OpenCharities

This text was generated using OCR and may contain errors. Check the original PDF to see the document submitted to the regulator.

2023-06-30-accounts

COFNODION PWYLLGOR BLYNYDDOL CFFI ERYRI

Dyddiad: Nos Wener, 8 Medi 2023

Amser: 19:30

Lleoliad: Newborough Arms, Bontnewydd

PG

1. YMDDIHEURIADAU : Derbyniwyd ymddiheuriad gan Glwb y Rhiw

  1. PRESENNOL : Geraint Puw, Llywydd y sir – Cadeirydd Gwen Thomas, Dyffryn Nantlle, Cadeirydd y sir 2022/23 Sioned Wyn Jones, Caernarfon, Is-gadeirydd y sir 2022/23 Elin Owen Jones, Godre’r Eifl, Trysorydd y sir 2022/23 Glesni Lewis, Dyffryn Nantlle, Is-drysorydd y sir 2022/23 Gwenlli Thomas, Godre’r Eifl – Ysgrifennydd Carwyn Edwards, Swyddog Cefnogi’r sir Elin Jones, Swyddog Cefnogi (ar gyfnod mamolaeth) Huw Thomas, Is Lywydd y sir Anwen Bumby, Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Staffio Begw Williams, Dyffryn Madog Esyllt Williams, Dyffryn Madog Marian Puw, Dyffryn Madog Mererid Prys Owen, Llangybi Cian Iolen Rhys, Dyffryn Ogwen Myfanwy Harper, Aelod Anrhydeddus Swyn Owen, Dyffryn Ogwen Iwan Harper, Dyffryn Ogwen Sallie Roberts, Dyffryn Ogwen Dylan Roberts, Llanrwst Huw Roberts, Llanrwst Arthur Williams, Llanrwst Lois Jones, Dyffryn Nantlle Elen Williams, Dyffryn Nantlle Cai Williams, Rowen Elliw Newsham, Rowen Megan Williams, Rowen Heledd Williams, Rowen Caron Hughes, Rowen Cai Hughes, Rowen Alaw Morgan, Caernarfon Non Griffith, Caernarfon Rhodri Jones, Godre’r Eifl Tomos Dobson, Porthdinllaen Beca Dobson, Porthdinllaen Lora Jen, Llangybi

3. DERBYN COFNODION :

Derbyn Cofnodion – 30.09.2022

Derbyniwyd y cofnodion yn gywir gan Tomos Dobson ac eiliodd Glesni Lewis.

4. MATERION YN CODI O’R COFNODION

Ni chodwyd unrhyw faterion.

5. GOHEBIAETH

Nid oedd unrhyw ohebiaeth

6. ADRODDIAD CADEIRYDD Y MUDIAD

Croesawodd Gwen Thomas bawb i’r Pwyllgor Blynyddol. Dywedodd ei bod wedi bod yn flwyddyn hynod o brysur, heriol ond pleserus yn arbennig yn ystod ac arf ôl digwyddiadau. Nododd Gwen bod dau ddigwyddiad blynyddol yn sefyll allan iddi sef y Diwrnod Gwaith Maes a’r Ras Aredig. Teimlodd Gwen bod y ddau ddigwyddiad yn un a oedd yn mynd a’r mudiad yn ôl at ei gwreiddiau, sef amaethyddiaeth. Eglurodd mai eleni oedd y tro cyntaf iddi fynychu’r Ras Aredig ac iddi fwynhau yn llawer mwy na’r disgwyl. Diolchodd i Huw Thomas, Meillionnydd a’r Pwyllgor Ras Aredig am gynnwys y mudiad yn y diwrnod a rhoi cyfle i aelodau gystadlu. Cafodd Gwen fwynhad mawr yn gweld sgiliau ac ymroddiad yr aelodau. O ganlyniad i’r mwynhad a gafodd yno, anogodd yr aelodau i fynychu digwyddiad blynyddol CFfI Eryri nad ydynt wedi’i fynychu o’r blaen eleni.

