## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

**(Conwy and Denbighshire Care and Repair)** 

Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol 

Ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 

31 Mawrth 2021 

Rhif Cwmni 9827000 

Elusen Gofrestredig Rhif 1171303 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

## **Adroddiad a datganiadau ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021** 

## **Cynnwys** 

## **Tudalen:** 

- 1 Adroddiad y Bwrdd Rheoli 

- 5 Adroddiad Annibynnol yr Archwilydd 

- 8 Datganiad Incwm Cynhwysfawr 

- 9 Datganiad Sefyllfa Ariannol 

- 10 Datganiad newidiadau yn y cronfeydd wrth gefn 

- 11 Nodiadau i’r Datganiadau Ariannol 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

**Gwybdaeth am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021** 

|**Swyddfa Gofrestredig:**|Tŷ Silyn||
|---|---|---|
||Y Sgwâr||
||Pen-y-groes||
||Caernarfon||
|**Archwilydd:**|Beever and Struthers||
||St Georges House||
||215 Chester Rd||
||Manceinion||
||M15 4JE||
|**Bancwyr:**|Barclays Corporate||
||Wales & South West Team||
||3rdFloor||
||Windsor Court||
||Caerdydd||
||CF10 3ZL||
|**Cyfreithwyr:**|John Owens Solicitors||
||Uned 13||
||Ffordd Richard Davis||
||Parc Busines Llanelwy||
||Llanelwy||
||Devonshire Solicitors||
||30 Finsburry Circus||
||Llundain||
|**Aelodau’r Bwrdd Rheoli:**|Gwynne Jones||
||Paul Quirk||
||Hannah Fleck||
||Samantha Parry|(ymddiswyddodd ym Medi 2020)|
||Gwenan Carrington||
||Shan Williams||
||Catherine Curtis-Nelson|(ymddiswyddodd ym Medi 2020)|
||Clifton Robinson `||
|**Swyddogion Rheoli’r Bwrdd:**|Samantha Parry|(ymddiswyddodd fel Cadeirydd|
|||ym Medi 2020)|
||Gwynne Jones|(penodwyd yn Gadeirydd ym|
|||Medi 2020)|
||Gwenan Carrington|Vice Chair|
||Shan Williams|(ymddiswyddodd fel|
|||Ysgrifennydd yn Ebrill 2021)|
||Bryn Ellis|(penodwyd yn Ysgrifennydd yn|
|||Ebrill 2021)|



**Rhif Cwmni Cofrestredig 9827000 Rhif Elusen Gofrestredig 1171303** 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

## **Adroddiad y Bwrdd Rheoli am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021** 

Mae’r Bwrdd Rheoli yn cyflwyno eu hadroddiad a datganiadau ariannol archwiliedig am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021. 

## **Prif weithgareddau a budd i’r cyhoedd** 

Prif weithgaredd Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yw darparu gwasanaethau tai i bobl hŷn neu bobl fregus i aros yn annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Mae gwasanaeth gwelliannau i’r cartref a garddio Gerddi Gwyrdd a chrefftwyr manion swyddi yn hunangynhaliol ac yn gwella'r gwasanaeth craidd wrth gefnogi pobl hŷn neu fregus yng Nghonwy a Sir Ddinbych. 

Trwy gynllunio gofalus a chynnwys yr holl staff, cynhaliodd yr asiantaeth lefel uchel o berfformiad trwy gydol y cyfnod, gan gynnig gwasanaethau i 1,730 o bobl hŷn / bregus, gan ddarparu addasiadau i 1,010 o bobl hŷn trwy'r Rhaglen Addasiadau Ymateb Cyflym (RRAP), Enable a gwasanaethau addasu Adref o’r Ysbyty. Cefnogwyd 965 o gleientiaid ychwanegol ymng Nghonwy a Sir Ddinbych drwy wasanaethau gwella cartrefi a garddio Gerddi Gwyrdd, a chrefftwyr manion swyddi. 

## **Newidiadau yn Statws a Llywodraethiant Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

Mae gan Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych, fel is-gwmni i Grŵp Cynefin, ei Fwrdd Rheoli ei hun gyda chyfrifoldeb am asedau a rhwymedigaethau'r asiantaeth ond mae'n adrodd i'r rhiant-asiantaeth. Ar 25 Ionawr 2017 daeth yn elusen gofrestredig gyda'r Comisiwn Elusennau (Rhif Cofrestru 1171303). 

## **Polisiau a strategaethau allweddol** 

Mae'r Cwmni'n adolygu ei Gynllun Corfforaethol a'i Gynllun Busnes yn flynyddol sy'n cynnwys polisïau allweddol fel cronfeydd wrth gefn, rheoli risg a rheoli trysorlys. 

## **Adolygiad o’r busnes** 

Mae'r canlyniadau ar gyfer y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 yn adlewyrchu cryfder ariannol ac ymrwymiad Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych i ddarparu gwasanaethau tai o safon i bobl hŷn neu bobl fregus i aros yn annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartref eu hunain. 

- trosiant y cyfnod oedd £1,263,793; costau gweithredu oedd £1,128,847 gan gynhyrchu gwarged gweithredol o £134,946 i'r Cwmni. 

- roedd gan y Cwmni gyfanswm cronfeydd wrth gefn gwerth £512,616 ar ddiwedd y cyfnod. Roedd £503,686 yn asedau cyfredol net. 

Mae twf yn y sefydliad wedi rhagori ar y disgwyliadau o ystyried yr ansicrwydd a achoswyd gan y pandemig yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Gwelwyd twf trosiant o 4% (2020 - 16.7%) ers y flwyddyn flaenorol, er bod y grant a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru wedi aros ar yr un lefel am y pum mlynedd diwethaf. Gwnaed penderfyniad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i fuddsoddi yng ngwasanaeth gwella cartrefi Gerddi Gwyrdd i hyrwyddo twf pellach ac i ddod yn fwy hunangynhaliol yn y dyfodol. 

