdd Rheoli

am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)

Cyfrifoldebau’r Bwrdd Rheoli ( parhad )

yn unol ag Arfer Cyfrifo a Dderbynnir yn Gyffredinol y Deyrnas Unedig (Safonau Cyfrifo'r Deyrnas Unedig a'r gyfraith berthnasol).

O dan gyfraith Cwmnïau rhaid i'r Bwrdd beidio â chymeradwyo'r datganiadau ariannol oni bai eu bod yn fodlon eu bod yn rhoi golwg wir a theg o sefyllfa'r Cwmni ac o ddiffyg y Cwmni am y cyfnod hwnnw.

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'n ofynnol i'r Bwrdd:

Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu digonol sy'n ddigonol i ddangos ac egluro trafodion y Cwmni a datgelu sefyllfa ariannol y Cwmni gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg a'u galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Cwmnïau 2006. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r Cwmni, ac felly am gymryd camau rhesymol i atal a chanfod twyll ac afreoleidd-dra eraill.

Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod adroddiad y Bwrdd Rheoli yn cael ei baratoi yn unol â Deddf Cwmnïau 2006.

Penodi'r archwilydd

Cynigir penderfyniad ar gyfer penodi archwilwyr allanol newydd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf, yn dilyn proses dendro.

Hyd y gŵyr aelodau'r Bwrdd Rheoli, ar yr adeg y cymeradwyir yr adroddiad:


Bryn Ellis Ysgrifennydd y Cwmni Tŷ Silyn, Y Sgwâr Penygroes, Caernarfon

Ysgrifennydd y Cwmni

Dyddiad:16 Medi 2021

4

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Adroddiad archwilydd annibynnol

I AELODAU GOFAL A THRWSIO CONWY A SIR DDINBYCH

Barn

Rydym wedi archwilio datganiadau ariannol Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych (y ‘Cwmni’) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, sy'n cynnwys Datganiadau Incwm Cynhwysfawr, Datganiadau o Sefyllfa Ariannol, Datganiadau Llif Arian y Grŵp, Datganiadau Newidiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn, a’r nodiadau i'r datganiadau ariannol, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu sylweddol yn nodyn 1. Mae'r fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yn berthnasol â chyfraith FRS 102 “Y Safon Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon” (Arferion Cyfrifo a Dderbynnir yn Gyffredinol y Deyrnas Unedig).

Yn ein barn ni, mae’r datganiadau ariannol:

Sail y farn

Gwnaethom gynnal ein harchwiliad yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (DU) (ISAs (DU)) a'r gyfraith berthnasol. Disgrifir ein cyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yng nghyfrifoldebau'r Archwilydd am archwilio adran datganiadau ariannol ein hadroddiad. Rydym yn annibynnol o’r Cwmni yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol y FRC ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credwn fod y dystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sylfaen i'n barn.

Casgliadau yn ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio'r datganiadau ariannol, rydym wedi dod i'r casgliad bod defnydd y Bwrdd o sail busnes gweithredol o gyfrifyddu wrth baratoi'r datganiadau ariannol yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi'i berfformio, nid ydym wedi nodi unrhyw ansicrwydd perthnasol yn ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, daflu amheuaeth sylweddol ar allu'r Grŵp neu'r Gymdeithas i barhau fel busnes gweithredol am gyfnod o leiaf ddeuddeg mis o'r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol i'w cyhoeddi.

Disgrifir ein cyfrifoldebau ni a chyfrifoldebau'r Bwrdd mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr Adroddiad Ariannol, ac eithrio'r datganiadau ariannol, ac adroddiad ein harchwilydd arno. Y Bwrdd yn gyfrifol am y wybodaeth arall sydd weedi ei gynnwys o fewn yr adroddiad blynyddol. Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau y nodir yn benodol fel arall yn ein hadroddiad, nid ydym yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arnynt.