Symudodd Gwen yn ei blaen i grynhoi digwyddiadau’r a gynhaliodd fel Cadeirydd eleni. Diolchodd i bawb a gyfrannodd yn ei gwasanaeth carolau rhithiol a rannwyd gyda chartrefi gofal yn y sir. Derbyniodd adborth cadarnhaol gan y cartrefi gofal oll. Cynhaliodd Gwen hefyd noson gemau i dri chlwb ar y tro mewn ymdrech i annog clybiau i gynnal mwy o ddigwyddiadau ar y cyd. Anogodd yr aelodau i geisio parhau nosweithiau ar y cyd.

Diolchodd Gwen i’r swyddogion sydd wedi ei chefnogi a chydweithio gyda hi drwy gydol y flwyddyn. Diolchodd i Elin Jones a Carwyn Edwards y swyddogion cefnogi. Diolchodd i Elin Owen Jones a Glesni Lewis am eu gwaith diwyd tu ôl i’r llenni fel trysoryddion y sir, a mynegodd y bydd colled fawr ar eu holau flwyddyn nesaf.

Cloeodd Gwen ei hadroddiad drwy amlygu bod y sir bellach yn ffynnu, a bod 100 yn fwy o aelodau ar ddiwedd y flwyddyn o gymharu â ffigyrau 2021/22. Anogodd yr aelodau i fanteisio ar bob cyfle a ddaw i’w rhan fel aelodau er mwyn cael profiadau bythgofiadwy a sgiliau oes.

7. ADRODDIAD ARIANNOL Y MUDIAD

Cyflwynwyd yr adroddiad canlynol gan Elin Owen Jones, Trysorydd y Sir 2022/23:

“Ar y 30 o Fehefin eleni, dyma’r cyfanswm a oedd yng nghyfrifon banc y ffederasiwn: Cyfrif Cyfredol Natwest £7,109.53 Cyfrif Clwb 200 Natwest £2,114.00 Cyfrif Cyfredol HSBC £35,532.19

Cyfrif Cadw HSBC £85,300.00 Cyfrif Hyfforddiant £6,160.99.

Nid fu symudiadau yn y Cyfrif Cadw na Thripiau Natwest eleni ac felly roedd eu cyfanswm yn £0.00, ac yn ôl dymuniad y pwyllgor gwaith, rydym wedi symud cyfanswm oedd yng nghyfrif Tripiau HSBC i’r cyfredol felly £0.00 oedd y cyfanswm ar ddiwedd y flwyddyn. Mae gwerth y ffederasiwn wedi cynyddu o £112,934.29 i £136,216.71 rhwng dechrau a diwedd y flwyddyn ariannol eleni. Mae’r cynnydd mewn gwerth yn deillio o ddau brif beth. Y rheswm cyntaf dros hynny ydy’r ffaith i glwb Ddyffryn Madog gynnal chwip o rali yn Llystyn Ganol eleni, ble gwnaethpwyd dros £24,000 o elw. Mae ein diolch yn mynd i deulu Llystyn, clwb Dyffryn Madog, holl noddwyr y Rali, holl gyfranwyr yr Erwau a phawb oedd yng nghlwm â’r trefnu ‘lenni - roedd hi’n ddiwrnod bythgofiadwy! Yn ail, mae’r Sir yn hynod lwcus o haelioni mudiadau ac awdurdodau. Hoffwn gyfeirio at y gefnogaeth ydym yn ei gael gan NFU pob blwyddyn a hynny drwy gyfrannu’n hael tuag at ein Rali a’n costau staffio, a thrwy sicrhau fod gennym safle i’n swyddfa heb unrhyw gostau. Bûm yn lwcus iawn eleni i gael rhannu eu stondin ar faes yr Eisteddfod draw ym Moduan, ac yn ddiolchgar dros ben am y croeso. Yn ogystal rydym wedi bod yn ffodus i gael nifer o grantiau eleni, cafwyd £1,000 Haf o Hwyl gan Lywodraeth Cymru aeth i ariannu noson BBQ y llynedd a’n galluogi i ni brynu offer BBQ parhaol. Cafwyd £7,500 gan Gyngor Gwynedd tuag at gostau ein gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn. Rydym yn parhau i dderbyn £7,356 gan Lywodraeth Cymru am weithredu trwy’r Gymraeg. Eto eleni, diolchwn i Gyngor Sir Conwy sydd wedi rhoi £2,500 yn grant i ni. Rydym hefyd yn lwcus ofnadwy o fudiadau fel FUW a Grŵp Cynefin am eu parodrwydd i noddi cystadlaethau drwy gydol y flwyddyn.