Ym mis Medi 2019, cyflwynwyd adroddiad i Fwrdd Rheoli’r grŵp yn mapio effaith bosibl Brexit heb gytundeb, a oedd yn cynnwys yr effeithiau y byddai’n eu cael ar y cwsmeriaid a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu. Ystyriodd yr adroddiad y canlyniadau posibl canlynol: 

- Dirywiad sylweddol yn y farchnad dai 

- Prinder nwyddau 

- Prinder llafur 

- Diffyg cyllid newydd ar gael a chost cyllid newydd 

- Yr economi gyfan 

- Mynediad at ddata 

Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych wedi nodi effeithiau posibl y gallai Brexit eu cael wrth redeg y cwmni o ddydd i ddydd, a lle bo modd, maent wedi rhoi rheolaethau ar waith i liniaru neu reoli ei effaith ar y cwmni. 

1 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

## **Adroddiad y Bwrdd Rheoli** 

## **am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021** 

## **Adolygiad o’r busnes (parhad)** 

Yn fwy diweddar, mae Covid-19 wedi creu ei heriau ei hun, a sbardunwyd Tîm Digwyddiad Mawr y grŵp i ddelio â’i effeithiau parhaus. Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych wedi asesu ei effaith bosibl ar y busnes ac wedi diwygio ei ffigurau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 i adlewyrchu senarios amrywiol. Trafodwyd hefyd y gallai gwasanaethau asiantaethau Gofal a Thrwsio gynyddu yng ngoleuni'r galw cynyddol am unigolion sydd eisiau aros gartref cyhyd ag y bo modd yn hytrach na chael eu derbyn i'r ysbyty neu symud i gartref gofal preswyl neu gartref nyrsio. 

## **Asedau Sefydlog** 

Mae manylion asedau sefydlog wedi eu nodi yn nodyn 8. Nid yw’r Bwrdd Rheoli wedi ystyried ei bod yn briodol ail-brisio’r asedau sefydlog. 

## **Gweithwyr** 

Mae'r Cwmni'n cydnabod bod angen staff medrus, brwdfrydig ac ymroddedig er mwyn cyflawni ei amcanion busnes o ddarparu gwasanaeth o safon yn seiliedig ar arfer gorau. Mae buddsoddiad sylweddol yn parhau i gael ei wneud yn y rhaglenni addysg a hyfforddiant i ddatblygu ei weithlu ymhellach. 

Ym mhob rhan o'i waith mae'r Cwmni wedi ymrwymo i driniaeth deg waeth beth fo hil, lliw, tarddiad ethnig neu genedlaethol, anabledd, crefydd, oedran, rhyw, iechyd, statws priodasol neu gyfeiriadedd rhywiol, ac mae'n ceisio sicrhau nad oes rhwystrau i gydraddoldeb o safbwynt cyfle. 

Mae gan y Cwmni bolisïau Iechyd a Diogelwch ar gyfer ei weithwyr, sydd hefyd yn ymwneud â phenderfynu ar bolisïau'r Cwmni a'u perfformiad. 

## **Bwrdd Rheoli** 

Ar y dudalen wybodaeth, rhestrir Bwrdd Rheoli'r Cwmni a wasanaethodd trwy gydol y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2021 a hyd at y dyddiad y llofnodir y cyfrifon, oni nodir yn wahanol. Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn is-gwmni i Grŵp Cynefin sydd hefyd wedi'i gofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Budd Cymunedol 2014. 

Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Syr Ddinbych yn cael ei lywodraethu gan Fwrdd ac yn cydymffurfio â Chod Llywodraethu CCC. Mae'r Bwrdd yn adolygu ei berfformiad ei hun yn ffurfiol bob blwyddyn er mwyn nodi lle y gallai fod angen profiad ychwanegol. Mae aelodau'r Bwrdd i gyd yn Gyfarwyddwyr Anweithredol ac yn derbyn treuliau enwol allan o boced yn unig. 

Y Bwrdd sy'n gyfrifol yn y pen draw am strategaeth a rheolaeth y Cwmni. Mae Pwyllgor Archwilio a Risg y grŵp yn gyfrifol am Archwilio Mewnol ac mae Pwyllgor Cyllid a Thwf y grŵp yn gyfrifol am yr archwiliad allanol. 

Dirprwyir rheolaeth weithredol y Cwmni o ddydd i ddydd i'r Prif Swyddog a benodir ar gontract cyflogaeth safonol yr un fath â'r holl staff. 

## **Llywodraethiant Corfforaethol** 

Mae’r Bwrdd Rheoli, wedi mabwysiadu BDO fel eu harchwilwyr mewnol wrth iddynt gael eu penodi’n archwilwyr mewnol y grŵp yn 2019 yn dilyn proses dendro gaeedig. Mae eu cylch gwaith ar gyfer cynllunio rhaglenni yn cwrdd â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (SAMSC) a gofynion 'Cylchlythyr RSL 02/10 Rheolaeth Mewnol ac Adroddiadau Tai Llywodraeth Cymru', hefyd y 'Fframwaith Rheoleiddio ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru'. Nid yw gwaith archwilio mewnol safonol wedi datgelu unrhyw feysydd mawr o wendid, ac mae wedi arwain at hyder ychwanegol yn system rheolaeth fewnol y Cwmni. 

Yn unol â gofynion llywodraethu corfforaethol, mae'r Bwrdd yn hyderus bod gan y Cwmni adnoddau digonol i barhau mewn bodolaeth hyd y gellir rhagweld, ac yn unol â hynny mae'n parhau i fabwysiadu'r sail busnes gweithredol wrth baratoi'r datganiadau ariannol. 

2 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

**Adroddiad y Bwrdd Rheoli am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

## **Llywodraethiant Corfforol (parhad)** 

Ym mis Gorffennaf 2018, cynhyrchwyd asesiad diagnostig llywodraethu gan y Fforwm Llywodraethu (FfLl) i ddarparu arweiniad ac argymhellion ar sut y gallai'r Bwrdd symud ymlaen gyda'i ddatblygiad llywodraethu ac ymgorffori elfennau o arfer gorau. Canfu'r asesiad fod Gofal a Thrwsio Conwy a Syr Ddinbych wedi cyflawni'r lefel uchaf (lefel tri), a ddangosodd fod 'llywodraethu yn fwy na chydymffurfiaeth' a bod y cwmni'n ceisio cynyddu ei berfformiad i'r eithaf trwy effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd protocol, gweithdrefnau ac ymarfer. 