Ein cyfrifoldeb ni yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â'r datganiadau ariannol neu ein gwybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad neu fel arall yn ymddangos fel petai wedi'i chamddatgan yn sylweddol. Os ydym yn nodi anghysondebau perthnasol o'r fath, neu gamddatganiadau perthnasol ymddangosiadol, mae'n ofynnol i ni benderfynu a yw’n esgor ar gamddatganiad materol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os ydym, yn seiliedig ar y gwaith yr ydym wedi'i gyflawni, yn dod i'r casgliad bod camddatganiad perthnasol o'r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i ni adrodd ar y ffaith honno.

Nid oes gennym unrhyw beth i'w adrodd yn hyn o beth.

5

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Adroddiad Achwilydd Annibynnol

Barn ar faterion eraill a ragnodir gan Ddeddf Cwmniau 2006

Yn ein barn ni, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad:

Materion y mae'n ofynnol i ni adrodd arnynt fel eithriad

Yng ngoleuni'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o'r Cwmni a'i hamgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid ydym wedi nodi camddatganiadau perthnasol yn Adroddiad y Bwrdd Rheoli.

Nid oes gennym unrhyw beth i'w adrodd mewn perthynas â'r materion a ganlyn y mae Deddf Cwmnïau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i ni adrodd i chi os, yn ein barn ni:

Cyfrifoldebau'r Bwrdd

Fel yr eglurwyd yn llawnach yn y datganiad o Gyfrifoldebau'r Bwrdd Rheoli am yr Adroddiadau Ariannol a nodir ar dudalen 3 a 4, mae'r Bwrdd yn gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol, ac am fod yn fodlon eu bod yn rhoi golwg wir a theg, ac am unrhyw reolaeth fewnol y mae'r Bwrdd yn ei benderfynu sy’n angenrheidiol i alluogi paratoi datganiadau ariannol sy'n rhydd o gamddatganiad perthnasol, p'un ai oherwydd twyll neu wall.

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r Bwrdd yn gyfrifol am asesu gallu'r Cwmni i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel sy'n berthnasol, faterion sy'n ymwneud â busnes gweithredol a defnyddio sail cyfrifyddu busnes gweithredol oni bai bod y Bwrdd naill ai'n bwriadu diddymu'r Cwmni neu i roi'r gorau i weithrediadau, neu heb unrhyw ddewis arall realistig ond gwneud hynny.

Cyfrifoldebau'r archwilydd o ran archwilio'r datganiadau ariannol

Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiad perthnasol, p'un ai oherwydd twyll neu wall, a chyhoeddi adroddiad archwilydd sy'n cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall, ac fe'u hystyrir yn berthnasol pe gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt, yn unigol neu yn gyfan gwbl, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn.

Mae disgrifiad pellach o'n cyfrifoldebau am archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'n hadroddiad archwilydd.

I ba raddau yr ystyriwyd bod yr archwiliad yn gallu canfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll

Rydym yn nodi ac yn asesu risgiau camddatganiad perthnasol y datganiadau ariannol, p'un ai oherwydd twyll neu wall, ac yna'n dylunio ac yn perfformio gweithdrefnau archwilio sy'n ymatebol i'r risgiau hynny, gan gynnwys cael tystiolaeth archwilio sy'n ddigonol ac yn briodol i ddarparu sylfaen i'n barn ni.

Wrth nodi a mynd i'r afael â risgiau camddatganiad perthnasol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll a diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau, roedd ein gweithdrefnau'n cynnwys y canlynol:

6

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Adroddiad Archwilydd Annibynnol

Roedd deddfau a’r rheoliadau allweddol a nodwyd gennym yn cynnwys y Ddeddf Cwmnïau 2006 a’r deddfwriaeth iechyd a diogelwch.

Oherwydd cyfyngiadau cynhenid archwiliad, mae risg na ellir ei hosgoi efallai na fyddwn wedi canfod rhai camddatganiadau perthnasol yn y datganiadau ariannol, er ein bod wedi cynllunio a pherfformio ein harchwiliad yn unol â safonau archwilio. Er enghraifft, fel gydag unrhyw archwiliad, roedd risg uwch o beidio â chanfod afreoleidd-dra, gan y gallai'r rhain gynnwys cydgynllwynio, ffugio, hepgor bwriadol, camliwio, neu ddiystyru rheolaethau mewnol. Nid ydym yn gyfrifol am atal twyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau ac ni ellir disgwyl i ni ganfod pob twyll a diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau.