Fel ydych chi’n gweld, mae sefyllfa ariannol y Sir yn sefydlog ar hyn o bryd ac rydym yn werthfawrogol tu hwnt am yr holl gefnogaeth ydyn ni wedi ei gael drwy gydol y flwyddyn. Hoffwn ddiolch yn arbennig eleni i deulu Pritchard, Nant Peris sydd wedi cyfrannu swm sylweddol i’r mudiad er cof annwyl am Meirion. Cytunwyd efo’r teulu i ddefnyddio’r arian i brynu bwrdd lapio gwlân i’r mudiad. Diolchwn i Dei Tai Hirion am greu’r bwrdd ar ein cyfer a gafodd ei ddefnyddio yn y Rali eleni.

Hoffwn dynnu eich sylw at ddau gynllun arall sydd yn helpu’r Sir yn ariannol. Os ydych chi neu rywun o’ch teulu yn gwerthu ŵyn i’r cwmni Dunbia, mae’r cwmni yn cyd-weithio gyda CFfI Cymru i sicrhau y caiff y mudiad fuddion ariannol os ydy eu haelodau yn gwerthu eu cynnyrch i Dunbia. Yn ail, os ydych chi’n berson sydd yn gwneud tipyn o siopa ar-lein, gallwch greu cyfrif ar wefan a elwir yn ‘Easy Funding’ sydd yn ymrwymo i roi canran o’ch gwariant chi yn syth i elusen, ac mae CFFI Eryri wedi cofrestru fel elusen ar y wefan hon. Croeso i chi gysylltu os ydych eisiau mwy o fanylion am hynny. Hoffwn ddiolch i gwmni cyfrifydd Richard Williams a’i gwmni am eu parodrwydd i weinyddu’r cyflogau ar ein rhan eto eleni.

Diolchwn hefyd i aelodau Cynllun Ffrindiau’r mudiad am eu cefnogaeth eto eleni. Mae pob aelod yn buddsoddi un ai £100 yn flynyddol neu £8.50 pob mis gan dderbyn amrywiol fuddiannau yn sgîl eu haelodaeth. Un uchelgais sydd gen i fel Trysorydd eleni ydy hyrwyddo’r cynllun hwn a Chlwb 200 y Sir fwyfwy, ac ar hynny hoffwn groesawu unrhyw un o’r newydd ymuno â’r cynlluniau hyn.

Ers dechrau fy nghyfnod yn Drysorydd Sir nôl yn 2017, mae Glesni Lewis wedi bod wrth fy ochr yn is-drysorydd, ond bellach yn ymddeol o’r rôl eleni. Diolch am dy holl gefnogaeth ers blynyddoedd Gles, mi fydd chwith ar dy ôl yn y Pwyllgorau Cyllid a Staffio! Mae’r mudiad wedi bod yn lwcus iawn o gael ethol Catrin Roberts, Hafod y Porth o glwb Ddyffryn Madog yn is-drysorydd eleni, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr i gyd-weithio efo hi.

Gai ddiolch hefyd i Gwen, sydd yn gorffen ei rôl fel Cadeirydd heno am gadw trefn arna i a phawb arall, mae dy ymroddiad diflino di wedi bod yn un i’w edmygu, ac ni allaf ddiolch digon i chdi am y gefnogaeth ydw i wedi’i gael. Dwi’n edrych ymlaen at flwyddyn arall o Ffermwyr Ifanc dan ofal Sioned, Caernarfon ein Cadeirydd ac Iwan, ’ Dyffryn Ogwen ein Is-gadeirydd - mae r mudiad yn sicr mewn dwylo saff.