## **Datganiad y Bwrdd am system rheolaethau mewnol y Cwmni** 

Mae'r Bwrdd Rheoli yn gyfrifol am sicrhau bod system o reolaethau ariannol mewnol ar waith er mwyn rhoi sicrwydd rhesymol ar gyfer diogelu asedau'r Cwmni, bod cofnodion cyfrifyddu priodol yn cael eu cadw a bod y wybodaeth ariannol yn cael ei darparu'n amserol. 

Gweithredwyd y canlynol er mwyn sicrhau bod rheolaethau ariannol mewnol effeithiol ar waith: 

- strwythur rheoli ac adrodd wedi'i ddiffinio'n glir 

- rheoliadau ariannol sefydlog 

- dulliau gweithredu ar gyfer staff 

- systemau ariannol diogel a dibynadwy gyda dangosyddion perfformiad a chyfrifon rheoli allweddol yn cael eu cyflwyno bob chwarter i'r Bwrdd Rheoli 

- cynllun ariannol 3 blynedd 

- monitro ymlyniad wrth y rheoliadau ariannol gan yr archwilydd mewnol a'r archwilydd allanol. 

Mae'r Bwrdd yn derbyn ei gyfrifoldebau dros sicrhau bod rheolaethau mewnol addas yn gweithredu sydd wedi'u cynllunio i roi sicrwydd rhesymol o'r canlynol: 

- bod cofnodion cyfrifyddu addas yn cael eu cadw 

- bod y wybodaeth ariannol a gynhyrchir ac a ddefnyddir gan y Cwmni yn ddibynadwy 

- bod asedau'r Cwmni yn cael eu diogelu rhag cael eu camddefnyddio. 

Cyfrifoldeb y Bwrdd yw mabwysiadu a chynnal rheolaethau ariannol mewnol. Mae'r Bwrdd yn derbyn bod y systemau hyn yn rhoi sicrwydd rhesymol yn erbyn camddatganiad neu golledion sylweddol. 

Mae'r trefniadau allweddol sydd wedi'u sefydlu fel rheolaethau mewnol yn cynnwys: 

- sicrhau bod trefniadau a pholisïau ffurfiol yn bodoli sy'n cynnwys systemau dogfennu a'r rheoliadau allweddol sy'n ymwneud â dirprwyo awdurdod 

- sicrhau bod staff sydd â sgiliau a phrofiad addas yn gyfrifol am y tasgau busnes pwysig 

- sicrhau bod cyllidebau, cynlluniau busnes a chyfrifon rheoli yn cael eu cynhyrchu a'u hadolygu'n rheolaidd 

- sicrhau bod pobl yn cadw at arfer gorau o ran rheoli risg a'i adolygu'n rheolaidd 

- sicrhau bod y Bwrdd yn adolygu adroddiadau'r Prif Swyddog, yr Archwilwyr Mewnol a'r Archwilydd Allanol i sicrhau bod rheolaethau mewnol yn cael eu dilyn. 

Mae'r Bwrdd wedi adolygu rheolaethau ariannol mewnol y Cwmni am y cyfnod sy'n dod i ben 31 Mawrth 2021 a'r cyfnod hyd y llofnodir y cyfrifon. Ni ddarganfuwyd unrhyw wendidau sylweddol yn rheolaethau mewnol y Cwmni a allai fod wedi achosi colledion i'r Cwmni, ac ni chafwyd unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl nac ansicrwydd perthnasol yr oedd angen eu datgelu yn y Datganiadau Ariannol na'r Adroddiad Archwilio. 

## **Cyfrifoldebau’r Bwrdd Rheoli** 

Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am baratoi adroddiad y Bwrdd Rheoli a'r datganiadau ariannol yn unol â'r gyfraith a'r rheoliadau cymwys. 

Mae cyfraith cwmnïau yn ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol. O dan y gyfraith / ddeddfwriaeth honno mae'r Bwrdd wedi dewis paratoi datganiadau ariannol y Cwmni 

3 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

## **Adroddiad y Bwrdd Rheoli** 

## **am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

## **Cyfrifoldebau’r Bwrdd Rheoli (** _**parhad**_ **)** 

yn unol ag Arfer Cyfrifo a Dderbynnir yn Gyffredinol y Deyrnas Unedig (Safonau Cyfrifo'r Deyrnas Unedig a'r gyfraith berthnasol). 

O dan gyfraith Cwmnïau rhaid i'r Bwrdd beidio â chymeradwyo'r datganiadau ariannol oni bai eu bod yn fodlon eu bod yn rhoi golwg wir a theg o sefyllfa'r Cwmni ac o ddiffyg y Cwmni am y cyfnod hwnnw. 

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'n ofynnol i'r Bwrdd: 

- dewis polisïau cyfrifyddu addas ac yna eu cymhwyso'n gyson; 

- lunio dyfarniadau ac amcangyfrifon cyfrifyddu sy'n rhesymol ac yn ddarbodus; 

- nodi a ddilynwyd Safonau Cyfrifyddu y DU, yn amodol ar unrhyw ymadawiadau perthnasol a ddatgelwyd ac a eglurir yn y datganiadau ariannol; 

- paratoi'r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol oni bai ei bod yn amhriodol tybio y bydd y Cwmni'n parhau mewn busnes. 

Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifyddu digonol sy'n ddigonol i ddangos ac egluro trafodion y Cwmni a datgelu sefyllfa ariannol y Cwmni gyda chywirdeb rhesymol ar unrhyw adeg a'u galluogi i sicrhau bod y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â Deddf Cwmnïau 2006. Maent hefyd yn gyfrifol am ddiogelu asedau'r Cwmni, ac felly am gymryd camau rhesymol i atal a chanfod twyll ac afreoleidd-dra eraill. 

Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am sicrhau bod adroddiad y Bwrdd Rheoli yn cael ei baratoi yn unol â Deddf Cwmnïau 2006. 

## **Penodi'r archwilydd** 

Cynigir penderfyniad ar gyfer penodi archwilwyr allanol newydd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol nesaf, yn dilyn proses dendro. 

Hyd y gŵyr aelodau'r Bwrdd Rheoli, ar yr adeg y cymeradwyir yr adroddiad: 

- nid oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw archwilydd y Cwmni yn ymwybodol ohoni; a 

- mae aelodau'r Bwrdd Rheoli wedi cymryd pob cam y dylent fod wedi'i gymryd i wneud eu hunain yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a sefydlu bod yr archwilydd yn ymwybodol o'r wybodaeth. 