Defnydd o’n hadroddiad archwilio

Lluniwyd yr adroddiad hwn i aelodau’r Cwmni yn unig, fel corff, yn unol â Phennod 3 o Ran 16 o Ddeddf Cwmniau 2006. Gwnaed ein gwaith archwilio fel y gallem nodi i aelodau'r cwmni y materion hynny y mae'n ofynnol i ni eu datgan iddynt mewn adroddiad archwilydd, ac nid at unrhyw bwrpas arall. I'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn nac yn cymryd cyfrifoldeb gan unrhyw un heblaw'r Cwmni ac aelodau’r Cwmni fel corff am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, neu am y farn yr ydym wedi'i ffurfio.

Lee Cartwright LLB ACA (Uwch Archwilydd Statudol)

I ac ar ran

Beever and Struthers

Statutory Auditor St George’s House 215-219 Chester Road Manchester M15 4JE

Dyddiad: 28 Medi 2021

7

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Datganiad Incwm Cynhwysfawr

am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021

Nodyn
2021 2020
£ £
Trosiant 2 1,263,793 1,215,590
Costau gweithredu (1,128,847) (1,163,587)
__ __
Gwarged / (diffyg) gweithredol 5 134,946 52,003
Llog derbyniadwy ac incwm tebyg 6 212 953
__ __
Gwarged / (diffyg) cyn trethiant 135,158 52,956
Trethi 7 - -
__ __
Gwarged / (diffyg) am y cyfnod 135,158 52,956
Incwm cynhwysfawr arall - -
__ __
Cyfanswm incwm cynhwysfawr am y cyfnod 135,158
__
52,956
__

Mae'r holl symiau'n ymwneud â gweithgareddau parhaus.

Mae’r nodiadau ar dudalennau 11 i 15 yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol yma.

8

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Datganiad Sefyllfa Ariannol ar 31 Mawrth 2021

Rhif cwmni 9827000
Nodyn
2021
£
Asedau diriaethol
Asedau sefydlog
8
Asedau cyfredol
Stoc
17,227
Dyledwyr
9
133,703
Arian parod yn y banc ac mewn
llaw
409,548
__
560,478
Credydwyr: symiau sy'n
ddyledus o fewn blwyddyn
10
(56,792)
__
Cyfanswm asedau llai
rhwymedigaethau cyfredol
Cyfalaf a chronfeydd wrth gefn
Cronfa Refeniw
Cronfeydd wrth gefn cyfyngedig
Cronfeydd y cwmni
2021
2020
£
£
8,930
14,037
60,116
329,793
__
403,946
503,686
(43,413)
__
__
512,616
__
508,471
4,145
__
512,616
2020
£
16,925
360,533
__
377,458
__
373,313
4,145
__
377,458

Cymeradwywyd ac awdurdodwyd y datganiadau ariannol sy'n cynnwys y Datganiad Incwm Cynhwysfawr, y Datganiad Sefyllfa Ariannol, y Datganiad Newidiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn a'r nodiadau cysylltiedig gan y Bwrdd Rheoli ar 16 Medi 2021 ac fe'u llofnodwyd ar ei ran gan:

___ ___ _____ Bryn Ellis Gwynne Jones Gwenan Carrington Ysgrifennydd y Cwmni Cadeirydd Is-gadeirydd

Mae’r nodiadau ar dudalennau 11 i 15 yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol yma.

9

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Datganiad newidiadau mewn arian wrth gefn

am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021

Cronfa
Caledi
(cyfyngedig)
£
Ar 31 Mawrth 2020
4,145
Gwarged yn y cyfnod
-
_
Ar 31 Mawrth 2021
4,145
_

Cronfa
Caledi
(cyfyngedig)
£
Ar 31 Mawrth 2019
4,145
Diffyg yn y cyfnod
-
__
Ar 31 Mawrth 2020
4,145
Refeniw’r
gronfa
Cyfanswm
wrth gefn
2021
£
£
373,313
377,458
135,158
135,158
_
_

508,471
512,616
_
_

Refeniw’r
gronfa
Cyfanswm
wrth gefn
2021
£
£
320,357
324,502
52,956
52,956
_
_

373,313
377,458

Mae’r nodiadau ar dudalennau 11 i 15 yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol yma.