Gai hefyd estyn diolch i’r pwyllgor gwaith ac i Anwen ac aelodau’r is-bwyllgor Cyllid a Staffio am eu holl gymorth eto eleni. Mae eu gwaith di-flino nhw yn sicrhau parhad llewyrchus i’r mudiad.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i swyddogion cyflogedig y Sir. I Elin, am ei gwaith tu hwnt o drefnus yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn Ffermwyr Ifanc oedd yn gwneud fy rôl i’n un hawdd. A diolch i Carwyn sydd wedi camu i’r trothwy fel Swyddog Cefnogi ym mis Ionawr tra bod Elin ar gyfnod mamolaeth. Mi fydd hi’n rhyfedd iawn heb y galwadau ffôn a’r panics ar ôl fis Hydref. Diolch am yr holl hwyl dros y misoedd diwethaf Carwyn, ac am yr ego-boosts ydw i wedi’u cael gen ti sydd wedi fy ngadael yn teimlo fel wizz-kid mewn excel. Paid â bod yn ddiarth!

Diolch yn fawr.

8. ADRODDIAD SWYDDOG CEFNOGI’R MUDIAD

Diolchodd Carwyn Edwards i bawb am fynychu’r pwyllgor. Eglurodd bod cychwyn y swydd hon yn newid byd iddo ond ei fod wedi mwynhau pob eiliad, yn arbennig y gwaith o drefnu’r Rali yn Llystyn Ganol. Pwysleisiodd na fyddai wedi gallu cwblhau gwaith llynedd heb help a chefnogaeth Gwen Thomas, Cadeirydd 2022/23. Diolchodd Carwyn hefyd i Elin Owen Jones, Trysorydd 2022/23 am ei chefnogaeth barod. Diolchodd Carwyn i’r aelodau am fod mor barod i gydweithio. Dymunodd yn dda i Elin Jones a fydd yn dychwelyd o’i chyfnod mamolaeth cyn y Nadolig

9. ANERCHIAD Y LLYWYDD

Agorodd Geraint Puw, Pen Mount ei anerchiad drwy fynegi ei bod wedi bod yn fraint cael bod yn lywydd CFfI Eryri, ac ni feddyliodd erioed y byddai’n cael y cynnig. Eglurodd bod y mudiad wedi bod yn rhan fawr o’i fywyd rhwng bod yn aelod o Glwb Dyffryn Madog ei hun flynyddoedd yn ôl, yna gweld ei blant yn ymuno â’r clwb. Dywedodd ei fod bellach yn arweinydd y clwb ac wrth ei fodd, a’i fod wedi gwirioni cael bod yn llywydd y flwyddyn yr oedd y clwb yn cynnal y rali. Nododd mai’r uchafbwyntiau iddo eleni oedd ennill y cystadlaethau tynnu rhaff ar ddiwrnod y rali, cyn mynd ymlaen i ddod yn fuddugol fel clwb ar ddiwedd y diwrnod. Diolchodd i Elin Jones a Carwyn Edwards am eu gwaith fel Swyddogion Cefnogi’r sir. Diolchodd i’r holl swyddogion sy’n gwirfoddoli ac yn rhoi gymaint o’u hamser, yn arbennig Gwen Thomas, Elin Owen Jones, Glesni Lewis ac Anwen Bumby. Pwysleisiodd na fyddai yna fudiad heb eu gwaith diflino.

10. ADRODDIAD PWYLLGOR CYLLID A STAFFIO

Cyflwynwyd yr adroddiad canlynol gan Anwen Bumby, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Staffio 2022/23:

“Mae’n bleser gennyf gyflwyno i chi adroddiad o waith y Pwyllgor Cyllid a Staffio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Cyn cychwyn ar fy adroddiad hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i Miriam Williams, cyn cadeirydd y pwyllgor, am ei gwaith yn arwain y pwyllgor a sicrhau fod y mudiad yn parhau yn sefydlog drwy gyfnod anodd cofid a newid personél. Gyda gweithgareddau’r mudiad yn ôl i’r arfer canolbwyntiodd y Pwyllgor ar sicrhau fod sylfaen ariannol gadarn gan y mudiad a bod gweithdrefnau mewn lle i sicrhau fod y mudiad yn rhedeg mor effeithiol â phosib. Buddsoddwyd mewn offer swyddfa sydd yn caniatáu i’n swyddog cyswllt allu gweithio yn hybrid h.y. o adref neu yn y swyddfa. Fel yr ydych i gyd yn ymwybodol bu Elin ein Swyddog Cefnogi i ffwrdd ar gyfnod mamolaeth ac yn mwynhau cael magu Morus. Gallaf gadarnhau y bydd Elin yn ail gychwyn ar ei dyletswyddau ar Dachwedd y 6ed.