________________________ 

Bryn Ellis **Ysgrifennydd y Cwmni** Tŷ Silyn, Y Sgwâr Penygroes, Caernarfon 

## **Ysgrifennydd y Cwmni** 

Dyddiad:__16 Medi 2021__ 

4 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

## **Adroddiad archwilydd annibynnol** 

## **I AELODAU GOFAL A THRWSIO CONWY A SIR DDINBYCH** 

## **Barn** 

Rydym wedi archwilio datganiadau ariannol Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych (y ‘Cwmni’) ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021, sy'n cynnwys Datganiadau Incwm Cynhwysfawr, Datganiadau o Sefyllfa Ariannol, Datganiadau Llif Arian y Grŵp, Datganiadau Newidiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn, a’r nodiadau i'r datganiadau ariannol, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu sylweddol yn nodyn 1. Mae'r fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yn berthnasol â chyfraith FRS 102 “Y Safon Adrodd Ariannol sy'n berthnasol yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon” (Arferion Cyfrifo a Dderbynnir yn Gyffredinol y Deyrnas Unedig). 

Yn ein barn ni, mae’r datganiadau ariannol: 

- yn rhoi golwg wir a theg o gyflwr materion y Cwmni ar 31 Mawrth 2021 ac o’i warged am y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; 

- wedi'u paratoi'n briodol yn unol ag Arferion Cyfrifo a Dderbynnir yn Gyffredinol y Deyrnas Unedig; ac 

- wedi cael eu paratoi yn unol â gofynion Deddf Cwmniau 2006 

## **Sail y farn** 

Gwnaethom gynnal ein harchwiliad yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol (DU) (ISAs (DU)) a'r gyfraith berthnasol. Disgrifir ein cyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yng nghyfrifoldebau'r Archwilydd am archwilio adran datganiadau ariannol ein hadroddiad. Rydym yn annibynnol o’r Cwmni yn unol â’r gofynion moesegol sy’n berthnasol i’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol yn y DU, gan gynnwys Safon Foesegol y FRC ac rydym wedi cyflawni ein cyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â’r gofynion hyn. Credwn fod y dystiolaeth archwilio a gawsom yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sylfaen i'n barn. 

## **Casgliadau yn ymwneud â busnes gweithredol** 

Wrth archwilio'r datganiadau ariannol, rydym wedi dod i'r casgliad bod defnydd y Bwrdd o sail busnes gweithredol o gyfrifyddu wrth baratoi'r datganiadau ariannol yn briodol. 

Yn seiliedig ar y gwaith rydym wedi'i berfformio, nid ydym wedi nodi unrhyw ansicrwydd perthnasol yn ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, daflu amheuaeth sylweddol ar allu'r Grŵp neu'r Gymdeithas i barhau fel busnes gweithredol am gyfnod o leiaf ddeuddeg mis o'r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol i'w cyhoeddi. 

Disgrifir ein cyfrifoldebau ni a chyfrifoldebau'r Bwrdd mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn. 

## **Gwybodaeth arall** 

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr Adroddiad Ariannol, ac eithrio'r datganiadau ariannol, ac adroddiad ein harchwilydd arno. Y Bwrdd yn gyfrifol am y wybodaeth arall sydd weedi ei gynnwys o fewn yr adroddiad blynyddol. Nid yw ein barn ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu'r wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau y nodir yn benodol fel arall yn ein hadroddiad, nid ydym yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arnynt. 

Ein cyfrifoldeb ni yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn sylweddol anghyson â'r datganiadau ariannol neu ein gwybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad neu fel arall yn ymddangos fel petai wedi'i chamddatgan yn sylweddol. Os ydym yn nodi anghysondebau perthnasol o'r fath, neu gamddatganiadau perthnasol ymddangosiadol, mae'n ofynnol i ni benderfynu a yw’n esgor ar gamddatganiad materol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os ydym, yn seiliedig ar y gwaith yr ydym wedi'i gyflawni, yn dod i'r casgliad bod camddatganiad perthnasol o'r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i ni adrodd ar y ffaith honno. 

Nid oes gennym unrhyw beth i'w adrodd yn hyn o beth. 

5 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

## **Adroddiad Achwilydd Annibynnol** 

## **Barn ar faterion eraill a ragnodir gan Ddeddf Cwmniau 2006** 

Yn ein barn ni, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod yr archwiliad: 

- mae’r wybodaeth a roddir yn Adroddiad y Bwrdd Rheoli, ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratoir y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â’r datganiadau ariannol; a 

- paratowyd Adroddiad y Bwrdd Rheoli yn unol â gofynion cyfreithiol cymwys. 

## **Materion y mae'n ofynnol i ni adrodd arnynt fel eithriad** 

Yng ngoleuni'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth o'r Cwmni a'i hamgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid ydym wedi nodi camddatganiadau perthnasol yn Adroddiad y Bwrdd Rheoli. 

Nid oes gennym unrhyw beth i'w adrodd mewn perthynas â'r materion a ganlyn y mae Deddf Cwmnïau 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i ni adrodd i chi os, yn ein barn ni: 

- na chadwyd cofnodion cyfrifyddu digonol, neu na dderbyniwyd ffurflenni sy'n ddigonol ar gyfer ein harchwiliad gan ganghennau na ymwelwyd â ni; neu 

- nad yw'r datganiadau ariannol yn cytuno â'r cofnodion cyfrifyddu a'r ffurflenni; neu 

- na wnaethpwyd rhai datgeliadau o dâl cyfarwyddwyr a bennir gan y gyfraith; neu 

- nid ydym wedi derbyn yr holl wybodaeth ac esboniadau sydd eu hangen arnom ar gyfer ein harchwiliad. 

## **Cyfrifoldebau'r Bwrdd** 

Fel yr eglurwyd yn llawnach yn y datganiad o Gyfrifoldebau'r Bwrdd Rheoli am yr Adroddiadau Ariannol a nodir ar dudalen 3 a 4, mae'r Bwrdd yn gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol, ac am fod yn fodlon eu bod yn rhoi golwg wir a theg, ac am unrhyw reolaeth fewnol y mae'r Bwrdd yn ei benderfynu sy’n angenrheidiol i alluogi paratoi datganiadau ariannol sy'n rhydd o gamddatganiad perthnasol, p'un ai oherwydd twyll neu wall. 