10

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Nodiadau sy’n ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021

1 Polisiau Cyfrifyddu

Prif bolisiau cyfrifyddu

Mae’r polisiau cyfrifyddu canlynol wedi’u cymhwyso'n gyson wrth ddelio ag eitemau sy'n cael eu hystyried yn berthnasol mewn perthynas â'r datganiadau ariannol.

Sail cyfrifyddu

Paratowyd y datganiadau ariannol o dan y confensiwn costau hanesyddol yn unol â Safon Adrodd Ariannol 102 (Mawrth 2019) (FRS 102) a gyhoeddwyd gan y Cyngor Adrodd Ariannol, ac yn unol â'r Datganiad o Arfer a Argymhellir: Cyfrifeg ac Adrodd gan Elusennau. Mae’r cwmni’n endid budd cyhoeddus, fel y’i diffinnir yn FRS 102 ac mae’n cymhwyso’r paragraffau perthnasol sydd wedi’u rhagddodi ‘PBE’ yn FRS 102.

Trosiant

Mae trosiant yn cynrychioli grantiau a ffioedd a dderbyniwyd am weithgareddau a ymgymerir. Cydnabyddir ffioedd pan gaiff gwaith ei gwblhau.

Datganiad llif arian

Mae'r Cwmni'n cwrdd â'r diffiniad o endid cymwys o dan FRS 102 ac felly mae wedi manteisio ar yr eithriadau datgelu sydd ar gael iddo mewn perthynas â Datganiad Llif Arian.

Asedau sefydlog a dibrisiant

Nodir asedau sefydlog diriaethol ar gost llai dibrisiant cronedig. Codir dibrisiant ar sail llinell syth dros fywydau defnyddiol economaidd disgwyliedig yr asedau fel a ganlyn:

Offer cyfrifiadurol - Llinell syth dros 4 blynedd
Dodrefn ac offer swyddfa - Llinell syth dros 5 mlynedd
Offer a Deunyddiau - Llinell syth dros 4 blynedd
Cerbydau Modur - Llinell syth dros 3 blynedd

Stoc

Mae stoc yn cael ei brisio ar y gost isaf a'r pris gwerthu amcangyfrifedig llai costau i'w cwblhau a'u gwerthu, ar ôl rhoi ystyriaeth ddyledus i eitemau darfodedig sy'n symud yn araf.

Costau Pensiwn

Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Syr Ddinbych yn cymryd rhan mewn cynllun cyfraniadau diffiniedig lle mai'r swm a godir ar ddiffyg yn y Datganiad Incwm Cynhwysfawr mewn perthynas â chostau pensiwn a buddion ôl-ymddeoliad eraill yw'r cyfraniadau sy'n daladwy yn y flwyddyn. Dangosir gwahaniaethau rhwng cyfraniadau sy'n daladwy yn y flwyddyn a chyfraniadau a dalwyd mewn gwirionedd fel naill ai croniadau neu ragdaliadau yn y Datganiad Sefyllfa Ariannol.

Costau rheoli

Dyrennir treuliau rheoli i weithgareddau naill ai'n uniongyrchol neu ar sail amser staff a dreulir ar y gweithgaredd.

Prydlesi gweithredu

Codir tâl am brydlesi gweithredu yn flynyddol dros gyfnod y cytundeb prydles perthnasol.

11

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Nodiadau’n ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)

1 Polisiau cyfrifyddu (parhad)

Grantiau

Rhyddheir grantiau i'r Datganiad Incwm Cynhwysfawr dros oes y prosiect y maent yn ymwneud ag ef. Mae grantiau nas gwariwyd yn cael eu cynnwys mewn credydwyr fel grantiau a dderbynnir ymlaen llaw.