Mewn cyfnod ble mae nifer o fudiadau yn cael hi yn anodd recriwtio staff newydd, rydym fel mudiad wedi bod yn ffodus i allu penodi Carwyn Edwards yn Swyddog Cyswllt dros

gyfnod mamolaeth Elin. Gan fod Elin yn dychwelyd ym mis Tachwedd bydd cyfnod cyflogedig Carwyn yn dod i ben ddechrau Tachwedd. Diolchwn i chdi Carwyn am dy waith a dymunwn yn dda i chdi gyda dy gynlluniau i’r dyfodol.

Hoffem gymryd y cyfle i ddiolch i’r Undebau amaethyddol a’r holl gwmnïau lleol sydd yn cefnogi’r mudiad yn ariannol. Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth a’ch haelioni. Bu’r Rali yn llwyddiant mawr o ran gweithgaredd ond hefyd yn ariannol, diolch i aelodau a chyfeillion y clwb am eu gwaith yn sicrhau fod y digwyddiad yn llwyddiannus ymhob ffordd.

Mae’r Pwyllgor wedi bod yn adolygu polisïau’r mudiad dros y misoedd diwethaf ac y rydych eisoes wedi dechrau eu mabwysiadu, a dyma fydd ffocws gwaith y Pwyllgor am y misoedd nesaf, tasg ddiflas ond angenrheidiol.

Cyn cloi, hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’m cyd aelodau ar y pwyllgor am eu cefnogaeth a hefyd yn arbennig i swyddogion sir am eu gwaith caled, rydym fel mudiad yn hynod lwcus o gael swyddogion cydwybodol a gweithgar, felly diolch Gwen, Sioned, Elin Goetra a Glesni am eich gwaith sydd wedi hwyluso fy ngwaith i fel cadeirydd y panel. 'Da ni fel mudiad yn hynod falch ohonoch.

Diolch am wrando a dymuniadau gorau i chi gyd a gobeithio y bydd clybiau Eryri yn cael blwyddyn lwyddiannus.

11. ADRODDIAD PWYLLGOR RALI 12. ADRODDIAD PWYLLGOR EISTEDDFOD

13. ADRODDIAD PWYLLGOR HYFFORDDIANT

Cyflwynwyd adroddiad y Pwyllgor Hyfforddiant gan Gwen Thomas.

Dywedodd ei bod yn falch o ddweud bod y sir wedi cael trefn ar y Pwyllgor Hyfforddiant eleni. Nododd bod y sir wedi cynnig hyfforddiant codi wal, cymorth cyntaf a thynnu trelar i’r aelodau. Cadarnhaodd bod amryw wedi bod yn bresennol ac wedi cael budd o’r tri hyfforddiant. Cyhoeddodd y bydd y Pwyllgor yn gweithredu system geisiadau o hyn ymlaen. Eglurodd y bydd modd i aelodau gyflwyno cais i’r mudiad ad-dalu hyd at £500 am gwrs byr a fydd yn gwella eu cyflogadwyedd. Dywedodd eu bod yn y broses o lunio ffurflenni cais a meini prawf ar gyfer y system ar hyn o bryd a’u bod yn gobeithio eu cyflwyno ganol Tachwedd 2023. Nododd Gwen bod oddeutu £6000 ar ôl yn y gronfa hyfforddiant.

14. ADRODDIADAU’R CLYBIAU

Caernarfon

Dyffryn Madog Dyffryn Nantlle Dyffryn Ogwen Godre’r Eifl Llangybi Llanrwst Rowen Porthdinllaen Y Rhiw

Ysbyty Ifan

15. ETHOL SWYDDOGION

at

Llywydd y Sir – Huw Thomas, Meillionydd, ardal CFfI Y Rhiw

Cynigiodd CFfI Rhiw Huw Meillionydd i fod yn lywydd y mudiad ar gyfer y flwyddyn 2023/24. Pwysleision fod Huw wedi chwarae rhan greiddiol yng ngwaith Pwyllgor Rali Gwythrian 2022. Dywedon fod Huw yn gyn-aelod o Glwb y Rhiw ac yn rhan o bwyllgor Ras Aredig Sarn a’r cylch. Nodon fod Huw pob amser yn barod i helpu’r clwb neu unrhyw ddigwyddiad lleol. Eiliodd CFfI Godre’r Eifl gan nodi y byddai’n fraint ei gael yn lywydd y sir. Tynnon sylw at ei ymroddiad yntau a’i deulu i’r sir ers blynyddoedd, yn arbennig yn ystod cystadlaethau ffensio’r mudiad yn y Ras Aredig flynyddol.