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r Bwrdd yn gyfrifol am asesu gallu'r Cwmni i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel sy'n berthnasol, faterion sy'n ymwneud â busnes gweithredol a defnyddio sail cyfrifyddu busnes gweithredol oni bai bod y Bwrdd naill ai'n bwriadu diddymu'r Cwmni neu i roi'r gorau i weithrediadau, neu heb unrhyw ddewis arall realistig ond gwneud hynny. 

## **Cyfrifoldebau'r archwilydd o ran archwilio'r datganiadau ariannol** 

Ein hamcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw'r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o gamddatganiad perthnasol, p'un ai oherwydd twyll neu wall, a chyhoeddi adroddiad archwilydd sy'n cynnwys ein barn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd, ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (DU) bob amser yn canfod camddatganiad perthnasol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau ddeillio o dwyll neu wall, ac fe'u hystyrir yn berthnasol pe gellid yn rhesymol ddisgwyl iddynt, yn unigol neu yn gyfan gwbl, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr a wneir ar sail y datganiadau ariannol hyn. 

Mae disgrifiad pellach o'n cyfrifoldebau am archwilio'r datganiadau ariannol ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol yn www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn rhan o'n hadroddiad archwilydd. 

## **I ba raddau yr ystyriwyd bod yr archwiliad yn gallu canfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll** 

Rydym yn nodi ac yn asesu risgiau camddatganiad perthnasol y datganiadau ariannol, p'un ai oherwydd twyll neu wall, ac yna'n dylunio ac yn perfformio gweithdrefnau archwilio sy'n ymatebol i'r risgiau hynny, gan gynnwys cael tystiolaeth archwilio sy'n ddigonol ac yn briodol i ddarparu sylfaen i'n barn ni. 

Wrth nodi a mynd i'r afael â risgiau camddatganiad perthnasol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll a diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau, roedd ein gweithdrefnau'n cynnwys y canlynol: 

- Cawsom ddealltwriaeth o gyfreithiau a rheoliadau sy'n effeithio ar y Cwmni, gan ganolbwyntio ar y rhai a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol, neu a gafodd effaith sylfaenol ar ei weithrediadau. 

6 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

## **Adroddiad Archwilydd Annibynnol** 

Roedd deddfau a’r rheoliadau allweddol a nodwyd gennym yn cynnwys y Ddeddf Cwmnïau 2006 a’r deddfwriaeth iechyd a diogelwch. 

- Gwnaethom holi'r Bwrdd ac adolygu gohebiaeth a chofnodion cyfarfodydd y Bwrdd i gael tystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau perthnasol. Gwnaethom hefyd adolygu rheolaethau sydd gan y Bwrdd ar waith, lle bo angen, i sicrhau cydymffurfiad. 

- Cawsom ddealltwriaeth o'r rheolaethau sydd gan y Bwrdd ar waith i atal a chanfod twyll. Gwnaethom ofyn i'r Bwrdd am unrhyw ddigwyddiadau o dwyll a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod cyfrifyddu. 

- Trafodwyd y risg o dwyll a diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau o fewn y tîm archwilio a chynlluniwyd a pherfformiwyd profion i fynd i'r afael â'r risgiau hyn. 

- Gwnaethom adolygu’r datgeliadau datganiadau ariannol a profwyd dogfennaeth ategol i asesu cydymffurfiad â deddfau a rheoliadau perthnasol a drafodwyd uchod. 

- Fe wnaethon ni holi'r Bwrdd am ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl. 

- Gwnaethom gynnal gweithdrefnau dadansoddol i nodi unrhyw berthnasoedd anarferol neu annisgwyl a allai ddynodi risgiau o gamddatganiad perthnasol oherwydd twyll. 

- Wrth fynd i'r afael â'r risg o dwyll oherwydd diystyriaeth o reolaethau mewnol gwnaethom brofi priodoldeb cofnodion cyfnodolion ac asesu a oedd y dyfarniadau a wnaed wrth wneud amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o ragfarn bosibl. 

Oherwydd cyfyngiadau cynhenid archwiliad, mae risg na ellir ei hosgoi efallai na fyddwn wedi canfod rhai camddatganiadau perthnasol yn y datganiadau ariannol, er ein bod wedi cynllunio a pherfformio ein harchwiliad yn unol â safonau archwilio. Er enghraifft, fel gydag unrhyw archwiliad, roedd risg uwch o beidio â chanfod afreoleidd-dra, gan y gallai'r rhain gynnwys cydgynllwynio, ffugio, hepgor bwriadol, camliwio, neu ddiystyru rheolaethau mewnol. Nid ydym yn gyfrifol am atal twyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau ac ni ellir disgwyl i ni ganfod pob twyll a diffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau. 

## **Defnydd o’n hadroddiad archwilio** 

Lluniwyd yr adroddiad hwn i aelodau’r Cwmni yn unig, fel corff, yn unol â Phennod 3 o Ran 16 o Ddeddf Cwmniau 2006. Gwnaed ein gwaith archwilio fel y gallem nodi i aelodau'r cwmni y materion hynny y mae'n ofynnol i ni eu datgan iddynt mewn adroddiad archwilydd, ac nid at unrhyw bwrpas arall. I'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn nac yn cymryd cyfrifoldeb gan unrhyw un heblaw'r Cwmni ac aelodau’r Cwmni fel corff am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, neu am y farn yr ydym wedi'i ffurfio. 