Cronfeydd wrth gefn cyfyngedig

Mae cronfeydd cyfyngedig yn gronfeydd sydd i'w defnyddio yn unol â'r cyfyngiadau penodol a osodir gan y rhoddwr neu'r weithred ymddiriedolaeth.

2 Trosiant

Gellir priodoli'r trosiant a'r diffyg cyn trethiant i brif weithgareddau'r cwmni. Mae'r trosiant yn cynnwys y ffrydiau incwm canlynol:

----- Start of picture text -----
|||| |---|---|---| |2021|2020| |£|£| |Grantiau gan awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill|588,062|534,299| |Gwasanaethau ymarferol Gerddi Gwyrdd|518,264|514,944| |Cyfraniad Grŵp Cynefin|73,506|76,490| |Arall|83,961|89,857| |_|_| |1,263,793|1,215,590| |_|_| |Gwybodaeth Gweithwyr| |2021|2020| |£|£| |Costau staff:| |Cyflogau a chyflogau|526,324|538,044| |Costau nawdd cymdeithasol|40,723|41,726| |Costau pensiwn eraill|27,837|28,362| |_|_| |594,884|608,132| |_|_| |Number|Number| |Y nifer wythnosol ar gyfartaledd o bobl, cyfwerth ag amser llawn,| |(gan gynnwys y Prif Swyddog) a gyflogwyd yn ystod y cyfnod|20|20| |oedd:| |Enillion cyfarwyddwyr|_|_| |Mae'r cyfarwyddwyr yn cynnwys y Bwrdd, fel y'i rhestrir ar y dudalen wybodaeth, a'r Prif Swyddog.| |2021|2020| |£|£| |Cyfanswm tâl a delir i'r Prif Swyddog neu y gall eu derbyn (gan| |gynnwys cyfraniadau teithio a phensiwn)|54,659|54,796| |_|_|

----- End of picture text -----

3 Gwybodaeth Gweithwyr

4 Enillion cyfarwyddwyr

12

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Nodiadau’n ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)

Taliadau (ac eithrio cyfraniadau pensiwn) a delir i'r Prif Swyddog

2021 2020
£ £
50,924
__
51,062
__

Mae'r pensiwn ar gyfer y Prif Swyddog (a oedd yn aelod cyffredin o'r cynllun pensiwn) ar yr un sail ag ar gyfer yr holl weithwyr eraill.

Yn unol â Chod Llywodraethu Tai Cymunedol Cymru (CHC), mae'r Bwrdd wedi sefydlu polisi a gweithdrefn mewn perthynas â thalu treuliau i aelodau'r Bwrdd. Mae'r Cwmni'n barod i ad-dalu treuliau parod a gafwyd ar fusnes y Cwmni.

2021
£
Cyfanswm treuliau aelodau Bwrdd a hawliwyd
-
_
Mae'r holl gostau a hawlir gan y Prif Swyddog yn cael eu prosesu trwy'r gyflogres a'u cynnwys yn
uchod.
5
Gwarged gweithredu
2021
Nodir gwarged gweithredu / (diffyg) ar ôl codi tâl:
£
Dibrisiant ar asedau dan berchnogaeth
10,739
Taliadau prydles weithredol - offer
46,328
Tâl archwiliwr
- yn rhinwedd eu swydd fel archwilydd
2,000
- arall
-
_

6
Llog derbyniadwy ac incwm tebyg
2021
£
Llog banc derbyniadwy
212
2020
£
153
_
yr enillion
2020
£
10,872
45,089
2,000
-
_

2020
£
953

7 Trethiant

Ar 25 Ionawr 2019 daeth y cwmni'n elusen gofrestredig gyda'r Comisiwn Elusennau (Rhif Cofrestru 1171303). Ni chynhwyswyd unrhyw rwymedigaeth treth am y flwyddyn gan y byddai gan y Cwmni hawl i'r eithriadau a roddir gan Adran 505 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988.