Is-lywydd y sir – Mari Hughes, ardal CFfI Rowen

Cynigiodd CFfI Rowen Mari Hughes fel Is-lywydd y sir ar gyfer y flwyddyn 2023/24 oherwydd ei hymroddiad amhrisiadwy i’r clwb fel arweinydd sy’n annog aelodau ac yn sicrhau eu bod yn mwynhau. Eiliodd CFfI Llanrwst gan nodi bod Mari Hughes yn arweinydd hynod weithgar ac yn fwy na theilwng.

Cadeirydd y sir – Sioned Wyn Jones, CFfI Caernarfon

Cynigiodd CFfI Caernarfon Sioned Wyn Jones fel Cadeirydd y sir ar gyfer y flwyddyn 2023/24 oherwydd ei phrofiad fel Is-gadeirydd y sir a’i hymroddiad i’r mudiad ers blynyddoedd. Eiliodd CFfI Dyffryn Nantlle gan nodi hefyd bod Sioned yn aelod brwd a gweithgar o’r mudiad ers blynyddoedd.

Is-gadeirydd y sir – Iwan Harper, CFfI Dyffryn Ogwen

Cynigiodd CFfI Dyffryn Ogwen Iwan Harper fel Is-gadeirydd y sir ar gyfer y flwyddyn 2023/24gan ei fod yn aelod sydd wastad yn fodlon helpu’r sir ers blynyddoedd lawer. Eiliodd CFfI Llanrwst gan nodi fod Iwan y sir yn ffodus o gael Iwan yn aelod ers blynyddoedd.

Trysorydd ac Is-drysorydd - Elin Jones Owen, CFfI Godre’r Eifl (Trysorydd) a Catrin Roberts, CFfI Dyffryn Madog (Is-drysorydd)

Cynigiodd CFfI Godre’r Eifl Elin Jones Owen fel Trysorydd y sir ar gyfer y flwyddyn 2023/24 hyd nes y pennir rhywun newydd i’r swydd oherwydd ei phrofiad gwerthfawr yn y swydd. Cynigiodd CFfI Godre’r Eifl Catrin Roberts, Dyffryn Madog fel Is-drysorydd y sir ar gyfer y flwyddyn 2023/24 oherwydd ei phrofiad o fod yn drysorydd CFfI Dyffryn Madog a’r sgiliau perthnasol sydd ganddi yn rhinwedd ei swydd. Eiliodd CFfI Dyffryn Nantlle y ddwy gan nodi y bydd yn werthfawr i Catrin gael cysgodi Elin gyda’r gobaith y bydd hi’n dymuno ymgymryd â’r swydd Trysorydd yn y dyfodol.

16. CADARNHAU YMDDIRIEDOLWYR Y MUDIAD

Cadarnhaodd Sioned Wyn Jones y canlynol fel ymddiriedolwyr y mudiad

Caernarfon - Sioned Wyn Jones a Non Griffith Dyffryn Madog – Nel Dafydd ac Efa Jones Dyffryn Ogwen – Iwan Harper a Sallie Roberts Godre’r Eifl – Gwenlli Thomas a Rhodri Jones Llangybi – Siwan Prys Owen a Robin Wyn Pari Llanrwst – Arthur Emyr Williams a Dylan Roberts Porthdinllaen – Beca a Tomos Dobson