Lee Cartwright LLB ACA (Uwch Archwilydd Statudol) 

## **I ac ar ran** 

## **Beever and Struthers** 

Statutory Auditor St George’s House 215-219 Chester Road Manchester M15 4JE 

Dyddiad: 28 Medi 2021 

7 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

## **Datganiad Incwm Cynhwysfawr** 

## **am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021** 

||**Nodyn**|||
|---|---|---|---|
|||**2021**|**2020**|
|||**£**|**£**|
|**Trosiant**|2|**1,263,793**|**1,215,590**|
|Costau gweithredu||**(1,128,847)**|**(1,163,587)**|
|||**________**|**________**|
|**Gwarged / (diffyg) gweithredol**|5|**134,946**|**52,003**|
|Llog derbyniadwy ac incwm tebyg|6|**212**|**953**|
|||**________**|**________**|
|**Gwarged / (diffyg) cyn trethiant**||**135,158**|**52,956**|
|Trethi|7|**-**|**-**|
|||**________**|**________**|
|**Gwarged / (diffyg) am y cyfnod**||**135,158**|**52,956**|
|Incwm cynhwysfawr arall||**-**|**-**|
|||**________**|**________**|
|**Cyfanswm incwm cynhwysfawr am y cyfnod**||**135,158**<br>**________**|**52,956**<br>**________**|



Mae'r holl symiau'n ymwneud â gweithgareddau parhaus. 

Mae’r nodiadau ar dudalennau 11 i 15 yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol yma. 

8 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

**Datganiad Sefyllfa Ariannol ar 31 Mawrth 2021** 

|**Rhif cwmni 9827000**<br>**Nodyn**<br>**2021**<br>**£**<br>**Asedau diriaethol**<br>Asedau sefydlog<br>8<br>**Asedau cyfredol**<br>Stoc<br>**17,227**<br>Dyledwyr<br>9<br>**133,703**<br>Arian parod yn y banc ac mewn<br>llaw<br>**409,548**<br>**________**<br>**560,478**<br>**Credydwyr: symiau sy'n**<br>**ddyledus o fewn blwyddyn**<br>10<br>**(56,792)**<br>**________**<br>**Cyfanswm asedau llai**<br>**rhwymedigaethau cyfredol**<br>**Cyfalaf a chronfeydd wrth gefn**<br>Cronfa Refeniw<br>Cronfeydd wrth gefn cyfyngedig<br>**Cronfeydd y cwmni**|**2021**<br>**2020**<br>**£**<br>**£**<br>**8,930**<br>**14,037**<br>**60,116**<br>**329,793**<br>**________**<br>**403,946**<br>**503,686**<br>**(43,413)**<br>**________**<br>**________**<br>**512,616**<br>**________**<br>**508,471**<br>**4,145**<br>**________**<br>**512,616**<br>|**2020**<br>**£**<br>**16,925**<br>**360,533**<br>**________**<br>**377,458**<br>**________**<br>**373,313**<br>**4,145**<br>**________**<br>**377,458**<br>|
|---|---|---|



Cymeradwywyd ac awdurdodwyd y datganiadau ariannol sy'n cynnwys y Datganiad Incwm Cynhwysfawr, y Datganiad Sefyllfa Ariannol, y Datganiad Newidiadau mewn Cronfeydd Wrth Gefn a'r nodiadau cysylltiedig gan y Bwrdd Rheoli ar 16 Medi 2021 ac fe'u llofnodwyd ar ei ran gan: 




**_______________________ _______________________ _______________________ Bryn Ellis Gwynne Jones Gwenan Carrington** Ysgrifennydd y Cwmni Cadeirydd Is-gadeirydd 

Mae’r nodiadau ar dudalennau 11 i 15 yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol yma. 

9 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

## **Datganiad newidiadau mewn arian wrth gefn** 

**am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021** 

|**Cronfa**<br>**Caledi**<br>**(cyfyngedig)**<br>**£**<br>Ar 31 Mawrth 2020<br>4,145<br>Gwarged yn y cyfnod<br>-<br>________<br>Ar 31 Mawrth 2021<br>**4,145**<br>________<br>**Cronfa**<br>**Caledi**<br>**(cyfyngedig)**<br>**£**<br>Ar 31 Mawrth 2019<br>4,145<br>Diffyg yn y cyfnod<br>-<br>________<br>Ar 31 Mawrth 2020<br>**4,145**<br>|**Refeniw’r**<br>**gronfa**<br>**Cyfanswm**<br>**wrth gefn**<br>**2021**<br>**£**<br>**£**<br>373,313<br>377,458<br>135,158<br>135,158<br>________<br>________<br>**508,471**<br>**512,616**<br>________<br>________<br>**Refeniw’r**<br>**gronfa**<br>**Cyfanswm**<br>**wrth gefn**<br>**2021**<br>**£**<br>**£**<br>320,357<br>324,502<br>52,956<br>52,956<br>________<br>________<br>**373,313**<br>**377,458**<br> <br>|
|---|---|



Mae’r nodiadau ar dudalennau 11 i 15 yn ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol yma. 

10 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

## **Nodiadau sy’n ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol** 

**am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021** 

## **1 Polisiau Cyfrifyddu** 

## _Prif bolisiau cyfrifyddu_ 

Mae’r polisiau cyfrifyddu canlynol wedi’u cymhwyso'n gyson wrth ddelio ag eitemau sy'n cael eu hystyried yn berthnasol mewn perthynas â'r datganiadau ariannol. 

## _Sail cyfrifyddu_ 

Paratowyd y datganiadau ariannol o dan y confensiwn costau hanesyddol yn unol â Safon Adrodd Ariannol 102 (Mawrth 2019) (FRS 102) a gyhoeddwyd gan y Cyngor Adrodd Ariannol, ac yn unol â'r Datganiad o Arfer a Argymhellir: Cyfrifeg ac Adrodd gan Elusennau. Mae’r cwmni’n endid budd cyhoeddus, fel y’i diffinnir yn FRS 102 ac mae’n cymhwyso’r paragraffau perthnasol sydd wedi’u rhagddodi ‘PBE’ yn FRS 102. 

## _Trosiant_ 

Mae trosiant yn cynrychioli grantiau a ffioedd a dderbyniwyd am weithgareddau a ymgymerir. Cydnabyddir ffioedd pan gaiff gwaith ei gwblhau. 

## _Datganiad llif arian_ 

Mae'r Cwmni'n cwrdd â'r diffiniad o endid cymwys o dan FRS 102 ac felly mae wedi manteisio ar yr eithriadau datgelu sydd ar gael iddo mewn perthynas â Datganiad Llif Arian. 