13

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Nodiadau’n ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)

8
Asedau sefydlog diriaethol
Dodrefn ac offer
swyddfa
£
Cost
Ar 1 Ebrill 2020
110,029
Ychwanegiadau
2,744
__
Ar 31 Mawrth 2021
112,773
__
Dibrisiant
Ar 1 Ebrill 2020
93,104
Tâl am y cyfnod
10,739
__
Ar 31 Mawrth 2021
103,843
__
Gwerth llyfr net
Ar 31 Mawrth 2021
8,930
__
Ar 1 Ebrill 2020
16,925
__
9
Dyledwyr
Dyledwyr eraill
Rhagdaliadau
10
Credydwyr: symiau sy'n ddyledus o fewn blwyddyn
Credydwyr masnach
Grantiau ymlaen llaw
Symiau sy'n ddyledus i'r rhiant Gwmni
Croniadau
Cerbydau
Cyfanswm
£
£
9,570
119,599
-
2,744
__
__
9,570
122,343
__
__
9,570
102,674
-
10,739
__
__
9,570
113,413
__
__
-
8,930
__
__
-
16,925
_
_

2021
2020
£
£
133,703
60,116
-
-
__
__
133,703
60,116
_
_

2021
2020
£
£
40,236
14,485
12,318
11,015
1,838
13,513
2,400
4,400
__
__
56,792
43,413

14

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Nodiadau’n ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol

am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)

11
Prydlesi gweithredu
Cyfanswm y symiau sy'n daladwy o dan brydlesi gweithredu
Rhent cerbydau modur:
O fewn 12 mis
Un i ddwy flynedd
Dwy i bum mlynedd
Rhentu swyddfa:
O fewn 12 mis
Un i ddwy flynedd
Dwy i bum mlynedd
Rhentu offer swyddfa:
O fewn 12 mis
Un i ddwy flynedd
Dwy i bum mlynedd
2021
£
16,558
16,558
8,954
_
27,000
27,000
81,000
_

859
203
-
2020
£
16,558
16,558
8,954
_
27,000
27,000
81,000
_

811
811
203

12 Trafodion partion cysylltiedig

O dan FRS 102 nid oes angen datgelu trafodion o fewn y Grŵp gan fod canlyniadau Grŵp Cynefin a'i isgwmnïau wedi'u cynnwys yn natganiadau ariannol cyfunol Grŵp Cynefin.

13 Statws y Cwmni

Mae'r Cwmni'n Gwmni preifat wedi'i gyfyngu trwy warant ac o ganlyniad nid oes ganddo gyfalaf cyfranddaliadau. Mae pob aelod yn atebol i gyfrannu swm nad yw'n fwy na £10 tuag at asedau'r Cwmni pe bai'n cael ei ddiddymu.

14 Parti rheoli terfynnol

Rheolir y Cwmni gan y Bwrdd Rheoli ond y parti rheoli terfynnol yw Grŵp Cynefin.

15

Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych

Atodiad

am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021

Incwm 2021 2020
Grant Llywodraeth Cymru 289,828
91,691
77,409
73,506
12,314
212
83,961
518,264
51,757
65,063
289,828
Grantiau Cyngor Sir 34,709
Grant Bwrdd Iechyd Lleol 43,734
Cyfraniad Grŵp Cynefin 76,490
Incwm C&R 44,048
Llog blaendal banc 953
Incwm amrywiol 89,857
Gwasanaethau Ymarferol 514,944
MARS SSD Conwy 51,980
MAP / Grabrails - AGC 70,000
CYFANSWM INCWM 1,264,005 1,216,543
Gwariant
Costau Staff: 611,922
55,976
148,364
312,585
643,019
Costau Swyddfa: 59,767
Costau Busnes 151,771
Gwasanaethau ymarferol 309,030
CYFANSWM GWARIANT 1,128,847 1,163,587
Gwarged / (diffyg) cyn trosglwyddo 135,158 52,956

Darparodd Llywodraeth Cymru Grantiau Cyfalaf o £137,997 (2020- £ 162,551) hefyd.

Nid yw'r atodiad hwn yn rhan o'r datganiadau ariannol archwiliedig.

16