Y Rhiw – Lora Thomas a Sera Griffiths

Rowen – Elliw Newsham a Heledd Williams

Ysbyty Ifan – Elenid a Marged Alun

Cadarnhaodd Iwan Harper y swyddogion canlynol

Llywydd – Huw Thomas

Is-lywydd – Mari Hughes

Cadeirydd – Sioned Wyn Jones

Is-gadeirydd - Iwan Harper

Cadeirydd Pwyllgor Hyfforddiant – Gwen Thomas Trysorydd – Elin Owen Jones

Cadeirydd Pwyllgor Cyllid a Staffio – Anwen Bumby

Cadeirydd neu Gadeiryddion y Pwyllgor Rali – heb gyfarfod

17. TAL AELODAETH

Cynigiodd Elin Owen Jones bod y dal aelodaeth yn parhau yn £25 y pen eto eleni, cyn belled a bod lefi Cymru yn cael ei gymeradwyo yn £17.92 yn ystod AGM CFfI Cymru wythnos nesaf. Nododd Elin Owen Jones bod sefyllfa ariannol y sir yn sefydlog a chynigiodd felly nad oes angen codi’r pris tra bo costau byw mor uchel.

Eiliodd Glesni Lewis.

18. CYFLWYNO TLYSAU

Cyflwynwyd y tarianau canlynol i’r clybiau isod:

Tarian Goffa Llinos Owen Jones - Llangybi

Cwpan Barhaol W. J Owen - Llangybi

Tlws Hafod y Llan – Dyffryn Madog

Tlws Hwsom Iau - Elin Morgan, Caernarfon

Tlws stocmon y flwyddyn -– Caron Hughes, Rowen

Cwpan barhaol Bob Parry i’r clwb buddugol yn y rali - Caernarfon .

Tlws y flwyddyn i’r clwb sydd wedi cynrychioli eryri fwyaf yng nghystadlaeuthau Cymru – Dyffryn Madog

Tarian Henblas – Dyffryn Ogwen

Tarian Cathrine Rhian – Dyffryn Madog

19. CYHOEDDI AELOD HŶN AC AELOD IAU'R FLWYDDYN 2023/24

Croeawyd Rhys Richards, Cadeirydd CFfI Cymru i draddodi’r feirniadaeth. Diolchodd i’r holl aelodau a gystadlodd yn y ddwy gystadleuaeth ac am baratoi mor drylwyr. Nododd bod y ceisiadau oll yn dangos gwerth y profiad a’r sgiliau sydd gan yr aelodau i’r sir. Pwysleisiodd y budd sydd i gystadlu yn y gystadleuaeth hon ac anogodd y rhai na fu’n fuddugol i ymgeisio eto flwyddyn nesaf.

Cyhoeddodd yr enillwyr canlynol:

Aelod Iau y flwyddyn 2023/24 - Lora Jên, CFfI Llangybi Aelod Hŷn y flwyddyn 2023/24 – Rhodri Jones, CFfI Godre’r Eifl

Llongyfarchwyd y ddau ohonynt ar eu llwyddiant.

20. UNRHYW FATER ARALL

Ni godwyd unrhyw fater arall .

21. DIOLCHIADAU

Diolchodd Sioned Wyn Jones i’r Newborough Arms am westesio’r noson.

Diolchodd i aelodau’r sir am y gwaith y maent wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Tynnodd sylw at arolwg a wnaed gan CFfI Cymru a oedd yn dangos bod aelodau yn rhoi 4 awr yr wythnos yr un i’r mudiad ar gyfartaledd.

Diolchodd i swyddogion sirol 2022/23 am eu cefnogaeth ddiflino.

Diolchodd i Geraint Puw am ei waith caled fel llywydd.

Diolchodd i Elin Owen Jones a Glesni Lewis am eu gwaith trylwyr fel Trysoryddion y sir Diolchodd i Elin Jones a Carwyn Edwards am eu gwaith fel Swyddogion Cefnogi'r sir. Diolchodd yn olaf i Gwen Thomas, Cadeirydd 2022/23 am fynd y filltir ychwanegol pob amser ac am sicrhau bod y clwb yn y sefyllfa lewyrchus y mae ynddi ar hyn o bryd. Nododd ei bod yn gadael esgidiau mawr iddi geisio eu llenwi fel Cadeirydd 2023/24. Dymunodd Sioned yn dda i’r holl glybiau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod a phwysleisiodd ei bod wastad ar gael i helpu.