## _Asedau sefydlog a dibrisiant_ 

Nodir asedau sefydlog diriaethol ar gost llai dibrisiant cronedig. Codir dibrisiant ar sail llinell syth dros fywydau defnyddiol economaidd disgwyliedig yr asedau fel a ganlyn: 

|Offer cyfrifiadurol|-|Llinell syth dros 4 blynedd|
|---|---|---|
|Dodrefn ac offer swyddfa|-|Llinell syth dros 5 mlynedd|
|Offer a Deunyddiau|-|Llinell syth dros 4 blynedd|
|Cerbydau Modur|-|Llinell syth dros 3 blynedd|



## _Stoc_ 

Mae stoc yn cael ei brisio ar y gost isaf a'r pris gwerthu amcangyfrifedig llai costau i'w cwblhau a'u gwerthu, ar ôl rhoi ystyriaeth ddyledus i eitemau darfodedig sy'n symud yn araf. 

## _Costau Pensiwn_ 

Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Syr Ddinbych yn cymryd rhan mewn cynllun cyfraniadau diffiniedig lle mai'r swm a godir ar ddiffyg yn y Datganiad Incwm Cynhwysfawr mewn perthynas â chostau pensiwn a buddion ôl-ymddeoliad eraill yw'r cyfraniadau sy'n daladwy yn y flwyddyn. Dangosir gwahaniaethau rhwng cyfraniadau sy'n daladwy yn y flwyddyn a chyfraniadau a dalwyd mewn gwirionedd fel naill ai croniadau neu ragdaliadau yn y Datganiad Sefyllfa Ariannol. 

## _Costau rheoli_ 

Dyrennir treuliau rheoli i weithgareddau naill ai'n uniongyrchol neu ar sail amser staff a dreulir ar y gweithgaredd. 

## _Prydlesi gweithredu_ 

Codir tâl am brydlesi gweithredu yn flynyddol dros gyfnod y cytundeb prydles perthnasol. 

11 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

## **Nodiadau’n ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol** 

**am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

## **1 Polisiau cyfrifyddu** _(parhad)_ 

## _Grantiau_ 

Rhyddheir grantiau i'r Datganiad Incwm Cynhwysfawr dros oes y prosiect y maent yn ymwneud ag ef. Mae grantiau nas gwariwyd yn cael eu cynnwys mewn credydwyr fel grantiau a dderbynnir ymlaen llaw. 

## _Cronfeydd wrth gefn cyfyngedig_ 

Mae cronfeydd cyfyngedig yn gronfeydd sydd i'w defnyddio yn unol â'r cyfyngiadau penodol a osodir gan y rhoddwr neu'r weithred ymddiriedolaeth. 

## **2 Trosiant** 

Gellir priodoli'r trosiant a'r diffyg cyn trethiant i brif weithgareddau'r cwmni. Mae'r trosiant yn cynnwys y ffrydiau incwm canlynol: 


**----- Start of picture text -----**<br>
||||
|---|---|---|
|2021|2020|
|£|£|
|Grantiau gan awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill|588,062|534,299|
|Gwasanaethau ymarferol Gerddi Gwyrdd|518,264|514,944|
|Cyfraniad Grŵp Cynefin|73,506|76,490|
|Arall|83,961|89,857|
|________|________|
|1,263,793|1,215,590|
|________|________|
|Gwybodaeth Gweithwyr|
|2021|2020|
|£|£|
|Costau staff:|
|Cyflogau a chyflogau|526,324|538,044|
|Costau nawdd cymdeithasol|40,723|41,726|
|Costau pensiwn eraill|27,837|28,362|
|________|________|
|594,884|608,132|
|________|________|
|Number|Number|
|Y nifer wythnosol ar gyfartaledd o bobl, cyfwerth ag amser llawn,|
|(gan gynnwys y Prif Swyddog) a gyflogwyd yn ystod y cyfnod|20|20|
|oedd:|
|Enillion cyfarwyddwyr|________|________|
|Mae'r cyfarwyddwyr yn cynnwys y Bwrdd, fel y'i rhestrir ar y dudalen wybodaeth, a'r Prif Swyddog.|
|2021|2020|
|£|£|
|Cyfanswm tâl a delir i'r Prif Swyddog neu y gall eu derbyn (gan|
|gynnwys cyfraniadau teithio a phensiwn)|54,659|54,796|
|________|________|

**----- End of picture text -----**<br>


## **3 Gwybodaeth Gweithwyr** 

## **4 Enillion cyfarwyddwyr** 

12 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

## **Nodiadau’n ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol** 

**am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

Taliadau (ac eithrio cyfraniadau pensiwn) a delir i'r Prif Swyddog 

||**2021**|**2020**|
|---|---|---|
||**£**|**£**|
||**50,924**<br>________|**51,062**<br>________|



Mae'r pensiwn ar gyfer y Prif Swyddog (a oedd yn aelod cyffredin o'r cynllun pensiwn) ar yr un sail ag ar gyfer yr holl weithwyr eraill. 

Yn unol â Chod Llywodraethu Tai Cymunedol Cymru (CHC), mae'r Bwrdd wedi sefydlu polisi a gweithdrefn mewn perthynas â thalu treuliau i aelodau'r Bwrdd. Mae'r Cwmni'n barod i ad-dalu treuliau parod a gafwyd ar fusnes y Cwmni. 

|**2021**<br>**£**<br>Cyfanswm treuliau aelodau Bwrdd a hawliwyd<br>**-**<br>________<br>Mae'r holl gostau a hawlir gan y Prif Swyddog yn cael eu prosesu trwy'r gyflogres a'u cynnwys yn<br>uchod.<br>**5**<br>**Gwarged gweithredu**<br>**2021**<br>Nodir gwarged gweithredu / (diffyg) ar ôl codi tâl:<br>**£**<br>Dibrisiant ar asedau dan berchnogaeth<br>**10,739**<br>Taliadau prydles weithredol - offer<br>**46,328**<br>Tâl archwiliwr<br>- yn rhinwedd eu swydd fel archwilydd<br>**2,000**<br>- arall<br>**-**<br>________<br>**6**<br>**Llog derbyniadwy ac incwm tebyg**<br>**2021**<br>**£**<br>Llog banc derbyniadwy<br>**212**<br>|**2020**<br>**£**<br>**153**<br>________<br>yr enillion<br>**2020**<br>**£**<br>**10,872**<br>**45,089**<br>**2,000**<br>**-**<br>________<br>**2020**<br>**£**<br>**953**<br>|
|---|---|



## **7 Trethiant** 

Ar 25 Ionawr 2019 daeth y cwmni'n elusen gofrestredig gyda'r Comisiwn Elusennau (Rhif Cofrestru 1171303). Ni chynhwyswyd unrhyw rwymedigaeth treth am y flwyddyn gan y byddai gan y Cwmni hawl i'r eithriadau a roddir gan Adran 505 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988. 

13 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

**Nodiadau’n ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

|**8**<br>Asedau sefydlog diriaethol<br>**Dodrefn ac offer**<br>**swyddfa**<br>**£**<br>Cost<br>Ar 1 Ebrill 2020<br>**110,029**<br>Ychwanegiadau<br>**2,744**<br>**________**<br>Ar 31 Mawrth 2021<br>**112,773**<br>**________**<br>Dibrisiant<br>Ar 1 Ebrill 2020<br>**93,104**<br>Tâl am y cyfnod<br>**10,739**<br>**________**<br>Ar 31 Mawrth 2021<br>**103,843**<br>**________**<br>Gwerth llyfr net<br>Ar 31 Mawrth 2021<br>**8,930**<br>**________**<br>Ar 1 Ebrill 2020<br>**16,925**<br>________<br>**9**<br>**Dyledwyr**<br>Dyledwyr eraill<br>Rhagdaliadau<br>**10**<br>**Credydwyr: symiau sy'n ddyledus o fewn blwyddyn**<br>Credydwyr masnach<br>Grantiau ymlaen llaw<br>Symiau sy'n ddyledus i'r rhiant Gwmni<br>Croniadau|**Cerbydau**<br>**Cyfanswm**<br>**£**<br>**£**<br>**9,570**<br>**119,599**<br>**-**<br>**2,744**<br>**________**<br>**________**<br>**9,570**<br>**122,343**<br>**________**<br>**________**<br>**9,570**<br>**102,674**<br>**-**<br>**10,739**<br>**________**<br>**________**<br>**9,570**<br>**113,413**<br>**________**<br>**________**<br>**-**<br>**8,930**<br>**________**<br>**________**<br>**-**<br>**16,925**<br>________<br>________<br>**2021**<br>**2020**<br>**£**<br>**£**<br>**133,703**<br>**60,116**<br>**-**<br>**-**<br>**________**<br>**________**<br>**133,703**<br>**60,116**<br>________<br>________<br>**2021**<br>**2020**<br>**£**<br>**£**<br>**40,236**<br>**14,485**<br>**12,318**<br>**11,015**<br>**1,838**<br>**13,513**<br>**2,400**<br>**4,400**<br>**________**<br>**________**<br>**56,792**<br>**43,413**<br><br>|
|---|---|



14 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

## **Nodiadau’n ffurfio rhan o’r datganiadau ariannol** 

**am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021 (parhad)** 

|**11**<br>Prydlesi gweithredu<br>Cyfanswm y symiau sy'n daladwy o dan brydlesi gweithredu<br>Rhent cerbydau modur:<br>O fewn 12 mis<br>Un i ddwy flynedd<br>Dwy i bum mlynedd<br>Rhentu swyddfa:<br>O fewn 12 mis<br>Un i ddwy flynedd<br>Dwy i bum mlynedd<br>Rhentu offer swyddfa:<br>O fewn 12 mis<br>Un i ddwy flynedd<br>Dwy i bum mlynedd|**2021**<br>**£**<br>**16,558**<br>**16,558**<br>**8,954**<br>________<br>**27,000**<br>**27,000**<br>**81,000**<br>________<br>**859**<br>**203**<br>**-**<br>|**2020**<br>**£**<br>**16,558**<br>**16,558**<br>**8,954**<br>________<br>**27,000**<br>**27,000**<br>**81,000**<br>________<br>**811**<br>**811**<br>**203**<br>|
|---|---|---|



## **12 Trafodion partion cysylltiedig** 

O dan FRS 102 nid oes angen datgelu trafodion o fewn y Grŵp gan fod canlyniadau Grŵp Cynefin a'i isgwmnïau wedi'u cynnwys yn natganiadau ariannol cyfunol Grŵp Cynefin. 

## **13  Statws y Cwmni** 

Mae'r Cwmni'n Gwmni preifat wedi'i gyfyngu trwy warant ac o ganlyniad nid oes ganddo gyfalaf cyfranddaliadau. Mae pob aelod yn atebol i gyfrannu swm nad yw'n fwy na £10 tuag at asedau'r Cwmni pe bai'n cael ei ddiddymu. 

## **14 Parti rheoli terfynnol** 

Rheolir y Cwmni gan y Bwrdd Rheoli ond y parti rheoli terfynnol yw Grŵp Cynefin. 

15 



## **Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych** 

## **Atodiad** 

## **am y flwyddyn yn diweddu 31 Mawrth 2021** 

|**Incwm**|**2021**|**2020**|
|---|---|---|
||||
|Grant Llywodraeth Cymru|289,828<br>91,691<br>77,409<br>73,506<br>12,314<br>212<br>83,961<br>518,264<br>51,757<br>65,063|289,828|
|Grantiau Cyngor Sir||34,709|
|Grant Bwrdd Iechyd Lleol||43,734|
|Cyfraniad Grŵp Cynefin||76,490|
|Incwm C&R||44,048|
|Llog blaendal banc||953|
|Incwm amrywiol||89,857|
|Gwasanaethau Ymarferol||514,944|
|MARS SSD Conwy||51,980|
|MAP / Grabrails - AGC||70,000|
||||
|**CYFANSWM INCWM**|**1,264,005**|**1,216,543**|
||||
|Gwariant|||
|Costau Staff:|611,922<br>55,976<br>148,364<br>312,585|643,019|
|Costau Swyddfa:||59,767|
|Costau Busnes||151,771|
|Gwasanaethau ymarferol||309,030|
||||
||||
|**CYFANSWM GWARIANT**|**1,128,847**|**1,163,587**|
||||
||||
|Gwarged / (diffyg) cyn trosglwyddo|**135,158**|**52,956**|



Darparodd Llywodraeth Cymru Grantiau Cyfalaf o £137,997 (2020- £ 162,551) hefyd. 

Nid yw'r atodiad hwn yn rhan o'r datganiadau ariannol archwiliedig. 

16 

